Yr Hen Lwybrau/Yr Hen Lwybrau

Pennod o Atgofion Yr Hen Lwybrau

gan John Davies (Isfryn)

Pennod ym Mywyd Elis o'r Nant


II

YR HEN LWYBRAU

FY mwriad oedd rhoddi un diwrnod yn Eisteddfod Genedlaethol Aberystwyth, ond wedi dechrau cael blas ar yr Eisteddfod, a chyfarfod â hen gyfeillion, trodd y diwrnod yn ddau, a chefais holl gyfarfodydd yr Ŵyl, ond un, o fore glas hyd hwyr. Gallaswn draethu llawer ar y cyfarfyddiadau hapus a wneuthum ddau ddiwrnod yr Eisteddfod, a'r mwynhad a gefais yng nghwmni cyfeillion, a'r modd y deuthum i adnabod hen gyfeillion yn bersonol am y tro cyntaf. Eisteddais drwy gyngerdd y noson gyntaf yn ymyl cyfaill mynwesol nad adwaenwn yn ôl y cnawd. Gohebwyd llawer â'n gilydd, o dro i dro, heb erioed gyfarfod, ac yno yr oeddem yn ymyl ein gilydd-mor agos ac eto mor bell. Fore drannoeth fflachiodd yr adnabyddiaeth, a 'wiw imi mwyach godi dim ar y llen.

O'r Ŵyl ymaith â mi i hen ardal Ystrad Meurig, ac yn awr nid oedd gennyf ond un diwrnod, am yr haf hwnnw beth bynnag, i dreulio yn yr hen gymdogaeth. Y mae llawer ffordd i dreulio diwrnod hapus ym mro maboed, ond y ffordd a fabwysiedais y tro hwn oedd myned i ben Trysgol-y-ffos, fel y gelwir bryncyn bychan yn yr ardal. Saif y Drysgol yn y canol rhwng tri phentref a ffurfia, megis, dair troed trybedd, Ystrad Meurig, Swydd-ffynnon, a Thyn-y-graig.

Cerddais i ben y Drysgol, ac eisteddais i lawr yn y man uchaf arni. Yr oedd y diwrnod yn bopeth y gellid ei ddymuno; yn wir, yn fil amgenach na dim a fedrai dyn ddyfeisio. Yr oedd natur yn hyfryd, yr hin yn dyner, a charped o fwsog odanaf, a'r lle yn fyw gan sŵn y gwenyn yn hedfan o flodeuyn i flodeuyn, ac ambell iâr fach yr haf ac adanedd amryliw yn dyfod heibio, a hynny mor agos, nes peri i mi symud weithiau rhag iddi daro ei hadanedd ynof, a'u llychwino yn y trawiad. Parhâi un i grwydro o'm cwmpas am gryn amser, a hynny, feddyliwn i, yn groesawgar iawn, eithr wedi canfod nad oedd fawr bleser i'w gael yn fy nghwmni, pwysodd ar ei haden ac ymaith â hi. Ac weithian oddigerth sŵn y wenynen, a mwm rhyw chwilen afrosgo yn symud, nid oedd dim i dorri ar y distawrwydd. Edrychais o gwmpas, ac nid wyf yn meddwl y ceir golygfa fwy arddunol yng Nghymru oll. Amgylchid y fro â rhes o fryniau lled uchel ar ffurf cylch, a'r Drysgol yn y canol. I gyfeiriad Aberystwyth yn unig yr oedd bwlch a thrwy'r bwlch hwnnw gwelwn gip ar y môr, a thrumiau mynyddoedd yr Eifl yn Sir Gaernarfon. Newidiai'r bryniau eu gwedd yn fynych. Un funud ymddangosent yn bygddu, a'r funud nesaf neidiai'r porffor a'r fermiliwn i'r golwg, a cherddid hwy gan gysgodion gwawl-gymylau fel gan adar cyhyrog yn ymlid y naill a'r llall. O'm blaen gorweddai'r Gors Goch, a Theifi araf yn dolennu trwyddi gan hepian a chysgu yn ei phyllau, a sylwais ar yr hen byllau y bûm—yn un o haid o fechgyn—yn ymdrochi lawer gwaith ynddynt, a deuai i'm cof unwaith eto fel y rhedem ar ei glan i'n sychu ein hunain yn yr awelon iach, canys nid oedd eisiau tywel yr adeg honno, ac yna i'r hen Athrofa yn Ystrad Meurig at y Groeg a'r Lladin, cyn iached â'r gneuen.

Gwelwn y ffyrdd a'r llwybrau, ac mewn dychymyg yr ysgolheigion yn cyniwair; a phob un â'i becyn llyfrau dan ei gesail, i Athen Cymru Fu. Adwaenwn bob llwybr a phob ffordd, a gwyddwn am bob tro ynddynt. Sawl gwaith y cerddais ac y rhodiais hwynt! Gwelwn y llwyni y bûm yn llechu yn eu cysgod ar gawod o law, neu rhag tesni'r haul, ac weithiau i ddisgwyl am ryw gydymaith y clywn ei chwibaniad iach yn dyfod oddi draw. Ac wedi'r cyfarfod, O'r llawenydd Yn union danaf gwelwn Ffos-y-bleiddiaid. Hen gartref Llwydiaid Mabws, neu'r May Bush, oedd ef. Ond ba waeth gennyf fi yn awr pwy a fu yn preswylio ynddo. Rhedai fy meddwl yn ôl at yr hen gyfoedion, a fu yno yn ysgol Ystrad Meurig. A dyma'r hen lwybr fel bwcled ar droed y Drysgol a gerddid yn ddyddiol i'r ysgol ac yn ôl. Nid yw mor goch ag y bu, eithr yma y mae yn ddigon gweledig a'r camfeydd y neidid drostynt mor heinyf. Deuent o bob cyfeiriad. O Bontrhydfendigaid a Ffair Rhos, a'r Dderw, lle nad oedd, meddai Edward Richard,

Ond blew garw'n blaguro.

O Dyn-y-graig a Swydd-ffynnon, a draw o gyfeiriad Ysbyty Ystwyth, a chyd-gyfarfyddent yn dyrfa fawr yn hen ysgol Ystrad Meurig. Yr oedd y gymdogaeth yn falch ohonynt, a hwythau yr un mor falch ohoni hithau.

Ond mae'r rhai hyn heddiw ? Am lawer ohonynt y garreg yn unig a etyb. Fel y cofiaf fod yn eu cwmni! Á phe medrai fy llaw ddilyn fy nghof tynnwn ddarlun cywir ohonynt y funud hon. Fel y carwn weled rhai ohonynt, a chael ymgom â hwynt am yr hen amser gynt. Bron nad wyf yn awr yma ar ben yr hen Drysgol yn eu gweled a'u clywed. Rhyngof a llawer ohonynt gwn nad yw'r llen ond tenau iawn, a'm bod yn agosach atynt nag at lawer o'r rhai sydd yn fyw. Gwn am un cyfoed a chyfaill sydd y tu hwnt i'r llen ers llawer blwyddyn, ac am un arall eto'n fyw, a theimlaf fod y cyfaill hwnt i'r llen yn agosach ataf na'r un sydd yr ochr yma i'r llen. Ni wn faint o gyfnewidiad sydd wedi dyfod dros y cyfaill byw, ond am y cyfaill marw dywed rhywbeth wrthyf ei fod ef yr un, a phe cyfarfyddwn ag ef yn awr ar ben y Drysgol, gwn mai'r ymgom a fyddai am yr hen amser gynt, a chryfha'r teimlad ynof y byddai yn well gennyf gyfarfod â'r hen gyfeillion y tu hwnt i'r llen na'r rhai sydd yr ochr yma. Fe fydd tragwyddoldeb yn hyfryd os cawn gyd-gyfarfod eto i fyned dros yr hen amser, a rhodio'r hen lwybrau mewn atgof. Nid oes gennyf amheuaeth fod tragwyddoldeb, a'u bod hwythau yn nhragwyddoldeb, a'u bod yn ymwybodol ohonom ni yr ochr yma i'r llen, fel yr ydym ninnau yn ymwybodol ohonynt hwythau yr ochr draw. Mi a ymdrechais wrando funud yn ôl â'm clust yn dynn wrth y llen, a thybiwn glywed sŵn a chanu, ac mai canu yr oeddynt "gân Moses a chân yr Oen". Er melysed yr atgofion a ddeuai o edrych ar yr hen lwybrau,

Daw diwedd yn ebrwydd ar bob rhyw berffeithrwydd
Ond cyfraith yr Arglwydd i'r dedwydd ŵr da.

Y mae'n hwyrhau, a'r dydd hapus hwn eto yn tynnu tua'r terfyn fel llawer un o'i flaen, a syrthni'r hwyr yn disgyn arnaf fel y gwnâi ar lawer un yn y dyddiau gynt, pan glywid,

Dolef y ddyhuddgloch yn oer ganu cnul y dydd,

o dŵr hen fynachlog Ystrad Fflur. Dua'r wybren tua Chraig-y-Foelallt, ac i bob ymddangosiad,

Mae'n bwrw 'Nghwmberwyn, a'r cysgod yn estyn,
Gwna heno fy mwthyn yn derfyn dy daith,
Cei fara cawl erfin iachusol, a chosyn,
A menyn o'r enwyn ar unwaith.


Caf innau y "bara cawl erfin iachusol a chosyn, a'r menyn o'r enwyn ar unwaith", a chwmni Edward Richard yn ei Fugeilgerddi, ac y maent lawn mor flasus â'r "bara cawl erfin".

Fore drannoeth, sef bore Sadwrn, yr oeddwn mor blygeiniol â'r hedydd, ac yn cychwyn o'r tŷ am saith o'r gloch. Yr oedd gennyf ddigon o amser i ddal y trên yn Strata Florida erbyn wyth o'r gloch. Nid oedd raid prysuro: cerdded wrth fy mhwysau a'm dygai mewn pryd i'r orsaf. Newydd dorri 'roedd y wawr, a'r deigryn eto ar ei grudd. Cerddais ymlaen ar fy mhen fy hunan yn gwbl ddibryder am y trên ond i mi'n unig beidio â sefyllian ar y ffordd. A chan ei bod mor fore nid oedd yn debygol y cyfarfyddwn â neb i arafu na phrysuro fy ngherddediad. Ar ôl y nos, dyma fore newydd eto, a phopeth ynddo yn newydd. Gwelwn y fuches yn gorwedd yn heddychol gan gnoi ei chil yn y caeau, ac yn gymysg â hi y defaid yr un mor heddychol. Codai ambell un yma a thraw i ysgwyd cwsg y nos o'u llygaid a gwlith y wawr oddi arnynt. Croesid y ffordd gan aderyn yn awr ac yn y man, ond yr oedd ei gân wedi distewi, a braidd yn fuan ydoedd hi eto i gantor yr hydref ddechrau tiwnio ei delyn. Gorffwysai rhyw ddistawrwydd santaidd ar yr holl fro. Fel y cerddai'r bore ymlaen casglai ei niwlenni teneuon ynghyd fel y briodasferch wisg ei phriodas, a gwyddwn fod hyn yn arwydd o ddiwrnod braf, ac felly y bu. Draw dacw Ystrad Fflur, a llenni llwydion y niwl yn ymddyrchafu i gyfeiriad Banc Pen-y-bannau a'u godreon wedi eu goleuo fel sidanwe'r pryf copyn. Unwaith neu ddwy disgynnodd cawod drom o wlith, "fel gwlith Hermon, yr hwn oedd yn disgyn ar fynyddoedd Seion". Tynnais fy het, a theimlwn ef yn rhedeg i lawr fel "yr ennaint ar ben Aaron, ac i lawr hyd ymyl ei wisgoedd".

Ond dyma dro yn y ffordd, a dyma'r garreg yr eisteddais arni lawer gwaith i aros hen gyfoedion, neu y prysurwn ati i'w goddiweddyd. Dyma hi yn yr un fan, ac yn yr un lle. A chan mor fyw oedd f'atgof, trois bron yn ddisymwth ac anymwybodol i edrych a welwn fy nghyfaill yn dyfod, a phan nas gwelais, tristeais yn fy meddwl. Faint a gerddwyd ar y ffordd hon! Cerddem hi bedair gwaith bob dydd, haf a gaeaf, oddigerth y gwyliau. Nid oedd un tywydd a'n lluddiai, ac nid oedd eisiau glaw-lenni'r oes honno. Digon i ni oedd llechu yng nghysgod perth, a rhedeg o lwyn i lwyn nes cyrraedd adref. Ac am gob fawr, ni welid angen amdani y dwthwn hwnnw, canys cedwid tymheredd y corff trwy redeg. Ond dacw ddau yn dyfod gan gyd-gerdded â'u llyfrau yn agored yn eu llaw. Heb wneud ei wers y mae un, ac yn ceisio cynorthwyo ei gyfaill i fynd dros y Latin neu Greek Prose cyn beiddio mynd i bresenoldeb yr athro. Dilynir hwy gan ddau arall, llai ac iau. Decleinio yr enwau y maent hwy, a chonjugatio y berfau. Sonia'r proffwyd am "sancteiddrwydd ar ffrwynau y meirch", ac ni ryfeddwn innau fod coed y maes ar y ffordd hon yn sisial-ganu Latin a Greek. Ducpwyd torrwr-cerrig y ffordd i lys barn rywdro yr amser hwnnw i dystiolaethu i'w ysgrifen, a amheuid. Rhoddwyd ef ar ei lw, a gofynnwyd iddo gan y gŵr â'r wig, chwedl yntau, a fedrai ef ysgrifennu. Dyrchafodd yntau ei lais gan bwyso ar ei ddwy ffon, ac yn crynu i'w lwynau, nid o ofn ond o henaint, dechreuodd adrodd—

Arma virumque cano Trojae qui primus ab oris.

Cofiaf glywed yr hen ŵr yn adrodd y tro hwn gyda chryn ddireidi yng nghil ei lygad.

Ond rhaid mynd ymlaen. A dyma ben llwybr y Ffos yn arllwys ei ysgolheigion. Gelwid hwy yn ysgolheigion y Ffos i'w gwahaniaethu oddi wrth ysgolheigion lleoedd eraill: rhifent tua hanner dwsin. Ac yn is i lawr—ar riw Castell—ymunir â hwy gan ysgolheigion Tyn-y-coed, a chyn pen nemor o funudau byddai mynwent Ystrad Meurig yn orlawn o efrydwyr. Dacw'r Prifathro a'r athrawon cynorthwyol yn eu gynau a'u capiau colegol yn dyfod i fyny o Fronmeurig. Tinc neu ddau ar y gloch, a dyna'r fynwent yn wag, a'r ysgoldy yn llawn. Ychydig is i lawr, a dyma orsaf Strata Florida, a'r trên yn chwythu colofnau o fwg a hithau yn bur llaith a mwll, ac yn y tywyllwch rhannol hwn neidiais i mewn a diflannu.