Yr Hen Lwybrau/Awel o'r Dyddiau Gynt
← Pennod ym Mywyd Elis o'r Nant | Yr Hen Lwybrau gan John Davies (Isfryn) |
Cwm Hir a Chefn-y-Bedd → |
IV
AWEL O'R DYDDIAU GYNT
MAWR oedd fy mwynhad pan anfonwyd fi ar neges i ffair yn Nhregaron a gynhelid yno rhwng y Nadolig a'r Calan, a mi ar y pryd o gwmpas deuddeg oed. Ac yr oeddwn i fynd ar fy mhen fy hun, ac arian yn fy mhoced i godi tocyn trên, ac ychydig geiniogau dros ben, a siars i beidio â gwario'r cwbl, a dychwelyd yn ddi-ffael gyda'r trên pump. Cychwynnais i'm gyrfa yn llon fy ysbryd, a chyrhaeddais Dregaron yn gynnar yn y prynhawn. Rhodiennais o amgylch y dref a oedd yn frith o stondinnau yn gwerthu pob math o nwyddau a moethau. Ar un stondin gwerthid bara sinsir gan hen wraig o Gaerfyrddin, a phrynais dipyn ohono. Ac ar stondin arall gwerthid cnau gan hen ŵr o odre'r wlad, a phrynais geiniogwerth neu ddwy ohonynt hwythau. Ar y sgwâr yr oedd Dic Dywyll, pen baledwr Cymru y dwthwn hwnnw, yn canu cerdd y Blotyn Du, a bwndel o gerddi dan ei gesail, ac yn eu gwerthu am geiniog yr un. Yr oedd mynd mawr ar y Blotyn Du, canys gofynnid iddo ei chanu drosodd a throsodd drachefn, a'r gwragedd a'r merched yn cael rhyw fwynhad rhyfedd wrth sychu eu dagrau a bwyta bara sinsir bob yn ail, ac nid oedd y dynion hwythau yn eu closau pen-glin yn rhyw wynebsych iawn; ac amlwg oedd bod llais y baledwr yn cyffwrdd â llinynnau tyneraf eu calon. Prynais ddwy neu dair o'r cerddi, ac yn enwedig gerdd y Blotyn Du, sydd yn fy meddiant heddiw. Cerddais oddi yno at werthwr almanaciau a thyrfa dda yn ei amgylchu. Gwaeddai ef "Almanaciau'r Miloedd dimeiau'r un' ', a phan estynnid iddo ddimai yn gyfnewid am almanac, ond na, nid dyna a ddywedai ef ond 'dimeiau'r un",—dwy ddimai, a thelid hwy heb omedd ond gan ambell hen gybydd. Prynais innau almanac.
Yn awr, a'r amser wedi mynd, gofynnais faint o'r gloch oedd hi i hen ŵr yn fy ymyl, a dywedodd ei bod wedi troi pedwar. Yr oedd yn bryd gwneud am yr orsaf, ond yr oedd yr arian wedi eu gwario bob ceiniog, ac ni feddyliais godi tocyn deuben wrth gychwyn. Arhosais ar bont Brennig yn syn a mud gan ddyfalu beth i'w wneud. Nesâi'r nos, a disgynnai’r eira yn blu mawrion, a'r ewinrhew ar fy mysedd. Heb wybod b'le i droi, na pheth i'w wneud, dyma John Richards, Ynys-y-bont, heibio, yn fachgen ifanc, glandeg yr olwg, a chadwyn oriawr a sêl ac allweddau yn hongian o boced fach ei drowsus, ac ef oedd fy athro yn yr Ysgol Sul. Daeth ataf, a dywedodd y cawn fynd adref yn ei gwmni ef, ac y byddai'n cychwyn ymhen rhyw ugain munud. Dilynais ef weithian o hirbell rhag colli golwg arno yn ei gyniweiriadau troed aden ar hyd yr heolydd.
Daeth yr ugain munud i ben, a chychwynnwyd, a'r dwyreinwynt yn chwythu'r plu gwlanog yn driphlith-draphlith, ac yma ac acw, nes o'r bron ein dallu weithiau, a'r gorniog loer yn welw a phrudd. Brasgamwyd heibio i'r orsaf ac ymlaen at Picadili, fel y gelwid bwthyn bychan to gwellt ar y llaw chwith rhwng y dref a Phonteinion. Cyn dyfod at y bont, gwelem ddyn yn dyfod allan o gysgod y gwrych yn fwy i'r ffordd. "Hen drempyn ydyw", meddai John, gan afael yn fy llaw a phwyso at fy ochr i. Daethpwyd at y dyn, a ofynnodd yn Saesneg faint o'r gloch oedd hi. "No watch", meddai John, er bod y gorniog loer yn datguddio cadwyn oriawr a sêl ac allweddau yn crogi o boced ei drowsus. "Have you a match?" oedd y cais nesaf, a "No match", oedd yr ateb, a'r tro hwn yn ddigon gwir. "I'll match you", meddai'r tramp, a chyda hyn dyna John fel ewig ofnus dros y bont a'r tramp ar ei ôl, a thrwst y pedair troed fel carlamiad march a ddisgrifir gan Fyrsil,—"Quadrupedentem putrem sonitu quatit singula campum", a bygythion a llwon y tramp yn rhwygo'r awyr ddistaw.
Y peth gorau i mi'n awr oedd rhoddi digon o bellter rhyngof a'r afon rhag i'r dyn yn ei gynddaredd fy nhaflu drosodd, a phrysurais ymlaen i glywed sŵn y tramp yn dychwelyd, ac yn y man yr oeddwn wyneb-yn-wyneb ag ef er fy mawr ddychryn ac ofn. Holodd fi'n awr a oedd gennyf oriawr, ac a oedd gennyf flwch matsis. Datododd wedyn fotymau fy nghôt i weld ai gwir fy atebion. Yr oedd chwant arno, meddai, fy narnio a rhoddi'r tipyn corff a feddwn yn fwyd i'r fall, neu 'nhaflu dros y bont i'r afon, neu 'nghicio i ganol yr wythnos nesaf, a chiliodd gam neu ddau'n ôl i roddi arddangosiad o'i fedr i wneuthur hynny. A dyna fu'r cyfle, a rhoddais fy nhraed yn y tir gymaint ag a fedrwn, canys gwyddwn yn awr y dibynnai fy nhynged ar gyflymder fy nhraed, a chofiais a ddywedodd y Salmydd mewn rhyw gyfyngder cyffelyb—"Gosodaist fy nhraed fel traed ewigod", ac yr oeddwn gryn dipyn yn gyflymach fy nhroed y pryd hwnnw na heddiw. Fy ngobaith yn awr oedd cael y gât o'r ffordd fawr i'r llwybr yn agored, a chedwais olwg graff amdani, a'm hymlidydd wrth fy sodlau â sŵn ei anadlu yn fy nghlustiau.
Oedd, yr oedd y llidiart yn gilagored, canys trwyddo ef yr aethai fy hen athro ; ac yn awr yr oeddwn yn ddiogel a'r tramp wrth yr adwy yn hyrddio bygythion a llwon ar fy ôl nad oedd dim niwaid ynddynt mwy na halogi nos mor ddistaw a santaidd.
O'r diwedd goddiweddais fy amddiffynnydd a'm cydymaith, ac adroddais wrtho fy helynt a'r waredigaeth gyfyng a gefais—megis o "safn y llew", ac iddo ddywedyd y byddai gyda ni eto. Cyd-gerddasom yn ddistaw ymlaen, a'n meddyliau ynghlwm wrth y waredigaeth, nes dyfod ohonom dan Lwyngwinau. Ac yno gofynnodd John a oedd arnaf ofn mynd adref ar fy mhen fy hun gan fod arno awydd dychwelyd a thalu'r pwyth yn ôl i'r tramp, hyd yn oed pe costiai hynny ci fywyd iddo. Ar y gair clywem drwst cerddediad a barodd inni brysuro yn ein blaenau, ac ar frys dros y cwmins a'r bont ar Gamddwr, ac ar lawr cegin Ynys-y-bont yr arhoswyd gyntaf. Yno yr oedd Dafydd y Gwehydd a John Picin yn adrodd am eu hysgarmesau ym myd yr ysbrydion, Dafydd fel y clywodd ei ysbryd ef ei hun wrth y gwŷdd yn Nhancwarel, a John fel y dilynwyd ef gan ladi wen dan yr Hendre wrth ddyfod o Ysbyty Ystwyth.
Adroddodd John ein helynt yn fanwl, ac "oni bai am hwn", meddai, gan bwyntio ei fys ataf gyda rhyw gymaint o ddirmyg, "mi a wnawn â'r tramp fel y gwneuthum â'r wâdd honno a gleddais yn fyw pan oeddwn yn aredig y cae gwenith gaea; mi a'i claddwn yntau yn fyw yn y Gors Goch". Ac yr oedd am fynd yn ôl y funud honno i gyflawni ei fwriad. Rhedwyd i gloi'r drws rhag iddo fynd, a chuddio'r allwedd a bachu'r ffenestri. Perswadiwyd ef o'r diwedd i gymryd cwpanaid o de a ddofodd ei lid i fesur helaeth, a'r ddau ymwelydd yn pwffian colofnau o fwg i'r simnai. A'u barn hwy oedd mai ysbryd a welsom, ac nad oedd o un diben i ymladd ag ysbryd, a chydsyniodd John â'r syniad, canys fe wyddai yntau mai rhwng y Nadolig a'r Calan y cyniweiriai'r ysbrydion.
Rhaid ydoedd i mi'n awr feddwl am fynd adref, ac wynebu croeso na wyddwn yn iawn ei natur, ond gwyddwn yn iawn fy haeddiant am dorri f'addewid i ddychwelyd gyda'r trên pump, a hi'n awr rhwng saith ac wyth o'r gloch, a hithau yn nyfnder gaeaf, a minnau ond o gwmpas deuddeg oed. Yn ffyddlon i'r diwedd fe gododd fy hen athro i fynd â mi adref, a bod o'm plaid pe bai angen. Ac felly yr aethpwyd nes cyrraedd ohonom y sticil sy'n croesi o dir Ynys-y-bont i dir Pen-y-bryn. Gwell, yn ôl meddwl fy hen athro, oedd i mi ei dringo'n gynta' rhag ofn i rywbeth ddyfod o'r tu ôl a'm cipio ymaith fel y cipiwyd y Bardd Cwsg.
Erbyn hyn yr oedd trwch o eira ar y ddaear, a chynfasau gwynion ohono ar y perthi a'r llwyni, a'r lloer yn welw a phrudd, a rhyw ddistawrwydd llethol ar fro a bryn. A ni'n nesu at y sticil, a mi a'm troed ar y ffon isaf iddi, clywem ochenaid fel ochenaid plentyn â'r pâs. Clustfeiniwyd, a chlywyd drachefn riddfan pruddglwyfus yn dyfod o'r berth ddrain, a'r peth cyntaf wedyn oedd clywed trwst rhedeg fy nghydymaith yn ôl, ac ni fûm innau funud yn hwy nag y gallwn heb ddilyn ei esampl. Cyraeddasom y tŷ cysurus y newydd gefnasem arno â dychryn ac ofn yn argraffedig ar ein gwedd, a'n calonnau yn curo fel tabyrddau a'n hanadl yn ein gyddfau. Adroddodd John yr hanes a'r ddau ymwelydd yn llygadrythu o ganol cymylau o fwg, a chredaf i'r ddau smocio ymaith flynyddoedd o'u hoes.
Rhaid ydoedd i mi fynd adref, canys gwyddwn fod yno bryder nid bychan amdanaf, a hwythau wedi fy sarsio i ddyfod yn ôl gyda'r trên pump, ac yr oedd hi'n awr o gwmpas naw o'r gloch.
Yr unig un a gynigiodd ei wasanaeth oedd William Richards, a phenderfynodd y ddau ymwelydd fanteisio ar ein cwmni i fynd adref, a chychwynnwyd i'r daith. Bachgen rhadlon a di-ofn oedd William, ac anghredadun pendant ym myd yr ysbrydion. Yr oeddem yn awr yn bedwar, a William Richards ar y blaen â phastwn celynen yn ei law. Cyrhaeddwyd sticil yr ysbryd; clustfeiniwyd, a chlywyd griddfan ac ochneidio'n debyg i ddafad â'r bendro.
Cyngor Dafydd a John oedd ffoi tra oedd cyfle. Ond nid un i'w ddychrynu ar chwarae bach oedd William, er bod ei gluniau yntau ar y pryd yn dechrau crynu a'i ddannedd yn clecian. Ond er gwaethaf y cwbl fe arhoes ei fwa ef yn gryf a'i fraich yn nerthol. Nesâwyd at y berth a'r ysbryd, a phob un mor agos ag y gallai i William, ac yntau fel craig mewn rhyferthwy. Yr oedd yr eira yn drwch ar y berth, a ninnau fel rhai wedi dyfod o fryniau ia y Gogledd. Erfyniai Dafydd a John ar William i beidio â rhyfygu, ond yn ei flaen yr aeth ef, a minnau a'm gafael yn ymyl ei gôt, ac yn cydio'n dynnach, dynnach, ynddi fel y nesaem, a John a Dafydd yn dilyn lwyr eu cefnau. Ac yno o ganol y berth syllai arnom ddau lygad tân, a'r funud nesaf clywem y ddau ddyn yn rhuthro dros y clawdd gyferbyn, a chŵn Pen-y-bryn yn cyfarth ar eu hôl, ac wrth gyfarthiad y cŵn y gwyddem eu cyfeiriad. Daliodd William, a minnau yn ei gysgod, i syllu ar y ddau lygad tân a gwrando ar y griddfannu. Ofnem fynd yn nes, ond ni fynnai William ffoi cyn datrys ohono'r dirgelwch. Amdanaf i, druan, ni wyddwn pa un ai ar fy mhen neu 'nhraed y safwn, na pha un ai gwaed neu chwys a redai ar hyd pob modfedd ohonof. Ciliodd William gam neu ddau'n ôl, a safodd a'i bastwn celynnen yn ei law, a chyfarchodd y gwrthrych a lochesai yn y llwyn â'r geiriau hyn—"Yr wyfi, William Richards, o Ynys-y-bont, yn enw Gog a Magog, yn dy dynghedu di, pwy bynnag neu beth bynnag ydwyt, dyn ai ysbryd, i ddyfod i lawr o'th lwyfan yn y llwyn a dangos dy hun, neu ar ôl cyfrif tri fe fydd i mi fwrw carreg i'r llwyn, ac efallai i'th ben, ac yn awr yr wyf yn mynd i ddechrau cyfrif". Arhosodd dipyn ar ôl hyn, a dechreuodd gyfrif-"Un, dau, tri. Ac yn awr amdani, a gwylia di dy hun", a thaflodd y garreg â'i holl nerth nes tasgu o'r eira yn gawod o ffluwch. Clywn rywbeth yn disgyn i ochr y clawdd, ac fel pe'n ysgwyd ei adenydd. Nesâwyd yn araf, ac yno yr oedd hen gwdihŵ wedi torri ei haden, nid gan ergyd y garreg, ond rywdro cyn hynny. Cododd William hi, a rhoes hi dan ei gesail, ac ymaith â ni tuag adref.
Mawr oedd y syndod o'n gweld adref mor gynnar, ond mwy oedd ein syndod ni o weld y ddau ffoadur—Dafydd a John—yn ysmygu o flaen tanllwyth o dân ar yr aelwyd, ac yn adrodd stori yr ysbryd, gan ychwanegu ati, ac yn dal i ddywedyd i William a minnau ffoi am ein hoedl i gyfeiriad y bont ar Gamddwr. Yr oeddynt hwy wedi gweld yr ysbryd â'u llygaid noethion, Dafydd wedi sylwi ar y ffwrneisi tân, a John ar ei glustiau, na welodd eu mwy erioed yn ei fywyd, ond ar bennau mulod Dafydd Jones, y Rest. "Wel", meddai William, "y mae'r ysbryd tu allan i'r drws y munud yma, ac mi a ddof ag ef i fewn yn awr i chwi ei weld". "Na, ymswynwch, William", meddai Mari Gam, a'i dau lygad cyn ddued â'r muchudd a gweill yr hosan yn clecian rhwng ei bysedd, ac yn codi un ohonynt i gosi y tu ôl i'w chlust. Fe wyddai hi trwy brofiad beth oedd bod mewn ymryson â macwyaid y nos ar rostiroedd diffaith ac anial heb ddim i'w chysgodi ond ei mantell. "Na", meddai drachefn, "ymswynwch, a pheidiwch â chellwair â galluoedd y tywyllwch". Erbyn hyn yr oedd Dafydd a John yn dirgrynu a gwelwi gan ofnau, ac yn barod i ffoi ar y cyfleustra cyntaf, ond yr oedd William rhyngddynt a'r drws.
Yr oeddwn i eisoes wedi darganfod arwyddion o anfoddogrwydd yn wynebau fy rhieni, a bu bron imi â syrthio yn gelain ar y llawr pan ofynasant imi edrych ar y cloc a bwyntiai ei fysedd at un ar ddeg. Ni ddywedwyd gair, ond yr oedd yr edrychiad yn ddigon, a minnau heb ddim ond hanner tafell o fara sinsir ac ychydig gnau i roddi'n aberth am fy nhrosedd. Gwelodd Mari Gam, coffa da am ei henw, ystyr yr arwyddion, a chynghorodd fy nhad a mam i fod yn ddiolchgar am fod y "bachgen bach" yn fyw ar ôl ymgiprys ohono â theulu'r fall, a thynnodd fi yn nes ati, ac aroglodd fy nillad. "Oes", meddai, "y mae arogl y gwyll arno, ac yr wyt tithau, William, â'th ddillad yn llawn o frwmstan y gwn yn dda amdano". Ar hyn rhedodd William i nôl yr hen aderyn, a dangosodd ef i bobl y tŷ, ond er ei weld ac edrych arno, daliai Dafydd a John a Mari Gam i gredu mai rhith oedd y gwdihw o ysbrydion y nos, a bod William mewn cynghrair â hwynt.