Yn y Wlad/Dyffryn Banw

Ewenni Yn y Wlad

gan Owen Morgan Edwards

O Ddinas Dinlle i Ben Carmel

VIII
DYFFRYN BANW

AR nawn hyfryd ym mis Medi, rai blynyddoedd yn ol, bum trwy Ddyffryn Banw ar ei hyd. Yr oedd wedi gwneud haf gwlyb, nid oedd y gwair i gyd wedi ei hel oddiar y caeau; ac yr oedd diwedd yr haf yn heulwen a chawod bob yn ail, er mawr ddrwg i'r gwair oedd fel carth hyd y caeau, ac er mawr dlysni i'r adlodd gwyrdd ac i wrid ffrwythau'r griafolen.

Yr oedd gennyf gerbyd ysgafn a merlen hoyw, yn rhedeg yn esmwyth a gwastad lyfn. Oni bai am y peth oedd ynddo, pe gwelsech y cerbyd yn cyflymu i lawr heol Llanfair Caereinion, â bothau meinion gloyw'r olwynion yn lluchio goleuni'r haul o'u cwmpas wrth droi, dywedech eich bod yn sicr yn gweled peth cain. Yr oedd popeth wedi ei wneud i fynd, yr oedd sŵn mynd hyfryd yng ngharnau'r ferlen raenus, yr oedd y cerbyd fel peth byw na allai fod yn llonydd, ac yr oedd golwg y gyrrwr byrdew cydnerth yn sefydlog ar ben ei daith.

Rhyw eiliad gefais ar bont Llanfair i weled afon Banw'n llithro i lawr o'r mynyddoedd tua dolydd Hafren. Ar y dde, rhedai i lawr, ar yrfa fer, heibio i adfeilion distaw unig Mathrafal, i ymgolli yn afon Fyrnwy, i honno ei chludo ymlaen i afon Hafren. Ar y chwith gwelem hi'n dod o'r mynyddoedd, weithiau dan gysgod coed, dro arall yn disgyn dros riwiau. A chwim y troisom ar y chwith, gan feddwl gweled ei gyrfa yn ol hyd ei tharddiad. Rhedodd y cerbyd hyd ffordd wastad, hyd nes y gadawsom Felin y Ddôl, lle sydd a chymaint o dlysni yn ei wedd ag sydd o fiwsig yn ei enw.

Ac yn awr dyma ni ar ddyffryn hyfryd gwastad, a Moel Bentyrch yn codi yn union o'n blaenau i uchter o dros fil o droedfeddi. Rhed y ffordd yn union ar hyd y gwastad, ac y mae gennyf atgofion eto am ymgais y gyrrwr i esbonio ystyr enwau'r ffermydd welem ar dde ac aswy, ond enw Rhos y Gweision yn unig sydd wedi aros yn fy nghof. Ond am yr afon y mae hi'n cymeryd trofeydd mawr hamddenol. Croesasom afon Einion, sy'n disgyn iddi. Unwaith, pan ddeallem oddiwrth y sŵn gwag ein bod yn croesi pont, ebe'r gyrrwr,—Dyna gontract cyntaf David Davies." Heb deitl o'i flaen na gradd ar ei ol, y mae'r enw David Davies yn enw mwyaf grymus yn sir Drefaldwyn. Meddai ef gyfuniad o'r synwyr cyffredin cryf sy'n ennill edmygedd, ac o'r crefyddolder dwfn sy'n ennill parch; ac yng ngrym ei gymeriad, yn fwy nag oherwydd ei lwyddiant, yr erys ei enw yn fyw iawn ar gof gwerin y sir.

Pobl ddwys, garedig, hoffus, a boneddigaidd yw pobl sir Drefaldwyn. Gallant godi'n uchel iawn mewn dyhead am fywyd pur y swynwyd hwy gan ei dlysni; gallant ddisgyn yn isel iawn mewn awydd am foddhau'r cnawd, yn enwedig pan fo syched am ddiod feddwol. Y mae unigedd a thawelwch broydd hyfryd y sir yn taflu'r enaid, i raddau pell, ar ei gwmni ei hun. Dyhea'r enaid unig am bleser. Gwyddoch ar wynebau llawer a gyfarfyddwch mai o'r cnawd yn unig, ac o'r ddiod yn bennaf, y daw eu cysur. Rhodder iddynt, felly, bleserau uwch. Prif ffynhonnell y bywyd uwch yn y dyffrynnoedd a'r cymoedd hyn yw'r Ysgol Sul. A dacw'r Gelli, cartref yr Owen Jones. ieuanc hawddgar fu'n crwydro'r ardaloedd hyn i sefydlu a maethu yr ysgolion bendithiol. Y llais goreu yw emyn fedd felodedd yr hen gerddi a gwelediad y bywyd gwell; y mae pob ffordd welwn ar y dde yn arwain i gyfeiriad Dolwar Fach. Dan feddwl am Owen Jones ac Ann Griffiths, wele ni ar gyfer y Gelli. Gwelwn of dros ei weirgloddiau, lle gorwedd defaid dan ei goedydd tywysogaidd. Tŷ glân yw, yn edrych arnom yn hawddgar dros ei erddi, a'r Foel yn codi'n serth dros bum cant o droedfeddi y tu ol iddo. Yno, ebe'r gyrrwr, yr oedd mab Owen Jones yr Ysgol Sul yn byw, erbyn hyn yn hynafgwr patriarchaidd, yntau'n enwog fel pregethwr ac fel darlithiwr. Gwelem goeden afalau yn yr ardd. Dan honno, ryw ddeng mlynedd yn ol, y rhoddwyd gwraig Owen Jones i huno. Ac acw y mae yntau'n awr, mewn unigedd, a miloedd o'r rhai gyrchai'n dyrfaoedd i wrando arno gynt yn tybio ei fod yn ei fedd.

Tremiais i geisio cael cipolwg arno yn ei ardd neu hyd ei gaeau, ond cuddiodd y Foel y lle o'n golwg cyn i mi gael hyn. Dyna ni'n rhedeg yn rhwydd eto, hyd ffordd ddiddorol, ac yn y man yn aros o flaen gwesty Llanerfyl, lle'r oeddym i dreulio'r nos. Gwesty hyfryd yw, a chysurus. Cwyd y Ddisgwylfa ei phen o'i flaen dros ddeuddeg cant o droedfeddi, gyda hen gaer y Gardden ar ei llechwedd yn edrych i lawr ar gwm clyd Nant Menial. Yr oedd yn nawn tawel, nid oedd awelig fedrai ysgwyd y gwlith oddiar y rhosyn. Yr oedd eto awr o leiaf cyn y nosai. Daeth awydd drosof am weld Owen Jones, ac eto yr oedd teimlad greddfol yn erbyn ymweled ag ef. Ni fedraf wthio fy nghwmni ar neb. Tybiaf fod pawb yn brysur, a phwy wyf fi i fynd at ŵr enwog, a gofyn iddo a rydd beth o'i amser i mi ? Collais gyfle, felly, i ymddiddan a Cheiriog a Mynyddog; bum wrth gartrefi Villemarque a Renan, ond nid oedd gennyf y wyneb i ofyn am gael eu gweled. Ar un cyfrif y mae yn edifar gennyf am fy swildod. Ac a oedd yn iawn i mi dorri ar unigedd Owen Jones?

Ffordd bynnag, cychwynnais am dro yn ol hyd y ffordd i gyfeiriad y Gelli. Troais i lawr o'r ffordd, a daethum i gwm bychan cysgodol; a dail melyn yr hydref yn dechre ei garpedu â phorffor ac ag aur. Yma, heb sŵn ond murmur gwan afonig, y mae capel bychan Pentyrch, dan gysgod y Foel. Oddiyma arwain llwybr fyny'n syth at y Gelli. Dechreuais ei ddringo, gan ryfeddu pryd y trown yn ol. Rhaid fod Owen Jones yn hen iawn. Cofiwn fod ei dad, Owen Jones y cyntaf, yn priodi aeres y Gelli gan mlynedd i'r flwyddyn honno. Yr oedd yr Owen Jones hwnnw wedi marw er ys pedwar ugain mlynedd. Nid oedd ond ychydig dros ddeugain oed, pan fu farw yng nghanol ei waith; ond dyma ei fab yn unigedd y plas bychan acw wedi goroesi ei holl gyfeillion. I dorri ystori hir yn fer, cefais fy hun yn curo wrth ddrws cefn y Gelli.

Daeth genethig at y drws. Cefais fy hun yn gofyn a gawn weled Owen Jones. Arweiniodd fi i'r neuadd a diflannodd. Toc wele ddrws ar fy nghyfer yn agor. Ynddo safai gŵr a golwg batriarchaidd arno. Yr oedd ei farf wen hirllaes a'i wedd sobrddwys brudd, yn gwneud iddo edrych fel pe deuai ataf o'r hen oesoedd neu o fyd arall. Wyneb cul oedd y wyneb, fel wyneb ysbryd. Gwelwn lygaid disglair treiddgar yn syllu arnaf. Nid teimlad, ond beirniadaeth, oedd yn y llygaid. Nid am yr efengylydd, ond am yr areithydd llym a'r cynllunydd medrus, y meddyliech. Yr oedd cyfuniad dieithr o'r ieuanc a'r hen ynddo. Cerddai'n wisgi, ond nid oedd nerth i'w weled yn ei daldra; edrychai'n herfeiddiol, ond yr oedd shawl hen wraig yn rhoi cynhesrwydd i'w ysgwyddan. Mewn castell adfeiledig, yn nyfnder nos, ar loergan lleuad, y disgwyliech weled presenoldeb fel hyn. Beth wnaethet, ddarllennydd mwyn, pe buaset yn fy lle? Pa esgus wnaethet? A fuaset yn cynnyg gwerthu llyfr iddo? Dywedais i y gwir yn onest, fy mod yn digwydd teithio y ffordd honno, a bod y demtasiwn i'w weled wedi mynd yn drech na mi.

"Dowch i mewn!

Dilynais ef i'w ystafell. Yr oedd awyr yr ystafell, er yn bur a iach, yn awyr ystafell dyn gwael. A gwaelni diobaith yw henaint. Aeth ias i'm calon. wrth sylweddoli na welid mo'r gŵr rhyfedd hwn. mewn pulpud nac areithfa byth mwy. Dechreuodd siarad am fy nheulu yn Llanuwchllyn, rhai adnabyddai'n dda, a synnai fod y genhedlaeth adnabyddai ef wedi marw i gyd. Ac eto yr ydym ni yn weddol hirhoedlog; gwelodd fy nhad a'm taid a'm hendaid bedair canrif o fewn dim. Yr oeddwn wedi bod yn crwydro drwy ardaloedd Pontrobert y dyddiau cynt; dywedais wrtho i mi fod yn nhŷ John Hughes, bywgraffydd ei dad; a datgenais fy ofnau nad oedd meddwl yr ardal mor egniol ag y bu.

"Pont Rhobert! meddai. Na, nid ydyw yr un. Y mae'n is byth ar ol marw John." Ydych chwi'n cofio John Hughes, Pontrobert?" Ei gofio! Ydw. Bu'n eistedd yn y gadair yr ydych chwi ynddi yn y fan yna laweroedd o weithiau. Ac mae John wedi mynd."

Nid oedd yn ymddangos ar hyn o bryd fel pe am ddweyd hanes yr hen batriarch o Bontrobert. Dywedais innau imi fod yn gweld bedd Richard Jones o Lanfair, ac mai gresyn na wneid rhywbeth i gadw ei athrylith mewn cof. Yr oedd tinc o chwerwder yn ei lais wrth ddweyd.—

"Mae'n nhw'n dechre i anghofio ynte yrwan, mae'n debig geni."

Trodd yr ysgwrs at ardaloedd Maldwyn. Dywedais fod rhai ardaloedd yn cynhyrchu pobl feddylgar, ac enwais Lanbrynmair; awgrymais hefyd fod rhyw ardaloedd yn colli eu meddylgarwch. Ei ateb oedd,—

"Mae hynyna oll yn wir. Mae Llanwyddelan a Llanllugan yn hen ardaloedd enwog am eu crefydd a'u meddwl. Yr wyf fi yn cofio pump o bregethwyr yn Llanwyddelan."

Troais gyfeiriad yr ymddiddan i'r Deheudir. Pan oedd ef yn Nowlais, prin yr oedd y De yn ddigon llydan iddo aci Matthews Ewenni. Hwyrach mai prin y gallesid disgwyl i ddau o athrylith mor feiddgar a dieithr fedru cyd-dynnu fel pe buasent bâr o ychen tewion llonydd. Ac mi glywais fod y cledd a'r bicell ar waith weithiau. Adroddais fy hanes yn mynd ar bererindod ryw noson waith i'r Bala i wrando Matthews ar un o'i ymweliadau anaml â'r fro. Soniais am fanylion ei ddarluniadau cyffrous, a dywedais mai manylion y bregeth, ac nid ei chyfanswm, oeddwn yn gofio. Taniodd hyn ei lygaid, ac ebrai ef, gan gofio am ryw bregeth na chlywais i,—

Manylion, ie! Mae pobl yn dweyd nad oeddynt ond manylion. Ond mi ddoi at bwynt y gwelen nhw ar amrantiad beth oedd meddwl y manylion. Ac yna ysgubai bopeth o'i flaen. Weithiau cadwai y pwynt hwnnw, heb neb yn ei weled ond efe ei hun. Ni welen nhw ddim ond manylion bron trwy gydol y bregeth. Yna deuai bloedd,— Gadewch i mi farw,'—a deuai'r manylion yn un meddwl mawr gorthrechol."

Yr oedd y patriarch yn dal yn ŵr ieuanc yn fflam ei feddyliau. Wrth ei weled felly, mentrais ofyn a fyddai efe yn medru pregethu neu ddarlithio ambell dro yn awr. Edrychodd yn dreiddgar, os nad yn ddrwgdybus arnaf, a dywedodd yn syml, ond gyda rhyw arafwch prudd na allaf fi ei ddarlunio.——

"Na ! Yr ydw i yn saith a phedwar ugain oed, ac y mae rhyw ysgafnder yn dod i'm pen pan safaf yn hir."

Cyfeiriais at addysg pregethwyr, gan ddweyd fod dysg yn amlwg iawn, fod talent a hyawdledd yn amlwg hefyd, ond nad oedd cymaint o'r athrylith wnai bobl yn anhebig i'w gilydd.

"Mae rhywbeth dyfnach na hyn ar ol," meddai. Ac yna, gydag ynni newydd, dechreuodd ddatgan ei ofnau am effaith y Ddiwinyddiaeth Newydd. Yr oedd hyn yn peri ychydig o syndod i mi; oherwydd, os yw pob stori'n wir, nid oedd ganddo ef ei hun wrthwynebiad i brofi pethau newydd. Yr oedd yn ei feddwl gyfuniad o ryddfrydiaeth lem feirniadol ymladdgar ac o geidwadaeth a'i thynerwch a'i chydymdeimlad o'r golwg.

Trwy ryw ddamweiniau, cefais adnabod llawer o gydoeswyr Owen Jones, megis Edward Matthews, David Saunders a Dr. Edwards. Yr oedd ef a Saunders yn hollol wrthgyferbyniol. Naws oedd elfen amlycaf Dr. Saunders, beirniadaeth oedd elfen amlycaf Owen Jones; gwres serch yn toddi oedd un min erfyn dur oedd y llall. Yr oedd Matthews ac Owen Jones yn rhagori fel dadansoddwyr; ond hel golygfeydd i gyfanu drama bywyd wnai y naill, tra mai gosod gwahanol feini adeilad cywrain wnai'r llall. Meddai Dr. Edwards ac Owen Jones urddas, ond yr oedd urddas Dr. Edwards yn fwy heddychlon; urddas unigedd heddwch oedd, nid urddas tywysog llu ymosodol. Braidd. na thybiaf weithiau, er ei holl anhawsterau, y meddai Joseph Thomas neilltuolion goreu'r pedwar. Arabedd fflachiol, nid naws toddedig, oedd nerth Owen Jones. Synnai gynulleidfa â throeon chwim ei feddwl cyflym; nid y wên ar wyneb doethineb oedd ei arabedd, ond symudiadau buan anisgwyliadwy ei ddychymyg bywiog. Teimlad yn unig oedd ar ol. Yr oedd ei welediad fel min cleddyf; ond nid oedd trallodion bywyd a hunan aberth wedi dofi ei natur. Cydiai yn ei bicell lle bynnag y byddai.

Nid rhyfedd felly ei fod yn wleidyddwr aiddgar a dylanwadol. Troais yr ymddiddan at wleidyddiaeth. Yr adeg honno yr oedd Campbell-Bannerman yn arwain y Rhyddfrydwyr. Yr oedd gan Owen Jones feddwl mawr o hono, gwelai y cadernid addfwyn oedd o dan holl symudiadau yr arweinydd hawddgar a doeth. Darllenai'r Manchester Guardian bob dydd. Mewn gwleidyddiaeth hefyd, yr oedd ynddo gyfuniad o'r hen a'r newydd. Carai les y gwerinwr fel yn y dyddiau pan roddodd ei holl dalent ar waith i geisio ei ryddhau. Ond siaradai am newydd Blaid Llafur fel y siaradasai am y Ddiwinyddiaeth Newydd. Gydag addysg hefyd meddai'r un cyfuniad; eisiau mwy o egni ac eisiau mwy o gyfaddasu at anghenion gwlad. A dyma'r hen dywysog poblogaidd yn unigedd henaint. "Efe a eistedd ei hunan, ac a daw a son." Ni allai gael cartref mwy cysurus, nac atgofion am oes lawnach. Daeth gyda mi at y drws, a ffarweliodd yn null caredig y boneddwr perffaith.

Meddyliwn, wrth ei adael, tybed a gawn ei weled byth mwy. Anfonodd gennad serchog ataf, i ofyn imi ddod yno pan yn mynd heibio'r tro nesaf. Ond yr oedd ef wedi cychwyn ar y daith hir cyn i mi fynd at y Gelli drachefn. Yn hen ŵr rhadlon maddeugar, unig y gadewais i ef.

Pan ddaethum drosodd i Ddyffryn Dyfi, eis at hen gyfaill oedd yn ei gofio yn ei ogoniant. "Yr wyf yn ei gofio,' meddai. yn y Dyffryn hwn ar y maes o flaen John Elias. A fo aeth a hi o ddigon, yr oedd ei arabedd wedi gwefreiddio'r dorf." Adroddai am dano yn y Cemaes hefyd ar adeg etholiad brwd. Yr oedd sir Drefaldwyn yn newid ei chynrychiolaeth, ac yr oedd pob gallu ar waith. Owen Jones oedd arw y cyfarfod, ac yr oedd teimlad yn rhedeg yn uchel iawn. Ymysg y dorf yr oedd gŵr ieuane wyf fi'n gofio'n rheithor tawel yn y Bermo ac yn ganon boddlon ym Mangor. Ond yr adeg honno yr oedd yn orlawn o egni a hyawdledd câd. Ymwthiai i'r llwyfan, a gwaeddai wrthdystiadau. A rhag ofn i lanciau Dyfi wneud niwed iddo, galwodd Owen Jones am osteg. Ail anerchodd y dyrfa gythryblus,—

"Pan oeddwn i'n byw yn Nowlais, mi welais ddau ddyn yn ymladd ar yr heol. Yr oedd un wedi cael y llall i lawr. Ac wrth geisio ei gadw i lawr, yr oedd yn gwaeddi nes oedd y fro yn diaspedain. Pam rwyt ti'n gwaeddi? A dyna oedd ei ateb,— Dod i fyny y mae, er fy ngwaethaf.'

Gadewch i hwn gadw sŵn. Gweld y mae fod y wlad yn dod i fyny er gwaethaf popeth." Hawdd oedd gweled ergyd yr ystori, pan oedd gallu newydd yn y sir yn taflu'r hen allu i lawr. Llawer ystori debig o'i eiddo sy'n aros ar gof gwlad. Pan soniwn am dano, edrychai pobl arnaf yn syn. Yr oeddynt wedi anghofio am dano. Wedi sylweddoli ei fod yn fyw, yr un peth ddywedai pawb,— "Onid oes obaith ei weled yn dod y ffordd yma eto ?"

Y mae'r Gelli'n wag erbyn hyn, a gwag hefyd yw y bedd dan y goeden afalau. Tua dechreu'r flwyddyn hon cludwyd Owen Jones i'r fynwent brydferth yn Llanfair Caereinion lle'r hûn ei dad a Richard Jones. Fis wedyn, yn ol y cyfarwyddyd adawodd, agorwyd y bedd yn yr ardd. Pan oedd hi'n troi hanner nos Sul ym mis Mawrth, a chaenen o eira yn gwneud i'r wlad edrych fel drychiolaeth, codwyd gwraig ei ieuenctid o'i bedd, ac yr oeddis wedi ei rhoddi i ail orwedd ym medd ei gŵr cyn i neb yn Llanfair ddeffro o'i gwsg y bore Llun hwnnw. Yr wyf yn Nyffryn Banw o hyd; ond y mae'r afon, wrth roi tro am Foel Bentyrch, gryn ddwy filltir o'r ffordd. Y mae fy hanes innau wedi mynd yn bell oddiwrth ei destun. Maddeuer i mi; Owen Jones oedd rhyfeddod a gogoniant Dyffryn Banw y flwyddyn honno.

Clywais lawer o ddoethineb yn y gwesty y noson honno, a gwelais ryfeddodau. Yr oedd yno gleddyf tywysog; y mae gwraig y gwesty yn dywysoges weddw. Cefais hanes clwy'r edeu wlan. Yr ydych yn sal iawn, eich gwaed yn boeth a'ch ysbryd yn isel. Os felly, ewch at y doctor edeu wlan. Rhwymwch yr edeu wlan am y goes tan y pen glin, ac yfwch gwrw a dur ynddo neu Holland gin a saffrwm ynddo. Yna byddwch yn iach. Digon gwir, rhydd teimlo'r edeu wlan ffydd i chwi, pura'r dur a'r saffrwm eich gwaed; ond yn fy myw ni allaf weled i beth mae'r cwrw a'r ddiod arall dda.

Nid oes bosib peidio cysgu yn Llanerfyl. Pe deffroech yn y nos, clywech su pell nentydd y mynydd; daw Natur, fel mam dyner, i roi cwsg trwy eu hwian. Bore drannoeth eis ymlaen i'r pentref, a themtiwyd fi gan ei hen yw mawreddog i fynd i'r fynwent. Ac yma y mae Banw a'r ffordd yn dod at ei gilydd drachefn.

Pobl brysur yw angeu a'r clochydd. Yr oedd y clochydd welais i, yno er ys chwarter canrif, ac yr oedd wedi canu cnul dros dri chant o'i gymdogion. Mwyn oedd rhodio trwy'r acer dawel ar lan yr afon. Y mae gwŷr talentog yn huno yma. Dyma ddywed englyn Derwenog am Evan Lewis Llwyn Derw, fu farw'n ddeuddeg a thrigain oed,—

"Athraw da, a thra diwyd—oedd, a'i waith
Iddo ef yn hawddfyd;
Ei lafur yn dâl hefyd
A wêl efe mewn ail fyd."


Ac am Edward Lewis, Ty Nant, fu farw'n un ar ddeg ar hugain, dywedir,—

"Lewis aeth, ac wylo sydd—mwy i'w gael
Am y gwir awenydd;
O'i ol ef ar faes crefydd
Adwy fawr i'w chodi fydd."

Y mae calon yr ywen wedi darfod ond y mae ei rhisgl hen yn fyw ac y mae, er yn hen, yn un o'r yw harddaf yng Nghymru. Ei pherigl yw cnwd trwm o eira ar ei cheinciau mawrion llydain. Dani y mae carreg hynafol, ac arni y geiriau,—

PA
TERNINI.

Ond nis gwn ai carreg i Badarn Sant oedd. Medd yr eglwys hen ddarluniau. Ni allwn ganfod yn eglur yn y gwyll beth oeddynt; ond hawdd y gallai dychymyg dychrynedig gwas ffarm dybio mai coesau noethion rhai'n cael eu bwrw. i uffern, i'w rhoi dan draed y ddraig, a wêl ei lygaid.

Daw haint i'r fangre iach hon weithiau. Ar garreg fedd Griffith Evans o'r Gardden, fu farw ym mlodau ei ddyddiau yn 1835, ceir disgrifiad o

"Wr glwys, dyfal bwys ei ben—ar Iesu
A roes er yn fachgen;
Yr Iesu gyrchai'r dwysen
I'r fro uwch haul drwy'r frech wen.'

Ymysg rhes hir o deuluCriban y mae bedd gŵr ieuanc, Evan Howells, gladdwyd yn ddwy ar hugain oed yn 1858. Yr oedd y clochydd yn yr ysgol gydag ef, ac y mae hiraeth hen gyfeillion yn cael llais yn yr englyn sydd ar garreg ei fedd,—

"O'i flodau borau bwriwyd—i oer-fedd,
Ei yrfa orphenwyd :
Teg loewddyn, ai ti gladdwyd?
Amheu'r ŷm mai yma'r wyd."


Evan Breese (Ieuan Cadfan) wnaeth yr englyn. Y mae yntau wedi ei gladdu yma yn rhywle, ond nid oes cof ar ei fedd. Son am londer yr hen amser gynt! Beth feddyliech o garreg fedd a hyn ar ei hwyneb,—

FEL FINNAU
DIAU Y DEUWCH
ER MODDION ER
MEDDU POB HARDD
WCH ER TRWSIAD
DILLAD DEALLWCH
CEWCH BYDRU
A LLECHU MEWN
LLWCH.

Yr ochr arall y mae yr ysgrifen hon,—

"Here lyeth the body of Catherine Evans, the wife of Hugh Evans, who departed this life the 28 of August the year of our Lord 1780. Aged 39."

Ceir Saesneg ar yr hen feddau, ond Cymraeg yn unig ar y beddau newyddion. Cerddwch yn ysgafn, dyma hunell un o arwyr Cymru. Ychydig o bethau yn hanes llenyddiaeth Cymru sydd mor brudd ddiddorol ag ymdrech Erfyl, er nad oedd ond crupl yn dihoeni ac yn ofni beunydd ar erchwyn tragwyddoldeb, i godi meddwl ei wlad. Yng Nghaer, fel golygydd y Gwladgarwr, y daeth i sylw; ond yma y mae ei gartref a'i fedd. Dacw ei gartref, Cae'r Bachau, tŷ bychan talcen gwyn ar y llethr, i'r de-orllewin o'r eglwys, bron ar ben y bryn. A dyma ei fedd, a charreg bigfain uchel arno yn dwyn

Cysegredig
er coffadwriaeth am
HUGH JONES (Erfyl)
Mab ieuengaf
Evan ac Elizabeth Jones
gynt o Gaerbachau
yn y plwyf hwn
hunodd mewn tangnefedd
Mai 25, 1858,
Yn 69 mlwydd oed.

Huna isod wiw hanesydd,—Erfyl,
Prif fardd ac athronydd;
Gŵr o ddawn, gwir dduwinydd,
Hyd y farn ei glod a fydd.

Mae rhai'n dweyd fod Robert gystal bardd a'i frawd," ebe un o ddoethion y pentre am frawd Derwenog. Nid rhyfedd gennyf y dywediad wedi darllen yr englyn hwn ar fedd Jane Griffiths, Pant y Gaseg, fu farw'n fam ieuanc un a deugain oed, yn y flwyddyn 1882,——

"Yma'n dawel, am noson—hir hynod,
Yr huna mam dirion;
I wlad o hedd galwyd hon,
O'i chur, i wisgo'i choron."

Dau fab Cwm Derwen yw James Roberts (Derwenog) a'i frawd Robert. Yn uchel i fyny yng nghwm Nant yr Eira, i gyfeiriad Llanbrynmair, y mae Cwm Derwen. Nid rhyfedd y telir teyrnged uchel i athrylith y brodyr; y maent yn byw yn y cwm mwyaf meddylgar a darllengar, er ei uched ac er ei erwined, yn sir Drefaldwyn. Dyma englyn eto o waith Derwenog, oddiar fedd Evan Roberts, Dolau, diacon Beulah, fu farw'n un ar bymtheg a deugain oed, yn 1888,—

"Ysbeiliwyd eglwys Beulah—o allu'r
Gweddillion sydd yma;
Er hyn deil yr enw da
Tra erys Nant yr Eira."


Pellaf yn ol yr ewch, pruddach a mwyaf diobaith yr â'r englynion. Ar fedd Edward Thomas, Llwyn Derw, fu farw yn 1858, yn bedwar ugain ond pedair, pan oedd gwres y Diwygiad yn y wlad, ceir

"Gŵr diwyd, Cristion gwir dawel,—hunodd;
Y fan hon mae'i argel:
Ei enaid aeth lle nad el
Unrhyw och, mae'n rhy uchel."

Cyn hynny, yn 1853, ar fedd David Howells o Garreg y Big, fu farw'n ddeugain oed, ceir y llinellau prudd,—

"Pob glân, pob oedran, pawb bydrant,
Pob einioes, pawb anwyd, ddiflannant,
Pob lliw, llun, pob un, pawb ant,
Pob graddau, pawb gorweddant."

Daw efengyl burach a llawenydd mwy. Marw, dianc, byw,—dyma dri chyfnod ar englynion Llanerfyl.

Ond rhaid i ni brysuro ymlaen. Pentref bach tlws yw Llangadfan, ddwy filltir ymlaen. Y mae'r eglwys a'r persondy, yr ochr arall i'r afon, ar safiad hyfryd. Cefais brynhawn hapus gyda gŵr a gwraig y persondy, hi'n dirion fonheddig ac yntau'n efengylydd tyner a dwys. O'r cartref dedwydd a chroesawgar hwn gwelir cymoedd Cledau a'r Afon Gam, sy'n ymuno a'i gilydd rhwng Dol Hywel a Chae'r Bwla, ac yn dod i afon Banw ger Llangadfan. Dol Hywel yw cartref William Jones, bardd a hynafiaethydd enwog oedd yn byw o 1727 hyd 1795. Cyfieithodd Horas ac Ofydd i'r Gymraeg, casglodd hanes Llangadfan, ac ysgrifennodd gyfieithiad melodaidd o'r Salmau. Yr oedd yn feddyg enwog, yn enwedig ynglŷn âg anhwylderau croen, oedd yn gyffredin yr adeg honno. Gwellhaodd ei hun, ac yna ymroddodd i wella eraill. Pan ddaeth y Diwygiad Methodistaidd i'r wlad, trodd ei awen gref yn ffrewyll i Howel Harris. Y mae ei lawysgrifau yn rheithordy Llangadfan. Claddwyd ef yng nghefn eglwys Llangadfan; ond ni ŵyr neb ple mae ei fedd. Cae'r Bwla yw llecyn yr hen gerdd boblogaidd honno,—"Cerdd y Spotyn Du." Ar y ffordd i fyny at Nant yr Eira y mae lle o'r enw mwyaf cysurus a glywais i erioed, sef Gwern Claeargoed.

O'r fynwent ceir golygfa ardderchog ar fynyddoedd, yr Aran yn eu plith. Ymysg y llu sy'n gorwedd yma y mae Gutyn Padarn, fu'n rheithor am naw mlynedd ar hugain, ac yn ei ymyl hen ysgolfeistr, John Williams, fu yma am wyth mlynedd ar hugain. Dyma'r fynwent fwyaf Cymreig bur welais yn unlle erioed.

Wedi gadael Llangadfan, un plwy eto sydd yn nyffryn Banw, sef Garthbeibio. Tra'n teithio ymlaen hyd y pedair milltir neu bump at y pentref, yr oedd glendid y tai yn amlwg. Cawsom ddigon o brofiad hefyd, mai pobl ddarllengar yw'r bobl. Cynhaeaf bron didor sydd ar waelod Garthbeibio, gwair, yd, rhedyn, pytatws, mwsogl, mawn. Ac ar y bryniau y mae miloedd o ddefaid, ar Fynydd y Gadfa a Charreg y Fran un ochr, ac ar y Ffridd Goch a Bryn Ysguthan yr ochr arall. Clywais enwau cŵn yr ardal i gyd o lethrau'r mynyddoedd, a phrif elfennau cymeriad rhai ohonynt, yn enwedig Toss. A phwy sydd a lleisiau mor glir a bugeiliaid? Saif yr eglwys ar fryncyn uwchlaw'r pentref bychan, ac uwchlaw'r lle'r ymuna Twrch a Banw â'i gilydd. Ar y ffordd ati y mae'r Wtra Ddu, a'r Ffynnon Ddu, ar ei min, ond nid oes traddodiad am danynt, ebai'r rheithor caredig wrthyf. Ond am Ffynnon Tydecho cludid pinnau iddi tan yn gymharol ddiweddar, olion addoli rhyw hen dduw paganaidd y cymerodd un o seintiau oesau cred ei le. Lle iawn am wair rhos, awel y mynydd, iechyd, a phrydyddiaeth yw'r Garthbeibio. Dringais beth o'r bryn rhwng dyffryn Twrch a dyffryn Banw, ac anadlai awel o'r mynydd ar fy nhalcen, gan ysgafnhau fy ysbryd, a gwneud i mi deimlo fod Duw wedi gwneud byd wrth ei fodd.

Rhaid ail gychwyn. Mae'r ffordd a Banw'n cadw'n glos at ei gilydd fel mae'r cwm yn culhau. Pasiwn garreg sy'n dweyd ein bod hanner y ffordd rhwng y Trallwm a Machynlleth, pedair milltir ar bymtheg o bob un. Yr ydym yn dringo i fyny'n gyflym, a'r awel deneu adfywiol fel y gwin. Mor gain yw'r griafolen, mor dyner yw gwyrdd y caeau, —un peth prudd yn unig a welwn, sef amlder murddynod. Gadawn Nant Ysguthan ar y chwith, a thoc wele ni wrth amaethdy Dol y Maen. Ger yr amaethdy mynyddig hwn, y lle uchaf yn y dyffryn, disgyn dyfroedd Nant Cerrig y Groes i afon Banw. Cartref heddwch yw hwn; pe doi seguryd a gorffwys i'm rhan i, dyma'r man y dymunwn fod ynddo.

Wedi ei adael, ni welwn o'n blaenau ond eangder mynyddoedd. A thoc dyma ni yn y mynydd. Rhed y ffordd yn weddol wastad, ar y dde y mae bronnydd serth, ar y chwith, islaw'r ffordd, y mae mawnogydd corsiog. Ac yma, ar fin y ffordd, mewn brwyn glân, y genir Banw fach. Gwelsom hi pan ar ei lleiaf, yn ychydig ddiferynau.

Ymhob llyfr gelwir hi Banwy, sef dwfr yn disgyn o leoedd uchel, o'r gair "ban," sef uchel, a'r gair "wy," os gair hefyd, sef dwfr. Ond ar bob llafar gelwir hi Banw, sef mochyn bach. Beth sydd dlysach na mochyn bach a glanach?

Beth sydd hagrach na hwch neu faedd wedi ymdreiglo am flynyddoedd yn llaid y byd? Ar odrau ffridd Dol y Maen, ar fin y ffordd, fil o droedfeddi o uchter, cewch yr aber fach loywaf yn cychwyn ar ei thaith hir, a'i llais yn ddedwydd; ger olion mud Mathrafal, ar y gwastadedd, islaw, ceir hi'n afon gref, wedi tyrchu ei ffordd trwy fawnog a gwaen a gweirglodd, a murmur dwfn pryderus bywyd yn ei dyfroedd. O'r fan y genir y Banw, daw gogoniant mynyddoedd Meirion i'r golwg trwy Fwlch y Fedwen, dros hen gartref Gwylliaid Cochion Mawddwy. Ond na soniwn am danynt. Gwell gennyf, wrth gofio am yrfa Banw, feddwl am droeon fy ngyrfa fy hun.

Nodiadau golygu