Yr Hynod William Ellis, Maentwrog (testun cyfansawdd)
← | Yr Hynod William Ellis, Maentwrog (testun cyfansawdd) gan Griffith Williams, Talsarnau |
→ |
I'w darllen pennod wrth bennod gweler Yr Hynod William Ellis, Maentwrog |
Gellir darllen y testun gwreiddiol fel rhith lyfr ar Bookreader
YR HYNOD
WILLIAM ELLIS, MAENTWROG
SIR FEIRIONYDD.
GAN
Y PARCH. GRIFFITH WILLLIAMS, TALSARNAU.
WREXHAM:
CYHOEDDEDIG GAN HUGHES AND SON HOPE STREET.
AT Y DARLLENYDD.
Nid wyf yn gwybod fod dim wedi ymddangos am yr hynod William Ellis ond a roddwyd gan y diweddar Barch. E. Morgan, Dyffryn, yn y Methodist, a hyny yn fuan ar ol ei farwolaeth. Bu genym law mewn cynnorthwyo i gasglu yr adgofion hyny: ond daethom i ddeall yn fuan i ni fod yn rhy frysiog, a thrwy hyny adael llawer o dwysenau llawnion ar ol. Er fod blynyddoedd lawer wedi myned heibio er pan y bu farw William Ellis, yr ydym yn parhau i glywed rhyw hanesion newyddion am dano ; a pharodd hyn i ni ystyried, ai nid gwell oedd cymeryd hamdden i ail loffa yn y meusydd lle y bu ef yn bwrw ei gryman ynddynt ? ac wedi i ni fyned a lloffa, a dyrnu yr hyn a loffasom, yr ydym yn tybied y gallwn ddyweyd fod genym ephah, nid o haidd, ond o wenith cartref pur, ac y mae yn dda genym gael ei gyflwyno, yn y llyfryn bychan hwn, yn ddefnydd bara iach i ti ddarllenydd.
Yr oedd amryw o ddiaconiad eraill yn gymdogion i William Ellis, yr ydym yn teimlo parch dwfn i’w coffadwriaeth ; a hyny ar gyfrif eu gwasanaeth i achos yr Arglwydd. Owen Thomas, Bethesda, oedd un o'r rhai hyny. Cynysgaeddwyd ef a doniau naturiol helaeth, a byddai rhyw eneiniad ar ei bethau, yn enwedig ei weddïau, bob amser. Byddai ganddo gynghorion priodol ar bob achos, a rhoddai y rhai hyny gada'r fath addfwynder ag oedd yn sicrhau lle iddynt yn mynwes yr un y cyfeirid hwy ato. Dywedai wrth bregethwr ieuanc unwaith am beidio a rhoddi llawer o benau yn ei bregethau, am y rheswm nad oedd ond ychydig o gig ar ben. Robert Williams, Pen-y-bryn, hefyd, oedd yn gyd flaenor ag ef, am yr hwn y dywedai Mr. Humphreys ei bod yn lwc fawr ei fod yn digwydd bod yn lled agos i'w le, am y rheswm ei fod yn anodd ei symud. Diweddodd ei oes yn America. John Price, Tan-y-grisiau, hefyd, oedd yn ŵr o ddylanwad yn ei gymdogaeth, nid ar gyfrif helaethrwydd ei ddoniau, ond ar gyfrif yr argyhoeddiad dwfn oedd wedi ei gario i fynwesau pawb a'i hadwaenai, ei fod yn ŵr cywir, gonest, ac yn gwir ofalu am achos yr Arglwydd. Aeth un o aelodau yr eglwys ato unwaith, pan wedi ei dramgwyddo, i ofyn am docyn ymadawol i fyned i eglwys arall. Ond yn lle rhoddi ei gais iddo, dywedodd John Price wrtho, dan wylo, "Mae yn rhaid i ti adael llonydd i mi, a pheidio ä'm poeni fel hyn, mae achos yr Arglwydd yn agos at fy nghalon i, sut bynag yr wyt ti yn teimlo." Bu geiriau a dagrau yr ben sant yn drech na phenderfyniad yr aelod hwnw, a dywedai, dan sychu ei lygaid wrtho, na byddai iddo son am yr helynt mwy, ac y byddai o'r dydd hwnw allan yn bob help a allai efe iddo i gario yr achos yn mlaen. Nobl o beth ydyw gweled helyntion fel yna yn cael eu culdo ymaith gan lifogydd o ddagrau! Owen Price, Tan-y-grisiau, hefyd, oedd yn hen gymeriad gwreiddiol. Wedi bod yn gwrando. ar ryw frawd lled sychlyd yn areithio ar ddirwest, dywedai wrth gyfaill dranoeth, y gallai efe areithio yn ei flaen yn ddiorphwys, a hyny am byth fel Hugh, ond i rywun ei dendio â bwyd. Yr oedd y brawd hwn yn hynod o gofus: pan y byddai yn myned i'r Cyfarfod Mísol i chwilio am gyhoeddiadau, byddai yn cofio. pa Sabbothau oedd yn weigion, a phwy a gai efe i bob un o honynt, ac arferai ddywedyd mai ar ol i'r blaenoriaid fyned i gadw Dyddiaduron y dechreuwyd gwneyd camgymeriadau gyda chyhoeddiadau pregethwyr. Morris Llwyd, o Drawsfynydd, hefyd, oedd ŵr o ddylanwad mawr, ac wedi cysegru y dylanwad hwnw o blaid crefydd. Bu yn ysgrifenydd y Cyfarfod Ysgolion yn ei ddosparth am lawer o flynyddoedd, ac os bu neb erioed yn gallu addoli uwch ben tŵr o ffigiwr, yr ydym yn credu i Morris Llwyd allu gwneyd, uwch ben cyfrifon yr Ysgolion Sabbothol lawer gwaith. Wel, rhaid i ni ffarwelio a William Ellis a hwythau. Heddwch i'w llwch. Hyderwn y bydd dygiad allan yr adgofion hyn am yr hynod William Ellis, yn symbyliad i frodyr eraill i ymgymeryd â rhoddi adgyfodiad i hen gymeriadau cyffelyb iddo. Nid oes dim yn gadael dylanwad mwy iachusol ar y meddwl na chyfeillachu à chymeriadau gwir grefyddol. Wrth ollwng y llyfryn bychan hwn o'n llaw, nid oes genym ond dymuno i'r darllenydd gael cymaint o fwynhâd ac adeiladaeth wrth ei ddarllen ag a gawsom ni ein hunain wrth ei gyfansoddi, ac os ca efe hyny, ni bydd yn edifar genym am y llafur a dynasom arnom ein hunain.
- GRIFFITH WILLIAMS.
Talsarnau, Awst 18fed, 1875.
CYNNWYSIAD
PENNOD I.
William Ellis a'i Gartref
PENNOD II.
Ei Droedigaeth
PENNOD III.
Yn Flaenor Eglwysig
PENNOD IV.
Pa le yr oedd Cuddiad ei Gryfder?
I. Yn ei Dduwioldeb
II. Yn ei Athrylith
III. Yn ei Hynawsedd
YR HYNOD
WILLIAM ELLIS, MAENTWROG.
PEN. I.
William Ellis a'i Gartref.
Y mae bellach bedair-blynedd-ar-bymtheg lawn er pan hunodd yr hen bererin o Maentwrog; a phe gofynai rhywun, Paham yr aflonyddir ar ei gofíadwriaeth yn mhen cymaint o flynyddoedd, ac na chai lonydd i gysgu ei hûn drosodd yn dawel, fel ag y gadewir i bawb eraill o'r meirw? Ein hateb i'r cyfryw ymofyniad fyddai, "Am fod coffadwriaeth y cyfìawn yn fendigedig," tra y mae "enw y drygionus yn pydru." Y mae pedair-blynedd- ar-bymtheg yn fwy na digon o amser i bydru enw y drygionus: "Coffadwriaeth y drygionus a gollir oddiar wyneb y ddaear, ac ni bydd enw iddo ar wyneb yr heol. Felly mi a welais gladdu y rhai annuwiol, a hwy a ebargofiwyd yn y ddinas lle y gwnaethent hyn." Buont yn y ddinas am lawer o flynyddoedd, a'u crechwen ffol yn tori ar dawelwch y dinasyddion: ond y peth cyntaf a wnaed ar ol cael eu claddu oedd eu llwyr anghofio; "Hwy a ebargofìwyd yn y ddinas lle y gwnaethent hyn." Pe digwyddai rhywun, megis yn ddamweiniol, gyffwrdd a'u henwau, fe lychwinid awyrgylch cymydogaeth gyfan gan y drygsawr a gyfodai oddiwrth ou coffadwriaeth. Ond am WILLIAM ELLIS, gan ei fod yn gyfiawn,
"Ei enw 'n perarogli sydd,
A'i hûn mor dawel yw. "
Mae rhai dynion wedi anfarwoli eu coffadwriaeth trwy eu sylwadau cynnwysfawr a'u dywediadau pert. Fe wnaeth y diweddar Enoch Evans, o'r Bala, fwy i anfarwoli ei goffadwriaeth, trwy ryw un sylw pan ar ei wely angau, na phe buasai yn cael maen o farmor ar ei fedd. "Ni pherffeithir hwy hebom ninnau. "Gallent wneyd heb Enoch yn y Cyfarfod Misol, gallent wneyd heb Enoch yn Seiat y Bala,—ond nis gallent wneyd heb Enoch yn y nefoedd, oblegid ni pherffeithid hwynt heb Enoch. Cofir yn hir am y diweddar Robert Thomas, Llidiardau, fel awdwr y sylw pert hwnw, "Y ddaear a heneiddia fel dilledyn; ac ni welais i erioed gynt mae dillad yn myn'd. " A sylw yr hybarch Mr. Humphreys o'r Dyffryn, "Rhoddwch fodrwy ar ei law, ac esgidiau am ei draed; ac mi ddywedaf i chwi beth, fy mhobl i, nid aeth yr afradlon byth ar hyd yr hen Iwybrau ar ol iddo gael esgidiau newyddion. "Mae William Ellis wedi rhoddi bôd i lawer o sylwadau cyffelyb, fel y cawn ddangos eto; ac yn ei sylwadau y mae yn adnabyddus trwy y byd Methodistaidd yn gyffredinol.
Nis gallwn ddyweyd fod hynodrwydd yn perthyn i neb o henafiaid William Ellis : yn yr ystyr hwn yr oedd ar ei ben ei hun—heb dad, heb fam, heb achau. Ond gellir dyweyd am dano fel y dywedir am Elias y Thesbiad,— "Elias oedd ddyn. "Yr oedd yntau yn ddyn, ac yn ddyn hynod iawn; a phan y mae y Nefoedd yn myn'd i roi dyn i'r ddaear, nid yw fawr o bwys pa le y bydd yn myned i chwilio am dano. Aeth yr ugain mlynedd cyntaf o'i oes yntau ei hunan heibio heb i ddim neillduol ddigwydd yn ei hanes i'w hynodi oddiwrth ei gyfoedion; ac y mae yn ddigon possibl y buasai wedi myned trwy y byd heb i'w athrylith gael ei deffroi o gwbl, oni ba'i iddo daro ar grefydd. Gan hyny, yn ei gysylltiadau crefyddol y bydd a fynom ni âg ef yn benaf.
Ganwyd ef yn y flwyddyn 1789, mewn bwthyn bychan a distadl o'r enw Brontyrnor. Saif Brontyrnor wrth droed y Moelwyn, un o fynyddoedd uchaf y gymydogaeth, ac ar gŵr dyffryn bychan a phrydferth Maentwrog, Sir Feirionydd. Y mae natur yn ei holl amrywiaeth wedi cyd-gyfarfod mor agos at eu gilydd, fel ag y gellir gweled yr oll o honynt ar un olwg. Mae y môr a'r mynydd, y bryniau a'r dolydd, y creigiau ysgythrog a'r moelydd llyfn, y rhaiadr ffrochwyllt a'r dyfroedd tawel: y mae y cwbl wedi eu gosod yn ddigon agos at eu gilydd fel ag y gallont gyfarch gwell i'w gilydd bob bore; ac y mae yr afon sydd yn rhedeg trwy ganol y dyffryn bychan yn ymddolenu yn ol ac yn mlaen o'r naill ochr i'r llall iddo, fel po byddai am olchi traed y bryniau sydd yn ymddyrchafu ar bob llaw iddi; ac weithiau y mae yn taflu ei llygaid yn ol i gymeryd ail-olwg ar y llanerchau prydferth y bydd newydd fyned trwyddynt, cyn ymgolli yn yr eigion. Yn nghanol y golygfeydd prydferth a swynol hyn yr agorodd WILLIAM ELLIS ei lygaid gyntaf ar y byd, ac yn nghanol yr un golygfeydd—yn mhen 66 o flynyddoedd—y darfu iddo eu cau, a myned i fwynhau golygfeydd prydferthach Paradwys Duw.
Ni bu i WILLIAM ELLIS fyned trwy holl gyfnewidiadau bywyd, fel y mae y rhan fwyaf o ddynolryw yn myned. Bu yn faban, yn fachgenyn, yn llangc, ac yn hen langc; ac yno yr arhosodd. Nid aeth yr un cam pellach yn mlaen na hyn. Pe gofynai rhywun, Beth ydyw hen langc? ein hateb fyddai, Dyn yn sylwi mwy ar ochr dywyll colofn y sefyllfa briodasol nag ar yr ochr oleu iddi; ac, o edrych ar y tywyllwch, yn cymeryd yn ara' deg; ac, o gymeryd yn araf, yn sefyll; ac, o sefyll, yn syrthio iddo ei hunan: ac un o fìl o'r rhai sydd yn myned i lawr i'r trobwll ofnadwy yna sydd yn gallu dyfod byth allan o hono. Mae yr olwg ar helbulon y sefyllfa briodasol wedi ei ddychrynu a'i sobri, fel nas gellir byth ei briodi. Gwrthodai Offeiriad briodi pâr ieuangc unwaith, er iddynt fyned i'r eglwys, a hyny am y rheswm fod y mab ieuangc yn feddw ar y pryd. Wedi myned allan, gofynai y Person i'r ferch,
"Beth oedd eich meddwl yn d'od at yr allor gyda dyn meddw? "
"Yr oeddwn yn teimlo yn bur ddig wrthych chwi, Syr, "ebe hithau.
"Sut felly? "gofynai yr Offeiriad.
"Am y rheswm yma, "ychwanegai y ferch, "nis gwna byth briodi pan y bydd yn sobr. "
Felly y mae yr hen langciau: y maent wedi myned mor sobr, rhaid iddynt yfed yn uchel o win serch cyn y gellir byth eu priodi. Am y sefyllfa unig yr oedd WILLIAM ELLIS ynddi, gallwn sicrhau ei fod ynddi yn hollol o'i fodd. Y mae ambell i hen langc o'i anfodd, ac y mae y bywyd unig y mae yn ei fyw yr un peth iddo ag oedd pechu i Paul, "yr hyn sydd gâs genyf. "Ond yr oedd WILLIAM ELLIS wedi ei ddarostwng i'r oferedd yma yn gwbl o'i fodd. Ein rheswm dros ddyweyd hyn ydyw, ei fod yn ddyn serchog, hawddgar, tirion, a hynod o'r cymdeithasgar; ac y mae y rhinweddau hyn yn gwerthu yn dda bob amser yn marchnadoedd y rhywogaeth deg. Buasai yn hawdd fod WILLIAM ELLIS wedi gwerthu ei hun drosodd lawer gwaith.
Yr oedd teulu Brontyrnor yn cael ei wneyd i fynu—er pan y daethum yn gydnabyddus â hwy—fel teulu bychan Bethania, o ddwy chwaer a brawd: Margaret, Gwen, a William. Yr oedd Margaret yn dew iawn; Gwen yn deneu iawn; a William rhywbeth yn y canol rhwng y ddau. Yr oedd Margaret yn Eglwyswraig, Gwen yn Fedyddwraig, a William yn Fothodist. Yr oedd gan Margaret aelodau drwg, a chan Gwen frest ddrwg, a chan WILIAM—os cymerwch ei air ef ei hunan—galon ddrwg. Byddai yn meddwl yn llawer gwell o grefydd ei chwiorydd nag ydoedd o hono ei hunan. Ychydig o sylw oedd yr un o'r tri wedi ei roddi i drefnusrwydd mewn dim, i mewn nac allan. Pe buasai dyn dîeithr yn digwydd myned heibio i Brontyrnor unrhyw ddiwmod, gallasai feddwl mai teulu newydd symud yno i fyw oeddynt, a'u bod heb gael amser i osod dim yn ei le. Byddai pob peth blith-draphlith ar draws eu gilydd bob amser—y llestri llaeth, y fuddai, y cafn tylino, y crwc golchi, &c., a dim ond llwybr cul rhyngddynt o'r drws at y tân. Yr oeddynt wedi deall rywfodd fod yn llawer mwy cyfleus iddynt adael pob peth wrth eu llaw, fel na byddai raid trafferthu i estyn dim pan y byddai arnynt ei eisiau. Ond or hyn byddai yno flasusfwyd o'r fath a garai unrhyw un i'w gael bob amser; ac yr oedd yn anmhosibl troi at neb mwy croesawus. Byddai y tri wrthi â'u holl egni yn croesawu y dîeithr a ddigwyddai droi i mewn atynt. Byddai Gwen yn ffaglu dan y tegell, Margaret yn hel y llestri, a William yn tori bara-a-'menyn; a byddai yn fwy cyfleus ganddo redeg yr ymenyn gyda'i fawd ar y bara na thrwy yr un ffordd arall. Llawer gwaith y galwodd y diweddar Barchn. John Jones, Talsarn, a D. Jones, ei frawd, yn Mrontyrnor wrth fyned i rai o deithiau Ffestiniog i bregethu, or mwyn y pleser fyddont yn ei gael wrth weled y tri wrthi yn darparu ar eu cyfer.
Nid oedd gan y brawd ddim i'w ddyweyd wrth y chwiorydd am annhrefn y tŷ; oblegyd nid oedd dim gwell golwg ar wrthddrychau ei ofal yntau y tu allan i'r tŷ. Yn wir, yr oedd yr hen dŷ ei hunan yn hynod o'r bregus yr olwg arno; a darfu i'w land-lady, Mrs. Oakley, Tan-y-bwlch, adeiladu tŷ newydd iddo ar lanerch hynod o ddymunol: ond er i'r tŷ newydd gael ei adeiladu, a'i fod yn dŷ helaeth a chyfleus, nid oedd WILLIAM na'i chwiorydd yn teimlo dim tuedd myned iddo. Ond o'r diwedd cydsyniodd i adael yr hen aelwyd gysegredig. Wedi trigianu am ychydig flynyddoedd yn y tŷ newydd, amlygai awydd cilio yn ol i'r hen dŷ, yr hwn a orchuddid gan y brysg a'r derw. Adgyweiriwyd ychydig arno, a dychwelodd y tri yn ol. Golwg adfeiliedig iawn oedd ar bob peth perthynol iddo-y waggon, y drol, y car llusg, y cloddiau, a'r tai allan. Anfonodd at y diweddar Mr. Humphreys unwaith i ofyn a wnai efe alw yno, pan y byddai yn myned heibio i rhywle, fod arno eisieu iddo ddyfod i olwg rhyw hen feudy oedd ganddo, i edrych a fyddai yn ddiogel rhoddi yr anifeiliaid ynddo dros y gauaf. Ychydig fyddai yn ei dalu o sylw i'r terfynau oedd rhyngddo a'i gyd-dyddynwyr, ac ni ofalai lle byddai ei anifeiliaid yn pori, na pha faint o anifeiliaid ei gymmydogion fyddai yn tori ato yntau. Un tro, yr oedd Mr. Lloyd, Maentwrog—tir yr hwn oedd yn terfynu a'i dir yntau—yn rhodio ar hyd y maesydd gyda rhyw gyfeillion dieithr oedd wedi talu ymweliad ag ef, ac yr oedd defaid i WILLIAM ELLIS wedi tori i'w ddolydd ef. Gwelai Mr. Lloyd ei gymmydog yn gwneyd rhywbeth yn y cae gerllaw, a dywedodd wrth ei gyfeillion, "Mi af fi at y dyn acw i dynu ffrae arno, am fod ei ddefaid wedi tori dros y terfyn: ond," ychwanegai, "peidiwch chwi a chyffroi dim wrth fy nghlywed i yn llefaru yn arw wrtho." Aeth yn mlaen ato, a dywedai mewn tôn ddigllawn a llais awdurdodol, "Os na bydd i chwi gadw eich defaid o'm dolydd i, WILLIAM ELLIS, mi lladdaf hwy bob pen o honynt." Cyfododd WILLIAM ELLISei ben, ac edrychodd yn siriol yn ei wyneb, a dywedodd yn ei dôn arafaidd a heddychol ei hun,
"Yr ydych wedi aros yn dda iawn, Mr. Lloyd bach, cyn dechreu lladd."
Dyna yr holl ffrae drosodd, a dychwelodd y boneddwr at ei gyfeillion â golwg siomedig arno, a dywedai wrthynt, "Dyna y dyn rhyfeddaf a welais erioed: nid oes modd ffraeo gydag ef un amser." Gresyn na byddai mwy yr un fath ag ef.
Nid oedd gwell graen ar berson WILLIAM ELLIS ei hunan—cyn belled ag y mae a fyno gwisgo â pherson dyn. Ni buasai yn gwerthu i hanner ei werth pe buasai yn cael ei brisio wrth ei wisgiad. Byddai yn troi allan y rhan amlaf o lawer heb fod "yn hardd yn ei wisg." Nid ydym yn meddwl iddo erioed newid ffasiwn ei ddillad— o'r hyn lleiaf, yr un fath yr ydym ni yn ei gofio: coat o frethyn cartref, clos pen glin, a het cantal mawr, a hono wedi tolcio ac ymollwng i lawr nes cuddio rhanau o'i wyneb. Nis gwn a oes rhai o'r hetiau hyny ar gael ai peidio; os oes, gallesid yn hawdd eu gwerthu, oblegid y mae tolciau wedi dyfod yn hynod o'r fashionable yn y dyddiau diweddaf hyn. Ond os oedd WILLIAM ELLIS yn talu rhy fychan o sylw i ymwisgo, mae llawer i'w cael yn talu gormod o sylw i hyny. Dillad ydyw y cwbl gan lawer. Am ddillad y myfyriant y dydd, ac y breuddwydiant yn ngwyliadwriaethau y nos. Pe y gofynid i lawer bachgen a geneth, "A oes dim gair o'r Beibl ar eich meddwl heddyw?" gallent ddyweyd bob amser, "Yr oeddwn yn meddwl am y gair hwnw, ' A pha beth yr ymddilladwn? ' " Beth sydd wedi dyfod allan o'r mint ddiweddaf? Anfonwyd i ni dro yn ol ddarluniau o'r Niagara Falls. Ystyrir y rhaiadr hwn yn un o brif olygfeydd y byd. Dangosir yn y darluniau led a dyfnder y golofn aruthrol o ddwfr sydd yn disgyn dros y dibyn serth nos a dydd yn ddi-dor. Ar rai o honynt y mae rhodfeydd i'w gweled, a lleoedd i'r bonoddigesau a'r boneddigion i sefyll i syllu ar y cwymp trystfawr. Yr oeddym yn dangos y darluniau hyn i ryw chwaer unwaith. Edrychai hithau arnynt trwy chwydd-wydr o un i un, a mawr oedd ei syndod. Yn ei dro daeth y darlun lle yr oedd y boneddigesau a'r boneddigion; a phan y gwelodd hwnw, aeth mor ddistaw a'r bedd. Wrth ei gweled mor ddistaw, meddyliasom ei bod wedi ei llwyr orchfygu gan arucheledd yr olygfa fawreddog, a dywedasom ynom ein hunain, "Mae yn addoli Duw natur yn yr olwg ar un o'i fawrion weithredoedd." Ond er ein mawr syndod, torodd ar y distawrwydd trwy ddyweyd, "O'r brensiach, y shawl grand sydd am ysgwyddau y lady acw ! "Yn ymyl y Niagara Falls nid oedd yn gweled dim byd ond dillad. Y dreth drymaf o'r holl drethoedd yw treth y ffasiynau. Dilledyn da, cynes, graenus, yn cael ei daflu o'r neilldu, heb un rheswm am hyny ond ei fod allan o'r ffasiwn—rhyw doriad diweddarach wedi dyfod allan. Onid yw cymdeithas wedi myned yn ddigon pell i feddwl fod yn bryd iddi droi yn ol? Diau fod lle canol yn bod rhwng yr hyn oedd WILLIAM ELLIS a'r hyn yw cymdeithas yn ein dyddiau ni gyda golwg ar ddillad, a gallem gredu mai yn y canol y mae y lle diogelaf gyda hyn fel pobpeth arall. Byddai y diweddar Mr. Humphreys, o'r Dyffryn, yn arfer dweyd, "Byddaf yn gweled mantais ar fod yn y canol gyda phob peth: Pe na byddwn ond yn myn'd trwy lidiart, y mae y cyntaf yn ei hagor, a'r olaf yn ei chau, a minnau yn cael
myn'd trwyddi heb gyffwrdd fy llaw arni."PEN. II.
Ei Dröedigaeth.
Nid oedd WILLIAM ELLIS wedi cael dim manteision crefyddol ar yr aelwyd lle y magwyd ef. Dygwyd ef i fyny yn hollol estronol i foddion gras. Ni byddai byth yn myned i eglwys na chapel, ac yr oedd ei feddwl yn hollol ddieithr i bethau crefydd. Ond pan sefydlwyd yr Ysgol Sabbothol aeth i hono am ychydig amser, a dyna pryd y dysgodd ddarllen, yr hyn a fu o wasanaeth mawr iddo ar ol hyny. Y mae cyfres o ddigwyddiadau damweiniol, i'n golwg ni, yn gysylltiedig â hanes ei dröedigaeth. Yn gyntaf oll y mae yn gadael cartref, pan ydoedd o gylch ugain oed, ac yn myned i wasanaethu i dyddyn cyfagos. Anfonwyd ef un diwrnod ar neges dros ei feistr i Drawsfynydd; ac erbyn myned yno yr oedd John Elias yn pregethu ganol dydd, ar ei ffordd o Gymdeithasfa Dolgellau, ac yr oedd y gŵr yr anfonwyd WILLIAM ELLIS ato wedi myned i'r oedfa. Wedi deall hyn, meddyliodd y llanc gwyllt am fyned i'r dafarn i aros i'r cyfarfod derfynu ond erbyn iddo edrych nid oedd ganddo arian i'w ganlyn, ac am y dafarn y pryd hwnw, fel yn awr, gellir dywedyd,
Tŷ 'gored i'r teg arian,
Ceidw glo rhag codau glân."
Gan ei bod yn gwlawio yn drwm ar y pryd, yr oedd yn rhaid iddo fyned i rywle oddiar yr heol. Gwnaeth ei feddwl i fyny, ac aeth o dan gapan drws y capel, nid er mwyn clywed y pregethwr, ond er mwyn diogelu ei hun rhag y gwlaw. Ychydig foddyliai y llangc fod gan y Gŵr sydd yn Dad i'r gwlaw ddyben arall yn cyfeirio ei gamrau tua theml yr Arglwydd. Nis gwyddom beth oedd testyn y pregethwr; ond mater y bregeth oedd "Drygioni a thwyll calon pechadur." Nid hir y bu WILLIAM ELLIS wrth y drws cyn i ddawn a difrifwch y pregethwr rwymo ei holl enaid i wrando; dilynai y pregethwr o ystafell i ystafell i weled twyll a ffieidd-dra y galon ddynol; ac er ei fawr ddychryn fe agorodd Yspryd Duw ei lygaid, a deallodd mai ei galon ef oedd y pregethwr yn ei darlunio. Nid oedd erioed wedi breuddwydio fod y fath dwyll yn ei galon, a'r fath ysgelerder yn ei bechod. Aeth yn ddychryn iddo ei hunan, ac fel ceidwad y carchar gynt, amcanodd ddwywaith i'w ladd ei hun: unwaith trwy ymdaflu dros graig serth i geunant dwfn, a'r tro arall trwy ymgrogi. Yr hyn a'i hataliodd y tro cyntaf ydoedd i gi a'i canlynai gyfarth, a thynodd hyny ei sylw oddiar ei fwriad drygionus; a'r hyn a'i hataliodd yr ail waith, pan ydoedd wedi rhoddi cortyn am ei wddf, ydoedd, iddo dybied ei fod yn clywed rhywun yn sibrwd y gair hwnw, "Nid oes i leiddiad dyn fywyd tragwyddol." Nid oedd yn gwybod yn sicr a oedd y geiriau yn eiriau Beiblaidd, ond ymryddhâodd, ac aeth i'r tŷ i edrych beth oeddynt; ac wedi iddo ddeall eu bod yn eiriau Duw, rhoddodd hyny derfyn ar y bwriad ofnadwy hwn, ac ni feiddiodd y diafol ei demtio i ladd ei hun o'r dydd hwnw allan. Ond er iddo gael ei ryddhau o'r brofedigaeth hon, yr oedd yn parhau yn hynod o derfysglyd o ran ei feddwl, a dim ond anobaith yn hylldremu yn ei wyneb. Pan yn y sefyllfa druenus hon, digwyddodd i'r hen dad Lewis Morris fod yn pregethu yn y gymmydogaeth, ac aeth WILLIAM ELLIS i wrando arno. Cymhellai y pregethwr bawb i droi eu hwynebau at y Gwaredwr, gan ddyweyd "fod yr iachawdwriaeth yn ddigon i bawb." Gwaeddodd WILLIAM ELLIS o ganol y gynnulleidfa," Yr ydych yn cyfeiliorni: nid yw yn ddigon i mi." Dymunodd y pregethwr arno fod yn ddistaw nes y terfynai y cyfarfod, a dyfod i'r tŷ wed'yn os oedd ganddo rywbeth i'w ddyweyd. Felly fu. Gyda bod yr oedfa drosodd, ac i'r pregethwr fyned i'r tŷ, aeth William yno ar ei ol, a dywedodd wrtho mewn tôn gyffrous," Yr ydych wedi dyweyd celwydd—dyweyd fod yr iachawdwriaeth yn ddigon i bawb : nid yw yn ddigon i mi." Wrth ddywedyd hyn edrychai yn ffyrnig, a chauai ei ddyrnau, gan eu hysgwyd o flaen wyneb y pregethwr, ac o amgylch ei ben, fel pe buasai am ddial arno yn y fan am ei gyfeiliornad. Gallem feddwl fod "hen ddyn" Lewis Morris wedi ei gynhyrfu erbyn hyn. Codai ar ei draed, a dywedai mewn llais oedd yn ymylu ar fod yn groch," Edrych di beth yr wyt yn ei wneyd, WIL, mi safaf fì at yr hyn a ddywedais," a thra yn dywedyd y pethau hyn, ymaflodd yn ei ysgwydd, ac ar ol ysgwyd ychydig arno gosododd ef ar ei hyd ar faingc oedd gerllaw. Nis gwyddom pa faint o bwysau ei law drom a roddodd Lewis Morris arno, ond dywedir mai myned ymaith yn ebrwydd a ddarfu y llangc ar ol cael ei hunan yn rhydd oddiwrtho. Gresyn garw na buasai y pregethwr yn deall beth oedd yn ei flino, er mwyn iddo gymeryd moddion mwy efengylaidd tuag ato. Bu y tro hwn yn destyn difyrwch iddynt eu dau lawer gwaith ar ol iddynt adnabod eu gilydd yn well.
Trwy nad oedd neb o'i gydnabod na'i berthynasau yn gwybod dim am natur ei anhwyldeb, barnent ei fod wedi dyrysu yn ei synwyrau, a phenderfynasent ei rwymo fel gwallgofddyn. Ond nid oedd yr oruchwyliaeth hon yn gwella dim arno; ac wrth weled ei brudd-glwyf yn parhau, anfonwyd ef gydag un o'r enw William Williams, Rhyd, at berson Llanarmon, Dyffryn-Ceiriog, yr hwn a broffesai y gallai waredu rhai a feddiennid gan wallgofrwydd. Pan yn myned trwy gymmydogaeth y Bala, digwyddasant fyned heibio ffermdŷ lle yr oedd ffair auction, a safasent i weled pa fodd yr oedd pethau yn myned yn mlaen. Ceffyl oedd yn cael ei werthu ar y pryd; ac yn hollol ddiarwybod i'w arweinydd, cynygiodd William Ellis arno, a tharawyd ef iddo. Taflodd hyn William Williams i brofedigaeth fawr, am y gwyddai nad oedd ganddo arian i dalu am dano; ac heblaw hyny beth wnai efe a cheffyl o dan yr amgylchiadau yr oedd ynddynt ar y pryd? Wedi i'r ceffyl dd'od yn eiddo iddo, daeth dyn ato a gofynodd iddo, "Beth a wnewch i'r ceffyl?" "Rhoddwch ef yn yr ystabl," ebe WILLIAM ELLIS, fel Pe buasai pobpeth yn dda gyda golwg ar yr arian. Dyna lle yr. oedd y ddau, a William Williams yn y pryder dyfnaf, ac yn methu a gwybod beth a ddeuai o honynt mewn lle dieithr felly. Ond yn y cyfamser daeth rhyw borthmon at WILLIAM ELLIS, a gofynodd a gymerai efe ddwy bunt am brynu y ceffyl; dywedodd yntau y cymerai; felly talodd y porthmon bris yr auction a rhoddodd ddwy bunt i WILLIAM ELLIS dros ben. Ymddygodd WILLIAM ELLIS yn bur anrhydeddus, trwy roddi punt i'w arweinydd, a chadwodd y llall iddo ei hunan, ac ychwanegai, "Dyma i ni dipyn o arian poced, onite Bili bach? "Wedi yr oediad hwn aeth y ddau i'w ffordd, a chyfeiriasant eu camrau tua Llanarmon. Gosodwyd WILLIAM ELLIS yn ngofal y person, a dychwelodd ei arweinydd yn ol. Yr adeg yr oedd ef yn Llanarmon, bu farw Mr. Charles, o'r Bala. Mynegwyd hyn i'r person pan oedd WILLIAM ELLIS yn bresenol. "Wel," ebe y person, "dyna un eto wedi myned i uffern."
Cauodd WILLIAM ELLIS ei ddwrn, a tharawodd y person nes oedd yn disgyn fel pren ar y llawr, ac yna disgynodd yn drwm arno, a gosododd ei ddwy fawd ar ei bibellau gwynt, a gwasgodd yn galed: yna llaciodd ychydig, a gofynodd," Pa le y mae Mr. Charles? "
Atebodd y person, gyda gwich dyn yn tagu," Yn y nefoedd."
"Mae yn dda i ti ddyweyd fel yna," ebe WILLIAM ELLIS ," onide buaswn yn dy yru i uffern cyn pen pum' munud, i gael gweled nad ydyw Mr. Charles ddim yno."
Ffordd pur ddidrafferth i argyhoeddi, onide? Dychrynwyd y person trwy yr oruchwyliaeth lem hon, ac anfonodd at ei deulu i ddyfod i'w geisio adref, a dywedai mai y cyngor goreu allai ef roddi iddynt oedd ei osod dan ofal rhai o'r enwadau crefyddol, ac ychwanegai," mai am y Methodistiaid Calfìnaidd y byddai yn son amlaf wrtho ef." Felly cyrchwyd William druan yn ol heb fod dim gwell. Os oedd yn meddiant yspryd aflan yn myned yno, yr oedd yn meddiant yr un yspryd yn dychwelyd. Os gwallgofddyn ydoedd yn myned, daeth yn ol yr un mor wallgof. Mae yn ymddangos nad oedd y brawd parchedig yn ddigon cyfarwydd i adnabod dyn mewn trallod am fater ei enaid. Barn WILLIAM ELLIS ei hunan am yr iselder y suddodd iddo oedd, Pe buasai rhyw efengylydd gerllaw, yn nghychwyniad ei argyhoeddiad, i gyfeirio ei feddwl at drefn Duw, fel y gwnaeth Paul â cheidwad y carchar, na buasai yn suddo i'r fath anobaith. Yn mhen rhyw gymaint o amser ar ol dychwelyd o Lanarmon, penderfynodd gynyg ei hun i eglwys y Methodistiaid Calfìnaidd yn Maentwrog: ond nid oedd yn meddwl y buasai yn cael derbyniad, gan mor ddrwg yr oedd yn gweled ei hunau, ac yr oedd yn tybied fod pawb yn synied yn gyffelyb am dano. Digwyddodd daro ar y Parch. Daniel Evans, Harlech, a gofynai iddo," Os na bydd y cyfeillion yn foddlawn i mi ddyfod i'r seiat, gofynwch iddynt a wnant hwy weddïo trosof." Ond er ei fawr syndod, yr oedd y frawdoliaeth yn ymddangos yn hynod barod i roddi deheulaw cymdeithas iddo. Pan y gofynwyd iddo beth oedd wedi tueddu ei feddwl i droi ei wyneb yno, ei atebiad oedd," Yr wyf wedi treio pob man ond yma; ac os rhaid i mi fod yn golledig, ni waeth genyf gael fy ngholli oddiyma nag o rhywle arall." Mor debyg. oedd WILLIAM ELLIS i bawb eraill!—treio pob man cyn troi at yr Iesu. Nis gwyddom ond ychydig am dano yn yr adeg hon; ond gallem feddwl oddiwrth un hanesyn fod ei gymmydogion yn bur bryderus yn ei gylch. Aeth dau o honynt i'w hebrwng adref o'r capel unwaith, ac wedi cyraedd i ymyl y tŷ, dywedai yntau," Gwell i minnau ddyfod i'ch hebrwng chwithau yn ol." Wedi iddynt fyned ychydig oddiwrth y tŷ trodd y ddau i erfyn arno ddychwelyd : ond gan iddynt fethu ei berswadio, ymaflodd y ddau ynddo, gan feddwl ei gipio trwy drais. Pan y gwelodd yntau hyny, cydiodd yn y ddau a gwasgodd hwy at eu gilydd, a thaflodd hwy i lawr, ac nis gallent er pob ymdrech godi i fyny. Daliodd hwy i lawr, hyd nes darfu iddynt gyffesu—yn ol ei gais—mai nid dyna y ffordd i gael ganddo fyned i'w dŷ.
Nid hir y parhaodd i fyned i'r seiat cyn i'w feddwl syrthio i anobaith drachefn. Gadawodd y capel yn llwyr, a chiliodd o bob moddion cyhoeddus, a chwbl gredai mai colledig a fyddai. Ni bu y tywyllwch o gwbl yn fwy nag yn awr; ond tywyllwch ar fin toriad gwawr oedd, i fyned yn oleuach, oleuach, hyd ganol dydd. Un o'r troion diweddaf y gwelsom ni ef adroddodd wrthym pa fodd y cawsai ddiangfa. Arweiniwyd i'r ymddiddan trwy iddo ddyweyd:—
"Oni fydd yn beth mawr iawn os cawn ni fyn'd i ryw gŵr o'r nefoedd; mi fum i yn go falch er's talwm; nid oeddwn am fyn'd i'r nefoedd o gwbl, os na chawn fyn'd yn o bell iddi : ond ar ol i mi fod yn uffern y tro diweddaf yma, yr wyf yn bur barod i gymeryd rhy w gongl fach yn rhywle ynddi; cil y drws, neu rywle, am y caf fod i mewn."
"Yn uffern, WILLIAM ELLIS," gofynem ninnau," a fuoch chwi yno?"
"Do, lawer gwaith," ebe yntau, gan ychwanegu," cefais fy nghadw am dri mis y tro diweddaf y bum yno."
"Wel, dear me" ebe ninnau," yr oeddym yn meddwl na fyddai i neb a elai i'r lle poenus hwnw, ddyfod byth allan o hono. Sut y cawsoch chwi dd'od oddiyno? "
"Fel hyn y bu," ebe yntau : "fel yr oeddwn un prydnawn yn dyrnu mewn ysgubor, dechreuais feddwl pa fath le oedd uffern, a phan oeddwn yn meddwl dychymygais fy mod yn clywed llais yn dywedyd, ' Ni waeth i ti heb fyned i'r drafferth i geisio dychymygu pa fath le ydyw, ti fyddi yno yn fuan.' Nis gallwn yn fy myw ddyrnu dim, yr oeddwn yn teimlo fy holl aelodau yn diffrwytho, a chefais fy hunan ar lawr yn y gwellt. Cyn hir, meddyliais fy mod yn clywed rhywun arall yn dywedyd, fel yn mhen yr ysgubor, ' Nid fy meddyliau i yw eich meddyliau chwi.' Rhoddodd hyn nerth yn fy holl aelodau, ac yn fuan yr oeddwn ar fy nhraed yn dyrnu drachefn a'm holl egni. Yn mhen ychydig meddyliais fy mod yn clywed llais arall yn dywedyd, ' Myfi yr Arglwydd, ni'm newidir, am hyny ni ddifethwyd chwi meibion Jacob.' Dyna yr adnodau a'm tynodd i allan. Yr oeddwn yn meddwl nad oedd dim iachawdwriaeth i mi; ond dywedodd Duw wrthyf trwy ei air sanctaidd, nad oedd efe yn meddwl yr un fath ag yr oeddwn i, ac felly mi gredais mai ei feddwl ef oedd fy nghadw byth."
Yr oedd y cyfarfod eglwysig yn digwydd bod y noson hono yn Maentwrog, ac aeth yntau o'r ysgubor i'r capel; a phan ofynwyd iddo paham y daethai yno drachefn, dywedai,— ' ' Fy unig neges yn dod yna heno ydyw dyweyd wrthych y cawn beidio myn'd i uffern eto."
Sylwai awdwr yr ychydig adgofion a gafwyd am dano yn y "Methodist" fel hyn:—
"Bu mesur o bryder ar ei feddwl lawer gwaith ar ol hyn, ond yr oedd cymaint o wahaniaeth rhyngddo a'i bryder blaenorol ag sydd rhwng dydd tywyll du, a nos dywyll gadduglyd. Y mae yr haul uwchlaw y terfyngylch yn y naill—er ei fod dan gymylau—tra y mae yn gwbl islaw iddo yn y llall."
Daeth ato ei hunan, ac er ei fod yn llawn o bethau hynod trwy ei oes, ni byddai byth yn dangos diffyg synwyr; ond profodd yn ei holl ymwneud â'r byd ac a chrefydd ei fod yn feddiannol ar farn, doethineb, a phwyll. Wedi dilyn yr hon bererin fel hyn trwy "gors anobaith," a'i weled yn dyfod allan o'r siglen yr ochr bellaf i'r gors o ddinas distryw, gallwn sylwi ei fod wedi manteisio yn ddirfawr, hyd yn oed ar y cyfyngder enaid hwn yr oedd wedi bod ynddo. Nid ydym yn ammeu nad oedd eangder ei syniadau am drefn yr iachawdwriaeth i'w briodoli i fesur mawr i'r anobaith dwfn y bu ynddo yn nghychwyniad ei grefydd. Bu yn uffern arno o ran ei deimlad, ond gwaredwyd ef allan ohoni ; bu golledig, ond a gafwyd; a chan iddo ef gael ei waredu, nid oedd yn gweled nad allai pawb gael eu cadw. Cafodd y "penaf o bechadurlaid" wedi ei gadw yn ei berson ei hun; gan hyny yr oedd yn gallu dyweyd yn groew, "Gwir yw y gair, ac yn haeddu pob derbyniad, ddyfod Crist Iesu i'r byd, i gadw pechaduriaid." Mae rhai hen bobl sydd wedi bod "dan Sinai," a'r taranau a'r mellt, a sain udgom wedi eu dychrynu nes gwneyd iddynt deimlo "mor ofnadwy oedd y lle" yn ammeu crefydd pawb, os na fyddant wedi bod yn nghanol yr un golygfeydd brawychus a hwythau: ond nid oedd WILLIAM ELLIS felly. Cofus genym ei glywed ef yn dyweyd wrth un gŵr ieuangc, pan yn ymddiddan âg ef gyda golwg ar ddechreu pregethu, yr hwn a ofnai ei grefydd am nad oedd wedi teimlo pethau brawychus erioed. "Nid yw dy fod heb deimlo pethau brawychus, machgen i, yn un achos i ti ofni dy grefydd; yr wyt ti wedi bod yn fachgen bucheddol a diddrwg; buasai yn bity garw i Timotheus ddiniwed gael ei drin mor galed ag y triniwyd Saul yr erlidiwr."
Trwy mai John Elias a ddefnyddiodd yr Yspryd Glân i ddychwelyd WILLIAM ELLIS, teimlai barch dwfn iddo, ac edrychai arno bob amser fel angel Duw, ac nis gallai oddef i neb ddyweyd dim yn fach am dano. Galwodd person Maentwrog gydag ef un diwrnod pan oedd yn glaf, ond nid o'r clefyd y bu farw. Ar ryw ymddiddan gofynodd WILLIAM ELLIS iddo a glywsai efe John Elias yn pregethu erioed.
Naddo," ebe y person, yn bur gwta," a buasai yn dda i chwithau pe buasech heb fod yn ei wrando."
"O, ai o? yr hen bagan," ebai WILLIAM ELLIS, a gorchymynodd iddo, gyda llais cynhyrfus, adael yr ystafell yn y fan. Mae yn ddigon ofnus oni bai mai yn ei wely yr oedd, y buasai yn cymeryd yr un moddion i gywiro syniad yr anwyl gariadus frawd hwn, am yr hybarch John Elias, ag oeddynt wedi profi mor effeithiol i roddi syniad person Llanarmon yn ei le, gyda golwg ar gartref tragwyddol Mr. Charles. Os ydwyt, ddarllenydd, trwy yr adgofion hyn, wedi gallu sylweddoli "cyfyngder ei enaid," pan yn myned trwy fwlch yr argyhoeddiad, diau dy fod yn disgwyl i hynodion ei fywyd gyfateb i hynodion ei ddychweliad; ac os bydd i ti barhau i'n dilyn yn mlaen ni a hyderwn
na bydd i dy ddisgwyliadau gael eu siomi.PEN. III.
William Ellis yn Flaenor.
Nid ydym yn gwybod pa hyd y bu WILLIAM ELLIS yn aelod yn eglwys fechan Maentwrog cyn cael ei ystyried yn flaenor ynddi. Wrth son am dano fel blaenor, dylem gymeryd hamdden i dalu gwarogaeth i'r urdd hon o swyddogion eglwysig yr oedd ef yn perthyn iddi. Y mae pawb sydd yn gwybod dim am hanes yr achos yn y blynyddoedd gynt yn gwybod hefyd am y gwasanaeth mawr y mae y swyddogion hyn wedi bod ynddo, ac yr ydym yn ddyledus i fesur mawr iddynt am y llwyddiant sydd wedi bod ar yr achos yn ein plith. Bu amser pan y byddai gofal yr achos yn gartrefol yn gorphwys bron yn gwbl ar ysgwyddau ein diaconiaid. Yr oedd y gweinidog yn weinidog i'r holl gyfundeb, a gofal cyffredinol yr achos trwy Gymru oll ganddo: ond am y blaenor, fe fyddai ef, fel y wraig rinweddol, yn gwarchod gartref; neu fel Sara gwraig Abraham, bob amser yn y babell, a'r holl ofalon yn eu hamrywiaeth mawr yn gorphwys arno. Y blaenor oedd i chwilio am y pregethwr at y Sabbath, i ofalu am y moddion ar hyd yr wythnos, ac yn goron ar y cwbl, llafur cariad oedd yr oll. Byddai yn anhawdd cael gan rai gredu gymaint a gostiodd y swydd i lawer o honynt. Meddyliodd Richard Jones, Cwrt— hen flaenor hynod ffyddlawn yn ei ddydd—am gadw cyfrif am flwyddyn, er gweled pa faint oedd ei swydd yn ei gostio iddo. Prynodd lyfr at y pwrpas hwnw, ac yr oedd yn llawn fwriadu cadw cyfrif manwl am y cwbl— yr arian oedd yn ei gyfranu, yr amser oedd yn ei golli, a'r ymborth yr oedd yn ei roddi i'r pregetbwyr a lettyent yn ei dŷ. Ond un diwrnod, fel yr oedd wrtho ei hun yn synfyfyrio beth a roddai yn y llyfr gyntaf, daeth y gair hwnw i'w feddwl, "Heb gyfrif iddynt eu pechodau." "Wel, wel," ebe yntau, wrtho ei hunan, "os fel yna y mae hi, ni chyfrifaf finnau ddim;" ac felly fu, ni roddodd yr un gair yn y llyfr ar ol ei brynu. Ond os na ddarfu iddo ef ysgrifenu, mae rhyw Un arall yn ysgrifenu llyfr coffadwriaeth am dano ef a'i frodyr, ac y mae dydd wedi ei ordeinio i'r cymwynasau hyn gael eu dadguddio ; a gallwn fentro dyweyd oddiyma y bydd i lawer gael eu synu wrth weled cyfres mor faith ar ol enw llawer un, am nad oeddynt hwy wedi meddwl ond ychydig o honynt erioed: dynion mewn amgylchiadau cyffredin, ac yn nghanol trafferthion bywyd, lawer o honynt, yn cael eu cyfarch gan y Barnwr yn y dydd diweddaf yn mysg ei gymwynaswyr penaf. Wrth gyfeirio at ein blaenoriaid fel rhai wedi bod yn ddefnyddiol a gwasanaethgar yn nghychwyniad yr achos yn ein gwlad, ni fynem i neb feddwl nad ydynt yn ddefnyddiol yn awr, ac na bydd eu heisiau yn yr eglwys yn y dyfodol. Un peth mawr y dylai yr eglwys edrych ato, mewn adeg y mae ein cyfundeb yn myned trwy newidiadau, ydyw, dysgu enill heb golli; a chredwn pe collid gwasanaeth gwerthfawr ein blaenoriaid ffyddlon trwy y Fugeiliaeth Eglwysig y byddai ein colled yn llawer mwy na'n henill. Ond gellir cael y ddau. Er mwyn calonogi lliaws o'n blaenoriaid sydd yn llafurio mewn amgylchiadau cyffredin, gallem nodi na raid iddynt oblegyd eu hamgylchiadau, beidio a bod yn ddefnyddiol, a thrwy hyny gyrhaedd enwogrwydd yn mhlith eu brodyr. Y mae ein Cyfundeb wedi arfer rhoddi lle i weithwyr, beth bynag fyddo eu safle o ran eu hamgylchiadau tymmorol. Mae llawer un heblaw WILLIAM ELLIS, er nad oeddynt ond pobl gyffredin, wedi enill iddynt eu hunain radd dda a dylanwad mawr. Yr ydym yn cael ein temtio i enwi amryw o honynt; ond gan nas gallwn osod eu henwau oll i lawr, ymataliwn.
Ymddengys na byddai ein tadau, pan yn dewis blaenoriaid, yn rhoddi nemawr o bwys ar wybodaeth a thalent. Yr hyn yr edrychent hwy am dano fyddai duwioldeb personol a dawn gweddi lled rwydd, ac os caent hyn, pob peth yn dda. Clywsom i frawd gael ei ddewis yn flaenor mewn lle flynyddoedd yn ol, heb fod yn alluog i ddarllen llythyren ar lyfr. Pan ofynwyd iddo a oedd efe yn derbyn galwad yr eglwys, dywedai nad oedd, a hyny am ei fod yn gweled ei hunan yn rhy anghymwys.
"Wel," ebe y gweinidog," os awn i edrych ar gymwysderau, ni bydd i neb o honom gymeryd swydd yn eglwys Dduw, am nad oes neb yn gymwys. Ond a ydyw eich cydwybod yn eich condemnio chwi o ryw beth nad ydym ni yn gwybod am dano? "
"Cael fy hunan yn brin iawn yr ydwyf," ebe yntau, "yn ngwyneb y bennod a ddarllenwyd yn y dechreu."
"Wel prin ydym i gyd," ychwanegai y gweinidog, "ond a ydych chwi yn syrthio yn fyr yn ngwyneb rhyw ddarn mwy na'i gilydd o honi? "
"Ydwyf yn wir," ebe yntau," yn ngwyneb y gair hwnw, ' nid yn wingar.' Pan y cyfarfyddaf fi a rhyw beth croes i fy meddwl, gwingo yn anghyffredin y byddaf."
Yr oedd syniad yr hen sant yn gywir, ac yn dangos llawer o dynerwch cydwybod; y drwg ydoedd iddo fethu am ystyr y gair. Nid ydym i feddwl mai eithriad ydoedd un fel hyn, yr oedd llawer cyffelyb iddo. Adwaenem un hen flaenor, pan alwyd arno i ddochreu seiat unwaith, ac ar ol iddo ddechreu darllen pennod yn llyfr y Cronicl— canys yno y digwyddodd y Beibl agor, a chredai mai y bennod y disgynai ei lygaid arni gyntaf oedd yr un y mynai Yspryd yr Arglwydd iddo ei darllen—yn fuan ar ol darllen ychydig o adnodau, dyma gyfandir o enwau yn ymagor o'i flaen. Edrychodd yntau yn ddifrifol arnynt, a dywedai, gan godi ei ddwylaw i fyny," Mae arnom ofn methu wrth geisio dyweyd yr enwau hyn, yr wyf yn meddwl mae eu cyfrif yw y goreu i ni." Yna dechreuodd gyfrif, a chyfrif, hyd nes y daeth o hyd i ddiwedd y bennod, a buasai yn briodol iddo ddyweyd wedi gorphen. Felly cyfrifwyd y bennod. Yr oedd ynddo ormod o barch i'r Beibl i geisio dyweyd geiriau y gwyddai nas gallai eu swnio yn gywir; ac ar y llaw arall ni fynai fyn'd heibio iddynt yn ddisylw, a beth gwell a allasai efo ei wneyd na'u cyfrif? Ond os oedd ein tadau yn rhoddi rhy ychydig o bwys ar wybodaeth a thalent, y mae yn ofnus fod y pwn wedi troi gormod erbyn ein dyddiau ni: gwybodaeth a thalent wedi cael y flaenoriaeth, a duwioldeb amlwg yn ail beth. Nis gellir gwneyd dim a ddinystria ddylanwad crefydd yn fwy, na gadael i dalentau heb eu sancteiddio gael lle mawr yn ein heglwysi.
Nid oes dim ar goflyfrau ein Cyfarfod Misol yn dangos i WILLIAM ELLIS gael ei neillduo yn rheolaidd i'r swydd; ac yn wir, byddai yn arfer dyweyd na chafodd ei ddewis yn ffurfiol gan yr eglwys erioed. Dywedai hyn unwaith wrth y diweddar Barchedig Dr. Parry, Bala, pan oedd yn pregethu yn Maentwrog, rhyw brydnawn Sabboth. Arweiniwyd i'r ymddiddan canlynol gan waith WILLIAM ELLIS yn traethu wrth y gweinidog am ei galon ddrwg, ac nas gallai byth anghofio yr olwg gafoddd arni yn Nhrawsfynydd. Gwrandawai Dr. Parry arno yn traethu am ei thwyll gyda difrifwch mawr, a gofynodd iddo—
"Os ydych yn ddyn mor ddrwg, pa fodd y dewiswyd chwi yn flaenor? "
"Ddewiswyd erioed mo honof fi yn flaenor," ebe yntau.
"Wel sut yr aethoch i'r swydd ynte," gofynai y gweinidog drachefn.
"O, mi dd'wedaf i chwi 'n union deg. Rhyw bobl bach pur ddiniwed sydd yma, a minnau yn gryn stwffiwr," ebe yntau.
"Wel, WILLIAM ELLIS," gofynai Dr. Parry eilwaith," a fyddai i chwi deimlo, pe byddai iddynt beidio a'ch hystyried yn flaenor? "
"Beth na theimla calon falch, Parry bach," ebe yntau yn ol.
Nid ydym yn meddwl y buasai neb yn dywoyd fod WILLIAM ELLIS yn stwffiwr ond efe ei hunan. Y mae yn ymddangos mai tyfu yn swyddog wnaeth WILLLAM ELLIS, ac i'r eglwys yn Maentwrog, oblegyd y rhagoriaethau oedd yn ei weled ynddo, ei ystyried yn ben arni, fel yr oedd y disgyblion yn ystyried Pedr yn flaenor arnynt hwythau. Dyma y swyddogion llwyddianus, y rhai sydd wedi eu cyfaddasu i fod yn arweinwyr, nes y bydd pawb yn cilio i roddi lle iddynt i fyned i flaen y fyddin. Nid ydynt yn llawer, ond y mae Pen yr eglwys yn gofalu am ryw nifer o rai amlwg i fod yn blaenori gyda'i achos. Mae llawer yn "cadw mwstwr" yn y blynyddoedd hyn, am y gallu llywodraethol yn cael ei wasgu i ry ychydig o le. Dywedir, gan nad ydym yn dal uwchafiaeth swyddau, y dylai pob swyddog gael rhan gyfartal yn mhob cyfarfod cyhoeddus—yn ein Cymanfaoedd, ein Cyfarfodydd Misol, a'n heglwysi unigol; a mawr ydyw y beirniadu os bydd i ryw rai gael mwy o le ynddynt na'r gweddill. Byddwn yn meddwl fod mwy o feio ar yr "Hen Gorph," fel y gelwir ef, nag ar yr un enwad arall. Y mae pawb yn ei wylio: y Chwarterolion, y Misolion, a'r Wythnosolion bethau, o'r Traethodydd fry hyd y Dywysogaeth a Llais y Wlad obry. A dyweyd y gwir, ni ryfeddem weled yr "Hen Gorph "yn codi ar ei draed yn bur fuan bellach, ac yn ymsythu, gan ofyn gyda gradd o ymffrost, "Ai môr ydwyf neu forfil, gan fod y fath gadwraeth yn cael ei osod amaf." Yr ydym ni yn credu i fesur mawr mewn Unbenaeth, ond gydag un eithriad, sef i'r pen beidio a bod yn ben gosod. Y mae y fath beth yn bod a sefydliadau a chyfundebau a phenau gosod arnynt; a phan y mae dynion yn myn'd i osod pen ar gorph y mae y pethau digrifaf yn cael eu gwneyd weithiau. Nid yw yn beth anghyffredin gweled pen Seisnig yn cael ei osod ar gorph Cymreig; y traed, y dwylaw, a'r galon yn hollol Gymreig, a'r glust, a'r llygaid, a'r tafod yn hollol Seisnig, a dim ond cwlwm oerllyd cyfraith y tir, yn cydio y pen a'r corph wrth eu gilydd. Sut y gellir disgwyl i gylchrediad y gwaed fod yn ddigon rheolaidd i gadw gwres mewn corph fel yna? Pe buasai Unbenaeth fel yna yn ein plith, buasai yn llawn bryd chwythu udgorn, galw cymanfa, a chasglu chynnulleidfa i ddyrchafu bloedd gref yn erbyn y fath gamwri. Ond nid dynion—a dim ond y neillduad fu arnynt yn rhoddi hawl iddynt flaenori—ydyw blaenoriaid ac arweinwyr ein Cyfundeb, a chyfundebau parchus eraill sydd yn ein gwlad. Pwy erioed feddyliodd ddywedyd mai penau gosod oedd Harries, Rowlands, a John Wesley? Pwy freuddwydiodd unwaith mai penau gosod oedd John Elias, Williams o'r Wern, a Christmas Evans? Onid yw pob cydwybod yn tystio fod y diweddar Barchedigion Henry Rees, ac Edward Morgan, wedi eu tori allan i'r lle mawr a lanwyd ganddynt yn eu dydd? A'r un peth a ellir ei ddywedyd am y rhai sydd yn aros heddyw yn arweinwyr byddinoedd y Duw byw. Gwae y Cyfundeb hwnw o'r dydd na byddo dynion fel hyn yn arweinwyr ynddo. Blaenor wedi tyfu yn ei le oedd WILLIAM ELLIS. Ond er yr edrychai pawb i fyny ato ef, ni byddai efe byth yn edrych i lawr ar ei frodyr.
"Dau flaenor sydd yma, onide William?" gofynai Mr. Humphreys iddo mewn Cyfarfod Misol unwaith.
"Nage," ebe yntau.
"Ai nid dau flaenor sydd yma? "gofynai y gweinidog drachefn.
"lë, dau," ebe ei gyd-swyddog.
"Nage," ebe WILLIAM ELLIS drachefn," mae pawb sydd yn y sêt fawr yn flaenoriaid yma." Fel yna yr arferai efe edrych ar ei frodyr.
Gwasanaethodd WILLIAM ELLIS swydd diacon yn dda, ac enillodd iddo ei hunan radd dda. Yr oedd yn flaenor wedi ei raddio. Y mae graddau wedi dyfod yn nwydd marchnadol yn ein dyddiau ni, ac y mae llawer o brynu arnynt: ond nid yw y graddau a brynir yn werth rhoddi dim am danynt; yn y rhai a enillir y mae y gwerth. Gradd wedi ei enill oedd gan WILLIAM ELLIS, ac ni wyddom am yr un blaenor wedi ei raddio yn uwch. Byddai yn cael ei weled yn mhob cynnulliad, o'r Ysgol Sabbothol fechan a gynhelid yn Nglan-yr-afon, lle y byddai yn arfer bod bob amser, hyd y Gymdeithasfa Chwarterol.
Lle bynag y siaradai, byddai yn sicr o enill clust pawb yn y lle. Clywyd ef lawer gwaith, a hyny yn nghyfarfodydd mwyaf poblogaidd y Methodistiaid, yn trydanu yr holl gynnulleidfa, nos y byddai pawb, fel yn ddiarwybod iddynt eu hunain, yn codi ar eu traed. Nid ffraethineb digrifol oedd yn tynu sylw—er ei fod yn llawn o hyny— ond gwreiddioldeb a mawredd ei feddyliau, y rhai a draethid ganddo weithiau gyda nerth anorchfygol; byddai ei holl gorph yn llawn cynhwrf, a disgynai ei eiriau fel tân ar glustiau ei wrandawyr. Hefyd penodid ef yn fynych i fyned i ymweled â'r eglwysi, a mawr fyddai y disgwyliad am ei weled; gwyddent y byddai ganddo flasusfwyd o'r fath a garent. Byddai cael WILLIAM ELLIS i gadw seiat yn wledd ddanteithiol fras. Ni byddai neb yn cael ei anfon yn amlach i eglwysi lle y byddai rhyw achosion neillduol yn galw am gynnorthwy nag ef. Yr oedd mwyneidd-dra ei ddoethineb ac addfedrwydd ei farn yn gyfryw ag yr oedd gan ei frodyr bob ymddiried ynddo. Bu allan o'i sir ei hun rai troion ar daith gyda y diweddar Barchedigion John Jones, Talysarn; R. Humphreys, Dyffryn; D. Rowland, Bala, ac eraill. Dywedai D. Rowland, ei fod ef wedi cael ei geryddu yn llym ganddo pan ar daith gydag ef, am iddo ddefnyddio cydmariaeth rhy isel i osod allan drefn yr iachawdwriaeth. "Dy wedais yn ei glywedigaeth, ' mae trefn yr iachawdwriaeth fel eli Treffynnon, mi mendith chwi 'n union; ' ac wedi i mi fyn'd oddiwrth y capel," ychwanegai D. Rowland," mi safodd o'm blaen ar y ffordd, ac mi ceryddodd fi yn ofnadwy, ac wedi y cerydd rhybuddiodd fi na byddai i mi byth ddefnyddio y gydmariaeth hono drachefn."
Gelwid arno yn fynych i ddechreu odfeuon o flaen ein gweinidogion blaenaf, yn y cyfarfodydd mwyaf cyhoeddus. Clywsom iddo wrthod y fraint hon un tro, a phan ofynwyd iddo paham y gomeddodd, cymerodd yntau ei ddameg i'w hateb. ' ' Yr wyf yn byw ar dir boneddiges gyfoethog, a phan y digwydd i mi ei chyfarfod ar y ffordd, dim ond myfi a hithau, byddaf yn sefyll i siarad a hi, a bydd hithau yn dangos pob parodrwydd i wrando arnaf: ond pan y digwyddaf ei chyfarfod â rhyw foneddigion gyda hi, ni byddaf y pryd hwnw ond yn rhoddi bow iddi; ac yr wyf yn meddwl y byddaf yn ei phlesio felly llawn cystal. Felly pan na bydd ond myfi a Nhad nefol gyda'n gilydd, byddwn yn scwrsio gryn lawer; ond y mae yma gryn lawer o foneddigion y nefoedd, ac yr oeddwn yn meddwl na ddigia Efe wrthyf, am i mi beidio a gwneyd dim ond
rhoddi bow heddyw."PEN. IV.
Pa le yr oedd cuddiad ei, gryfder?
I. Ei Dduwioldeb.
Dywedasom yn barod nad oedd WILLIAM ELLIS ond dyn o amgylchiadau cyffredin; ac wrth feddwl ei fod wedi enill safle mor uchel yn mysg ei frodyr, y mae yn naturiol' i ni ymofyn pa le trigai ei nerth, a pha le yr oedd cuddiad ei fawr gryfder. Gallwn ddyweyd yn ddibetrus mai prif ffynnonell ei ragoriaethau oeddynt ei dduwioldeb, ei athrylith, a'i fwyneidd-dra; a gallwn trwy amryw hanesion ddangos ei fod yn rhagori yn y pethau hyn. Dechreuwn gyda'i:
DDUWIOLDEB. Nid ydym yn gwybod am neb erioed fyddai yn ammeu crefydd WILLIAM ELLIS. Y mae rhyw rai yn ammeu crefydd pawb o'r bron: ond dyma un hen bererin a gair da iddo gan bawb, a chan y gwirionedd ei hun. Yr oedd ei dröedigaeth yn un mor amlwg, ei ymarweddiad mor ddiargyhoedd, a'i brofiadau mor nefol ac ysprydol, fel nad oedd ammheuaeth yn meddwl neb nad oedd efe yn ŵr Duw. Gwyddai beth oedd bod o dan Sinai, a gallai ddyweyd oddiar yr hyn a deimlodd ei hunan, "Mor ofnadwy oedd y lle." Tynwyd sylw ei gymmydogion ato gan gyfyngder ei enaid yn ei argyhoeddiad, ac yn fuan ar ol iddo fyned trwy y porth cyfyng hwnw fe ddechreuodd y rhagoriaethau oedd ynddo ymddadblygu, nes gwneyd i bawb a'i hadwaenai gadw golwg arno a disgwyl llawer oddiwrtho; ac ni siomwyd eu disgwyliadau. Parhaodd i ragori hyd ddiwedd ei oes. Teimlai pawb fyddai wedi bod yn nghwmni WILLIAM ELLIS, Pe na buasai ond am amser byr, fod rhyw arogl sanctaidd wedi ei adael ar eu meddyliau trwy ei ymddyddanion nefol. Yr oedd gwrando arno yn gweddïo yn ddigon o brawf ei fod yn dal cymmundeb agos â'r Goruchaf. Efallai fod y teimlad a deflir gan rai i'w gweddïau yn un o'r arwyddion diogelaf o ansawdd grefyddol y galon. Byddai y fath eneiniad ar ei weddïau mewn cyfarfodydd cyhoeddus ag oedd yn dwyn ynddynt eu hunain y sicrwydd cadarnaf ei fod yn arfer myned i'w ystafell i weddïo ar ei Dad yr hwn a wêl yn y dirgel. Yr oedd ganddo lawer Bethel; ac nid y leiaf o honynt oedd hen waggon a ddefnyddiai i gludo llechau o Ffestiniog. Llawer gwaith y gwelwyd ef, fel Elias, a'i wyneb rhwng ei liniau, yn gweddïo, gan adael i'r ceffylau gymeryd eu hamser; a byddai y rhai oedd yn deall beth fyddai yn myned ymlaen yno, yn dra awyddus am geisio dynesu yn llechwraidd, fel y gallent ei glywed yn ymbil â Duw drosto ei hun a'i gymmydogion. Yr oedd pawb yn hoffi ei glywed ef yn gweddïo bob amser. Os digwyddai iddo fod gyda rhai o'i gyfeillion ddechreunos—yr hyn ddigwyddai yn fynych—byddai yn rhaid iddo ef offeiriadu y noson hono. Ni adawai efo i bellder y ffordd, na'r ystyriaeth ei bod yn hwyrhau a'r dydd yn darfod, effeithio dim arno, ond cymerai hamdden i fyned trwy y gwasanaeth fel Pe buasai ar ei aelwyd ei hunan. Mae yn gofus genym ei gyfarfod unwaith mewn ffermdy 'o gylch saith milldir o'i gartref, ac ar ol swper estynwyd y Beibl iddo, darllenodd yntau a gweddïodd fel pe buasai yn dechreu oedfa. Wedi ymddyddan ychydig â'r teulu, dywedai," Mae yn bryd i mi gychwyn bellach, ne' mi fyddan' yn anesmwyth am danaf gartref." Yr oedd y fath hynodrwydd ynddo fel gweddïwr, fel y byddai raid iddo ddechreu yr oedfa o flaen y pregethwyr mwyaf poblogaidd fyddai yn dyfod i'r ardaloedd hyny; a byddai y diweddar Barchedig John Jones, Tal-y-sarn, yn arfer dyweyd, na byddai ganddo ef ddim diolch i allu pregethu ond iddo gael WILLIAM ELLIS i ddechreu yr oedfa. Wrth ofyn am bresenoldeb yr Arglwydd, dywedai,
"Os na chawn olwg ar dy wynebpryd, gâd i ni gael gweled rhyw gŵr o honot; dangos dy glun, neu rhywle i ni."
Gofynai cyfaill iddo beth oedd yn ei feddwl wrth ddymuniad felly. "O," ebe yntau," y mae yn cario ei gleddyf ar ei glun, a phan y mae y gelyn yn gweled hwnw y mae yn ymostwng yn y fan."
Dro arall dywedai," Dadguddia dy drysorau i ni yn awr, ni welodd neb ben draw dy shop di." Wrth ofyn am faddeuant dywedai," Maddeu Arglwydd, y mae arnom fwy o ofn ein pechodau nac uffern ei hunan." Tro arall wrth gydnabod daioni yr Arglwydd yn rhoddi cymaint o drugareddau i ni, dywedai," Does yn uffern ddim newid seigiau. Maent yn gorfod byw yno ar ddigofaint digymysg: dyna oedd yno neithiwr, dyna oedd yno boreu heddyw, a digofaint sydd yn cael ei barotoi at heno eto." Yna diolchai yn gynes nad oedd efe a'r gynnulleidfa yn y wlad lle nad oedd newid seigiau ynddi. De fyddai taerineb a difrifwch, amrywiaeth a phriodoldeb, ei weddïau, yn synu pawb fyddai yn cael y fantais o'i glywed; ac yr oeddynt mor llawn o feddwl ag oeddynt o ddefosiwn. Yr oedd ganddo brofion sicr iddo gael ei wrando lawer gwaith; adroddwn ddau hanesyn i ddangos hyn. Bu am dymmor, pan yn ddyn lled ieuangc, yn arfer myn'd i Loegr gyda gwartheg; a phan oedd yn Llundain daeth galwad ato un boreu i fyned i'r maes at yr anifeiliaid cyn iddo gael ei foreufwyd. Cadwyd ef yn y maes am oriau, dechreuodd deimlo chwant bwyd, ond nid oedd yn gweled un ffordd i gael myned i'r ddinas i brynu dim. Aeth ei angen mor fawr fel yr ymneillduodd at fonyn coeden oedd ar ganol y cae, i ofyn i'r Arglwydd am ei fara beunyddiol. Pan oedd yn gweddïo gwelai ddyn yn dyfod i'r maes, a'i neges ydoedd, gorchymyn symud y gwartheg i faes arall; a chan y cymerai hyn lawer o amser, aeth yn fwy annhebyg iddo nag o'r blaen i gael dychwelyd i'w lety. Wrth fyned o'r naill faes i'r llall, yr oedd ganddynt briffordd i'w chroesi; a phan oedd WILLIAM ELLIS yn croesi daeth cerbyd a dau geffyl yn ei dynu heibio, a safodd ar ei gyfer ef. Gwelai ffenestr y cerbyd yn agor, a boneddiges yn estyn rhywbeth iddo ; ymaflodd yntau ynddo o'i llaw, a gwnaeth ymgrymiad diolchgar am dano, er na wyddai ar y pryd pa beth ydoedd. Aeth y cerbyd i'w ffordd, agorodd yntau y parcel, a beth oedd yno ond fowl wedi ei goginio yn y ffordd oreu.
Mae yr hanesyn uchod yn ffaith, ond rhodded y darllenydd yr esponiad a fyno arno. Gallom feddwl na byddai yn orchest fawr i'r rhai hyny sydd yn credu i'r gigfran gael ei hanfon i borthi Elias, gredu hefyd ddarfod i'r foneddigos hono gael ei hanfon i borthi WILLIAM ELLIS. Yr hanesyn arall ydyw, am wraig gyfrifol oedd yn byw mewn cymmydogaeth arall, o gylch chwe milidir o'i gartref, yr hon oedd wedi ei chymeryd yn glaf, ac wedi syrthio i radd o iselder meddwl, ac yn petruso yn fawr am ddiogelwch ei chyflwr. Yr oedd WTLLIAM ELLIS yn ei hadnabod hi a'r teulu yn dda, a byddai yn gweddïo llawer drosti. Fel yr oedd yn gweddïo un boreu, deallodd rywfodd ei fod yn cael ei wrando. Cyfrwyodd ei farch, ac aeth yr holl ffordd i edrych pa fodd yr oedd pethau yn bod yn y Glyn, canys dyna oedd enw y ffermdy lle yr oedd y claf yn cartrefu. Wedi cyrhaedd y tŷ gofynai i'r ferch,—"Sut mae dy fam heddyw, a ydyw ei meddwl wedi sirioli ychydig?" "Lled debyg ydyw fy mam," ebe y ferch yn ol," nid ydym yn gwybod fod dim cyfnewidiad er gwell arni." "Wel," ebe yntau," y mae gwawr yn sicr o dori ar ei meddwl yn fuan, yr wyf wedi deall hyny wrth weddïo drosti boreu heddyw, ac yr wyf wedi dyfod yma i'ch hysbysu o hyny." Ac felly fu, gwawriodd ar ei meddwl, ac yn ngoleuni y wawr hono hi a groesodd yr afon.
Yr oedd ei grefydd yn dyfod i'r golwg yn y parch mawr oedd ganddo i'r Beibl. Byddai yn cario Beibl i'w ganlyn bron bob amser. Digwyddodd iddo un diwmod pan yn cario mawn o'r mynydd, adael y Beibl yn y fawnog ar ei ol. Pan y daeth adeg y ddyledswydd, fe gofiodd am dano, a dywedai wrth y teulu fod yn rhaid iddo bicio i'r mynydd, ei fod wedi gadael ei Feibl ar ei ol yno. Ceisiwyd ei berewsdio i beidio, gan ei bod yn hwyr iawn, a'r ffordd yn mhell ac anhygyrch. Ond nis gallai feddwl am i'r Beibl fod allan trwy y nos. Yr oedd yn ddarllenwr mawr ar ei Feibl, a charai yn fawr glywed eraill yn ei ddarllen. Galwodd cyfaill ieuangc gydag ef unwaith, ac er mai canol dydd ydoedd, bu yn rhaid iddo ddarllen pennod a gweddïo gydag ef a'i chwiorydd. Wrth hebrwng y cyfaill i ffordd dywedai," yr oeddit yn darllen y bennod yn glaear iawn heddyw. Meddwl am ddarllen pob gair o'r Beibl nes gwneyd i'r gwrandawyr deimlo na byddent wedi clywed gair o'r bennod erioed o'r blaen." Felly y byddai efe yn darllen bob amser. Yr oedd ei dduwioldeb yn dyfod i'r golwg yn amlwg yn y cyfarfodydd eglwysig. Adwaenai y bywyd ysprydol yn mhob ffurf arno, a gwyddai yn dda pa un ai llaeth ai bwyd cryf i'w roddi at y rhai fyddai yn dyweyd eu profiadau ar y pryd. Pan y byddai yn cael fod yr eglwys yn uchel o ran ei phrofîad, cymerai fantais y pryd hwnw i draethu ar burdeb a sancteiddrwydd Duw, a dangosai fel yr oedd Efe yn casáu twyll, celwydd, a rhagrith; a byddai pawb wrth wrando arno yn troi i'w fynwes ei hun gan weddïo gyda'r Salmydd, "Chwilia fi, O Dduw, a gwybydd fy nghalon: prawf fi, a gwybydd fy meddyliau; a gwel a oes ffordd annuwiol genyf, a thywys fi yn y ffordd dragywyddol." A phan feddyliai fod teimlad yr eglwys yn isel, ymdrechai y pryd hwnw i'w chysuro trwy ddangos y gallasai fod yn llawer gwaeth arnynt. Gofynai," Nid aeth neb oddiyma i'r carchar y flwyddyn hon, ai do? Ni chrogwyd neb oddiyma, ai do?" Fel hyn byddai yn mesur y da wrth ei well, a'r drwg wrth ei waeth.
Yr oedd ei ofal yn fawr am ieuengtyd yr eglwys. Cadwai ei lygaid arnynt yn mhob man. Yr oedd un ferch ieuangc berthynol i'r eglwys wedi myned i Gymdeithasfa Pwllheli, a silk hat ganddi am ei phen—yr oedd hyn pan oedd ladies' silk hats yn dechreu dyfod i'r ffasiwn. Ofnai WILLIAM ELLIS ei bod yn myned yn falch, a gofynodd iddi pan ddychwelodd yn ol, a oedd hi wedi cael rhywbeth yn y Gymanfa. Atebai hithau ei bod yn ofni nad oedd." Wel," ebe yntau," mi ge'st gyfleusdra da iawn i ddangos dy het newydd. Cofia di," ychwanegai, "nad yw yn ddim byd i mi i ti fod yn falch. Rhaid i ti settlo yr holl bethau yna â'r Brenin Mawr." Dychrynodd yr eneth gymaint fel y gwerthodd y silk hat, a bu yn hir heb allu meddwl am brynu un yn ei lle.
Hysbysodd merch ieuangc arall ef ei bod yn bwriadu myn'd i Loegr i wasanaethu, a rhyw brydnawn aeth WILLIAM ELLIS yn un pwrpas i'w chartref i ddanfon ei thocyn eglwysig. Yr oedd ganddo dros bedair milldir o ffordd, a chyn dychwelyd, gweddïodd gyda hi a'r teulu oll; ac er fod dros ugain mlynedd er hyny, y mae y cynghorion da a'r weddi ddifrifol yn aros yn fresh ar ei meddwl hyd heddyw.
Yr oedd ei gydymdeimlad yn fawr â'r weinidogaeth, ac â gweinidogion yr efengyl. Medrai feirniadu; ac yr oedd taflod ei enau yn deall cam flas. Dywedai un tro ar ol bod yn gwrando ar ŵr dysgedig a phoblogaidd yn pregethu," Mae yn burion peth i'r wlad gael pregeth fel yna, rhag iddynt feddwl nad oes genym ni—y Methodistiaid yma—ddim gwŷr dysgedig yn bregethwyr: ond dyn a'i helpo," meddai am y pregethwr, "fe gollodd yr eneiniad wrth fod yn rhy ddysgedig, ond waeth be' fo, fe faddeua ei Dad nefol iddo am ryw dro fel yna." Yr oedd yn hawdd gwrando ar WILLIAM ELLIS yn beirniadu, gan y gwyddai pawb y byddai yn gweddïo llawer dros y pregethwyr, yn enwedig pregethwyr ieuaingc. Dywedai wrth un pan yn gwrando arno yn pregethu ei bregeth gyntaf," Yr oeddwn yn gweddïo fy ngoreu drosot, ac yn gofyn i'r Arglwydd roddi tipyn o gymhorth i ti heno, Pe na byddai heb roddi dim byth i ti ar ol heno." Byddai yn myfyrio llawer ar y byd ysprydol a'i breswylwyr. Soniai am yr angylion da a drwg fel pe buasent ei gymmydogion agosaf. Rhoddai rhai yn ei erbyn ei fod yn oforgoelus, gan y byddai yn rhoddi coel ar freuddwydion, ymddangosiad ysprydion, a gweinidogaeth angylion. Dywedai wrth bregethwr unwaith, pan yn ymddiddan ar hyn, "Y mae yr angylion yn ymladd llawer drosom i gadw y cythreuliaid rhag ein niweidio. Y mae yn swydd digon sâl iddynt hefyd, a ninnau yn rhai mor ddrwg." Gofynai y pregethwr," A ydych yn meddwl eu bod yn dyfod i'n byd ni o gwbl?" "O ydynt," ebe yntau, "ac y mae guard o honynt yn dyfod i nol pob dyn duwiol. Daethant i nol Richard Jones, o'r Wern, dipyn bach yn rhy fuan, yr oedd o heb fod yn hollol barod. Darfu iddynt hwythau ganu bennill uwch ben y tŷ, i aros iddo fod yn barod, ond 'doedd neb yn deall y geiriau na'r dôn ychwaith: iaith a thôn y nefoedd oeddynt." Yr oedd rhai o'r cymmydogion yn dyweyd fod swn canu nefolaidd uwchben Rhosigor — y tŷ lle y bu Richard Jones farw ynddo ychydig amser cyn iddo ehedeg ymaith; a dyma ydoedd esponiad WILLIAM ELLIS arno. Y mae cymaint a hyn beth bynag i'w ddyweyd dros ei olygiad: y mae angylion yn medru canu yn dda, ac y maent yn llawenhau pan y mae un pechadur yn edifarhau; ac os ydynt yn llawenhau pan y mae y gwaith da yn cael ei ddechreu, y mae yn ddigon naturiol meddwl fod y llawenydd hwnw yn troi yn gân orfoleddus pan y mae y gwaith da hwnw yn cael ei orphen. Pa un ai WILLIAM ELLIS oedd yn credu gormod, ai y lliaws sydd yn credu rhy ychydig am y bodau ysprydol hyn, gadawn i'r darllenydd benderfynu.
Byddai yn cael ei barchu yn fawr gan yr oll o'i gymmydogion, a hyny yn benaf ar gyfrif ei dduwioldob. Ni feiddiai yr annuwiolion caletaf bechu yn rhyfygus yn ei bresenoldeb, er na fyddai yn dyweyd llawer wrthynt un amser. Dengys yr hanesyn a ganlyn y byddai yn arfer 'eu rhybuddio ar brydiau. Yr oedd ef a chyfaill iddo allan un noson ar ystorm o fellt a tharanau dychrynllyd iawn. Ymddangosai ei gyfaill yn ofnus iawn: ond yr oedd WILLIAM ELLIS yn dawel a digyffro, ac fel pe buasai yn mwynhau yr olygfa fawreddog. Yn fuan torodd ar y distawrwydd trwy ddyweyd," Mi fyddaf fi yn bur hoff o dipyn o fellt; yr oeddwn unwaith yn y cynhauaf gwair yn mysg troop o rai pur gellwerus ac annuwiol, nid oedd nemawr ddyben i mi ddyweyd dim wrthynt. Ond yn fuan daeth y Gŵr ei hun i siarad â nhw trwy y mellt, ac aethant oll yn y fan yn bur sobr a distaw."
"Ond," meddai ei gyfaill," y mae mellt yn bethau peryglus iawn, ac y mae yr un ddamwain yn digwydd i'r cyfiawn a'r drygionus."
"Ydynt," ebe yntau," ond y mae gan yr Arglwydd ryw favourites nad yw yn ewyllysio eu galw adref yn mhob dull."
Bellach ni a adawn y mater cyntaf, gyda dy adgofio di, ddarllenydd, mai unig sylfaen gwir ddylanwad ydyw duwioldeb. "Gwell yw bachgen tlawd a doeth, na
brenin hen ac ynfyd."II. EI ATHRYLITH.
DYWEDASON yn barod fod duwioldeb WILLIAM ELLIS, uwchlaw ammheuaeth y rhai mwyaf anystyriol a drwgdybus; a bellach ni a symudwn yn mlaen i ddangos y byddai ei athrylith yn disgleirio fel ag i'w wneyd yn wrthddrych sylw ac edmygedd pawb a'i hadwaonai bob amser. Wrth i ni adgofio llawer o'i sylwadau cynhwysfawr, yr ydym yn gweled dau beth yn dyfod i'r golwg ynddynt, sef eangder diderfyn ei olygiadau ar drefn yr efengyl, a gwreiddioldeb y dull y byddai yn rhoddi ei syniadau allan. Taflai yn fynych feddyliau newyddion i'r golwg nes trydanu pawb fyddai yn ei wrando, a phryd arall gwisgai hen wirioneddau mewn ffurf newydd, a byddai y rhai a edrychent arnynt yn barod i ddyweyd, "na wisgwyd Solomon yn ei holl ogoniant fel un o'r rhai hyn." Wedi iddo gael fod digon yn iachawdwrineth Duw i ddiwallu angen ei ennid ef, credai byth wed'yn fod digon ynddi ar gyfer pawb. Bu yn gobeithio un adeg ar ei oes yr adferid y cythreuliaid, a gweddïodd lawer drostynt. Cofus genym i ni ofyn iddo unwaith, a hyny yn lled agos i ddiwedd ei oes, a oedd efe yn parhau i weddïo dros y cythreulisid? a'i ateb ydoedd, "Wel, nac ydwyf wir, y tro diweddaf y bum ar fy ngliniau yn eu hachos daeth y gair hwnw i fy meddwl, Canys ni chymerodd Efe naturiaeth angylion.' Mid'w'llodd yn arw iawn arnaf yn eu hachos, ac nis gallais ofyn am ddim ar eu rhan byth mwy." Ond er iddo gael ei ddigaloni trwy ddyfodiad sydyn y gair hwnw i'w feddwl, ymlithrai rhyw ymadroddion yn awr ac yn y man oedd yn dangos fod ynddo rhyw ddirgel obeithion yr adferid yr holl greadigaeth ryw bryd ar sail haeddiant yr Aberth mawr. Diolchai yn gynes ar weddi tua mis cyn ei farw am i'r Arglwydd o'i fawr gariad rhad ein cofio ni ddynion, ac ychwanegai, "Y mae rhyw droop mawr arall wedi myned i lawr, ac nid oes dim gobaith iddynt hwy am a wyddom ni, efallai y gwyddost Ti rywbeth." Ymddiddanai â phregethwr unwaith am y bydoedd uwch ben, a gofynai, "A oes yno fodau rhesymol fel nyni ?" "Y mae yn ddigon tebyg fod," ebe y pregethwr, "ond gall nad ydynt yn bechaduriaid fel ni." "Wel, wel," ebe yntau, "os ydynt yn bechaduriaid, nid oes dim yn eisiau ond iddynt glywed trwy weinidogaeth angylion, neu ryw sut, am haeddiant Aberth y Groes, y mae digon ynddo i'w cadw nhw i gyd." Y pethau hyn a'u cyffelyb, barodd i'r diweddar Mr. Humphreys, wrth wneyd sylwadau coffadwriaethol am dano mewn Cyfarfod Misol, ar ol ei gladdu, —ddyweyd fol hyn, "Yr oedd nefoodd WILLIAM ELLIS yn eangach na nefoedd nob arall, hyny ydyw, yr oedd am i fwy gael myned yno na neb arall ar a adwaenwn i."
Ond hoblaw fod ganddo ei olygiadau eang, yr oedd ganddo ei ffordd ei hun o draethu ei syniadau ar bron bob peth. Gofynwyd iddo unwaith a wnai efe areithio ar Ddirwest, ryw nos Sabbath yn Maentwrog. Cydsyniodd yntau a'r cais, ac addawodd wneyd. Y nos Sabbath a ddaeth, a mawr oedd y disgwyliad am dano. Wedi i ryw frawd ddechreu trwy ddarllen a gweddïo, galwyd WILLIAM ELLIS, at ei waith. Dechreuodd yn debyg i hyn:—
"Pan oeddwn yn dyfod i fyny at y capel heno, fe ddaeth y diafol i'm cyfarfod, a gofynodd a wnawn i gario cenadwri bach oddiwrtho i'r cyfarfod dirwestol yma; ac ar ol i mi addaw gwneyd, dywedai mai dyna oedd arno eisiau, cyflwyno ei ddiolchgarwch gwresocaf i'r rhai sydd yn parhau yn ffyddlon iddo, a hyny mewn adeg y mae cryn lawer yn ei adael, ac yn cymeryd yr ardystiad dirwestol. Ac am y rhai hyny a'i gadawodd am dymmor, ond sydd wedi edifarhau a dychwelyd yn ol i'w ei wasanaeth, y mae yn ddiolchgar dros ben i'r rhai hyny hefyd. Gofynai i mi ddyweyd ei fod yn sicr o gofio am danoch, ac o adael i chwi gael yr un byd ac yntau. Mi gewch fyw yn yr un cartref, cysgu yn yr un gwely, ymborthi ar yr un pethau. Ond ni pharodd i mi ddyweyd mai uffern ydyw ei gartref, mai mewn gwely o dân y mae yn gorwedd, ac mai ar ddigofaint y mae yn gorfod ymborthi. Ond dyna y gwir am dano, ac ni bydd ganddo ddim gwell i'w roddi i neb o'i weision ffyddlonaf." Traethai y pethau hyn gyda'r fath ddifrifwch a nerth, nes gwneyd i'r caletaf ei galon oedd yn bresenol arswydo, a thystiai rhai o honynt nas gwyddent pa le yr oeddynt yn sefyll.
Fe gofir yn hir y sylw a wnaeth yn Nghymdeithasfa y Bala, pan oeddynt yn ymddiddan a'u gilydd yno am yr haint oedd wedi tori allan ar y pytatws. Yr oedd pawb a'i reswm ganddo, ac fe gymhellodd Mr. Rees, y llywydd, WILLIAM ELLIS i ddyweyd gair. Wedi peth cymhell, cododd ar ei draed ar lawr y capel, a dywedai yn debyg i hyn, "Y mae rhai yn barnu mai rhyw blaned sydd wedi dyfod yn rhy agoa i'r ddaear, ac wedi drygu y llysieuyn hwn, yr hwn oedd yn rhan fawr o gynhaliaeth dyn. Ond os dyna ydyw yr achos, nis gallem ni yma wneyd dim byd gwell heddyw na threfnu i gyfarfodydd gweddïo gael eu cynal trwy y wlad i gyd, i ofyn i'r Hwn sydd yn gallu galw y ser wrth eu heuwau, i roddi ei fys arni. Mi fydd yn gynhwrf anghyffredin yn y nefoedd, pan y bydd plant Duw mewn rhyw gyfyngder ar y ddaear. Mi 'roedd yn helynt garw yno yn amser bwrw y tri llangc i'r ffwrn dân. Yr holl angylion ar eu hadenydd o amgylch yr orseddfaingc eisiau cael myned i lawr i'w gwaredu. Gabriel yn gofyn, A gaf fi fyn'd i waredu y llangciau?' Na, ni wnei di mor tro i fyn'd i'r ffwrn dan, 'dwyt ti ddim yn holl bresenol; pau y byddi di yn lledu dy adenydd dros Sadrach fe fydd y Mam yn deifio gwallt pen Mesach; mi äf fi i lawr fy hunan heddyw: a dull y pedwerydd oedd debyg i Fab Duw.'" Ni welwyd erioed y fath effeithiau ag oedd yn dilyn y sylwadau hyn. Wrth weled y fath gynhwrf yn mysg y rhai oedd yn ei ymyl ar y llawr, gofynai y rhai oedd ar y gallery yn methu ei glywed i'r llywydd ail-adrodd. "Fedrai ddim," ebe Mr. Rees, "a phe buasech chwithau yn fy lle i, nis gallasech chwithau ychwaith ei ail-adrodd."
Wrth siarad mewn Cyfarfod Misol ar gynhaliaeth y weinidogaeth, dywedai wrth y pregethwyr fod ganddynt hwy eu hunain lawer i'w wneyd mewn trefn i gael yr eglwysi i gyfranu, ac ychwanegai, "Mai trwy galonau y bobl yr oedd y ffordd oreu i fyned i'w pocedau." Wedi rhoddi gwers i'r pregethwyr trwy yr awgrymiad cynhwysfawr yna, aeth yn mlaen i draethu ar ddyledswydd yr eglwysi i'w cynal, yn debyg i hyn, "Mae y drygau mawr y mae y Beibl yn eu gwahardd yn cael eu nodi allan trwy roddi y gair bach 'na' o'u blaen. 'Na wna odineb', 'Na ladrata','Na ddwg gamdystiolaeth.' Ond y mae yna un 'na' bach nad yw eglwysi y Methodistiaid wedi sylwi arno, 'Na chau safn yr ych sydd yn dyrnu'." Ni byddai un amser yn ymresymu yn hir, ond gair byr a hwnw bob amser yn disgyn yn syth ar ben yr hoel.
Cofus gonym fod anogaeth yn cael ei anfon oddiwrth y Cyfarfod Misol at yr eglwysi, ar adeg pur wasgedig ar y wlad, i'w hanog yn ddifrifol i beidio a rhedeg i ddyled mewn adeg o'r fath, a thrwy hyny arwain oeu hunain ac eraill i brofedigaeth, a rhoddi lle i elynion yr Arglwydd gablu, pryd y gwnaeth WILLIAM ELLIS y sylw yma: "Mae perygl i rai mewn amgylchiadau cyfyng ymollwng a myned yn ddiofal gyda'u dyledswyddau. Fe aeth y rhai oedd yn derbyn arian y deyrnged un diwrnod at Pedr, i chwilio am y dreth drosto ef a'i Athraw: ond nid oedd gan yr un o'r ddau ddim i'w thalu. Ac mifum i yn meddwl fod Pedr wedi gofyn i'w Athraw, pa beth a wnaent? A fyddai yn well iddo fyned at rai o'u cyfeillion i ofyn benthyg? O na,' abe yntau, dos i'r môr, a bwrw fach. Dos di at dy alwedigaeth, ac wrth i ti wneyd dy ddyledswydd mi goi di fodd i dalu y dreth drosof fi a thithau. Felly, ond i ninnau wneyd ein dyledswyddau ar adeg fel hyn, fe ofala ein Tad nefol am i ni gael tipyn o geiniog at gyfarfod ein gofynion."
Yr oeddynt yn ymdrin yn Nghyfarfod Misol y Bala unwaith ar "Faddeuant," a gofynwyd i WILLIAM ELLIS ddyweyd gair. Cododd ar ei draed, a throdd at y pregethwyr a dywedodd yn awdurdodol wrthynt, am iddynt gymeryd gofal rhag dyweyd fod Duw yn maddeu pechodau: "Ni faddeuodd Duw bechod erioed, ac ni faddeua bechod byth." Yna eisteddodd i lawr, a bu distawrwydd. am beth amser. Ond torwyd ar y distawrwydd trwy i'r cadeirydd ddyweyd, "Wel, mae yr athrawiaeth yna yn un pur newydd, dylech egluro beth ydych yn ei foddwl WILLIAM ELLIS." Cododd yntau eilwaith, ac ychwanegai, "Fod eu gwaith yn pregethu parodrwydd Duw i faddau, yn gwneyd i rai dynion bechu yn fwy hyf a digywilydd. Am fod Duw wedi cospi pochod ar ei Fab yr oedd yn gallu peidio cospi y pechadur; bod eisiau dangos llwybr gwaedlyd maddeuant bob amser wrth son am dano, onide byddai yr athrawiaeth yn ei gylch yn achles i bechod yn lle bod yn wenwyn iddo."
Byddai ganddo ffordd pur effeithiol i roddi terfyn ar ymrysonau a dadleuon, fyddai yn cymeryd lle yn mhlith y brodyr. Daeth cais un tro i Gyfarfod Misol Abermaw, am gasgliad cyffredinol tuag at ryw achos cyhoeddus, ond yr oedd y rhan fwyaf o'r blaenoriaid yn erbyn iddo gael ei roddi ger bron y cynnulleidfaoedd. Wedi llawer o siarad, cododd WILLIAM ELLIS i fyny a dywedodd, "Mae holl gybyddion y sir yma heddyw, ac am y bobol sydd gartref, y maent hwy yn siwr o wneyd casgliad da at yr achos, ond iddynt gael clywed am dano." Wedi y sylw hwn gostegwyd y cythrwfl, a phonderfynwyd cyflwyno yr achos i'r cynnulleidfaoedd gael dangos pa fodd yr oeddynt. yn teimlo tuag ato.
Yr oedd WILLIAM ELLIS wedi clywed un diwrnod fod rhyw fath o arddangosfa—show—i ddyfod i Faentwrog, a byddai llawer o ddyweyd yn erbyn myned i'r cyfryw leoedd yn y dyddiau hyny, am y byddent yn achosi llawer o lygredigaeth. Ond fe gymorodd WILLIAN ELLIS ddull newydd i fyned yn ei herbyn, fe'i cyhoeddodd, ar nos Sabbath, fel y pethau eraill oodd i fod yr wythnos hono. Fel hyn, "Cyfarfod Gweddi nos Lun, Seiat nos Fercher, a show yn Maentwrog prydnawn dydd Gwener: cyfarfod yn perthyn i'r deyrnas arall ydyw hwnw hefyd; ond y mae yn deg i chwi wybod am dano, gael i bawb sydd yn perthyn i deyrnas y tywyllwch ymdrechu i fyned yno, ac mi fyddwn ninnau yn rhywle yn edrych pwy fydd y rhai hyny." Dywedir na wnaeth neb erioed gymaint o ddrwg i'r un arddanghosfa ag a wnaeth WILLIAM ELLIS i'r un hono wrth ei chyhoeddi.
Nid oedd bosibl gwneyd fawr o hono trwy ei gwestiyne. Yr unig ffordd i'w gael allan ydoedd gadael llonydd iddo. Fel y ffynnon yn taflu y ffrwd allan yn ei nerth ei hunan. Yn un o Gyfarfodydd Misol Maentwrog ceisiwyd gan Mr. Hnmphreys,—fel un o'r rhai tebycaf i allu gwneyd rhywbeth o hono—ofyn gair iddo, fel yr arferid yn gyffredin pan y mae Cyfarfod Misol yn dyfod i le. Cododd Mr. Humphreys ar ei draed, a gofynodd,— "Pa fodd y mae hi rhyngoch chwi a phethau mawr y byd tragywyddol yn awr, WILLIAM?"
"Ymladd yr ydwyf fi fy ngoreu, Humphreys bach," ebe yntau, "am bethau y ddau fyd, ac ofn garw rhwng y ddau bod heb yr un."
"Pa fodd y mae hi rhyngoch chwi a'r Duw mawr a'i drefn, a ydyw hono wrth eich bodd?" gofynai y gweinidog drachefn.
"Digon prin," atebai yntau.
"Sut, sut," ebo Mr. Humphreys, "beth sydd ar y drefn fawr genych, WILLIAM?"
"Anniben iawn y mae hi yn fy sancteiddio i, Humphreys bach," ebe yntau drachefn.
"Eisiau bod yn berffaith sydd arnoch chwi, WILLIAM?' dywedai Mr. Humphreys.
"Nage, nage, Mr. Humphreys bach, ond ofn sydd arnaf na roes o ddim o'i law arna' i erioed," ebe yntau.
Ar hyn eisteddodd Mr. Humphreys i lawr, a chyfododd yr hon dduwinydd David Williams, Talysarnau, ato, a gofynodd yn bur ddoctoraidd,—
"Beth ydych yn ei feddwl am Gyfiawnhad a Sancteiddbad, WILLIAM ELLIS?"
"Ni byddaf fi yn ymyraeth fawr â'r Cyfiawnhad yna, Dafydd bach," meddai yntau; "cawn i fy sancteiddio rywsut, mi fyddwn i yn foddlawn wed'yn."
"Yr ydych yn meddwl mai Cyfiawnhad ydyw y cyntaf o ran trefn, onid ydych WILLIAM ELLIS?" gofynai y progethwr drachefn.
"Ni wn i ddim, Dafydd bach," ebo yntau, "pa un yw y cyntaf, mae nhw rhywsut ar draws eu gilydd yn eu lle mi wa ganddo Ef: ond Sancteiddhad ydyw'r cyntaf gen i." Dyma brofiad pur uchel, onide? pechadur wedi ymgolli yn yr awydd am fod yn lân.
Yr oedd yr un rhagoriaethau yn dyfod i'r golwg yn ei ymddiddanion personol gyda'i gyfeillion. Byddai bob amser yn siriol, a theimlai pawb yn falch o'r cyfleusdra i fod yn ei gwmni; ymollyngai yn rhydd, ac weithiau parai lawer o ddifyrwch. Gofynai i un o fyfyrwyr y Bala unwaith, a wnai efe fyned a rhyw farwnad oedd ganddo i Mr. Edwards, i'w rhoddi yn y Geiniogwerth Cymerodd y myfyriwr hi o'i law, ac agorodd hi; ac erbyn ei hagor, canfyddai fod twll wedi ei losgi trwy ei chanol. Pan welodd y llun oedd arni, dywedai,— "Beth dal i mi fyn'd a hon iddo, a welwch chwi y tyllau yma, WILLIAM ELLIS?"
"Dos di a hi," ebe yntau, "mi wyr Mr. Edwards o'r goreu beth sydd i fod yn y tyllau yna i gyd."
Yr oedd dau weinidog poblogaidd yn digwydd bod yn Maentwrog yr un adeg, ac yr oedd yno faban i'w fedyddio; ac o barch i'w gilydd, dadleuai y naill dros i'r llall weinyddu yr ordinhad. Wrth eu gweled yn ymgyndynu. tynodd WILLIAM ELLIS geiniog allan, a thaflodd hi i fyny gan ddywoyd, "Mi dosiwn ni." Aeth y ddau ŵr parchedig i'r capel wedi eu cywilyddio i fesur gan y dull a gymerodd eu cyfaill i dori y ddadl rhyngddynt.
Cwynai wrth un o'i gyfeillion ei fod wedi cael colled arianol drom oddiar law rhyw gymydog iddo a fu farw. "Tybed yr aeth efe i'r nefoedd, WILLIAM ELLIS?" gofynai y cyfaill, "ac arno yntau gymaint o arian i chwi?" "Dyn, do mi wn," ebe yntau, "y mae Duw yn pasio beibio rhyw driffles fel yna, ond i rywun wneyd yn o fawr o'i Fab Ef."
Dywedai un wrtho am rhyw ferch ieuangc adnabyddus iddo oedd wedi llithro: "Gresyn garw i hon a hon syrthio, fe dynodd flotyn ar ei chymeriad a fydd arno byth." "O, na," ebe yntau, " yr wyt yn methu yn arw: un joch o Waed y Groes a'i golcha yn borffaith lân."
Cwynai un brawd wrtho, yr amser y bu farw y diweddar Barchedig Richard Jones, o'r Wern: "Gresyn fod dyn mor dda wedi myn'd i'r nefoedd mor gynar ar ei ddiwrnod." "O, na," obe yntau, "yr wyt yn methu yn fawr, rhai fel yna sydd arnynt eisiau yn y nefoedd i gyd."
Wrth ymddiddan â chyfaill ieuangc am y nefoedd, dywedai y cyfaill wrtho: "Nid wyf fi yn gofalu am gael myned i'r nefoodd yn awr, gwell genyf gael bod ar y ddaear am dipyn yn gweithio dros Dduw." "Ië, ië. purion, purion, machgen i," ebe yntau, "ond cofia di, dy ddieithrwch di i'r wlad ydyw yr achos o hyny hefyd."
Dywedai wrth gyd-deithio â dyn ieuangc unwaith: "Mae Duw yn bur ofalus am danat, machgen i, mae wedi rhoddi angel i dy ganlyn i bob man. Gwylia dithau fyned i leoedd rhy halogedig gan yr angel i ddyfod i mewn gyda thi. Fe fydd yn beth digon cas i'r angel i aros wrth y drws i dy ddisgwyl di allan."
Wrth fyned o'r oedfeuon dau o'r gloch, dydd eu cyfarfod pregethu, dywedai un wrtho: "Oni chawsom oedfeuon da iawn, ac ystyried mai dau o'r gloch ydoedd?" "O, hwn a hwn bach," ebe yntau, "ni bydd yr Yspryd Glân byth yn edrych pa faint fydd hi o'r gloch."
Yr oedd dyn ieuang nad oedd yn cael ei ystyried yn gufydd oddiarno, yn y dosparth y perthynai WILLLAM ELLIS iddo, eisiau cael myned i bregethu, ac efe oedd yn rhoddi ei achos i lawr. Gofynai Mr. Humphreys iddo, ar ol i'r cyfarfod fyned drosodd: "Sut yr oeddych chwi, WILLIAM, yn dwyn achos y dyn ieuangc yna yn mlaen: maent yn dyweyd i mi nad yw yn gall iawn?" "Wel na, yn wir," ebe yntau, "tipyn o natur chwerthin am ei ben ef sydd: ond yr oedd arnaf fi ofn methu; mae y Gŵr yn gallu gwneyd defnydd o rai go ryfedd; ac mi wyddoch chwithau, Richard bach, nad ydych chwi y pregethwyr ddim yn gall i gyd."
Aeth gŵr ieuangc porthynol i'r eglwys—lle yr oodd WILLIAM ELLIS yn flaenor—ato un diwrnod i ddyweyd wrtho ei fod yn teimlo awydd mawr i fynod yn bregethwr. "Felly yn siwr," ebe yntau, "da iawn, da iawn: ond a fuost ti yn meddwl, machgen i, pa un ai y diafol ai yr Yspryd Glan sydd yn dy gymbell di?" Atebodd y gŵr iouangc yn gryf a phenderfynol: "Nid wyf fi yn gwneyd dim concern â'r diafol, WILLIAM ELLIS." "Purion, purion," ebe yntau, ond y mae gan y diafol fintai fawr wedi eu codi i'r pulpud; wyt ti yn siwr dy fod wodi adnabod ei ddichellion ef E——— bach? Mae o yn bur hen wel di, ac yn llawer cryfach ei bon na thi a minnau, er fod Iesu Grist wedi ei ysigo ar Galfaria."
Yr oedd WILLIAM ELLIS, a'i hen gyfaill W. Williams, Tanygrisiau, a Mr. Humphreys, yn ymddiddan am hen bobl Maentwrog. Yr oedd W. Williams wedi bod yn byw yn y gymmydogaeth am dymmor, a dywedai, "Nid oes ond ychydig o'r hen bobol oedd yn perthyn i'r eglwys acw pan oeddwn i yn byw yn y gymmydogaeth yn aros, ai oes WILLIAM ELLIS?" "Nac oes," ebe yntau, "mae hon a hon yn fyw, onid ydyw?" gofynai ei gyfaill. "Ydyw, y mae hi yn aros," ebe yntau. "Hen wraig dduwiol ydyw hi, onide?" ychwanegai W. Williams. "Ië," meddai yntau, "dduwiol iawn; ond y mae hi yn bur arw am ddyweyd tipyn o gelwydd." "Sut, sut," gofynai Mr. Humphreys, "hen wraig dduwiol galwyddog? Mae yn swnio yn bur chwithig ar fy nghlust i. WILLIAM." "Ydyw, mi wn," ebe yntau, yr ydych chwi, Mr. Humphreys, wodi usio dyweyd y gwir erioed; ond am dani hi, yr oedd hi heb ei hegwyddori yn blentyn i ddyweyd y gwir; ac os dechreua plant ddyweyd celwydd yn ieuaingc, ni wna gras eu llwyr ddiddyfnu oddi-wrtho tra y byddent yma: ond fe wyr y Brenin mawr am danynt yn bur dda, ac y mae yn pasio heibio i rhyw bethau gweiniaid sydd yn ei blant. Fe faddeua y cwbl iddynt er mwyn Iesu Grist."
Gofynai y diweddar Barch. D. Jones, Treborth, iddo: "Sut yr ydych yn meddwl y byddwn ni yn y nefoedd, WILLIAM ELLIS?" "Wel, mi ddywedaf i ti," machgen i, "mi fyddwn fol y borchell bach yn nghafn y felin, yn nghanol y blawd, a'i geg o dan y pin; ni wychia fo yn ei fyw am ragor."
Gan nas gallwn ddyfod i ben ag ysgrifenu ei holl sylwadau bob yn un ac un, ni a derfynwn gan hyderu ein bod wedi cofnodi digon am dano i ddangos ei fod yn ddyn o athrylith, a bod yr athrylith hono wedi ei bedyddio i'r Yspryd Glan ac â thân.
Awn yn mlaen bellach at y trydydd peth a nodasom.
III. El Hynawsedd.
Yr oedd WILLIAM ELLIS mor llawn o natur dan ag ydoedd ei feddwl o athrylith. Ni fynai roddi tramgwydd i neb, a byddai mor ofalus rhag archolli teimladau ei gymmydogion ag a fyddai rhag gwneyd niwed corphorol iddynt. Heblaw ei fod yn un na roddai dramgwydd, nid yn fynych y cymerai efe dramgwydd ychwaith. Ac efallai fod yn ddigon anhawdd penderfynu pa un ydyw y rhinwedd mwyaf mewn dyn, peidio rhoddi ai yntau peidio cymeryd tramgwydd. Mae rhai dynion yn hawdd iawn eu tramgwyddo, cymerant dramgwydd oddi wrth bob peth. Rhaid gofalu sut i siarad â hwy, a sut i edrych araynt, rhag ofn i chwi eu briwio. Nid oes dim byd mwy difyrus na nursio plant bach—baby bach deunaw neu ugain modfedd o hyd, ac o saith pwys i ddeg o bwysau; mae o yn beth difyr! Ond, yn wir, y mae yn beth blinderus nursio plant mawr—baby mawr dwy lath o daldra, ne o wyth i ddeg ugain o bwysau—mae yn beth gwirioneddol flin, ne eto y mae yn rhaid gwneyd hyn gyda rhai dynion; ond nid oedd WILLIAM ELLIS yn un o honynt; a phe digwyddai, ar ryw dro siawns, iddo gael ei dramgwyddo, fe wnai yr edifeirwch sala' erioed y tro ganddo. Nid fel rhai nas gellir byth eu boddio yn edifarhau. Pe yr elech atynt wedi rhwygo eich dillad, a phridd ar eich pen, a chostroleidiau o ddagrau edifeirwch yn eich dwylaw; gan ddiystyru hwy a ddiystyrent yr oll. Clywsom am un yr oedd ei gymmydog wedi ei ddigio, a chymerwyd ef yn glaf. Ofnai y cymmydog iddo farw cyn iddynt gymodi, a phenderfynodd fyned i edrych am dano. Wedi myned, dywedai: "Mae yn ddrwg iawn genyf ddeall eich bod mor wael, ac yr wyf wedi dyfod yma i ofyn beth raid i mi ei wneyd er cael genych ysgwyd llaw â mi?"
"Wel," ebe y claf, "ewch i lawr wrth y gwely yma." Syrthiodd y cymmydog ar ei liniau yn y fan; yna taflodd y claf ei lygaid arno, a dywedai,— "Yn is na hyna.". Ymollyngodd yntau ar ei benclinoedd; edrychodd y claf arno drachofn, a dywedai eilwaith,—
"Yn is na hyna."
Ymollyngodd yntau ar ei hyd wrth ochr y gwely a gofynai,—"A ydwyf yn ddigon isel yn awr?"
Cododd yntau ar ei benelin, ac edrychodd dros yr erchwyn a dywedai yn lled anfoddog,—"Mae yna oleuni o danat eto."
Nid oedd yn bosibl i'r truan fyned yn ddigon isel i ddangos ei fod yn edifarhau; ac y mae i'r un yna bump o frodyr. Ond fol y dywedwyd eisioes, nid oedd WILLIAM ELLIS yn un o honynt.
Fel dyn mwynaidd, llariaidd, a hynaws, yr oedd WILLIAM ELLIS yn adnabyddus gan bawb, ac os digwyddai "lefaru yn arw," byddai yn rhaid iddo ymddieithro i'w frodyr cyn y gallai wneyd hyny. Gallwn adrodd hanesyn. neu ddau am dano i ddangos y byddai yn myned allan o'i ffordd gyffredin. O gylch y flwyddyn 1838, anogodd. Cymanfa y Gogledd ar fod diwrnod o ymprydio a gweddïo am yr Yspryd Glân i gael ei gadw trwy yr holl wlad. Cydymffurfiodd Maentwrog, fel lleoedd eraill, a'r cais, a hysbyswyd y Sabbath y byddai cyfarfod eglwysig am wyth yn y boreu, a chyfarfodydd i weddïo am ddeg, dau, a chwech yn yr hwyr, ynghyd ag anogaeth ar i bawb ym gadw rhag ymborthi. Yr oedd WILLIAM ELLIS, a hen frawd hynod o'r duwiolfrydig, yr hwn oodd gyfaill mynwesol iddo, o'r enw John Edward, ynghyd â brawd arall (gan yr hwn y cawsom yr hanesyn), yn dychwelyd gyda'u gilydd o'r cyfarfod ddeg o'r gloch. Ymddangosai y tri yn lled bruddaidd a digalon, a hyny yn bennf, mae yn debyg, am nad oedd dim cinio yn aros am danynt. Pan oeddynt yn ymadael oddiwrth eu gilydd, torodd John Edward ar y distawrwydd trwy ddyweyd yn lled sydyn,— "WILLIAM ELLIS, rhaid i mi gael bwyta dipyn ganol dydd yma, gan fod yn rhaid i mi fyn'd i ladd mawn tân y cyfarfod gweddi nesaf."
"Na, ni wiw i ti fwyta yr un tamaid, na lladd yr un fawnen heddyw, Jack."
"Wel, nis gwn yn y byd beth a wnaf," ebe yntau yn ol, "os na laddaf fi fawn, mi ladd Neli fi, a phwy fedr ladd mawn heb ddim bwyd?" ac ychwanegai, "ni waeth ini beth a ymprydiom nae a weddïom os na chawn ni 'anian dduwiol,' yn ol y byddwn yn y diwedd er pob peth."
"Trimmings yr anian dduwiol ydyw ympryd a gweddi," meddai WILLIAM ELLIS, "a lle gwael i ti feddwl fod genyt anian dduwiol os medri di fwyta a lladd mawn heddyw, ar ddydd y mae y Gymanfa wodi ei neillduo i ymprydio a gweddïo am yr Yspryd Glan."
Yr oedd y sylw yna yn ddigon oddiwrth WILLIAM ELLIS i wneyd yr hon frawd John Edward yn llyn dwfr. Syrthiodd ei wynebpryd, ac aeth ymaith yn athrist: ond nid aeth i'w dŷ ei hun; ymneillduodd i geunant oedd ger llaw, a dyna lle y bu yn gweddïo hyd ddau o'r gloch. Wedi ymneillduad John Edward, aeth WILLIAM ELLIS i mewn i dŷ y brawd arall, a dywedai wedi eistedd i lawr:
"Billa bach, mi fyddai yn well i ni gymeryd rhyw bigiad bach bob un, rhag i'n natur losgau gormod i addoli yn y prydnawn."
Ar hyn ymosododd ei gyfaill arno, a dywedodd,— "Wel, WILLIAM ELLIS, chwi yw y dyn rhyfoddaf welais i erioed, dyna chwi wedi tori calon yr hen frawd, a'i anfon i'r ceunant, lle na cha damaid i'w fwyta; ond dyma chwi yn bwyta eich hunan, ac yn fy anog innau i fwyta hefyd."
"Taw, taw, Billa bach," ebe yntau, "yr oedd eisiau argyhoeddi John Edward am bwysigrwydd ympryd a gweddi: dyna pam y darfu i mi ymddwyn mor llym ato fo. Mi wnaiff bod yn y ceunant am ddwy awr les mawr iddo; mi weddïa yn dda, gei di wel'd, yn y cyfarfod dau o'r gloch." Ac felly fu, fe weddiodd y tro hwn yn fwy hynod nag y byddai yn arfer o lawer iawn. Aeth WILLLAM ELLIS at y cyfaill arall ar ol i'r cyfarfod gweddi derfynu, a dywod— ai tan rwbio ei ddwylaw,—
"Wel, mi dalodd goruchwyliaeth y ceunant yn dda i'r hen frawd. Glywaist ti fel yr oodd o yn gweddïo?"
Y tro arall yr ydym yn ei gael yn llefaru yn arw, ac yn wir wedi myned i chwythu bygythion, ydoedd wrth y gŵr a'r wraig oodd yn byw yn y Tŷ Capel, Maentwrog. Clywodd eu bod yn son am fyned i Flaenau Ffestiniog i fyw, ac nis gallai feddwl am eu colli. Yr oodd y wraig yn un mor gymhwys i gadw tŷ capel, a'r gŵr mor ddefnyddiol gyda phob peth yr achos. Wedi clywed an hyn gofynodd iddynt, a oodd rhywbeth yn hyny? Dywedasent hwythau eu bod wedi gwneyd eu meddwl i fyny i symud. Ar hyn dechreuodd arnynt, a dywedai y byddai yr Arglwydd yn sicr o dori i gyfarfod â hwynt, am iddynt adael lle bach gwan, yr oeddynt mor ddefnyddiol ynddo, a meddwl am fyn'd i Ffestiniog lle yr oedd digon o bobl at bob peth. Yn mhen ychydig ddyddiau ar ol yr ymddiddan hwn, fe gyfarfyddodd y gŵr â damwain fechan yn y gwaith; cariwyd ef adref. Clywodd WILLIAM ELLIS am y ddamwain, ac aeth i fynu i dŷ y capel, er gweled sut yr oedd pethau yn bod. Wedi myned i mewn, gofynodd pa le yr oedd y gŵr; a hysbyswyd ef ei fod yn gorwedd ar y sofa yn y parlwr. Aeth yntau yn mlaen, ac estynodd ei ben trwy y drws, a gofynodd,—"Ai hyna a ge'st ti P———? Mae y Gŵr wedi bod yn llawer gwell wrthyt nag yr oedd wedi dangos i mi y byddai." Ar hyn trodd i fyned allan,— "Aroswch," ebe y gŵr, "beth sydd i gyfarfod â'r wraig eto, WILLIAM ELLIS?"
"'Dwn i ddim," ebe yntau, dan gerdded tua'r drws, "mae gan y Gŵr yr ydych chwi yn ei ddigio lawer of wiail yn ei fwndel."
Parodd ei fygythion a'i ymddygiad lawer o bryder i feddwl y ddau. Ond dywedasom yn barod, y byddai yn rhaid iddo ymddieithrio i allu llefaru yn arw; tynerwch oedd y mwyaf cydnaws ag ansawdd ei yspryd ef.
Byddai rhai yn meddwl fod tynerwch WILLIAM ELLIS yn rhwystr iddo wneyd cyfiawnder mewn achos o ddisgyblaeth eglwysig. Ond y mae llawer nad ystyrient ddim yn ddisgyblaeth gwerth son am dano, ond tori allan, a rhaid i hyny gael ei wneyd yn y modd mwyaf dideimlad. Y peth olaf a wnai efe fyddai diarddel, a phan yn gweinyddu y radd uchaf o gerydd eglwysig, byddai yn disgwyl i'r diarddeliad fod yn foddion o ras i'r trosoddwr; a byddai bob amser yn cadw golwg arno er gweled beth fyddai offeithiau y cerydd. Un peth fyddai yn achos i rai ameu ei fod yn rhy dyner ei galon i weinyddu disgyblaeth ydoedd,—y byddai bob amser yn arbed teimladau y troseddwr. Mae nwydau drwg lawer gwaith wedi trawsfeddiannu enw zel grefyddol; a thaiogrwydd natur afrywiog wedi ei alw yn blaender cristionogol. Peth arall fyddai yn gwneyd i rai ei ammheu yn hyn, ydoedd, y byddai bob amser yn rhoddi bob peth ammheus o blaid y troseddwr. Edrychai, nid ar y pechod a gyflawnwyd yn unig, ond ar yr amgylchiadau a'r demtasiwn o dan ba rai y cyflawnwyd y trosedd, a byddai yn cymeryd i ystyriaeth —cyn gweinyddu barn—pa fath ddygiad i fynu fyddai y troseddwr wedi ei gael. Ac y mae yn anhawdd i gyfiawnder gael ei weinyddu hob roddi lle i'r ystyriaethau hyn. Efallai mai y trosedd y byddai yn dangos mwyaf o dynerwch tuag ato, fyddai, "ieuo annghydmarus:" ond er hyny, credai yn ddiysgog ei fod yn drosedd, ac nad oedd dim i'w wneyd â'r troseddwr ond ei ddiarddel. Clywsom ef yn dyweyd, a hyny yn lled agos i ddiwedd ei oes, ei fod wedi cadw golwg ar briodasau o'r fath, a bod ganddo liaws o ffeithiau yn dangos fod Duw yn ei ragluniaeth yn gwgu arnynt. Tybiai ef, os byddai un o'r byd am gael cydmar bywyd yn proffesu, mai mwy diogel ydoedd i'r un oedd allan ddyfod i mewn nag i'r un oedd i mewn fyned allan. Dywedir iddo fyned i gymhell un dyn unwaith i fyned i'r seiat yn hytrach nac iddo achosi i'r ferch gael ei thori allan o'r eglwys. Ond gallwn fod yn sicr fod y dyn hwn yn "Gristion o fewn ychydig," onide ni buasai WILLIAM ELLIS yn ei gymhell i fyned i mewn.
Byddai am osgoi, hyd ag y byddai yn bosibl, dwyn pob trosedd i'r eglwys i'w gospi. Gweinyddodd lawer o geryddon mewn dirgel-fanau, lle na byddai neb ond y troseddwr ac yntau. Clywodd unwaith fod tair merch ieuangc a berthynai i eglwys Maentwrog wedi bod gyda rhyw grwydriaid a gymerant arnynt ddywedyd eu tesni. Aeth yntau atynt a gofynodd a wnant hwy alw yn ei dŷ, fod ganddo rywbeth o bwys i'w ddyweyd wrthynt. Addawsent hwythau fyned, os caent genad gan eu meistr. (Y pethau gwirion! nid oeddynt fawr feddwl beth oedd yn eu haros.) Dywedodd yntau y gofynai efe ei hunan am ganiatad iddynt, a chafodd hyny. Ac ar ryw brydnawn hwy a aethant yn ol eu haddewid. Anfonodd yntau bawb o'r teulu allan at ryw oruchwylion, ac wedi cau y drws ymaflodd yn y Beibl, a darllenodd bennod yn nghylch dewiniaid, a brudwyr; yna aeth i weddi daer dros y tair chwaer ieuangc oedd wedi troseddu, wedi hyny rhoddodd bennill i ganu. Ond nid oedd yn cael ei foddloni yn yr olwg arnynt, gan eu bod yn ymylu ar fod yn wamal. Cymerodd y Beibl a darllenodd bennod eilwaith, a gweddïodd drostynt drachefn, a pharhaodd i weddïo nes iddo ddeall ei fod wedi eu llwyr orchfygu, ac erbyn iddo godi oddiar ei liniau yr oedd golwg gyffrous arnynt. Wedi iddynt ganu hymn, gollyngodd hwynt ymaith heb son yr un gair wrthynt am eu trosedd. Beth a ddywedi di, ddarllenydd, am y dull hwn o weinyddu cerydd, cymeryd y trosoddwyr at y "gyfraith ac at y dystiolaeth," a'u cario mewn gweddi i bresenoldeb y Duw mawr; a'r cwbl mewn yspryd mor hynaws, fel yr oedd yn gallu canu yn addolgar yr un pryd? Hawild genym gredu y buasai yn llawer gwell gan y chwiorydd hyn, a gymerwyd yn y fath fodd i bresenoldeb yr Anfeidrol, ymfoddloni i ddigwyddiadau a helyntion y dyfodol tywyll ddyfod i'w golwg o un i un, fel y byddai i amser eu cario, na cheisio ymwthio i'w cyfarfod trwy gynnorthwy y rhai a gymerent arnynt ddywedyd tesni.
Yr oedd ei dynerwch y fath fel na allai oddef i ddim gael ei benderfynu yn ei eglwys gartref, y Cyfarfod Misol, nac mewn unrhyw le, a thuedd ynddo i archolli teimlad neb. Cofus genym i gyhoeddiad y diweddar Barchedig John Jones, Talysarn, a brawd arall nad oedd mor gymeradwy, gael eu darllen mewn Cyfarfod Misol unwaith, nid i ddyfod gyda'u gilydd, ond ar wahan; ac wodi ei darllen, gofynodd rhyw un a oedd cyhoeddiad y brawd arall wedi dyfod yn rheolaidd. Wrth ei gweled yn tywyllu ar ei achos, cododd WILLIAM ELLIS i fynu a gofynodd, "A ydyw cyhoeddiad John Jones yn rheolaidd? mi fyddai yn burion peth i ni wybod hyny?" Gwyddai WILLIAM ELLIS fod cyhoeddiad y ddau wedi dyfod yn yr un modd, ac er mwyn cael John Jones, gollyngwyd y llall heibio hefyd.
Dro arall yr oedd brawd ieuangc o bregethwr, ac y bu ganddo ef law yn ei godi, wedi troseddu y deddfau trwy fyned ar daith i sir arall, cyn iddo fyned trwy ei sefyllfa prawf fel pregethwr gartref. Pan y daeth yn ol, galwyd ef i gyfrif yn y Cyfarfod Misol, ond nid oedd ganddo un gair i'w ddyweyd dros ei ymddygiad; ac wrth weled rhai o'r hen frodyr yn bwrw arno, cododd WILLIAM ELLIS i fynu. ac agorodd ei enau dros y mud, a dywedai yn bur ddiniwed, "Fe ddaeth y brawd ataf fi un diwrnod, a dywedai ei fod yn myned i'r fan a'r fan, yn y sir hono, i edrych am ryw berthynasau iddo, a beth ddarfu i mi ond ei anog i ddyweyd tipyn am Iesu Grist ar hyd y ffordd," ac ychwanegai, "ni feddyliais i erioed fod drwg," a thrwy ei fedrusrwydd ef i roddi gwedd mor grefyddol ar yr afreoleidd-dra, fe ollyngwyd y troseddwr yn rhydd heb na charchariad na hard labour.
Byddai rhai yn cymeryd mantais annheg weithiau, ar ei hynawsedd a'i ddiniweidrwydd, trwy geisio ganddo wneyd yr hyn nas mynai. Anfonodd ei feistr tir ato unwaith i ofyn a wnai efo beidio myn'd o'i dŷ ar brydnawn Sabbath, am fod arno eisiau iddo fyned gyda dieithriaid o Loogr i ddangos iddynt y rhaiadr oedd heb fod yn mhell oddiyno. Achosodd y cais annuwiol hwn bryder nid bychan iddo; ni fynai ar un llaw ddigio y boneddwr oedd mor garedig iddo bob amser, ac ar y llaw arall arswydai rhag y fath waith ar ddydd yr Arglwydd. Ymneillduodd i ofyn cyfarwyddyd ei Dad nefol; ac yn fuan wedi iddo ddechreu gweddïo, clywai un o'r ddwy chwaer yn gwaeddi,—
"Wil, p'le 'r wyt ti, tyr'd yma yn y munud, mae yma rhyw rai dy eisiau."
Cododd WILLIAM ELLIS oddiar ei liniau, ac aeth at y tŷ, a phwy oedd yno ond y boneddwyr yn aros am dano. Aeth gyda hwy, ac arweiniodd un o honynt at y llyngelyn. Sylwai y boneddwr fod yr olygfa yn frawychus, a bod y llyn yn ddwfn, a golwg ferwedig arno.
"Ydyw, Syr," obe yntau, "ond llyn o ddwfr lled ddiniwed ydyw hwn; llyn o dân fel hyn fydd yn ofnadwy i fod ynddo."
"Ië," atebai y boneddwr yn lled sarug.
"Wal, Syr," meddai WILLIAM ELLIS, a'i lygaid yn tanio gan eiddigodd dros sancteiddrwydd y Sabbath, "i lyn o dan a brwmstan berwedig y mae holl halogwyr Sabbathau Duw i gael eu bwrw i ferwi am dragwyddoldeb."
Brawychodd y bonoddwr yn ddirfawr, a dywedai wrth WILLIAM ELLIS y gallai fynod yn ol ei hunan. Felly gollyngwyd WILLIAM ELLIS yn rhydd, a chyfeiriodd ei gamrau at gapel uchaf Maentwrog, gan werthfawrogi y cyfleusdra oedd wedi ei gael i ddyweyd gair wrth y boneddwr annystyriol, ar gadwraeth y Sabbath; ac ar yr un pryd gadw ar dir heddychol a'i feistr tir, ac a'i gydwybod ei hunan hefyd.
Yr oedd ganddo y teimladau gorau at y gwahanol enwadau oedd yn yr un gymydogaeth ag ef, ac yr oedd yn anhawdd iddo beidio bod felly, pan y cofiom fod tri enwad yn cyd-gyfarfod yn ei dy ef ei hunan, yn mhersonau ei chwiorydd ac yntau. Dyna y rheswm penaf na buasai gan y Methodistiaid Calfinaidd gapel yn mbentref Maentwrog, ddeng mlynedd ar hugain yn gynt. Buasai yn hawdd i WILLIAM ELLIS gael tir i adeiladu un arno, ond nid oedd yn gofalu llawer am hyn, gan fod digon o le yn y capelau oodd yno yn barod. Ni byddai byth yn caru gweled rhai yn rhedeg oddiwrth y naill enwad at y llall, a hyny am y gwyddai fod naw o bob deg o'r cyfryw symudiadau yn digwydd, nid oherwydd fod cyfnewidiad yn eu barn am athrawiaethau yr efengyl, ond yn hytrach i osgoi ceryddon eglwysig am ryw droseddau fyddai wedi eu cyflawni. Cofus genym glywed am ryw ddau blentyn oedd yn cydchwareu unwaith, ac fe ddigwyddodd i un o'r ddau syrthio i'r llaid, ac yna dechreuodd grio, a chrio yr oedd o. Yna gofynodd ei gydymaith ieuangc iddo, "Beth yr wyt ti yn crio, dywed?" "Ond ofn fy mam sydd. arnaf," ebe y llall. "Oes gen ti ddim nain dywed?" gofynai ei gydchwareuwr. Mae yn ymddangos fod hwn wedi cael ty nain yn lloches da rhag dialodd y fam. Felly yr oedd WILLIAM ELLIS wedi sylwi y byddai llawer fyddai yn troseddu yn erbyn eu mam eglwys yn chwilio am dŷ nain yn rhywle i ochelyd y cerydd. Ac yn wir fe fu un yn ddigon gonest i ddyweyd, pan yn chwilio am aelodaeth gyd ag enwad arall, mai y gair hwnw oedd ar ei feddwl, "Pan y'ch erlidiant mewn un ddinas, ffowch i un arall." Ond ni fynai WILLIAM ELLIS roddi wyneb i beth fel hyn un amser. Dywedai wrth wraig oedd yn gofyn am aelodaeth eglwysig gyda hwy yn y capel uchaf, Maentwrog, yr hon oedd yn aelod gyda'r Annibynwyr yn y capel isaf—"Ond i ti ddyfod a phapyr bach oddiwrth y brodyr o'r capel isaf, mi wnawn ein goreu glas i ti wed'yn, hon a hon bach," ac ychwanegai,—"yr un pethau ydym ni." Da fyddai i'r gwahanol enwadau sydd yn y wlad, gymeryd dalen o'i lyfr ar hyn. Ni byddwn byth yn gweled y gwahanol enwadau crefyddol yn taflu mwy o ddirmyg ar eu gilydd, nac yn eu gwaith yn peidio cydnabod disgyblaeth eglwysig eu gilydd.
Wrth derfynu ein hadgofion am WILLIAM ELLIS, mae yn rhaid i ni roddi un linell eto yn y darlun, cyn y gall y rhai sydd yn ei gofio ei adnabod ynddo. Mao yn ddrwg genym fod yn rhaid i ni ddyweyd dim a duedda i anurddo dim arno. Ond gan mai darlun dyn ydym yn ei geisio ei dynu, nis gellir ei ddisgwyl heb ei golliadau; yr ydym yn cyfeirio at y duedd ymarhous oedd ynddo gyda phob peth, Diffyg prydlondeb oedd ei ddiffyg mawr ef. Byddai ar ol gyda phethau y byd a chrefydd, yr oedd tuedd i ymdroi fel greddf gref ynddo gyda phob peth. Pan yn cario llechau o Ffestiniog, efe fyddai yr olaf i fyned i'r gwaith bob dydd. Byddai yr olaf yn cneifio ei ddefaid, ac yn casglu ei gynhauaf i ddiddosrwydd. Yr oedd yr un fath gyda phethau crefydd; byddai ar ol yn myned i'r Gymanfa, y Cyfarfod Misol, ac i'r moddion wythnosol yn ei gartref. Byddai tua chanol y seint bron yn ddieithriad pan yr elai efe i mewn, a gwelwyd ef rai gweithiau yn myned yno pan y byddont ar ymadael. Yr oedd cymydog iddo o'r enw Richard Llwyd yn myned i'r saiat un noson yn adeg y cynhauaf gwair, ac fe welai WILLIAM ELLIS yn gweithio yn bur brysur; aeth ato, a dywedodd wrtho,—
"Os ewch chwi i'r capel, mi arosaf fi i weithio yn eich lle; mi 'newch chwi ryw les yno." Derbyniodd yntau y cynyg hwn, ac ymaflodd yn ei coat, a chylymodd ei llewis o dan ei ên, ac i'r capel ag ef. Ond erbyn iddo gyrhaedd yno yr oedd y seiat ar derfynu. Gan iddo ddyfod i mewn, gofynai ei gyd—swyddog, mewn tôn oedd yn ymylu ar fod yn sarug, "A oes genych chwi air i'w ddyweyd WILLIAM ELLIS, ne' mae hi yn bryd terfynu?" "Nac oes dim byd heno frodyr bach," ebe yntau; ac ychwanegai, "dyfod yma yn lle Richard Llwyd ddarfu mi heno, mae yntau yn y gwair yn fy lle inau. Mae yn dda iawn gen i eich gwel'd ch'i, fe allai na chaf fi glywed neb byth eto yn son am Iesu Grist." Ond torodd y blaenor arall ar ei draws, a dywedodd, "Ewch dipyn i weddi WILLIAM ELLIS heb ganu, yr ydym ni yma er's hir amser bellach."
"Gawn ni ddim canu!!" ebe yntau, dan godi ar ei draed, a rhoddi allan yr hon bennill hwnw yn dra offeithiol—
"Mi gana am waed yr Oen
Er maint i'w 'mhoen a 'mla"."
A dywedai y rhai oedd yn bresenol na bu yno ddim byd tebyg i waith WILLIAM ELLIS yn ledio y pennill yn y seiat y noson hono.
Os byddai iddo daro ar bregethwr wrth ei fodd i ymddiddan âg ef, ni byddai iddo byth bron fyned o dŷ y capel, ac yn wir fe fyddai y pregethwyr yn anfoddlawn iawn i'w ollwng ymaith. Arosodd yn nhŷ capel Maentwrog un noswaith hyd yn agos i unarddeg o'r gloch; ac ar yr awr hwyrol hono dyma fe yn dyweyd wrth wraig y tŷ, "Wel, mae yn bryd i minau fyn'd bellach, mae arnaf eisiau myned i edrych am ryw frawd claf i Ffestiniog." "Hono, WILLIAM ELLIS," ebe y wraig, "mae wedi myned yn hwyr iawn."
"O na," ebe yntau, "mae'n rhaid i mi fyn'd, yr wyf wedi addaw fowl iddo at ei ginio yfory."
Ar hyny aeth ymaith tua Brontyrnor, ac erbyn cyrhaedd yno yr oedd pawb yn eu gwelyau; galwai yntau ar ei chwaer,
"Begi, p'le mae y ceiliog bach?"
"Both wnai di a fo heno, Wil, dos i dy wely bellach," ebe hithau.
"Na," abe yntau, "mae yn rhaid i mi ei gael, yr wyf wedi addaw iyn'd ag ef i Mr. W—— Ffestiniog," pellder o gylch tair milldir. Daliodd y ceiliog bach, ac aeth ag ef ymaith; erbyn cyrhaedd y tŷ hwnw, yr oedd pawb yn dawel yn mreichiau cwsg, ond galwodd hwy i fynu, a chyflwynodd yr anrheg i'r claf, ac yna dychwelodd yn ol tua thre'. Y rheswm dros ei fod wedi gwneuthur y fath ymdrech ydoedd ei fod wedi addaw myned ag ef y diwrnod hwnw, ac yr oedd WILLIAM ELLIS yn meddwl ond iddo fyned cyn cysgu ei hunan, y byddai yn cadw ei addewid beth bynag fyddai hi o'r gloch.
Byddai ganddo resymau hynod iawn dros fod gymaint ar ol yn myned i'r capel: weithiau dywedai fod y ffordd yn mhell, heb gofio fod yr un pellder bob amser rhwng y tŷ a'r capel; pryd arall dywedai fod y clock yn slow iawn; a phan y gofynid iddo paham na wnai ei yru, dywedai, "Natur colli sydd ynddo, pe bawn yn ei yru, byddai yn yr un man yn union deg." Fe feddyliodd Mr. Humphreys am roddi cerydd caredig iddo am ei fod gymaint ar ol yn myned i'r moddion. Gofynai iddo wrth holi am hanes yr achos yn y lle, ar adeg eu Cyfarfod Misol,— "A ydyw y frawdoliaeth yn dyfod at eu gilydd yn dda, WILLIAM, i'r moddion wythnosol?"
"Ydynt, yn dda iawn, Humphreys bach," ebe yntau.
"A ydynt yn dyfod yn lled brydlon?" gofynai y gweinidog drachefn.
"Wel, Mr. Humphreys bach," ebe yntau, yr ydym yn myned o bob cyfarfod gyda'n gilydd yn daclus." Fe welodd Mr. Humphreys nad oedd dim yn well iddo wneyd na gadael llonydd iddo.
Collasom ef pryd nad oedd neb yn meddwl ei golli. Mae yn wir fod ei iechyd wedi gwaelu er's blynyddoedd; dioddefai ar brydiau boenau arteithiol yn ei gyllau. Yr oedd trwy hyn yn ymgynefino âg angau, a byddai yn hawdd ganddo ers talm droi cyfeiriad ei ymddyddanion at awr ei ymddatodiad. Ni chyfyngwyd ef i'w wely ond am ychydig amser; cael gwaed i fyny fu yn angau iddo. Yr oedd yn hynod ymostyngar i ewyllys Duw yn ei gystudd diweddaf. Yr unig beth y cwynai o'i herwydd ydoedd na buasai yn cael ei ollwng. Dywedai wrth holi gŵr ieuangc yn nghylch amser marwolaeth ei fam, yr hon oedd at ei oed ef.
"Y mae hi wedi cael braint fawr rhagor fi, cael myn'd i'r nefoedd y pryd yr aeth hi, a minau yn cael fy nghadw yma rhwng dannedd cythreuliaid."
Nid oedd yn ofni dim gyda golwg ar ddiogelwch ei gyflwr. Pan y dadebrodd o un o'r llewygfeydd oedd yn ei gael—pan y byddai gwaed yn d'od i fynu iddo—gofynai i'r rhai oodd yn yr ystafell ar y pryd ganu y pennill hwnw—
"Ymado wnaf a'r babell
'R wy 'n trigo ynddi 'n awr."
Aeth ei hen gyfaill mynwesol W. Williams, Tan-y-grisiau, i edrych am dano ychydig oriau cyn ei farwolaeth, a gofynodd iddo pa fodd yr oedd hi rhyngddo â'i Arglwydd:
"Nid oes yna ddim ymrafael, ai oes, WILLIAM ELLIS?"
"O, nag oes," ebe yntau, "y mae hi yn bur dda rhyngon ni. Cofia am danaf pan ai ar dy liniau."
"Y mae arnaf awydd gofyn i'r Arglwydd am iddo beidio eich cymeryd i ffwrdd yn awr," meddai ei gyfaill.
"Ni waeth gen i amcan pa bryd," ebe yntau, "y mae hi yu burion rhyngom ni yrwan. Ei a ewyllys Ef wneler am hyny. Cofia ofyn am iddo beidio tywyllu arnaf, mae ymn ambell gwpanaid o uffern yn dyfod, ond ydyw hi ddim llawer o beth—dim ond tipyn i folysu cwpaneidiau eraill. Y gair hwnw chwalodd y niwl neithiwr,— Mewn ing y byddaf fi gydag ef.' "
"Gair wedi ei roddi i'r Salmydd ydyw yr addewid yna; a ydych chwi yn meddwl fod rhyddid i chwi i ymuaflyd ynddi?" gofynai ei gyfaill.
"Beth wnawn i, William bach," gofynai yntau, "ond ymaflyd mewn rhywbeth, a minau yn myn'd i foddi. Os cai dithau ryw scrip o'r gair, cydia ynddo am dy fywyd, y mae yn siwr o dy ddal di. Ni welais i mo hono erioed yn llai na'i air, ond bob amser yn llawn cystal, os nad gwell."
Yn fuan ar ol yr ymddiddan, bu i WILLIAM ELLIS farw, a'i ddwyn gan yr angylion i fynwes Abraham.
Ddarllenydd, a elli di feddwl am olygfa brydferthach na phechadur a'r efengyl wedi gorphen ei gwaith arno; ei ewyllys ef wedi ymgolli yn ewyllys Duw? Wel, yr ydym ni yn ei golli, a'r olwg olaf ydym yn ei gael arno ydyw. yn ymlithro yn dawel i dywyllwch y glyn, a'r addewid,- "Mewn ing y byddaf fi gydag ef," yn llon'd ei freichiau. Hoffus ddarllenydd, a gawn ni wrth derfynu ein hadgofion am un "o heddychol ffyddloniaid Israel," gyfammodi â'n gilydd i dori i gyfarfod â WILLIAM ELLIS wrth orsedd Duw?
"A boed i Ben yr eglwys roi
Blaenoriaid cymhwys lu,
A deuparth o'r un Yspryd oedd
Yn llenwi y rhai a fu."
DIWEDD.
WREXHAM: ARGRAFFWYD GAN HUGHES AND SON.
Bu farw awdur y gwaith hwn cyn 1 Ionawr, 1924, ac mae felly yn y parth cyhoeddus ledled y byd gan fod yr awdur wedi marw ers dros 100 mlynedd yn ol.