Yr Hen Lwybrau/Ellis Wynne a Glan Hafren
← Digwyddiadau'r Ffordd | Yr Hen Lwybrau gan John Davies (Isfryn) |
Abram Jones Y Fedwen → |
VII
ELLIS WYNNE A GLAN HAFREN
DYWAID Ellis Wynne mai rhodio Glan Hafren ydoedd pan gipiwyd ef i'w drydedd weledigaeth,—Gweledigaeth Uffern. Rhodiannai ei glennydd teg ym mis Ebrill, yn gwrando ar yr adar mân yn pyncio yn y llwyni, ac ar yr un pryd yn darllen Yr Ymarfer o Dduwioldeb. Nid ydyw yn rhoddi'r awgrym lleiaf o'r achosion a'i dug i lannau Hafren, ac nid oes un o'i fywgraffwyr, i'm gwybod i, yn rhoddi yr un gair o eglurhad. Fe allai mai dibwys oedd y lle yn eu golwg hwy o'i gyferbynnu â'r weledigaeth. Ac eto y mae'n rhaid bod rhyw reswm dros iddo gyfeirio at "Glan Hafren".
Pan ddeuthum i dario ar lannau Hafren methwn â chael llonydd i'm meddwl nes mynnu gwybod y cwbl a oedd yn bosibl amdano yma. Ac fe arweiniodd fy ymchwil fi i feysydd tra diddorol na wyddwn fawr amdanynt o'r blaen. Y ddau gwestiwn a'm cymhellai i'r ymchwil oedd, beth a ddug Ellis Wynne i lannau Hafren? a pha rannau o Hafren? oblegid y mae hi yn afon hir, a'r hwyaf yn ynys Prydain. Tardd ar Bumlumon yn ffrwd fechan a phan gyrhaedda Fôr Hafren y mae'n afon fawr, ac wedi llyncu mil a mwy o aberoedd bychain ar ei thaith. Fy nhasg ydoedd chwilio pa rannau o'r afon a rodiai, a pham y rhodiai'r rhannau hynny.
Pa fodd ac ym mha le yr oedd cael gafael ar ben y llinyn i'r ymchwil ? Dechreuais gyda'r Ymarfer o Dduwioldeb y dywedai Ellis Wynne ei fod yn ei ddarllen ar lan Hafren. Gwyddwn mai awdur y llyfr hwnnw oedd Lewis Bayly. Brodor ydoedd ef o Gaerfyrddin. Ordeiniwyd ef yn Lloegr a daeth ymhen amser yn weinidog Evesham, yng Nghaerwrangon. Yr ydoedd yn gaplan i'r Tywysog Henry, aer Iago I. Ac ar farw'r Tywysog Henry penodwyd ef yn gaplan i'r Tywysog Siarl. Gweinyddai hefyd fel gweinidog Eglwys St. Mathew, yn Friday Street, Llundain. Yn ddilynol gwnaeth Iago I ef yn gaplan iddo ef ei hun. Yng Ngorffennaf, 1621, bwriwyd ef i garchar y Fleet, am ba achos nid oes wybod mwy na'r dyb mai rhywbeth oedd ynglŷn â phriodas y Tywysog Henry a'r Infanta o Sbaen. Yr oedd ei glod yn fawr fel ysgolor a phregethwr, ond nid oedd o'r un daliadau gwleidyddol a chrefyddol â theulu'r Stuart, a Laid. Nid un oedd Lewis Bayly i aberthu ei egwyddorion er mantais dymhorol. Gymaint oedd parch Iago I iddo fel y penododd ef yn Esgob Bangor ar farw'r Esgob Henry Rowland. Fe aeth y Practice of Piety trwy 50 o argraffiadau erbyn blwyddyn marw Ellis Wynne yn 1734. Bu'r Esgob Bayly farw Hydref 23, 1631, ac fe'i claddwyd yn Eglwys Gadeiriol Bangor.
Llyfr a hanes iddo yw'r Practice of Piety. Dyma un o'r ddau lyfr a ddug gwraig gyntaf John Bunyan yn waddol gyda hi, a'r llall oedd Llwybr Hyffordd i'r Nefoedd, nad yw o'r un teilyngdod â'r Ymarfer. Pwy fyth a all fesur dyled y byd i'r eneth a briododd John Bunyan yn ei wylltineb a'i rialtwch mwyaf. Dyma rai o'r dylanwadau cudd a ddechreuodd foldio cymeriad prif freuddwydiwr y byd.
Cyfieithiwyd yr Ymarfer i'r Gymraeg gan Rowland Vaughan, Caergai, ym mhlwyf Llanuwchllyn; ac un o hen uchelwyr Cymru ydoedd ef, yn caru ei wlad a'i defion, a'r Eglwys a'i defion hithau. Ar ôl treulio cwrs o addysg ym Mhrifysgol Rhydychen ymsefydlodd ar ei stad i wasanaethu ei wlad, ac yn enwedig ei llenyddiaeth. Gymaint oedd llid Olifer a'i blaid ato fel y llosgwyd Caergai bron i'r llawr. Yr oedd Rowland Vaughan yn deip o'r diwylliant Cymreig, ond o ran hynny yr oedd yr hen foneddwyr Cymreig yn ddieithriad yn enghreifftiau o'r diwylliant Cymreig, a achleswyd gan yr Eglwys dros fil o flynyddoedd. A'r diwylliant Cymreig oedd, Gonestrwydd, Geirwiredd, a Lletygarwch, a dyna yw'r diwylliant Cymreig hyd y dydd heddiw.
Bu i'r Esgob Lewis Bayly bedwar o feibion, Nicolas, John, Theodore, a Thomas. Thomas a'i enwogodd ei hun fwyaf. Bu [1]William Bayly a John Bayly yn rheithoriaid Penstrowed. Cyffrôdd hyn fi i chwilio hanes y plwyf bychan hwn, a hefyd y personiaid a fu'n gweinidogaethu yma. Yn hen lyfrau cofnodion geni, priodi, a marw'r plwyfolion y ceir hanes bob dydd cenedl y Cymry. Pan oedd Cymru'n wenfflam gan ddeffroad y ddeunawfed ganrif, ac yn diystyru pob dyletswydd a gorchwyl, y pryd hwnnw yr oedd yr hen Eglwys fel mam yn ei chartref yn gofalu am y plwyfolion, yn enwedig y tlawd, y bachgen neu'r eneth wirion, y digartref, a'r afradlon. Yn yr hen festrïoedd y mae'r gyfrinach iach yma.
Hawdd y gallasai yr hen Eglwys ganu:—
Myfi sy'n magu'r baban,
Myfi sy'n siglo'i grud.
Ond nid oedd neb yn ei gweld, ac ni ddyrchafai hithau ei llef i dynnu sylw'r cyhoedd ati.
Plwyf bychan yw Penstrowed a'i boblogaeth o dan gant, a nifer y tai yn 23, ac un ohonynt a'i ben iddo. Yn y cyfnod y soniwn amdano'n awr ni allai nifer y tai fod yn fwy na hanner dwsin neu ddwsin. Perthynai i'r fywoliaeth dyddyn o dir brasaf Powys ar lan Hafren. Ac nid oedd dim yn fwy naturiol nag i'r Esgob Bayly roddi'r fywoliaeth i un o'i deulu a chawn William Bayly a John Bayly yn rheithoriaid y plwyf. Bu farw John Bayly yn 1706, a cheir cofnodiad o'i farw yn y Register. Yn y flwyddyn 1703 y cyhoeddwyd Gweledigaethau'r Bardd Cwsg. Yng ngwaelod y plwyf y mae Glan Hafren, plasty o nod y dwthwn hwnnw, ac eto o ran hynny, er ei fod yn fwy o amaethdy yn awr. Bu George Herbert o Bemberton yma droeon pan oedd yn ficer segur yn Llandinam. A cheir weithiau gyfeiriad at Penstrowed fel "Capella de Llandinam". Un o'r eglwysi clas oedd Llandinam.
Nid wyf ond dyfalu, ond a oedd rhyw gydnabyddiaeth rhwng Ellis Wynne a John Bayly y soniasom amdano? Ac a oedd John Bayly yn preswylio yng Nglan Hafren, ac yn gosod y rheithordy i denant? Bron nad yw'r tŷ a'r tai allan yn awgrymu hynny. Yng Nglan Hafren y preswyliai Canon John Arthur Herbert a fu'n rheithor y plwyf am 41 mlynedd. A yw Elis Wyn yn awgrymu mai yma yr ydoedd pan ddywedai mai rhodio glannau Hafren ydoedd yn darllen Yr Ymarfer o Dduwioldeb?
Wrth chwilota fel hyn i borthi ysbryd dyfalu a'm meddiannodd mor llwyr, ac a roddai gymaint o fwynhad, fe ddeuthum ar draws ffaith ddiddorol iawn. A dyma hi yn yr iaith yr ysgrifennwyd hi:
"DOL YSGALLOG. In the Edward Llwyd MSS in the Bodleian Library is a letter to Llwyd containing the following interesting passage:
In the lower part of the above named parish—Penstrowed—is a piece of ground about six acres called Y DDOL YSGALLOG—in which plot of ground is a mere (stone) where the ministers of three parishes (some say three Bishops), viz., PENSTROWED; MOCHDREF (then in the Diocese of St. Davids) and NEWTOWN, having a [2]brandart between them, stood each of them in his own parish and within three dioceses, to wit, BANGOR, ST. ASAPH, and ST. DAVIDS, in three several hundreds LLANDILOES, MONTGOMERY, and NEWTOWN. And in three lordships, viz., ARRUSTLEY, KERRY, and CEDEWAIN".
Gyferbyn â'r Ddôl Ysgallog ar ochr ddwyreiniol Hafren ac ym mhlwyf Llanllwchaiarn y mae dau dyddyn o'r enw Ysgafell yn llechweddu ar yr afon, fel y golyga'r enw, ac ar un ohonynt y mae "Cae'r Fendith", y mae hanes tra ddiddorol yn perthyn iddo.
Y mae deoniaeth Arwystli fel ynys yng nghanol Powys Wenwynwyn yn perthyn i Aberffraw ac nid i Fathafarn, ac i esgobaeth Bangor ac nid i Lanelwy neu Dyddewi. Prif eglwys y ddeoniaeth oedd Llandinam gyda'i chlaswyr a'i phersoniaid. Diddorol yw cofio i George Herbert o Bemberton fod yn un o ficeriaid Llandinam, ond nid oes sôn iddo weinyddu yno. Ymwelai yntau ar ei dro â Glan Hafren, ac ymhen amser fe ddaeth Glan Hafren yn breswylfod i John Arthur Herbert, rheithor Penstrowed am 41 mlynedd a chanon Bangor, a'r Herbert hwn oedd ddisgynnydd o Herbertiaid Powys. Pan ymwelai'r Esgob â'r ddeoniaeth arhosai mewn tŷ o'i eiddo yn Llanwnog, a cheir mai William Bayley oedd ficer Llanwnog yn 1660. Gan nad oedd gan y Lewis Bayley fab o'r enw William, y tebyg yw mai ŵyr iddo oedd y William hwn.
Arweinia'r ffeithiau hyn ni i gasglu y gallasai Ellis Wynne yn hawdd fod yng Nglan Hafren pan gipiwyd ef i'w drydedd weledigaeth, sef Gweledigaeth Uffern.