Yr Hwiangerddi (O M Edwards)/Gynt
← Storïau Hen Gaseg | Yr Hwiangerddi (O M Edwards) gan Owen Morgan Edwards |
Y Deryn Bach Syw |
CCXCIII. GYNT.
PAN oeddwn yn ferch ifanc,
Ac yn fy ffedog wen,
Yn gwisgo'm cnotyn sidan
Yn uchel ar fy mhen,
Mi neidiwn gainc yn wisgi,
Mi ddaliwn 'nghorff yn syth,
Meddyliais y pryd hynny,—
"Ddaw henaint ata i byth."