Yn y Wlad/Y Prif-ffyrdd a'r Caeau

Cynhwysiad Yn y Wlad

gan Owen Morgan Edwards

Y Glynnoedd Aur

YN Y WLAD.

——————

I,
Y PRIF-FFYRDD A'R CAEAU.

I GYMRO, anodd yw gwneud ei gartref mewn tref; plentyn y mynydd a'r môr a'r awyr lân agored yw ef. Deffry dyhead yn ei galon am y cwm a'r llyn a'r caeau, ac y mae swyn y breuddwyd hwnnw yn ei dynnu allan o drigfannau dynion yn ol i'w wlad ei hun. Ni dduir ei hawyr hi ond yn anaml iawn gan fwg trwm dinasoedd. Yno y mae milltiroedd rhwng pentre a phentre, ac yno y mae holl gyfrinion natur yn agored i'r hwn sydd yn dymuno eu gweled. Tynodd swyn y breuddwyd fi lawer gwaith; medrais ateb yr alwad ambell dro; dro arall nid oedd dim i'w wneud ond mwynhau y breuddwyd heb y sylwedd, breuddwydio am y mynydd heb deimlo ei awel, ac am y llynnoedd heb glywed murmur eu tonnau.

Ond mae y troeon y gallwyd troi y breuddwyd yn sylwedd yn goffadwriaeth fendigedig, ac er ceisio eu dwyn ger bron eraill yr wyf yn ysgrifennu yn awr. Ni wna cyffyrddiad â natur niwed yn y byd i neb, ac feallai y deffry y breuddwyd yn rhywrai, ac y cyfodant i geisio y swynion a'r cyfrinion eu hunain.

A wyddoch chwi rywbeth am ardal Ardudwy, heblaw a welsoch wrth ruthro trwodd yn y tren? Gwlad o fynyddoedd moelion, morfa llwyd, a chloddiau cerrig a welsoch felly. Nid oes fawr o swyn ynddi. Ond rhwng y morfa a'r mynyddoedd mae ffriddoedd sydd ym mis Mehefin yn wyrdd gan redyn ac eithin, ac ym misoedd Awst a Medi yn goch a phorffor gan redyn gwywedig a grug llawn blodau. Yno y mae afon Ysgethin yn cychwyn ei gyrfa yn unigrwydd y mynydd. ac yn troelli drwy'r mynydd-dir hyd nes cyrraedd Bont Fadog. Yno mae y coed yn dechre tyfu o'i deutu, ac yno rywdro y taflodd hen saer bont garreg gre dros ei lli. Edrychwch yn ol am funud. Anodd yw cael golygfa yng Nghymru wylltach a mwy unig, er y ceir yn aml un fwy aruchel. Fel gwal ddiadlam mae'r Llethr a'r Llawllech yn sefyll yn noethlwm uwch y cwm lle mae Llyn Bodlyn a Llyn Erddyn, ac y mae eu creigiau duon yn disgyn yn syth i'r dyfroedd sydd yr un mor ddu islaw. Yn nes yma hefyd y mae Pen y Ddinas -craig ysgythrog ac ar ei phen adfeilion hen gaer sydd mor hen nes ymddangos cyn hyned a'r mynydd ei hun o'r bron. Yno bu brwydro gynt, ond pwy fu yn brwydro nid oes neb a ŵyr. Mae tywyllwch yr oesoedd wedi gorchuddio eu hanes, ac nid oes gymaint ag un pelydr o draddodiad i oleuo y caddug.

Uwch ei phen cyfyd y Moelfre. Saif ar ben ei hun, yn dalgry a chrwn, a gwyrddlesni y glaswellt cwta i'w weled o'i droed hyd ei goryn. Ar finos. glir, dawel, mae'r defaid i'w gweled yn pori ar ei ael, a daw chwibaniad y bugail i'ch clust drwy'r awyr deneu. Ond arwydd glaw yw hynny, medd trigolion y Dyffryn. Er mor unig yr olygfa, mae yma rywbeth sydd bob amser yn gwneud i mi feddwl am henafiaeth heblaw henafiaeth natur. Mae hud a lledrith traddodiad ar y fro. Nis gwn am ddim arbennig, ond eto mae yno,—rhyw ymdeimlad fod ysbrydion hen oesau gynt yn cerdded y ffordd hyn, a bod grug y mynydd yn goch gan eu gwaed. Breuddwyd? Ie, ond mae bywyd yn anfarwol, ac ni wyddom pa hyd y pery ei ddylanwadau.

Ond trown at yr afon fin yr hwyr. Mae hi yn rhedeg o dan y bont, ac yn y man mae yng nghysgod trwm coed Cors y Gedol. Mae'r llwybr yn codi, heibio i hen fwthyn adfeiliedig ar ochr y bryn, a choed tal, tewfrig yn ei gysgodi. Aelwyd glyd a thân llawen fu yma, ond y mae pob ystafell yn agored i'r gwynt a'r glaw ers llawer blwyddyn. Mae y cyrn yn uchel, a'r cerrig wedi eu gosod yn bigau ar eu pen. Ar y to y mae'r mwsogl yn tyfu, a'r rhedyn bach yn tyfu o hono yntau. Ac i orffen y darlun, yng nghanol y dalen poethion a'r dail tafol y mae cafn mochyn carreg, fydd yma ymhell ar ol i'r hen furddyn fyned yn domen ac yn angof llwyr.

Mae awel yr hwyrnos yn sibrwd yn nail y coed. Ond ychydig gamrau eto yr ydym yng ngolwg y ffridd, ac mae'r coed yn myned yn deneuach. Ym mhell yn y dibyn oddi tanom y mae yr afon yn brochi, ac y mae ein llwybr fel ceulan uwch y lli. Bu yma dymestl fawr rywdro, canys y mae rhaeadr o gerrig mawr yn gordoi y llethr, a gelwir hwy hyd y dydd hwn yn Uffern Gerrig. Paham? Nis gwn, ond gwn nad oedd yr hen bobl yn arfer rhoddi enwau ar leoedd heb i'r lleoedd fod yn eu haeddu; ac yn ddiameu bu y fan hyn yn uffern i ryw un—ryw dro.

Ar y ffridd mae'r awel yn chware; mae iachusrwydd y mynydd ynddi a glanweithdra y mynydd ym mhob peth. Draw acw mae'r môr yn ymestyn o fau y Traeth Mawr, ar hyd glannau Lleyn ac Eifionnydd hyd bentir Penfro yn y De. Nid yw hwnnw ond aneglur, a rhwng y ddau dir mae'r don yn chware, ac mae'r gwynt yn dyfod trosti o'r Iwerddon draw. Môr unig yw hwn, heb fad, heb hwyl. Cof gennyf, flynyddau yn ol, ei wylio edrych a ddeuai un long i'r golwg yn rhywle. Ac feallai, ambell ddiwrnod, y gwelwn hwyl ar y gorwel, yn agoshau at Enlli. Yn araf, araf, deuai yn nes, llong fechan ar ei thaith i Borthmadog. Tarawai yr haul ar ei hwyliau gwynion. Gwnai fy mreuddwyd innau hi yn llong oedd yn cyrraedd adref o ryw wlad y dyheuwn am dani, o ryw ynys werdd yn y Tawelfor, o ryw gilfach lechwraidd ar ganolfor Ysbaen lle'r oedd môr ladron yn eu llongau hirddu, a thrysor cuddiedig, ac anturiaethau diri. Hithau yn flin a lluddedig wedi dianc rhag yr holl beryglon, yn hwylio yn araf i'r porthladd yn ol. Ond unig a gwag yw y môr hwn gan amlaf.

Dyna un olygfa ag y myn meddwl ehedeg yn ol ati lawer diwrnod, ond y mae lle i fwy nag un; ac y mae'r breuddwyd yn amrywio fel y bo'r nwyd. Draw dros feysydd tawel undonnog Môn mae pen mynydd y Wylfa yn ymgodi uwch y môr. Yno y mae Cemaes, fel hen bentre mewn darlun, ar lan y môr. Wrth gerdded hyd ymyl y clogwyn at eglwys Llanbadrig gallwch weled y pentre yn codi ris uwch ris o lan y dŵr, y bryn tu cefn i'r tai bychain gwynion, ac ar ben y bryn yr hen felin wynt yn estyn ei breichiau yn erbyn yr awyr glir. Bu natur yn garedig wrth Gemaes. Nid yw y môr yn cael chwyddo ei donnau cryfaf yn ei erbyn; yn hytrach mae fel llyn crwn wedi ei gloi i mewn gan dir, gydag un agoriad, a thrwyddo, ar ddiwrnod hafaidd, gellir gweld ar y gorwel fynyddoedd gleision ynys Manaw. Lle tasel yn edrych ymhell yw Cemaes.

Ni anghofiaf fyth fy ngolwg gyntaf ar y lle wrth ddyfod o Amlwch. Diwedd mis Mai oedd hi, ac nid oedd dim ond eithin, eithin yn llawn blodau, ym mhob man. Yr oedd yr awel yn llwythog o arogl y blodau. Yr oedd pob bwthyn bach gwyn fel pe yn ymguddio mewn eithin. Yr oedd gwynt glân y môr i'w deimlo hefyd. Edrychai pob peth fel pe bai gwynt y môr yn eu glanhau. Ac yna, o ben y golwg, dacw'r môr, môr diderfyn. Ni welwch mo Gemaes nes yn ei ymyl, ond aew mae clogwyn y Wylfa, a'r felin wynt, a melin Mechell ymhellach yn y wlad. I mi yr oeddwn fel pe yn myned i wlad hollol ddieithr, pell o Gymru. Pleser nid bychan yw disgyn wrth ddrws y llety mewn lle felly, ac ar ol cael bwyd myned allan am dro, gyda'r hwyr, i weled ansawdd y wlad. Y ffordd wen, hir, y tai hen flasiwn, y cei a'r cychod pysgota; y ffermydd a'u cloddiau a'u buarthau wedi eu gwyngalchu, y meysydd yn dechre blaguro, a'r môr fel gwregys lâs-nid peth i'w anghofio yn hawdd yw hyn.

Os mynnwch, treuliwch y diwrnod ar ben y clogwyni i edrych ar y môr. Nid môr unig yw hwn. Os yn dawel mae mŵg agerlongau mwya'r byd yn gorwedd yn darth ar y gorwel gydol y dydd. Daw y rhai lleiaf yn agos at y lan, clywch eu "chunk chunk," yn dyfod heibio i drwyn Cemlyn, ac yn y man y maent gyferbyn a chwi, bron odditanoch. Gallwch waeddi ar y dynion sydd ar y bwrdd. Ambell dro daw llong hwyliau heibio, yn ymlwybro yn erbyn y gwynt. Clywch ei rhaffau yn rhygnu a'r gwynt yn clecian ei hwyliau, a llais y llongwr wrth y llyw. Mae y rhai hyn yn gyfarwydd a'r llwybr, meiddiant ddyfod yn agos iawn i'r creigiau daneddog, er mwyn ysgoi nerth y llanw. Ymhellach draw mae'r llongau mawr ar eu ffordd i'r America, ac i bedwar cwr byd. Myned yn eofn mae y rhain, fel pe bai'r môr wedi ei wneud iddynt hwy, heb edrych i'r naill ochr na'r llall, ac yn chwythu yn awdurdodol os daw rhywbeth llai ar draws eu llwybr. Draw hefyd mae craig wen y Skerries a'i goleudy unig.

Arhoswch yma nes i'r haul fyned i lawr dros y tonnau. Foment yn ol yr oedd popeth yn llon yn y goleuni, disgleirdeb ar y môr, a gwyrddlesni ar y meysydd. Yn awr mae'r awyr yn oeri, mae'r môr yn duo ac yn cynddeiriogi, y mae'r gogoniant wedi cilio oddiar y meysydd. Mae'r gwynt yn oerach. Mae cân y don ger troed y graig ddaneddog yn troi yn rhu trymllyd, bygythiol. Mae'r haul wedi myned. Cyn pen hir bydd goleuni y Skerries yn fflachio draws awyr fel mellten welw, ac a'r llongau heibio fel trychiolaethau yn y tarth.

Pan oeddwn i yng Nghemaes yr oedd briallu yn dryfrith ym mhob cilfach a phant. Oddeutu'r ffrwd fechan redai i lawr i gilfach y gro ar lan y môr yr oeddynt hwy yn serenu. Gwelid hwy dan gysgod twmpathau'r eithin ac yn tyfu ar lanerchi tywodlyd lle 'roedd y gwningod yn chware. Melynent wyneb ambell geulan uwch y lli. Felly, i'm cof i, gwlad dlws yw Cemaes, gwlad dawel, lle ni phrysura bywyd. Gwlad y briallu a'r eithin blodeuog, arogl y môr a sŵn ei donnau, meysydd llawn gwair a blodau, amaethdai clyd, tawel.

Ond os dringwch i ben un o fryniau lleiaf Môn gwelwch draw fynyddoedd gleision Arfon, aruthredd eu clogwyni a'u cymoedd yn ymgolli yn y tês sydd rhyngoch â hwy. Yno, wrth droed y Wyddfa o'r bron y mae Capel Curig, mangre yng nghysgod y mynyddoedd yn bell bell o sŵn a thwrf y byd, a reolir gan beiriannau a rheilffyrdd. Cerddwch hyd y ffordd, heibio i'r hen eglwys yn y coed nes dyfod i ben y bryn bychan ac i olwg y llynnoedd. Nid hawdd anghofio'r olygfa. Nid oes undyn anystyriol wedi llenwi y rhain à cherrig a rwbel fel yn Llanberis, ond ymestynant yn loyw ac yn dawel dan wên haul a chyffyrddiad awel, a delweddant y Wyddfa yn eu dyfnder. Cyfyd bryniau a chreigiau oddeutu iddynt, ac mewn ambell i fan mae gweirgloddiau gwyrddlas yn cyffwrdd eu glannau. Cân y gog yma yn y gwanwyn o fore glâs tan nos, a'i llais hi a brefiad y ddafad yn unig sydd yn torri ar y distawrwydd.

Tawelwch a chadernid y mynydd yw ei swyn pennaf, tawelwch sydd yr un ar ol yr ystorm ac o'i blaen, cadernid sydd yn rhoddi cadernid hefyd i ysbryd cynhyrfus dyn. Er fod coffadwriaeth y rhai fu farw dros ryddid Cymru yn agos iawn atoch ym mroydd Eryri lleddfir y boen gan y tawelwch, a chynyrchir gobaith am bethau gwell.

Yma y mae cartref rhamant y Cymro. Bron nad yw sŵn y gwynt yn y cymoedd fel adlais utgorn hela Llywelyn, a murmur y don ar y gro fel murmur y don gynt lle'r ymadawodd Arthur. Nid rhyfedd fod Cymry yn glynu wrth eu traddodiadau, mae traddodiadau yn byw o'n hamgylch yng nghymoedd y mynyddoedd ac wrth lannau'r llynnoedd.

Ail i Gapel Curig yw Llyn Cwellyn yr ochr arall i'r Wyddfa, a chydradd a hwythau yw Bwlch y Tyddiad a Llyn Cwmbychan yn Ardudwy. Pell yw y fan honno hefyd o sŵn y byd, a phan bydd y gaeaf yn teyrnasu ni ddaw estron yn agos. Nid oes yno ond un amaethdy ar lan y llyn dan gysgod y mynyddoedd, a'r adeg y gwelir fwyaf o bobl yno yw adeg hel llus. Ar y Rhinogydd, y Fawr a'r Fach, y ceir y cynhaeaf mwyaf toreithiog, a daw pobl y pentrefi i fyny yn yr adeg i dreulio y dydd i'w hel. Ond y mae rhai cilfachau ar y Rhinog nad ant hwythau iddynt ond yn dra anaml. Cof gennyf rai blynyddoedd yn ol i was ffarm golli ei ffordd yn y nos wrth geisio croesi y mynydd o'r Bont Ddu i Gwm Nantcol. Methodd ei lwybr ar ol dyfod trwy Fwlch y Rhiwgur, ac yn lle croesi Sarnau Gwyr y Cwm crwydrodd filltiroedd o'i ffordd yn uwch i fyny ar y mynydd.

Gwybyddwyd ei golli; ond gan mai creadur erwydrol oedd, ni wnaed rhyw lawer o stwr, ni chwiliwyd yn fanwl am dano. Credwyd ei fod wedi myned i'r America, ac anghofiwyd ef.

Ym mhen ryw bedwar mis neu bump ar ol hyn daeth amser hel llus, a threiddiodd cwmni mwy anturiaethus na'r cyffredin i rai o gymoedd mwyaf anghysbell y Rhinog. Cyrhaeddasant at Lyn Hywel, llyn sydd wedi ei amgylchynu o'r bron â chlogwyni serth. Anaml y daw bugeiliad hyd yn oed ato, mor bell ac mor neilltuedig ydyw. Aeth y cwmni i lawr at y dŵr, a'r peth cyntaf a welsant, yn gorwedd yn ymyl y lan, oedd corff y dyn a gollwyd ers pedwar mis neu ragor. "'Dase fo'n gi Mr.——," meddai ei fam wrth yr heddgeidwad wedyn, gan enwi un o ddynion cyfoethocaf y plwyf, "mi fasech wedi cael hyd iddo ers talwm.' Nid dyma'r unig un o bethau prudd y mynydd; mae aml i stori dywyll am ei niwl a'i glogwyni, ac aml i fywyd wedi myned yn aberth iddo ef.

Gwelaf fy mod wedi crwydro 'mhell oddiwrth ddechre fy ysgrif, ac mae'n rhaid i mi dynnu at y terfyn. Fy amcan oedd ceisio rhoddi mynegiant i'r swyn sydd gan natur wyllt a'i phrydferthwch i ni fel cenedl. Credaf mai pobl y wlad ydym, trefi bychain yw ein trefi ni ym mhob man ond lle mae dylanwad y Saeson masnachol wedi gor-bwyso dylanwad y Celt, ac y mae awydd am y wlad yng nghalon pob gwir Gymro. Nid wyf yn proffesu gwybod fawr am feddwl y Sais, ond ymddengys i mi mai hiraethu y bydd ef am drefi neu ynte wledydd lle y caiff ddigon o helwriaeth a byw bywyd di—ddeddf. Rhoddodd Kipling eitha mynegiant iddo,—

"Ship me somewhere east of Suez,
Where the best is like the worst,
Where there ain't no Ten Commandments,
And a man can raise a thirst.

Ond mae golwg ar fynyddoedd ei wlad yn y pellter yn deffro hiraeth yng nghalon y Cymro am mai Cymru yw, pe na bai ganddo gâr na chyfaill o fewn i'w goror; y mae yn ei charu er ei mwyn ei hun fel y carai Goronwy Fôn. Pa le bynnag y bo mae rhyw sibrwd yn ei galon yn dweyd,—

"Cymru fach i mi—
Bro y llus a'r llynnoedd,
Corlan y mynyddoedd,
Hawdd ei charu hi."


Nis gwn yn iawn beth sydd yn achosi hyn, os nad dylanwad y tadau fu yn byw o genhedlaeth i genhedlaeth ar ei thir. I harddwch ei wlad y mae y Cymro yn ddyledus am ei feddwl naturiol farddonol. I symlrwydd y wlad y mae yn ddyledus am yr ysbryd caredig, gwerinol, sydd ynddo ar ei oreu. I gyfrinion ac arucheledd ei môr a'i mynydd y mae yn ddyledus am grefyddolder ei ysbryd a'i gariad tuag at ryddid. Y mae ei wlad, fel ei iaith, yn anadl einioes i'r Cymro. Ofnaf mai dirywio wna mewn trefi os na bydd yn medru cadw y cysylltiad yn fyw rhyngddo ef a bywyd y wlad.

Hoffwn fedru deffro ym meddyliau rhai deimlad bywiocach o brydferthwch y golygfeydd sydd o'u cwmpas. Mae y dylanwad yno yn sicr, ond nid yw yr ymdeimlad ohono yn fyw bob amser. Nis gwn am unpeth yn y byd hwn a rydd fwy o bleser parhaol na llygaid i weled anian. Ni raid i chwi fod yn unig wedyn.