Yr Hen Lwybrau/Pennod o Atgofion

Cynnwys Yr Hen Lwybrau

gan John Davies (Isfryn)

Yr Hen Lwybrau


PENNOD O ATGOFION

EISTEDDWN fin nos wrth y tân heb olwg am neb i ddod i dorri ar fy heddwch am y gweddill o'r hwyrnos. Yr ydoedd yn rhy olau i oleuo'r lamp ac yn rhy dywyll i ddarllen, ac wrth ryw hanner breuddwydio fel hyn fe fynnai'r meddwl redeg yn ôl i'r gorffennol, a chofiais imi gael o hyd i hen gopi o nodion a gadwn flynyddoedd lawer yn ôl. Pan oeddwn yn mudo o un tŷ i'r llall darganfûm yr hen gopi yn awr yn llwyd gan henaint.

Rhedai rhai o'r nodion yn ôl i'm dyddiau ysgol, a deuthum ar draws rhai diddorol iawn. Gair neu enw oedd yn ddigon i ddwyn yr amgylchiadau yn fyw ger fy mron. Yr oedd yr hen gopi yn llawn o gyfeiriadau at hen arferion y wlad, y Cynhebryngau, y Priodasau, y Stafell a'r Neithior, Chwaraeon y plant, a lliaws o fân bethau eraill. Ond y peth a dynnodd fy sylw fwyaf y noson hon oedd y nodion a wneuthum wrth fynd o amgylch â'r papurau cyfrif yn y flwyddyn 1881. Y dosbarth a roddwyd i mi gan y Cofrestrydd oedd Rhos-y-wlad, ac o bob dosbarth hwn oedd y mwyaf a'r mwyaf blin i'w gerdded, gan ei fod yn bur gorsiog. Dyma'r adeg y cefais gip ar nodweddion a chymeriad gwlad o bobl.

Pobl garedig a chroesawus i'r eithaf oedd y trigolion y cefais i'r fraint o fynd o'u hamgylch, ond yn eithriadol o ddireidus ac yn hoff o chwarae triciau smala â'i gilydd, a'r cwbl mewn ysbryd llednais. Clywais lawer stori ddigri ganddynt, a thrysorais hwynt yn yr hen gopi y sy'n awr ger fy mron. Yr oedd ganddynt lysenwau i'w hadnabod wrthynt, a hynny oherwydd rhyw dro trwstan neu anaf ar y corff. Ac y mae hyn yn nodweddiadol o bob gwlad yr oedd yn Rhufain a Groeg, ac yng Nghymru'r Oesoedd Canol rai fel Iorwerth Drwyndwn a enwyd felly oherwydd rhyw anaf ar ei drwyn, a'r un modd Gwilym Bren, coes bren oedd ganddo yntau. Nid o un amarch y llysenwid hwynt, ond o ryw ysbryd direidus a chwareus. Dyma enghraifft fel y cafodd un ei enw. Arferai glymu un goes o dan ei ben-glin â chortyn. Pe clymasai'r ddwy, ni thynasai sylw neb. Ond clymu un goes a dynnodd sylw pawb, ac o hynny allan fe'i galwyd yn Wil Glun Gorden. Pan glywodd Wil hyn fe glymodd y ddwy glun, ond yn rhy ddiweddar erbyn hyn, ac fe lynodd yr enw wrtho hyd ei fedd. Yr un modd y cafodd Wil Difedydd yr enw. Gwrthod â chymryd ei fedyddio trwy drochiad a wnaeth i gael yr enw. Pan glywodd yntau hyn, brysiodd i'w fedyddio, ond er y cyfan i gyd Wil Difedydd a fu yntau er wedi ei fedyddio.

Yr oedd yn Rhos-y-wlad atgo byw iawn am ddigwyddiadau ynglŷn â diwygiad Dafydd Morgan yn 1859. Un o'r tonnau rhyfeddaf a aeth dros y wlad ydoedd hwn, a Rhos-y-wlad a deimlodd ei ddylanwadau fwyaf, a naturiol i sôn amdano aros yn hir yn y rhanbarthau hynny. Dyn bychan ei gyraeddiadau meddyliol oedd Dafydd Morgan, ond yr oedd ganddo ryw ddylanwad aruthrol ar ei wrandawyr. Yr oedd yn fwy wrth holi profiadau na hyd yn oed yn y pulpud. Unwaith y darganfyddai fan gwan yng nghymeriad ymgeiswyr am aelodaeth fe ddiferai ei eiriau fel fitriol ar friwiau noeth. Daeth Benni Bach o dan ei fflangell un tro. Nid am ei fod yn fach o gorffolaeth y cafodd yr enw, nac ychwaith am ei fod yn gymeriad hoffus yn yr ardal, ond am mai Benni oedd ei dad a Benni ei daid, ac felly fe enwyd yr ŵyr yn Benni Bach. Ar ôl un oedfa wlithog fe arhosodd Benni ar ôl, ac fe'i galwyd i fainc yr edifeiriol. Gwelid llygaid Dafydd Morgan yn serennu o dan aeliau trymion. Dechreuodd holi Benni, ac yn fuan trawodd ei law ar fan gwan yn llurig cymeriad Benni, a diferodd geiriau llymach nag un cleddyf daufiniog. Ond fe drodd Benni arno'n ffyrnig. "Welwch chi, Dafi Morgan", meddai Benni, "os ydych chi a minnau am fod yn ffrindiau peidiwch â mynd un cam pellach yn y cyfeiriad yna". Ac nid aed hyd yn oed hanner cam ymhellach.

Rywbeth yn debyg y digwyddodd hi gyda Twm Johnyn. Un o gymeriadau rhyfeddaf y fro ydoedd hwn, ac y mae gennyf gof da amdano. Arferai wisgo het silc lwyd yn debyg i'r rhai a welid ar bennau porthmyn ceffylau mewn ffeiriau. Ymffrostiai Twm yn ei waedoliaeth, canys yr oedd o dras teulu Dolau Cothi. Johns oedd y teulu hwnnw, a Johns oedd Twm, ond ei fod ef wedi mynd yn Johnyn. Un tro arhosodd yntau ar ôl yn un o'r oedfaon. A galwyd ef at fainc y pechaduriaid. Cynnil iawn oedd yr holi ar Twm, a'r dyb gyffredin oedd bod ar yr holwr dipyn o ofn yr holedig. Fe wyddai'r holwr am wendid Twm, a'r gwendid ar y pryd oedd bod Twm a Gwenno yn byw ar wahân, a dywedai'r holwr nad oedd yn 'bosibl ei dderbyn yn aelod heb iddo'n gyntaf gymodi â Gwenno, a'r ateb parod oedd bod ganddo dri rheswm dros beidio â gwneud hynny, ac fe adroddodd ei resymau ; ond gan nad oeddynt yn ddigon yng ngolwg yr holwr, cydiodd Johnyn yn ei het ac allan ag ef, gan ddymuno nos da i'r frawdoliaeth.

O deithio o dŷ i dŷ ar draws corsydd a mawnogydd deuthum at fwthyn to gwellt a breswylid gan un o'r enw Deio Twrc. Dyn un llygad oedd ef, a chlwt glas yn orchudd ar y llall. Curais wrth y drws a chlywais lais fel taran yn gorchymyn imi fynd i mewn a pheidio â churo fel hynny wrth ei ddrws ef. Ufuddheais i'r alwad, a'r gorchymyn nesaf oedd imi eistedd i lawr ac adrodd fy neges. Yr wythnos drachefn gelwais wedyn i gasglu'r papur, a bu raid imi ei lanw fel y gallai Deio weld pa fath ysgrifennwr oeddwn. Cefais dipyn o waith i egluro termau'r gwahanol golofnau. Pan ddaethom at golofn yr idiots a'r imbeciles, ac egluro mai dynion heb fod yn gall a olygid, awgrymais adael hwnnw heb ei lenwi. Ond ni fynnai Deio hynny rhag iddynt yn Llundain, chwedl yntau, dynnu camgasgliadau oddi wrth y distawrwydd. Ei awgrym ef oedd imi roddi i lawr yn Saesneg mai dyn cryf ei feddwl ac iach ei galon ydoedd. "A man of strong mind with sound heart". Yn fy ffwdan gadewais yr 'e' allan o'r heart, ac felly yr arhosodd pethau.

Yr oedd croeso mawr yn f'aros yn y tŷ nesaf yr euthum iddo, a hynny am y rheswm, yn bennaf, imi fod yn yr un ysgol â'u mab, a'u hunig blentyn, yn awr yn ei fedd. Ifan a Mali'r Cnwc oeddynt hwy. Anaml y gwelais i ofid mwy na'u gofid hwy. Bachgen gobeithiol iawn ydoedd eu mab, a dim ond newydd ddechrau pregethu gyda'r Methodistiaid. Ef oedd eu gobaith a gwrthrych eu serch. O'u gweld mor alarus a hiraethlon dywedais ei fod yn bosibl tramgwyddo Rhagluniaeth ddoeth y Nef â gormod o alar. "Odi, odi, y machgen i", oedd yr ateb, "a gobeithio y cedwir ni rhag hynny, beth bynnag".

Y tŷ nesaf imi alw ynddo oedd tŷ y Dr. Rees. Curais wrth y drws, a chlywn lais soniarus y Doctor yn fy ngwahodd i mewn. Agorais y drws, a chroesais y trothwy i weld y Doctor yn eistedd mewn cadair freichiau ger y tân, cap du am ei ben moel, a siaced felfed amdano, a'r wig ar hoel uwchlaw'r pentan i'w chadw'n gynnes pan ddeuai galw amdani. Gwyddwn y caffwn fy holi gan y Doctor, ac ni'm siomwyd chwaith. Ar ôl holi a stilio fel hyn am beth amser estynnodd y Doctor ei law i ddrôr y cwpwrdd, a dangosodd imi ddiploma y D.D. Addefodd y Doctor mai America oedd y wlad gyntaf i'w ddarganfod ef a chydnabod ei deilyngdod. Erbyn hyn yr oeddwn wedi ennill digon o nerth i ofyn un cwestiwn. Aethai si ar led trwy'r wlad iddo ef dorri allan o'r seiad William Richards am iddo brynu ar slei flwch o fatsis Lusiffer yn Aberystwyth. Y tramgwydd oedd prynu blwch ac enw Lusiffer arno. Na, yr oedd y Doctor yn bendant nad oedd y rhithyn lleiaf o wirionedd yn y stori. Da yw gennyf wneud hyn yn hysbys o barch i'r ddau.

Gadewais y Doctor a chyfeiriais fy ngherddediad i'r Ficerdy. A chan ei bod yn dechrau hwyrhau, a'r ffordd ymhell imi fynd adref, cymhellwyd fi i aros yno hyd drannoeth, yr hyn a wneuthum gyda diolch, canys yr oeddwn erbyn hyn wedi llwyr flino. Cawn gysgu yn yr un gwely ag y cysgodd Archddiacon ynddo y noson gynt. Gwelais fod y teulu caredig am dywallt pob croeso ar fy mhen. Ar ôl swper cafwyd ymgom lon am ddigwyddiadau'r dyddiau hynny, ac fe adroddais lawer digwyddiad digrif. Yn dâl am hyn adroddodd y ficer y stori ganlynol am yr Archddiacon a ddigwyddasai hyd yn oed y bore hwnnw.

Pan gododd a dyfod i'r ystafell fwyd, a neb yn yr ystafell ar y pryd ond Johnny bach, o gwmpas pump oed, ac yntau, trodd yr Archddiacon i roi ei sgidiau am ei draed a botymu ei socasau, a Johnny yn edrych arno gyda syndod, ac nid rhyfedd, canys ni welsai neb â socasau o'r blaen. O'i weld yn llygadrythu felly, dywedodd yr Archddiacon wrth yr hogyn bach—"Nid oes gan dy dad di, 'y ngwas i, socasau fel hyn". "Nac oes", meddai Johnny, "ond y mae gen i rai".

Trawodd cloc un ar ddeg, a gwadnwyd hi i fyny i'r ucheldiroedd.