Yn y Wlad/Y Glynnoedd Aur

Y Prif-ffyrdd a'r Caeau Yn y Wlad

gan Owen Morgan Edwards

Llanelwedd

II

Y GLYNNOEDD AUR

BETH sydd yn debig i rwysg yr haf wrth ymadael o'r glynnoedd? Nid yw rhwysg brenhines wrth adael ystafell wledd pennau coronog ond megis dim wrth ei ysblander. Os mynnech ei weled, ewch i gymoedd Dolgellau pan fo'r Hydref yn cochi ac yn melynu'r dail a Thachwedd yn eu gwasgar, yn gawodydd euraidd, ar y llawr.

Gadewais Ddolgellau ar fore mwyn yn niwedd yr hydref diweddaf, croesais y bont hir dros afon Wnion, a throais ar y dde hyd ffordd y Bala. Pan uwchlaw'r Llwyn, cartref y Barwn Owen laddwyd gan Wylliaid Cochion Mawddwy gynt, cymerais ffordd serth ar y chwith, oedd yn gadael y ffordd fawr, ac yn cyfeirio i Lanfachreth. Temtid fi beunydd i edrych yn ol ar ogoniant dyffryn Mawddach odditanaf ac ar hafanau Cader Idris y tu hwnt.

Ond o'r diwedd syrthiodd cyfaredd y ffordd o'm hamgylch ar fy ysbryd. Yr oedd natur yma yn ei swyn gwyllt, wedi cadw pethau prydferthaf yr hen goedwigoedd, oherwydd fod y wlad yn greigiog a rhedynog ac oherwydd fod hen deulu yn byw ynddi a'i fryd ar gadw'r hen ddull yn fyw. Teulu Nannau yw'r teulu, ac y mae'r plas yn rhywle yn y coed o'm blaen. Hwy sy'n gadael i'r hen dderw llydanfrig dyfu hyd nes yr elo'u boncyffion yn wag; y mae digon o hen dderw i Owen Glyndwr guddio pob Hywel Sele trwy Gymru yn eu ceubrenni. Hwy gododd y muriau, y pyrth, yr amaethdai a'r bythynod o ffurf a llun wrth fodd arlunydd. Erys y parciau ceirw hefyd,—a hudir y meddwl yn ol i adeg eang yr hen dywysogion Cymreig. Ac ar hydref fel hyn, y mae popeth fel pe'n cyd-heneiddio mewn henaint urddasol a thlws.

Dan sylwi a meddwl cyrhaeddais lannerch hyfryd gysgodol. Yr oedd y coed o'm cwmpas yng ngogoniant eu lliwiau, y gwyrdd yn prysur droi'n goch tanbaid neu'n felyn fflam. Yr oedd urddas y derw, er cynifer oedd wedi crino, yn rhoi gwedd rhyw dawelwch cadarn ar y fro. Codai'r rhedyn Mair tal i fyny mor uchel fel y tybiech y cystadlai à phalmwydd gwledydd mwy heulog mewn harddwch. Yr oedd mwsogl yn addurno'r muriau a'r pyrth. Gwenai mafon duon diweddar, wedi i'r rhew eu harbed, ar y gwrychoedd; a disgleiriai'r blodau taranau coch ym môn y llwyni; fel pe'n dangos na fedrai'r gaeaf sangu mewn cilfach mor glyd a chynnes a hon. Ar y chwith arweiniai llwybr drwy'r coed i Faes y Bryner, ar y dde yr oedd parc ceirw eang.

Ymlaen, uwch ben y ffordd, codai clogwyn grugog yn uchel i fyny. Un o ysgwyddau Moel Offrwm yw.

Toc daethum at y ffordd sy'n troi at blas Nannau. Y mae golwg hyfryd a hynafol ar bopeth; ac y mae atgofion llenyddol lu'n dod, o'r amser y bu Sion Dafydd Las fynych edifeiriol yn canu clodydd y teulu, i'r amser y bu Glasynys yn lloffa traddodiadau'r fro. Ar y ffordd at y tŷ yr oedd tyrfa o pheasants heirdd hirgoes, fel gwarchodlu o Fontenegriaid. Ar un llaw yr oedd teulu o geirw, ac ar yr ochr arall o ewigod. Ac yr oedd dail y coed fel pe bai arian ac aur wedi eu tywallt yn gawodydd ar y fro.

Disgynnais i lawr ar hyd ffordd serth, gan basio ambell fugail â'i air serchog ac ambell drol wlan yn cludo prif gyfoeth y wlad, nid i felinau Dolgellau fel cynt, ond i'w yrru i drefi pell. Trwy'r coed tal main cawn ambell olwg ar Gwm Blaen Glyn, fel gwlad dlos a'i gorchudd ar ei hwyneb. Cyn hir daethum i lawr at afon Pabi, a'i melin durn yn segur a distaw, gwelwn Borth yr Eog ar y dde, ac ar y bryncyn o'm blaen safai pentref bychan tlws Llanfachreth.

Y peth amlycaf ynddo ydyw'r eglwys, gyda'i thŵr ysgwar, a'i safiad yn brydferth ar fryn. Ynddi gorwedd llwch Rhys Jones y Blaenau. Y mae'r fynwent ar lethr yr un bryn. Ar ben y bryn, yn ymyl yr eglwys, y mae Fychaniaid Nannau'n huno. Yn eu mysg y mae'r Syr Robert Fychan gododd dros ddeng milltir a thrigain o waliau, o amgylch tir ei deulu a thir a amgaeodd. Am hwn, pan ddeallodd yn wir mai efe oedd y gŵr a'i helpodd i godi pwn ar ei geffyl, y dywedodd un o'i denantiaid,—"Yr argian fawr! 'Roeddwn i 'n meddwl mai dyn oeddych." Yn is i lawr, ac o gwmpas y teulu, y mae gweision Nannau, y gwas a ryddhawyd oddiwrth ei feistr. Yn is i lawr wedyn, hyd at fin y ffrwd, gorwedd tenantiaid Nannau, gwŷr bucheddol a chydwybodol wrth erlid ac wrth gredu yr hyn a erlidiasant, fu mewn penbleth lawer tro rhwng ofn Syr Robert ac ofn Un mwy nag efe. Yr ochr arall i'r ffordd,

yn is i lawr, yn y pant, llecha capel bychan y Methodistiaid. Am yr ymdrech rhwng Syr Robert a'i denantiaid, am helbul cael llecyn i osod capel. a'r helbul cael cerrig i'w godi, onid yw'r oll ar ddalennau diddorol a charedig Methodistiaeth Cymru?

Troais yn ol, ac eis hyd ffordd ochr y bryn, at gapel prydferth ac amlwg yr Anibynwyr yn Ffrwd yr Hebog. Ac onid yma y magwyd J. Machreth Rees? Heibio Bryn y Prydydd, daethum i ffordd gul rhwng y coed, hyd ochr bryn serth uwchlaw Afon Mawddach. Yr oeddwn yn dychmygu fod y coed oll yn cydio â'u holl nerth yn y mynydd rhag syrthi oherwydd yr oeddynt bron fel pe'n tyfu o fur ychydig ar osgo. Toc teneuodd y coed, a gwelwn fynydd hardd o'm blaen, yn gorwedd rhwng mynyddoedd mwy. Yr oedd yn union o'r un lun a llew, yn gorwedd a'i ben draw oddiwrthyf, fel pe'n gwylio â'i bawenau weithydd aur Gwynfynydd sydd y tu hwnt iddo. Wrth deithio ymlaen am yr Afon Wen a'r llew oedd ynghwsg, yr oedd golygfa newydd gyfareddol yn ymagor o'm blaen ymhob tro yn y ffordd. Sirioldeb tlws nentydd mynydd, prydferthwch telaid bedw arian, gwyrddlesni byrwellt porfa defaid, tynerwch mynyddoedd pell, ni welais erioed olygfeydd lle y gall enaid ymhyfrydu ac ymddigoni mor llwyr ynddynt. Mewn hyfrydwch pur eis heibio'r Dolau, lle cerrid brwyn at doi'r cynhaeaf diweddar, a dois at hen waith Dolfrwynog. Yma gynt llosgid rhedyn y fro, a gyrrid y lludw i Abertawe, i dynnu copr ohono. Honnir fod y nentydd yn codi oddiar, gopr ac aur yn rhywle yn y mynyddoedd creigiog hyn.

O'r gwastadedd bychan hwn y mae dwy ffordd ymlaen. Arwain un ar y chwith at dri pheth diddorol mewn gwlad ryfeddol o ramantus,— gwaith aur Gwynfynydd; rhaeadr Pistyll y Cain; a Chwm Heisian, cartref Williams o'r Wern. Arwain y llall ar y dde i'r mynydd—dir maith sydd rhwng aberoedd Mawddach ac aberoedd Dyfrdwy. Yr olaf gymerais i.

O'm blaen, ar fron Moel Hafod Owen, saif amaethdy Buarth yr E. Oddiyma cludodd teulu erlidiedig gwpan cymun weinyddid i'r mynyddwyr gan Charles o'r Bala. Os nad wyf yn camgofio, dyma gartref Edward Roberts Cwmafon, hoff gyfaill Ieuan Gwynedd; gwelais ei gartref yntau hefyd am yr afon a mi'r bore.

Cerddais ymlaen gydag ochr y Foel nes dod at gapel Hermon, a'r glyn swynol sy'n ymestyn tua'r mynydd ohono. A hawdd y gallwn ofyn cwestiwn David Charles Davies mewn lle tebig.— "Tybed y gall neb bechu mewn lle mor hardd?" I fyny wedyn, a golygfeydd yn ymagor fel yr esgynnwn, gan adael caeau serth Blaen y Glyn a'r Ty Canol a Hafody Hendre ar y dde, a chefais fy hun yn y mynydd. Yr oedd eangderau unig tawel Moel Ddefeidiog yn awr o'm blaen. Ar y chwith gallaswn gymeryd llwybr heibio Bant Glas a Thai Cynhaeaf, heibio'r Adwy Goch at Fedd Porus a Maes y Bedd yn nyffryn Cain, ac oddiyno i Drawsfynydd. Neu gallaswn fynd ar y dde, heibio Aber Geirw a Bryn Llin at Gwm Hesgen neu Dŵr y Maen, ac oddiyno i Flaen Lliw. Yr oedd cawod o wlithlaw mân fel gorchudd llwyd dros y mynyddoedd, a throais yn ol o lan afon Geirw.

Ar y ffordd yn ol cefais fwy o ddedwyddwch nag a gafodd neb oddiwrth aur Gwynfynydd, a deallais afiaeth y Gwyddel ymfalchiai mai

"All the gold there is in Ireland
Is the gold upon the broom."

Sefais mewn syndod yng nghanol un goedwig— Glyn yr Aur mewn gwirionedd oedd. Yr oedd llawer o'r dail eto'n aros ar y coed, ond yr oedd y gwyrdd wedi mynd i gyd, a choch a melyn wedi cymeryd ei le. Ac yr oedd tân megis yn gwrido yn y coch ac yn cynneu yn y melyn. Yr oedd y berth yn llosgi, a'r goedwig wedi ei gweddnewid i ogoniant na freuddwydiaswn i am ei debig. Ac yr oedd llawr y goedwig mor ogoneddus a hithau, wedi ei hulio â dail oedd yn disgleirio fel llafnau caboledig o aur ac o arian. A thrwy'r olygfa danlliw hon dawnsiai nentydd y mynydd, eu gwynder pur fel grisial wedi ei ymylu âg ifori.

Yr oedd y nos falmaidd yn disgyn, a throais tua Dolgellau'n ol. Gwelwn greigiau Moel Offrwm, dan eu rhedyn a'u grug, yn gwenu arnaf fel pe'n gwybod na wyddwn i o'r blaen am y glynnoedd aur y maent hwy'n warchod er dechre'r byd.