Yr Hwiangerddi (O M Edwards)/Storïau Hen Gaseg
← Medde Bibyn Wrth Bobyn | Yr Hwiangerddi (O M Edwards) gan Owen Morgan Edwards |
Gynt → |
CCXCII. STORIAU HEN GASEG.
MI ddeuda i ti stori,—
Hen gaseg yn porI.
Mi ddeuda i ti ddwy,—
Hen gaseg ar y plwy.
Mi ddeuda i ti dair,—
Hen gaseg yn y ffair.
Mi ddeuda i ti beder,—
Hen gaseg yn colli pedol.
Mi ddeuda i ti bump,—
Hen gaseg ar ei phwmp.
Mi ddeuda i ti chwech,—
Hen gaseg frech.
Mi ddeuda i ti saith,—
Hen gaseg fraith.
Mi ddeuda i ti wyth,—
Hen gaseg yn rhoi pwyth.
Mi ddeuda i ti naw,—
Hen gaseg yn y baw.
Mi ddeuda i ti ddeg,—
Hen gaseg ar y clwt teg.