Yr Hwiangerddi (O M Edwards)/I'r Siop
← Si So | Yr Hwiangerddi (O M Edwards) gan Owen Morgan Edwards |
Cadw Cath Ddu → |
CXCIV. I'R SIOP.
MAE gen i ebol melyn
Yn codi'n bedair oed,
A phedair pedol arian
O dan ei bedwar troed;
I'r siop fe geiff garlamu,
I geisio llonnaid sach
O de a siwgr candi
I John a Mari fach.