I Dref y Bala Yn y Wlad

gan Owen Morgan Edwards

Corwen
Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Diserth
ar Wicipedia

XI
DISSERTH

Y MAE ambell le yng Nghymru y gŵyr pawb ormod am dano, ac ambell le na ŵyr neb odid ddim am ei safle na'i lun. Un enghraifft o'r cyntaf yw lle enwodd pobl y ffordd haearn yn Builth Road, sef y gyffordd ryw filltir a hanner neu ddwy filltir o Lanfair ym Muallt; enghraifft o'r ail yw y lle alwodd eglwyswyr y canol oesoedd yn Ddisserth.

Dau gyrchle haf enwog yw Llanwrtyd ym Mrycheiniog a Llandrindod ym Maesyfed. Y mae'r ddau ar linell y London and North Western sy'n rhedeg o Abertawe i'r Amwythig. Ond am leoedd eraill, dyweder Caerdydd a Merthyr Tydfil o un cyfeiriad ac Aberystwyth a Llanidloes o gyfeiriad arall, daw eu pobl hyd linell y Cambrian; ac y mae honno'n croesi dan y llinell arall yn Builth Road. Wedi blynyddoedd o brofiad y mae gwŷr y ffyrdd haearn wedi trefnu fod i'r teithwyr fydd yn croesi o'r Cambrian, pa un bynnag ai i Lanwrtyd ai i Landrindod yr ant, aros oriau meithion yn Builth Road. Nid oes yno fawr i'w weled, y mae'r teithiwr profedig yn gwybod am bob coeden os nad am bob blodeuyn sydd yno erbyn hyn; ac nid oes yno ddim i'w wneud os na cherddwch i fyny ac i lawr o'r naill orsaf i'r llall. Y mae yno le aniddorol hyd yn oed yn yr haf, pan fo gold y gors yn goreuo'r ffosydd a'r blodau ar y drain; ond beth am yr adeg y bydd y gaeaf wedi gwywo'r fro, a'i wynt yn treiddio trwy eich esgyrn rhynllyd. Yr oedd yn rhaid i mi fynd o Aberhonddu i Landrindod eleni ar hwyr brynhawn hirddydd haf. Yn lle aros yn y gyffordd, penderfynais fynd ymlaen hyd y Cambrian i'r orsaf sydd ger y bont newydd ar Wy, a cherdded oddiyno ryw bum milltir neu chwech i fyny ac i lawr bryniau Maesyfed i Landrindod. Ac y mae hyn oll i esbonio paham y gwn ymhle mae'r Disserth.

Gadewais y pentref bychan bywiog ar yr Wy, a cherddais, trwy arogl per pinwydd a lartswydd wedi eu torri, i fyny i'r ffordd sy'n cysylltu Rhaeadr Gwy a Llanfair ym Muallt, ond yn ebrwydd troais oddiar hon ar y dde, a chymerais ffordd gulach oedd yn dirwyn i fyny ac i lawr bryniau a chymoedd yr hen Elfael. Y mae pyst wedi eu rhoddi ar y croesffyrdd, ac enwau y lleoedd yr arweinir iddynt a'r pellter oddiwrthynt; ac am y gymwynas honno canmoler sir Faesyfed, canmoler hi lle y gellir. A pharod iawn yw'r bobl i aros i siarad, a hyfforddi dyn dieithr yn bwyllog a manwl. Ond ni ddeallant yr un o enwau eu sir. Y mae'r sir yn siarad Cymraeg, a hwythau'n siarad Saesneg. Arosodd tri gŵr, oedd yn canlyn ceffyl a throl, i ymgomio â mi. Os nad wyf yn cam gofio, yr enw ar y drol oedd Blaenglynolwen, yn un gair hir. Ni wyddent ar wyneb daear beth oedd blaen na glyn," a phan awgrymais y gallai mai ffrydlif oedd Olwen, fel Claerwen, cofiasant fod rhyw nant fechan yn rhedeg heibio'r lle. Pan ddywedais fod Olwen yn enw prydyddol, fel enw'r dduwies gynt a adawai feillion gwynion yn ol ei throed, edrychasant yn syn arnaf ac amheus, fel yr edrychodd eu tadau gynt ar Vavasour Powell neu Howel Harris, a synnent, mae'n ddiameu, beth oeddwn yn geisio yn sir Faesyfed. Yr oeddynt yn bobl fwyn ac nid yn aneallgar, a phe soniaswn am arwyddion glaw neu bris y defaid y mae'n sicr y siaradasent yn hyawdl gyda doethineb hen draddodiadau a newyddion diweddaraf y farchnad. Ond, er hynny, y mae'n rhaid mai tuedd i suo eu meddwl i gysgu wna byw'n blant, codi'n bobl ieuainc, a thyfu'n henafgwyr heb wybod ystyron y cartrefi y maent yn byw ynddynt.

Cerddais yn hapus a llawen i fyny ac i lawr hyd y ffordd droellog, ac awel dyner y bryniau fel y gwin, a blodau gold y gors fel fflamau tân hyd y gweirgloddiau. Yn sydyn cefais fy hun yn croesi'r afon Ithon, dros bont haearn newydd wen. Llifai'r afon o gwm mynyddig, cymerai redfa hanner cylch o amgylch dol, ac yna troai'n ddiwyd ddistaw gyda godrau trum serth goediog. Yn y gwastad, yn nhroad yr afon, safai eglwys, a mynwent y tu hwnt iddi. Dyma eglwys unig a neilltuedig Disserth.

Cyfyd tŵr ysgwar yr eglwys i uchter o ryw ddeg troedfedd a thrigain, ac y mae hyd yr eglwys dros drigain troedfedd. Ac yno y gorwedd, fel rhywbeth dieithr iawn, a tharawiadol iawn, a'r bryniau oll wedi troi eu cefnau ar y ddol isel sydd, fel pe'n eiddo iddi. Beth yw ystyr yr enw? Lle du serth, ebe rhai, oddiwrth y bryniau sy'n edrych i lawr yn wgus ar gyfer yr eglwys unig. Lle nad yw'n serth, lle di-serth, ebe eraill, oherwydd fod yr eglwys yn gorwedd ar ddôl, sy'n wastad ac isel o'i chymharu a'r Carneddau o gwmpas. Ond y mae'n sicr mai o'r gair Lladin desertum, yn ei ystyr eglwysig, sef lle wedi ei adael, lle neilltuedig ac unig, y daw'r enw Disserth. Esbonia'r Dr. John Davies y gair desertum fel hyn,—" diffaith, diffeithwch, diffeithle, anialwch, dyrysni, lle anial, disserth. Ac atgofia D. Silvan Evans ni o gyfieithiad Edmwnd Prys o'r bedwaredd salm ar ddeg a thrigain,—

Drylliaist ti ben, nid gorchwyl gwan,
Y Lefiathan anferth;
I'th bobl yn fwyd dodaist efo,
Wrth dreiglo yn dy ddyserth."

Ond gadewch i ni roi tro i'r fynwent. Y mae hesben y glwyd yn codi'n rhwydd, a neb yn gwarafun i ni fynd i mewn. O'r fynedfa i'r eglwys, nid oes ond gwair. Y mae'r muriau'n hynafol, a pheth gwyrni yma ac acw. Y mae gwydr y ffenestri yn loyw, a gwelwch ddigon i ddeall mai adeilad hen, syml, a glân ydyw. Y mae ychydig o hanes lleol diweddar rhanbarth gwledig Colwyn ar furiau llaith y porth, ond nid yw drws yr eglwys yn agored.

Y tu cefn i'r eglwys y gorwedd hen breswylwyr y fro. A thawel yw eu hûn. Y mae'r Ithon fel pe'n cilio oddiwrth y beddau, a daw ei murmur mwyn yn dyner dros ddol sydd rhyngddi a'r fangre gysegredig. Cartref dedwydd adar a blodau gwylltion yw'r llecyn tawel hwn yn nhroad dyfroedd Ithon.

Nid oes yma ŵr enwog inni fynd i chwilio am ei fedd. Mor ychydig o hen hanes sydd i sir Faesyfed; ond er mor ychydig, y mae hanes diweddar y sir, sef hen Elfael a Maelenydd, yn brinnach o lawer. Yr oedd cestyll lawer ynddi, Rhaeadr Gwy a Cholwyn a Chastell Paen a llu eraill, ac yr oedd cestyll pwysig Llanfair ym Muallt ac Aberhonddu ar ei chyrrau. Brithir hi gan enwau sy'n atgofio'r oes hon am hen seintiau a hen arglwyddi. Yr oedd y Mortimeriaid o bobtu iddi; a lle y ceir hwy ceir hanes cyffrous bob amser. Tra'r oedd llawer eraill yn ymladd a'r pagan yn enw Crist yng nghanol y ddeuddegfed ganrif, yr oedd llaw Huw fab Rawlff yn rhydd i ail osod iau'r Normyn ar wŷr Elfael, ac i godi castell yn eu canol. Dro arall yr oedd yr Arglwydd Rhys yn mynd i gwrdd a brenin Lloegr i Gaerloew, a'r tywysogion heriasent y brenin yn ei osgordd, ac yn y llu yr oedd Madog o Faelenydd ac Einion Clud o Elfael. Ddydd arall daeth Gilis, esgob uchelgeisiol a rhyfelgar Henffordd, drwy'r fro; ond gadawodd gastell Colwyn a bryniau Elfael i fab Einion Clud, yr hen arglwydd. Beunydd y deuai yr estron, gyda'i beiriannau rhyfel a'i gynlluniau medrus; ond, pan ddeuai'r Arglwydd Rhys neu Lywelyn Fawr i'r gororau, codai uchelwyr Elfael i'w croesawu megis un gŵr.

Nid gwladgarwch bob amser oedd yn cyffroi yr uchelwyr a'u dyledogion. Byddai'r estron yn ymyrryd â'u hawliau i'r porfeydd, hynny wnai droell eu naturiaeth yn fflam. Yr uchelwyr sy'n diflannu, y mae'r bobl yn aros. Y mae dull brwydrau'n newid, y mae bywyd y bryniau yn aros yn debig o hyd. Bu sychter mawr yn y Gwanwyn yn y broydd hyn unwaith, yr oedd gwres yr haul mor fawr fel y sychodd y ddaear dano, fel na thyfodd dim frwyth ar goed na maes, ac na chaed pysgod môr nac afonydd. Ac ar ddiwedd y cynhaeaf, hynny oedd ohono, wele'r llifeiriant glaw. Bu gymaint glawogydd fel y cuddiodd y llif-ddyfroedd wyneb y ddaear, hyd na allai'r ddaear sych agenog, er cymaint hiraethasai yn y sychter mawr am dano, lyncu y diluw dwfr. Ac fel pe na bai eu heisiau mwyach, torrodd y llif y pontydd, ac ysgubodd y melinau o'i flaen. A allai rhywbeth gwaeth ddod? Gallai, wele senesgal y brenin yn dod, ac yn dweyd wrth y werin ddig drallodus eu bod wedi arfer trespasu ar borfeydd Elfael ar eu cyfer. Ac fel y sychter a'r glaw dygodd yntau anrhaith arnynt.

Ar y porfeydd a'r tywydd yr oedd meddwl gwŷr Elfael, a gwyddai seintiau'r Disserth pa fodd i ennill eu sylw. Felly cysegrasant eu heglwys i Gewydd Sant, "yr hen Gewydd y glaw." Efe yw Swithin Cymru, neu efe ddylai fod, ond fod y Sais wedi graddol ymwthio i'w le. Ac os sant, sant fedrai ddwyn sychter a glaw yn eu hamser i wŷr Elfael! Y mae'n ddiameu fod yn y gilfach dawel a neilltuedig hon, ganrifoedd cyn i'r efengyl ddod i'r wlad, addoli prysur rhyw hen dduw paganaidd ystyrrid gan y werin yn un fedrai reoli gwynt a glaw. a chadwasant ei wyl dan enw Gwylmabsant Cewydd bob Sul cyntaf yng Ngorffennaf hyd yn ddiweddar.[1]

Deuwn i oesoedd diweddar, pan oedd pethau rhyfedd yn cynhyrfu ein gwlad. Un o Faesyfed oedd Vavasour Powel. Yr oedd Howel Harris yn byw ar ei chyffiniau, ac iddi hi y mentrodd gyntaf i bregethu'r efengyl losgai yn ei enaid a'r farn fflamiai yn ei gydwybod. Mewn cymoedd mynyddig o amgylch y sir cododd dynion rhyfedd. Rhyw bum milltir ar hugain i'r dwyrain dros Fwlch yr Efengyl, a dyna chwi yn Olchon, hen grud y Bedyddwyr yng Nghymru. Y mae Trefeca'n agosach, ac nid yw Aberhonddu'n bell. Y lle cyntaf y deuir iddo dros fynyddoedd meithion y gorllewin ydyw Tregaron, ac y mae Llangeitho gerllaw hwnnw. Ond, er ymdrech y Bedyddiwr, yr Anibynnwr, a'r Methodist, ychydig wrandawodd sir Faesyfed; a'r hyn a glywodd, hi a'i hanghofiodd bron yn llwyr.

Nid oes ond un esboniad. Collodd sir Faesyfed y grym cymeriad a'r argyhoeddiadau dyfnion ddaeth o ddiwygiadau Cymru wrth golli ei Chymraeg.

Yng nghanol yr unfed ganrif ar bymtheg ystyrrid esgobaeth Henffordd yn un Gymreig, ac yr oedd yr esgob yn un o'r pump oedd i ofalu am droi'r Beibl i'r iaith Gymraeg. Yng nghanol yr ail ganrif ar bymtheg yr oedd milwyr Cromwell yn clywed Cymraeg yn Heolydd Henffordd. Yng nghanol y ddeunawfed ganrif yr oedd Cymraeg a Saesneg yn gymysg yng nghymoedd Henffordd a Maesyfed. Erbyn canol y bedwaredd ganrif ar bymtheg yr oedd Cymraeg wedi distewi yn y mynyddoedd prydferth hyn, hyd yn oed yn Rhaiadr Gwy.[2]

Yn 1746 yr oedd Joshua Thomas, hanesydd difyr y Bedyddwyr, yn crwydro o'r Gelli i Olchon fynyddig yn sir Henffordd ac i gymoedd Maesyfed i bregethu. Olchon oedd yr hen eglwys, yr eglwys ymneilltuol ystyria ef yn hynaf yng Nghymru. Eglwys Gymraeg oedd. Dechreuwyd pregethu yn sir Faesyfed yn 1630, a chlywyd Walter Cradoc a Vavasour Powell ac eraill ymhob rhan o'r sir. Tua 1750 yr oedd Llanddewi Ystradeni, tua chanol sir Faesyfed, yn Gymreig; yr oedd y Dolau yn Gymreig a'r Rock yn hytrach yn Seisnig. Nid llawer o ymdrech wnawd i gadw'r Gymraeg, un gweinidog Saesneg yn unig ddysgodd Gymraeg i Joshua Thomas wybod am dano, sef Roger Walker y Rock. "Sais naturiol" fu farw yn 1748. Ond buan y lliosogodd y Saeson anaturiol, Saesneg oedd iaith porthmon a marchnad; ciliodd y Gymraeg hyd yn oed yn sŵn y diwygiadau, fel y collwyd hi megis yn islais leddf afon Gwy. Ciliodd mor sydyn o Faelenydd ac Elfael fel na chafwyd amser i gyfieithu enwau lleoedd Cymraeg i'r Saesneg, oddigerth ambell un, fel Croesffordd yn Crossway. Collodd yr ll oddiar dafodau'r Cymry Seisnigwyd; ac o raid cyfieithasant Pwll yn Pool, ond yn bur anghelfydd, Mawn Pools yw Pyllau Mawn, a Pool Reddings yw Pwll Rhedyn. Ond erys bron yr oll o'r hen enwau prydferth prydyddol yn eu ffurf gywir.

Diflannodd eglwysi bychain y Bedyddwyr wedi ymdrechion arwyr Joshua Thomas. Yr un yw adroddiad prudd hanesydd y Methodistiaid; diflannodd yr eglwysi er fod "Trefeca ddim ymhell, na Phant y Celyn," er fod Thomas Jones danbaid, Robert Newell dduwiol, a William Evans hawddgar yn byw o fewn y cylch." Ni roddwyd bywyd newydd i Eglwys Loegr, fel y gwnawd mewn ambell sir. Symir yr hanes digalon gan hanesydd manwl yr Anibynnwyr, fod yn amheus a wnelai yr holl Ymneilltuwyr drwy y sir bum mil allan o'r pum mil ar hugain trigolion, a bod yr eglwysi plwyfol hefyd, gydag ychydig iawn o eithriadau, yn weigion a hollol ddilewyrch. Y mae'n amlwg fod bywyd ysbrydol sir Faesyfed yn curo'n wannach na bywyd siroedd eraill Cymru. Methodd y Saesneg groesi afon Wy, ac ychydig bontydd oedd dros yr afon yr adeg honno. Meddylier am ardaloedd meddylgar Llanwrtyd, ac am oedfaon Troedrhiwdalar ar yr ochr arall i'r afon. Paham y mae ochr sir Faesyfed i'r afon mor anhebig iddynt hwy! Wrth rifo llu llenorion Buallt, pang rydd cofio nad oes fardd na llenor wedi codi yn Elfael a Maelenydd.

Bu ymdrech rhwng ysbryd crefydd ac ysbryd y byd yn Nisserth, a rhwng Saesneg a Chymraeg. Ond anhebig yw y ceir enwau'r hen arwyr yn y fynwent hon. Erlidiwyd y Bedyddwyr, ebe Joshua Thomas, trigent ymysg eirth a llwynogod, ac ni chaent feddau yn nhawelwch y llannau. Ond, wedi'r ymgom hir a phrudd hon, trown at y beddau. Y mae ambell i adnod ac ambell i bennill arnynt. Wrth gofio yr oedd amryw o'r hen Fedyddwyr yn feirdd, ond er pregethu gydag eneiniad yn Gymraeg, canent heb eneiniad yn Saesneg. Dyma bennill sydd ar fedd merch Glan Gwy, fu farw'n eneth bedair ar bymtheg oed,—

"The King of Terrors spareth none,
Neither rich nor poor, nor old nor young;
Reader, before thy minutes fly,
Redeem thy time and learn to die;
Now make thy peace with God alone,
Slight not the counsel of a stone."


Y mae yma benhillion Saesneg eraill, ac wrth eu darllen hiraethwn am emynnau melodaidd Cymraeg ysgrifennwyd yn sir Faesyfed,—

"Duw, atal di rwysg fy meddyliau ffol,
A dena'm serch a'm calon ar dy ol:
Yn holltau'r graig dod i'm ymgeledd glyd,
Mewn tawel hedd, nes mynd o'r anial fyd."


Yr enwau cartrefi sydd fwyaf diddorol. Y mae rhai yn Gymraeg syml glân,—Brynn, Pentre, Nant yr Haidd, Tan y Graig, Ty Gwyn, Maes Gwyn, Cefn Mawr, Berth Lwyd, Pendre, Nant yr Hwch, Cefnllys, Gilfach, Tŷ Moses,—heb ofyn am esboniad ond i'r bobl sy'n byw ynddynt. Ceir arlliw tafodiaith mewn eraill,—Girn Fawr, Goyfron neu Goy Fron, Coedca, Carn, Gyrn, Carneddau, —dyna'r ffurf unigol, ddeuol, a lliosog. Lle iach yw'r Geufron; yr oedd Thomas Jones, fu farw yno Tachwedd 5, 1784, yn 99 oed. Buasai rhai o'r enwau yn deffro dychymyg hynafiaethwyr siroedd eraill, Bryn Sadwrn, Tylellow, Garddu. Sillebir rhai enwau heb ddeall eu hystyr,—Pothley Mawr, Tyr Meirig, Penmincae, Abercamloo, Howey. Cyfieithir ambell un,—Castle Farm, Cross Way. Gwelir dirywiad ambell air,—ceir Bryn y Groes ar hen fedd, a Bryn Groce ar un diweddar; Bryngwanff ar fedd newydd, a'r esboniad cywir ar hen fedd, sef Bryn Gwanaf.

Y mae'n dechre nosi, a rhaid cychwyn. Gwrandawaf ennyd ar frefiadau defaid pell, a murmur distaw Ithon. Dringaf fryniau eraill yn hoyw, croesaf afon Hywi, prysuraf i dŷ Cymro yn Llandrindod cyn iddo gloi ei ddor. Cyn cysgu'r noson honno effro freuddwydiwn am y bryniau a'r dolydd gollasant eu hiaith, am gymoedd didalent allasent fod yn gartrefi meddylgarwch. A chofiwn fod plant sir Faesyfed yn blant bach anwyl, a'u bod wedi dechre dysgu digon o Gymraeg yn eu hysgolion i ddeall enwau eu hen gartrefi.

Nodiadau

golygu
  1. Ceir enwau Cewydd mewn lleoedd eraill. Y mae Cwm Cewydd ym Mawddwy. "Cewydd's hope," hafn Cewydd rhwng mynyddoedd, yw Cusop ym Maesyfed.
  2. Fel iaith addoli cyhoeddus. Yn ol Census 1911 siaradai 1139 Gymraeg (213 yn Llandrindod, 522 yn Rhaeadr Gwy), lleihad o 221 er 1901.