Y Wen Fro/Porth Prydferth Beaupre
← Llancarfan | Y Wen Fro gan Ellen Evans |
Iolo Morganwg (1746-1826) → |
Porth Prydferth Beaupre
Lle Tân
PORTH PRYDFERTH BEAUPRÉ
UN PRYNHAWN hyfryd o Fai, dyma dair ohonom—a'n te mewn basgedi—yn cychwyn am Fro Morgannwg lon. Gadawsom y Coleg o'n holau, a theithiasom trwy barc prydferth Porth Ceri, heibio i'r tai to gwellt hynafol yn y pentref o'r un enw; wedyn gyda glan y môr i Rhoose a Llandathan (St. Athan's) gan gyfeirio'n camre at Beaupré a orwedd rhwng Llandathan a'r Bontfaen.
'Roedd y cloddiau yn drwm gan dlysni, y coed yn ddeiliog, a'r blodau cyffredin—os cywir galw blodau yn gyffredin yn eithriadol o brydferth. 'Roedd blodau'r garlleg a blodau glas y llwyn yn afradloni'r perthi â'u lliwiau cyfoethog. Llanwyd ni â gorfoledd fel yr adar, ac yn ein calonnau canasom gerdd i'r haf cynnar. Yn sicr yr oedd Ceiriog yn iawn pan ganodd:—
Pe na bai oerni'r gaeaf Ni theimlem wres yr haf."
Beth bynnag, 'rwy'n sicr na buasai'r tair ohonom—a ni yn ferched prysur—wedi mwynhau'r prynhawn gystal pe bai digonedd o seibiant yn eiddo i ni. Canodd y fronfraith ei chân yn agos atom, "bob nodyn ddwywaith," fel pe am gadw cwmni â'r llawenydd yn ein calonnau.
Ceisio yr oeddem Beaupré, a gallaf ddweud wrthych nad yw'n hawdd iawn ei gael. DymaMaenordy Llanfihangel
Eglwys Llanfihangel
ni'n holi wrth stesion fach a elwid Melin Gigman, croesi sticil, a cherdded drwy gaeau'n llawn blodau'r ymenyn a llygaid y dydd. Yr oedd y briallu a briallu Mair wedi darfod. Yna gwelsom yn y pellter fur isel, a thuhwnt iddo adfeilion y castell gyda rhan ohono yn awr yn ffermdy.
Nid yw'r murddyn hwn yn hynod ymhlith cestyll Morgannwg, gan fod rhai mwy mawreddog a mwy gogoneddus yn y Fro, ond y mae ganddo le tân prydferth iawn, ac ysgubor ddegwm a phorth allanol hynod ddiddorol. Dychmygaf rai ohonoch yn synnu i ni gymryd y daith hon os nad oedd rhywbeth mwy na hynny i'w weled. Ond y mae yma borth arall odiaeth o brydferth oddi mewn, ac i weled hwn y daethom.
Pan gyraeddasom y ffermdy bach, sef y gornel o'r castell a ddefnyddir yn awr fel tŷ byw, gofynasom am ganiatâd i weled y castell, a chawsom hwnnw'n rhwydd. Aethom drwy ran o'r tŷ, wedyn troi i'r chwith a'n cael ein hunain mewn adfeilion wedi eu gorchuddio â dail iorwg. Wedyn aethom drwy ddrws, ac yn sydyn fe'n cawsom ein hunain yn y cwrt oddi mewn. Ed— rychasom o'n holau ar y drws y daethom trwyddo, a synnwyd ni'n fawr, oherwydd ynghanol yr adfeilion gwelsom un o ryfeddodau saernïaeth gelfydd Cymru—Porth Prydferth Beaupré. Ar y porth Tuduraidd hwn gwelir y flwyddyn 1600 wedi ei cherfio, ynghydag arwyddair y Bassetts (perchnogion y. castell), "Gwell Angau na Chywilydd." Anodd disgrifio'r gwaith gwych hwn, ond gwelwch oddi wrth y darlun fod i'r porth dair rhan, bob un ohonynt wedi ei cherfio yn null pensaerniaeth Groeg, yn ôl urddau Dorig, Ionig a Chorinth. Y mae'r gwaith yn odidog yn ei holl fanylion, yn brydferthwch i'r llygad, a llawenydd i'r galon.
Efallai y carech wybod sut y crewyd y porth prydferth hwn ym mro dawel Morgannwg. Y mae'r stori yn ddiddorol dros ben. Yn ôl Iolo Morganwg, adeiladwyd ef gan Richard Twrch, saer maen ieuanc o'r Coety, ger Pen-y-bont. Clywaf rai ohonoch yn holi ymha fodd y daeth hwn i wybod am dair urdd pensaerniaeth Groeg. Wel, dyma'r stori. Carai eneth brydferth o'i bentref genedigol, ond ni fynnai hi mohono. Ergyd drom oedd hon i Richard Twrch, a dyma fe'n cychwyn oddi cartref a theithio cyfandir Ewrop, ac o'r diwedd dyfod i Rufain. Yno y bu'n gweithio gyda Phalladio, un o benseiri cyfnod y Dadeni. "Eithr y mae'r Cymro'n teithio ond nid yw'n ymfudo," ac un diwrnod teimlodd y Cymro alwad y Fro. Dychwelodd adref i adeiladu, ac adeiladu yn y fath fodd fel y teimlwn heddiw ymhen tair canrif a mwy nad y bardd yn unig sydd, "yn dysgu i eraill mewn cân yr hyn a ddysgodd ef ei hun trwy ddioddefaint." Dyma gân wedi ei cherfio mewn carreg.
Credir mai Richard Twrch a adeiladodd dŷ newydd Castell Sant Fagan, ac ehangu castell Llandunod i Syr Edward Stradling. Y mae'n sicr mai ef a adeiladodd faenordy Llanfihangel, oherwydd y mae'r lle tân yn union yr un fath ag un Beaupré,
Ond Porth Prydferth Beaupré oedd uchafbwynt ei athrylith greadigol ddisglair, ac y mae'n sicr y dylai gael ei gadw rhag myned yn adfeilion fel tystiolaeth barhaol fod crefftwr gwych wedi byw yn y Fro hon.