Ysgolfeistriaid Mr Charles o'r Bala/Y Parch Daniel Evans, y Penrhyn

Y Parch Robert Evans, Llanidloes Ysgolfeistriaid Mr Charles o'r Bala

gan Robert Owen, Pennal

Y Parch Thomas Owen, Wyddgrug


PENOD VI.

Y PARCH. DANIEL EVANS, Y PENRHYN.

Dyddiadur Mr. Gabriel Davies, y Bala—Bore oes Daniel Evans—Olwynion Rhagluniaeth—Angel yn talu dyled—Dysgu y plant heb eu curo—Tro cyfrwys yn y Gwynfryn—Yn pregethu y tro cyntaf, yn 1814—Yn yr ysgol, yn Ngwrecsam—Yn priodi, ac yn ymsefydlu yn Harlech—Fel pregethwr—Yn oen ac yn llew—Yn ysgrifenydd Cyfarfod Misol Gorllewin Meirionydd—Gweithrediadau y Cyfarfod Misol yn ei amser—Blynyddoedd olaf ei einioes.

DECHREUODD amryw o'r hen Ysgolfeistriaid eu gyrfa yn ngwasanaeth ac o dan arolygiaeth Mr. Charles, y rhai a barhasant i gadw yr ysgolion ymlaen yn yr un dull ac yn ddarostyngedig i'r un rheolau, dros rai blynyddau ar ol ei farwolaeth ef. Cymerai yr eglwysi, a'r dynion blaenaf yn y gwahanol ardaloedd, y gorchwyl mewn llaw i'w parhau cyhyd ag y ceid moddion i'w cynal. Yn Nyddiadur Mr. Gabriel Davies, y blaenor haeddbarch o'r Bala, am y flwyddyn 1816, ceir Rhaglen o waith Cyfarfod Misol Sir Feirionydd, yr hon, mae'n debyg, a fwriedid ei rhoddi yn llaw y llywydd, pwy bynag fyddai; a'r chweched mater ar y rhaglen ydyw, Hanes yr Ysgolion Rhad, a'r rhai Sabbothol. Golygid felly, yn ddiamheu, fod y brodyr yn ei ystyried yn fater o angenrheidrwydd i gario ymlaen yr ysgolion. Daeth amryw o'r dynion a ddechreuasant eu gyrfa fel athrawon symudol, ar gyflog bychan yn y flwyddyn, yn ddefnyddiol iawn gyda chrefydd mewn cylchoedd eraill. Un o'r cyfryw oedd gwrthddrych y sylwadau yn y benod hon.

Mab ydoedd Daniel Evans i John a Jane Evans, Llangower, ger llaw y Bala. Yr oedd yn frawd i'r Parch. Robert Evans, Llanidloes, yr hwn y gwnaed crybwyllion am dano eisoes. Ganwyd ef Awst zofed, 1788. Yr oedd yn ieuengach. o bedair blynedd na'i frawd Robert Evans. Dygwyd y ddau i fyny o'u mebyd gyda'r Annibynwyr, yn ol crefydd eu rhieni; symudodd y ddau i'r Bala; ymunodd y ddau â'r Methodistiaid. Cydnabyddai Daniel yn ddiolchgar ei fod wedi ei ddwyn i fyny o'i febyd ar aelwyd grefyddol. Ystyriai hyn yn un o freintiau penaf ei fywyd. Yr oedd rhyw dynerwch mwy na'r cyffredin ynddo er yn fachgen. Prawf o hyn ydoedd, ddarfod iddo gael ei osod i wasanaethu mewn ffermdy, ac iddo fethu aros yno ond am dymor byr yn unig: gadawodd y lle, a dychwelodd adref, o herwydd fod y teulu lle yr arhosai yn arfer llwon a rhegfeydd. Hawdd iawn y gallasai y rhai a adnabyddent Daniel Evans, mewn blynyddoedd addfetach, gredu yr hanesyn hwn am dano.

Ni ddywedir beth a'i dygodd ef i drigianu i dref y Bala; ac hwyrach, o ran hyny, na bu yn aros yn y dref o gwbl, oblegid y mae Llangower yn agos i'r Bala, ac yr oedd tŷ ei rieni yn nes drachefn. Ymunodd, modd bynag, â'r Methodistiaid yno pan yn un-ar-bymtheg oed. Dygwyd ef trwy hyn i sylw Mr. Charles, a chan fod y gwr da yn ei weled yn ddyn ieuanc crefyddol a gobeithiol, cyflogodd yntau hefyd fel y gwnaethai a'i frawd o'i flaen, i fod yn un o athrawon yr Ysgolion Cylchynol. Ugain oed ydoedd pan ddechreuodd ar y gwaith fel athraw, a blwyddyn union ar ol ei frawd y dechreuodd, sef yn y flwyddyn 1808. O chwech i ddeg oedd gan Mr. Charles o ysgolfeistriaid yn ei wasanaeth y flwyddyn hon, ac yr oedd y ddau frawd o Langower, Robert Evans a Daniel Evans, yn ddau o honynt. Bu Daniel Evans yn cadw yr ysgol gylchynol yn y lleoedd canlynol—a digon tebyg mewn lleoedd eraill hefyd—Llanarmon Dyffryn Ceiriog, Rhiwlas, Llandrillo, Llangwm, Dyffryn Ardudwy, Gwynfryn, Harlech, Penrhyndeudraeth.

Y me olwynion Rhagluniaeth, wrth edrych arnynt yn troi ymlaen yn y dyfodol, yn dywyll ac anesboniadwy; nis gŵyr dyn yn nyddiau ei ieuenctyd yn y byd i b'le yr arweinir ef; ond wrth edrych yn ol ar gwrs ei fywyd, gwel fod y llwybrau dyrus i gyd yn oleu, wedi eu trefnu yn y modd doethaf. Mae y ddau lanc o Langower yn cael eu hanfon gan Mr. Charles i gadw yr ysgolion symudol, o fewn blwyddyn i'r un amser, i gwr isaf Sir Drefaldwyn, heb ddim ond cefnen o fynydd rhwng eu llwybrau—un yn cychwyn trwy Lwyneinion, dros y Berwyn, i Langynog; a'r llall trwy Landrillo, dros y Berwyn, i Lanarmon. A phan oedd Daniel yn y Rhiwlas, yr oedd o fewn cylch terfynau maes llafur ei frawd, Robert Evans. Ond trwy ryw foddion neu gilydd, y maent yn ymwahanu i wahanol gyfeiriadau, y naill yn cael ei arwain i dreulio rhan helaethaf ei oes yn Sir Drefaldwyn, a'r llall yn cael ei arwain i dreulio ei oes yntau i'r rhan Orllewinol o Feirionydd.

Pan ddechreuodd Daniel Evans ar ei waith fel ysgolfeistr yr oedd yn lled isel ei amgylchiadau, methai a chael y ddau pen i'r llinyn ynghyd. Yn yr amgylchiadau hyn yr oedd pan yn cadw yr ysgol yn y Rhiwlas, ei logell yn wâg, a'i wisg yn llwm. Yn ei gyfyngder, anturiodd ofyn i'w chwaer oedd yn byw yn y Bala, am fenthyg haner gini, yr hon yn garedig a'i rhoddodd iddo, ar yr amod iddo eu talu yn ol at y rhent. Yr oedd amser y rhent yn nesu, ac ni feddai yntau foddion i'w talu yn ol fel yr addawsai, a pharai hyny iddo dristwch mawr. Yn hollol ddamweiniol, modd bynag, yn ei drallod mawr, arweiniwyd ef dros gefnen o fynydd, a thra yn myned y ffordd hono, tynwyd ei sylw at bapyr gwyn ar lawr, ac wedi ei agor yr oedd o'i fewn haner gini. Ac er iddo roddi pob hysbysrwydd ynghylch yr arian, ni ddaeth neb i'w ceisio. "Cefais fel hyn," meddai ef ei hun, "fodd i dalu fy nyled gan angel." Dywedai wrth ei deulu ychydig cyn marw, na fu arno ddim eisiau dim ar ol y tro hwn, er iddi fod yn brin arno lawer gwaith.

Dywed Mr. Morris Davies, blaenor adnabyddus yn Llanrwst, iddo glywed y Parch. Daniel Evans ei hun yn adrodd yr hanes uchod, ac y mae dipyn helaethach fel ei hadroddir ganddo ef. Fel hyn y dywed Mr. Morris Davies:—Yr oeddwn yn fachgen ieuanc 17eg oed pan y clywais yr hen weinidog hybarch yn adrodd yr hanes yn nhy capel Harlech, y lle yr oedd ef a'i deulu yn byw y pryd hwnw. Yr oeddwn yn digwydd cael y fraint o fod yno ryw brydnawngwaith gyda'r gwr yr oeddwn yn ei wasanaeth, ac Evan Thomas, Pen'rallt, hen flaenor yn eglwys Harlech y pryd hwnw, yn cael cwpanaid of de ar ol bod mewn odfa rhyw wr dieithr yn y prydnawn. Yr oedd Seiat yn Harlech y noswaith hono, a dyna y rheswm ein bod yn aros yno. Ar ol bwyta, trodd yr ymddiddan rhwng y brodyr rywfodd, nas gallaf yn awr gofio, at ofal Duw am ei bobl pan y byddont yn ymddiried ynddo, a dywedodd Daniel Evans yr hanes am dano ei hun. "Yr oeddwn," meddai, "wedi myned mor llwm fy ngwisg fel yr oedd arnaf gywilydd myned o gwmpas ar y Sabbothau, a chefais fenthyg dwy bunt gan fy chwaer i brynu dillad; ond yr oeddwn wedi addaw eu talu yn ddidroi yn ol iddi at y rhent, a mawr oedd fy mhryder am fodd i gyflawni fy addewid. Nesäi yr amser penodedig, ac nid oedd yr arian yn dyfod o unman, er gweddio a disgwyl am ymwared o rywle; eto dal yn dywyll iawn yr oedd hi arnaf, ac erbyn i'r amser dd'od i ben nid oedd genyf ond haner penadur, yn lle dwy gyfan i fyned i'm chwaer i'r Bala. Bum yn petruso yn hir y diwrnod cyn y rhent, pa un a wnawn ai myned ai peidio. Ond ar ol hir ystyriaeth, bernais y byddai yn well i mi fyn'd i'r Bala gyda hyny oedd genyf. Felly cychwynais dros y mynydd yn hynod drallodus fy meddwl. Ac yn rhywle ar y ffordd mewn lle anial. lle nad oedd ond Duw a dafad, troais at ryw graig i orphwys. Aethum ar fy ngliniau, a thywelltais fy nghalon gerbron fy Nhad Nefol; a phan yn cychwyn oddiyno i fy siwrna gwelwn. ar lawr o fy mlaen yn disgleirio yn mhelydrau yr haul sofren a haner. Dychrynais, ac aethum rai camrau ymlaen gan eu gadael. Ail feddyliais, a throais yn ol a chodais hwy. Bellach. ni wyddwn beth i'w wneyd. Tybiwn weithiau mai rhyw angel oedd wedi d'od a hwy yno yn ddistaw. Pryd arall ofnwn mai rhyw fugail tlawd oedd wedi eu colli, ac mai fy nyledswydd oedd eu rhoddi i ryw un i'w cadw nes rhoddi hysbysrwydd, fel y gallo eu gwir berchenog eu cael. Yn llawn cynwrf meddwl gan bethau fel hyn y cyrhaeddais dref y Bala. Penderfynais ymgynghori â Mr. Charles, a dywedais yr oll wrtho, gan ofyn iddo beth fyddai oreu i mi wneyd â'r arian. Dywed- odd yntau, 'Credu yr wyf mai dy Dad Nefol a'u hanfonodd i ti, Daniel, ac na phetrusa dalu â hwy dy ddyled i'th chwaer.' 'Aros yma am funyd,' ebe fe wed'yn, 'deuaf yn ol yma atat. yn union deg.' Ac felly y daeth, a boneddwr dieithr i mi gydag ef, a gofynodd Mr. Charles i mi adrodd yr hanes fel yr oedd wedi digwydd. Ac fel yr oeddwn yn adrodd, dylanwadai yr hanes yn fawr ar deimladau y boneddwr. Yr oedd yn wylo yn hidl, ac aeth i'w logell, a rhoddodd bapyr pum' punt yn anrheg i mi." A dywedai Daniel Evans na fu arno brinder mawr am arian byth ar ol hyny.

Ymhen pum' mlynedd wedi dechreu ar ei waith gyda'r ysgol symudol, sef yn 1813, y daeth gyntaf i Benrhyndeudraeth i gadw ysgol. Mae yn debyg iddo aros yno fwy na blwyddyn y tro hwn. Yr oedd yn meddu ar gymhwysder neillduol i fod yn ysgolfeistr yn yr oes yr oedd yn byw ynddi. Nodwedd yr oes oedd fod yn rhaid curo yn ddidrugaredd; derbyniai pob plentyn ddeugain gwïalenod ond un, pa un bynag fyddai achos yn galw ai peidio. Ond medrai Daniel Evans ddysgu y plant trwy eu denu, ac heb eu curo. Yr oedd y fath addfwynder yn ei natur, anhawdd ydyw credu y gallasai ddefnyddio y wïalen, pe buasai y brenin Nebuchodonosor yn gorchymyn. Yr oedd yn boblogaidd iawn gyda'r plant oblegid ei hynawsedd, ac enillai hefyd gefnogaeth a chydweithrediad eu rhieni, ar gyfrif yr un rhesymau. Yr oedd amryw hen bobl yn byw yn y Penrhyn, yn bur ddiweddar, y rhai a'i cofient yno yn cadw ysgol y tro cyntaf, a thystiolaeth unfrydol y cyfryw ydoedd fod galar mawr yn y Penrhyn y diwrnod yr oedd Daniel Evans yn ymadael. Hebryngai nifer mawr o bobl a phlant ef ran o'r ffordd, wylai y plant, ac wylai y bobl, ac nid yn fynych y gwelwyd cymaint o wylo ar ymadawiad neb â'r diwrnod hwnw.

Bu yn cadw ysgol hefyd yn y Gwynfryn, yn agos i Ddyffryn Ardudwy, yn amser Mr. Charles, neu ymhen ychydig ar ol ei farw. Byddai y plant yn hoff o hono yno, ar gyfrif ei dynerwch a'i addfwynder; ni fynent er dim ei golli o'r ardal. Un o'i ysgolheigion a adroddai yr hanesyn canlynol i brofi hyny: Wedi dal y plant ar fai un diwrnod, cymerai Daniel Evans arno ei fod yn ymadael o'r ardal. Y plant yn gweled hyny a ddechreuasant wylo. Ond nid oedd dim yn tycio, casglodd yr ysgolfeistr y gwahanol bethau oedd ganddo ynghyd, ac a'u gwnaeth yn becyn, i osod argraff ar eu meddwl ei fod yn benderfynol o ymadael. Dechreuodd un oedd yno mewn oed, pa fodd bynag, eiriol dros y plant, ac addawodd fyned yn feichiau na fyddent ddim yn blant drwg mwyach. Wnai hyny mo'r tro, heb gael dyn arall o'r pentref i roddi ei air drostynt; ac wedi cael dau i ymrwymo yn feichiafon na byddai y plant ddim yn blant drwg mwyach, addawodd aros yno am dymor yn hwy. Felly, trwy gyfrwysdra a diniweidrwydd yr ysgolfeistr addfwyn, crewyd diwygiad yn y plant o hyny allan. Yr un a addroddai yr hanesyn uchod ydoedd, Samuel Jones dduwiol a nefolaidd, yr hwn a fu yn flaenor eglwysig am dros ddeng mlynedd ar hugain, ac yn flaenor y gân yn Eglwys y Gwynfryn, am 55 mlynedd. Bu farw Ebrill 23,1890, yn 81 mlwydd oed. Yr oedd ef yn llygad-dyst o'r drafodaeth rhwng yr ysgolfeistr a'r plant yn y Gwynfryn.

Yn y Penrhyn y dechreuodd Daniel Evans bregethu, yn y flwyddyn 1814, a hyny yn bur ddi-seremoni. Yr oedd yn perthyn i Eglwys y Penrhyn y pryd hwn ddau flaenor pur hynod, Ellis Humphreys a Robert Ellis. Yr oedd gair y ddau hen flaenor yn ddeddf ar bob peth yn yr Eglwys. Un nos Sabboth, yn y flwyddyn uchod, wedi myned i'r cyfarfod gweddi, daeth y ddau hen flaenor, Ellis Humphreys a Robert Ellis, at yr ysgolfeistr, a dywedasant wrtho, "Rhaid i ti bregethu i ni heno, Daniel." "Na, yn wir," meddai yntau, "Nis gallaf; ni fum i erioed yn pregethu, nac yn meddwl am hyny yn awr, ychwaith." "O, medri, o'r goreu," meddynt hwythau; "Ni dy helpwn ni di." Gwthiasant ef i'r pulpud, a dywedasant, "Canmol dy oreu ar Iesu Grist, Daniel bach." Yn cael ei orfodi fel hyn, anturiodd i dreio, a chafodd hwyl pur dda y tro cyntaf. Torodd un o'r chwiorydd allan i orfoleddu. Ar y diwedd, cyfododd Ellis Humphreys i fyny i gyhoeddi, a'r peth cyntaf a ddywedodd ydoedd, "Bydd Daniel yma yn pregethu eto y Sabboth nesaf." Addefai ef ei hun fod yn dda ganddo glywed yr hen flaenor yn ei gyhoeddi, a thybiai ei hun yn glamp o bregethwr. Bu yn ddiwyd ar hyd yr wythnos ddilynol yn parotoi at bregethu drachefn; ac erbyn nos Sadwrn, yr oedd y bregeth wedi ei gorphen. Wedi darllen a gweddio, cymerodd ei destyn, ac ar ol gair neu ddau o ragymadrodd, collodd y cyfan. Er treio, a disgwyl am oleuni, nid oedd dim goleuni yn dyfod; aeth yn dywyll fel y fagddu arno. Ac mewn llais crynedig, bu gorfod arno ofyn i'r blaenoriaid enwi rhai o'r brodyr i fyned i weddi. Aeth yntau allan, ac i'r ty, ac ar ei union i'w wely. Nid oes wybodaeth dros ba hyd y bu yn ei wely, na pha bryd yr anturiodd bregethu drachefn. "Dyna y tro mwyaf bendithiol i mi," arferai ddywedyd, "o holl ddigwyddiadau fy mywyd." Rywbryd ar ol hyn bu am dymor byr yn Ngwrecsam, gyda'r Parch. John Hughes, wedi hyny o Liverpool, yr hwn ar y pryd oedd yn cadw math o ysgol i barotoi dynion ieuainc i'r weinidogaeth. Yr oedd gydag ef yno, Ffoulk Evans, a'r hynod Dafydd Rolant, y Bala. Llawer o droion trwstan a digrif a adroddid am y dynion ieuainc tra yn yr ysgol yn Ngwrecsam, oherwydd nad oeddynt yn gwybod ond y nesaf peth i ddim o'r iaith Saesneg. Cofus gan ysgrifenydd hyn o hanes, ei fod ar ymweliad yn y Pentre, cartref Dafydd Rolant, yn ardal Llidiardau, ger y Bala. Adroddai yr hen batriarch rai o'r troion trwstan a ddigwyddent, ac ymhlith pethau eraill, dywedai ddarfod i Mr. Hughes ofyn iddo ef ofyn bendith ar y bwyd yn Saesneg, ac iddo yntau ufuddhau, gyda hyny o Saesneg oedd ganddo yn y geiriau canlynol:—"O Lord, bless this lump of beef, through Jesus Christ. Amen."

Ar ol yr adeg yma, aeth gwrthddrych y sylwadau hyn i'r Dyffryn i gadw ysgol yr ail waith. Tra yr oedd yno yr adeg hon yr ymunodd y Parch. Richard Humphreys â'r Eglwys yn y Dyffryn. Bu y ddau yn gyfeillion cu, yn cydweithio llawer a'u gilydd, ac yn ddwy golofn gref o dan yr achos yn y sir am flynyddoedd meithion. Tra yn y Dyffryn yn cadw ysgol y tro hwn ymbriododd Daniel Evans gyda Margaret Evans, Penycerrig, Harlech, o gylch y flwyddyn 1822, a Mr. Humphreys, o'r Dyffryn oedd ei was priodas. Penderfynodd hyn. ei drigfan bellach am weddill ei oes yn Ngorllewin Meirionydd. O hyn allan daeth yn bregethwr a ffermwr, yn lle yn bregethwr ac ysgolfeistr. Wrth yr enw Daniel Evans, Harlech, yr adnabyddid ef bellach weddill ei oes, oblegid mail yno y treuliodd y rhan bwysicaf o honi. Symudodd o Harlech i'r Penrhyn i gadw siop, ac yno y treuliodd ugain mlynedd olaf ei oes.

Derbyniwyd Daniel Evans yn aelod o Gyfarfod Misol Sir Feirionydd, fel pregethwr, yn y flwyddyn 1815. Ac ar yr un pryd ag ef yr oedd y Parchedigion Lewis William, Llanfachreth; Richard Jones, y Bala; Richard Roberts, Dolgellau; a John Peters, Trawsfynydd, yn cael eu derbyn. Ordeiniwyd Daniel Evans i gyflawn waith y weinidogaeth yn 1831. Fel pregethwr, ni ystyrid ef yn fawr, ac ar yr un cyfrif ni honai yntau ei hun unrhyw fawredd. Er hyny, yr oedd yn gymeradwy iawn gan y saint. Y gwlith tyner oedd ei weinidogaeth, ac nid y gwlaw mawr. Cyfranai fara y bywyd bob amser, yn ffordd ac ysbryd yr Efengyl. Credai pawb nad oedd neb duwiolach na Daniel Evans yn holl Sir Feirionydd. Mae ei ymddangosiad diymhongar, patriarchaidd, o flaen ein golwg, a'i dôn fach, leddf, yn swnio yn ein clustiau hyd heddyw. Ond nid oedd digon o swn ganddo yn y pulpud i fod yn uchel yn syniad y plant. A theimlent yn ddig wrth eu rhieni am iddynt ei osod ef a Richard Roberts, Dolgellau, i'w bedyddio, mewn amser pryd nad oedd ganddynt hwy ddim gallu i ddangos gwrthwynebiad. O'r tu arall, os deuent i wybod—a pha beth sydd na ddaw plant o hyd i wybod—mai Cadwaladr Owen, neu John Jones, Talysarn, a'u bedyddiodd, teimlent yn sicr fod eu rhieni wedi dangos ffafraeth iddynt hwy, a theimlent eu bod fel plant byth wed'yn uwchlaw y plant eraill. Byddai yn arferiad gan Daniel Evans yn fynych: ar ddiwedd paragraph yn ei bregeth, i wneuthur y sylw,— "Rhyw bethau plaen fel ene, fydd gen i." Fe allai y ceir engraifft lled gywir o'i ddull hamddenol o bregethu, yn ei bregeth ar y geiriau, "Cred yn yr Arglwydd Iesu Grist, a chadwedig fyddi." Y mae rhai, meddai, yn ymrwystro gydag anhawsderau crefydd, yn digio am na fedrant ddeall ei phethau mawr hi, ac felly ni fynant ddim o'r pethau hawdd sydd yn perthyn iddi. Yr un fath ag y gwelwch chwi ambell un yn ceisio myned trwy y traeth yna i'r ochr draw. Mae yna ryd hwylus, pwrpasol i fyned trwodd; ond y mae yna lynau, a phyllau peryglus hefyd. Mae ambell un wedi dyfod at yr afon yn dychrynu, a digaloni, ac yn troi yn ei ol; pe buasai ond myned ychydig bach o latheni yn mhellach, fe ddaethai at y rhyd. Felly y mae llawer yn ymrwystro gydag etholedigaeth, a chyfiawnhad, a sancteiddhad. Ond enaid anwyl, dyma ti ryd sych i fyned trwyddo,—"Cred yn yr Arglwydd. Iesu Grist."

"Un rhinwedd neillduol yn Daniel Evans, fel pregethwr," ebai y Parch. Griffith Williams, Talsarnau, "ac feallai mai hwnw oedd y gwerthfawrocaf gan lawer, ni byddai un amser yn faith. Nis gwyddom ond am ddau beth ag y mae y lliaws yn caru cael mesur byr o honynt, sef milldir fer, a phregeth fer, a byddent yn cael pregeth fer ganddo ef bob amser."

Daniel Evans oedd y llareiddiaf o'r holl frodyr yn y sir yn y dyddiau gynt. Ond medrai yntau fod yn llwynog ac yn llew weithiau. Ceir engraifft o hono yn ymddwyn fel y llew un tro, mewn cysylltiad a sefydliad y fugeiliaeth yn y sir. Yr oedd yr hen bobl wedi cynefino cymaint & ffordd y teithio, a moddion rhad i gario yr achos ymlaen, fel mai gwaith aruthrol fawr ydoedd symud yr eglwysi o'r hen ddull i'r ffordd bresenol. Er ceisio rhoddi cychwyniad rywfodd i'r symudiad bugeiliol gosododd Mr. Morgan, o'r Dyffryn, mewn undeb a'r brodyr blaenaf yn Ngorllewin Meirionydd, gynllun ar droed, sef fod i bob eglwys ddewis gweinidog neu. bregethwr o'i dewisiad ei hun, i gadw cyfarfod eglwysig unwaith yn y mis, ac i arolygu cymaint ag a ellid ar yr eglwysi. Dros un flwyddyn yn unig yr oedd y dewisiad i barhau, ac ail ddewisiad i fod ar derfyn y flwyddyn. Yr oedd Daniel Evans, trwy benodiad y Cyfarfod Misol, ar ymweliad âg eglwys, heb fod ymhell o'r Dyffryn (ar yr hon yr oedd Mr. Morgan wedi bod yn arolygwr yn ol y cynllun newydd, y flwyddyn flaenorol), a gofynai ar ddiwedd y cyfarfod eglwysig, "A ydych chwi yma am i'r fugeiliaeth gael ei chario ymlaen. y flwyddyn hon ar yr un cynllun a'r flwyddyn ddiweddaf?' Ac meddai un brawd mewn atebiad, yr hwn hefyd oedd yn un o flaenoriaid yr eglwys, "Nac ydwyf fi, o'm rhan i, yn hidio dim am y cynllun-nid wyf fi yn ei weled yn ddim byd ond twll i wneyd poced." "Hwn a hwn," ebe Daniel Evans, gan gau ei ddwrn, a chodi ei fraich i fyny, "mi fydda i yn dyst yn eich erbyn yn y farn, mai nid gwneyd arian ydyw ein hamcan ni y gweinidogion, ond ein hunig amcan ydyw lles a llwyddiant yr eglwysi."

Bu Daniel Evans yn ysgrifenydd y Cyfarfod Misol am chwe blynedd, o 1840 i 1846. Pan ranwyd Cyfarfod Misol Sir Feirionydd yn ddau, yn nechreu 1840, Mr. John Jones, Plasucha, Talsarnau, a osodwyd yn ysgrifenydd, ac yn ei lawysgrif ef y mae y Cofnodion am y troion cyntaf. Ond cyn diwedd y flwyddyn hono, symudodd ef i fyw i Ynysgain, ger Criccieth. Ar ei ol ef, y mae y Parch. Daniel Evans, y pryd hwnw o Harlech, yn dechreu ar ei waith. Nid oedd wedi bod yn ysgrifenydd ond am dro neu ddau, pan y galwyd arno i ysgrifenu i lawr yn Llyfr y Cofnodion y penderfyniad canlynol: Cyfarfod Misol Talsarnau, yr hwn a gynhaliwyd Rhagfyr 1af a'r 2il, 1840.-"Penderfynwyd fod i'r Parch. Robert Griffith, Dolgellau; Cadben William Griffith, Abermaw; a William Richard, Gwynfryn, fyned i'r Dyffryn, ar gais yr eglwys yno, i ymddiddan â gwr ieuanc sydd ar ei feddwl i ddechreu pregethu." Y gwr ieuanc hwn ydoedd y Parch. Edward Morgan, yr hwn, trwy ymroddiad mawr, ei dalent ddisglaer, a'i hyawdledd digyffelyb, a ddaeth, cyn pen ychydig iawn o flynyddoedd, i wefreiddio cynulleidfaoedd ei wlad, ac i gael ei gydnabod gan bawb yn un o enwogion penaf Cymru.

Yr oedd ffyddlondeb a chywirdeb Daniel Evans, yn ei wneuthur yn ysgrifenydd diogel. Ond byr ydyw y cofnodion a ysgrifenodd; hanes pob Cyfarfod Misol yr un faint, o ran hyd-Mis Ionawr a mis Awst gellid tybio yn cynwys yr un faint o waith—oll yn myned i un tudalen o'r llyfr, mewn ysgrifen weddol fân. Sylwadau ar hanes profiad blaenoriaid y lle, ynghyd a blaenoriaid a phregethwyr a dderbynid yn aelodau newyddion, a fyddai cynwys rhan helaeth o'r un tudalen a geid am bob Cyfarfod Misol. Yr oedd delw Mr. Charles i'w weled yn amlwg iawn ar ei waith yn cofnodi hanes cyfarfodydd. Rhan helaeth o waith y brodyr ymhob Cyfarfod. Misol, yr adeg hono, fyddai trefnu y teithio mawr oedd yn y wlad y rhai a ddeuent i mewn i'r sir, a'r rhai a elent allan o'r sir. Yr engreifftiau canlynol allan o'r Llyfr Cofnodion a roddant gipolwg ar waith yr hen frodyr yn y blynyddoedd hyny. Yn Nghyfarfod Misol Ystradgwyn, yn y flwyddyn 1840.

"Penaerfynwyd y brodyr canlynol i fyned o'r sir: Richard Roberts, i Sir Fon; Richard Humphreys, i Sir Drefaldwyn; a Robert Griffith, Dol- gellau, heb benderfynu i ba le."

"Dolgellau Mawrth, 1841; rhoddwyd caniatad i Owen Williams, Towyn, i fyned i Sir Aberteifi am naw diwrnod"

"Sion, Mai, 1841, rhoddwyd caniatad i John Williams, Llanfachreth, i fyned i'r Deheudir; David Williams, Talsarnau, i Sir Drefaldwyn; a Robert Griffith, Dolgellau i rywfan."

Y cyhoeddiadau pell ymlaen hefyd oeddynt yn peri blinder i'r frawdoliaeth y pryd hwnw. Yn Nghofnodau Cyfarfod. Misol y Cwrt, yn Medi 1844, haner can mlynedd i eleni (1894), cawn sylwadau ar y niwed o roddi cyhoeddiadau ymhell ymlaen, ac yn y cyfarfod hwnw, anogwyd i syrthio yn ol ar yr hen drefn "dim ond dau fis." Mewn cysylltiad â'r cofnodiad hwn, dywed y Parch. Griffith Williams Talsarnau, pan yn ysgrifenu byr gofiant am Daniel Evans, yn y flwyddyn 1871, "Beth pe buasai yr hen frodyr yn cael gweled Dyddiadur rhai o flaenoriaid neu bregethwyr y blynyddoedd diweddaf hyn? caent weled pob Sabboth ymhob mis am flwyddyn, dwy, a thair, wedi eu llenwi hyd yr ymylon âg addewidion, a'r rhai mwyaf blaenllaw yn dechreu pwyntellu y bedwaredd flwyddyn! Dywedir fod rhai wedi addaw y Sabboth cyntaf ar ol y Pasc, y Sulgwyn, neu y Nadolig am flynyddoedd, os nad am eu hoes. Ni ryfeddaf nad y peth cyntaf a wna y brodyr blaenbell hyn, pan yn deffro o lwch y bedd, a fydd ceisio adgofio ymha le yr oeddynt wedi addaw bod y Sabboth cyntaf ar ol hyny!"

Yr unig gof sydd gan yr ysgrifenydd am Daniel Evans yn gwneuthur dim gwaith yn y Cyfarfod Misol, ydyw ei weled yn llywyddu yn Nghyfarfod Misol Llanelltyd, y tro cyntaf iddo. fod yn y lle hwnw mewn cyfarfod o'r fath. Ar ol myned i mewn i'r capel, eisteddai yr hen bererin, fel un o'r aelodau eraill, mewn eisteddle yn ochr y capel. Wedi myned trwy y gwasanaeth dechreuol, trwy ddarllen a gweddio, cynygiodd rhyw frawd, a chefnogwyd gan un arall, fod i Daniel Evans. lywyddu. Aeth yntau yn mlaen yn union, yn arafaidd i'r sêt fawr, a'r peth cyntaf a ddywedodd wedi cyraedd yno, gyda'i ben gwyn crynedig, a'i aceniad addfwyn arafaidd, ydoedd, "Yr ydych wedi fy ngosod i yn y lle hwn, nid am fod dim cymhwysder ynof i'r lle, ond o herwydd fod fy mhen i yn wyn."

Nesaodd dyddiau Daniel Evans i farw, o herwydd llesgedd a gwendid, bu dros rai blynyddau heb bregethu. Yr oedd yn naturiol yn ofnus, a chan ei fod yn rhoddi mwy o le nag a ddylasai i'w ofnau, dywedai wrth ei wraig un diwrnod, "Mae arnaf ofn fy nghrefydd, Margaret fach, ac yr wyf yn ofni mail yn uffern y byddaf wedi yr oll." Trodd ei briod ato a dywedodd mewn ton chwyrn, geryddol, "Sut na byddai arnoch. chwi gywilydd, Daniel Evans? Wedi crefydda ar hyd eich oes, ac yn y diwedd yn ofni eich crefydd! hen weinidog fel chwi yn ofni nad oes genych yr un grefydd, ac mai i uffern yr ewch; i uffern yn wir! beth a wnaech chwi yn y fan hono? Pe baech chwi yn myn'd yno, mi'ch ciciai rhyw gythraul chwi oddiyno yn bur fuan, 'rwyn siwr o hyny!" Dywedir i'r araeth hon wneuthur lles mawr iddo; ni soniodd ei fod yn ofni ei grefydd ar ol hyny.

Gadawodd Daniel Evans goffadwriaeth yn perarogli ar ei ol. Mae ei feddrod i'w weled o flaen capel Nazareth, Penrhyndeudraeth, ac yn gerfiedig ar y golofn,—

"Er cof am y Parch. Daniel Evans, Penrhyn, yr hwn a fu farw Tachwedd 7fed, 1868, yn 80 mlwydd oed."

Nodiadau

golygu