Yr Hwiangerddi (O M Edwards)/Cariad y Melinydd
← Tair Gwydd | Yr Hwiangerddi (O M Edwards) gan Owen Morgan Edwards |
Cariad Arall |
CLXV. , CLXVI. CARIAD Y MELINYDD.
MI af i'r eglwys Ddywsul nesa,
Yn fy sidan at fy sodla;
Dwed y merched wrth eu gilydd,—
"Dacw gariad Wil Felinydd."
Os Wil Felinydd wyf yn garu,
Rhoddaf bupur iddo falu;
Llefrith gwyn i yrru'r felin,
A chocos arian ar yr olwyn.