Yny lhyvyr hwnn/Y pader, ney weði yr arglwyð

Y gredo, ney bynkeu yr ffyð gatholig Yny lhyvyr hwnn

gan John Prys


golygwyd gan John H. Davies
Y deng air deðyf, ney yr dec gor­chymmyn Duw

Pater noster, ney weði yr arglwyð.

YN tad ni, yr hwn wydyn y nef, santeider dy enw di:
Doed dy deyrnas di attom:
Gwneler dy ewylhys di: yn y ðayar, megis yn y nef.
Dyro yni heðiw yn bara beynyðiol.
Maðeu y ni yn dylyedion, val y madeuwn ni yn dylyedwyr ninney.
Ac na ðwc ni y brovedigaeth.
Ond rhyðhaa ni rac drwc. Amen.


Aue Maria.

HAmpych gwelh vair kyflawn o rad, mae Duw gyt a thi. Bendigaid wyd ymplith y gwrageð, a bendigedic yw ffrwyth dy groth di.

Amen.


Krist y ðywad val hyn.

PA beth bynnac y geisioch chwi gan vyn had yn vy enw i ef ae rhyð ywch. Meðylia ymma yr darlheawdyr glan, pan geisio gwr y nailh ay petheu anvad, ay petheu y vai ðrwc ar y les ehun, nad yn enw krist y mae yn dei­sif yno, keisiwch yn gyntaf deyrnas ðuw, ae gy­fiawnder ef, ar hynn ygyt ac y vo da er ych lhes y gwplair ywch.


Nodiadau

golygu