Yr Hen Lwybrau/Digwyddiadau'r Ffordd

Cwm Hir a Chefn-y-Bedd Yr Hen Lwybrau

gan John Davies (Isfryn)

Ellis Wynne a Glan Hafren


VI

DIGWYDDIADAU'R FFORDD

AR ôl gosber un nos Sul o Fai rhodiwn lwybrau'r ardd gan fwynhau'r golygfeydd o'm blaen ac o'm hôl, i'r dde ac i'r aswy. O'm blaen yr oedd Cader Idris a'i phum pigyn -Tyrrau Mawr, y Cyfrwy, y Gader ei hun, Mynydd Moel, a'r Geugraig, a mynydd y Gader y tu yma iddynt, a Mawddach fel llinyn arian yn rhedeg drwy'r dyffryn. Machludai'r haul gan ruddo'r cymylau a hofrannai fel adar yn y glesni, ac a lewyrchai ar lethrau ysgythrog y mynydd nes ymddangos ohono fel pres yn llosgi mewn ffwrn. Edrychai'r Gader ymhell ac isel fel pe'n amneidio arnaf i'w dringo. Er nad oedd ei dringo yn fy mwriad, fe ddeffrôdd awydd cryf ynof i fynd am dro am ddeuddydd neu dri a chychwyn fore trannoeth. Gwyddwn am hen gyfaill o amaethwr a chanddo dyddyn lled fawr yr ymffrostiai ynddo, er ei fod mewn rhan anghysbell o'r wlad. Bu ef a minnau yng nghwmni ein gilydd lawer iawn o flynyddoedd yn ôl, ac addewais fwy ag unwaith fynd i'w weld yn y rhan bellenig honno. Gorau'i gyd oedd hynny yn fy ngolwg. Gwyddwn yn bur sicr y cawn ef gartref ym mis Mai.

A thrannoeth yn bur fore hwyliais fy ngherddediad tuag ato. Unwaith y bûm yn y gymdogaeth honno o'r blaen, a'r tro hwnnw ar feisicl. Yn y cyfamser yr oedd cyfleusterau teithio wedi cynyddu fel nad oedd gennyf ond rhyw filltir neu filltir a hanner i gerdded. Ar ôl cyrraedd pen fy siwrnai gyda'r bws, cychwynnais ar fy nhaith ar hyd ffordd blwyf dda ei hwyneb a'r gwrychoedd o'i deutu yn wynion gan y Mai. Nid oedd tŷ na thwlc yn agos. Canai'r adar yn soniarus yn y llwyni, a pharablai'r gog ei deunod ar wib heibio. Aderyn rhyfedd yw'r gog, yn dodwy ei hwyau yn nythod adar eraill, a gadael i'r adar bach hynny fagu ei phlant heb dâl na diolch. Yr oedd y ffordd yn unig, ond ei throfeydd yn ei gwneud yn hynod o brydferth, a rhedai aber fechan furmurol yn ochr yn ochr â hi ac ychydig o lathenni oddi wrthi, a thybiwn mai ei hiaith oedd:—

Men may come and men may go,
But I go on for ever.

For ever—am byth. Y mae'r syniad "am byth" yn reddfol mewn dyn. Rhodder rhodd fechan i blentyn ac fe ofyn yn ostyngedig a gwylaidd a gaiff e' hi "am byth".

Yr oedd unigrwydd i'w deimlo ar y ffordd honno, a'r syniad a ddaw i'r meddwl yw'r "am byth". Bu'r genweiriwr medrus yn rhodio glannau'r afon, ond y mae ef wedi mynd a llawer genweiriwr ar ei ôl, a'r ffwdan i ddal y brithyll ofnus wedi darfod. Y fforddolion llon a phrudd a fu'n gwrando ar furmur yr afon, y maent hwythau wedi mynd, ond y mae hi yn dal i fynd a mwmian-ganu ar y tywod mân.

Ond y mae'n rhaid i minnau fynd hefyd, a mynd a wneuthum nes dyfod ohonof o olwg a chlyw yr afonig. Ac yn y tro hwnnw yr oedd neidr ddolennog ym mol y clawdd. Arhosais i edrych arni. Llygadrythai ar rywbeth. Dynesais yn araf a gwelwn froga yn llygadrythu arni hithau. Estynnai hi ei phen yn araf a cholynnai ef nes ysboncio ohono o dan yr effeithiau, ond ni wnâi un ymdrech i ffoi. Yr ydoedd fel pe wedi ei swyngyfaredd ganddi. Edrychai'r ddau ym myw llygaid ei gilydd. Ofn oedd arno ef i droi ei gefn ac iddi hithau fanteisio ar hynny o gyfleustra. Er ei golynnu fel hyn yn aml, ni wnâi un ymdrech i dalu'r pwyth yn ôl na ffoi chwaith o'r perygl. Ar hyn amlygais fy ffon iddynt, a chiliodd hi yn ôl i'w gwâl, ac yntau y tu ôl i garreg, ac fe euthum innau ymlaen ychydig o gamau. Dychwelais a chefais hwynt yn yr un cyflwr drachefn, y ddau yn llygadrythu ar ei gilydd. Wedi ei swyngyfareddu oedd y broga gan ddisgleirdeb llygad y neidr a'r ofn yn ei fynwes ef ei hun. Picellai hi ef yn chwareus gan adael diferyn o wenwyn ymhob briw i'w gwsno cyn yr act olaf o'i lyncu. Nid oedd modd gwahanu'r ddau heb ladd un ohonynt, ond gan nad oeddwn mewn unrhyw ysbryd dialgar y dydd hwnnw gadewais iddynt gan fynd ymlaen. Hen air Cymraeg a ddywed na thyf porfa ar fedd y dyn dialgar.

Ymlaen â mi ar hyd ffordd gaeadfrig y cwm cul nes dyfod ohonof i dro arall arni, ac yno'r oedd dyn yn eistedd ar ymyl y ffordd yng nghysgod llwyn gwyn gan flodau Mai. Holodd faint o'r gloch ydoedd, ac arwydd oedd hynny am ymgom, a chafwyd ymgom hir. Eisteddais ar garreg tra rhostiai yntau ei facwn wrth y tân, a'r nodd yn diferu'n ei fara Gan mor hyfryd oedd yr arogl a minnau heb brofi tamaid na llymaid ers rhai oriau, amheuwn a allwn wrthod tamaid pes cynigiai, ond ni fu mor foesgar â chynnig, ac ymgedwais innau rhag rhoddi un awgrym o'm chwant. Ar ôl gorffen ohono ei bryd, tynnodd allan getyn clai du a rhyw fodfedd o goes iddo: maluriodd ei faco a llanwodd ei getyn gan ei danio; gorffwysodd ei gefn ar garreg ac â'i freichiau ymhleth dechreuodd ysmygu, a chyfaddefai ei fod yn berffaith hapus.

Un o bererinion y ffordd oedd ef wedi ei gyfarwyddo i'r cwm cul hwn gan arwyddion dirgel a gafodd yn y tro ar y ffordd fawr. Y mae gan y dosbarth hwn o deithwyr y ffyrdd arwyddion dirgel i'w cyfeirio i dai caredigion. Adroddodd ei hanes yn fanwl fel y bu yn y Rhyfel Mawr, a'r India ar ôl hynny. Yr oedd ganddo wybodaeth helaeth a manwl o'r byd, a mesurai deilyngdod gwleidwyr y byd. Yn ei dyb ef yr oedd holl wledydd y byd gwareiddiedig yng nghafaelion chwyldroad mawr a chyrhaeddbell. Hen filwr ydoedd, ac yn awr wedi troi i gerdded y ffordd. Yr oedd yn hoff o'r ffordd, a theithiai o fan i fan yn ôl ei fympwy. Digon iddo ydoedd ambell wythnos o waith. Cadw'r corff yn lân trwy fynych ymolchi mewn dwfr glân a rhedegog, ac un pryd da o fwyd y dydd oedd yn ddigon i gadw iechyd yn y corff. "Dyma fi", meddai, "cyn iached â'r gneuen, a chyn hapused â'r gog' Gwyddai oddi wrth yr arwyddion dirgel a'u tywysodd hyd yma y caffai ychydig ddyddiau o waith yn y fferm yr oedd yn mynd iddi, ac i'r un man yr oeddwn innau'n mynd.

Cyd-deithiasom gan ymgomio, ac yr oedd ei gwmni yn hyfryd, canys yr ydoedd yn ddyn gwybodus, ac o farn aeddfed. Adroddodd ei hanes yn y Rhyfel Mawr, a'r caledi a fu arno yng nghymdogaethau Arras ac Ypres. Na, nid oedd am roddi i fyny gerdded y ffordd, canys dyna oedd ei fwynhad pennaf yn awr. Awgrymais nad oedd hyn i barhau'n hir a'r blynyddoedd yn mynd mor gyflym. Yr oedd wedi trefnu ar gyfair hyn hefyd. Yn llety'r Undeb yr oedd ei daith i orffen, ac ni fyddai ei aros yno ond byr, canys nid oedd neb o'i ddosbarth ef yn byw'n hir, nac yn dymuno byw'n hir, wedi gorffen teithio. Beth wedyn ? "Wel", meddai, gyda dwyster yn ei lais, "yn llaw fy Nhad, a'm tywysodd hyd yn hyn".


Arweiniai'r ffordd ar i fyny yn awr, a chyrhaeddwyd ei thrum uchaf. O'r fan honno cawsom olwg ar gwm cul, nid annhebyg i gwm Llanfihangel-y-pennant, ac afonig fechan yn rhedeg trwyddo a ffermdy yn y pen uchaf iddo mewn lloches glyd, a'r haul yn tywynnu'n hyfryd arno. Yr oedd y gwyrddlesni yn y coed a Mai yn y gwrychoedd, a'r fuches mewn cae'n agos i'r tŷ yn gorweddian yn gysglyd gan gnoi ei chul. Gadawyd y ffordd yn awr am lwybr a oedd yn arwain at y tŷ trwy'r gweirgloddiau. Cyn pen hir curem wrth y drws a oedd yn hanner agored, a llais yn dywedyd, "Jim, dos, ngwas i, mae rhywun wrth y drws", ac fe adnabûm y llais. Beth oedd ei syndod pan euthum i mewn, ac yn enwedig pan welodd fy nghydymaith. Wrth y ford de yr oedd ef a'r gwas a'r forwyn a Jim, y gwas bach. Gwnaed lle i ninnau'n dau wrth y ford, a chyfranogasom o'r bwyd, a mi gydag awch.

Ar ôl y te ymwahanwyd a phawb at eu gorchwyl, a minnau a meistr y tŷ i'r aelwyd am ymgom. Gymaint o holi fu ar ein gilydd yn ystod yr ymgom, a holi helyntion hen gyfeillion, a chant a mwy o bethau tebyg.

Ar ôl yr ymgom fe aethom allan, ef a minnau, ac ef a'i wn dan ei gesail, a Phero wrth ei sawdl. O hir rodio daethpwyd at glwyd ac adwy, ac fe aeth ef yn ddistaw yn ei flaen gyda'r gwrych a'r ci yr un mor llechwraidd yn ei ddilyn. O edrych dros y cae gwelwn gwningen yn pori yn ymyl ysgallen heb fod yn nepell oddi wrthyf. Codai'n fynych ar ei dwy droed ôl i glustfeinio. Troai ei chlustiau i bob cyfeiriad ac weithiau yn wrth-groes i'w gilydd. Yna, plygai drachefn i bori a'i chlustiau yn wastad-dynn ar ei chefn. Yr oedd y ddwy glust fel dau beriscop yn sgubo dros y maes am yr arwydd lleiaf o berygl. Toc, wrth geisio mynd dros y clawdd fe syrthiodd yr heliwr, ac ar amrantiad dyna'r gwningen yn taro ei dwy droed flaen ar y llawr a dwsin neu chwaneg yn ffoi am eu hoedl i'w tyllau yn y clawdd. Y gwningen a wyliwn oedd y sentinel. Ni welais yr un arall yn clustfeinio fel hi, er bod dwsin neu ragor o hyd golwg. Taro'i dwy droed flaen ar y llawr oedd y rhybudd i'r lleill.

Dychwelwyd i'r tŷ yn waglaw, ac yno'r oedd ficer y plwyf wedi dyfod i ymweld â'r teulu. Hynafgwr oedd ef yn byw bywyd tawel a gwasanaethgar, a thŵr o gadernid ydoedd i'r plwyfolion oll ar bob achlysur. Unwaith bu'n fachgen ieuanc yn cipio'r gwobrwyon blaenaf mewn ysgol a choleg.

Drannoeth yr oedd fy nghyfaill i fynd i farchnad i dref heb fod yn nepell, a chefais fy newis i fynd gydag ef neu i dreulio'r dydd yn y ficerdy. Wrth gwrs yr olaf a ddewisais, ac yno yr euthum yn gynnar y bore, a'r ficer eto wrth y ford frecwast. Bu iddo briod a theulu, ond yn awr yr ydoedd wedi ei adael ei hunan. Eto yr ydoedd yn hapus yn ei unigedd. Yr oedd darlun o'i briod ar bared yr ystafell, a'r ddau blentyn a fu unwaith dan ei ofal.

Gan fod yr haul yn tywynnu, a gwasgaru ei wres, aethom allan gyda phob i gadair i eistedd yn ffrynt y tŷ. Yr oedd y wlad yn dra phrydferth, gyda chip o'r môr yn y pellter, a'r mynyddoedd dipyn yn nes yn dyrchafu eu pennau i'r glesni uwchben. Gofynnais iddo beth oedd ei brofiad yn awr, ac yntau wedi dyfod i ddyddiau henaint, ac yn gwybod fod yr awr ymado i ddigwydd unrhyw amser bellach. Dywedodd yntau nad dyna'r tro cyntaf y gofynnwyd y cwestiwn fel y gŵyr pawb a ddarllenodd draethawd Cicero ar henaint, a hynny cyn Cred. Ac os oedd Cato yn medru edrych ar ei ymado gyda thawelwch ysbryd cyn dwyn bywyd ac anllygredigaeth i oleuni, pa faint mwy tawel y dylai ef arfer tawelwch a bodlonrwydd ysbryd i'r glyn wedi ei oleuo gan y llusern na ddiffydd mwy. Cyn pen wythnos ar ôl hyn yr oedd yntau wedi croesi i'r lan draw.

Dyn i Dduw, dyna oedd ef—a'i olwg
A'i galon ar dangnef
Y saint fry yn nhŷ y Nef,
A'i edrych fyth ar adref.

Yno mwy, heb glwy na gloes,
Dydd hen, na diwedd einioes,
Yn iach o bob afiechyd,
Hoyw ei hoen o boen y byd;
Yno, mewn hedd yn mwynhau
Adlais y nefol odlau.


Nodiadau golygu