Yr Arglwydd yw fy Mugail clau

Y sawl ni rodia, dedwydd yw Yr Arglwydd yw fy Mugail clau

gan Edmwnd Prys

Bydd di gysurus yn dy Dduw

473[1] SALM XXIII.
M. S.

1 YR Arglwydd yw fy Mugail clau,
Ni ad byth eisiau arnaf;
Gorwedd a gaf mewn porfa fras,
Ar lan dwfr gloywlas araf.

2 Fe goledd f'enaid, ac a'm dwg
'R hyd llwybrau diddrwg, cyfion;
Er mwyn ei enw mawr di-lys,
Fe'm tywys ar yr union.

3 Pe rhodiwn, mi nid ofnwn hyn,
Yn nyffryn cysgod angau;
Wyt gyda mi, â'th nerth a'th ffon;
On'd tirion ydyw'r arfau?

4 Gosodaist Di fy mwrdd yn fras,
Lle'r oedd fy nghas yn gweled;
Olew i'm pen, a chwpan llawn,
Daionus iawn fu'r weithred.

5 O'th nawdd y daw y doniau hyn
I'm canlyn byth yn hylwydd;
A minnau a breswyliaf byth,
A'm nyth yn nhŷ yr Arglwydd.

Ffynhonnell

golygu
  1. Emyn rhif 473, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930