Yn Eden, cofiaf hynny byth
← Enw Iesu sydd yn werthfawr | Mae rhyw fyrdd o ryfeddodau gan William Williams, Pantycelyn |
O! Iesu mawr, pwy ond Tydi → |
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930 |
216[1] Eden a Chalfaria.
886. 886.
1 YN Eden, cofiaf hynny byth,
Bendithion gollais rif y gwlith;
Syrthiodd fy nghoron wiw.
Ond buddugoliaeth Calfari
Enillodd hon yn ôl i mi;
Mi ganaf tra fwyf byw.
2 Ffydd, dacw'r fan, a dacw'r pren,
Yr hoeliwyd arno Dwysog nen,
Yn wirion yn fy lle:
Y ddraig a 'sigwyd gan yr Un,
Cans clwyfwyd dau, concwerodd un,
A Iesu oedd Efe.
William Williams, Pantycelyn
Ffynhonnell
golygu- ↑ Emyn rhif 216, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930