Yr Efengyl yn ôl Sant Matthew (testun cyfansawdd)

Yr Efengyl yn ôl Sant Matthew (testun cyfansawdd)


wedi'i gyfieithu gan William Morgan
golygwyd gan John Davies, Mallwyd
I'w darllen pennod wrth bennod gweler Yr Efengyl yn ôl Sant Matthew
Wikipedia logo Mae erthygl am y pwnc:
William Morgan
ar Wicipedia
Wikipedia logo Mae erthygl am y pwnc:
John Davies, Mallwyd
ar Wicipedia
Wikipedia logo Mae erthygl am y pwnc:
Yr Efengyl yn ôl Mathew
ar Wicipedia
Pennod I Pennod XI Pennod XXI
Pennod II Pennod XII Pennod XXII
Pennod III Pennod XIII Pennod XXIII
Pennod IV Pennod XIV Pennod XXIV
Pennod V Pennod XV Pennod XXV
Pennod VI Pennod XVI Pennod XXVI
Pennod VII Pennod XVII Pennod XXVII
Pennod VIII Pennod XVIII Pennod XXVIII
Pennod IX Pennod XIX
Pennod X Pennod XX

YR EFENGYL YN OL

SANT MATTHEW.

PENNOD I.

1 Achau Crist o Abraham i Joseph. 18 Ei genhedlu ef o'r Yspryd Glân, a'i eni o Fair forwyn, wedi ei dyweddio hi a Joseph. 19 Yr angel yn boddloni cam-dybus feddyliau Joseph, ac yn dehongli enwau Crist.

1 LLYFR cenhedliad Iesu Grist fab Da­fydd, fab Abraham.

2 Abraham a genhedlodd Isaac; ac Isaac a genhedlodd Jacob; a Jacob a genhedlodd Judas a'i frodyr;

3 A Judas a genhedlodd Phares a Zara o Thamar; a Phares a genhedlodd Esrom; ac Esrom a genhedlodd Aram;

4 Ac Aram a genhedlodd Aminadab; ac Aminadab a genhedlodd Naasson; a Naasson a genhedlodd Salmon;

5 A Salmon a genhedlodd Booz o Rachab; a Booz a genhedlodd Obed o Ruth; ac Obed a genhedlodd Jesse;

6 A Jesse a genhedlodd Dafydd frenhin; a Dafydd frenhin a genhedlodd Solomon o'r hon a fuasai wraig Urias;

7 A Solomon a genhedlodd Roboam; a Roboam a genhedlodd Abia; ac Abia a genhedlodd Asa;

8 Ac Asa a genhedlodd Josaphat; a Josaphat a genhedlodd Joram; a Joram a genhedlodd Ozias;

9 Ac Ozias a genhedlodd Joatham; a Joatham a genhedlodd Achaz; ac Achaz a genhedlodd Ezecias;

10 Ac Ezecias a genhedlodd Manasses; a Manasses a genhedlodd Amon; ac Amon a genhedlodd Josias;

11 A Josias a genhedlodd Jechonias a'i frodyr, ynghylch amser y symmudiad i Babilon:

12 Ac wedi y symmudiad i Babilon, Jechonias a genhedlodd Salathiel; a Salathiel a genhedlodd Zorobabel;

13 A Zorobabel a genhedlodd Abiud; ac Abïud a genhedlodd Eliacim; ac Eliacim a genhedlodd Azor;

14 Ac Azor a genhedlodd Sadoc; a Sadoc a genhedlodd Achim; ac Achim a genhedlodd Eliud

15 Ac Eliud a genhedlodd Eleazar; ac Eleazar a genhedlodd Matthan; a Matthan a genhedlodd Jacob;

16 A Jacob a genhedlodd Joseph, gwr Mair, o'r hon y ganed Iesu, yr hwn a elwir Crist.

17 Felly yr holl genhedlaethau o Abraham hyd Dafydd, sydd bedair cenhedlaeth ar ddeg; ac o Dafydd hyd y symmudiad i Babilon, pedair cenhedlaeth ar ddeg; ac o'r symmudiad i Babilon hyd Grist, pedair cenhedlaeth ar ddeg.

18 ¶ A genedigaeth yr Iesu Grist oedd fel hyn: Wedi dyweddio Mair ei fam ef â Joseph, cyn eu dyfod hwy ynghyd, hi a gafwyd yn feichiog o'r Yspryd. Glân.

19 A Joseph ei gwr hi, gan ei fod yn gyfiawn, ac heb chwennych ei gwneuthur hi yn siampl, a ewyllysiodd ei rhoi hi ymaith yn ddirgel.

20 Ac efe yn meddwl y pethau hyn, wele, angel yr Arglwydd a ymddangosodd iddo mewn breuddwyd, gan ddywedyd, Joseph, mab Dafydd, nac ofna gymmeryd Mair dy wraig: oblegid yr hyn a genhedlwyd ynddi sydd o'r Yspryd Glân.

21 A hi a esgor ar fab, a thi a elwi ei enw ef IESU: oblegid efe a wared ei bobl oddi wrth eu pechodau.

22 (A hyn oll a wnaethpwyd, fel y cyflawnid yr hyn a ddywedwyd gan yr Arglwydd trwy y prophwyd, gan ddywedyd,

23 Wele, morwyn a fydd feichiog, ac a esgor ar fab; a hwy a alwant ei enw ef Emmanuel; yr hyn o'i gyfieithu yw, Duw gyd â ni.)

24 A Joseph, pan ddeffroes o gwsg, a wnaeth megis y gorchymynasai angel yr Arglwydd iddo, ac a gymmerodd ei wraig:

25 Ac nid adnabu efe hi hyd oni esgorodd hi ar ei mab cyntaf-anedig. A galwodd ei enw ef IESU.

PENNOD II.

1 Y doethion yn cael eu cyfarwyddo at Grist trwy weinidogaeth seren: 11 yn ei addoli ef, ac yn cyflwyno eu hanrhegion. 14 Joseph yn ffoi i'r Aipht, efe, a'r Iesu a'i fam. 16 Herod yn lladd y plant; 20 ac yn marw. 23 Dwyn Crist yn ei ol i Galilea i Nazareth.

1 AC wedi geni yr Iesu yn Bethlehem Judea yn nyddiau Herod frenhin, wele, doethion a ddaethant o'r dwyrain i Jerusalem,

2 Gan ddywedyd, Pa le y mae yr hwn a anwyd yn Frenhin yr Iuddewon? canys gwelsom ei seren ef yn y dwyrain, a daethom i'w addoli ef.

3 Ond pan glybu Herod frenhin, efe a gyffröwyd, a holl Jerusalem gyd âg ef.

4 A chwedi dwyn ynghyd yr holl arch-offeiriaid ac ysgrifenyddion y bobl, efe a ymofynodd â hwynt pa le y genid Crist.

5 A hwy a ddywedasant wrtho, Yn Bethlehem Judea: canys felly yr ysgrifenwyd trwy y prophwyd:

6 A thithau, Bethlehem, tir Juda, nid lleiaf wyt ym mhlith tywysogion Juda: canys o honot ti y daw Tywysog, yr hwn a fugeilia fy mhobl Israel.

7 Yna Herod, wedi galw y doethion yn ddirgel, a'u holodd hwynt yn fanwl am yr amser yr ymddangosasai y seren.

8 Ac wedi eu danfon hwy i Bethlehem, efe a ddywedodd, Ewch, ac ymofynwch yn fanwl am y mab bychan; a phan gaffoch ef, mynegwch i mi, fel y gallwyf finnau ddyfod a'i addoli ef.

9 Hwythau, wedi clywed y brenhin, a aethant; ac wele, y seren a welsent yn y dwyrain a aeth o'u blaen hwy, hyd oni ddaeth hi a sefyll goruwch y lle yr oedd y mab bychan.

10 A phan welsant y seren, llawenychasant â llawenydd mawr dros ben.

11 ¶ A phan ddaethant i'r tŷ, hwy a welsant y mab bychan gyd â Mair ei fam; a hwy a syrthiasant i lawr, ac a'i haddolasant ef: ac wedi agoryd eu trysorau, a offrymmasant iddo anrhegion; aur, a thus, a myrr.

12 Ac wedi eu rhybuddio hwy gan Dduw trwy freuddwyd, na ddychwelent at Herod, hwy a aethant drachefn i'w gwlad ar hyd ffordd arall.

13 Ac wedi iddynt ymadaw, wele angel yr Arglwydd yn ymddangos i Joseph mewn breuddwyd, gan ddywedyd Cyfod cymmer y mab bychan a'i fam, a ffo i'r Aipht, a bydd yno hyd oni ddywedwyf i ti: canys ceisio a wna Herod y mab bychan i'w ddifetha ef.

14 Ac yntau pan gyfododd, a gymmerth y mab bychan a'i fam o hyd nos, ac a giliodd i'r Aipht;

15 Ac a fu yno hyd farwolaeth Herod: fel y cyflawnid yr hyn a ddywedwyd gan yr Arglwydd trwy y prophwyd, gan ddywedyd, O'r Aipht y gelwais fy mab.

16 Yna Herod, pan weles ei siommi gan y doethion, a ffrommodd yn aruthr, ac a ddanfonodd, ac a laddodd yr holl fechgyn oedd yn Bethlehem, ac yn ei holl gyffiniau, o ddwy-flwydd oed a than hynny, wrth yr amser yr ymofynasai efe yn fanwl â'r doethion.

17 Yna y cyflawnwyd yr hyn a ddywedasid gan Jeremias y prophwyd, gan ddywedyd,

18 Llefa glybuwyd yn Rama, galar, ac wylofain, ac ochain mawr, Rachel yn wylo am ei phlant; ac ni fynnai ei chysuro, am nad oeddynt.

19 ¶ Ond wedi marw Herod, wele angel yr Arglwydd mewn breuddwyd yn ymddangos i Joseph yn yr Aipht,

20 Gan ddywedyd, Cyfod, a chymmer y mab bychan a'i fam, a dos i dir Israel: canys y rhai oedd yn ceisio einioes y mab bychan a fuant feirw.

21 Ac wedi ei gyfodi, efe a gymmerth y mab bychan a'i fam, ac a ddaeth i dir Israel.

22 Eithr pan glybu efe fod Archelaus yn teyrnasu ar Judea yn lle ei dad Herod, efe a ofnodd fyned yno. Ac wedi ei rybuddio gan Dduw mewn breuddwyd, efe a giliodd i barthau Galilea.

23 A phan ddaeth, efe a drigodd mewn dinas a elwid Nazareth: fel y cyflawnid yr hyn a ddywedasid trwy y prophwydi, Y gelwid ef yn Nazaread.

PENNOD III

1 Pregeth Ioan, a'i swydd, a'i fuchedd, a'i fedydd; 7 y mae yn ceryddu y Phariseaid, 13 ac yn bedyddio Crist yn yr Iorddonen.

1 AC yn y dyddiau hynny y daeth Ioan Fedyddiwr, gan bregethu yn niffaethwch Judea,

2 A dywedyd, Edifarhêwch: canys nesaodd teyrnas nefoedd.

3 Oblegid hwn yw efe yr hwn y dywedwyd am dano gan Esaias y prophwyd, gan ddywedyd, Llef un yn llefain yn y diffaethwch, Parottowch ffordd yr Arglwydd; gwnewch yn uniawn ei lwybrau ef.

4 A'r Ioan hwnnw oedd a'i ddillad o flew camel, a gwregys o groen ynghylch ei lwynau: a'i fwyd oedd locustiaid a mêl gwyllt.

5 Yna yr aeth allan atto ef Jerusalem a holl Judea, a'r holl wlad o amgylch yr Iorddonen:

6 A hwy a fedyddiwyd ganddo ef yn yr Iorddonen, gan gyffesu eu pechodau.

7 ¶ A phan welodd efe lawer o'r Phariseaid ac o'r Saduceaid yn dyfod i'w fedydd ef, efe a ddywed. wrthynt hwy, gwiberod, pwy a'ch rhag-rybuddiodd i ffoi rhag y llid a fydd?

8 Dygwch gan hynny ffrwythau addas i edifeirwch.

9 Ac na feddyliwch ddywedyd ynoch eich hunain, Y mae gennym ni Abraham yn dad i ni: canys yr ydwyf yn dywedyd i chwi, y dichon Duw, ie, o'r meini hyn, gyfodi plant i Abraham.

10 Ac yr awrhon hefyd y mae y fwyell wedi ei gosod ar wreiddyn y prennau: pob pren gan hynny yr hwn nid yw yn dwyn ffrwyth da, a dorrir i lawr, ac a deflir yn tân.

11 Myfi yn ddiau ydwyf yn eich bedyddio chwi â dwfr i edifeirwch: eithr yr hwn sydd yn dyfod ar fy ol i, sydd gryfach na myfi, yr hwn nid ydwyf deilwng i ddwyn ei esgidiau: efe a'ch bedyddia chwi â'r Yspryd Glân, ac â thân.

12 Yr hwn y mae ei wyntyll yn ei law, ac efe a lwyr-lanhâ ei lawrdyrnu, ac a gasgl ei wenith i'w ysgubor; eithr yr us a lysg efe â thân anniffoddadwy.

13 ¶ Yna y daeth yr Iesu o Galilea i'r Iorddonen at Ioan, i'w fedyddio ganddo.

14 Eithr Ioan a warafunodd iddo ef, gan ddywedyd, Y mae arnaf fi eisieu fy medyddio gennyt ti, ac a ddeui di attaf fi?

15 Ond yr Iesu a attebodd ac a ddywedodd wrtho ef, Gâd yr awrhon; canys fel hyn y mae yn weddus i ni gyflawni pob cyfiawnder. Yna efe a adawodd iddo.

16 A'r Iesu, wedi ei fedyddio, a aeth yn y fan i fynu o'r dwfr: ac wele, y nefoedd a agorwyd iddo, ac efe a welodd Yspryd Duw yn disgyn fel colommen, ac yn dyfod arno ef.

17 Ac wele lef o'r nefoedd, yn dywedyd, Hwn yw fy anwyl Fab, yn yr hwn y'm boddlonwyd.

PENNOD IV.

1 Ympryd Crist, a'i demtiad. 11 Yr angelion yn gweini iddo. 13 Efe yn trigo yn Capernaum, 17 yn dechreu pregethu, 18 yn galw Petr ac Andreas, 21 Iago ac Ioan; 23 ac yn iachâu yr holl gleifion.

1 YNA yr Iesu a arweiniwyd i fynu i'r anialwch gan yr yspryd, i'w demtio gan ddiafol.

2 Ac wedi iddo ymprydio ddeugain niwrnod a deugain nos, ar ol hynny efe a newynodd.

3 A'r temtiwr pan ddaeth atto, a ddywedodd, Os mab Duw wyt ti, arch i'r cerrig hyn fod yn fara.

4 Ac yntau a attebodd ac a ddywedodd, Ysgrifenwyd, Nid trwy fara yn unig y bydd byw dyn, ond trwy bob gair a ddaw allan o enau Duw.

5 Yna y cymmerth diafol ef i'r ddinas sanctaidd, ac a'i gosododd ef ar binacl y deml;

6 Ac a ddywedodd wrtho, Os mab Duw wyt ti, bwrw dy hun i lawr; canys ysgrifenwyd, Y rhydd efe orchymyn i'w angylion am danat; a hwy a'th ddygant yn eu dwylo, rhag taro ohonot un amser dy droed wrth garreg.

7 Yr Iesu a ddywedodd wrtho, Ysgrifennwyd drachefn, Na themtia yr Arglwydd dy Dduw.

8 Trachefn y cymmerth diafol ef i fynydd tra uchel, ac a ddangosodd iddo holl deyrnasoedd y byd, a'u gogoniant;

9 Ac a ddywedodd wrtho, Hyn oll a roddaf i ti, os syrthi i lawr a'm haddoli i.

10 Yna yr Iesu a ddywedodd wrtho, Ymaith, Satan; canys ysgrifennwyd, Yr Arglwydd dy Dduw a addoli, ac ef yn unig a wasanaethi.

11 Yna y gadawodd diafol ef: ac wele, angylion a ddaethant, ac a weiniasant iddo.

12 ¶ A phan glybu'r Iesu draddodi Ioan, efe a aeth i Galilea.

13 A chan adaw Nazareth, efe a aeth ac a arhosodd yn Capernaum, yr hon sydd wrth y môr, y'nghyffiniau Zabulon a Nephthali:

14 Fel y cyflawnid yr hyn a ddywedwyd trwy Eseias y proffwyd, gan ddywedyd,

15 Tir Zabulon, a thir Nephthali, wrth ffordd y môr, tu hwnt i'r Iorddonen, Galilea'r Cenhedloedd:

16 Y bobl oedd yn eistedd mewn tywyllwch, a welodd oleuni mawr; ac i'r rhai a eisteddent ym mro a chysgod angau, y cyfododd goleuni iddynt.

17 ¶ O'r pryd hwnnw y dechreuodd yr Iesu bregethu, a dywedyd, Edifarhêwch: canys nesaodd teyrnas nefoedd.

18 ¶ A'r Iesu yn rhodio wrth fôr Galilea, efe a ganfu ddau frodyr, Simon, yr hwn a elwir Petr, ac Andreas ei frawd, yn bwrw rhwyd i'r môr; canys pysgodwyr oeddynt:

19 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Deuwch ar fy ol i, a mi a'ch gwnaf yn bysgodwyr dynion.

20 A hwy yn y fan, gan adael y rhwydau, a'i canlynasant ef.

21 Ac wedi myned rhagddo oddi yno, efe a welodd ddau frodyr eraill, Iago fab Zebedeus, ac Ioan ei frawd, mewn llong gyd â Zebëdeus eu tad, yn cyweirio eu rhwydau; ac a'u galwodd hwy.

22 Hwythau yn ebrwydd, gan adael y llong a'u tad, a'i canlynasant ef.

23 ¶ A'r Iesu a aeth o amgylch holl Galilea, gan ddysgu yn eu synagogau, a phregethu efengyl y deyrnas, ac iachâu pob clefyd a phob afiechyd ymhlith y bobl.

24 Ac aeth sôn amdano ef trwy holl Syria; a hwy a ddygasant ato yr holl rai drwg eu hwyl, a'r rhai yr oedd amryw glefydau a chnofeydd yn eu dala, a'r rhai cythreulig, a'r rhai lloerig, a'r sawl oedd a'r parlys arnynt; ac efe a'u hiachaodd hwynt.

25 A thorfeydd lawer a'i canlynasant ef o Galilea, a Decapolis, a Jerwsalem, a Jwdea, ac o'r tu hwnt i'r Iorddonen.

PENNOD V.

1 Crist yn dechreu ei bregeth ar y mynydd; 3 ac yn dangos pwy sydd ddedwydd, 13 pwy yw halen y ddaear, 14 goleuni y byd, dinas ar fryn, 15 y ganwyll: 17 ei ddyfod ef i gyflawni y gyfraith. 21 Beth yw lladd, 27 a godinebu, 33 a thyngu. 38 Y mae yn annog i ddioddef cam, 43 i garu, ie, ein gelynion, 48 ac i ymegnio berffeithrwydd.

1 A PHAN welodd yr Iesu y tyrfaoedd, efe a esgynnodd i'r mynydd: ac wedi iddo eistedd, ei ddisgyblion a ddaethant atto.

2 Ac efe a agorodd ei enau, ac a'u dysgodd hwynt, gan ddywedyd,

3 Gwỳn eu byd y tlodion yn yr ysbryd: canys eiddynt yw teyrnas nefoedd.

4 Gwỳn eu byd y rhai sydd yn galaru: canys hwy a ddiddenir.

5 Gwỳn eu byd y rhai addfwyn: canys hwy a etifeddant y ddaear.

6 Gwỳn eu byd y rhai sydd arnynt newyn a syched am gyfiawnder: canys hwy a ddiwellir.

7 Gwỳn eu byd y rhai trugarogion: canys hwy a gânt drugaredd.

8 Gwỳn eu byd y rhai pur o galon: canys hwy a welant Dduw.

9 Gwỳn eu byd y tangnefeddwyr: canys hwy a elwir yn blant i Dduw.

10 Gwỳn eu byd y rhai a erlidir o achos cyfiawnder: canys eiddynt yw teyrnas nefoedd.

11 Gwỳn eich byd pan y'ch gwaradwyddant, ac y'ch erlidiant, ac y dywedant bob drygair yn eich erbyn er fy mwyn i, a hwy yn gelwyddog.

12 Byddwch lawen a hyfryd: canys mawr yw eich gwobr yn y nefoedd: oblegid felly yr erlidiasant hwy y prophwydi a fu o'ch blaen chwi.

13 ¶ Chwi yw halen y ddaear: eithr o diflasodd yr halen, â pha beth yr helltir ef? ni thâl efe mwy ddim ond i'w fwrw allan, a'i sathru gan ddynion.

14 Chwi yw goleuni y byd. Dinas a osodir ar fryn, ni ellir ei chuddio.

15 Ac ni oleuant ganwyll, a'i dodi dan lestr, ond mewn canhwyllbren; a hi a oleua i bawb sydd yn y tŷ.

16 Llewyrched felly eich goleuni ger bron dynion, fel y gwelont eich gweithredoedd da chwi, ac y gogoneddont eich Tad yr hwn sydd yn y nefoedd.

17 ¶ Na thybiwch fy nyfod i dorri y gyfraith, neu y prophwydi: ni ddeuthum i dorri, ond i gyflawni.

18 Canys yn wir meddaf i chwi, Hyd onid êl y nef a'r ddaear heibio, nid â un iod nac un tippyn o'r gyfraith heibio, hyd oni chwblhâer oll.

19 Pwy bynnag gan hynny a dorro un o'r gorchymynion lleiaf hyn, ac a ddysgo i ddynion felly, lleiaf y gelwir ef yn nheyrnas nefoedd: ond pwy bynnag a'u gwnelo, ac a'u dysgo i eraill, hwn a elwir yn fawr yn nheyrnas nefoedd.

20 Canys meddaf i chwi, Oni bydd eich cyfiawnder yn helaethach na chyfiawnder yr ysgrifenyddion a'r Phariseaid, nid ewch i mewn i deyrnas nefoedd.

21 Clywsoch ddywedyd gan y rhai gynt, Na ladd; a phwy bynnag a laddo, euog fydd o farn:

22 Eithr yr ydwyf fi yn dywedyd i chwi, Pob un a ddigio wrth ei frawd heb ystyr, a fydd enog o farn: a phwy bynnag a ddywedo wrth ei frawd, Raca, a fydd euog o gynghor: a phwy bynnag a ddywedo, Oynfyd, a fydd euog o dân uffern.

23 Gan hynny, os dygi dy rodd i'r allor, ac yno dyfod i'th gof fod gan dy frawd ddim yn dy erbyn;

24 Gâd yno dy rodd ger bron yr allor, a dos ymaith: yn gyntaf cymmoder di a'th frawd, ac yna tyred ac offrwm dy rodd.

25 Cyttuna a'th wrthwynebwr ar frys, tra fyddech ar y ffordd gyd âg ef; rhag un amser i'th wrthwynebwr dy roddi di yn llaw y barnwr, ac i'r barnwr dy roddi at y swyddog, a'th daflu y'ngharchar.

26 Yn wir meddaf i ti, Ni ddeui di allan oddi yno, hyd oni thalech y ffyrling eithaf.

27 ¶ Clywsoch ddywedyd gan y rhai gynt, Na wna odineb:

28 Eithr yr ydwyf fi yn dywedyd i chwi, fod pob un a'r sydd yn edrych ar wraig i'w chwennychu hi, wedi gwneuthur eisoes odineb â hi yn ei galon.

29 Ac os dy lygad dehau a'th rwystra, tyn ef allan, a thafl oddi wrthyt: canys da i ti golli un o'th aelodau, ac na thafler dy holl gorph i uffern.

30 Ac os dy law ddehau a'th rwystra, torr hi ymaith, a thafl oddi wrthyt: canys da i ti golli un o'th aelodau, ac na thafler dy holl gorph i uffern.

31 A dywedwyd, Pwy bynnag a ollyngo ymaith ei wraig, rhoed iddi lythyr ysgar:

32 Ond yr ydwyf fi yn dywedyd i chwi, fod pwy bynnag a ollyngo ymaith ei wraig, ond o achos godineb, yn peri iddi wneuthur godineb: a phwy bynnag a briodo yr hon a ysgarwyd, y mae efe yn gwneuthur godineb.

33 ¶ Trachefn, clywsoch ddywedyd gan y rhai gynt, Na thwng anudon; eithr tâl dy lwon i'r Arglwydd:

34 Ond yr ydwyf fi yn dywedyd wrthych chwi, Na thwng ddim: nac i'r nef; canys gorseddfa Duw ydyw:

35 Nac i'r ddaear; canys troedfaingc ei draed ydyw: nac i Jerusalem; canys dinas y brenhin mawr ydyw.

36 Ac na thwng i'th ben; am na elli wneuthur un blewyn yn wỳn, neu yn ddu.

37 Eithr bydded eich ymadrodd chwi, Ië, îe; Nag ê, nag ê; oblegid beth bynnag sydd dros ben hyn, o'r drwg y mae.

38 ¶ Clywsoch ddywedyd, Llygad am lygad, a dant am ddant:

39 Eithr yr ydwyf fi yn dywedyd wrthych chwi, Na wrthwynebwch ddrwg: ond pwy bynnag a'th darawo ar dy rudd ddehau, tro y llall iddo hefyd.

40 Ac i'r neb a fynno ymgyfreithio â thi, a dwyn dy bais, gâd iddo dy gochl hefyd.

41 A phwy bynnag a'th gymhello un filltir, dos gyd ag ef ddwy.

42 Dyro i'r hwn a ofyno gennyt; ac na thro oddi wrth yr hwn sydd yn ewyllysio echwyna gennyt.

43 Clywsoch ddywedyd, Câr dy gymmydog, a chasâ dy elyn:

44 Eithr yr ydwyf fi yn dywedyd wrthych chwi, Cerwch eich gelynion, bendithiwch y rhai a'ch melldithiant, gwnewch dda i'r sawl a'ch casânt, a gweddiwch dros y rhai a wnel niwed i chwi, ac a'ch erlidiant;

45 Fel y byddoch blant i'ch Tad yr hwn sydd yn y nefoedd: canys y mae efe yn peri i'w haul godi ar y drwg a'r da, ac yn gwlawio ar y cyfiawn a'r anghyfiawn.

46 Oblegid os cerwch y sawl a'ch caro, pa wobr sydd i chwi? oni wna y publicanod hefyd yr un peth?

47 Ac os cyferchwch well i'ch brodyr yn unig, pa ragoriaeth yr ydych chwi yn ei wneuthur? onid ydyw y publicanod hefyd yn gwneuthur felly?

48 Byddwch chwi gan hynny yn berffaith, fel y mae eich Tad yr hwn sydd yn y nefoedd yn berffaith.

PENNOD VI.

1 Crist yn myned rhagddo yn ei bregeth ar y mynydd; gan draethu am elusen, 5 a gweddi, 14 maddeu in brodyr, 16 ac ympryd; 19 pa le y mae i ni roddi ein trysor i gadw; 24 ynghylch gwasanaethu Duw a mammon: 25 yn annog na bydder gofalus am bethau bydol; 33 ond am geisio teyrnas Dduw.

1 GOCHELWCH rhag gwneuthur eich elusen y'ngŵydd dynion, er mwyn cael eich gweled ganddynt: os amgen ni chewch dâl gan eich Tad yr hwn sydd yn y nefoedd.

2 Am hynny pan wnelych elusen, na udgana o'th flaen, fel y gwna y rhagrithwyr yn y synagogau, ac ar yr heolydd, fel y molianner hwy gan ddynion. Yn wir, meddaf i chwi, Y maent yn derbyn eu gwobr.

3 Eithr pan wnelych di elusen, na wyped dy law aswy pa beth a wna dy law ddehau;

4 Fel y byddo dy elusen yn y dirgel: a'th Dad yr hwn a wêl yn y dirgel, efe a dâl i ti yn yr amlwg.

5 ¶ A phan weddïech, na fydd fel y rhagrithwyr: canys hwy a garant weddio yn sefyll yn y synagogau, ac y'nghonglau yr heolydd, fel yr ymddangosont i ddynion. Yn wir meddaf i chwi, Y maent yn derbyn eu gwobr.

6 Ond tydi, pan weddïech, dos i'th ystafell; ac wedi cau dy ddrws, gweddïa ar dy Dad yr hwn sydd yn y dirgel; a'th Dad yr hwn a wêl yn y dirgel, a dâl i ti yn yr amlwg.

7 A phan weddïoch, na fyddwch siaradus, fel y cenhedloedd: canys y maent hwy yn tybied y cânt eu gwrandaw am eu haml eiriau.

8 Na fyddwch gan hynny debyg iddynt hwy: canys gŵyr eich Tad pa bethau sydd arnoch eu heisieu, cyn gofyn o honoch ganddo.

9 Am hynny gweddiwch chwi fel hyn: Ein Tad, yr hwn wyt yn y nefoedd, Sancteiddier dy enw.

10 Deled dy deyrnas. Gwneler dy ewyllys, megis yn y nef, felly ar y ddaear hefyd.

11 Dyro i ni heddyw ein bara beunyddiol.

12 A maddeu i ni ein dyledion, fel y maddeuwn ninnau i'n dyledwyr.

13 Ac nac arwain ni i brofedigaeth; eithr gwared ni rhag drwg. Canys eiddot ti yw y deyrnas, a'r nerth, a'r gogoniant, yn oes oesoedd. Amen.

14 Oblegid os maddeuwch i ddynion eu camweddau, eich Tad nefol a faddeu hefyd i chwithau:

15 Eithr oni faddeuwch i ddynion eu camweddau, ni faddeu eich Tad eich camweddau chwithau.

16 ¶ Hefyd, pan ymprydioch, na fyddwch fel y rhagrithwyr, yn wyneb-drist: canys anffurfio eu hwynebau y maent, fel yr ymddangosont i ddynion eu bod yn ymprydio. Yn wir meddaf i chwi, Y maent yn derbyn eu gwobr.

17 Eithr pan ymprydiech di, enneinia dy ben, a golch dy wyneb;

18 Fel nad ymddangosech i ddynion dy fod yn ymprydio, ond i'th Dad yr hwn sydd yn y dirgel: a'th Dad yr hwn sydd yn gweled yn y dirgel, a dâl i ti yn amlwg.

19 ¶ Na thrysorwch i chwi drysorau ar y ddaear, lle y mae gwyfyn a rhwd yn llygru, a lle y mae lladron yn cloddio trwodd ac yn lladratta;

20 Eithr trysorwch i chwi drysorau yn y nef, lle nid oes na gwyfyn na rhwd yn llygru, a lle nis cloddia lladron trwodd ac nis lladrattânt.

21 Canys lle y mae eich trysor, yno y bydd eich calon hefyd.

22 Canwyll y corph yw y llygad: am hynny o bydd dy lygad yn syml, dy holl gorph fydd yn oleu.

23 Eithr os bydd dy lygad yn ddrwg, dy holl gorph fydd yn dywyll. Am hynny os bydd y goleuni sydd ynot yn dywyllwch, pa faint fydd y tywyllwch!

24 ¶ Ni ddichon neb wasanaethu dau arglwydd; canys naill ai efe a a ymlyn wrth y naill, ac a esgeulusa y llall. Ni ellwch wasanaethu Duw a mammon

25 Am hynny meddaf i chwi, Na ofelwch am eich bywyd, pa beth a fwyttâoch, neu pa beth a yfoch; neu am eich corph, pa beth a wisgoch. Onid yw y bywyd yn fwy na'r bwyd, a'r corph yn fwy na'r dillad?

26 Edrychwch ar adar y nefoedd: oblegid nid ydynt yn hau, nac yn medi, nac yn cywain i ysguboriau; ac y mae eich Tad nefol yn eu porthi hwy. Onid ydych chwi yn rhagori llawer arnynt hwy?

27 A phwy o honoch gan ofalu, a ddichon chwanegu un cufydd at ei faintioli?

28 A phaham yr ydych chwi yn gofalu am ddillad? Ystyriwch lili y maes, pa fodd y maent yn tyfu; nid ydynt nac yn llafurio nac yn nyddu:

29 Eithr yr wyf yn dywedyd i chwi, na wisgwyd Solomon yn ei holl ogoniant fel un o'r rhai hyn.

30 Am hynny os dillada Duw felly lysieuyn y maes, yr hwn sydd heddyw, ac y fory a fwrir i'r ffwrn, oni ddillada efe chwi yn hytrach o lawer o chwi o ychydig ffydd

31 Am hynny na ofelwch, gan ddywedyd, Beth a fwyttâwn? neu, Beth a yfwn? neu, A pha beth yr ymddilladwn?

32 (Canys yr holl bethau hyn y mae y Cenhedloedd yn eu ceisio;) oblegid gŵyr eich Tad nefol fod arnoch eisieu yr holl bethau hyn.

33 Eithr yn gyntaf ceisiwch deyrnas Dduw, a'i gyfiawnder ef, a'r holl bethau hyn a roddir i chwi yn ychwaneg.

34 Na ofelwch gan hynny dros drannoeth: canys trannoeth. a ofala am ei bethau ei hun. Digon i'r diwrnod ei ddrwg ei hun.

PENNOD VII.

1 Crist yn gorphen ei bregeth ar y mynydd; yn gwahardd barn chud, 6 a bwrw pethau sanctaidd i gwn: 7 yn annog i weddio, 13 i fyned i mewn trwy y porth cyfyng, 15 i ymgadw rhag gau brophwydi; 21 na byddom wrandawyr yn unig, ond gwneuthurwyr y gair, 24 a chyffelyb i dai wedi eu hadeiladu ar y graig, 26 ac nid ar y tywod.

1 NA fernwch, fel na'ch barner:

2 Canys â pha farn y barnoch y'ch bernir; ac â pha fesur y mesuroch, yr adfesurir i chwithau.

3 A phaham yr wyt yn edrych ar y brycheuyn sydd yn llygad dy frawd, ac nad ydwyt yn ystyried y trawst sydd yn dy lygad dy hun?

4 Neu pa fodd y dywedi wrth dy frawd, Gad i mi fwrw allan y brycheuyn o'th lygad; ac wele drawst yn dy lygad dy hun?

5 O ragrithiwr, bwrw allan yn gyntaf y trawst o'th lygad dy hun; ac yna y gweli yn eglur fwrw y brycheuyn allan o lygad dy frawd.

6 Na roddwch y peth sydd sanctaidd i'r cwn, ac na theflwch eich gemmau o flaen y moch; rhag iddynt eu sathru dan eu traed, a throi a'ch rhwygo chwi.

7 ¶ Gofynwch, a rhoddir i chwi; ceisiwch, a chwi a gewch; curwch, ac fe agorir i chwi:

8 Canys pob un sydd yn gofyn, sydd yn derbyn; a'r neb sydd yn ceisio, sydd yn cael; ac i'r hwn sydd yn curo, yr agorir.

9 Neu a oes un dyn o honoch, yr hwn os gofyn ei fab iddo fara, a rydd iddo garreg?

10 Ac os gofyn efe bysgodyn, a ddyry efe sarph iddo?

11 Os chwychwi gan hynny, a chwi yn ddrwg, a fedrwch roddi rhoddion da i'ch plant, pa faint mwy y rhydd eich Tad yr hwn sydd yn y nefoedd bethau da i'r rhai a ofynant iddo?

12 Am hynny pa bethau bynnag oll a ewyllysioch eu gwneuthur o ddynion i chwi, felly gwnewch chwithau iddynt hwy: canys hyn yw y gyfraith a'r prophwydi.

13 ¶ Ewch i mewn trwy y porth cyfyng: canys ehang yw y porth, a llydan yw y ffordd, sydd yn arwain i ddistryw; a llawer yw y rhai sydd yn myned i mewn trwyddi:

14 Oblegid cyfyng yw y porth, a chul yw y ffordd, sydd yn arwain i'r bywyd; ac ychydig yw y rhai sydd yn ei chael hi.

15 Ymogelwch rhag gau-brophwydi, y rhai a ddeuant attoch yng ngwisgoedd defaid, ond oddi mewn bleiddiaid rheibus ydynt hwy.

16 Wrth eu ffrwythau yr adnabyddwch hwynt. A gasgl rhai rawnwin oddi ar ddrain, neu ffigys oddi ar ysgall?

17 Felly pob pren da sydd yn dwyn ffrwythau da; ond y pren drwg sydd yn dwyn ffrwythau drwg.

18 Ni ddichon pren da ddwyn ffrwythau drwg, na phren drwg ddwyn ffrwythau da.

19 Pob pren heb ddwyn ffrwyth da, a dorrir i lawr, ac a deflir yn tan

20 O herwydd paham, wrth eu ffrwythau yr adnabyddwch hwynt.

21 ¶ Nid pob un a'r sydd yn dywedyd wrthyf, Arglwydd, Arglwydd, a ddaw i mewn i deyrnas nefoedd; ond yr hwn sydd yn gwneuthur ewyllys fy Nhad yr hwn sydd yn y nefoedd.

22 Llawer a ddywedant wrthyf yn y dydd hwnnw, Arglwydd, Arglwydd, oni phrophwydasom yn dy enw di? ac oni fwriasom allan gythreuliaid yn dy enw di? ac oni wnaethom wyrthiau lawer yn dy enw di?

23 Ac yna yr addefaf wrthynt, Nis adnabûm chwi erioed: ewch ymaith oddi wrthyf, chwi weithredwyr anwiredd.

24 ¶ Gan hynny pwy bynnag sydd yn gwrandaw fy ngeiriau hyn, ac yn eu gwneuthur, mi a'i cyffelybaf ef i wr doeth, yr hwn a adeiladodd ei dy ar y graig:

25 A'r gwlaw a ddisgynodd, a'r llifeiriaint a ddaethant, a'r gwyntoedd a chwythasant, ac a ruthrasant ar y tŷ hwnnw; ac ni syrthiodd : oblegid sylfaenesid ef ar y graig.

26 A phob un a'r sydd yn gwrandaw fy ngeiriau hyn, ac heb eu gwneuthur, a gyffelybir i wr ffol, yr hwn a adeiladodd ei dŷ ar y tywod:

27 A'r gwlaw a ddisgynodd, a'r llifddyfroedd a ddaethant, a'r gwyntoedd a chwythasant, ac a gurasant ar y tŷ hwnnw; ac efe a syrthiodd, a'i gwymp a fu fawr.

28 A bu, wedi i'r Iesu orphen y geiriau hyn, y torfeydd a synnasant wrth ei ddysgeidiaeth ef:

29 Canys yr oedd efe yn eu dysgu hwynt fel un ag awdurdod ganddo, ac nid fel yr ysgrifenyddion.

PENNOD VIII.

2 Crist yn glanhâu y gwahan-glwyfus; 5 yn iachâu gwas y canwriad, 14 a mam gwraig Petr, 16 a llawer o rai chwyfus eraill: 19 yn dangos pa fodd y mae ei ddilyn ef: 23 yn gostegu y dymmestl ar y môr: 28 yn gyrru cythreuliaid allan o ddau gythreulig; 31 ac yn caniadu iddynt fyned i'r moch.

1 AC wedi ei ddyfod ef i waered ac o'r mynydd torfeydd lawer a'i canlyniasant ef

2 Ac wele, un gwahan-glwyfus a ddaeth, ac a'i haddolodd ef, gan ddywedyd, Arglwydd, os mynni, ti a elli fy nglanhâu i.

3 A'r Iesu a estynodd ei law, ac a gyffyrddodd âg ef, gan ddywedyd, Mynnaf, glanhâer di. Ac yn y fan ei wahanglwyf ef a lanhâwyd.

4 A dywedodd yr Iesu wrtho, Gwêl na ddywedych wrth neb; eithr dos, dangos dy hun i'r offeiriad, ac offrymma'r rhodd a orchmynnodd Moses, er tystiolaeth iddynt.

5 ¶Ac wedi dyfod yr Iesu i mewn i Gapernaum, daeth ato ganwriad, gan ddeisyfu arno,

6 A dywedyd, Arglwydd, y mae fy ngwas yn gorwedd gartref yn glaf o'r parlys, ac mewn poen ddirfawr.

7 A'r Iesu a ddywedodd wrtho, Mi a ddeuaf, ac a'i hiachâf ef.

8 A'r canwriad a atebodd ac a ddywedodd, Arglwydd, nid ydwyf fi deilwng i ddyfod o honot dan fy nghronglwyd: eithr yn unig dywed y gair, a'm gwas a iachêir.

9 Canys dyn ydwyf finnau dan awdurdod, a chennyf filwyr danaf: a dywedaf wrth hwn, Cerdda, ac efe a â; ac wrth arall, Tyred, ac efe a ddaw; ac wrth fy ngwas, Gwna hyn, ac efe a'i gwna.

10 A'r Iesu pan glybu, a ryfeddodd, ac a ddywedodd wrth y rhai oedd yn canlyn, Yn wir meddaf i chwi, Ni chefais gymaint ffydd, na ddo yn yr Israel.

11 Ac yr ydwyf yn dywedyd i chwi, y daw llawer o'r dwyrain a'r gorllewin, ac a eisteddant âg Abraham ac Isaac a Jacob yn nheyrnas nefoedd;

12 Ond plant y deyrnas a deflir i'r tywyllwch eithaf: yno y bydd wylofain a rhingcian dannedd.

13 A dywedodd yr Iesu wrth y canwriad, Dos ymaith; ac megis y credaist, bydded i ti. A'i was a iachawyd yn yr awr honno.

14 ¶ A phan ddaeth yr Iesu i dŷ Petr, efe a welodd ei chwegr ef yn gorwedd, ac yn glaf o'r cryd.

15 Ac efe a gyffyrddodd â'i llaw hi; a'r cryd a'i gadawodd hi: a hi a gododd, ac a wasanaethodd arnynt.

16 ¶ Ac wedi ei hwyrhâu hi, hwy a ddygasant atto lawer o rai cythreulig: ac efe a fwriodd allan yr ysbrydion â'i air, ac a iachaodd yr holl gleifion;

17 Fel y cyflawnid yr hyn a ddywedasid trwy Eseias y proffwyd, gan ddywedyd, Efe a gymmerodd ein gwendid ni, ac a ddug ein clefydau.

18 ¶ A'r Iesu, pan welodd dorfeydd lawer o'i amgylch, a orchymynnodd fyned drosodd i'r làn arall.

19 A rhyw ysgrifennydd a ddaeth, ac a ddywedodd wrtho, Athraw, mi a'th ganlynaf i ba le bynnag yr elych.

20 A'r Iesu a ddywedodd wrtho, Y mae ffauau gan y llwynogod, a chan ehediaid y nefoedd nythod; ond gan Fab y dyn nid oes le i roddi ei ben i lawr.

21 Ac un arall o'i ddisgyblion a ddywedodd wrtho, Arglwydd, gâd imi yn gyntaf fyned a chladdu fy nhad.

22 A'r Iesu a ddywedodd wrtho, Canlyn fi; a gâd i'r meirw gladdu eu meirw.

23 Ac wedi iddo fyned i'r llong, ei ddisgyblion a'i canlynasant ef.

24 Ac wele, bu cynnwrf mawr yn y môr, hyd oni chuddiwyd y llong gan y tonnau: eithr efe oedd yn cysgu.

25 A'i ddisgyblion a ddaethant atto, ac a'i deffroasant, gan ddywedyd, Arglwydd, cadw ni: darfu amdanom.

26 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Paham yr ydych yn ofnus, O chwi o ychydig ffydd? Yna y cododd efe, ac y ceryddodd y gwyntoedd a'r môr; a bu dawelwch mawr.

27 A'r dynion a ryfeddasant, gan ddywedyd, Pa ryw un yw hwn, gan fod y gwyntoedd hefyd a'r môr yn ufuddhau iddo!

28 Ac wedi ei ddyfod ef i'r làn arall, i wlad y Gergesiaid, dau ddieflig a gyfarfuant âg ef, y rhai a ddeuent o'r beddau, yn dra ffyrnig, fel na allai neb fyned y ffordd honno.

29 Ac wele, hwy a lefasant, gan ddywedyd, Iesu, Fab Duw, beth sydd i ni a wnelom â thi? a ddaethost ti yma i'n poeni ni cyn yr amser?

30 Ac yr oedd ymhell oddi wrthynt genfaint o foch lawer, yn pori.

31 A'r cythreuliaid a ddeisyfasant arno, gan ddywedyd, Os bwri ni allan, caniatâ i ni fyned ymaith i'r genfaint foch.

32 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Ewch. A hwy wedi myned allan, a aethant i'r genfaint foch: ac wele, yr holl genfaint foch a ruthrodd dros y dibyn i'r môr, ac a fuant feirw yn y dyfroedd.

33 A'r meichiaid a ffoesant: ac wedi eu dyfod hwy i'r ddinas, hwy a fynegasant bob peth; a pha beth a ddarfuasai i'r rhai dieflig.

34 Ac wele, yr holl ddinas a ddaeth allan i gyfarfod â'r Iesu: a phan ei gwelsant, attolygasant iddo ymadael o'u cyffiniau hwynt.

PENNOD IX.

2 Crist yn iachâu un claf o'r parlys, 9 yn galw Matthew o'r dollfa, 10 yn bwytta gyd â phublicanod a phechaduriaid, 14 yn amddiffyn ei ddisgyblion am nad ymprydient, 20 yn iachâu y diferlif gwaed, 23 yn cyfodi merch Jairus o farw, 27 yn rhoddi eu golwg i ddau ddyn dall, iachâu mudan cythreulig, 36 ac yn toturio wrth y dyrfa.

1 AC efe a aeth i mewn i'r llong, ac a aeth trosodd, ac a ddaeth i'w ddinas ei hun.

2 Ac wele, hwy a ddygasant ato wr claf o'r parlys, yn gorwedd mewn gwely: a'r Iesu yn gweled eu ffydd hwy, a ddywedodd wrth y claf o'r parlys, Ha fab, cymmer gysur; maddeuwyd i ti dy bechodau.

3 Ac wele, rhai o'r ysgrifenyddion a ddywedasant ynddynt eu hunain, Y mae hwn yn cablu.

4 A phan welodd yr Iesu eu meddyliau, efe a ddywedodd, Paham y meddyliwch ddrwg yn eich calonnau?

5 Canys pa un hawsaf ai dywedyd, Maddeuwyd i ti dy bechodau; ai dywedyd, Cyfod, a rhodia?

6 Eithr fel y gwypoch fod awdurdod gan Fab y dyn ar y ddaear i faddau pechodau, (yna y dywedodd efe wrth y claf o'r parlys,) Cyfod, cymmer dy wely i fyny, a dos i'th dŷ.

7 Ac efe a gyfododd, ac a aeth ymaith i'w dŷ ei hun.

8 A'r torfeydd pan welsant, rhyfeddu a wnaethant, a gogoneddu Duw, yr hwn a roesai gyfryw awdurdod i ddynion.

9 Ac fel yr oedd yr Iesu yn myned oddi yno, efe a ganfu wr yn eistedd wrth y dollfa, a elwid Mathew, ac a ddywedodd wrtho, Canlyn fi. Ac efe a gyfododd, ac a'i canlynodd ef.

10 A bu, ac efe yn eistedd i fwytta yn y tŷ, wele hefyd, publicanod lawer a phechaduriaid a ddaethant ac a eisteddasant gyda'r Iesu a'i ddisgyblion.

11 A phan welodd y Phariseaid, hwy a ddywedasant wrth ei ddisgyblion ef, Paham y bwytty eich Athro chwi gyda'r publicanod a'r pechaduriaid?

12 A phan glybu'r Iesu, efe a ddywedodd wrthynt, Nid rhaid i'r rhai iach wrth feddyg, ond i'r rhai cleifion.

13 Ond ewch, a dysgwch pa beth yw hyn, Trugaredd yr ydwyf yn ei ewyllysio, ac nid aberth: canys ni ddeuthum i alw rhai cyfiawn, ond pechaduriaid, i edifeirwch.

14 Yna y daeth disgyblion Ioan ato, gan ddywedyd, Paham yr ydym ni a'r Phariseaid yn ymprydio yn fynych, ond dy ddisgyblion di nid ydynt yn ymprydio?

15 A'r Iesu a ddywedodd wrthynt, A all plant yr ystafell brïodas alaru tra fo'r prïod-fabgyda hwynt? ond y dyddiau a ddaw, pan ddyger y prïod-fab oddi arnynt, ac yna yr ymprydiant.

16 Hefyd, ni ddyd neb lain o frethyn newydd at hen ddilledyn: canys y cyflawniad a dynn oddi wrth y dilledyn, a'r rhwyg a wneir yn waeth.

17 Ac ni ddodant win newydd mewn costrelau hen: os amgen, y costrelau a dyr, a'r gwin a red allan, a'r costrelau a gollir: eithr gwin newydd a ddodant mewn costrelau newyddion, ac felly y cedwir y ddau.

18 Tra oedd efe yn dywedyd hyn wrthynt, wele, daeth rhyw bennaeth, ac a'i haddolodd ef, gan ddywedyd, Bu farw fy merch yr awr hon; eithr tyred, a gosod dy law arni, a byw fydd hi.

19 A'r Iesu a gyfododd, ac a'i canlynodd ef, a'i ddisgyblion.

20 (Ac wele, gwraig y buasai gwaedlif arni ddeuddeng mlynedd, a ddaeth o'r tu cefn iddo, ac a gyffyrddodd âg ymyl ei wisg ef:

21 Canys hi a ddywedasai ynddi ei hun, Os câf yn unig gyffwrdd â'i wisg ef, iach fyddaf.

22 Yna yr Iesu a drodd; a phan ei gwelodd hi, efe a ddywedodd, Ha ferch, bydd gysurus; dy ffydd a'th iachaodd. A'r wraig a iachâwyd o'r awr honno.)

23 A phan ddaeth yr Iesu i dŷ'r pennaeth, a gweled y cerddorion a'r dyrfa yn terfysgu,

24 Efe a ddywedodd wrthynt, Ciliwch; canys ni bu farw y llangces, ond cysgu y mae hi. A hwy a'i gwatwarasant ef.

25 Ac wedi bwrw y dyrfa allan, efe a aeth i mewn, ac a ymaflodd yn ei llaw hi; a'r llangces a gyfododd.

26 A'r gair o hyn a aeth dros yr holl wlad honno.

27 A phan oedd yr Iesu yn myned oddi yno, dau ddeillion a'i canlynasant ef, gan lefain a dywedyd, Mab Dafydd, trugarhâ wrthym.

28 Ac wedi iddo ddyfod i'r tŷ, y deillion a ddaethant atto: a'r Iesu a ddywedodd wrthynt, a ydych chwi yn credu y gallaf fi wneuthur hyn? Hwy a ddywedasant wrtho, Ydym, Arglwydd.

29 Yna y cyffyrddodd efe â'u llygaid hwy, gan ddywedyd, Yn ol eich ffydd bydded i chwi.

30 A'u llygaid a agorwyd: a'r Iesu a orchmynnodd iddynt trwy fygwth, gan ddywedyd, Gwelwch nas gwypo neb.

31 Ond wedi iddynt ymado, hwy a'i clodforasant ef trwy'r holl wlad honno.

32 Ac a hwy yn myned allan, wele, rhai a ddygasant atto ddyn mud, cythreulig.

33 Ac wedi bwrw y cythraul allan, llefarodd y mudan: a'r torfeydd a ryfeddasant, gan ddywedyd, Ni welwyd y cyffelyb erioed yn Israel.

34 Ond y Phariseaid a ddywedasant, Trwy bennaeth y cythreuliaid y mae ef yn bwrw allan gythreuliaid.

35 A'r Iesu a aeth o amgylch yr holl ddinasoedd a'r trefydd, gan ddysgu yn eu synagogau hwynt, a chan bregethu efengyl y deyrnas, a iachâu pob clefyd a phob afiechyd ymhlith y bobl.

36 A phan welodd efe y torfeydd, efe a dosturiodd wrthynt, am eu bod wedi blino, a'u gwasgaru, fel defaid heb ganddynt fugail.

37 Yna y dywedodd efe wrth ei ddisgyblion, Y cynhaeaf yn ddiau sydd fawr, ond y gweithwyr yn anaml:

38 Am hynny attolygwch i Arglwydd y cynhaeaf anfon gweithwyr i'w gynhauaf.

PENNOD X.

1 Crist yn anfon ei ddeuddeg apostol, gan roddi gallu iddynt i wneuthur rhyfeddodau: 5 yn rhoddi gorchymyn iddynt, ac yn eu dysgu, 16 ac yn eu cysuro yn erbyn erlidiau, 40 ac yn addaw bendith i'r rhai a'u derbynio hwynt.

1 AC wedi galw ei ddeuddeg disgybl atto, efe a roddes iddynt awdurdod yn erbyn ysbrydion aflan, i'w bwrw hwynt allan, ac i iachâu pob clefyd a phob afiechyd.

2 Ac enwau'r deuddeg apostolion yw'r rhai hyn: Y cyntaf, Simon, yr hwn a elwir Petr, ac Andreas ei frawd; Iago mab Zebedëus, ac Ioan ei frawd;

3 Philip, a Bartholomëus; Thomas, a Matthew y publican; Iago mab Alffëus, a Lebëus, yr hwn a gyfenwid Thadëus;

4 Simon y Canaanead, a Jwdas Iscariot, yr hwn hefyd a'i bradychodd ef.

5 Y deuddeg hyn a anfonodd yr Iesu, ac a orchymynnodd iddynt, gan ddywedyd, Nac ewch i ffordd y Cenhedloedd, ac i ddinas y Samariaid nac ewch i mewn:

6 Eithr ewch yn hytrach at gyfrgolledig ddefaid tŷ Israel.

7 Ac wrth fyned, pregethwch, gan ddywedyd, Fod teyrnas nefoedd yn nesâu.

8 Iachêwch y cleifion, glanhêwch y rhai gwahan-glwyfus, cyfodwch y meirw, bwriwch allan gythreuliaid: derbyniasoch yn rhad, rhoddwch yn rhad.

9 Na feddwch aur, nac arian, nac efydd i'ch pyrsau;

10 Nac ysgrepan i'r daith, na dwy bais, nac esgidiau, na ffon: canys teilwng i'r gweithiwr ei fwyd.

11 Ac i ba ddinas bynnag neu dref yr eloch, ymofynnwch pwy sydd deilwng ynddi; ac yno trigwch hyd onid eloch ymaith.

12 A phan ddeloch i dŷ, cyferchwch well iddo.

13 Ac os bydd y tŷ yn deilwng, deued eich tangnefedd arno: ac oni bydd yn deilwng, dychweled eich tangnefedd attoch.

14 A phwy bynnag ni'ch derbynio chwi, ac ni wrandawo eich geiriau, pan ymadawoch o'r tŷ hwnnw, neu o'r ddinas honno, ysgydwch y llwch oddi wrth eich traed.

15 Yn wir meddaf i chwi, Esmwythach fydd i dir y Sodomiaid a'r Gomoriaid yn nydd y farn, nag i'r ddinas honno.

16 Wele, yr ydwyf fi yn eich danfon fel defaid yng nghanol bleiddiaid; byddwch chwithau gall fel y seirph, a diniwed fel y colommennod.

17 Eithr ymogelwch rhag dynion; canys hwy a'ch rhoddant chwi i fyny i'r cynghorau, ac a'ch ffrewyllant chwi yn eu synagogau.

18 A chwi a ddygir at lywiawdwyr a brenhinoedd o'm hachos i, er tystiolaeth iddynt hwy ac i'r Cenhedloedd.

19 Eithr pan y'ch rhoddant chwi i fyny, na ofelwch pa fodd neu pa beth a lefaroch: canys rhoddir i chwi yn yr awr honno pa beth a lefaroch.

20 Canys nid chwychwi yw'r rhai sydd yn llefaru, ond Ysbryd eich Tad yr hwn sydd yn llefaru ynoch.

21 A brawd a rydd frawd i fyny i farwolaeth, a thad ei blentyn: a phlant a godant i fyny yn erbyn eu rhieni, ac a barant eu marwolaeth hwynt.

22 A chas fyddwch gan bawb er mwyn fy enw i: ond yr hwn a barhao hyd y diwedd, efe fydd cadwedig.

23 A phan y'ch erlidiant yn y ddinas hon, ffowch i un arall: canys yn wir y dywedaf wrthych, Na orphennwch ddinasoedd Israel, nes dyfod Mab y dyn.

24 Nid yw'r disgybl yn uwch na'i athro, na'r gwas yn uwch na'i arglwydd.

25 Digon i'r disgybl fod fel ei athraw, a'r gwas fel ei arglwydd. Os galwasant berchen y tŷ yn Beelzebub, pa faint mwy ei dylwyth ef?

26 Am hynny nac ofnwch hwynt: oblegid nid oes dim cuddiedig, a'r nas datguddir; na dirgel, a'r nas gwybyddir.

27 Yr hyn yr ydwyf yn ei ddywedyd wrthych chwi yn y tywyllwch, dywedwch yn y goleuni: a'r hyn a glywch yn y glust, pregethwch ar bennau'r tai.

28 Ac nac ofnwch rhag y rhai a laddant y corph, ac ni allant ladd yr enaid; eithr yn hytrach ofnwch yr hwn a ddichon ddistrywio enaid a chorph yn uffern.

29 Oni werthir dau aderyn y to er ffyrling? ac ni syrth un ohonynt ar y ddaear heb eich Tad chwi.

30 Ac y mae, ïe, holl wallt eich pen wedi eu cyfrif.

31 Nac ofnwch gan hynny: chwi a delwch fwy na llawer o adar y to.

32 Pwy bynnag gan hynny a'm cyffeso i y'ngŵydd dynion, minnau a'i cyffesaf yntau y'ngŵydd fy Nhad yr hwn sydd yn y nefoedd.

33 A phwy bynnag a'm gwado i y'ngŵydd dynion, minnau a'i gwadaf yntau y'ngŵydd fy Nhad yr hwn sydd yn y nefoedd.

34 Na thybygwch fy nyfod i ddanfon tangnefedd ar y ddaear: ni ddeuthum i ddanfon tangnefedd, ond cleddyf.

35 Canys mi a ddeuthum i osod dyn i ymrafaelio yn erbyn ei dad, a'r ferch yn erbyn ei mam, a'r waudd yn erbyn ei chwegr.

36 A gelynion dyn fydd tylwyth ei dŷ ei hun.

37 Yr hwn sydd yn caru tad neu fam yn fwy na myfi, nid yw deilwng ohonof fi: a'r neb sydd yn caru mab neu ferch yn fwy na myfi, nid yw deilwng ohonof fi.

38 A'r hwn nid yw yn cymmeryd ei groes, ac yn canlyn ar fy ol i, nid yw deilwng ohonof fi.

39 Y neb sydd yn cael ei einioes, a'i cyll: a'r neb a gollo ei einioes o'm plegid i, a'i caiff hi.

40 Y neb sydd yn eich derbyn chwi, sydd yn fy nerbyn i; a'r neb sydd yn fy nerbyn i, sydd yn derbyn yr hwn a'm danfonodd i.

41 Y neb sydd yn derbyn prophwyd yn enw prophwyd, a dderbyn wobr prophwyd; a'r neb sydd yn derbyn un cyfiawn yn enw un cyfiawn, a dderbyn wobr un cyfiawn.

42 A phwy bynnag a roddo i'w yfed i un o'r rhai bychain hyn, phiolaid o ddwfr oer yn unig yn enw disgybl, yn wir meddaf i chwi, Ni chyll efe ei wobr.

PENNOD XI.

2 Ioan yn anfon ei ddisgyblion at Grist. 7 Tystiolaeth Crist am Ioan. 18 Tyb y bobl am Ioan, a Christ. 20 Crist yn dannod anniolchgarwch a diedifeirwch Chorazin, Bethsaida, a Chapernaum: 25 a chan foliannu doethineb ei Dad, yn egluro yr efengyl i'r rhai bychain; 28 yn galw atto y rhai sydd yn teimlo baich eu pechodau.

A BU, pan orphenodd yr Iesu orchymyn i'w ddeuddeg disgybl, efe a aeth oddi yno i ddysgu ac i bregethu yn eu dinasoedd hwy.

2 A Ioan, pan glybu yn y carchar weithredoedd Crist, wedi danfon dau o'i ddisgyblion,

3 A ddywedodd wrtho, Ai tydi yw yr hwn sydd yn dyfod, ai un arall yr ydym yn ei ddisgwyl?

4 A'r Iesu a attebodd ac a ddywedodd wrthynt, Ewch, a mynegwch i Ioan y pethau a glywch ac a welwch:

5 Y mae y deillion yn gweled eilwaith, a'r cloffion yn rhodio, a'r cleifion gwahanol wedi eu glanhâu, a'r byddariaid yn clywed; y mae y meirw yn cyfodi, a'r tlodion yn cael pregethu yr efengyl iddynt.

6 A dedwydd yw yr hwn ni rwystrir ynof fi.

7 ¶ Ac a hwy yn myned ymaith, yr Iesu a ddechreuodd ddywedyd wrth y bobloedd am Ioan, Pa beth yr aethoch allan i'r anialwch i edrych am dano? ai corsen yn ysgwyd gan wynt?

8 Eithr pa beth yr aethoch allan i'w weled? ai dyn wedi ei wisgo â dillad esmwyth? wele, y rhai sydd yn gwisgo dillad esmwyth, mewn tai brenhinoedd y maent.

9 Eithr pa beth yr aethoch allan i'w weled? ai prophwyd? ïe, meddaf i chwi, a mwy na phrophwyd:

10 Canys hwn ydyw efe am yr hwn yr ysgrifenwyd, Wele, yr ydwyf fi yn anfon fy nghennad o flaen dy wyneb, yr hwn a barottoa dy ffordd o'th flaen.

11 Yn wir meddaf i chwi, Ym mhlith plant gwragedd, ni chododd neb mwy nag Ioan Fedyddiwr: er hynny yr hwn sydd leiaf yn nheyrnas nefoedd, sydd fwy nag ef. 12 Ac o ddyddiau Ioan Fedyddiwr hyd yn awr, yr ydys yn treisio teyrnas nefoedd, a threiswyr sydd yn ei chipio hi.

13 Canys yr holl brophwydi a'r gyfraith a brophwydasant hyd Ioan.

14 Ac os ewyllysiwch ei dderbyn, efe yw Elias, yr hwn oedd ar ddyfod.

15 Y neb sydd ganddo glustiau i wrandaw, gwrandawed.

16 ¶ Eithr i ba beth y cyffelybaf fi y genhedlaeth hon? Cyffelyb yw i blant yn eistedd yn y marchnadoedd, ac yn llefain wrth eu cyfeillion,

17 Ac yn dywedyd, Canasom bibell i chwi, ac ni ddawnsiasoch; canasom alarnad i chwi, ac ni chwynfanasoch.

18 Canys daeth Ioan heb na bwytta nac yfed; ac meddant, Y mae cythraul ganddo.

19 Daeth Mab y dyn yn bwytta ac yn yfed; ac meddant, Wele ddyn glwth, ac yfwr gwin, cyfaill publicanod a phechaduriaid. A doethineb a gyfiawnhâwyd gan ei phlant ei hun.

20 ¶ Yna y dechreuodd efe edliw i'r dinasoedd yn y rhai y gwnaethid y rhan fwyaf o'i weithredoedd nerthol ef, am nad edifarhasent:

21 Gwae di, Chorazin! gwae di, Bethsaida! canys pe gwnaethid yn Tyrus a Sidon y gweithredoedd nerthol a wnaethpwyd ynoch chwi, hwy a edifarhasent er ys talm mewn sachlian a lludw.

22 Eithr meddaf i chwi, Esmwythach fydd i Tyrus a Sidon yn nydd y farn, nag i chwi.

23 A thydi, Capernaum, yr hon a ddyrchafwyd hyd y nef, a dynnir i lawr hyd yn uffern: canys pe gwnaethid yn Sodom y gweithredoedd nerthol a wnaethpwyd ynot ti, hi a fuasai yn aros hyd heddyw.

24 Eithr yr ydwyf yn dywedyd i chwi, Y bydd esmwythach i dir Sodom yn nydd y farn, nag i ti.

25 ¶ Yr amser hwnnw yr attebodd yr Iesu, ac y dywedodd, I ti yr ydwyf yn diolch, O Dad, Arglwydd nef a daear, am i ti guddio y pethau hyn rhag y doethion a'r rhai deallus, a'u datguddio o honot i rai bychain:

26 Ië, O Dad; canys felly y rhyngodd bodd i ti.

27 Pob peth a roddwyd i mi gan fy Nhad: ac nid edwyn neb y Mab ond y Tad; ac nid edwyn neb y Tad ond y Mab, a'r hwn yr ewyllysio y Mab ei ddatguddio iddo.

28 ¶ Deuwch attaf fi bawb a'r y sydd yn flinderog ac yn llwythog, a mi a esmwythâf arnoch.

29 Cymmerwch fy iau arnoch, a dysgwch gennyf; canys addfwyn ydwyf, a gostyngedig o galon: a chwi a gewch orphwysdra i'ch eneidiau:

30 Canys fy iau sydd esmwyth, a'm baich sydd ysgafn.

PENNOD XII.

1 Crist yn ceryddu dallineb y Phariseaid, o ran torri y Sabbath; 3 trwy ysgrythyrau, 10 trwy reswm, 13 a thrwy ryfeddod; 22 yn iachâu y dyn cythreulig, mud, a dall. 31 Ni faddeuir . byth gabledd yn erbyn yr Yspryd Glân. 36 Y rhoddir cyfrif am eiriau segur. 38 Y mae yn ceryddu yr anffyddloniaid a geisient arwydd; 49 ac yn dangos pwy yw ei frawd, a'i chwaer, a'i fam.

YR amser hwnnw yr aeth yr Iesu ar y dydd Sabbath trwy yr ŷd: ac yr oedd chwant bwyd ar ei ddisgyblion, a hwy a ddechreuasant dynnu tywys, a bwytta.

2 A phan welodd y Phariseaid, hwy a ddywedasant wrtho, Wele, y mae dy ddisgyblion yn gwneuthur yr hyn nid yw rydd ei wneuthur ar y Sabbath.

3 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Oni ddarllenasoch pa beth a wnaeth Dafydd, pan oedd chwant bwyd arno ef, a'r rhai oedd gyd âg ef?

4 Pa fodd yr aeth efe i mewn i dŷ Dduw, ac y bwyttaodd y bara gosod, yr hwn nid oedd rydd iddo ei fwytta, nac i'r rhai oedd gyd âg ef, ond yn unig i'r offeiriaid?

5 Neu oni ddarllenasoch yn y gyfraith, fod yr offeiriaid ar y Sabbathau yn y deml yn halogi y Sabbath, a'u bod yn ddigerydd?

6 Eithr yr ydwyf yn dywedyd i chwi fod yma un mwy na'r deml.

7 Ond pe gwybasech beth yw hyn, Trugaredd a ewyllysiaf, ac nid aberth, ni farnasech chwi yn erbyn rhai diniwed.

8 Canys Arglwydd ar y Sabbath hefyd yw Mab y dyn.

9 Ac wedi iddo ymadael oddi yno, efe a aeth i'w synagog hwynt.

10 ¶ Ac wele, yr oedd dyn a chanddo law wedi gwywo. A hwy a ofynasant iddo, gan ddywedyd, Ai rhydd iachâu ar y Sabbathau? fel y gallent achwyn arno.

11 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Pa ddyn o honoch fydd a chanddo un ddafad, ac o syrth honno mewn pwll ar y dydd Sabbath, nid ymeifl ynddi, a'i chodi allan?

12 Pa faint gwell gan hynny ydyw dyn na dafad? Felly rhydd yw gwneuthur yn dda ar y Sabbathau.

13 Yna y dywedodd efe wrth y dyn, Estyn dy law. Ac efe a'i hestynodd; a hi a wnaed yn iach, fel y llall.

14 Yna yr aeth y Phariseaid allan, ac a ymgynghorasant yn ei erbyn ef, pa fodd y difethent ef.

15 A'r Iesu gan wybod, a giliodd oddi yno; a thorfeydd lawer a'i canlynasant ef, ac efe a'u hiachaodd hwynt oll;

16 Ac a orchymynodd iddynt, na wnaent ef yn gyhoedd:

17 Fel y cyflawnid yr hyn a ddywedasid trwy Esaias y prophwyd, gan ddywedyd,

18 Wele fy ngwasanaethwr, yr hwn a ddewisais; fy anwylyd, yn yr hwn y mae fy enaid yn foddlawn: gosodaf fy yspryd arno, ac efe a draetha farn i'r Cenhedloedd.

19 Nid ymryson efe, ac ni lefain; ac ni chlyw neb ei lais ef yn yr heolydd.

20 Corsen ysig nis tyrr, a llin yn mygu nis diffydd, hyd oni ddygo efe allan farn i fuddugoliaeth. 21 Ac yn ei enw ef y gobeithia y Cenhedloedd.

22 ¶ Yna y dygpwyd atto un cythreulig, dall a mud: ac efe a'i hiachaodd ef, fel y llefarodd ac y gwelodd y dall a mud.

23 A'r holl dorfeydd a synnasant. ac a ddywedasant, Ai hwn yw mab Dafydd?

24 Eithr pan glybu y Phariseaid, hwy a ddywedasant, Nid yw hwn yn bwrw allan gythreuliaid, ond trwy Beelzebub pennaeth y cythreuliaid.

25 A'r Iesu yn gwybod eu meddyliau, a ddywedodd wrthynt, Pob teyrnas wedi ymrannu yn ei herbyn ei hun, a anghyfanneddir; a phob dinas neu dŷ wedi ymrannu yn ei erbyn ei hun, a anghyfanneddir; a phob dinas neu dŷ wedi ymrannu yn ei erbyn ei hun, ni saif.

26 Ac os Satan a fwrw allan Satan, efe a ymrannodd yn ei erbyn ei hun: pa wedd gan hynny y saif ei deyrnas ef?

27 Ac os trwy Beelzebub yr ydwyf fi yn bwrw allan gythreuliaid, trwy bwy y mae eich plant chwi yn eu bwrw hwynt allan? am hynny y byddant hwy yn farnwyr arnoch chwi.

28 Eithr os ydwyf fi yn bwrw allan gythreuliaid trwy Yspryd Duw, yna y daeth teyrnas Dduw attoch.

29 Neu, pa fodd y dichon neb fyned i mewn i dŷ un cadarn, a llwyr yspeilio ei ddodrefn ef, oddi eithr iddo yn gyntaf rwymo y cadarn? ac yna yr yspeilia efe ei dy ef.

30 Y neb nid yw gyd â mi, sydd yn fy erbyn; a'r neb nid yw yn casglų gyd â mi, sydd yn gwasgaru.

31 ¶ Am hynny y dywedaf wrthych chwi, Pob pechod a chabledd a faddeuir i ddynion: ond cabledd yn erbyn yr Yspryd Glan ni faddeuir i ddynion.

32 A phwy bynnag a ddywedo air yn erbyn Mab y dyn, fe a faddeuir iddo: ond pwy bynnag a ddywedo yn erbyn yr Yspryd Glân, nis maddeuir iddo, nac yn y byd hwn, nac yn y byd a ddaw.

33 Naill ai gwnewch y pren yn dda, a'i ffrwyth yn dda; ai gwnewch y pren yn ddrwg, a'i ffrwyth yn ddrwg: canys y pren a adwaenir wrth ei ffrwyth.

34 O eppil gwiberod, pa wedd y gellwch lefaru pethau da, a chwi yn ddrwg? canys o helaethrwydd y galon y llefara y genau.

35 Y dyn da, o drysor da y galon, a ddwg allan bethau da: a'r dyn drwg, o'r trysor drwg, a ddwg allan bethau drwg.

36 Eithr yr ydwyf yn dywedyd wrthych, Mai am bob gair segur a ddywedo dynion, y rhoddant hwy gyfrif yn nydd y farn.

37 Canys wrth dy eiriau y'th gyfiawnheir, ac wrth dy eiriau y'th gondemnir.

38 Yna yr attebodd rhai o'r ysgrifenyddion a'r Phariseaid, gan ddywedyd, Athraw, ni a chwennychem weled arwydd gennyt.

39 Ac efe a attebodd ac a ddywedodd wrthynt, Cenhedlaeth ddrwg a godinebus sydd yn ceisio arwydd; ac arwydd nis rhoddir iddi, ond arwydd y prophwyd Jonas:

40 Canys fel y bu Jonas dridiau a thair nos ym mol y morfil, felly y bydd Mab y dyn dridiau a thair nos y'nghalon y ddaear.

41 Gwyr Ninefe a gyfodant yn y farn gyd â'r genhedlaeth hon, ac a'i condemniant hi; am iddynt hwy edifarhâu wrth bregeth Jonas: ac wele fwy na Jonas yma.

42 Brenhines y dehau a gyfyd yn y farn gyd â'r genhedlaeth hon, ac a'i condemnia hi; am iddi hi ddyfod o eithafoedd y ddaear i glywed doethineb Solomon: ac wele fwy na Solomon yma.

43 A phan êl yr yspryd aflan allan o ddyn, efe a rodia ar hyd lleoedd sychion, gan geisio gorphwysdra, ac nid yw yn ei gael.

44 Yna medd efe, Mi a ddychwelaf i'm tŷ o'r lle y deuthum allan. Ac wedi y delo, y mae yn ei gael yn wag, wedi ei ysgubo a'i drwsio.

45 ¶ Yna y mae efe yn myned, ac yn cymmeryd gyd âg ef ei hun saith yspryd eraill gwaeth nag ef ei hun; ac wedi iddynt fyned i mewn, hwy a gyfanneddant yno: ac y mae diwedd y dyn hwnnw yn waeth na'i ddechreuad. Felly y bydd hefyd i'r genhedlaeth ddrwg hon.

46 Tra yr ydoedd efe yn llefaru wrth y torfeydd, wele, ei fam a'i frodyr oedd yn sefyll allan, yn ceisio ymddiddan âg ef.

47 A dywedodd un wrtho, Wele, y mae dy fam di a'th frodyr yn sefyll allan, yn ceisio ymddiddan â thi.

48 Ac efe a attebodd ac a ddywedodd wrth yr hwn a ddywedasai wrtho, Pwy yw fy mam i? a phwy yw fy mrodyr i?

49 Ac efe a estynodd ei law tu ag at ei ddisgyblion, ac a ddywedodd, Wele fy mam i, a'm brodyr i:

50 Canys pwy bynnag a wna ewyllys fy Nhad yr hwn sydd yn y nefoedd, efe yw fy mrawd i, a'm chwaer, a'm mam.

PENNOD XIII.

3 Dammeg yr hauwr a'r had; 18 a'i dehongliad. 24 Dammeg yr efrau, 31 yr had mustard, 33 y surdoes, 44 y trysor cuddiedig, 45 y perl, 47 a'r rhwyd. 53 Y modd y dirmygir Crist gan ei wladwyr ei hun.

Y DYDD hwnnww yr Iesu allan o'r tŷ, ac yr eisteddodd wrth làn y môr.

2 A thorfeydd lawer a ymgynnullasant atto ef, fel yr aeth efe i'r llong, ac yr eisteddodd a'r holl dyrfa a safodd ar y làn.

3 Ac efe a lefarodd wrthynt lawer o bethau trwy ddamhegion, gan ddywedyd, Wele, yr hauwr a aeth allan i hau.

4 Ac fel yr oedd efe yn hau, peth a syrthiodd ar fin y ffordd; a'r adar a ddaethant, ac a'i difasant.

5 Peth arall a syrthiodd ar greigleoedd, lle ni chawsant fawr ddaear: ac yn y man yr eginasant, gan nad oedd iddynt ddyfnder daear:

6 Ac wedi codi yr haul, y poethasant; ac am nad oedd ganddynt wreiddyn, hwy a wywasant.

7 A pheth arall a syrthiodd ym mhlith y drain; a'r drain a godasant, ac a'u tagasant hwy.

8 Peth arall hefyd a syrthiodd mewn tir da, ac a ddygasant ffrwyth, peth ar ei ganfed, arall ar ei dri-ugeinfed, arall ar ei ddegfed ar hugain.

9 Y neb sydd ganddo glustiau i wrandaw, gwrandawed.

10 A daeth y disgyblion, ac a ddywedasant wrtho, Paham yr wyt ti yn llefaru wrthynt trwy ddamhegion?

11 Ac efe a attebodd ac a ddywedodd wrthynt, Am roddi i chwi wybod dirgelion teyrnas nefoedd, ac ni roddwyd iddynt hwy.

12 Oblegid pwy bynnag sydd ganddo, i hwnnw y rhoddir, ac efe a gaiff helaethrwydd: eithr pwy bynnag nid oes ganddo, oddi arno ef y dygir, ie, yr hyn sydd ganddo.

13 Am hynny yr ydwyf yn llefaru wrthynt hwy ar ddamhegion: canys a hwy yn gweled, nid ydynt yn gweled; ac yn clywed, nid ydynt yn clywed, nac yn deall.

14 Ac ynddynt hwy y cyflawnir prophwydoliaeth Esaias, yr hon sydd yn dywedyd, Gan glywed y clywch, ac ni ddeallwch; ac yn gweled y gwelwch, ac ni chanfyddwch;

15 Canys brasâwyd calon y bobl hyn, a hwy a glywsant â'u clustiau yn drwm, ac a gauasant eu llygaid; rhag canfod â'u llygaid, a chlywed â'u clustiau, a deall a'r galon, a throi, ac i mi eu hiachâu hwynt.

16 Eithr dedwydd yw eich llygaid chwi, am eu bod yn gweled; a'ch clustiau, am eu bod yn clywed:

17 Oblegid yn wir y dywedaf i chwi, chwennychu o lawer o brophwydi a rhai cyfiawn weled y pethau a welwch chwi, ac nis gwelsant; a chlywed yr hyn a glywch chwi, ac nis clywsant.

18 ¶ Gwrandewch chwithau gan hynny ddammeg yr hauwr.

19 Pan glywo neb air y deyrnas, ac heb ei ddeall, y mae y drwg yn dyfod, ac yn cipio yr hyn a hauwyd yn ei galon ef. Dyma yr hwn a hauwyd ar fin y ffordd.

20 A'r hwn a hauwyd ar y creigleoedd, yw yr hwn sydd yn gwrandaw y gair, ac yn ebrwydd trwy lawenydd yn ei dderbyn;

21 Ond nid oes ganddo wreiddyn ynddo ei hun, eithr dros amser y mae: a phan ddelo gorthrymder neu erlid oblegid y gair, yn y fan efe a rwystrir.

22 A'r hwn a hauwyd ym mhlith y drain, yw yr hwn sydd yn gwrandaw y gair; ac y mae gofal y byd hwn, a thwyll cyfoeth, yn tagu y gair, ac y mae yn myned yn ddiffrwyth.

23 Ond yr hwn a hauwyd yn y tir da, yw yr hwn sydd yn gwrandaw y gair, ac yn ei ddeall; sef yr hwn sydd yn ffrwytho, ac yn dwyn peth ei ganfed, arall ei dri-ugeinfed, arall ei ddegfed ar hugain.

24 ¶ Dammeg arall a osododd efe iddynt, gan ddywedyd, Teyrnas nefoedd sydd gyffelyb i ddyn a hauodd had da yn ei faes:

25 A thra yr oedd y dynion yn cysgu, daeth ei elyn ef, ac a hauodd efrau ym mhlith y gwenith, ac a aeth ymaith.

26 Ac wedi i'r eginyn dyfu, a dwyn ffrwyth, yna yr ymddangosodd yr efrau hefyd.

27 A gweision gwr y tŷ a ddaethant, ac a ddywedasant wrtho, Arglwydd, oni hauaist di had da yn dy faes? o ba le gan hynny y mae yr efrau ynddo?

28 Yntau a ddywedodd wrthynt, Y gelyn ddyn a wnaeth hyn. gweision a ddywedasant wrtho, A fynni di gan hynny i ni fyned a'u casglu hwynt?

29 Ac efe a ddywedodd, Na fynnaf; rhag i chwi, wrth gasglu yr efrau, ddiwreiddio y gwenith gyd â hwynt.

30 Gadêwch i'r ddau gyd-dyfu hyd y cynhauaf: ac yn amser y cynhauaf y dywedaf wrth y medelwyr, Cesglwch yn gyntaf yr efrau, a rhwymwch hwynt yn ysgubau i'w llwyrlosgi; ond cesglwch y gwenith i'm hysgubor.

31 ¶ Dammeg arall a osododd efe iddynt, gan ddywedyd, Cyffelyb yw teyrnas nefoedd i ronyn o had mwstard, yr hwn a gymmerodd dyn, ac a'i hauodd yn ei faes:

32 Yr hwn yn wir sydd leiaf o'r holl hadau; ond wedi iddo dyfu, mwyaf un o'r llysiau ydyw, ac y mae efe yn myned yn bren; fel y mae adar y nef yn dyfod, ac yn nythu yn ei gangau ef.

33 ¶ Dammeg arall a lefarodd efe wrthynt; Cyffelyb yw teyrnas nefoedd i surdoes, yr hwn a gymmerodd gwraig, ac a'i cuddiodd mewn tri pheccaid o flawd, hyd oni surodd y cwbl.

34 Hyn oll a lefarodd yr Iesu trwy ddamhegion wrth y torfeydd; ac heb ddammeg ni lefarodd efe wrthynt;

35 Fel y cyflawnid yr hyn a ddywedwyd trwy y prophwyd, gan ddywedyd, Agoraf fy ngenau mewn damhegion; mynegaf bethau cuddiedig er pan seiliwyd y byd.

36 ¶ Yna yr anfonodd yr Iesu y torfeydd ymaith, ac yr aeth i'r tŷ: a'i ddisgyblion a ddaethant atto, gan ddywedyd, Eglura i ni ddammeg efrau y maes.

37 Ac efe a attebodd ac a ddywedodd wrthynt, Yr hwn sydd yn hau yr had da, yw Mab y dyn;

38 A'r maes yw y byd; a'r had da, hwynt-hwy yw plant y deyrnas; a'r efrau yw plant y drwg;

39 A'r gelyn yr hwn a'u hauodd hwynt, yw diafol; a'r cynhauaf yw diwedd y byd; a'r medelwyr yw yr angelion.

40 Megis gan hynny y cynhullir yr efrau, ac a'u llwyr-losgir yn tân; felly y bydd yn niwedd y byd hwn.

41 Mab y dyn a ddenfyn ei angelion, a hwy a gynhullant allan o'i deyrnas ef yr holl dramgwyddiadau, a'r rhai a wnant anwiredd;

42 Ac a'u bwriant hwy i'r ffwrn dân yno y bydd wylofain a rhingcian dannedd.

43 Yna y llewyrcha y rhai cyfiawn fel yr haul, yn nheyrnas eu Tad. Yr hwn sydd ganddo glustiau i wrandaw, gwrandawed.

44 ¶ Drachefn, cyffelyb yw teyrnas nefoedd i drysor wedi ei guddio mewn maes; yr hwn wedi i ddyn ei gaffael, a'i cuddiodd, ac o lawenydd am dano, sydd yn myned ymaith, ac yn gwerthu yr hyn oll a fedd, ac yn prynu y maes hwnnw.

45 ¶ Drachefn, cyffelyb yw teyrnas nefoedd i farchnattâwr, yn ceisio perlau teg:

46 Yr hwn wedi iddo gaffael un perl gwerthfawr, a aeth, ac a werthodd gymmaint oll ag a feddai, ac a'i prynodd ef.

47 ¶ Drachefn, cyffelyb yw teyrnas nefoedd i rwyd a fwriwyd yn y môr, ac a gasglodd o bob rhyw beth:

48 Yr hon, wedi ei llenwi, a ddygasant i'r làn, ac a eisteddasant, ac a gasglasant y rhai da mewn llestri, ac a fwriasant allan y rhai drwg,

49 Felly y bydd yn niwedd y byd: yr angelion a ânt allan, ac a ddi dolant y rhai drwg o blith y rhai cyfiawn,

50 Ac a'u bwriant hwy i'r ffwrn dân yno y bydd wylofain a rhingcian dannedd.

51 Iesu a ddywedodd wrthynt, A ddarfu i chwi ddeall hyn oll? Hwythau a ddywedasant wrtho, Do, Arglwydd.

52 A dywedodd yntau wrthynt, Am hynny pob ysgrifenydd wedi ei ddysgu i deyrnas nefoedd, sydd debyg i ddyn o berchen tŷ, yr hwn sydd yn dwyn allan o'i drysor bethau newydd a hen.

53 ¶ A bu, wedi i'r Iesu orphen y damhegion hyn, efe a ymadawodd oddi yno.

54 Ac efe a ddaeth i'w wlad ei hun, ac a'u dysgodd hwynt yn eu synagog; fel y synnodd arnynt, ac y dywedasant, O ba le y daeth y doethineb hwn a'r gweithredoedd nerthol i'r dyn hwn?

55 Onid hwn yw mab y saer? onid Mair y gelwir ei fam ef? a lago, a Joses, a Simon, a Judas, ei frodyr ef? 56 Ac onid yw ei chwiorydd ef oll gyd â ni? o ba le gan hynny y mae gan hwn y pethau hyn oll?

57 A hwy a rwystrwyd ynddo ef. A'r Iesu a ddywedodd wrthynt, Nid yw prophwyd heb anrhydedd, ond yn ei wlad ei hun, ac yn ei dŷ ei hun.

58 Ac ni wnaeth efe nemmawr o weithredoedd nerthol yno, oblegid eu hanghrediniaeth hwynt.

PENNOD XIV.

1 Tyb Herod am Grist. 3 Carchariad Ioan, a'i ddihenydd. 13 Yr Iesu yn ymadaw i le anial: 15 lle y mae efe yn porthi pum mil o bobl â phum torth ac a dau bysgodyn: 22 yn rhodio ar y môr at ei ddisgyblion; 34 ac wedi tirio yn Gennesaret, yn iachau y deifion a gyffyrddai âg ymyl ei wisg ef.

Y PRYD hwnnw y clybu Herod y tetrarch sôn am yr Iesu;

2 Ac efe a ddywedodd wrth ei weision, Hwn yw Ioan Fedyddiwr: efe a gyfododd o feirw; ac am hynny y mae nerthoedd yn gweithio ynddo ef.

3 ¶ Canys Herod a ddaliasai Ioan, ac a'i rhwymasai, ac a'i dodasai yng ngharchar, oblegid Herodias, gwraig Phylip ei frawd ef.

4 Canys Ioan a ddywedodd wrtho, Nid cyfreithlawn i ti ei chael hi.

5 Ac efe yn ewyllysio ei roddi ef i farwolaeth, a ofnodd y dyrfa; canys hwy a'i cymmerent ef megis prophwyd.

6 Eithr pan gadwyd dydd genedigaeth Herod, y dawnsiodd merch Herodias ger eu bron hwy, ac a ryngodd fodd Herod.

7 O ba herwydd efe a addawodd, trwy lw, roddi iddi beth bynnag a ofynai.

8 A hithau, wedi ei rhag-ddysgu gan ei mam, a ddywedodd, Dyro i mi yma ben Ioan Fedyddiwr mewn dysgl.

9 A'r brenhin a fu drist ganddo: eithr o herwydd y llw, a'r rhai a eisteddent gyd âg ef wrth y ford, efe a orchymynodd ei roi ef iddi.

10 Ac efe a anfonodd, ac a dorrodd ben Ioan yn y carchar.

11 A dygpwyd ei ben ef mewn dysgl, ac a'i rhoddwyd i'r llangces : a hi a'i dug ef i'w mam.

12 A'i ddisgyblion ef a ddaethant, ac a gymmerasant ei gorph ef, ac a'i claddasant; ac a aethant, ac a fynegasant i'r Iesu,

13 ¶ A phan glybu yr Iesu, efe a ymadawodd oddi yno mewn llong i anghyfanneddle o'r neilldu: ac wedi clywed o'r torfeydd, hwy a'i canlynasant ef ar draed allan o'r dinasoedd.

14 A'r Iesu a aeth allan, ac a welodd dyrfa fawr, ac a dosturiodd wrthynt; ac efe a iachaodd eu cleifion hwynt.

15 ¶ Ac wedi ei myned hi yn hwyr, daeth ei ddisgyblion atto, gan ddywedyd, Y lle sydd anghyfannedd, a'r awr a aeth weithian heibio: gollwng y dyrfa ymaith, fel yr elont i'r pentrefi, ac y prynont iddynt fwyd.

16 A'r fesu a ddywedodd wrthynt, Nid rhaid iddynt fyned ymaith: rhoddwch chwi iddynt beth i'w fwytta.

17 A hwy a ddywedasant wrtho, Nid oes gennym ni yma ond pùm torth, a dau bysgodyn.

18 Ac efe a ddywedodd, Dygwch hwynt yma i mi.

19 Ac wedi gorchymyn i'r torfeydd eistedd ar y gwelltglas, a chymmeryd y pùm torth a'r ddau bysgodyn, efe a edrychodd i fynu tu a'r nef, ac a fendithiodd, ac a dorrodd; ac a roddes y torthau i'r disgyblion, a'r disgyblion i'r torfeydd.

20 A hwynt oll a fwyttasant, ac a gawsant eu digon: ac a godasant o'r briw-fwyd oedd y'ngweddill, ddeuddeg basgedaid yn llawn.

21 A'r rhai a fwyttasent oedd ynghylch pùm mil o wŷr, heb law gwragedd a phlant.

22 Ac yn y fan y gyrrodd yr Iesu ei ddisgyblion i fyned i'r llong, ac i fyned i'r làn arall o'i flaen ef, tra fyddai efe yn gollwng y torfeydd ymaith.

23 Ac wedi iddo ollwng y torfeydd ymaith, efe a esgynodd i'r mynydd wrtho ei hun, i weddio: ac wedi ei hwyrhâu hi, yr oedd efe yno yn unig.

24 A'r llong oedd weithian yng nghanol y môr, yn drallodus gan donnau: canys gwynt gwrthwynebus ydoedd.

25 Ac yn y bedwaredd wylfa o'r nos yr aeth yr Iesu attynt, gan rodio ar y môr.

26 A phan welodd y disgyblion ef yn rhodio ar y môr, dychrynasant, gan ddywedyd, Drychiolaeth ydyw. A hwy a waeddasant rhag ofn.

27 Ac yn y man y llefarodd yr Iesu wrthynt, gan ddywedyd, Cymmerwch gysur: myfi ydyw; nac ofnwch.

28 A Phetr a'i hattebodd, ac a ddywedodd, O Arglwydd, os tydi yw, arch i mi ddyfod attat ar y dyfroedd.

29 Ac efe a ddywedodd, Tyred. Ac wedi i Petr ddisgyn o'r llong, efe a rodiodd ar y dyfroedd, i ddyfod at yr Iesu.

30 Ond pan welodd efe y gwynt yn gryf, efe a ofnodd: a phan ddechreuodd suddo, efe a lefodd, gan ddywedyd, Arglwydd, cadw fi.

31 Ac yn y man yr estynodd yr Iesu ei law, ac a ymaflodd ynddo ef, ac a ddywedodd wrtho, Tydi o ychydig ffydd, paham y petrusaist?

32 A phan aethant hwy i mewn i'r llong, peidiodd y gwynt.

33 A daeth y rhai oedd yn y llong, ac a'i haddolasant ef, gan ddywedyd, Yn wir Mab Duw ydwyt ti.

34 ¶ Ac wedi iddynt fyned trosodd, hwy a ddaethant i dir Gennesaret.

35 A phan adnabu gwŷr y fan honno ef, hwy a anfonasant i'r holl wlad honno o amgylch, ac a ddygasant atto y rhai oll oedd mewn anhwyl;

36 Ac a attolygasant iddo gael cyffwrdd yn unig âg ymyl ei wisg ef: a chynnifer ag a gyffyrddodd, a iachâwyd.


PENNOD XV.

3 Crist yn argyhoeddi yr ysgrifenyddion a'r Pharisaid am dorri gorchymynion Duw trwy eu traddodiadau eu hunain: 11 yn dysgu nad yw y peth sydd yn myned i mewn i'r genau yn halogi dyn 21 yn iachdu merch y wraig o Canaan, 30 a thorfoedd eraill lawer: 32 ac â saith dorth, ac ychydig bysgod bychain, yn porthi pedair mil o wyr, heb law gwragedd a plant.

YNA yr ysgrifenyddion a'r Phayariseaid, rhai oedd o Jerusalem, a ddaethant at yr Iesu, gan ddywedyd,

2 Paham y mae dy ddisgyblion di yn troseddu traddodiad yr hynafiaid? canys nid ydynt yn golchi eu dwylaw pan fwyttaont fara.

3 Ac efe a attebodd ac a ddywedodd wrthynt, A phaham yr ydych chwi yn troseddu gorchymyn Duw trwy eich traddodiad chwi?

4 Canys Duw a orchymynodd, gan ddywedyd, Anrhydedda dy dad a'th fam: a'r hwn a felldithio dad neu fam, lladder ef yn farw.

5 Eithr yr ydych chwi yn dywedyd, Pwy bynnag a ddywedo wrth ei dad neu ei fam, Rhodd yw pa beth bynnag y ceit lês oddi wrthyf fi, ac ni anrhydeddo ei dad neu ei fam, difai fydd.

6 Ac fel hyn y gwnaethoch orchymyn Duw yn ddirym trwy eich traddodiad eich hun.

7 O ragrithwyr, da y prophwydodd Esaias am danoch chwi, gan ddywedyd,

8 Nesâu y mae y bobl hyn attaf â'u genau, a'm hanrhydeddu â'u gwefusau; a'u calon sydd bell oddi wrthyf.

9 Eithr yn ofer y'm hanrhydeddant i, gan ddysgu gorchymynion dynion yn ddysgeidiaeth.

10 ¶ Ac wedi iddo alw y dyrfa atto, efe a ddywedodd wrthynt, Clywch, a deallwch.

11 Nid yr hyn sydd yn myned i mewn i'r genau, sydd yn halogi dyn; ond yr hyn sydd yn dyfod allan o'r genau, hynny sydd yn halogi dyn.

12 Yna y daeth ei ddisgyblion atto, ac a ddywedasant wrtho, A wyddost ti ymrwystro o'r Phariseaid wrth glywed yr ymadrodd hwn?

13 Ac yntau a attebodd ac a ddywedodd, Pob planhigyn yr hwn nis plannodd fy Nhad nefol, a ddiwreiddir.

14 Gadewch iddynt: tywysogion deillion i'r deillion ydynt. Ac os y dall a dywys y dall, y ddau a syrthiant yn y ffos.

15 A Phetr a attebodd ac a ddywedodd wrtho, Eglura i ni y ddammeg hon.

16 A dywedodd yr Iesu, A ydych chwithau etto heb ddeall?

17 Onid ydych chwi deall etto, fod yr hyn oll sydd yn myned i mewn i'r genau, yn cilio i'r bola, ac y bwrir ef allan i'r geudy?

18 Eithr y pethau a ddeuant allan o'r genau, sydd yn dyfod allan o'r galon; a'r pethau hynny a halogant ddyn.

19 Canys o'r galon y mae meddyliau drwg yn dyfod allan, lladdiadau, torr-priodasau, godinebau, lladradau, cam-dystiolaethau, cablau:

20 Dyma y pethau sydd yn halogi dyn: eithr bwytta â dwylaw heb olchi, ni haloga ddyn.

21 ¶ A'r Iesu a aeth oddi yno, ac a giliodd i dueddau Tyrus a Sidon.

22 Ac wele, gwraig o Canaan a ddaeth o'r parthau hynny, ac a lefodd, gan ddywedyd wrtho, Trugarhâ wrthyf, O Arglwydd, Fab Dafydd: y mae fy merch yn ddrwg ei hwyl gan gythraul.

23 Eithr nid attebodd efe iddi un gair. A daeth ei ddisgyblion atto, ac a attolygasant iddo, gan ddywedyd, Gollwng hi ymaith; canys y mae hi yn llefain ar ein hol.

24 Ac efe a attebodd ac a ddywedodd, Ni'm danfonwyd i ond at ddefaid colledig tŷ Israel.

25 Ond hi a ddaeth, ac a'i haddolodd ef, gan ddywedyd, Arglwydd, cymmorth fi.

26 Ac efe a attebodd ac a ddywedodd, Nid da cymmeryd bara y plant, a'i fwrw i'r cwn.

27 Hithau a ddywedodd, Gwir yw, Arglwydd: canys y mae y cwn yn bwytta o'r briwsion sydd yn syrthio oddi ar fwrdd eu harglwyddi.

28 Yna yr attebodd yr Iesu, ac a ddywedodd wrthi, Ha wraig, mawr yw dy ffydd: bydded i ti fel yr wyt yn ewyllysio. A'i merch a iachâwyd o'r awr honno allan.

29 ¶ A'r Iesu a aeth oddi yno, ac a ddaeth ger llaw môr Galilea; ac a esgynodd i'r mynydd, ac a eisteddodd yno.

30 A daeth atto dorfeydd lawer, a chanddynt gyd â hwynt gloffion, deillion, mndion, anafusion, ac eraill lawer: a hwy a'u bwriasant i lawr wrth draed yr Iesu, ac efe a'u hiachaodd hwynt:

31 Fel y rhyfeddodd y torfeydd, wrth weled y mudion yn llefaru, y rhai anafus yn iach, y cloffion yn rhodio, a'r deillion yn gweled: a hwy a ogoneddasant Dduw Israel.

32 ¶ A galwodd yr Iesu ei ddisgyblion atto, ac a ddywedodd, Yr ydwyf yn tosturio wrth y dyrfa canys y maent yn aros gyd â mi dridiau weithian, ac nid oes ganddynt ddim i'w fwytta: ac nid ydwyf yn ewyllysio eu gollwng hwynt ymaith ar eu cythlwng, rhag eu İlewygu ar y ffordd.

33 A'i ddisgyblion a ddywedent wrtho, O ba le y caem ni gymmaint o fara yn y diffaethwch, fel y digonid tyrfa gymmaint?

34 A'r Iesu a ddywedai wrthynt, Pa sawl torth sydd gennych? A hwy a ddywedasant, Saith, ac ychydig bysgod bychain.

35 Ac efe a orchymynodd i'r torfeydd eistedd ar y ddaear.

36 A chan gymmeryd y saith dorth, a'r pysgod, a diolch, efe a'u torrodd, ac a'u rhoddodd i'w ddisgyblion, a'r disgyblion i'r dyrfa.

37 A hwy oll a fwyttasant, ac a gawsant eu digon; ac a godasant o'r ac a godasant o'r briw-fwyd oedd y'ngweddill, saith fasgedaid yn llawn.

38 A'r rhai a fwyttasant oedd bedair mil o wŷr, heb law gwragedd a phlant.

39 Ac wedi iddo ollwng y torfeydd ymaith, efe a aeth i long, ac a ddaeth i barthau Magdala.

PENNOD XVI.

1 Y Phariseaid yn gofyn arwydd. 6 Iesu yn rhybuddio ei ddisgyblion am lefain y Phariseaid a'r Saduceaid. 13 Tyb y bobl am Grist, 16 a chyffes Petr am dano. 21 Iesu yn rhagfynegi ei farwolaeth: 23 yn ceryddu Petr am ei gynghori ir gwrthwyneb; 24 ac yn rhybuddio y sawl a fynnent ei ganlyn ef, i ddwyn y groes.

AC wedi i'r Phariseaid a'r Saduceaid ddyfod atto, a'i demtio, hwy a attolygasant iddo ddangos iddynt arwydd o'r nef.

2 Ac efe a attebodd ac a ddywedodd wrthynt, Pan fyddo yr hwyr, y dywedwch, Tywydd teg; canys y mae yr wybr yn goch.

3 A'r bore, Heddyw dryccin; canys y mae yr wybr yn goch ac yn bruddaidd. O ragrithwyr, chwi a fedrwch ddeall wyneb yr wybren; ac oni fedrwch arwyddion yr amserau?

4 Y mae cenhedlaeth ddrwg a godinebus yn ceisio arwydd; ac arwydd nis rhoddir iddi, ond arwydd y prophwyd Jonas. Ac efe a'u gadawodd hwynt, ac a aeth ymaith.

5 Ac wedi dyfod ei ddisgyblion ef i'r làn arall, hwy a ollyngasent dros gôf gymmeryd bara ganddynt.

6 ¶ A'r Iesu a ddywedodd wrthynt, Edrychwch ac ymogelwch rhag surdoes y Phariseaid a'r Saduceaid.

7 A hwy a ymresymmasant yn eu plith eu hunain, gan ddywedyd, Hyn sydd am na chymmerasom fara gennym.

8 A'r Iesu yn gwybod, a ddywedodd wrthynt, Chwychwi o ychydig ffydd, paham yr ydych yn ymresymmu yn eich plith eich hunain, am na chymmerasoch fara gyd â chwi?

9 Onid ydych chwi yn deall etto, nac yn cofio pùm torth y pùm mil, a pha sawl basgedaid a gymmerasoch i fynu?

10 Na saith dorth y pedair mil,

11 Pa fodd nad ydych yn deall, nad am fara y dywedais wrthych, ar ymogelyd rhag surdoes y Phariseaid a'r Saduceaid?

12 Yna y deallasant na ddywedasai efe am ymogelyd rhag surdoes bara, ond rhag athrawiaeth y Phariseaid a'r Saduceaid.

13 ¶ Ac wedi dyfod yr Iesu i dueddau Cesarea Philippi, efe a ofynodd i'w ddisgyblion, gan ddywedyd, Pwy y mae dynion yn dywedyd fy mod i, Mab y dyn?

14 A hwy a ddywedasant, Rhai, mai Ioan Fedyddiwr, a rhai, mai Elias, ac eraill, mai Jeremias, neu un o'r prophwydi.

15 Efe a ddywedodd wrthynt, Ond pwy meddwch chwi ydwyf fi?

16 A Simon Petr a attebodd ac a ddywedodd, Ti yw y Crist, Mab y Duw byw.

17 A'r Iesu gan atteb a ddywedodd wrtho, Gwyn dy fyd di, Simon mab Jona: canys nid cig a gwaed a ddatguddiodd hyn i ti, ond fy Nhad yr hwn sydd yn y nefoedd.

18 Ac yr ydwyf finnau yn dywedyd i ti, mai ti yw Petr, ac ar y graig hon yr adeiladaf fy eglwys; a phyrth uffern nis gorchfygant hi.

19 A rhoddafi ti agoriadau teyrnas nefoedd: a pha beth bynnag a rwymech ar y ddaear, a fydd rhwymedig yn y nefoedd; a pha beth bynnag a ryddhâech ar y ddaear, a fydd wedi ei ryddhâu yn y nefoedd.

20 Yna y gorchymynodd efe i'w ddisgyblion, na ddywedent i neb mai efe oedd Iesu Grist.

21 O hynny allan y dechreuodd yr Iesu ddangos i'w ddisgyblion fod yn rhaid iddo fyned i Jerusalem, a dioddef llawer gan yr henuriaid, a'r arch-offeiriaid, a'r ysgrifenyddion, a'i ladd, a chyfodi y trydydd dydd.

22 A Phetr, wedi ei gymmeryd ef atto, a ddechreuodd ei geryddu ef, gan ddywedyd, Arglwydd, trugarhâ wrthyt dy hun; nis bydd hyn i ti.

23 Ac efe a drodd, ac a ddywedodd wrth Petr, Dos yn fy ol i, Satan: rhwystr ydwyt ti i mi: am nad ydwyt yn synied y pethau sydd o Dduw, ond y pethau sydd o ddynion.

24 Yna y dywedodd yr Iesu wrth ei ddisgyblion, Os myn neb ddyfod ar fy oli, ymwaded âg ef ei hun, a chyfoded ei groes, a chanlyned fi.

25 Canys pwy bynnag a ewyllysio gadw ei fywyd, a'i cyll: a phwy bynnag a gollo ei fywyd o'm plegid i, a'i caiff.

26 Canys pa lesâd i ddyn, os ennill efe yr holl fyd, a cholli ei enaid ei hun? neu pa beth a rydd dyn yn gyfnewid am ei enaid?

27 Canys Mab y dyn a ddaw yng ngogoniant ei Dad gyd â'i angelion; ac yna y rhydd efe i bawb yn ol ei weithred.

28 Yn wir y dywedaf wrthych, Y mae rhai o'r sawl sydd yn sefyll yma, a'r ni phrofant angau, hyd oni welont Fab y dyn yn dyfod yn ei frenhiniaeth.

PENNOD XVII.

1 Gwedd-newidiad Crist. 14 Y mae efe yn iachâu y loerig; 22 yn rhag-fynegi ei ddioddefaint; 24 ac yn talu teyrnged.

AC ar ol chwe diwrnod y cymmerodd yr Iesu Petr, ac Iago, ac Ioan ei frawd, ac a'u dug hwy i fynydd uchel o'r neilldu;

2 A gwedd-newidiwyd ef ger eu bron hwy: a'i wyneb a ddisgleiriodd fel yr haul, a'i ddillad oedd cyn wynned a'r goleuni.

3 Ac wele, Moses ac Elias a ymddangosodd iddynt, yn ymddiddan âg ef.

4 A Phetr a attebodd ac a ddywedodd wrth yr Iesu, O Arglwydd, da yw i ni fod yma: os ewyllysi, gwnawn yma dair pabell; un i ti, ac un i Moses, ac un i Elias.

5 Ac efe etto yn llefaru, wele, cwmmwl goleu a'u cysgododd hwynt: ac wele lef o'r cwmmwl yn dywedyd, Hwn yw fy anwyl Fab, yn yr hwn y'm boddlonwyd : gwrandewch arno ef.

6 A phan glybu y disgyblion hynny, hwy a syrthiasant ar eu hwyneb, ac a ofnasant yn ddirfawr.

7 A daeth yr Iesu, ac a gyffyrddodd â hwynt, ac a ddywedodd, Cyfodwch, ac nac ofnwch.

8 Ac wedi iddynt ddyrchafu eu llygaid, ni welsant neb ond yr Iesu yn unig.

9 Ac fel yr oeddynt yn disgyn o'r mynydd, gorchymynodd yr Iesu iddynt, gan ddywedyd, Na ddywedwch y weledigaeth i neb, hyd oni adgyfodo Mab y dyn o feirw.

10 A'i ddisgybliona ofynasant iddo, gan ddywedyd, Paham gan hynny y mae yr ysgrifenyddion yn dywedyd, fod yn rhaid dyfod o Elias yn gyntaf?

11 A'r Iesu a attebodd ac a ddywedodd wrthynt, Elias yn wir a ddaw yn gyntaf, ac a edfryd bob peth.

12 Eithr yr ydwyf fi yn dywedyd i chwi, ddyfod o Elias eisoes: ac nad adnabuant hwy ef, ond gwneuthur o honynt iddo beth bynnag a fynnasant: felly y bydd hefyd i Fab y dyn ddioddef ganddynt hwy.

13 Yna y deallodd y disgyblion mai am Ioan Fedyddiwr y dywedasai efe wrthynt.

14 ¶ Ac wedi eu dyfod hwy at y dyrfa, daeth atto ryw ddyn, ac a ostyngodd iddo ar ei liniau,

15 Ac a ddywedodd, Arglwydd, trugarhâ wrth fy mab, oblegid y mae efe yn lloerig, ac yn flin arno: canys y mae efe yn syrthio yn y tân yn fynych, ac yn y dwfr yn fynych.

16 Ac mi a'i dygais ef at dy ddisgyblion di, ac ni allent hwy ei iachâu ef. 17 A'r Iesu a attebodd ac a ddywedodd, O genhedlaeth anffyddlawn a throfaus, pa hyd y byddaf gyd â chwi? pa hyd y dioddefaf chwi? dygwch ef yma attaf fi.

18 A'r Iesu a geryddodd y cythraul; ac efe a aeth allan o hono: a'r bachgen a iachâwyd o'r awr honno.

19 Yna y daeth y disgyblion at yr Iesu o'r neilldu, ac y dywedasant, Paham na allem ni ei fwrw ef allan?

20 A'r Iesu a ddywedodd wrthynt, Oblegid eich anghrediniaeth: canys yn wir y dywedaf i chwi, Pe bai gennych ffydd megis gronyn o had mwstard, chwi a ddywedech wrth y mynydd hwn, Symmud oddi yma draw; ac efe a symmudai: ac ni bydd dim ammhosibl i chwi.

21 Eithr nid â y rhywogaeth hyn allan, ond trwy weddi ac ympryd.

22 ¶ Ac fel yr oeddynt hwy yn aros yn Galilea, dywedodd yr Iesu wrthynt, Mab y dyn a draddodir i ddwylaw dynion:

23 A hwy a'i lladdant; a'r trydydd dydd y cyfyd efe. A hwy a aethant yn drist iawn.

24 ¶ Ac wedi dyfod o honynt i Capernaum, y rhai oedd yn derbyn arian y deyrnged a ddaethant at Petr, ac a ddywedasant, Onid yw eich athraw chwi yn talu teyrnged?

25 Yntau a ddywedodd, Ydyw. Ac wedi ei ddyfod ef i'r tŷ, yr Iesu a achubodd ei flaen ef, gan ddywedyd, Beth yr wyt ti yn ei dybied, Simon? gan bwy y cymmer brenhinoedd y ddaear deyrnged neu dreth ? gan eu plant eu hun, ynte gan estroniaid?

26 Petr a ddywedodd wrtho, Gan estroniaid. Yr Iesu a ddywedodd wrtho, Gan hynny y mae y plant yn rhyddion.

27 Er hynny, rhag i ni eu rhwystro hwy, dos i'r môr, a bwrw fach, a chymmer y pysgodyn a ddêl i fynu yn gyntaf; ac wedi i ti agoryd ei safn, ti a gei ddarn o arian: cymmer hwnnw, a dyro iddynt drosof fi a thithau.

PENNOD XVIII.

1 Crist yn rhybuddio ei ddisgyblion i fod yn ostyngedig ac yn ddiniwed; 7 i ochelyd rhwystrau, ac na ddirmygent y rhai bychain: 15 yn dysgu pa fodd y mae i ni ymddwyn tu ag at ein brodyr, pan wnelont in herbyn; 21 a pha sawl gwaith y maddeuwn iddynt: 23 yr hyn beth y mae yn ei osod allan trwy ddammeg y brenhin a gymerai gyfrif gan ei weision, 32 ac a gospodd yr hwn ni wnaethai drugaredd a'i gydymmaith.

AR yr awr honno y daeth y disgyblion at yr Iesu, gan ddywedyd, Pwy sydd fwyaf yn nheyrnas nefoedd?

2 A'r Iesu a alwodd atto fachgennyn, ac a'i gosododd yn eu canol hwynt;

3 Ac a ddywedodd, Yn wir y dywedaf i chwi, Oddi eithr eich troi chwi, a'ch gwneuthur fel plant bychain, nid ewch chwi ddim i mewn i deyrnas nefoedd.

4 Pwy bynnag gan hynny a'i gostyngo ei hunan fel y bachgennyn hwn, hwnnw yw y mwyaf yn nheyrnas nefoedd.

5 A phwy bynnag a dderbynio gyfryw fachgennyn yn fy enw i, a'm derbyn i.

6 A phwy bynnag a rwystro un o'r rhai bychain hyn a gredant ynof fi, da fyddai iddo pe crogid maen melin am ei wddf, a'i foddi yn eigion y môr.

7 ¶ Gwae y byd oblegid rhwystrau! canys anghenraid yw dyfod rhwystrau; er hynny gwae y dyn hwnnw trwy yr hwn y daw y rhwystr!

8 Am hynny os dy law neu dy droed a'th rwystra, torr hwynt ymaith, a thafl oddi wrthyt: gwell yw i ti fyned i mewn i'r bywyd yn gloff, neu yn anafus, nag a chennyt ddwy law, neu ddau droed, dy daflu i'r tân tragywyddol.

9 Ac os dy lygad a'th rwystra, tyn ef allan, a thafl oddi wrthyt: gwell yw i ti yn un-llygeidiog fyned i mewn i'r bywyd, nag a dau lygad gennyt dy daflu i dân uffern.

10 Edrychwch na ddirmygoch yr un o'r rhai bychain hyn: canys yr ydwyf yn dywedyd i chwi, fod eu hangelion hwy yn y nefoedd bob amser yn gweled wyneb fy Nhad yr hwn sydd yn y nefoedd.

11 Canys daeth Mab y dyn i gadw yr hyn a gollasid.

12 Beth dybygwch chwi? O bydd gan ddyn gant o ddefaid, a myned o un o honynt ar ddisberod; oni âd efe yr amyn un cant, a myned i'r mynyddoedd, a cheisio yr hon a aeth ar ddisberod?

13 Ac os bydd iddo ei chael hi, yn wir meddaf i chwi, y mae yn llawenhâu am honno mwy nag am yr amyn un cant y rhai nid aethant ar ddisberod.

14 Felly nid yw ewyllys eich Tad yr hwn sydd yn y nefoedd, gyfrgolli yr un o'r rhai bychain hyn.

15 ¶ Ac os pecha dy frawd i'th erbyn, dos, ac argyhoedda ef rhyngot ti ac ef ei hun. Os efe a wrendy arnat, ti a ennillaist dy frawd.

16 Ac os efe ni wrendy, cymmer gyd â thi etto un neu ddau, fel yng ngenau dau neu dri o dystion y byddo pob gair yn safadwy.

17 Ac os efe ni wrendy arnynt hwy, dywed i'r eglwys: ac os efe ni wrendy ar yr eglwys chwaith, bydded ef i ti megis yr ethnig a'r publican.

18 Yn wir meddaf i chwi, Pa bethau bynnag a rwymoch ar y ddaear fyddant wedi eu rhwymo yn y nef: a pha bethau bynnag a ryddhaoch ar y ddaear, a fyddant wedi eu rhyddhâu yn y nef.

19 Trachefn meddaf i chwi, Os cydsynia dau o honoch ar y ddaear am ddim oll beth bynnag a'r a ofynant, efe a wneir iddynt gan fy Nhad yr hwn sydd yn y nefoedd.

20 Canys lle mae dau neu dri wedi ymgynnull yn fy enw i, yno yr ydwyf yn eu canol hwynt.

21 ¶ Yna y daeth Petr atto ef, ac a ddywedodd, Arglwydd, pa sawl gwaith y pecha fy mrawd i'm herbyn, ac y maddeuaf iddo? ai hyd seithwaith?

22 Yr Iesu a ddywedodd wrtho, Nid ydwyf yn dywedyd wrthyt, Hyd seithwaith; ond, Hyd ddengwaith a thri ugain seithwaith.

23 ¶ Am hynny y cyffelybir teyrnas nefoedd i ryw frenhin a fynnai gael cyfrif gan ei weision.

24 A phan ddechreuodd gyfrif, fe a ddygwyd atto un a oedd yn ei ddyled ef o ddeng mil o dalentau.

25 A chan nad oedd ganddo ddim i dalu, gorchymynodd ei arglwydd ei werthu ef, a'i wraig, a'i blant, a chwbl a'r a feddai, a thalu y ddyled.

26 A'r gwas a syrthiodd i lawr, ac a'i haddolodd ef, gan ddywedyd, Arglwydd, bydd ymarhous wrthyf, a mi a dalaf i ti y cwbl oll.

27 Ac arglwydd y gwas hwnnw a dosturiodd wrtho, ac a'i gollyngodd, ac a faddeuodd iddo y ddyled.

28 Ac wedi myned o'r gwas hwnnw allan, efe a gafodd un o'i gydweision, yr hwn oedd yn ei ddyled ef o gàn ceiniog: ac efe a ymaflodd ynddo, ac a'i llindagodd, gan ddywedyd, Tâl i mi yr hyn sydd ddyledus arnat.

29 Yna y syrthiodd ei gyd-was wrth ei draed ef, ac a ymbiliodd âg ef, gan ddywedyd, Bydd ymarhous wrthyf, a mi a dalaf i ti y cwbl oll.

30 Ac nis gwnai efe; ond myned a'i fwrw ef y'ngharchar, hyd oni thalai yr hyn oedd ddyledus.

31 A phan welodd ei gyd-weision y pethau a wnelsid, bu ddrwg dros ben ganddynt: a hwy a ddaethant, ac a fynegasant i'w harglwydd yr holl bethau a fuasai.

32 Yna ei arglwydd, wedi ei alw ef atto, a ddywedodd wrtho, Ha was drwg, maddeuais i ti yr holl ddyled honno, am i ti ymbil à mi:

33 Ac oni ddylesit tithau drugarhâu wrth dy gyd-was, megis y trugarheais innau wrthyt ti?

34 A'i arglwydd a ddigiodd, ac a'i rhoddodd ef i'r poenwyr, hyd oni thalai yr hyn oll oedd ddyledus iddo. 35 Ac felly y gwna fy Nhad nefol i chwithau, oni faddeuwch o'ch calonnau bob un i'w frawd eu camweddau.

PENNOD XIX.

2 Crist yn iachâu y cleifion: 3 yn atteb y Phariseaid am ysgariaeth: 10 yn dangos pa bryd y mae priodas yn angenrheidiol: 13 yn derbyn plant bychain: 16 yn dysgu i'r gwr ieuangc y modd i gael bywyd tragywyddol, 20 ac i fod yn berffaith: 23 yn dywedyd i'w ddisgyblion mor anhawdd ydyw i'r goludog fyned i mewn i deyrnas Dduw; 27 ac yn addaw gwobr i'r sawl a ymadawant & dim er mwyn ei ganlyn ef.

A BU, pan orphenodd yr Iesu yr ymadroddion hyn efe gadawodd o Galilea, ac a ddaeth i derfynau Judea, tu hwnt i'r Iorddonen:

2 A thorfeydd lawer a'i canlynasant ef; ac efe a'u hiachaodd hwynt yno.

3 ¶ A daeth y Phariseaid atto, gan ei demtio, a dywedyd wrtho, Ai cyfreithlawn i wr ysgar â'i wraig am bob achos?

4 Ac efe a attebodd ac a ddywedodd wrthynt, Oni ddarllenasoch, i'r hwn a'u gwnaeth o'r dechreu, eu gwneuthur hwy yn wrryw a benyw?

5 Ac efe a ddywedodd, Oblegid hyn y gâd dyn dad a mam, ac y glŷn wrth ei wraig: a'r ddau fyddant yn un cnawd.

6 O herwydd paham, nid ydynt mwy yn ddau, ond yn un cnawd. Y peth gan hynny a gyssylltodd Duw, na ysgared dyn.

7 Hwythau a ddywedasant wrtho, Paham gan hynny y gorchymynodd Moses roddi llythyr ysgar, a'i gollwng hi ymaith?

8 Yntau a ddywedodd wrthynt, Moses, o herwydd caledrwydd eich calonnau, a oddefodd i chwi ysgar â'ch gwragedd: eithr o'r dechreu nid felly yr oedd.

9 Ac meddaf i chwi, Pwy bynnag a ysgaro â'i wraig, ond am odineb, ac a briodo un arall, y mae efe yn torri priodas: ac y mae yr hwn a briodo yr hon a ysgarwyd, yn torri priodas.

10 ¶ Dywedodd ei ddisgyblion wrtho, Os felly y mae yr achos rhwng gŵr a gwraig, nid da gwreicca.

11 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Nid yw pawb yn derbyn y gair hwn, ond y rhai y rhoddwyd iddynt.

12 Canys y mae eunuchiaid a aned felly o groth eu mam; ac y mae eunuchiaid a wnaed gan ddynion yn eunuchiaid; ac y mae eunuchiaid a'u gwnaethant eu hun yn eunuchiaid er mwyn teyrnas nefoedd. Y neb a ddichon ei dderbyn, derbynied.

13 ¶ Yna y dygwyd atto blant bychain, fel y rhoddai ei ddwylaw arnynt, ac y gweddiai: a'r disgyblion a'u ceryddodd hwynt.

14 A'r Iesu a ddywedodd, Gadêwch i blant bychain, ac na waherddwch iddynt ddyfod attaf fi: canys eiddo y cyfryw rai yw teyrnas nefoedd.

15 Ac wedi iddo roddi ei ddwylaw arnynt, efe a aeth ymaith oddi yno.

16 ¶ Ac wele, un a ddaeth, ac a ddywedodd wrtho, Athraw da, pa beth da a wnaf, fel y caffwyf fywyd tragywyddol?

17 Yntau a ddywedodd wrtho, Paham y gelwi fi yn dda? nid da neb ond un, sef Duw: ond os ewyllysi fyned i mewn i'r bywyd, cadw y gorchymynion.

18 Efe a ddywedodd wrtho yntau, Pa rai? A'r Iesu a ddywedodd, Na ladd, Na odineba, Na ladratta, Na ddwg gam dystiolaeth,

19 Anrhydedda dy dad a'th fam, a Châr dy gymmydog fel ti dy hun.

20 Y gwr ieuangc a ddywedodd wrtho, Mi a gedwais y rhai hyn oll o'm hieuengetid: beth sydd yn eisieu i mi etto?

21 Yr Iesu a ddywedodd wrtho, Os ewyllysi fod yn berffaith, dos, gwerth yr hyn sydd gennyt, a dyro i'r tlodion; a thi a gei drysor yn y nef: a thyred, canlyn fi.

22 A phan glybu y gwr ieuangc yr ymadrodd, efe a aeth i ffordd yn drist: canys yr oedd yn berchen dâ lawer.

23 ¶ Yna y dywedodd yr Iesu wrth ei ddisgyblion, Yn wir y dywedaf i chwi, mai yn anhawdd yr â goludog i mewn i deyrnas nefoedd.

24 A thrachefn meddaf i chwi, Haws yw i gamel fyned trwy grai y nodwydd ddur, nag i oludog fyned i mewn i deyrnas Dduw.

25 A phan glybu ei ddisgyblion ef hyn, synnu a wnaethant yn ddirfawr, gan ddywedyd, Pwy gan hynny a all fod yn gadwedig?

26 A'r Iesu a edrychodd arnynt, ac a ddywedodd wrthynt, Gyd â dynion ammhosibl yw hyn; ond gyd â Duw pob peth sydd bosibl.

27 ¶ Yna Petr a attebodd ac a ddywedodd wrtho, Wele, nyni a adawsom bob peth, ac a'th ganlynasom di: beth gan hynny a fydd i ni?

28 A'r Iesu a ddywedodd wrthynt, Yn wir meddaf i chwi, y cewch chwi, y rhai a'm canlynasoch i, yn yr adenedigaeth, pan eisteddo Mab y dyn ar orsedd ei ogoniant, eistedd chwithau ar ddeuddeg gorsedd, yn barnu deuddeg llwyth Israel.

29 A phob un a'r a adawodd dai, neu frodyr, neu chwiorydd, neu dad, neu fam, neu wraig, neu blant, neu diroedd, er mwyn fy enw i, a dderbyn y càn cymmaint, a bywyd tragywyddol a etifedda efe.

30 Ond llawer o'r rhai blaenaf a fyddant yn olaf, a'r rhai olaf yn flaenaf.

PENNOD XX.

1 Crist, trwy ddammeg y gweithwyr yn y winllan, yn dangos nad ydyw Duw yn ddyledwr i neb: 17 yn rhag-fynegi ei ddioddefaint: 20 trwy atteb i fam meibion Zebedëus, yn dysgu i'w ddisgyblion fod yn ostyngedig; 30 ac yn rhoddi i ddau ddyn dall eu golwg.

CANYS teyrnas nefoedd sydd debyg i wr o berchen tŷ, yr hwn a aeth allan a hi yn dyddhâu, i gyflogi gweithwyr i'w winllan.

2 Ac wedi cyttuno â'r gweithwyr er ceiniog y dydd, efe a'u hanfonodd hwy i'w winllan.

3 Ac efe a aeth allan ynghylch y drydedd awr, ac a welodd eraill yn sefyll yn segur yn y farchnadfa;

4 Ac a ddywedodd wrthynt, Ewch chwithau i'r winllan; a pha beth bynnag a fyddo cyfiawn, mi a'i rhoddaf i chwi.

5 A hwy a aethant ymaith. Ac efe a aeth allan drachefn ynghylch y chweched a'r nawfed awr, ac a wnaeth yr un modd.

6 Ac efe a aeth allan ynghylch yr unfed awr ar ddeg, ac a gafodd eraill yn sefyll yn segur, ac a ddywedodd wrthynt, Paham y sefwch chwi yma ar hyd y dydd yn segur?

7 Dywedasant wrtho, Am na chyflogodd neb nyni. Dywedodd yntau wrthynt, Ewch chwithau i'r winllan; a pha beth bynnag fyddo cyfiawn, chwi a'i cewch.

8 A phan aeth hi yn hwyr, arglwydd y winllan a ddywedodd wrth ei oruchwyliwr, Galw y gweithwyr, a dyro iddynt eu cyflog, gan ddechreu o'r rhai diweddaf hyd y rhai cyntaf.

9 A phan ddaeth y rhai a gyflogasid ynghylch yr unfed awr ar ddeg, hwy a gawsant bob un geiniog.

10 A phan ddaeth y rhai cyntaf, hwy a dybiasant y caent fwy; a hwythau a gawsant bob un geiniog.

11 Ac wedi iddynt gael, grwgnach a wnaethant yn erbyn gwr y tŷ,

12 Gan ddywedyd, Un awr y gweithiodd y rhai olaf hyn, a thi a'u gwnaethost hwynt yn gystal a ninnau, y rhai a ddygasom bwys y dydd, a'r gwres.

13 Yntau a attebodd ac a ddywedodd wrth un o honynt, Y cyfaill, nid ydwyf yn gwneuthur cam â thi: onid er ceiniog y cyttunaist â mi?

14 Cymmer yr hyn sydd eiddot, a dos ymaith: yr ydwyf yn ewyllysio rhoddi i'r olaf hwn megis i tithau.

15 Ai nid cyfreithlawn i mi wneuthur a fynnwyf â'r eiddof fy hun? neu a ydyw dy lygad di yn ddrwg, am fy mod i yn dda?

16 Felly y rhai olaf fyddant yn flaenaf, a'r rhai blaenaf yn olaf: canys llawer sydd wedi eu galw, ac ychydig wedi eu dewis.

17 ¶ Ac a'r Iesu yn myned i fynu i Jerusalem, efe a gymmerth y deuddeg disgybl o'r neilldu ar y ffordd, ac a ddywedodd wrthynt,

18 Wele, yr ydym ni yn myned i fynu i Jerusalem; a Mab y dyn a draddodir i'r arch-offeiriaid a'r ysgrifenyddion, a hwy a'i condemniant ef i farwolaeth,

19 Ac a'i traddodant ef i'r Cenhedloedd, i'w watwar, ac i'w fflangellu, ac i'w groeshoelio: a'r trydydd dydd efe a adgyfyd.

20 ¶ Yna y daeth mam meibion Zebedëus atto gyd â'i meibion, gan addoli, a deisyf rhyw beth ganddo.

21 Ac efe a ddywedodd wrthi, Pa beth a fynni? Dywedodd hithau wrtho, Dywed am gael o'm dau fab hyn eistedd, y naill ar dy law ddehau, a'r llall ar dy law aswy, yn dy frenhiniaeth.

22 A'r Iesu a attebodd ac a ddywedodd, Ni wyddoch chwi beth yr ydych yn ei ofyn. A ellwch chwi yfed o'r cwppan yr ydwyf fi ar yfed o hono, a'ch bedyddio â'r bedydd y bedyddir fi? Dywedasant wrtho, Gallwn.

23 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Diau yr yfwch o'm cwppan, ac y'ch bedyddir â'r bedydd y'm bedyddir âg ef: eithr eistedd ar fy llaw ddehau ac ar fy llaw aswy, nid eiddof ei roddi; ond i'r sawl y darparwyd gan fy Nhad.

24 A phan glybu y deg hyn, hwy a sorrasant wrth y ddau frodyr.

25 A'r Iesu a'u galwodd hwynt atto, ac a ddywedodd, Chwi a wyddoch fod pennaethiaid y Cenhedloedd yn tra-arglwyddiaethu arnynt, a'r rhai mawrion yn tra-awdurdodi arnynt hwy.

26 Eithr nid felly y bydd yn eich plith chwi: ond pwy bynnag a fynno fod yn fawr yn eich plith chwi, bydded yn weinidog i chwi;

27 A phwy bynnag a fynno fod yn bennaf yn eich plith, bydded yn was i chwi:

28 Megis na ddaeth Mab y dyn i'w wasanaethu, ond i wasanaethu, ac i roddi ei einioes yn bridwerth dros lawer.

29 ¶ Ac a hwy yn myned allan o Jericho, tyrfa fawr a'i canlynodd ef.

30 Ac wele, dau ddeillion yn eistedd ar fin y ffordd, pan glywsant fod yr Iesu yn myned heibio, a lefasant, gan ddywedyd, Arglwydd, fab Dafydd, trugarha wrthym.

31 A'r dyrfa a'u ceryddodd hwynt, fel y tawent: hwythau a lefasant fwy-fwy, gan ddywedyd, Arglwydd, fab Dafydd, trugarhâ wrthym.

32 A'r Iesu a safodd, ac a'u galwodd hwynt, ac a ddywedodd, Pa beth a ewyllysiwch ei wneuthur o honof i chwi?

33 Dywedasant wrtho, Arglwydd, agoryd ein llygaid ni.

34 A'r Iesu a dosturiodd wrthynt, ac a gyffyrddodd â'u llygaid: ac yn ebrwydd y cafodd eu llygaid olwg, a hwy a'i canlynasant ef.

PENNOD XXI.

1 Crist yn marchogaeth ar asen i Jerusalem; 12 yn gyrru y prynwyr a'r gwerthwyr o'r deml; 17 yn melldithio y figysbren; 23 yn gostegu yr offeiriaid a'r henuriaid, 28 ac yn eu ceryddu trwy gyffelybrwydd y ddau fab, 33 a'r llafurwyr a laddasant y rhai a anfonwyd attynt.

A PHAN ddaethant yn gyfagos i Jerusalem, a'u dyfod hwy i Bethphage, i fynydd yr Olewwydd, yna yr anfonodd yr Iesu ddau ddisgybl,

2 Gan ddywedyd wrthynt, Ewch i'r pentref sydd ar eich cyfer, ac yn y man chwi a gewch asen yn rhwym, ac ebol gyd â hi: gollyngwch hwynt, a dygwch attaf fi.

3 Ac os dywed neb ddim wrthych, dywedwch, Y mae yn rhaid i'r Arglwydd wrthynt: ac yn y man efe a'u denfyn hwynt.

4 A hyn oll a wnaethpwyd, fel y cyflawnid yr hyn a ddywedasid trwy y prophwyd, yn dywedyd,

5 Dywedwch i ferch Sïon, Wele dy frenhin yn dyfod i ti, yn addfwyn, ac yn eistedd ar asen, ac ebol llwdn asen arferol â'r iau.

6 Y disgyblion a aethant, ac a wnaethant fel y gorchymynasai yr Iesu iddynt.

7 A hwy a ddygasant yr asen a'r ebol, ac a ddodasant eu dillad arnynt, ac a'i gosodasant ef i eistedd ar hynny.

8 A thyrfa ddirfawr a daenasant eu dillad ar y ffordd; eraill a dorrasant gangau o'r gwydd, ac a'u taenasant ar hyd y ffordd.

9 A'r torfeydd, y rhai oedd yn myned o'r blaen, a'r rhai oedd yn dyfod ar ol, a lefasant, gan ddywedyd, Hosanna i fab Dafydd: Bendigedig yw yr hwn sydd yn dyfod yn enw yr Arglwydd: Hosanna yn y goruchafion.

10 Ac wedi ei ddyfod ef i mewn i Jerusalem, y ddinas oll a gynhyrfodd, gan ddywedyd, Pwy yw/hwn?

11 A'r torfeydd a ddywedasant, Hwn yw Iesu y prophwyd o Nazareth yn Galilea.

12 ¶ A'r Iesu a aeth i mewn i deml Dduw, ac a daflodd allan bawb a'r oedd yn gwerthu ac yn prynu yn y deml, ac a ddymchwelodd i lawr fyrddau y newidwyr arian, a chadeiriau y rhai oedd yn gwerthu colommenod:

13 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Ysgrifenwyd, Tŷ gweddi y gelwir fy nhŷ i; eithr chwi a'i gwnaethoch yn ogof lladron.

14 A daeth y deillion a'r cloffion atto yn y deml; ac efe a'u hiachaodd hwynt.

15 A phan welodd yr arch-offeiriaid a'r ysgrifenyddion y rhyfeddodau a wnaethai efe, a'r plant yn llefain yn y deml, ac yn dywedyd, Hosanna i fab Dafydd; hwy a lidiasant,

16 Ac a ddywedasant wrtho, A wyt ti yn clywed beth y mae y rhai hyn yn ei ddywedyd? A'r Iesu a ddywedodd wrthynt, Ydwyf. Oni ddarllenasoch chwi erioed, O enau plant bychain a rhai yn sugno y perffeithiaist foliant?

17 ¶ Ac efe a'u gadawodd hwynt, ac a aeth allan o'r ddinas i Bethania, ac a lettŷodd yno.

18 A'r bore, fel yr oedd efe yn dychwelyd i'r ddinas, yr oedd arno chwant bwyd.

19 A phan welodd efe ffigysbren ar y ffordd, efe a ddaeth atto,ac ni chafodd ddim arno, ond dail yn unig: ac efe a ddywedodd wrtho, Na thyfed ffrwyth arnat byth mwyach. Ac yn ebrwydd y crinodd y ffigysbren.

20 A phan welodd y disgyblion, hwy a ryfeddasant, gan ddywedyd, Mor ddisymmwth y crinodd y ffigysbren!

21 A'r Iesu a attebodd ac a ddywedodd wrthynt, Yn wir meddaf i chwi, Os bydd gennych ffydd, ac heb ammeu, ni wnewch yn unig hyn a wneuthum i i'r ffigysbren, eithr hefyd os dywedwch wrth y mynydd hwn, Coder di i fynu, a bwrier di i'r môr; hynny a fydd.

22 A pha beth bynnag a ofynoch mewn gweddi, gan gredu, chwi a'i derbyniwch.

23 ¶ Ac wedi ei ddyfod ef i'r deml, yr arch-offeiriaid a henuriaid y bobl a ddaethant atto, fel yr oedd efe yn athrawiaethu, gan ddywedyd, Trwy ba awdurdod yr wyt ti yn gwneuthur y pethau hyn? a phwy a roddes i ti yr awdurdod hon?

24 A'r Iesu a attebodd ac a ddywedodd wrthynt, Minnau a ofynaf i chwithau un gair, yr hwn os mynegwch i mi, minnau a fynegaf i chwithau trwy ba awdurdod yr wyf yn gwneuthur y pethau hyn. 25 Bedydd Ioan, o ba le yr oedd? ai o'r nef, ai o ddynion? A hwy a ymresymmasant yn eu plith eu hunain, gan ddywedyd, Os dywedwn, O'r nef; efe a ddywed wrthym, Paham gan hynny nas credasoch ef?

26 Ond os dywedwn, O ddynion; y mae arnom ofn y bobl: canys y mae pawb yn cymmeryd Ioan megis prophwyd.

27 A hwy a attebasant i'r Iesu, ac a ddywedasant, Ni wyddom ni. Ac yntau a ddywedodd wrthynt, Nid wyf finnau yn dywedyd i chwi trwy ba awdurdod yr wyf yn gwneuthur y pethau hyn.

28 ¶ Ond beth dybygwch chwi? Yr oedd gan wr ddau fab: ac efe a ddaeth at y cyntaf ac a ddywedodd, Fy mab, dos, gweithia heddyw yn fy ngwinllan.

29 Ac yntau a attebodd ac a ddywedodd, Nid af: ond wedi hynny efe a edifarhaodd, ac a aeth.

30 A phan ddaeth efe at yr ail, efe Ac efe a ddywedodd yr un modd. a attebodd ac a ddywedodd, Myfi a âf, arglwydd; ac nid aeth efe.

31 Pa un o'r ddau a wnaeth ewyllys y tad? Dywedasant wrtho, Y cyntaf. Yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Yn wir meddaf i chwi, yr â y publicanod a'r putteiniaid i mewn i deyrnas Dduw o'ch blaen chwi.

32 Canys daeth Ioan attoch yn ffordd cyfiawnder, ac ni chredasoch ef; ond y publicanod a'r putteiniaid a'i credasant ef: chwithau, yn gweled, nid edifarhasoch wedi hynny, fel y credech ef.

33 ¶ Clywch ddammeg arall. Yr oedd rhyw ddyn o berchen tŷ, yr hwn a blannodd winllan, ac a osododd gae yn ei chylch hi, ac a gloddiodd ynddi win-wrŷf, ac a adeiladodd dŵr, ac a'i gosododd hi allan i lafurwyr, ac a aeth oddi cartref.

34 A phan nesaodd amser ffrwythau, efe a ddanfonodd ei weision at y llafurwyr, i dderbyn ei ffrwythau hi.

35 A'r llafurwyr a ddaliasant ei weision ef, ac un a gurasant, ac arall a laddasant, ac arall a labyddiasant.

36 Trachefn, efe a anfonodd weision eraill, fwy na'r rhai cyntaf: a hwy a wnaethant iddynt yr un modd.

37 Ac yn ddiweddaf oll, efe a anfonodd attynt ei fab ei hun, gan ddywedyd, Hwy a barchant fy mab i.

38 A phan welodd y llafurwyr y mab, hwy a ddywedasant yn eu plith eu hun, Hwn yw yr etifedd deuwch, lladdwn ef, a daliwn ei etifeddiaeth ef.

39 Ac wedi iddynt ei ddal, hwy a'i bwriasant ef allan o'r winllan, ac a'i lladdasant.

40 Am hynny pan ddêl arglwydd y winllan, pa beth a wna efe i'r llafurwyr hynny?

41 Hwy a ddywedasant wrtho, Efe a ddifetha yn llwyr y dynion drwg hynny, ac a esyd y winllan i lafurwyr eraill, y rhai a dalant iddo y ffrwythau yn eu hamserau.

42 Yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Oni ddarllenasoch chwi erioed yn yr ysgrythyrau, Y maen a wrthododd yr adeiladwyr, hwn a wnaethpwyd yn ben congl: gan yr Arglwydd y gwnaethpwyd hyn, a rhyfedd yw yn ein golwg ni?

43 Am hynny meddaf i chwi, Y dygir teyrnas Dduw oddi arnoch chwi, ac a'i rhoddir i genedl a ddygo ei ffrwythau.

44 A phwy bynnag a syrthio ar y maen hwn, efe a ddryllir ac ar bwy bynnag y syrthio, efe a'i mâl ef yn chwilfriw.

45 A phan glybu yr arch-offeiriaid a'r Phariseaid ei ddamhegion ef, hwy a wybuant mai am danynt hwy y dywedai efe.

46 Ac a hwy yn ceisio ei ddala, hwy a ofnasant y torfeydd; am eu bod yn ei gymmeryd ef fel prophwyd.

PENNOD XXII

1 Dammeg prïodas mab y brenhin. 9 Galwedigaelh y Cenhedloedd. 12 Cospedigoeth yr hwn nid oedd ganddo y wisg brïodas. 15 Y dylid talu teyrnged â Cesar. 29 Crist yn gostegu y Saduceaid ynghylch yr adgyfodiad: 34 yn atteb y cyfreithiwr, pa un yw y gorchymyn cyntaf, ar mawr ; 41 ac yn holi y Phariseaid ynghylch y Messias.

1 A'R Iesu a attebodd, ac a lefarodd wrthynt drachefn mewn damhegion, gan ddywedyd,

2 Cyffelyb yw teyrnas nefoedd i ryw frenhin a wnaeth brïodas i'w fab,

3 Ac a ddanfonodd ei weision i alw y rhai a wahoddasid i'r brïodas: ac ni fynnent hwy ddyfod.

4 Traehefn, efe a anfonodd weision eraill, gan ddywedyd, Dywedwch wrth y rhaì a wahoddwyd, Wele, parottoais fy nghiniaw: fy ychain a'm pasgedigion a laddwyd, a phob peth sydd barod: deuwch i'r brïodas.

5 A hwy yn ddïystyr ganddynt, a aethant ymaith, un i'w faes, ac a i'w fasnach:

6 A'r lleill a ddaliasant ei weision ef, ac a'u hammharchasant, ac a'u lladdasant.

7 A phan glybu y brenhin, efe a lidiodd ; aca ddanfonodd ei luoedd, ac a ddinystriodd y lleiddiaid hynny, ac a losgodd eu dinas hwynt.

8 Yna efe a ddywedodd wrth ei weision, Yn wir y brïodas sydd barod, ond y rhaì a wahoddasid nid oedd deilwng.

9 Ewch gan hynny i'r prif-ffyrdd a chynnifer ag a gaffoch, gwahoddwch i'r briodas,

10 A'r gweision hynny a aethant allan i'r prif-ffyrdd, ac a gasglasant ynghyd nifer oll ag a gawsant, drwg a da: a llanwyd y brïodas o wahoddedigion.

11 ¶ A phan ddaeth y brenhin i mewn i weled y gwahoddedigion, efe a ganfu yno ddyn heb wisg prïodas am dano

12 Ac efe a ddywedodd wrtho, Y cyfaill, pa fodd y daethost ì mewn yma, heb fod gennyt wisg prïodas? Ac yntau a aeth yn fud.

13 Yna y dywedodd! y brenhin wrth y gweinidogion, Rhwymwch ei draed a'i ddwylaw, a chymmerwch ef ymaith, a theflwch i'r tywyllwch eithaf: yno y bydd wylofain a rhingcian dannedd.

14 Canys llawer sydd wedi eu galw, ac ychydig wedi eu dewis.

15 ¶ Yna yr aeth y Phariseaid, ac a gymmerasant gynghor pa fodd y rhwydent ef yn ei ymadrodd.

16 A hwy a ddanfonasant atto eu disgyblion ynghyd â'r Herodianiaid, gan ddywedyd, Athraw, ni awyddom dy fod yn eirwir, ac yn dysgu ffordd Duw mewn gwirionedd, ac nad oes arnat ofal rhag neb: oblegid nid wyt ti yn edrych ar wyneb dynion.

17 Dywed i ni gan hynny, Beth yr wyt ti yn ei dybied? Ai cyfreithlawn rhoddi teyrnged i Cesar, ai nid yw?

18 Ond yr Iesu a wybu eu drygioni hwy, ac a ddywedodd, Paham yr ydych yn fy nhemtio i, chwi ragrithwyr

19 Dangoswch i mi arian y deyrnged. A hwy a ddygasant atto geiniog:

20 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Eiddo pwy yw y ddelw hon a'r argraph?

21 Dywedasant wrtho, Eiddo Cesar. Yna y dywedodd wrthynt, Telwch chwithau yr eiddo Cesar i. Cesar, a'r eiddo Duw i Dduw.

22 A phan glywsant hwy hyn, rhyfeddu a wnaethant, a'i adael ef, a myned ymaith.

23 ¶ Y dydd hwnnw y daeth atto y Saduceaid, y rhai sydd yn dywedyd nad oes adgyfodiad, ac a ofynasant iddo,

24 Gan ddywedyd, Athro, dywedodd Moses, Os bydd marw neb heb iddo blant, prioded ei frawd ei wraig ef, a chyfoded had i'w frawd.

25 Ac yr oedd gyda ni saith o frodyr: a'r cyntaf a briododd wraig, ac a fu farw; ac efe heb hiliogaeth iddo, a adawodd ei wraig i'w frawd.

26 Felly hefyd yr ail, a'r trydydd, hyd y seithfed.

27 Ac yn ddiwethaf oll bu farw'r wraig hefyd.

28 Yn yr atgyfodiad, gan hynny, gwraig i bwy o'r saith fydd hi? canys hwynt-hwy oll a'i cawsant hi.

29 A'r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Yr ydych yn cyfeiliorni, gan na wyddoch yr ysgrythurau, na gallu Duw.

30 Oblegid yn yr atgyfodiad nid ydynt nac yn gwreica, nac yn gwra; eithr y maent fel angylion Duw yn y nef.

31 Ac am atgyfodiad y meirw, oni ddarllenasoch yr hyn a ddywedwyd wrthych gan Dduw, gan ddywedyd,

32 Myfi yw Duw Abraham, a Duw Isaac, a Duw Jacob? Nid yw Duw Dduw y rhai meirw, ond y rhai byw.

33 A phan glybu'r torfeydd hynny, hwy a synasant wrth ei athrawiaeth ef.

34 ¶ Ac wedi clywed o'r Phariseaid ddarfod i'r Iesu ostegu'r Sadwceaid, hwy a ymgynullasant ynghyd i'r un lle.

35 Ac un ohonynt, yr hwn oedd gyfreithiwr, a ofynnodd iddo, gan ei demtio, a dywedyd,

36 Athro, pa un yw y gorchymyn mawr yn y gyfraith?

37 A'r Iesu a ddywedodd wrtho, Ceri yr Arglwydd dŷ Dduw â'th holl galon, ac â'th holl enaid, ac â'th holl feddwi.

38 Hwn yw'r cyntaf, a'r gorchymyn mawr.

39 A'r ail sydd gyffelyb iddo. Câr dy gymydog fel ti dy hun.

40 Ar y ddau orchymyn hyn y mae'r holl gyfraith a'r profiwydi yn sefyll.

41 ¶ Ac wedi ymgasglu o'r Phariseaid ynghyd, yr Iesu a ofynnodd iddynt,

42 Gan ddywedyd, Beth a dybygwch chwi am Grist? mab i bwy ydyw? Dywedent wrtho, Mab Dafydd.

43 Dywedai yntau wrthynt. Pa fodd gan hynny y mae Dafydd yn yr ysbryd yn ei alw ef yn Arglwydd, gan ddywedyd,

44 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth fy Arglwydd, Eistedd ar fy neheulaw, hyd oni osodwyf dy elynion yn droedfainc i'th draed di?

45 Os yw Dafydd gan hynny yn ei alw ef yn Arglwydd, pa fodd y mae efe yn fab iddo?

46 Ac ni allodd neb ateb gair iddo, ac ni feiddiodd neb o'r dydd hwnnw allan ymofyn ag ef mwyach.

PENNOD XXIII

1 Crist yn rhybuddio y bobl i ddilyn athrawiaeth dda, ac nid esamplau drwg yr ysgrifenyddion a'r Phariseaid. 5 Rhaid i ddisgyblion Crist ochelyd eu rhyfyg hwy. 13 Mae efe yn cyhoeddi wyth wae yn erbyn eu rhagrith a'u dallineb hwy; 34 ac yn prophwydo dinystr Jerusalem.

1 YNA y llefarodd yr Iesu wrth y torfeydd a'i ddisgyblion,

2 Gan ddywedyd, Yng nghadair Moses yr eistedd yr ysgrifenyddion a'r Phariseaid.

3 Yr hyn oll gan hynny a ddywedant wrthych am eu cadw, cedwch a gwnewch; eithr yn ôl eu gweithredoedd na wnewch: canys dywedant, ac nis gwnânt.

4 Oblegid y maent yn rhwymo beichiau trymion ac anodd eu dwyn, ac yn eu gosod ar ysgwyddau dynion, ond nid ewyllysiant eu syflyd hwy ag un o'u bysedd.

5 Ond y maent yn gwneuthur eu holl weithredoedd er mwyn eu gweled gan ddynion: canys y maent yn gwneuthur yn llydain eu phylacterau, ac yn gwneuthur ymylwaith eu gwisgoedd yn helaeth;

6 A charu y maent y lle uchaf mewn gwleddoedd, a'r prif gadeiriau yn y synagogau,

7 A chyfarch yn y marchnadoedd, a'u galw gan ddynion. Rabbi, Rabbi.

8 Eithr na'ch galwer chwi Rabbi: canys un yw eich Athro chwi, sef Crist, a chwithau oll brodyr ydych.

9 Ac na elwch neb yn dad i chwi ar y ddaear: canys un Tad sydd i chwi, yr hwn sydd yn y nefoedd.

10 Ac na'ch galwer yn athrawon: canys un yw eich Athro chwi, sef Crist,

11 A'r mwyaf ohonoch a fydd yn weinidog i chwi.

12 A phwy bynnag a'i dyrchafo ei hun, a ostyngir; a phwy bynnag a'i gostyngo ei hun, a ddyrchefir.

13 ¶ Eithr gwae chwi, ysgrifenyddion a Phariseaid, ragrithwyr! canys yr ydych yn cau teyrnas nefoedd o flaen dynion: canys chwi nid ydych yn myned i mewn, a'r rhai sydd yn myned i mewn nis gadewch i fyned i mewn.

14 Gwae chwi, ysgrifenyddion a Phariseaid, ragrithwyr! canys yr ydych y llwyr-fwyta tai gwragedd gweddwon, a hynny yn rhith hir weddïo: am hynny y derbyniwch farn fwy.

15 Gwae chwi, ysgrifenyddion a Phariseaid, ragrithwyr! canys amgylchu yr ydych y môr a'r tir, i wneuthur un proselyt, ac wedi y gwneler, yr ydych yn ei wneuthur ef yn fab uffern, yn ddau mwy na chwi eich hunain.

16 Gwae chwi, dywysogion deillion! y rhai ydych yn dywedyd, Pwy bynnag a dwng i'r deml, nid yw ddim; ond pwy bynnag a dwng i aur y deml, y mae efe mewn dyled.

17 Ffyliaid, a deillion: canys pa un sydd fwyaf, yr aur, ai y deml sydd yn sancteiddio'r aur?


18 A phwy bynnag a dwng i'r allor, nid yw ddim; ond pwy bynnag a dyngo i'r rhodd sydd arni, y mae efe mewn dyled.

19 Ffyliaid, a deillion: canys pa un fwyaf, y rhodd, ai'r allor sydd yn sancteiddio y rhodd?

20 Pwy bynnag gan hynny a dwng i'r allor, sydd yn tyngu iddi, ac i'r hyn oll sydd arni.

21 A phwy bynnag a dwng i'r deml, sydd yn tyngu iddi, ac i'r hwn sydd yn preswylio ynddi.

22 A'r hwn a dwng i'r nef, sydd yn tyngu i orseddfainc Duw, ac i'r hwn sydd yn eistedd arni.

23 Gwae chwi, ysgrifenyddion a Phariseaid, ragrithwyr! canys yr ydych yn degymu'r mintys, a'r anis, a'r cwmin, ac a adsawsoch heibio y pethau trymach o'r gyfraith, barn, a thrugaredd, a ffydd: rhaid oedd gwneuthur y pethau hyn, ac na adewid y lleill heibio.

24 Tywysogion deillion, y rhai ydych yn hidio gwybedyn, ac yn llyncu camel.

25 Gwae chwi, ysgrifenyddion a Phariseaid, ragrithwyr! canys yr ydych yn glanhau'r tu allan i'r cwpan a'r ddysgl, ac o'r tu mewn y maent yn llawn o drawsedd ac anghymedroldeb.

26 Ti Pharisead dall, glanha yn gyntaf yr hyn sydd oddi fewn i'r cwpan a'r ddysgl, fel y byddo yn lân hefyd yr hyn sydd oddi allan iddynt.

27 Gwae chwi, ysgrifenyddion a Phariseaid, ragrithwyr! canys tebyg ydych chwi i feddau wedi eu gwynnu, y rhai sydd yn ymddangos yn dêg oddi allan, ond oddi mewn sydd yn llawn o esgyrn y meirw, a phob aflendid.

28 Ac felly chwithau oddi allan ydych yn ymddangos i ddynion yn gyfiawn, ond o fewn yr ydych yn llawn rhagrith ac anwiredd.

29 Gwae chwi, ysgrifenyddion a Phariseaid, ragrithwyr! canys yr ydych yn adeiladu beddau'r proffwydi, ac yn addurno beddau'r rhai cyfiawn;

30 Ac yr ydych yn dywedyd, Pe buasem ni yn nyddiau ein tadau, ni buasem ni gyfranogion â hwynt yng ngwaed y proffwydi.

31 Felly yr ydych yn tystiolaethu amdanoch eich hunain, eich bod yn blant i'r rhai a laddasant y proffwydi.

32 Cyflawnwch chwithau hefyd fesur eich tadau.

33 O seirph, hiliogaeth gwiberod, pa fodd y gellwch ddianc rhag barn uffern?

34 ¶ Am hynny, wele, yr ydwyf yn anfon atoch brophwydi, a doethion, ac ysgrifenyddion: a rhai ohonynt a leddwch, ac a groeshoeliwch; a rhai ohonynt a ffrewyllwch yn eich synagogau, ac a erlidiwch o dref i dref.

35 Fel y delo arnoch chwi yr holl waed cyfiawn a'r a ollyngwyd ar y ddaear, o, waed Abel gyfiawn hyd waed Zachareïas fab Baracheïas, yr hwn a laddasoch rhwng y deml a'r allor.

36 Yn wir meddaf i chwi. Daw hyn oll ar y genhedlaeth hon.

37 Jerwsalem, Jerwsalem, yr hon wyt yn lladd y prophwydi, ac yn llabyddio'r rhai a ddanfonir attat, pa sawl gwaith y mynaswn gasglu dy blant ynghyd, megis y casgl iâr ei chywion dan ei hadenydd, ac nis mynnech!

38 Wele, yr ydys yn gadael eich tŷ i chwi yn anghyfannedd.

39 Canys meddaf i chwi, Ni'm gwelwch ar ôl hyn, hyd oni ddywedoch, Bendigedig yw yr hwn sydd yn dyfod yn enw'r Arglwydd.

PENNOD XXIV

1 Crist yn rhag-ddywedyd dinystr y deml: 3 pa fath a pha faint o gystuddiau a fydd o'r blaen. 29 Arwyddion ei ddyfodiad ef i farn. 36 Ac o ran bod y dydd a'r awr yn anhysbys, 42 y dylem ni wylied fel gweision da, yn disgwyl bob amser am ddyfodiad ein meistr.

1A'R Iesu a aeth allan, ac a ymadawodd o'r deml: a'i ddisgyblion a ddaethant atto, i ddangos iddo adeiladau'r deml.

2 A'r Iesu a ddywedodd wrthynt, Oni welwch chwi hyn oll? Yn wir meddaf i chwi, Ni adewir yma garreg ar garreg, a'r ni ddattodir.

3 ¶ Ac efe yn eistedd ar fynydd yr Olew-wydd, y disgyblion a ddaethant atto o'r neilltu, gan ddywedyd, Mynega i ni, pa bryd y bydd y pethau hyn? a pha arwydd fydd o'th ddyfodiad, ac o ddiwedd y byd?

4 A'r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Edrychwch rhag i neb eich twyllo chwi.

5 Canys daw llawer yn fy enw i, gan ddywedyd, Myfi yw Crist; ac a dwyllant lawer.

6 A chwi a gewch glywed am ryfeloedd, a sôn am ryfeloedd: gwelwch na chyffrôer chwi: canys rhaid yw bod hyn oll; eithr nid yw'r diwedd etto.

7 Canys cyfyd cenedl yn erbyn cenedl, a theyrnas yn erbyn teyrnas: ac fe fydd newyn, a nodau, a daeargrynfäau mewn mannau.

8 A dechreuad gofidiau yw hyn oll.

9 Yna y'ch traddodant chwi i'ch gorthrymu, ac a'ch lladdant: a chwi a gasêir gan yr holl genhedloedd er mwyn fy enw i.

10 Ac yna y rhwystrir llawer, ac y bradychant ei gilydd, ac y casânt ei gilydd.

11 A gau brophwydi lawer a godant, ac a dwyllant lawer.

12 Ac oherwydd yr amlhâ anwiredd, fe a oera cariad llawer.

13 Eithr y neb a barhao hyd y diwedd, hwnnw a fydd cadwedig.

14 A'r efengyl hon am y deyrnas a bregethir trwy'r holl fyd, er tystiolaeth i'r holl genhedloedd: ac yna y daw'r diwedd.

15 Am hynny pan weloch y ffieidd-dra anghyfanneddol, a ddywedwyd trwy Daniel y prophwyd, yn sefyll yn y lle sanctaidd, (y neb a ddarlleno, ystyried;)

16 Yna y rhai a fyddant yn Jwdea, fföant i'r mynyddoedd.

17 Y neb a fyddo ar ben y tŷ, na ddisgynned i gymryd dim allan o'i dŷ:

18 A'r hwn a fyddo yn y maes, na ddychweled yn ei ôl i gymryd ei ddillad.

19 A gwae'r rhai beichiogion, a'r rhai yn rhoi bronnau, yn y dyddiau hynny.

20 Eithr gweddïwch na byddo eich fföedigaeth yn y gaeaf, nac ar y dydd Sabbath:

21 Canys y pryd hwnnw y bydd gorthrymder mawr, y fath ni bu o ddechrau'r byd hyd yr awr hon, ac ni bydd chwaith.

22 Ac oni bai fyrhâu y dyddiau hynny, ni fuasai gadwedig un cnawd oll: eithr er mwyn yr etholedigion fe fyrhêir y dyddiau hynny.

23 Yna os dywed neb wrthych, Wele, llyma Grist, neu llyma; na chredwch.

24 Canys cyfyd gau-Gristiau, a gau-brophwydi, ac a roddant arwyddion mawrion a rhyfeddodau, hyd oni thwyllant, pe byddai bosibl, ïe, yr etholedigion.

25 Wele, rhag-ddywedais i chwi.

26 Am hynny, os dywedant wrthych, Wele, y mae efe yn y diffeithwch; nac ewch allan: wele, yn yr ystafelloedd; na chredwch.

27 Oblegid fel y daw'r fellten o'r dwyrain, ac y tywynna hyd y gorllewin; felly hefyd y bydd dyfodiad Mab y dyn.

28 Canys pa le bynnag y byddo y gelain, yno yr ymgasgl yr eryrod.

29 ¶ Ac yn y fan wedi gorthrymder y dyddiau hynny, y tywyllir yr haul, a'r lleuad ni rydd ei goleuni, a'r sêr a syrth o'r nef, a nerthoedd y nefoedd a ysgydwir.

30 Ac yna yr ymddengys arwydd Mab y dyn yn y nef: ac yna y galara holl lwythau y ddaear; a hwy a welant Fab y dyn yn dyfod ar gymylau y nef, gyd â nerth a gogoniant mawr.

31 Ac efe a ddenfyn ei angylion â mawr sain utgorn; a hwy a gasglant ei etholedigion ef ynghyd o'r pedwar gwynt, O eithafoedd y nefoedd hyd eu heithafoedd hwynt.

32 Ond dysgwch ddameg oddi wrth y ffigysbren; Pan yw ei gangen eisoes yn dyner, a'i ddail yn torri allan, chwi a wyddoch fod yr haf yn agos:

33 Ac felly chwithau, pan weloch hyn oll, gwybyddwch ei fod yn agos wrth y drysau.

34 Yn wir meddaf i chwi, Nid â y genhedlaeth hon heibio, hyd oni wneler hyn oll.

35 Nef a daear a ânt heibio, eithr fy ngeiriau i nid ânt heibio ddim.

36 ¶ Ond am y dydd hwnnw a'r awr nis gŵyr neb, nac angylion y nefoedd, ond fy Nhad yn unig.

37 Ac fel yr oedd dyddiau Noë, felly hefyd y bydd dyfodiad Mab y dyn.

38 Oblegid fel yr oeddynt yn y dyddiau ymlaen y dilyw yn bwyta ac yn yfed, yn priodi ac yn rhoi i briodas, hyd y dydd yr aeth Noë i mewn i'r arch,

39 Ac ni wybuant hyd oni ddaeth y dilyw, a'u cymryd hwy oll ymaith; felly hefyd y bydd dyfodiad Mab y dyn.

40 Yna y bydd dau yn y maes: y naill a gymerir, a'r llall a adewir.

41 Dwy a fydd yn malu mewn melin; un a gymerir, a'r llall a adewir.

42 ¶ Gwyliwch gan hynny; am na wyddoch pa awr y daw eich Arglwydd.

43 A gwybyddwch hyn, pe gwybuasai gŵr y tŷ pa wyliadwriaeth y deuai'r lleidr, efe a wyliasai, ac ni adawsai gloddio ei dŷ trwodd.

44 Am hynny byddwch chwithau barod: canys yn yr awr ni thybioch y daw Mab y dyn.

45 Pwy gan hynny sydd was ffyddlawn a doeth, yr hwn a osododd ei arglwydd ar ei deulu, i roddi bwyd iddynt mewn pryd?

46 Gwỳn ei fyd y gwas hwnnw, yr hwn y caiff ei arglwydd ef, pan ddelo, yn gwneuthur felly.

47 Yn wir meddaf i chwi, Ar ei holl ddâ y gesyd efe ef.

48 Ond os dywed y gwas drwg hwnnw yn ei galon, Y mae fy arglwydd yn oedi dyfod;

49 A dechrau curo ei gyd-weision, a bwyta ac yfed gyd â'r meddwon;

50 Arglwydd y gwas hwnnw a ddaw yn y dydd nid yw efe yn disgwyl am dano, ac mewn awr nis gŵyr efe;

51 Ac efe a'i gwahana ef, ac a esyd ei ran ef gyd â'r rhagrithwyr: yno y bydd wylofain a rhincian dannedd.

PENNOD XXV

1 Dammeg y deg morwyn, 14 a'r talentau; 31 a dull y farn ddiweddaf.

YNA tebyg fydd teyrnas nefoedd i ddeg o forynion, y rhai a gymmerasant eu lampau, ac a aethant allan i gyfarfod â'r priodfab.

2 A phump ohonynt oedd gall, a phump yn ffol.

3 Y rhai oedd ffol a gymerasant eu lampau, ac ni chymerasant olew gyda hwynt:

4 A'r rhai call a gymerasant olew yn eu llestri gyd â'u lampau.

5 A thra oedd y prïod-fab yn aros yn hir, yr hepiasant oll ac yr hunasant.

6 Ac ar hanner nos y bu gwaedd, Wele, y mae'r prïod-fab yn dyfod; ewch allan i gyfarfod âg ef.

7 Yna y cyfododd yr holl forynion hynny, ac a drwsiasant eu lampau.

8 A'r rhai ffol a ddywedasant wrth y rhai call, Rhoddwch i ni o'ch olew chwi: canys y mae ein lampau yn diffoddi.

9 A'r rhai call a atebasant, gan ddywedyd, Nid felly; rhag na byddo digon i ni ac i chwithau: ond ewch yn hytrach at y rhai sydd yn gwerthu, a phrynwch i chwi eich hunain.

10 A thra oeddynt yn myned ymaith i brynu, daeth y prïod-fab, a y rhai oedd barod, a aethant i mewn gyd âg ef i y brïodas: a chaewyd y drws.

11 Wedi hynny y daeth y morynion eraill hefyd, gan ddywedyd, Arglwydd, Arglwydd, agor i ni.

12 Ac efe a atebodd ac a ddywedodd, Yn wir meddaf i chwi, Nid adwaen chwi.

13 Gwyliwch gan hynny; am na wyddoch na y dydd na y awr y daw Mab y dyn.

14 ¶ Canys y mae teyrnas nefoedd fel dyn yn myned i wlad ddïeithr, yr hwn a alwodd ei weision, ac a roddes ei ddâ atynt.

15 Ac i un y rhoddodd efe bùm talent, ac i arall ddwy, ac i arall un, i bob un yn ôl ei allu ei hun; ac yn y fan efe a aeth oddi cartref.

16 A'r hwn a dderbyniasai y pùm talent a aeth, ac a farchnataodd â hwynt, ac a wnaeth bùm talent eraill.

17 A y un modd yr hwn a dderbyniasai y ddwy, a enillodd yntau ddwy eraill.

18 Ond yr hwn a dderbyniasai un, a aeth, ac a gloddiodd yn y ddaear, ac a guddiodd arian ei arglwydd.

19 Ac wedi llawer o amser, y mae arglwydd y gweision hynny yn dyfod, ac yn cyfrif â hwynt.

20 A daeth yr hwn a dderbyniasai bùm talent, ac a ddug bùm talent eraill, gan ddywedyd, Arglwydd, pùm talent a roddaist ataf: wele, mi a enillais bùm talent eraill attynt.

21 A dywedodd ei arglwydd wrtho, Da, was da a ffyddlon: buost ffyddlon ar ychydig, mi a'th osodaf ar lawer: dos i mewn i lawenydd dy arglwydd.

22 A y hwn a dderbyniasai ddwy dalent a ddaeth, ac a ddywedodd, Arglwydd; dwy dalent a roddaist attaf: wele, dwy eraill a enillais attynt.

23 Ei arglwydd a ddywedodd wrtho, Da, was da a ffyddlon: buost ffyddlon ar ychydig, mi a'th osodaf ar lawer: dos i mewn i lawenydd dy arglwydd.

24 A y hwn a dderbyniasai y un dalent a ddaeth, ac a ddywedodd, Arglwydd, mi a'th adwaenwn di, mai gŵr caled ydwyt, yn medi lle nis heuaist, ac yn casglu lle ni wasgeraist:

25 A mi a ofnais, ac a euthum, ac a guddiais dy dalent yn y ddaear: wele, yr wyt yn cael yr eiddot dy hun.

26 A'i arglwydd a atebodd ac a ddywedodd wrtho, O was drwg a dïog, ti a wyddit fy mod yn medi lle nis heuais, ac yn casglu lle nis gwasgerais:

27 Am hynny y dylesit ti roddi fy arian at y cyfnewidwyr; a mi, pan ddaethwn, a gawswn dderbyn yr eiddof fy hun gyd â llog.

28 Cymmerwch gan hynny y dalent oddi wrtho, a rhoddwch i y hwn sydd ganddo ddeg talent.

29 Canys i bob un y mae ganddo y rhoddir, ac efe a gaiff helaethrwydd; ac oddi ar yr hwn nid oes ganddo y dygir oddi arno, ïe, yr hyn sydd ganddo.

30 A bwriwch allan y gwas anfuddiol i y tywyllwch eithaf: yno y bydd wylofain a rhincian dannedd.

31 ¶ A Mab y dyn, pan ddêl yn ei ogoniant, a y holl angylion sanctaidd gydag ef, yna yr eistedd ar orsedd-faingc ei ogoniant.

32 A chyd-gesglir ger ei fron ef yr holl genhedloedd: ac efe a'u didola hwynt oddi wrth ei gilydd, megis y didola y bugail y defaid oddi wrth y geifr:

33 Ac a esyd y defaid ar ei ddeheulaw, ond y geifr ar yr aswy.

34 Yna y dywed y Brenhin wrth y rhai ar ei ddeheulaw, Deuwch, chwi fendigedigion fy Nhad, etifeddwch y deyrnas a barattöwyd i chwi er seiliad y byd.

35 Canys bûm newynog, a chwi a roesoch imi fwyd: bu arnaf syched, a rhoesoch imi ddïod: bûm ddieïthr, a dygasoch fi gyd â chwi:

36 Noeth, a dilladasoch fi: bûm glaf, ac ymwelsoch â mi: bûm yng ngharchar, a daethoch ataf.

37 Yna yr etyb y rhai cyfiawn iddo, gan ddywedyd, Arglwydd, pa bryd y'th welsom yn newynog, ac y'th borthasom? neu yn sychedig, ac y rhoesom i ti ddïod?

38 A pha bryd y'th welsom yn ddïeithr, ac y'th ddygasom gyd â ni? neu yn noeth, ac y'th ddilladasom?

39 A pha bryd y'th welsom yn glaf, neu yng ngharchar, ac y daethom attat?

40 A y Brenhin a ettyb, ac a ddywed wrthynt, Yn wir meddaf i chwi, Yn gymmaint â'i wneuthur ohonoch i un o y rhai hyn fy mrodyr lleiaf, i mi y gwnaethoch.

41 Yna y dywed efe hefyd wrth y rhai a fyddant ar y llaw aswy, Ewch oddi wrthyf, rai melldigedig, i'r tân tragwyddol, yr hwn a barattöwyd i ddiafol ac i'w angylion.

42 Canys bûm newynog, ac ni roesoch i mi fwyd: bu arnaf syched, ac ni roesoch i mi ddiod:

43 Bûm ddieithr, ac ni'm dygasoch gyd â chwi: noeth, ac ni'm dilladasoch: yn glaf ac yng ngharchar, ac nid ymwelsoch â mi.

44 Yna yr atebant hwythau hefyd iddo, gan ddywedyd, Arglwydd, pa bryd y'th welsom yn newynog, neu yn sychedig, neu yn ddieithr, neu yn noeth, neu yn glaf, neu yng ngharchar, ac ni weiniasom iti?

45 Yna yr ettyb efe iddynt, gan ddywedyd, Yn wir meddaf i chwi, Yn gymmaint ag nas gwnaethoch i'r un o y rhai lleiaf hyn, nis gwnaethoch i minnau.

46 A y rhai hyn a ânt i gospedigaeth dragwyddol: ond y rhai cyfiawn i fywyd tragwyddol.

PENNOD XXVI

3 Y llywodraethwyr yn cyd-fwriadu yn erbyn Crist. 6 I wraig yn enneinio ei ben ef. 14 Judas yn ei werthu ef. 17 Crist yn bwytta y pasc: 26 yn ordeinio ei supper sanctaidd: 36 yn gweddio yn yr ardd: 47 ac wedi ei fradychu â chusan, 57 yn cael ei arwain at Caiaphas, 69 a'i wadu gan Petr.

1 A bu, wedi i'r Iesu orphen y geiriau hyn oll, efe a ddywedodd wrth ei ddisgyblion,

2 Chwi a wyddoch mai gwedi deuddydd y mae y pasc; a Mab y dyn a draddodir i'w groeshoelio.

3 Yna yr ymgasglodd yr archo-ffeiriaid, a y ysgrifenyddion, a henuriaid y bobl, i lys yr arch-offeiriad, yr hwn a elwid Caiaphas:

4 A hwy a gydymgyngorasant fel y dalient yr Iesu trwy ddichell, ac y lladdent ef.

5 Eithr hwy a ddywedasant, Nid ar yr wyl, rhag bod cynnwrf ymhlith y bobl.

6 ¶ Ac a y Iesu yn Bethania, yn nhŷ Simon y gwahan-glwyfus,

7 Daeth atto wraig a chanddi flwch o ennaint gwerthfawr, ac a'i tywalltodd ar ei ben, ac efe yn eistedd wrth y ford.

8 A phan welodd ei ddisgyblion, hwy a sorasant, gan ddywedyd, I ba beth y bu y golled hon?

9 Canys fe a allasid gwerthu y ennaint hwn er llawer, a'i roddi i'r tlodion.

10 A y Iesu a wybu, ac a ddywedodd wrthynt, Paham yr ydych yn gwneuthur blinder i'r wraig? canys hi a weithiodd weithred dda arnaf.

11 Oblegid y mae gennych y tlodion bob amser gyd â chwi, a mi nid ydych yn ei gael bob amser.

12 Canys hi yn tywallt yr ennaint hwn ar fy nghorff, a wnaeth hyn i'm claddu i.

13 Yn wir meddaf i chwi. Pa le bynnag y pregether yr efengyl hon yn yr holl fyd, mynegir yr hyn a wnaeth hi hefyd, er coffa am dani hi.

14 ¶ Yna yr aeth un o y deuddeg, yr hwn a elwid Judas Iscariot, at yr arch-offeiriaid,

15 Ac a ddywedodd wrthynt, Pa beth a roddwch i mi, a mi a'i traddodaf ef i chwi? A hwy a osodasant iddo ddeg ar hugain o arian.

16 Ac o hynny allan y ceisiodd efe amser cyfaddas i'w fradychu ef. 17 ¶ Ac ar y dydd cyntaf o wyl y bara croyw, y disgyblion a ddaethant at yr Iesu, gan ddywedyd wrtho. Pa le y mynni i ni barattoi i ti fwytta y pasc?

18 Ac yntau a ddywedodd, Ewch i'r ddinas at y cyfryw un, a dywedwch wrtho, Y mae yr Athraw yn dywedyd, Fy amser sydd agos : gyd a thi y cynhaliaf y pasc, mi a'm disgyblion.

19 A'r disgyblion a wnaethant y modd y gorchymynasai yr Iesu iddynt, ac a barottoisant y pasc.

20 Ac wedi ei myned hi yn hwyr, efe a eisteddodd gyd â'r deuddeg.

21 Ac fel yr oeddynt yn bwytta, efe a ddywedodd, Yn wir yr wyf yn dywedyd i chwi, mai un o honoch chwi a'm bradycha i.

22 A hwythau yn drist iawn, a ddechreuasant ddywedyd wrtho, bob un o honynt, Ai myfi yw, Arglwydd?

23 Ac efe a attebodd ac a ddywedodd, Yr hwn a wlych ei law gyd â mi yn y ddysgl, hwnnw a'm bradycha i.

24 Mab y dyn yn ddïau sydd yn myned, fel y mae yn ysgrifenedig am dano: eithr gwae y dyn hwnnw trwy yr hwn y bradychir Mab y dyn ! da fuasai i'r dyn hwnnw pe nas ganesid ef.

25 A Judas, yr hwn a'i bradychodd ef, a attebodd ac a ddywedodd, Ai myfi yw efe, Athraw? Yntau a ddywedodd wrtho, Ti a ddywedaist.

26 ¶ Ac fel yr oeddynt yn bwytta, yr Iesu a gymmerth y bara, ac wedi iddo fendithio, efe a'i torrodd, ac a'i rhoddodd i'r disgyblion, ac a ddywedodd, Cymmerwch, bwyttêwch hwn yw fy nghorph.

27 Ac wedi iddo gymmeryd y cwppan, a dïolch, efe a'i rhoddes iddynt, gan ddywedyd, Yfwch bawb o hwn:

28 Canys hwn yw fy ngwaed o'r testament newydd, yr hwn a dywelltir dros lawer, er maddeuant pechodau.

29 Ac yr ydwyf yn dywedyd i chwi, nad yfaf o hyn allan o ffrwyth hwn y winwydden, hyd y dydd hwn nw pan yfwyf ef gyd â chwi yn newydd yn nheyrnas fy Nhad.

30 Ac wedi iddynt ganu hymn, hwy a aethant allan i fynydd yr Olew-wydd.

31 Yna y dywedodd yr Iesu wrthynt, Chwychwi oll a rwystrir heno o'm plegid i: canys ysgrifenedig yw, Tarawaf y bugail, a defaid y praidd a wasgerir.

32 Eithr wedi fy adgyfodi, mi a âf o'ch blaen chwi i Galilea.

33 A Phetr a attebodd ac a ddywedodd wrtho, Pe rhwystrid pawb o'th blegid di, etto ni'm rhwystrir i byth.

34 Yr Iesu a ddywedodd wrtho, Yn wir yr wyf yn dywedyd i ti, mai y nos hon, cyn canu o'r ceiliog, y'm gwedi deirgwaith.

35 Petr a ddywedodd wrtho, Pe gorfyddai i mi farw gyd â thi, ni'th wadaf ddim. Yr un modd hefyd y dywedodd yr holl ddisgyblion.

36 Yna y daeth yr Iesu gyd â hwynt i fan a elwid Gethsemane, ac a ddywedodd wrth ei ddisgybl ion, Eisteddwch yma, tra yr elwyf a gweddïo accw.

37 Ac efe a gymmerth Petr, a dau fab Zebedeus, ac a ddechreuodd dristâu ac ymofidio.

38 Yna efe a ddywedodd wrthynt, Trist iawn yw fy enaid hyd angau: arhoswch yma, a gwyliwch gyd â mi.

39 Ac wedi iddo fyned ychydig ym mlaen, efe a syrthiodd ar ei wyneb, gan weddïo, a dywedyd, Fy Nhad, os yw bosibl, aed y cwppan hwn heibio oddi wrthyf: etto nid fel yr ydwyf fi yn ewyllysio, ond fel yr ydwyt ti.

40 Ac efe a ddaeth at y disgyblion, ac a'u cafodd hwy yn cysgu; ac a ddywedodd wrth Petr, Felly; oni ellych chwi wylied un awr gyd â mi?

41 Gwyliwch a gweddïwch, fel nad eloch i brofedigaeth. Yr yspryd yn ddïau sydd yn barod, eithr y cnawd sydd wan.

42 Efe a aeth drachefn yr ail waith, ac a weddïodd, gan ddywedyd, Fy Nhad, onis gall y cwppan hwn fyned heibio oddi wrthyf, na byddo i mi yfed o hono, gwneler dy ewyllys di.

43 Ac efe a ddaeth, ac a'u cafodd hwy yn cysgu drachefn : canys yr oedd eu llygaid hwy wedi trymhâu.

44 Ac efe a'u gadawodd hwynt, ac a aeth ymaith drachefn, ac a weddïodd y drydedd waith, gan ddywedyd yr un geiriau.

45 Yna y daeth efe at ei ddisgyblion, ac a ddywedodd wrthynt, Cysgwch bellach, a gorphwyswch: wele, y mae yr awr wedi nesâu, a Maby dyn adraddodir i ddwylaw pechaduriaid.

46 Codwch, awn : wele, nesaodd yr hwn sydd yn fy mradychu.

47 ¶ Ac efe etto yn llefaru, wele, Judas, un o'r deuddeg, a ddaeth, a chyd ag ef dyrfa fawr â chleddyfau a ffyn, oddi wrth yr arch-offeiriaid a henuriaid y bobl.

48 A'r hwn a'i bradychodd ef a roisai arwydd iddynt, gan ddywedyd, Pa un bynnag a gusanwyf, hwnnw yw efe: deliwch ef.

49 Ac yn ebrwydd y daeth at yr Iesu, ac a ddywedodd, Henffych well, Athraw; ac a'i cusanodd ef.

50 A'r Iesu a ddywedodd wrtho, Y cyfaill, i ba beth y daethost? Yna y daethant, ac y rhoisant ddwylaw ar yr Iesu, ac a'i daliasant ef.

51 Ac wele, un o'r rhai oedd gyd â'r Iesu, a estynodd ei law, ac a dynnodd ei gleddyf, ac a darawodd was yr arch-offeiriad, ac a dorrodd ei glust ef.

52 Yna y dywedodd yr Iesu wrtho, Dychwel dy gleddyf i'w le: canys pawb a'r a gymmerant gleddyf, a ddifethir â chleddyf.

53 A ydwyt ti yn tybied nas gallaf yr awrhon ddeisyf ar fy Nhad, ac efe a rydd yn y fan i mi fwy na deuddeg lleng o angelion?

54 Pa fodd ynte y cyflawnid yr ysgrythyrau, mai felly y gorfydd bod?

55 Yn yr awr honno y dywedodd yr Iesu wrth y torfeydd, Ai megis at leidr y daethoch chwi allan, â chleddyfau a ffyn i'm dal i? yr oeddwn i beunydd gyd â chwi yn eistedd yn dysgu yn y deml, ac ni'm daliasoch.

56 A hyn oll a wnaethpwyd, fel y cyflawnid ysgrythyrau y prophwydi. Yna yr holl ddisgyblion a'i gadawsant ef, ac a ffoisant.

57 ¶ A'r rhai a ddaliasent yr Iesu, a'i dygasant ef ymaith at Caiaphas yr arch-offeiriad, lle yr oedd yr ysgrifenyddion a'r henuriaid wedi ymgasglu ynghyd.

58 A Phetr a'i canlynodd ef o hir bell, hyd yn llys yr arch- offeiriad ; ac a aeth i mewn, ac a eisteddodd gyd â'r gweision, i weled y diwedd.

59 A'r arch-offeiriaid, a'r henuriaid, a'r holl gynghor, a geisiasant gau dystiolaeth yn erbyn yr Iesu, fel y rhoddent ef i farwolaeth;

60 Ac nis cawsant: ïe, er dyfod yno gau-dystion lawer, ni chawsant. Eithr o'r diwedd fe a ddaeth dau gau-dyst,

61 Ac a ddywedasant, Hwn a ddywedodd, Mi a allaf ddinystrio teml Dduw, a'i hadeiladu mewn tri diwrnod.

62 A chyfododd yr arch-offeiriad, ac a ddywedodd wrtho, A attebi di ddim? beth y mae y rhai hyn yn ei dystiolaethu yn dy erbyn?

63 Ond yr Iesu a dawodd. A'r arch-offeiriad gan atteb a ddywedodd wrtho, Yr ydwyf yn dy dynghedu di trwy y Duw byw, ddywedyd o honot i ni, ai tydi yw y Crist, Mab Duw.

64 Yr Iesu a ddywedodd wrtho, Ti a ddywedaist: eithr meddaf i chwi, Ar ol hyn y gwelwch Fab y dyn yn eistedd ar ddeheulaw y gallu, ac yn dyfod ar gymmylau y nef.

65 Yna y rhwygodd yr arch-offeir iad ei ddillad, gan ddywedyd, Efe a gablodd: pa raid i ni mwy wrth dystion? wele, yr awrhon y clywsoch ei gabledd ef.

66 Beth dybygwch chwi? Hwythau gan atteb a ddywedasant, Y mae efe yn euog o farwolaeth.

67 Yna y poerasant yn ei wyneb, ac a'i cernodiasant; eraill a'i tarawsant ef â gwïail,

68 Gan ddywedyd, Prophwyda i ni, O Crist, pwy yw yr hwn a'th darawodd?

69 ¶ A Phetr oedd yn eistedd allan yn y llys: a daeth morwynig atto, ac a ddywedodd, A thithau oeddit gyd âg Iesu y Galilead.

70 Ac efe a wadodd ger eu bron hwy oll, ac a ddywedodd, Nis gwn beth yr wyt yn ei ddywedyd.

71 A phan aeth efe allan i'r porth, gwelodd un arall ef; a hi a ddywedodd wrth y rhai oedd yno, Yr oedd hwn hefyd gyd â'r Iesu o Nazareth.

72 A thrachefn efe a wadodd trwy lw, Nid adwaen i y dyn.

73 Ac ychydig wedi, daeth y rhai oedd yn sefyll ger llaw, ac a ddywedasant wrth Petr, Yn wir yr wyt tithau yn un o honynt; canys y mae dy leferydd yn dy gyhuddo.

74 Yna y dechreuodd efe regu a thyngu, Nid adwaen i y dyn. Ac yn y man y canodd y ceiliog.

75 A chofiodd Petr air yr Iesu, yr hwn a ddywedasai wrtho, Cyn canu o'r ceiliog, ti a'm gwedi deirgwaith. Ac efe a aeth allan, ac a wylodd yn chwerw-dost.

PENNOD XXVII,

1 Rhoddi Crist yn rhwym at Pilat. 3 Judas yn ymgrogi. 19 Pilat, wedi ei rybuddio gan ei wraig, 24 yn golchi ei ddwylaw. 26 Rhyddhau Barabbas. 29 Coroni Crist â drain, 35 a'i groeshoelio, 43 a'i ddifenwi : 50 yntau yn marw: ei gladdu ef. 66 Selio a gwylio ei fedd ef.

A PHAN ddaeth y bore, cyd-ymgynghorodd yr holl arch-offeiriaid, a henuriaid y bobl, yn erbyn yr Iesu, fel y rhoddent ef i farwolaeth.

2 Ac wedi iddynt ei rwymo, hwy a'i dygasant ef ymaith, ac a'i traddodasant ef i Pontius Pilat y rhaglaw.

3 ¶ Yna pan welodd Judas, yr hwn a'i bradychodd ef, ddarfod ei gondemnio ef, bu edifar ganddo, ac a ddug drachefn y deg ar hugain ariani'r arch-offeiriaid a'r henuriaid,

4 Gan ddywedyd, Pechais, gan fradychu gwaed gwirion. Hwythau a ddywedasant, Pa beth yw hynny i ni? edrych di.

5 Ac wedi iddo daflu yr arian yn y deml, efe a ymadawodd, ac a aeth a ac a ymgrogodd.

6 A'r arch-offeiriaid a gymmer asant yr arian, ac a ddywedasant, Nid cyfreithlawn i ni eu bwrw hwynt yn y drysorfa; canys gwerth gwaed ydyw.

7 Ac wedi iddynt gyd-ymgynghori, hwy a brynasant â hwynt faes y crochenydd, yn gladdfa dïeithriaid.

8 Am hynny y galwyd y maes hwnnw, Maes y gwaed, hyd heddyw.

9 (Yna y cyflawnwyd yr hyn a ddywedwyd trwy Jeremias y prophwyd, gan ddywedyd, A hwy a gymmerasant y deg ar hugain arian, pris y prisiedig, yr hwn a brynasant gan feibion Israel;

10 Ac a'u rhoisant hwy am faes y crochenydd, megis y gosododd yr Arglwydd i mi. )

11 A'r Iesu a safodd ger bron y rhaglaw: a'r rhaglaw a ofynodd iddo, gan ddywedyd, Ai ti yw Brenhin yr Iuddewon? A'r Iesu a ddywedodd wrtho, Yr wyt ti yn dywedyd.

12 A phan gyhuddid ef gan yr arch-offeiriaid a'r henuriaid, nid attebodd efe ddim.

13 Yna y dywedodd Pilat wrtho, Oni chlywi di faint o bethau y maent hwy yn eu tystiolaethu yn dy erbyn di?

14 Ac nid attebodd efe iddo i un gair; fel y rhyfeddodd y rhaglaw yn fawr.

15 Ac ar yr wyl honno yr arferai y rhaglaw ollwng yn rhydd i'r bobl un carcharor, yr hwn a fynnent.

16 Ac yna yr oedd ganddynt garcharor hynod, a elwid Barabbas.

17 Wedi iddynt gan hynny ymgasglu ynghyd, Pilat a ddywedodd wrthynt, Pa un a fynnwch i mi ei ollwng yn rhydd i chwi? Barabbas, ai yr Iesu, yr hwn a elwir Crist?

18 Canys efe a wyddai mai o gen figen y traddodasent ef.

19 ¶Ac efe yn eistedd ar yr orsedd-faingc, ei wraig a ddanfonodd atto, gan ddywedyd, Na fydded i ti a wnelych â'r cyfiawn hwnnw: canys goddefais lawer heddyw mewn breuddwyd o'i achos ef.

20 A'r arch-offeiriaid a'r henuriaid berswadiasant y bobl, fel y gofynent Barabbas, ac y difethent yr Iesu.

21 A'r rhaglaw a attebodd ac a ddywedodd wrthynt, Pa un o'r ddau a fynnwch i mi ei ollwng yn rhydd i chwi? Hwythau a ddywedasant, Barabbas.

22 Pilat a ddywedodd wrthynt, Pa beth gan hynny a wnaf i'r Iesu, yr hwn a elwir Crist? Hwythau oll a ddywedasant wrtho, Croeshoelier ef.

23 A'r rhaglaw a ddywedodd, Ond pa ddrwg a wnaeth efe? Hwythau a lefasant yn fwy, gan ddywedyd, Croeshoelier ef.

24 ¶ A Philat, pan welodd nad oedd dim yn tycio, ond yn hytrach bod cynnwrf, a gymmerth ddwfr, ac a olchodd ei ddwylaw ger bron y bobl, gan ddywedyd, Dïeuog ydwyf fi oddi wrth waed y cyfiawn hwn: edrychwch chwi.

25 A'r holl bobl a attebodd ac a ddywedodd, Bydded ei waed ef ar nom ni, ac ar ein plant.

26 ¶ Yna y gollyngodd efe Barabbas yn rhydd iddynt: ond yr Iesu a fflangellodd efe, ac a'i rhoddes i'w groeshoelio.

27 Yna milwyr y rhaglaw a gym merasant yr Iesu i'r dadleudy, ac a gynnullasant atto yr holl fyddin.

28 A hwy a'i diosgasant ef, ac a roisant am dano fantell o ysgarlad.

29 A chwedi iddynt blethu corono ddrain, hwy a'i gosodasant ar ei ben ef, a chorsen yn ei law ddehau; ac a blygasant eu gliniau ger ei fron ef, ac a'i gwatwarasant, gan ddywedyd, Henffych well, brenhin yr Iuddewon.

30 A hwy a boerasant arno, ac a gymmerasant ygorsen, ac a'i tarawsant ar ei ben.

31 Ac wedi iddynt ei watwar, hwy a'i dïosgasant ef o'r fantell, ac a'i gwisgasant â'i ddillad ei hun, ac a'i dygasant ef ymaith i'w groeshoelio.

32 Ac fel yr oeddynt yn myned allan, hwy a gawsant ddyn o Cyrene, a'i enw Simon; hwn a gymmellas ant i ddwyn ei groes ef.

33 ¶ A phan ddaethant i le a elwid Golgotha, yr hwn a elwir, Lle y benglog,

34 Hwy a roisant iddo i'w yfed, finegr yn gymmysgedig â bustl: ac wedi iddo ei brofi, ni fynnodd efe yfed.

35 Ac wedi iddynt ei groeshoelio ef, hwy a rannasant ei ddillad, gan fwrw coelbren: er cyflawni y peth a ddywedwyd trwy y prophwyd, Hwy a rannasant fy nillad yn eu plith, ac ar fy ngwisg y bwriasant goelbren.

36 A chan eistedd, hwy a'i gwyliasant ef yno:

37 A gosodasant hefyd uwch ei ben ef ei achos yn ysgrifenedig, HWN YW IESU, BRENHIN YR IUDDEWON.

38 Yna y croeshoeliwyd gyd âg ef ddau leidr; un ar y llaw ddehau, ac un ar yr aswy.

39 ¶ A'r rhai oedd yn myned heibio a'i cablasant ef, gan ysgwyd eu pennau,

40 A dywedyd, Ti yr hwn a ddinystri y deml, ac a'i hadeiledi mewn tridiau, gwared dy hun. Os ti yw Mab Duw, disgyn oddi ar y groes.

41 A'r un modd yr arch-offeiriaid hefyd, gan watwar, gyd â'r ysgrifenyddion a'r henuriaid, a ddywedasant,

42 Efe a waredodd eraill, ei hunan nis gall efe ei waredu. Os Brenhin Israel yw, disgyned yr awrhon oddi ar y groes, ac ni a gredwn iddo.

43 Ymddiriedodd yn Nuw; gwareded efe ef yr awrhon, os efe a'i myn ef: canys efe a ddywedodd, Mab Duw ydwyf.

44 A'r un peth hefyd a edliwiodd y lladron iddo, y rhai a groeshoeliasid gyd âg ef.

45 Ac o'r chweched awr y bu tywyllwch ar yr holl ddaear hyd y nawfed awr.

46 Ac ynghylch y nawfed awr y llefodd yr Iesu â llef uchel, gan ddywedyd, Eli, Eli, lama sabachthani? hynny yw, Fy Nuw, fy Nuw, paham y'm gadewaist?

47 A rhai o'r sawl oedd yn sefyll yno, pan glywsant, a ddywedasant, Y mae hwn yn galw am Elias.

48 Ac yn y fan un o honynt a redodd, ac a gymmerth yspwng, ac a'i llanwodd o finegr, ac a'i rhoddodd ar gorsen, ac a'i diododd ef.

49 A'r lleill a ddywedasant, Paid, edrychwn a ddaw Elias i'w waredu ef.

50 ¶ A'r Iesu, wedi llefain drachefn â llef uchel, a ymadawodd â'r yspryd.

51 Ac wele, llèn y deml a rwygwyd yn ddau oddi fynu hyd i waered: a'r ddaear a grynodd, a'r meini a holltwyd:

52 A'r beddau a agorwyd; a llawer o gyrph y saint a hunasent a gyfodasant,

53 Ac a ddaethant allan o'r beddau ar ol ei gyfodiad ef, ac a aethant i mewn i'r ddinas sanctaidd, ac a ymddangosasant i lawer.

54 Ond y canwriad, a'r rhai oedd gyd âg ef yn gwylied yr Iesu, wedi gweled y ddaear-gryn, a'r pethau a wnaethid, a ofnasant yn fawr, gan ddywedyd, Yn wir Mab Duw ydoedd hwn.

55 Ac yr oedd yno lawer o wragedd yn edrych o hirbell, y rhai a ganlynasent yr Iesu o Galilea, gan weini iddo ef:

56 Ym mhlith y rhai yr oedd Mair Magdalen, a Mair mam Iago a Joses, a mam meibion Zebedeus.

57 ¶ Ac wedi ei myned hi yn hwyr, daeth gwr goludog o Arimathea, a'i enw Joseph, yr hwn a fuasai yntau yn ddisgybl i'r Iesu:

58 Hwn a aeth at Pilat, ac a ofyndd gorph yr Iesu. Yna y gorychyrchymynodd Pilat roddi y corph.

59 A Joseph wedi cymmeryd y corph, a'i hamdôdd â llïan glân,

60 Ac a'i gosododd ef yn ei fedd newydd ei hun, yr hwn a dorrasai efe yn y graig; ac a dreiglodd faen mawr wrth ddrws y bedd, ac a aeth ymaith.

61 Ac yr oedd yno Mair Magdalen, a'r Fair arall, yn eistedd gyferbyn â'r bedd.

62 ¶ A thrannoeth, yr hwn sydd ar ol y darpar-wyl, yr ymgynhullodd yr arch-offeiriaid a'r Phariseaid at Pilat,

63 Gan ddywedyd, Arglwydd, y mae yn gôf gennym ddywedyd o'r twyllwr hwnnw, ac efe etto yn fyw, Wedi tridiau y cyfodaf.

64 Gorchymyn gan hynny gadw y bedd yn ddiogel hyd y trydydd dydd; rhag dyfod ei ddisgyblion o hyd nos, a'i ladratta ef, a dywedyd wrth y bobl, Efe a gyfododd o feirw: a bydd yr amryfusedd diweddaf yn waeth na'r cyntaf.

65 A dywedodd Pilat wrthynt, Y mae gennych wyliadwriaeth; ewch, gwnewch mor ddïogel ag y medroch.

66 A hwy a aethant, ac a wnaethant y bedd yn ddïogel, ac a seliasant y maen, gyd â'r wyliadwriaeth.

PENNOD XXVIII.

1 Dangos adgyfodiad Crist i'r gwragedd gan angel. 9 Crist ei hun yn ymddangos iddynt. 11 Yr arch-offeiriaid yn rhoddi arian i'r milwyr, i ddywedyd ddarfod ei ladratta ef allan o'r bedd. 16 Crist yn ymddangos i'w ddisgyblion, 19 yn eu hanfon i fedyddio, ac i ddysgu yr holl genhedloedd.

AC yn niwedd y Sabbath, a hi dyddhau i'r dydd cyntaf o'r wythnos, daeth Mair Magdalen, a'r Fair arall, i edrych y bedd.

2 Ac wele, bu daear-gryn mawr: canys disgynodd angel yr Arglwydd o'r nef, ac a ddaeth, ac a dreiglodd y maen oddi wrth y drws, ac a eisteddodd arno.

3 A'i wynebpryd oedd fel mellten, a'i wisg yn wèn fel eira.

4 A rhag ei ofn ef y crynodd y ceidwaid, ac a aethant megis yn feirw.

5 A'r angel a attebodd ac a ddywedodd wrth y gwragedd, Nac ofnwch: canys mi a wn mai ceisio yr ydych yr Iesu yr hwn a groeshoeliwyd.

6 Nid yw efe yma: canys cyfododd, megis y dywedodd. Deuwch, gwelwch y fan lle y gorweddodd yr Arglwydd.

7 Ac ewch ar ffrwst, a dywedwch i'w ddisgyblion, gyfodi o hono o feirw. Ac wele, y mae efe yn myned o'ch blaen chwi i Galilea: yno y gwelwch ef. Wele, dywedais i chwi.

8 Ac wedi eu myned ymaith ar frys oddi wrth y bedd, gyd âg ofn a llawenydd mawr, rhedasant i fynegi i'w ddisgyblion ef.

9 ¶ Ac fel yr oeddynt yn myned i fynegi i'w ddisgyblion ef, wele, yr Iesu a gyfarfu a hwynt, gan ddywedyd, Henffych well. A hwy a ddaethant, ac a ymafaelasant yn ei draed ef, ac a'i haddolasant.

10 Yna y dywedodd yr Iesu wrthynt, Nac ofnwch: ewch, mynegwch i'm brodyr, fel yr elont i Galilea, ac yno y'm gwelant i.

11 Ac wedi eu myned hwy, wele, rhai o'r wyliadwriaeth a ddaethant i'r ddinas, ac a fynegasant i'r archoffeiriaid yr hyn oll a wnaethid.

12 Ac wedi iddynt ymgasglu yng hyd gyd â'r henuriaid, a chyd-ymgynghori, hwy a roisant arian lawer i'r milwyr,

13 Gan ddywedyd, Dywedwch, Ei ddisgyblion a ddaethant o hyd nos, ac a'i lladrattasant ef, a nyni yn cysgu.

14 Ac os clyw y rhaglaw hyn, ni a'i perswadiwn ef, ac a'ch gwnawn chwi yn ddïofal.

15 A hwy a gymmerasant yr arian a wnaethant fel yr addysgwyd hwynt: a thaenwyd y gair hwn ym mhlith yr Iuddewon hyd y dydd heddyw.

16 ¶ A'r un disgybl ar ddeg a aethant i Galilea, i'r mynydd lle yr ordeiniasai yr Iesu iddynt.

17 A phan welsant ef, hwy a'i haddolasant ef: ond rhai a ammheuasant.

18 A'r Iesu a ddaeth, ac a lefarodd wrthynt, gan ddywedyd, Rhoddwyd i mi bob awdurdod yn y nef ac ar y ddaear

19 Ewch gan hynny a dysgwch yr holl genhedloedd, gan eu bedyddio hwy yn enw y Tad, a'r Mab, a'r Yspryd Glân;

20 Gan ddysgu iddynt gadw pob peth a'r a orchymynais i chwi. Ac wele, yr ydwyf fi gyd â chwi bob amser hyd ddiwedd y byd. Amen.

Nodiadau

golygu
 

Bu farw awdur y gwaith hwn cyn 1 Ionawr, 1924, ac mae felly yn y parth cyhoeddus ledled y byd gan fod yr awdur wedi marw ers dros 100 mlynedd yn ol.