Yr Hwiangerddi (O M Edwards)/Lle Difyr
← I'r Ysgol | Yr Hwiangerddi (O M Edwards) gan Owen Morgan Edwards |
Delwedd Iar Fach dlos → |
XXXVII Lle Difyr
MI fum yn gweini tymor
Yn ymyl Ty'n y Coed,
A'dyna'r lle difyrraf
Y bum i ynddo 'rioed;
Yr adar bach yn canu,
A'r coed yn suo ynghyd,--
Fy nghalon fach a dorrodd,
Er gwaetha rhain i gyd.