Yr Hen Lwybrau/Cwm Hir a Chefn-y-Bedd

Awel o'r Dyddiau Gynt Yr Hen Lwybrau

gan John Davies (Isfryn)

Digwyddiadau'r Ffordd


V

CWM HIR A CHEFN-Y-BEDD

UN o'm hamcanion yn mynd i Landrindod oedd ymweld ag Abaty Cwm Hir a Chefn-y-bedd. Cychwynnais yn weddol fore, a tharth a niwl yn gorchuddio bro a bryn, ac yr oeddem fel rhai yn ymlwybro trwy wlad hud a lledrith. Golwg ddigon diflas oedd ar bawb a phopeth a gwrddem neu a basiem nes cyrraedd ohonom Langurig a gweld Pumlumon fel am ymddiosg o'i wisg nos i gyfarch pelydrau bywhaol yr haul. O'r fan honno ymlaen daeth yr haul i chwarae mig rhwng y cymylau, ac ymlawenhâi pawb a phopeth yn ei wenau siriol. Yn awr yr oeddem yn nechrau dyffryn Gwy. Ymlaen â ni trwy Raeadr, a gamy-sgrifennir yn Rhayader, a Nant Mêl, nes cyrraedd ohonom Ben-y-bont ac yn fuan yr oeddem yng Nghwm Hir a saith milltir o deithio i'w gwr uchaf.

Y llwybrau gynt lle bu'r gân
Yw lleoedd y dylluan.

Yn cyd-redeg â'r ffordd a deithiem y mae'r afonig fechan Clywedog, yn murmur-ganu ar ei thaith, a dywedyd yn hyglyw i'r glust a glyw, "Môr, môr, i mi". Y mae afonydd eraill yng Nghymru, o'r hyn lleiaf yng Ngogledd Cymru, o'r un enw swynol. Mor seinber yw enwau afonydd ac aberoedd Cymru—Hafren (brenhines yr afonydd), Dyfrdwy, Elwy, Conwy, Gwy, Wysg, Teifi, Tywi, Dyfi, ie, a Thafwys, ond fel y mynnodd y Saeson ei dwyn a llygru'r enw yn Thames. A swyn yr enw yn ein meddwl, a murmur yr afon yn ein clyw, dyma ni'n amgylchu Seion bro'r Oesoedd Canol yn y rhanbarth rhamantus hwn. Nid oedd fawr i'w weld ond y magwyrydd moel, a sylfeini rhai o'r pileri wedi eu trwsio'n gywrain a'i cerfio â lluniau. Dywedir mai Cadwallon ap Madog, a fu yn Arglwydd y gororau hyn, a'i sefydlodd yn 1143, mai i'r Urdd Sistersaidd y perthynai'r fynachlog, ac mai mynachod y Tŷ Gwyn ar Daf a ddaeth yma gyntaf, a hi oedd fwyaf ei maint yn Lloegr a Chymru, ac eithrio Caerefrog, Caerwynt, a Chaerweir. Dywaid Leland na orffennwyd adeiladu'r eglwys, a gyflwynwyd i'r Wyryf Fendigaid, fel pob eglwys arall perthynol i'r mudiad. Fel y mae cwch gwenyn yn anfon heidiau allan i chwilio am gartrefi newyddion, felly, yn yr un modd codai dwsin o fynachod gydag Abad o un fynachlog i ffurfio cartref newydd—dwsin i gynrychioli nifer yr apostolion. Ymhen tua hanner can mlynedd cododd dwsin o fynachod Cwm Hir, ac Abad yn ben arnynt, i fynd i Gymer yn Sir Feirionnydd. Ac fel hyn yr ymledodd y mudiad trwy'r holl wlad. Bob amser y lleoedd mwyaf neilltuedig a ddewisid i ymneilltuo o'r byd, a oedd yn eu golwg hwy, mor ddrwg ac anodd i fyw y bywyd santaidd ynddo, a'r Eglwys mor ddiymadferth. Protestannaidd cyn Protestaniaeth oedd y mudiad, ond fe'i tynnwyd yng nghwrs amser o dan adain yr Eglwys, a hynny a fu achos ei dranc yn yr unfed ganrif ar bymtheg.

Ar ôl ymsefydlu mewn ardal neilltuedig fel Cwm Hir, codid eglwys nid ar gyfair y frawdoliaeth a thrigolion y fro, ond er gogoniant i Dduw, a hynny a gyfrif am ei maint a'i phrydferthwch. Cedwid yr Oriau Mawl a Gweddi bob taer nos a dydd, ac eithrio tri o'r gloch y bore, ar hyd y blynyddoedd o 1143 i 1536, pryd y dymchwelwyd y mynachlogydd. Tai elusen, gweddi, ac ympryd oeddynt hwy, a chedwid y tair dyletswydd fawr mewn cydbwysedd, a nodid eu trefn fel y'u gosodwyd i lawr gan yr Athro Mawr ei Hun. Nid oes yr un addoliad yn gyflawn heb y tair. Noddfa dihiryn yw gwladgarwch, yn ôl Dr. Johnson; yn yr un modd noddfa'r rhagrithiwr yw gweddi ar wahân i'r ddwy ddyletswydd arall. "Dy weddïau di a'th elusennau a ddyrchafasant yn goffadwriaeth gerbron Duw", meddai'r angel wrth Cornelius. Yr oedd i bob un o'r frawdoliaeth ei orchwyl neu ei grefft, a chanddynt bopeth yn gyffredin yn ôl trefn Eglwys yr Apostolion.

Yr amcan mawr oedd byw y bywyd santaidd. Dihewyd bennaf Cristnogion y canrifoedd cyntaf yn wŷr, gwragedd, a phlant oedd ennill coron y merthyr a'u rhifo yn nifer "Ardderchog Lu y Merthyri", ond fe ddaeth dyhead arall yng ngwawr yr Oesoedd Canol i weithredu ar fywydau a bucheddau, a hwnnw oedd fod yn rhaid byw bywyd y merthyr ac ennill ei goron, a'i fywyd ef oedd fywyd santaidd, a ph'le y gellid byw y bywyd hwn ond trwy ymneilltuo o'r byd i lanerchau neilltuedig fel yr hen fynachlogydd Sistersaidd.

Fe ddaeth y Diwygiad Protestannaidd â syniad arall i ddylanwadu ar gymdeithas, sef, y gellid bywyd santaidd yn y byd ac nid allan ohono mewn cilfachau neilltuedig, ac y mae'r syniad yna'n gryf yn y byd heddiw.

Gwelsom garreg ar bwys mur a'r Esgyniad wedi ei gerfio'n gywrain arni. Piti na ddiogelid hon yn rhywle rhag i wres haf ac oerni gaeaf yng nghwrs amser effeithio arni. Gwir fod copi carreg pur gywir ohoni yn y mur uwchlaw porth yr Eglwys. Hyd y gwelsom nid oedd ond naw o'r apostolion yn ymgrymu'n wylaidd o amgylch y Crist Esgynedig.

Rhed ffordd blwyf ar draws llethrau'r bryniau i gwr uchaf Cwm Elan, ac oddi yno i Bonterwyd, Pont-ar-Fynach, a hi a deithiai'r mynachod ar eu hymweliadau ag Ystrad Fflur a Chymer.

Drannoeth bwriadem ymweld â dau le a fu o bwys cenedlaethol i Gymru, ond ni chyrhaeddais fy amcan ond ag un yn unig. Yn gydymaith imi y tro hwn yr oedd un o urddasolion addfwynaf yr Eglwys yng Nghymru, ac un a rydd urddas ar ei swydd ac a'n tyn i'w gyfarch o bell. Yn fuan yr oeddem ar y ffordd fawr i Lanfair Muallt. Yno daeth i'm cof bennill annerch y Pêr Ganiedydd a wnaeth y gwcw yn llatai iddo:—

Hed, y Gwcw, hed yn fuan,
Hed, aderyn glas ei liw,
Hed oddi yma i Bantycelyn,
Dwed wrth Mali mod i'n fyw;
Hed oddi yno i Lanfair Muallt,
Dwed wrth Jac am gadw'i le,
Os na chawn gyfarfod yma,
Cawn gyfarfod yn y Ne'.

Mor barod ei awen oedd Pant-y-celyn! Ymawyddai un tro wybod p'run ai ei fab neu ei ferch a etifeddai'i dalent ef. I'w profi dywedodd wrth y mab—"Mae deryn yn y llwyn", ac ateb y bachgen oedd, "Mae twll iddo fynd allan". Trodd at ei ferch ac adroddodd yr un llinell, "Mae deryn yn y llwyn", a hithau ar amrantiad a'i hatebodd—"A'i fwriad yn gywir ar gân". Gweld y tyllau a'r materol a wnâi'r bachgen, a hithau'r eneth a welai'r anweledig ac a glywai'r anghlywadwy. Y mae llawer â llygaid ganddynt ond ni welant, a llawer â chlustiau ganddynt ond ni chlywant. Gwêl eraill yr anweledig a chlywant yr anghlywadwy, a thraethant yr anhraethadwy, a hwynt-hwy yw'r cyfrinwyr sy'n dwyn yr ysbrydol mor agos atom.

Ar ôl teithio milltir neu ddwy ar hyd y ffordd a arweinia i Lanymddyfri, dyma ni yn ymyl cofgolofn mewn cae o fewn ychydig lathenni i'r ffordd. Aethpwyd ati a darllenwyd yr ysgrif yma ar blât pres:—

Gerllaw y fan yma
lladdwyd Llewelyn ein llyw olaf,
O.C. 1282.

Yn ymyl yr oedd Gwesty Llywelyn, a chawsom ymgom â'r wraig, a gwyddai hi'r hanes yn lled dda, ac am y traddodiad i Gwm Hir ddwyn ei gorff i'w gladdu ym mynwent yr Eglwys. Erys amheuaeth am hyn, ond nid oes un amheuaeth am anfon ei ben i'w roddi ar y Tŵr Gwyn yn Llundain. NI chawn fod y Cymry yn gwneud anfadwaith a barbareidd-dra o'r natur yma; ymddygent hwy bob amser yn ddyngarol at eu gelynion gorchfygedig. Yr un driniaeth a fesurwyd i Ddafydd, brawd Llywelyn, a'i olynydd yn y Dywysogaeth.

Dywedai'r wraig fod yr enw Cefn-y-bedd yn hŷn na Llywelyn. Gelwir yr ardal yn awr, ac ers llawer blwyddyn, yn Cilmery ar ôl gorsaf y rheilffordd. Oni fyddwn yn dra gofalus fe gyll y wlad ei hen enwau brodorol.

O fewn ergyd bwa neu lai yr oedd tŷ arall ar ymyl y ffordd, ac fe aethom yno i hel gymaint ag a fedrem o hen draddodiadau. Yno yr oedd ganddi hithau rywbeth i'w ddatguddio am Lywelyn na welais gyfeiriad ato o'r blaen. Cyfeiriodd ni at ffynnon yng nghongl ei gardd a llwybr i fynd ati, a thracht o ddŵr y ffynnon honno a ddygwyd i dorri syched Llywelyn yn ei awr olaf. Gwyrasom ninnau i godi llond llaw o'r dŵr grisialaidd i'w dywallt yn ddiolch offrwm am y gwasanaeth hwn o'i heiddo i'n Llyw Olaf, a'r tract arall fe'i hyfasom. Diolchasom i'r hen wraig am y tamaid hwn o draddodiad, a chefnasom arni hi a'r ffynnon.

Cyn ailgychwyn i gyfeiriad Llanymddyfri cwrddasom â dyn ieuanc gyda dau gi yn gyrru dwy fuwch o'i flaen. Cyfarchasom well i'n gilydd yn Gymraeg. Ar ein llongyfarchiad iddo ar Gymraeg mor lân mewn ardal mor Seisnigaidd, dywedodd mai o Langamarch y deuai, a bod y Gymraeg yn flodeuog yno. Cwrddasom ag ef drachefn wrth ddychwelyd.

Yn union ar ôl ymado ag ef, cwrddais â dyn a dynnodd fy sylw at ddyn â rhaw ar ei ysgwydd yn pasio heibio. "A welwch chwi'r dyn yna ?" meddai. "Gwelwn". "Y prynhawn Sul o'r blaen yr oedd ar y cae acw yn gwylio tyrchod daear ac yn eu lladd. Yn pasio heibio ar y pryd yr oedd ei weinidog, ac o'i weld felly ac ar y Sul, galwodd ef ato, a cheryddodd ef yn chwerw. Dywedai ei fod yn synnu ato yn mynd allan ar y Sul ar ôl tyrchod daear, ac meddai yntau, "Beth ma nhw'n dod allan ar y Sul, ynte?" Yr oedd yn rhaid gadael y cwmni diddan a mynd eto.

Yn union deg yr oeddem yn Beula—mor Gananeaidd y mae Cymru wedi mynd gyda'i Hermon, Bethel, Nebo, Ierusalem, Bethania, a llawer eraill.

Cefnwyd ar Beula, ac yn ddiymdroi yr oeddem yn ficerdy Eglwys Oen Duw, ac mewn ymgom ddifyrrus â'r ficer rhadlon a'i ferch siriol. Yr oedd golwg hyfryd ar fynyddoedd Epynt o ffrynt y tŷ. Gwelem hwynt dan haen denau o niwl, rhy denau i'w cuddio, a dyna'r olwg a gafodd Pant-y-celyn arnynt pan ganodd:—

Dros y bryniau tywyll niwlog,
Yn dawel, f'enaid, edrych draw,
Ar addewidion sydd i esgor
Ar ryw ddyddiau braf gerllaw:
Nefol Jiwbil,
Gad im weld y bore wawr.


Nodiadau golygu