Y Wen Fro/Llancarfan

Llandunod (St. Donats) Y Wen Fro

gan Ellen Evans

Porth Prydferth Beaupre

Llantrithyd ger Llancarfan

LLANCARFAN

PENTREF bychan yn llawn bythynnod heirdd yw Llancarfan heddiw. Gorwedd mewn cwm dwfn tua phedair milltir o'r Bontfaen. Rhif holl drigolion y plwyf—gwŷr, gwragedd a phlant yw tua phedwar cant a hanner.

Beth am oed Llancarfan? Wrth fyned i mewn i'r pentref fe'n dygir yn ôl am ganrifoedd. Ychydig a wyddys am ei hanes cynnar, ond darganfuwyd darn o arian yno a fathwyd yn y flwyddyn 60 o oed Crist, ac y mae hwnnw'n awr yn yr Amgueddfa Brydeinig. Yn ddiamau, yr oedd yno sefydliad mynachaidd yn y bumed ganrif, a dywedir bod dwy fil o fyfyrwyr rhwng y neuaddau yn Llanfeithin a Charn Llwyd, tua milltir i fyny'r cwm o Lancarfan.

Dywed traddodiad fod y Normaniaid wedi cael gormod o ddylanwad ar sefydliad myneich Llanilltud Fawr, a bod rhai myneich, gyda'r Sant Dyfrig fel arweinydd a sefydlydd, wedi adeiladu sefydliad mwy cenedlaethol yn Llancarfan fel gwrthdystiad. Gwelwch felly fod cenedlaetholwyr yng Nghymru yn y dyddiau cynnar hynny. Fel y dywedais, sylfaenydd Llancarfan oedd Sant Dyfrig, ac ef yn ôl traddodiad oedd Esgob cyntaf Llandaf. Gwelir hyd heddiw yn ymyl Carn Llwyd ffynnon o ddwfr grisialaidd a elwir yn Ffynnon Ddyfrig.

Er mai Dyfrig oedd sylfaenydd Coleg y myneich, cysylltir Llancarfan yn arbennig ag enw Catwg Ddoeth. Iddo ef y priodolir cynifer o ddywed— iadau doeth a fabwysiadwyd gan y Cymry fel diarhebion. Gelwid y pentref unwaith yn Bangor Catwg, a dywedir mai dyna'r lle y ganwyd Catwg, ac mai yma yn hen ŵr 120 oed, yn llawn doethineb, y bu farw.

Fel yn Llanilltud Fawr yr eglwys yw'r adeilad pwysicaf a mwyaf mawreddog yn y pentref. Carech felly wybod rhywbeth amdani. Cawn gyfeiriad ati mor gynnar â'r flwyddyn 720 pan adroddir am lifogydd dinistriol y flwyddyn honno. Gwelir hefyd gyfeiriad arall at Eglwys Llancarfan yn y flwyddyn 1150. Rhyw dro, efallai, darllenwch am y croniclydd Caradog o Lancarfan. Gwelwch wrth ei enw fod cysylltiad rhyngddo a'r pentref bychan hwn. Bu ef farw yn y flwyddyn 1157.

Ond at hen eglwys gynnar y mae'r cyfeiriadau hyn, oherwydd nid adeiladwyd rhan hynaf yr eglwys bresennol cyn y ddeuddegfed ganrif, a chysylltir hi ag enw Walter de Mappes, Archddiacon Rhydychen, a brodor o Fro Morgannwg. Coffeir ei enw hyd heddiw yn y pentref Walterstown ger Llancarfan. Yn ôl pob tebyg yr oedd un amser ddwy gangell i'r eglwys—un i'r myfyrwyr a drigai yn Llanfeithin a Charn Llwyd, a'r llall i'r plwyfolion. Yr oedd yno unwaith hefyd "lofft y grog," o'r lle yr hongiai'r groes. Gwelir y bracedi a ddaliai'r ysgrîn yn amlwg ddigon heddiw, ac y mae'r drws a'r grisiau yn arwain i'r llofft yno o hyd.

Un o'r pethau mwyaf diddorol yn yr eglwys yw'r "reredos" o waith yr Eidal, a berthyn yn ôl pob tebyg i'r ddeuddegfed ganrif. Pa fodd y daeth gwaith crefft o'r Eidal bell i'r man tawel hwn ym mro Morgannwg? Tybir mai Walter de Mappes a ddaeth ag ef yn ôl ar ôl teithio yn yr Eidal. Yn wir, nid oedd Cymru wedi ei neilltuo oddi wrth fywyd a meddwl y Cyfandir yn y canrifoedd hynny. Y mae gennym brofion ddigon o gysylltiad agos rhyngddynt.

Cyn gadael yr eglwys, pan ymwelwch â hi, gofynnwch am weled y cwpan cymundeb diddorol a gwerthfawr iawn sydd ynddi. Ei ddefnydd yw aur ac arian cymysg (silver gilt), ac y mae arno L.C. (Llancarfan Church) a'r flwyddyn 1576. Defnyddiwyd y cwpan hwn o 1576 hyd heddiw. Darganfuwyd hen gist dderw yma hefyd; tebyg mai yn honno y cedwid gwisgoedd yr offeiriaid, neu bethau gwerthfawr yr eglwys. Y mae'r bedyddfaen Normanaidd ag iddo wyth ochr, eto o ddiddordeb, a theimlaf yn sicr y dringwch i ben y tŵr er gorfod eich llusgo eich hun drwy fath o ddrws trap. Cewch eich talu am eich trafferth, fel y gall ymwelwyr hŷn na chwi dystiolaethu, oherwydd o ben tŵr Eglwys Llancarfan fe gewch olygfa brydferth a lŷn yn y cof am amser maith.

Nodiadau golygu