Yn y Wlad/Dros Figneint

Corwen Yn y Wlad

gan Owen Morgan Edwards

Geirfa
Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Y Migneint
ar Wicipedia
Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Ffestiniog
ar Wicipedia

XIII
DROS FIGNEINT.

A oes rhywun teimlo ei fywyd yn faich? A oes rhywun wedi pryderu cymaint fel y mae wedi colli ei ynni, ac yn methu gwneud cynlluniau yn ei ddychymyg mwy? A ydyw ei liw wedi cilio oddiar fywyd iddo? A yw'r cwsg yn gwrthod dod y nos, a hoen y dydd? A yw cofio am ieuenctid wedi peidio bod yn ddedwyddwch, a henaint wedi dod yn beth i hiraethu am dano? A sychodd holl aberoedd cysur iddo, a fachludodd pob seren o'i wydd?

Os felly, aed dros Figneint. Ymwroled, a cherdded yr ugain milltir o gwm a gwaen a mynydd sydd rhwng y Bala a Ffestiniog. I ddechre erys ei feddwl yn drwm, a blina ei goesau, edifarha am iddo gychwyn, a diau yr ysgyrnyga yn ei feddwl arnaf finnau wrth gofio mai y fi roddodd gyngor iddo gychwyn. Ond yn araf, fel y mae awel y mynydd yn ei adnewyddu, daw tangnefedd i'w enaid, ac esmwythâd i'w feddwl blin; a bydd hoen adnewyddol ei ysbryd yn rhoi ystwythdra hyfryd a diflin i'w gorff. A chofia am danaf finnau fel cynghorydd gwerth gwrando arno. Ac nid yw hyn ond dechre. Y mae agos i hanner y ffordd dros fil o droedfeddi o uchter. A chwyd yr ysbryd gyda'r ffordd.

Dringwn i fyny rhiw'r coleg, a gwelwn gerflun Dr. Edwards, eistedd y diwinydd yn ei gader, fel yr arferai wneud yn ei ddosbarth, yn ein wynebu. Awn dros fryn y coleg, ac yn y man deuwn at lan Tryweryn, a murmura gwmni diddan inni, fel y gwnai i Dr. Edwards pan yn myfyrio am athrawiaeth yr iawn a chysondeb y ffydd ar ei hoff rodfa. Croeswn yr afon cyn hir, gadawn ar y dde y ffordd sy'n troi tua Cherrig y Drudion. Beth yw'r dyrfa fawr hon? Carcharorion Almaenaidd wedi cartrefu o'u hanfodd mewn hen waith whisci oedd wedi mynd yn hesb. Gadawn hwy ac atgofion am y rhyfel, y mae mynyddoedd cribog yn ymagor o'n blaen, a'r Arennig yn bennaf ohonynt. Down uwchben dolydd a gweirgloddiau dan ganu at Gapel Celyn, a gadawn ar y dde y llwybr sy'n arwain dros y mynyddoedd unig i Ysbyty Ifan, lle y bu gynt urdd filwrol Ioan Fedyddiwr, a'r lladron llofruddiog ymdyrrent yno i fod dan eu nawdd. Os gaeaf yw hi, y mae rhaeadrau'r afon, wrth ddisgyn dros eu grisiau cerrig a than y coedydd, yn dawnsio ac yn chware ar y creigiau, ac yn wynnach na'r dim gwynnaf. Os hydref yw hi. ceir y griafolen, ym mherffeithrwydd tlysni cochter ei haeron, yn plygu uwch ben llynnoedd cornentydd y creigiau. Ac ar bob tywydd, boed fwynder Mehefin neu des Awst, gorchudd o wlaw neu ruthr o eira, ceir golygfeydd bythgofiadwy ar ardderchogrwydd natur.

Yn Rhyd y Fen, tua hanner y ffordd, gallwn gael y lluniaeth sy'n angenrheidiol, ac yna dyna'r Migneint o'n blaenau. Wedi gadael Rhyd yr Helfa a'r Tai Hirion byddwn am filltiroedd heb ddod at dŷ na thwle. Ond gwelwn Lyn Tryweryn odditanom, a'r Amnoddau pell, lle y bu Ap Vychan

yn hogyn twyso, ac i'r rhai y canodd ei englynion

campus. Cawn gip ar flaen cymoedd Trawsfynydd,—ac yna dim ond mynydd, a defaid, a brwyn. Cyll y byd terfysglyd ei holl ddwndwr yma, yn uchel gysegr natur; daw grym i'r meddwl a chwardd wrth gofio ei ofnau, daw ffydd yn ddigon cref i daflu mynyddoedd i'r môr. Yma anedlir anfarwoldeb, a bydd atgof am y lle yn gordial ar lawer awr o iselder ac amheuaeth wedi hyn. Mynydd y gweddnewidiad fydd Migneint i lawer enaid gwyw.

Wedi dechre disgyn, y lle byw cyntaf y down ato yw Pont yr Afon Gam, ac ar y dde gadawn y ffordd fynyddig sy'n croesi'r mynydd i Benmachno. Toc, wedi dringo bryncyn gwelwn Raeadr y Cwm odditanom. Disgyn yn esmwyth a distaw fel breuddwyd o lyn i lyn. Ni flinir wrth edrych arno. Ni synnwn na chysget yn y grug, a byddai dy freuddwyd fel un Jacob gynt, am ysgol yn cyrraedd i'r nefoedd, ac engyl yn disgyn ar hyd—ddi. Y mae'r grug ar y llethr gyferbyn, gwelir yr hebog megis yn sefyll yn llonydd ar ei aden, ac ymhell bell islaw gwelir dolydd gwyrddion Cwm Cynfal.

Yr ydym newydd adael cysegr unigedd y mynydd a'r enaid, y mae ein traed yn awr yng nghysegr rhamant a llenyddiaeth ein gwlad. Ar y dde, ar odrau'r mynyddoedd, y mae Llyn y Morwynion a Beddau Gwyr Ardudwy; i lawr yng nghwm coediog rhaeadrog Cynfal, ar y chwith, y mae pulpud carreg Huw Llwyd, a gwlad Edmwnd Prys a Morgan Llwyd o Wynedd. A chroesir ein ffordd yn y man gan Sarn Helen, lle gwel llygad dychymyg y bugail, lengoedd Helen yn ymdeithio ambell nos loergan lleuad.

Ac wele fynyddoedd newydd yn codi o'n blaenau, Manod a Moelwyn a'u tylwythau, yn eu gogoniant, a rhyngddynt gwelwn wên araul y môr. Disgynnwn i lawr i lan hyfryd Ffestiniog, ceir yno lety mwyn yn y pentref sy'n sefyll fel nyth aderyn uwchlaw'r gwastadedd, neu fel noddfa gwyliwr uwch gwlad hud; hyfryd yw'r ymborth a melys fydd ein hûn. Ac ni ddaw gwan obaith i'r enaid tra bo atgof am awel Migneint yn ein ffroenau.

Wr ieuanc digalon, ac o ychydig ffydd, croesa Figneint, a byddi'n ddyn newydd.

Nodiadau

golygu