Yr Hwiangerddi (O M Edwards)/Cariad Arall

Cariad y Melinydd Yr Hwiangerddi (O M Edwards)

gan Owen Morgan Edwards

Gwraig

CLXVII. CARIAD ARALL.

MAE'N dda gen i fuwch,
Mae'n dda gen i oen,
Mae'n dda gen i geffyl
Yn llydan ei ffroen;
Mae'n dda gen i'r adar
Sy'n canu yn y llwyn.
Mae'n dda gen i fachgen
A chrwb ar ei drwyn;
A thipyn bach bach o ol y frech wen,
Yn gwisgo het befer ar ochor ei ben.