Y Wen Fro/Llandunod (St. Donats)

Llanilltud Fawr Y Wen Fro

gan Ellen Evans

Llancarfan

LLANDUNOD[1] (ST. DONATS)

AR lan y môr, tua dwy filltir o Lanilltud Fawr saif pentref bychan Llandunod gyda'i gastell mawr. O dan gysgod y castell gwelir yr eglwys fach sy'n dwyn yr un enw, ac yn y llan, enghraifft berffaith o Groes y Drindod.

Adeilad barwnol gwych yw'r Castell, wedi ei adeiladu ar y tir lle y ceir olion tref Wrgan. Yma y bu Iestyn ap Gwrgan—Arglwydd Morgan— nwg yn byw unwaith. Heddiw nid erys rhyw lawer o'r adeilad cyntaf. Adeiladwyd y rhan fwyaf gan Syr William Stradling yn y bymthegfed ganrif, a helaethwyd y castell yn yr unfed ganrif ar bymtheg. Y mae'n adeilad barwnol perffaith, ac ni adawyd ef yn anghyfannedd er pan godwyd ef. Saif y castell ar lan y môr, o'r lle y mae'n hawdd ymosod ar dir Morgannwg. Dywedir bod llawer peth rhamantus wedi digwydd yn y tŵr gwylio, ac i'r ysmyglwyr ei ddefnyddio i hudo morwyr i'w dinistr. Y mae tiroedd y castell yn eang, ac ymestynnant i lawr at y môr. Gwelir yma erddi Tuduraidd tra enwog. Anodd iawn heddiw yw cael caniatâd i ymweled â'r adeilad diddorol hwn.

Y mae hanes arbennig iawn i Gastell Llandunod. Yn ystod y Rhyfel Cartref ar ôl Brwydr Naseby yn 1645 bu'r Archesgob Usher yn llochesu yma am flwyddyn, ac yn y man hwn yr ysgrifennodd

"Hynafiaethau'r Eglwys Brydeinig." Gwelir olion yr ystafell ddirgel heddiw.

Gorwedd yr eglwys yng nghysgod y Castell. Nawdd Sant yr Eglwys oedd Dunod, ac ef oedd amddiffynnydd morwyr a longddrylliwyd. Digrif yw'r ffaith hon pan gofiwn aml hen stori am hudo llongau i'r traeth ger Llandunod. Yn yr eglwys gwelir capel y Stradlingiaid, a llawer o greiriau diddorol. Ond gogoniant yr eglwys yw'r Groes a welir (i gyfeiriad y Deau) yn y fynwent. mae'n berffaith ac yn brydferth eithriadol.

Wrth ddarllen cerrig beddau mynwent Llandunod, ymddengys mai peth naturiol oedd byw o leiaf am gant o flynyddoedd. Rhaid bod bywyd gynt yn hamddenol a dymunol ym Mro Morgannwg.

Nodiadau

golygu
  1. Llanddunwyd