Ysgolfeistriaid Mr Charles o'r Bala/Y Parch Thomas Owen, Wyddgrug
← Y Parch Daniel Evans, y Penrhyn | Ysgolfeistriaid Mr Charles o'r Bala gan Robert Owen, Pennal |
Y Parch Richard Jones, Y Bala → |
PENOD VII.
Y PARCH. THOMAS OWEN, WYDDGRUG.
Richard Owen y gweddiwr hynod—Mr. Charles mewn perygl am ei fywyd—Darluniad o ffordd Mynydd Migneint—Richard Owen yn gweddio am estyniad o 15 mlynedd at oes Mr. Charles—Hanes bywyd Richard Owen—Bore oes Thomas Owen — Ei hanes yn dechreu pregethu—Cynghorion Mr. Charles a'i dad ei hun iddo—Yn dechreu cadw yr Ysgol Gylchynol yn 1802—Helbul yn ysgol Llanfor—Yn enill llawer at Grist—Odfa galed yn Abergynolwyn—Hynodrwydd ei fywyd.
UN o blant y Bala oedd y gwr hwn eto. O'r Bala yr anfonwyd ef allan i fod yn un o'r ysgolfeistriaid. Fel Thomas Owen, y Bala, yr adnabyddid ef dros hir amser wedi iddo ddechreu pregethu. Rhan gymhariaethol fechan yn niwedd ei oes, fel y ceir gweled yn mhellach ymlaen, a dreuliodd yn y Wyddgrug. Rhyfedd fel y mae chwe' blynedd a deugain—canys hyny o amser sydd er pan fu farw—wedi cario ei enw mor bell i dir anghof. Ar wahan i'r ffaith iddo fod yn un o Ysgolfeistriaid Mr. Charles, mae ei hanes ef a'i hynod dad yn werth gwneuthur coffa am danynt.
Mab ydoedd Thomas Owen i Richard Owen, o'r Bala, y gweddiwr hynod, yr hwn a fu yn gweddio gyda'r fath daerineb am arbediad bywyd Mr. Charles, pan yr oedd mewn perygl o golli ei fywyd. Credid yn gyffredinol i'r weddi hono gael ei gwrando, canys estynwyd pymtheng mlynedd yn oes y gwr enwog yr oedd y fath bryder yn ei gylch, yn ol y deisyfiad uniongyrchol oedd yn y weddi. Mae yr hanes anghyffredin hwnw yn myned o hyd yn llai hysbys trwy dreigliad blynyddoedd, er nad anghofiwyd ac na anghofir byth mo'r amgylchiad. Dywedir yn y Cofiant gan y Parch. Thomas Jones, o Ddinbych, fod Mr. Charles wedi ei gynysgaeddu â "chryn radd o rym ac iechyd corfforol," ac y byddai yn arfer a theithio, trwy lawer o anghyfleusderau ac ar bob tywydd garw gyda gwaith yr Arglwydd. "Ond yn fuan ar ol dechreu y gauaf oer yn 1799, wrth deithio ar noswaith oerlem dros fynydd Migneint, ar ei ddychweliad o Sir Gaernarfon, ymaflodd oerfel dwys yn mawd ei law aswy, yr hwn a barodd ddolur maith a gofidus. Ar ol gwneyd prawf o amryw foddion a medr amryw feddygon, ac, yn olaf, un enwog yn Nghaerlleon, bu raid iddo, yn y diwedd, ddychwelyd adref a goddef ei thori, neu yn hytrach ei chodi ymaith."
Llawer o ddyfalu fu y flwyddyn hon (1895)— blwyddyn o rew ac eira ac oerni mawr—pa bryd y bu tymor cyffelyb o'r blaen. Mae y dyfyniad uchod yn rhoddi ar ddeall i ni fod blwyddyn olaf y ganrif ddiweddaf, o leiaf, yn debyg iddi. Mor agos hefyd oedd y fan y bu yn gyfyng ar y gwr enwog o'r Bala y flwyddyn hono i'r lle y claddwyd y trên yn yr eira eleni, ac y bu yno dros amryw ddyddiau, a'r lluwchfeydd eira yn gymaint, yn ol adroddiad y newyddiaduron, fel nad oedd golwg i'w gael ar gwr uchaf corn simdda yr agerbeiriant.[1] Ar Fynydd Migneint y bu y naill ddigwyddiad a'r llall. Ond gymaint yn fwy anhawdd ac anniben oedd teithio yn amser Mr. Charles. Nid oedd son y pryd hwnw am reilffordd nac agerbeiriant; dau droed neu gefn y ceffyl fyddai y moddion mwyaf cyfleus i dramwyo ffyrdd anhygyrch dros fynydd a gwlad. Cymer y rheilffordd sydd yn cysylltu y Bala â Ffestiniog yr un cyfeiriad a ffordd fawr Mynydd Migneint, hyd nes y cyrhaedda i ben y mynydd. Ond nid ydyw y rheilffordd yn myned ond megis dros wddf y mynydd, gan gymeryd ei rhedfa i lawr heibio Trawsfynydd, ac ymlaen i Ffestiniog. Arweinia yr hen ffordd fawr, fyddai yn yr amser gynt yn dramwyfa o Sir Gaernarfon, trwy Ffestiniog i'r Bala, ar draws neu ar hyd cefn uchaf Mynydd Migneint, a chyfrifid ei hyd, o fewn terfynau y mynydd yn unig, sef o Bont-yr-Afon-Gam i Bont Taihirion, yn chwe' milldir. Wrth deithio yn y gerbydres o'r Bala tua Ffestiniog, pan agos a chyraedd i dop y mynydd, os edrychir at lechwedd uchaf y mynydd tua'r gogledd, gwelir cipdrem ar hen ffordd Mynydd Migneint, yn rhedeg ar hyd y llechwedd a elwir Llechwedd-deiliog. Croesi adref i'r Bala ar hyd y ffordd acw, ar noswaith arw, oer, yr oedd yr enwog Mr. Charles, pan y rhewodd ei law. Bu Dr. Edwards a Dr. Parry yn teithio llawer ar hyd yr un ffordd, gyda'r gwaith o gludo yr efengyl y tu draw i'r mynydd, a llu o efengylwyr eraill, a thô ar ol to o efrydwyr y Bala, yn ol desgrifiad Glan Alun, rhai ar draed, eraill ar feirch, eraill mewn cerbydau. Cofir gan efrydwyr deg ar hugain a phymtheng mlynedd ar hugain yn ol, fel y byddent hwy a Dr. Edwards yn yr un cerbyd yn croesi y mynydd aml i ddydd. Llun ystormus, ac, wedi cyraedd yr ochr agosaf i'r Bala, yn disgyn yn Rhydyfen, i orphwys ac i ymdwymno wrth danllwyth o dân, ac i gymeryd lluniaeth, yr hwn a barotoid yn fedrus a chroesawus gan Mrs. Williams, a'i merch Miss Williams, yn awr Mrs. Jones, yr hon sydd er ys rhai blynyddau. wedi symud o Rhydyfen i fyw i Ddyffryn Clwyd. Mor chwyldroadol yn awr, i'r rhai a arferent deithio yn yr hen ddull arafaidd, ydyw gweled y gerbydres gyda'i llwyth trwm yn llamu i fyny y mynydd, ac yn chwyrnellu i lawr i'r ochr draw gyda gwylltineb ffyrnicach.
Unwaith, o leiaf, yn nghof yr ysgrifenydd, digwyddodd cyfyngder wrth groesi Mynydd Migneint, nid annhebyg i'r hyn gymerodd le yn 1799. Rhewodd dwylaw dau ddyn cryf, ar noswaith o rew ac eira, i'r fath raddau, na ddaethant ddim- fel cynt tra buont byw. Llawer a sonid gan hen bobl Ffestiniog y flwyddyn hono am Mr. Charles o'r Bala yn cyfarfod â chyfyngder cyffelyb yn yr un lle, a hyny yn nghof aml un oedd yr adeg hono yn fyw.
Dywed cofiantydd Mr. Charles ddarfod i'r ddamwain a a gymerodd le y flwyddyn y cyfeiriwyd ati uchod, ynghyd a'r oruchwyliaeth lem y bu raid ei gweinyddu ar ei law, achosi pryder mawr iddo ef ei hun a'i deulu a'i gyfeillion ymhob man. A bu llawer o weddio yn yr eglwysi ar ei ran. "Yn nghyfyngder yr amgylchiad, pan oedd ei fywyd mewn cryn enbydrwydd, a nifer o gynulleidfa y Bala wedi ymgynull i gyd-weddio yn yr achos, daliwyd sylw neillduol ar erfyniadau un hen wr syml a duwiol. Wrth erfyn am estyniad oes Mr. Charles, efe a olygodd ac a ddefnyddiodd eiriau yr Arglwydd am estyniad oes Hezeciah (2 Bren. xx. 6); adroddodd amryw weithiau gyda rhyw ymafliad a dadleuaeth syml-wresog, a hyder Cristionogol yn Nuw. Pymtheng mlynedd yn ychwaneg, O, Arglwydd!—yr ydym yn erfyn am bymtheng mlynedd o estyniad at ddyddiau ei oes-ac oni roddi di bymtheng mlynedd o estyniad at ddyddiau ei oes—ac oni roddi di bymtheng mlynedd, O, ein Duw, er mwyn dy eglwys a'th achos,' &c., &c. O fewn ychydig i bymtheng mlynedd. ar ol hyn y terfynodd gyrfa ddaearol Mr. Charles. Yr oedd, nid yn unig y rhai a glywodd yr hen wr yn gweddio, wedi sylwi ar yr adeg, ond crybwyllodd Mr. Charles ei hun aml waith am y peth, a dywedodd yn bersonol wrth ei hen gyfaill, Richard Owen, tua blwyddyn cyn amser ei farwolaeth, fod y tymor yn agoshau at y diwedd. A phan yr oedd ei iechyd yn gwaelu, ac yntau wedi myned i'r Abermaw er ceisio adgyfnerthiad, daliwyd sylw arno yn dywedyd wrth Sarah, ei anwyl briod, 'Sally, y mae y pymtheng mlynedd yn agos i ben.'"
Yn ystod y pymtheng mlynedd hyn y gwelodd yr Arglwydd yn dda roddi estyniad einioes iddo y cyflawnodd Mr. Charles rai o brif orchestion ei fywyd. Yn y cyfnod hwn y sefydlwyd y Feibl Gymdeithas. Yn y cyfnod hwn hefyd y dygodd allan yr ail gyfrol o'r Drysorfa Ysbrydol, a'r Amddiffyniad i'r Methodistiaid Cymreig, a'r Geiriadur Ysgrythyrol—gwaith na welodd Cymru mo'i ragorach, er holl fanteision addysg dros ysbaid o agos i gan' mlynedd—gwaith y canodd Dafydd Cadwaladr am dano yn ei farwnad i Mr. Charles:—
"Y Dr. Morgan a'r hen Salsbri
Ddaeth a'r trysor goreu i ni;
Ac ar eu hol ni chafodd Cymru
Gyffelyb i'th Eiriadur di."
Ond pwy oedd Richard Owen, y gweddiwr hynod? Wedi gwneuthur ymholiad gydag ysgrifenwyr a chofiadwyr tref y Bala a'r amgylchoedd, yr oll a gafwyd fel rheol ydoedd, eu bod wedi clywed llawer o son am dano, ond nas gwyddent ddim ychwaneg. Ymhen tua thair blynedd, modd bynag, ar ol marw y Parch. Thomas Owen, y Wyddgrug, ysgrifenwyd bywgraffiad byr iddo, a rhoddwyd yr un pryd dipyn o hanes ei dad, yr hen weddiwr hynod. Y Parchedig Roger Edwards, y Wyddgrug, yn ol pob tebygolrwydd, a ysgrifenodd yr hanes, gwr a weithiodd cyn galeted a neb o'r Methodistiaid, a gwr sydd yn haeddianol o barch dau-ddyblyg ymhlith lu o wasanaethwyr eu gwlad. Ar yr hyn a ysgrifenwyd y pryd hwnw y mae y rhan fwyaf o'r pethau a ddywedir yma yn seiliedig.
Mab oedd Richard Owen i Robert Owen, gof, o Wytherin. Gan iddo golli ei dad a'i fam yn ieuanc, dygwyd ef i fyny yn Mhencelli, gerllaw y Bala, gyda pherthynas iddo. Prentisiwyd ef yn gryd, a phan y tyfodd i fyny, aeth i weithio i Lanrwst, wedi hyny i Dreffynon, wedi hyny drachefn i Neston, yn Sir Gaerlleon. Llanc ieuanc gwyllt, yn rhedeg i bob rhysedd ydoedd, ond trwy weinidogaeth y Wesleyaid Seisnig yn Neston, effeithiwyd cyfnewidiad trwyadl yn ei fuchedd. Chwenychai, modd bynag, wedi hyn, ddychwelyd yn ol i Gymru i gael mwynhau rhagorfreintiau yr efengyl yn ei iaith. ei hun, a phenderfynodd ymsefydlu yn y Bala. Nid oedd wedi gwybod am ddim Methodistiaid ond y Methodistiaid Wesleyaidd, ac erbyn dyfod i'r Bala, teimlai fod yr athrawiaeth a bregethid gan y Methodistiaid yno yn wahanol iawn i'r hyn a glywsai ef gan y Methodistiaid Wesleyaidd yn Neston—un yn Galfinaidd, y llall yn Arminaidd. Aeth at y Parch. Thomas Foulkes, y pryd hwnw o'r Bala, yr hwn y clywsai oedd wedi ei argyhoeddi o dan weinidogaeth John Wesley, a dywedai wrtho derfysg ei feddwl, gan ychwanegu, "Nid oes gan y bobl hyn ddim ond gras, gras! Nid ydynt ond anfynych iawn yn son am weithredoedd." Cynghorodd Mr. Foulkes ef i lynu wrth y Methodistiaid Cymreig, ac meddai, "Maent yn bobl dda, er nad ydynt yr un farn a Mr. Wesley; ac os nad ydynt yn son llawer am weithredoedd da, yr wyf fi yn dyst eu bod yn eu gwneyd."
Parhai o hyd yn gythryblus ei feddwl wrth wrando pregethau ar yr athrawiaeth Galfinaidd, ac yn enwedig oherwydd yr Etholedigaeth, a hiraethai am gael clywed yr athrawiaeth a glywsai yn nyddiau ei argyhoeddiad yn Sir Gaerlleon. Penderfynodd ynddo ei hun y byddai raid iddo adael y Bala o'r herwydd. Yn ddamweiniol, neu yn ragluniaethol, perswadiwyd ef gan un o hen grefyddwyr y dref i fyned yn ei gwmni ef i Ddyffryn Ardudwy, i wrando y Parchedig Daniel Rowland, Llangeitho, yr hwn oedd ar daith trwy y Gogledd. Testyn pregeth Mr. Rowland yn y Dyffryn oedd, "A'r Arglwydd a gauodd arno ef," sef Noah yn yr Arch. Dywedai y pregethwr yn ei bregeth fod drws yr Arch yn agored i'r holl greaduriaid, a bod Noah yn derbyn pob creadur a ddeuai, ond mai Duw oedd yn rhoddi greddf yn y creaduriaid i ddyfod; felly mai dyledswydd gweinidogion yr efengyl ydyw galw ar bawb i dderbyn yr iachawdwriaeth, ond Duw, yn ol ei arfaeth a'i ras, sydd yn rhoddi tuedd yn y meddwl i dderbyn yr iachawdwriaeth. Duw sydd yn tueddu meddwl pechaduriaid i redeg i'r noddfa, ac Efe sydd yn cau y drws wedi yr elont iddi. Bu y bregeth hon yn foddion i'w gymodi am byth â'r athrawiaeth Galfinaidd, a chymaint ydoedd ei lawenydd wedi iddo gael y goleuni hwn, fel y dywedai ei fod yn foddlawn iawn i gropian yn ol bob cam i'r Bala pe buasai raid.
Nid ydyw y daith hon o eiddo y Parch. Daniel Rowland trwy y Dyffryn wedi ei chroniclo ynglyn â hanes yr achos yno. Sicr ydyw mai nid un o'i deithiau cyntaf i'r Gogledd ydoedd, ond rhaid fod hyn wedi cymeryd lle gryn amser ar ol yr ymraniad rhwng Rowland a Harris.
Ymglymodd Richard Owen wrth y Methodistiaid o'r pryd hwn allan, ac ymhen amser, dewiswyd ef yn un o flaenoriaid eglwys y Bala. Yr oedd yn weddiwr mawr, nid yn amser saldra Mr. Charles yn unig, ond yn wastad ar hyd ei yrfa grefyddol. Dywediad Mr. Charles ydoedd y medrai Richard Owen fyned i'r nefoedd o flaen pawb o'r frawdoliaeth yn y Bala. Rhoddir rhai engreifftiau er dangos hyny. Un tro pan yn gweddio yn gyhoeddus, cafodd afael yn y geiriau, "Ac ar y graig hon yr adeiladaf fy eglwys," &c. Adroddai drosodd a throsodd drachefn y geiriau, "Y graig hon," a "phyrth uffern," a chan daflu ymaith ei het, yr hon, yn gyffredin, a fyddai yn ei law, neu o dan ei gesail pan yn gweddio, rhoddai floedd effeithiol, "Challenge i ti, Satan: Pyrth uffern nis gorchfygant hi'—ond fe orchfyga hi: Bendigedig!" Soniai hen bobl y Bala am weddi arall hynod iawn o'i eiddo. Galwodd Mr. Charles arno i ddiweddu y seiat unwaith. Yn y weddi hon, cafodd afael yn y geiriau yn y Salm, "O, byrth, dyrchefwch eich penau, ac ymddyrchefwch, ddrysau tragwyddol." Adroddai y geiriau drosodd a throsodd, a gwresogai ei ysbryd fwy-fwy wrth adrodd, "O byrth, dyrchefwch eich penau," ac ymaith a'r het oedd y pryd hwn o dan ei gesail, yr hon ar ei hedfa a darawodd fonet Mrs. Charles, a gwaeddai y gweddiwr (ar y pyrth fry, mae'n debyg), "Make room!" Torodd allan yn orfoledd mawr ar y weddi ryfedd hon ar ddiwedd y seiat.
Pan yn gweddio ar ddyledswydd yn y teulu, byddai ganddo ystôl dri-throed o dan ei ddwylaw, gyrai yr ystôl yn ystod ei weddi, os cyfodai yr hwyl, oddiamgylch y tŷ. Fel y twymnai ef, clywid yr ystol yn cychwyn, o amgylch ogylch yr ystafell, nes peri un feddwl mai yr ystol a agorai y ffordd i'w ddymuniadau gael eu harllwys allan; a dywedir y byddai yn gwneuthur amryw o'r cylchdroadau o amgylch yr ystafell cyn y cyrhaeddai yr Amen. Aeth unwaith i ymofyn mawn i'r pen- tŷ, lle o bwrpas i gadw tanwydd, a chan yr arferai yn fynych weddio yn y dirgel, gwelodd yno gyfle i fyned ar ei liniau, a dyna lle y bu am gryn ysbaid o amser mewn gweddi yn gweddio, ac ymhen hir a hwyr aeth yn ol i'r tŷ wedi anghofio yn llwyr y mawn. Gofynodd y wraig, wedi iddo fyned i'r tŷ, "Wel, Richard, lle mae y mawn?" "Wel, ïe, yn siwr, Ann bach," atebai yntau, "yr oeddwn wedi anghofio beth oedd fy neges yn myned i'r pen-tŷ." Nid rhyfedd ydoedd i weddi y cyfryw weddiwr lwyddo i beri estyniad o bymtheng mlynedd yn oes Mr. Charles.
Mab ydoedd Thomas Owen, y Wyddgrug, fel y crybwyllwyd, i'r diweddar Richard Owen uchod. Ganwyd ef yn y flwyddyn 1781. Cafodd ddygiad i fyny yn yr awyrgylch fwyaf crefyddol, o dan gronglwyd lle yr oedd cymundeb dyddiol a'r nefoedd, yn swn cynghorion a gweddïau taerion ei dad duwiol, yn nhref y Bala, yr hon oedd Jerusalem Methodistiaid y Gogledd; lle yr oedd y nifer fwyaf o bregethwyr a blaenoriaid, a hen bobl dduwiol; a'r Ysgol Sul yn cychwyn ei gyrfa ac yn lliosogi o dan arweiniad ei sylfaenydd enwog, a chewri pregethwyr Cymru yn dyfod trwy y dref ar eu teithiau, i bregethu. Yr oedd dynion ieuainc y Bala yn cael eu dwyn i fyny wrth draed enwogion y cyfnod hwn, fel mewn cyfnodau dilynol. Dechreuodd Thomas Owen ei oes yn dra chrefyddol, ond wedi tyfu yn llanc aeth dros dymor byr ar gyfeiliorn, gan ddilyn ieuenctyd gwyllt yr oes; ac wedi rhoddi tro trwy y commins, fel y dywedai yr hen bobl, daeth yn ol i'r seiat ar amser o ddiwygiad grymus. Wedi hyny, dechreuodd lafurio gyda sel a ffyddlondeb o blaid crefydd, ac yr oedd ynddo dalent na ddylesid mo'i chuddio. Pan oedd tua 21 oed, galwodd yr hybarch bregethwr, John Evans, un boreu Sabboth arno ef a John Peters, wedi hyny o Drawsfynydd, a dywedodd wrthynt, "Y mae yn rhaid i chwi fyn'd yn fy lle i heddyw, oherwydd fy mod yn annalluog gan afiechyd i fyned i'm cyhoeddiad. Ewch chwi, a darllenwch benod, ac ewch i weddi yn fyr; ac os cewch ar eich meddwl, dywedwch ychydig oddiwrth y benod." Aeth y ddau ddyn ieuanc, a gwnaethant yn ol y cyfarwyddyd, ac er fod ar feddwl y naill a'r llall i bregethu, ni fynegasant ddim o hyny i'w gilydd, ac ni ddarfu iddynt gynyg pregethu y diwrnod hwnw. Cydnabyddir fod y patriarch John Evans yn un o'r rhai craffaf a fu yn perthyn i'r Cyfundeb erioed, a phrofa yr amgylchiad hwn. hyny.
Traddododd Thomas Owen ei bregeth gyntaf yn nhŷ hen wraig o'r enw Siân Llwyd, yn Llanfor, yn y flwyddyn 1802. Trwy berswad Mr. Charles y llwyddwyd i'w gael i bregethu y tro cyntaf yn nhref y Bala, oherwydd ei fod yn llwfr ac yn ofnus i bregethu yn nghlywedigaeth cynifer a dybid eu bod yn golofnau, a thrwy dipyn o gyfrwysdra diniwed y dygwyd hyn oddiamgylch.
Un o'r cynghorion a roddodd Mr. Charles iddo yn fuan wedi iddo ddechreu pregethu ydoedd, "Arfera fyned a dyfod gyda'th gyhoeddiadau yn ddiymdroi; na ddos yn afreidiol i dai y cyfeillion ar y ffordd: a bydd mor ddidrafferth i bawb ag y byddo modd." A dywedir y byddai yn ymddwyn yn ol y cyngor hwn ar hyd ei oes. Rhoddodd ei dad gyngor rhagorol iddo un tro ynghylch pregethu. Yr oedd y ddau mewn ymddiddan â'u gilydd ar ryw fater Ysgrythyrol, ac meddai y mab, "Mae y cyffredinolrwydd yn barnu fel a'r fel, fy nhad." Yr hen wr a'i hatebodd yn ddioed, "Dear me, fachgen, beth ydyw y gair mawr yna sydd genyt?-Y cyffredinolrwydd!- Mae yn air rhy hir o lawer. Cymer ofal rhag i ti wrth bregethu fyned i ddywedyd geiriau mawr fel y. Dywed di-y cyffredin-os bydd eisieu, ac nid-y cyffredinolrwydd." Yr oedd Thomas Owen wedi ei brentisio i fod yn grydd, yn ol crefft ei dad. Ond rywbryd oddeutu yr amser y dechreuodd bregethu, fe ddarfu Mr. Charles ei gymell i fyned i gadw un o'r Ysgolion Cylchynol, i'r hyn yr ufuddhaodd. Yr ydym yn gweled o hyd mai yn y Bala ac oddeutu y Bala yr oedd. Mr. Charles yn cael y nifer liosocaf o ddefnyddiau i fyned i gadw yr ysgolion; yr ydym yn cyfarfod yn wastad hefyd a'i graffder yn pigo allan y dynion mwyaf crefyddol; ac yn ol pob hanes, ymddengys mai efe fyddai yn cymell y dynion cymwys i'r gwaith, ac nid hwy fyddent yn cymell eu hunain, Rhed yr hanes ddarfod i Thomas Owen fod am un tymor yn cadw yr Ysgol yn Waen y Bala, yn y tŷ a elwid Caerleon. "Bu hefyd yn cynal ysgol am ysbaid yn eglwys Llanfor, gerllaw y Bala, lle yr oedd yn myned ymlaen yn dra llwyddianus. Yr oedd yn catecheisio y plant yn egwyddorion mawrion Cristionogaeth, heb fod mewn un modd yn sectaidd; ond er hyny, daeth yr offeiriad i droi yr ysgol allan o'r eglwys, am ei bod, meddai ef, yn dwyn Methodistiaeth i mewn iddi. Un prydnawn, dyma yr ysgolfeistr ieuanc, a'r plant, yn cael eu gyru allan ar ffrwst o'r hen anedd gysegredig; ac wele y ffarwelio mwyaf cynhyrfiol yn cymeryd lle: y plant o amgylch eu hathraw yn crio yn dost, ac yntau yn wylo gyda hwy, ac yn gweddio drostynt. Trwy garedigrwydd y boneddwr clodus, Mr. Price, o'r Rhiwlas, cafodd fenthyg llofft yr hearse yn y fynwent i gadw yr ysgol ynddi, nes i dymor ei harosiad y tro hwn yn Llanfor ddyfod i'r pen."
Y lle y symudodd iddo gyntaf o'r Bala ydoedd i Dregeiriog, o fewn wyth milldir i Groesoswallt. I gadw yr ysgol yr aeth yno. Bu yn ddiwyd gyda'r gorchwyl hwn, a chydag achos crefydd yn gyffredinol yn y cylch. Ar doriad yr ysgol elai ar deithiau i bregethu trwy Ogledd Cymru. Dioddefodd erledigaeth drom wrth bregethu yn ardaloedd paganaidd Clawdd Offa. Ond nid ydys yn cael iddo fod yn cadw ysgol yn unman tuallan i Ddwyrain Meirionydd. O fewn y cylch hwn bu yn foddion i enill llawer o eneidiau at Grist tra yn cyflawni y swydd o ysgolfeistr, fel y cafodd brawf amryw weithiau yn ddiweddarach ar ei oes. Yr oedd rhywbeth yn debyg i arian byw yn nghyfansoddiad natur Thomas Owen-cyfodai weithiau yn bur uchel, a disgynai bryd arall yn isel iawn, a chyfodai a disgynai yn aml gyda chyflymdra yr arian byw. Yr oedd yn boblogaidd iawn yn nhymor cyntaf ei fywyd, a chyrchai llawer o bobl i wrandoarno. Soniai hen bobl yn Aberdyfi, amser yn ol, am odfa rymus a gafodd pan yn pregethu rywbryd yn yr awyr agored, ar bont Rhydymeirch, yn ardal Maethlon, y tu cefn i Aberdyfi, pryd nad oedd yr un capel wedi ei adeiladu yn Maethlon nac Aberdyfi. Wrth yr enw Thomas Owen y Bala yr adnabyddid. ef y pryd hwnw. Feallai mai yn ystod yr un daith y pregethai yn y Cwrt, lle yn agos i odre Cader Idris, ardal a ádnabyddir yn awr er's chwarter canrif wrth yr enw Abergynolwyn. Yr oedd yr odfa hono i'w deimlad ei hun yn un o'r rhai tywyllaf a chaletaf; methai a chael gafael ar ddim byd, a methai ddweyd dim byd wrth ei fodd, a theimlai gywilydd mawr o hono ei hun ar ol darfod. Penderfynodd nad elai ddim i'r lle hwnw i bregethu mwyach. Ymhen blynyddau ar ol hyn. yr oedd ar daith drachefn trwy y parth hwn o'r sir, ac erbyn iddo dderbyn taflen y cyhoeddiad hwn oddiwrth y trefnwr, wele y Cwrt i lawr yn y trefniad. Yr oedd yn benderfynol nad elai yno oherwydd maint ei gywilydd, a chredai pe yr aethai na ddeuai neb yno i wrando, ac arfaethai yn ei feddwl fyned heibio y lle yn ddistaw. Ond pan yn ymyl y groesffordd oedd. yn troi tuag yno, daeth gwraig allan o dŷ ar fin y ffordd, a gofynai iddo, "Ai chwi yw y gwr dieithr sydd i fod yn y Cwrt?" "Ië, mae'n debyg," atebai yntau. "Chwi fuoch yn pregethu yn y Cwrt o'r blaen, onid do?" "Dyma hi," meddai wrtho ei hun, "mae y wraig hon yn myn'd i edliw i mi yr hen odfa dywyll." "O," ebe hi, dan wylo, "mi ddiolchaf byth am eich odfa yma y tro o'r blaen; yn yr odfa hono y cefais i yr olwg gyntaf ar fy nghyflwr ac ar Grist.[2]"
Yn y flwyddyn 1807, aeth i fyw i Adwy'r Clawdd, ac nid ydym yn cael iddo fod mewn cysylltiad a'r ysgolion cylchynol ar ol hyn. Bu yn cyfaneddu yn Adwy'r Clawdd yn agos i ddeng mlynedd ar hugain. Bu o wasanaeth mawr i achos yr Arglwydd yr oll o'r amser a dreuliodd yn y lle hwn. Gwelodd, modd bynag, "dduon ragluniaethau" yn ystod ei fywyd. Ymaflodd ynddo afiechyd meddyliol, a syrthiodd i iselder ysbryd, yr hyn a barodd iddo fod heb bregethu am flynyddau. Tua'r amser y daeth dirwest i'r wlad, gadawodd y pruddglwyf ef, a chafodd ei adferu i bregethu drachefn. Bu yn preswylio am dymor byr yn Ngwernymynydd, ac yn cadw toll-borth yno. Symudodd oddiyno i dref y Wyddgrug, lle y treuliodd y pedair blynedd ar ddeg olaf o'i oes. Arhodd ei fwâ yn gryf hyd ben y daith. Diweddodd ei yrfa ddaearol mewn tangnefedd ar yr 8fed o Ragfyr, 1851, yn nghanol cymeradwyaeth a pharch ei holl frodyr.
Nodiadau
golygu- ↑ Yr oedd yr eira mor drwchus, ac yn parhau mor hir ar y ddaear yn ngauaf 1895, fel y bu cerbydau y rheilffordd dros rai dyddiau yn gladdedig 'ynddo, ac fe ddigwyddodd hyn yn agos i'r fan lle rhewodd llaw Mr. Charles yn 1799.
- ↑ Adroddir yr hanes hwn dipyn yn wahanol yn Straeon y Pentan, gan y nofelydd enwog, Daniel Owen. Er fod yr ystyr yr un yn y naill adroddiad a'r llall, mae y tebygolrwydd yn gryfach o blaid yr adroddiad a geir yma.