Yr Hwiangerddi (O M Edwards)/I'r Ysgol
← Rhodd | Yr Hwiangerddi (O M Edwards) gan Owen Morgan Edwards |
Lle Difyr → |
XXXVI XXXVII I'r Ysgol
MI af i'r ysgol fory,
A'm llyfyr yn fy llaw;
Heibio'r Castell Newydd,
A'r cloc yn taro naw;
Dacw mam yn dyfod,
Ar ben y gamfa wen,
"A rhywbeth yn ei barclod,
A phiser ar ei phen.
Mi af i'r ysgol fory,
A'm llyfyr yn fy llaw,
Heibio'r Sgubor Newydd,
A'r cloc yn taro naw;
O, Mari, Mari, codwch,
Mae heddyw'n fore mwyn,
Mae'r adar bach yn canu,
A'r gog ar frig y llwyn.