Yr Hwiangerddi (O M Edwards)/Cadw Cath Ddu
← I'r Siop | Yr Hwiangerddi (O M Edwards) gan Owen Morgan Edwards |
Newid Byd → |
CXCV. CADW CATH DDU.
MAE gen i gath ddu,
Fu erioed ei bath hi,
Hi gurith y clagwydd,
Hi dynnith ei blu;
Mae ganddi winedd a barf,
A rheini mor hardd,
Hi helith y llygod
Yn lluoedd o'r ardd;
Daw eilwaith i'r ty,
Hi gurith y ci,—
Mi rown i chwi gyngor
I gadw cath ddu.