Yn y Wlad/I Dref y Bala
← O Ddinas Dinlle i Ben Carmel | Yn y Wlad gan Owen Morgan Edwards |
Disserth → |
X
I DREF Y BALA
"I DREF y Bala'r aeth,"—na, nid y bardd ond hen fachgen rhyddieithol sych. Cerddodd heolydd y Bala, gan syllu ar ei ddeutu, bob un; gan gymharu'r dref, bob cam, â'r hyn oedd dros ddeugain mlynedd yn ol, pan oedd ef yn fachgen ysgol ynddi. Yr oedd y dref yn hollol yr un fath, ac eto, ar yr un pryd yr oedd popeth yn newydd; a'r hen a'r newydd yn toddi i'w gilydd, a llu o atgofion yn eu cysylltu megis mewn breuddwyd. Yr hwn nad yw'n disgwyl affliw o brydyddiaeth, dilyned y pererin di-awen, os myn.
Bore oer yn y gaeaf oedd, a min ar yr awel. Creded a gredo, ni welais undyn byw drwy'r bore hwn, ond un, y gallwn holi dim arno, er i mi gerdded hyd ganol pob heol yn y dref. Ac yr oedd hwnnw'n rhy ieuanc i wybod beth oedd wedi dod o lawer teulu oedd yn gyfrifol yn y Bala yn fy amser i, ac i'm hatgofio ym mha dai yr oedd efrydwyr enwocaf y colegau yn lletya.
Cychwynnais yn is na gwaelod y dref, ar bont Tryweryn. Ardderchog yw Tryweryn yn y gaeaf. Daw i lawr heibio coed y Rhiwlas, yn un cenllif nerthol, ac eto'n dyrfa aflonydd o ffrydiau Migneint a Chader Benllyn a'r Arennig. Ac wrth weled y dyfroedd yn rhuthro'n garlamus dan y bont tua'r Brynllys a Dyfrdwy, cofiwn am hen benhillion telyn yn diweddu gyda champ amhosibl, sef
"Rhwystro Tryweryn i waered."
Oddiar bont Tryweryn cewch syniad am lun y Bala. Y mae ar ddull crwth trithant. Y llinyn canol yw'r Stryd Fawr; ar y chwith y mae Heol y Domen, ar y dde Heol Arennig; a'r bwa ar eu traws yw'r Stryd Fach. Croesa'r Stryd Fach Heol y Domen wrth y Groes Fach, a'r Stryd Fawr wrth y Groes Fawr. Deuant yn un drachefn ym mhen uchaf y dref. Nid yw'r Bala'n ganol plwy, canol pumplwy yw. Tyfodd o amgylch croesffordd. Y mae'n ddigon hen i'w siarter ganol oesol brotestio yn erbyn dyfodiad Iddewon iddi.
Ond cychwynnwn. Cyn dod at y lle y mae'r tair ffordd yn ymwahanu. gwelwn hen Green y Bala ar y chwith odditanom. Mae hen drigolion y fro yn cofio eto am ei thyrfaoedd gyda pharch a hiraeth.—
"Ein tadau gyda hwyl,
A pher hosannah,
Fel tyrfa i gadw gwyl
A gyrchent yma;
O na chaed eto'r fraint
O weled yn ei maint
Gymdeithas fawr y saint
Ar Green y Bala.
Prudd yw cyfaddef fod fy meddwl i, nid gyda saint, ond gyda lladron. Nid y cae gwyrdd hwn yn unig ddylai fod yn eiddo y cyhoedd heddyw. Na, y mae miloedd ar filoedd o aceri oedd yn eiddo i'r goron ddechre'r ganrif o'r blaen ym mhumplwy Penllyn, ond sydd erbyn heddyw wedi eu meddiannu gan wŷr mawr, yn unig oherwydd fod eu cymdogion yn dlodion ac anwybodus ac ofnus. Anfonwyd swyddog i chwilio'r hanes; cynghorodd yntau fod y ddau leidr mwyaf i roddi eu hysglyfaeth i fyny, fel y medrid gwerthu'r aceri meithion i'r uchaf ei geiniog. Ond cadw, a dal i ladrata, a wnaethant hwy. Gwyn fyd na fuasai'r ffriddoedd yn eiddo i'r Llywodraeth yn awr, i blannu coed.
Ond dyma ni'n myned heibio i'r Ysgol Ramadegol, ac i'r dre. Ar y chwith, yn Heol y Domen, gwelir Tomen y Bala dan ei choed byth-wyrddion; bu gynt yn wylfa ac yn gastell. Ar y dde, arwain ffordd i fyny at y colegau. Ar y rhiw acw gwelais Michael D. Jones, yn ei het befar lwydwen, a'i frethyn o liw cain y cen cerrig, ag ysgub fedw fawr yn ei law, yn ysgubo'r ffordd er mwyn dangos i'r byd mor bell oedd y Bwrdd Lleol o gyflawni ei holl ddyletswydd. Mae Bodiwan, hen gartref y Gymraeg a'r delyn, felly y clywais, i fynd o feddiant y teulu. Ac aeth fy meddwl i ar grwydr pell, at y fan y llofruddiwyd Llwyd ap Iwan yn yr Andes. Awn yn syth yn ein blaenau ar hyd y Stryd Fawr. Ar fore fel hyn rhydd ei choed olwg urddasol arni. A heol brydferth ydyw. Ond pe gwelech hi ambell fin nos eirlawog, a'i goleuadau nwy budr-felynion yn dal i ymladd yn wan a'r tywyllwch, caech olwg arall arni. Harddwch newydd iddi yw cofgolofn Thomas Ellis, y gofgolofn gyntaf yng Nghymru gerfiwyd i ddangos egni bywyd. Y tro diweddaf yr es ar daith fel hyn, yr oedd Tom Ellis yn fachgen bochgoch yn rhedeg a'i lyfrau i'r ysgol draw.
Cerddais yn hamddenol. Ychydig o newid fu ar adeiladau. Clywais fod tŷ Charles o'r Bala, a hen gartref Simon Llwyd, ar werth. Drwg oedd colli efail, nid drwg colli tafarn. Ond y bobl oedd yma hanner can mlynedd yn ol, pa le y maent hwy? Erbyn cyrraedd pen y dref gwyddwn fod llawer mwy o honynt yn huno yn Llanecil draw, yn y fynwent brydferth ar lan Llyn Tegid, nag sydd yn aros yn y dref. Deuent i'm meddwl yn lluoedd, ac ni welwn yr heol yn wag mwy. Wrth feddwl am danynt, gallwn ddweyd fel y dywedodd Ap Vychan, pan ddaeth yno i weled bedd ei hoff chwaer,—
"Cawsom ni oll ein gwasgaru,
A'n taflu ymhell o dy ein tad,
Cefaist ti er hynny lonydd
Ar aelwydydd d'anwyl wlad;
Rhodiaist hyd ei huchel fannau,
Glynnoedd, bryniau mawr eu bri,
A chest fedd, ar ddydd dy arwyl,
Yn ei hanwyl fynwes hi."
Oherwydd nid ydynt yn Llanecil i gyd. Pe dechreuwn ddweyd hanes fy hen gyfeillion, byddai raid i'm meddwl grwydro i bedwar ban y byd. Bob yn dipyn ffarweliodd llu mawr o garedigion â'm meddwl hiraethus, yn ysbrydion distaw pur. Ond mynnai tri aros ar ol y lleill, fel y gwnaethant lawer tro o'r blaen.
Yn Heol y Castell, parhad o'r Stryd Fach i fryniau'r Fron, yr oedd cartref William Roberts. Yr oedd o deulu caredig, mwyn, a theimladwy. Rhoddodd ei fywyd i Fryn Crug, a dysgodd genhedlaethau o blant fel na fedr wneud ond a fyddo yn eu caru. Collodd ei ferch, oedd yn dod i edrych am dano o weini ar glwyfedigion yn Ffrainc, drwy frad tanforwyr y gelyn. A suddodd yntau i'r bedd, yn anwyl gan bawb. Y tro olaf y gwelais ef, arhosodd yn sydyn ar y ffordd, a dywedodd,—"Mae'n rhaid i chwi ateb un cwestiwn eto. Beth ydyw'r rheswm fod y bechgyn fyddaf fi'n ganmol ac yn wobrwyo yn ei gwneud hi'n salach yn y byd na bechgyn fyddaf yn geryddu?" "Yr oedd eich cerydd mor dyner," oedd yr unig ateb y medrwn feddwl am dano; ac wedi ail feddwl, tybiwn mai dyna'r ateb priodol. Bendith oreu'r nefoedd i ardal yw cael dynion o gymeriad ac amcanion fel rhai William Roberts i fyw ynddi.
Yn y Plase, parhad o Stryd y Domen, yr oedd cartref John Thomas. Gŵr byr cydnerth oedd ei dad, ysgrythyrwr da, a'i eiriau'n glir a phendant; gwraig dawel, bryd du, lygat-ddu oedd ei fam, yn pryderu llawer am ei bachgen, oherwydd ei fod yn canu cymaint. Yn Nhalsarnau, ac ar hyd ochrau môr Meirionnydd bu yntau'n athraw cydwybodol a llwyddiannus, a thrwy fiwsig rhoddodd dynerwch i gymeriad a phurdeb i chwaeth cenedlaethau o blant. Tybia'r wlad fod y môr a'r gwyntoedd wedi colli rhyw dynerwch pan fu farw ef.
Pwy, a'i gwelodd unwaith, fedr anghofio Robert Jones? Y cerddediad gwisgi ysbonciog, y llygad cyflym siriol, y siarad ffwdanus ffraeth, y chwerthin siaradus caredig, y mae heolydd y Bala fel pe'n fwy cyffredin a marw wedi ei golli ef. Yr oedd tair nodwedd ganddo a'i gwnai, i mi, yn un o'r gwŷr mwyaf hynod yn hanes y Bala. Cefais gynnyg siarad â gwŷr ienainc y Bala y Nadolig. Collais y cyfle. Pe bawn yn fwy ffortunus, gwasgwn arnynt efelychu nodweddion Robert Jones.
Yn un peth, yr oedd yn rhoi ei enaid yn ei grefft. Ei allu, ei ddarllen eang, ei chwaeth bur, ei ynni, —rhoddai'r cwbl yn ei grefft. Lliwiedydd oedd; ac, os lliwiedydd, y goreu y medrai fod. Yr oedd ganddo lygad arlunydd at liwiau; hawdd adnabod ei waith mewn tŷ a chapel a neuadd. Yr oedd ei liwiau'n hyfryd, yn toddi i'w gilydd fel cydgord hyfrytaf miwsig. Ymhyfrydai yn ei waith. Daeth holl blant y Bala i weld crud ei blentyn, yr oedd y lliwiau y tu mewn iddo mor brydferth, ac yn adlewyrchu cymaint o dlysni ar wyneb baban bach. Byddaf yn ofni weithiau nad oes crefftwr tebig iddo wedi ei adael ar ei ol. Blant y Bala bach, sut mae hi arnoch? Argraffwyr, gofaint, seiri, oriadurwyr, pob un sydd mewn crefft gain a chynnil, a ydyw eich gwaith mor berffaith, mor brydferth, ag y gall fod? A ydyw eich enaid chwi ynddo? Ni ddylai gwaith bler ail law, gwaith diofal ac anhardd, ddod o dref y bu cymaint o egni braich a cheinder meddwl ynddi.
Credai Robert Jones mewn llyfr. Ac yr oedd ganddo sel genhadol ysgol dros lyfr. Cyfarfyddai weithiau a bachgen penwan yn ysmygu myglysen. Taflai'r bachgen y bonyn llosgedig ymaith wrth ddod ato, dim ond llwch ac ychydig fwg, heb adael dim ar ol ond ychydig ychwaneg o awydd am un arall, a dyfnhau ychydig ar gaethiwed yr ysmociwr diofal. "Dyma i ti, fy ngwas i," ebai Robert Jones, yn ei ddull prysur, sydyn, "gad lonydd i'r hen sigarets yna, cadw dy bres, a phryn lyfr da." Ac unwaith y dechreuai son am lyfr da fel cyfaill i ŵr ieuanc, yr oedd ei hyawdledd yn llif. Gwelodd wasg y Bala'n cyhoeddi llyfrau bywyd Cymru, ac ni wnaeth neb fwy, yn ei gylch ei hun, i roi llwybr iddynt at bobl ieuainc. Credai, nid yn unig mewn meddwl a darllen, ond hefyd mewn cyfnewid meddyliau, ac ennill awch newydd trwy ymgom a dadl. Yr oedd Ysgol Sul a Chyfarfod Llenyddol, dau sefydliad nodweddiadol y Bala, wrth ei fodd; ac y mae'n debig fod toraeth hanes yr hen gyfarfodydd llenyddol wedi mynd i'r bedd gydag ef. A thra'n credu ym mhethau goreu hen Fala ei ieuenctid, yr oedd hefyd yn dal ar y blaen o hyd.
Daeth arnaf awydd pregethu wrth dref y Bala. Anfon eto athrawon, fel yn y dyddiau gynt. Llawer William Roberts elo ohonot, i nawseiddio ardal ag addfwynder ei enaid serchog a phur, Anfon eto lawer John Thomas, a'i gariad at fiwsig yn ei wneud yn allu i wareiddio. Ond nac anghofia godi ambell Robert Jones, fu'n aros ynnot, ac yn ddiamynedd wrthyt oherwydd dy ddiffyg ymgais. Y mae ysgolion a cholegau'n codi yng Nghymru heddyw, ac y mae cyfoethogion y tir yn taflu eu rhoddion wrth y deng mil, a'r ugain mil, a'r can mil o bunnau. Ond blodau'r gerddi sydd ynddynt; ac nid ydynt hwy ond ychydig nifer o'u cymharu â blodau gwylltion y cymoedd sydd y tu allan iddynt. Ar y rhai sy'n aros gartref y mae dyfodol ein gwlad yn dibynnu,—ar grefftwyr ei heolydd, ac yn enwedig ar fechgyn meddylgar ei chymoedd.
Mae llu o fechgyn goreu'r Bala a Phenllyn wedi dilyn camrau eu Gwaredwr yn y dyddiau ofnadwy hyn, a llawer wedi gwneud yr aberth mawr. Bechgyn yr Ysgol Sul a'r Cyfarfodydd Llenyddol ydynt. Pa fodd y cofiwn am danynt? Blodau gwylltion fyn bardd Ffestiniog roddi ar feddau y gŵyr am danynt, rhedyn o Gwm Bowydd, grug o Fwlch y Gwynt. Ond beth fydd eu cofgolofn yn eu gwlad eu hunain, y wlad oeddynt i arwain i fywyd uwch? Onid bywyd newydd yn y sefydliadau ffurfiodd eu cymeriadau, ac a'u cododd megis ohonynt eu hunain yn yr ymdrech fawr dros ryddid y byd? Cânt, yn gof am eu gwrhydri a'u haberth flodau gwylltion tecaf bywyd Cymru,—y Cyfarfod Llenyddol a'r Ysgol Sul.