Yr Hwiangerddi (O M Edwards)/Y Deryn Bach Syw

Gynt Yr Hwiangerddi (O M Edwards)

gan Owen Morgan Edwards

Tlodi

CCXCIV. Y DERYN BACH SYW.

I ble ti'n mynd heddy 'deryn bach syw?
I mofyn bara, os bydda'i byw;
I beth ti'n mo'yn a bara, 'deryn bach syw?
I ddodi yn 'y nghawl, os bydda'i byw;
I beth ti'n mo'yn a cawl, 'deryn bach syw?
I ddodi yn 'y mola, os bydda'i byw;
I beth ti'n mo'yn a bola, 'deryn bach syw?
Wel, ond bai bola, byddwn ni ddim byw.