Yn y Wlad/Corwen
← Disserth | Yn y Wlad gan Owen Morgan Edwards |
Dros Figneint → |
XII
CORWEN
CORWEN yw cartref yr Eisteddfod Genedlaethol. eleni,[1] ac y mae'n debig fod llawer, wrth ddarllen y llinellau hyn, yn troi eu meddyliau at Gorwen, yn holi pa fath le ydyw, ac yn paratoi i fyned yno.
O'i chymharu a chartrefi arferol yr Eisteddfod, lle bychan ydyw Corwen; a synna llawer at ddewrder a sel lenyddol y trigolion, oherwydd gŵyr pawb mai nid baich bychan hyd yn oed i le mawr a chyfoethog ydyw cynnal Eisteddfod Genedlaethol heb golli urddas nac arian. Os medr Corwen lwyddo ddechre'r mis hwn, bydd wedi gwneud cymwynas fawr â Chymru, sef dangos y medr rhai o'n trefi bychain, lle mae'r hen gariad at hanes a llenyddiaeth a chân yn llosgi'n eirias, gynnal cynhulliad mor anferth a'r peth y mae'r Eisteddfod wedi tyfu i fod erbyn hyn.
Nid wyf yn meddwl dweyd fod Corwen yn lle bychan dibwys, pell oddiwrthyf fo dweyd hynny. Y hi yw prif dref Edeyrnion; lle cyferfydd tair sir, sef Meirionnydd, Dinbych, a Threfaldwyn; mae'n ganolbwynt gwlad eang y gwlan a'r gwenith, gwlad y Berwyn ac ardaloedd y Ddyfrdwy a dyffryn clodfawr Clwyd; mae'n fan cyfarfod llawer o ffyrdd, yn y rhan yma o'r wlad rhaid mynd drwy Gorwen i fynd i bobman. Ond un heol sydd iddi, ac nid yw ond y leiaf ymysg trefi eisteddfodol Cymru. Cyrchfa pobl fydd yn ystod wythnos yr eisteddfod, ac nid eu cartref; deuant iddi bob dydd wedi cysgu yn y Bala neu Ddolgellau, Dinbych a'r Rhyl, Llangollen a phentrefydd poblog ardaloedd Gwrecsam a'r Rhos. A mawr lwydd fo i'r Eisteddfod mewn cornel mor dawel.
Saif Corwen yng nghesail Berwyn, braidd yn rhy agos at ei galon i gael llawer o haul y bore. Ymddolena Dyfrdwy'n hamddenol o'i chwmpas, newydd dderbyn dyfroedd Alwen o froydd Hiraethog a thyrfa lafar o aberoedd llethrau'r Berwyn,—Caletwr a Cheidiog, Llynor a Thrystion. Y mae i'w bryniau a'i mynyddoedd hanes henafol, gŵyr y bugail am ffordd gam Helen a chaer Drewyn a llawer llecyn arall y mae traddodiad yn floesg wrth draethu am dano a hanes yn fud.
Ond y mae i Gorwen lawer o hanes sicr. Ar un adeg bu y lle pwysicaf yng Nghymru mewn ystyr filwrol. Yr oedd y brenin Seisnig galluog Harri'r Ail wedi gweled na ellid llethu Cymru trwy droedio'r hen ffordd y collwyd cymaint o waed ar hy-ddi. Ac felly, yn lle ymosod drachefn hyd ffordd y môr, a chroesi afon Gonwy ger ei haber, a threiddio i gadarnleoedd Eryri a hyfryd feysydd Môn, breuddwydiodd am ffordd arall. Yr oedd honno yn ei arwain dros y Berwyn i ddyffryn Edeyrnion, ac oddiyno hyd wlad gymharol hawdd ei thramwy i flaenau Conwy ac at fylchau Arfon. Ac yng Nghorwen yr oedd Cymru i wynebu'r gelyn oedd yn bygwth ei darostwng a llethu ei rhyddid yn lân. Cynhulliad rhyfedd oedd yng Nghorwen saith gant a hanner o flynyddoedd yn ol i amddiffyn Cymru, Owen Gwynedd a Chadwaladr feibion Gruffydd ab Cynan a holl lu Gwynedd gyda hwynt, a'r arglwydd Rhys ab Gruffydd a holl Ddeheubarth gydag ef, Owen Cyfeiliog a Iorwerth Goch fab Meredydd a meibion Madog fab Meredydd holl Bowys gyda hwy, a deufab Madog fab Idnerth a gwŷr Hafren a Gwy. Ni fu cynt na hynny gynhulliad mor gyflawn o genedl y Cymry. Ond bydd un mwy a'i ragorach yn Eisteddfod Corwen yn 1919. A hyfryd yw meddwl y cyhoeddir, nid fod rhyfel, ond fod heddwch.
Ger Corwen yr oedd cartref Owen Glyndwr. Nid oes ond ychydig olion o'i lys; ond hyd yn ddiweddar iawn safai ger un o droadau'r Ddyfrdwy fwthyn prydferth ei gynllun oedd, y mae'n ddiameu, wedi ei godi yn ei amser ef. Ond er mor ychydig o ddim ar ffurf crair ac adeilad sydd i gofio am Owen Glyndwr, nid oes yr un Cymro wedi byw mor llawn a dilwgr yng nghof ei genedl ag ef.
Yn wythnos yr Eisteddfod bydd digon i'w wneud gyda'r canu a'r areithio a'r beirniadu, heb adael y babell ar y gwastadedd lle bydd y miloedd wedi ymgynnull. Ond y mae'n bosibl blino ar Eisteddfod hyd yn oed. Crwydra ambell un lethrau'r mynyddoedd, i weled y dyrfa o bell. Chwilia rhai am Gapel y Ddol, roddodd ei enw i un o donau J. D. Jones. Crwydra eraill i eglwys ddiaddoliad Llangar, lle y treuliai Edward Samuel ei amser rhwng y dafarn a chyfieithu llyfrau i'r Gymraeg, yn ol eglwyswr a gondemniai'r ddau waith, yn enwedig yr olaf. A rhai eraill ymhellach, yn ol y tywydd a'u nerth.
Gellir gweled rhai pethau diddorol heb droi o dref Corwen ei hun. Y mae carreg yn y fynwent elwid gan yr hen bobl yn Garreg y Big yn y Fach Rewlyd. Ni fu cun saer maen arni erioed, ac ni chafodd do i'w diddosi. Ond y mae y garreg hynaf yn yr ardaloedd hyn. o gerrig sydd a hanes iddynt, ac yn un o'r rhai hynaf yng Nghymru i gyd. Eler i mewn trwy'r fynwent i borth gogleddol yr eglwys, ae edrycher ar fur y porth ar y llaw chwith, nid y tu mewn, ond y tu allan. Yno gwelwch garreg hirfain, bigfain, wedi ei gweithio fur y porth. Nid yw wedi ei naddu a'i thrwsio, ac y mae'n debig mai sefyll ar ei gwadn y byddai gynt i herio'r tywydd ers oesoedd maith. Y mae morter y dyddiau hyn, a cherrig bach cyffredin, yn gwasgu'n ddifoes ar ei hysgwyddau heddyw; ond y mae rhywbeth yn osgo a ffurf yr hen garreg a dyn sylw pawb. Unwaith bu, nid yn unig yn wrthrych sylw, ond yn wrthrych ofn addoliadol. Yr oedd perthynas agos rhyngddi a galluoedd ysbrydol; a phan sefydlwyd yr addoliad Cristionogol cyntaf yn yr ardal hon, ni chafwyd llecyn y gallai'r cenhadwr cyntaf gasglu ei ddychweledigion nes yr arweiniwyd ef trwy ryw ddull goruwchnaturiol i'r gornel dawel lle safai, a'r lle saif, y garreg hon. Ni wn a oedd ystryw rhyw hen bagan yn y nos yn rhwystro adeiladu mewn lleoedd eraill, ac ni wn a oedd Carreg y Big yn gysegredig i ryw hen dduw na feiddiai pagan ei ddigio, cyn ei chysegru i Grist. Ond hi safodd i ddangos cartref cyntaf y grefydd newydd.
Medr y daearegwr ddweyd pethau rhyfeddach na'r hanesydd am dani. Bu drwy ddau gyfnod rhyfedd cyn cyfnodau hanes. Bu unwaith mewn diluw llifeiriol o dân, ac mewn tân y ffurfiwyd hi; y mae ol y dwfr berwedig ddiangodd yn ager ohoni i'w weled eto fel creithiau arni. Darn o lafa wedi caledu ydyw. Wedi hynny bu mewn afon o rew, yn symud yn yr afon araf, a cherrig eraill yn gwmni iddi. Yr adeg honno y llyfnhawyd hi, ac y tynnwyd pob crychni o'i hwyneb. Hwyrach iddi gael ei henw oddiwrth ei chysylltiad a'r afon ia, o ryw atgofion pell. Y "Fach Rewlyd," hwyrach, oedd cornel oer lle'r oedd y rhew heb gwbl doddi. Ceir y gair mewn enwau lleoedd eraill heb fod ymhell, megis Ty'n y Fach a'r Fach Ddeiliog. Darn ydyw'r garreg o'r mynyddoedd y canodd Huw Derfel am eu ffurfiad a'u diwedd, wrth groesi'r Berwyn draw,—
"Chwi heriwch alluoedd elfennol
Feraon tragwyddol o'r bron,
Taranau, mellt saethawl, corwyntoedd,
A chenllif dyfnderoedd y don;
Ond gwelaf ryw ddiwrnod yn nesu,
A ellwch chwi sefyll bryd hyn?
Y ddaear a ymchwydd fel meddwyn,
A nerthoedd y nefoedd a gryn."
Nid oedd Huw Derfel ond un o feirdd y fro hon. Hwyrach y dywedir eu hanes yn ystod yr Eisteddfod.
Y mae carreg hynod arall ym muriau eglwys Corwen. Yng nghefn yr eglwys, yn lintel i ddrws yr offeiriad, ar ochr ddeheuol y gangell, ceir carreg hir ar ei hochr a llun croes arni. Tybiodd gwerin gwlad mai llun dagr Owen Glyndwr oedd y groes. Taflodd yr arwr ei ddagr, fel y gwnaethai hen gawr neu hen dduw yn yr oesoedd gynt, a gadawodd y dagr ei lun ar y garreg hyd heddyw. Y mae'n ddigon tebig mai carreg fyddai unwaith ar ei phen ger llys Owen Glyndwr oedd y garreg hon. Byddai carreg felly yn aml mewn bwlch a chroesffordd, ond cadwyd y garreg hon yn gysegredig oherwydd rhyw gysylltiad a bywyd y gŵr mawr crefyddol feddyliodd am anibyniaeth Eglwys y Cymry ac am brifysgolion iddi.
Diweddar iawn yw hanes ymneilltuaeth yng Nghorwen; lle erlidgar fu. Ond bydd ambell Fethodist selog yn gofyn lle y ceisiwyd curo Charles o'r Bala pan yn ceisio sefydlu Ysgol Sul, lle y safodd John Jones of Edeyrn wrol wrth wal y fynwent i herio'r dorf, a pha rai o ffenestri'r Harp yw ffenestri hen oruwchystafell cychwyn yr achos. Ond odid na hola ambell Anibynnwr am lofft y Queen, lle y ffurfiwyd eglwys gan yr hen Fichael Jones. A daw Bedyddiwr a Wesleyad i ofyn am rywbeth enwog yn hanes eu henwad hwythau. A holer am yr Ysgol Sul; hwyrach mai ei hanes hi ydyw'r mwyaf diddorol oll.
Eisteddfod fawr fydd Eisteddfod Corwen eleni, ac nid fel yr eisteddfod fechan lewyrchus a defnyddiol a gynhelir yn y dref bob Awst. Y mae'r Eisteddfod Genedlaethol yn ddarluniad tarawiadol o undeb cenedl lenyddol, ond hwyrach nad yw ei gwerth fel moddion addysg yr hyn allasai fod. Ni chlyw y dorf anferth ond côr mawr neu seindorf bres erbyn hyn. Ni all y delyn fwyn a'r crwth hudol gystadlu a'r utgorn. Ni chlywir llais y llenor a'r bardd ond mewn rhyw gyfarfod adrannol; cânt hwy fwy o le yn yr eisteddfodau bychain.
Ond er hynny gedy eisteddfod fawr lwyddiannus arogl hyfryd ar ei hol. A bydd digon o ddefnydd ysbrydiaeth yr ardal yn eisteddfod eleni. Y mae dechreuad Cristionogaeth yn Edeyrnion yn rhy bell i anfon pererinion i gamu ar draws yr heol i weled Carreg y Big yn y Fach Rewlyd. Y mae Owen Gwynedd bruddglwyfus ac Owen Cyfeiliog fwyn ei gân yn niwliog bell erbyn hyn. Ond y mae ysbryd Owen Glyndwr eto'n llenwi'r fro; y mae ei freuddwydion ym mywyd y rhai sy'n cynnal eisteddfodau Edeyrnion. Ac os hoffai'r Cymry gwlatgarol gael rhywbeth i freuddwydio am dano wrth fyned i Gorwen a thra'n aros yno, cofient y gallai fod Owen Glyndwr yn huno yn eglwys dawel Corwen, o fewn ergyd carreg i babell yr Eisteddfod.
Nodiadau
golygu- ↑ 1919. Yr Eisteddfod Genedlaethol gyntaf ar ol darfod y Rhyfel Mawr