Yn y Wlad/O Ddinas Dinlle i Ben Carmel

Dyffryn Banw Yn y Wlad

gan Owen Morgan Edwards

I Dref y Bala
Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Dinas Dinlle
ar Wicipedia
Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Carmel
ar Wicipedia

IX
O DDINAS DINLLE I BEN CARMEL

NA feddylied y darllennydd mwyn fy mod yn cychwyn taith o lannau môr Arfon hyd y fan y chwery tonnau mân Môr y Canoldir ar odrau creigiog Mynydd Carmel. Nid yw fy nhaith fechan i ond taith troed; ac nid yw'n bedair milltir o hyd; pe medrwn ei chymeryd fel yr ehed y fran.

Ac eto, wrth deithio pedair milltir o lan bau Caernarfon i bentref Carmel, dros wlad wastad ac i fyny'r bryn, cymer y meddwl deithiau hirfaith iawn. Ar lan y môr saif hen grug Dinas Dinlle, Bryncyn yn sefyll rhwng gwastadedd tawel y tir a gwastadedd aflonydd y môr; a blwyddyn ar ol blwyddyn y mae'r môr yn ei ysu; ac megis yn dweyd, "Y mae Caer Aranrhod yma dan fy nhonnau, deui dithau yma cyn bo hir; feallai y byddi fil o flynyddoedd cyn dod, ond yma y doi." Hawdd dychmygu amser na ddeuai'r môr yn agos at Ddinas Dinlle, ac yr oedd Caer Aranrhod i'w gweld ar y gwastadedd sy'n awr dan donnau'r môr; ond yr adeg honno y gaer oedd ar fin y lli, a'r Ddinas bedair milltir dda oddiwrtho. A dyma fi, ar nawn yn Ebrill, 1913, wrth adael y Ddinas a sŵn y don o'm hol, yn cofio hen fabinogi Math fab Mathonwy. Gwelwn y swynwr Gwydion fab Don, a'r gwas ieuanc Llew Llaw Gyfles, yn dod feirch o'r arfordir ac Gefn Clydno i fyny tua Bryn Arien, ac yn cyrchu porth Caer Aranrhod yn rhith dau was ieuanc. Yr oedd pryd Gwydion yn bruddach na phryd ei gydymaith ieuanc, oherwydd yr oedd ei feddwl ar rith a thwyll. "Y porthor," eb ef, "dos i mewn, a dywed fod yma feirdd o Forgannwg." Ac yna cawn ddifyrrwch y llys, a'r ymneilltuo i gysgu, a thwrf llongau hud o gylch y gaer yn y bore, ac Aranrhod yn gorchymyn rhoi arfau i Llew Llaw Gyffes.

Y mae'r hanes yn orlawn o atgofion am hen ddyddiau paganiaeth. Ond mor bell ydyw heddyw! Wrth i mi deithio hyd y ffordd wastad, ni wyr yr un chwarelwr a'm cyferfydd lle mae Bryn Arien na Chefn Clydno. Ond gŵyr pob un am Garmel. Y mae'r hen Dduwiau wedi diflannu o'r wlad mor llwyr fel na wyddir enwau ond ychydig ohonynt, ac y mae Duw Elias wedi cymeryd eu lle. Mae Caer Aranrhod dan y môr, mae Dinas Dinlle'n unig, ond y mae pentref Carmel a'i gapeli yn llawn bywyd a meddwl. O'm hol, y mae olion bore hanes ein cenedl, a'r môr yn chware yn ei rwysg drostynt; o'm blaen y mae bywyd y dydd heddyw, a diwygiadau crefyddol diweddar wedi rhoddi enw a chymeriad iddo, yn sefyll ar fryn.

Dechreuais synfyfyrio ar ddau ben y daith, Dinas Dinlle a Charmel, cartref yr hen baganiaeth a chartref crefydd heddyw, ac ar hyd holl hanes Cymru rhyngddynt,—hanes y gwelwyd rhai o'i olygfeydd mwyaf cyffrous o fewn cylch y mynyddoedd ardderchog sydd o'm blaen. Ond deffrowyd fi o'm breuddwyd, a galwyd fi o wyll yr hen amseroedd i Gymru newydd, gan sŵn y tren. Yr oeddwn wedi teithio dwy filltir, ac yn dod dan y ffordd haearn i bentref y Groeslon. Y mae hwn ar fin y gwastadedd ac ar ochr bryn. Dringais hyd y ffordd sy'n arwain i fyny drwyddo. Syllwn ar ambell enw tŷ,— "Angorfa," yr oedd llun llong y tu mewn, cartref morwr mae'n ddiau; "Goleufan," a llu o enwau Cymreig tlysion eraill; a themtid fi i ddyfalu pa fath bobl oedd yn byw ymhob un. Codwn i fyny'n gyflym ar hyd y ffordd serth, a chyn hir daeth llaweroedd o chwarelwyr i'm cyfarfod ar y ffordd adref o'u gwaith. Mwyn oedd sylwi ar eu hwynebau deallgar; a da oedd gennyf weled, gydag ambell eithriad curiedig, eu bod yn bobl iach. Clywais droeon fod plant ardaloedd y chwareli yn hyfion, Ond nid felly y mae ar y ffordd hon, beth bynnag. Plant bach boneddigaidd gyfarfyddais i, parod eu hateb, ond hollol foesgar.

Ond wedi dringo'n uchel, gadewch i ni edrych yn ol. Mae bryniau fel cylch eang o'n cwmpas, a chlog teneu o niwl wedi ei daflu'n esgeulus drostynt, fel gorchudd yn hanner dangos wyneb hawddgar. Y mae'n dewach ar y gwastadedd, y mae yn ei guddio fel na welir lle mae'r tir yn darfod a'r môr yn dechre. A phan welwch ambell lecyn trwy'r niwl, ni wyddoch prun ai perllanoedd dan flagur cyntaf y gwanwyn ydyw, ai corsdiroedd brwynog, ai tywod anial. Y mae'r niwl yn araf godi dros y mynyddoedd a'r môr hefyd, ond nid yw'n eu cuddio eto. Wele ymylon Môn, gwelaf afon Menai, a Niwbwrch y tu hwnt, a mynyddoedd Caergybi ymhell ar y gorwel. Ac mor hyfryd yw'r môr! Y mae rhyw fynydd yn sefyll i fyny o'r niwl odditanom, yn fygythiol a du; uwch ei ben y mae'r haul yn y cymylau, ac y mae'r cymylau mor ardderchog a phe baent yn cynnwys holl Dduwiau'r Celtiaid mewn nefoedd o'u mewn. Ac fel y machludai'r haul dros orwel y môr, yr oedd ffordd goch o dân yn arwain ar draws y tonnau dros Gaer Aranrhod i'r pellteroedd dieithr. Yr oedd lliwiau mwy gogoneddus uwchben Dinas Dinlle nag y dychmygodd Titian a Reubens am danynt. Ond ar y môr yr oedd y lliwiau i gyd. Yr oedd y tir isel dan niwl llwyd.

Yr oedd yr eithin ar y bryniau o amgylch y ffordd fel fflamau o dân. Ond ni welais un blodyn arall. Ar bob trofa yr oedd tŷ cysurus, ac ambell hafn o laswellt yn agor i'r ffordd. Ond ffordd i fyny i fynydd noethlwm oedd, ac o'r diwedd cyrhaeddais bentref Carmel. Dywedodd gŵr diddan parablus wrthyf, ond i mi frysio, y cyrhaeddwn ben mynydd Carmel mewn pryd i weled Eryri a'r Eifl yn eu gogoniant cyn i niwl yr hwyr eu cuddio.

Prysurais innau a daethum at ddwy wal gyfochrog yn arwain at gapel ar fin y mynydd. Meddyliais i ddechre mai dau ddwbl un wal oeddynt ; ond, wedi dod i'w hymyl, gwelais fod llwybr cul rhyngddynt. Ni all ond y saint teneuon fynd ar hyd-ddo, rhaid i'r rhai graenus gymeryd cylch. Ac ni allai'r un dau fynd ar unwaith felly rhaid fod y rhai cyntaf yn cychwyn yn gynnar iawn, neu fod y rhai olaf yn bur hir yn cyrraedd drws y capel.

Os troir y wyneb yn ol oddiwrth y capel heb enw arno ar fin y mynydd, gwelir cylch o fynyddoedd na all Cymru na Lloegr ddangos eu tebig. yn codi yn y niwl, o Benmon i Lanaelhaearn. Cychwynnais wedyn i fyny'r mynydd byrwellt. Wrth fynd clywn alw'r chwarelwyr i addoliad noson waith. I ddechre daeth sŵn melys cloch, sŵn ymbilgar erfyniol, o rywle pell; ac yn union wedyn sŵn wylofus bygythiol cloch drom yn union oddi tanaf.

Dros gloddfa'r Cilgwyn gwelwn yr Eifl yn dalpiau toredig drwy'r niwl. Wrth gyrraedd pen Mynydd Carmel, tybiwn nad oedd holl swyn mynydd yma ond cri cornchwiglen. Gyda'r meddwl hwnnw, clywn sŵn yr aderyn. Na, dau blentyn direidus oedd yno, yn disgwyl fy ngweled yn rhedeg ar frys yma ac acw i chwilied am wyau.

Y neb fedr yfed ysbrydiaeth mynyddoedd, safed ar ben Mynydd Carmel. Gwêl hwy yno, yn dyrfa fawr hanner ysbrydol, o'r Eifl i'r Mynydd mawr Gwêl y Wyddfa, yn edrych i lawr yn wylaidd fawreddog, drwy Ddrws y Coed. Wrth droed y mynydd un ochr y mae Dinas Dinlle a'r môr; yr ochr arall y mae llynnoedd Nantlle, Pen y Groes, a'r mynyddoedd. Y mae'r ddwy ochr yn gyforiog o'r ddwy lenyddiaeth sydd anwylaf i'r Cymro. Ar y naill law gwêl Dinas Dinlle dan hud dieithr babanod ei bobl; ar y llall gwêl Dal y Sarn, o'r lle y cyhoeddwyd yn hyawdl dragwyddoldeb a thrugaredd i filoedd.

Dyma le i weled mawredd y mynyddoedd a ffyrdd y môr. Yr ydym fel pe ym mhresenoldeb Rhyddid, a gofynnwn ymhle mae'n trigo,—ai ar lwybr y mynyddoedd ynte ar lwybr y môr. Yma y mae môr a mynydd yn dadlu, yng ngwydd ei gilydd, mai hwy yw cartref rhyddid. "Mi," ebe'r mynydd, "a gedwais draw fyddin ar ol byddin, ac a wnes Gymru'n gysegr rhyddid." "A minnau," ebe'r môr, "a roddais lwybr i'r gwas ddianc rhag ei feistr ac i'r erlidiedig fynd o glyw llais y gorthrymydd, a chludais ymborth i'r isel-radd fel na ddibynnent yn hollol ar yr arglwydd tir." Ond er dadle'n hyawdl yn unigedd tawel hyfryd yr hwyr, yn y gynulleidfa ardderchog honno, unent i ddweyd mai ar ben Carmel y dylai cofgolofn rhyddid Cymru sefyll, rhwng mynydd a môr, ac yng nghlyw llais y ddau,—

"Two voices are there; one is of the sea,
One of the mountains; each a mighty voice,
In both from age to age thou didst rejoice,
They were thy chosen music, Liberty!"


Nodiadau

golygu