Ysgrifau Puleston/"Ffydd Ymofyn"—Syr Henry Jones

Yr Efengyl yn ol Marc (Cyfieithiad Newydd) Ysgrifau Puleston

gan John Puleston Jones

Cofiant Edward Matthews

V
"FFYDD YMOFYN."
GAN SYR HENRY JONES.

A Faith that Enquires. The Gifford Lectures delivered in the University of Glasgow in the years 1920 and 1921, by Sir Henry Jones. Macmillan &Co., Ltd., St. Martin's Street, London. Price 18/—

DYMA gyfrol o'r Darlithiau Gifford—cynhaeaf llafur Syr Henry Jones. Yr oedd yn gred ganddo, yn ei gystudd caled a maith, na fyddai farw nes gorffen y gwaith hwn; a chyflawnwyd ei hyder; oblegid ymddangosodd y gyfrol ym mhen ychydig iawn o wythnosau ar ol ei ymadawiad. Ffydd Ymofyn" yw teit y llyfr, sef y gyfryw ffydd ag a fynno chwilio i fewn i seiliau ei hyder, y fath hynny ar grefydd a fedro roddi rheswm am y gobaith sydd ynddi. Mewn gwirionedd fe gynnwys y gyfrol hon athroniaeth grefyddol Syr Henry Jones.

Ni ellir cael gwell braslun o'i rhediad hi na'r un a ddyry ef ei hun yn y ddarlith ddiweddaf. "Y mae'r cwrs yn rhyw dair rhan. Yn y rhan gyntaf fe ymwnaethpwyd â'r rhwystrau sydd i ymorol am rym ein credôau crefyddol wrth ddulliau di-gêl, diarbed, a diwarafun gwyddoniaeth. Yn yr ail, mi ddatgenais me ddi-arbed ag y medrwn y gwrthgyferbyniad rhwng bywyd crefydd a'r bywyd cyffredin. Mi ystyriais yn fanwl y gwrthdarawiad rhwng moesoldeb a chrefydd, sy'n edrych tu hwnt i'w gysoni o groes, dangos y syniad cyfeiliornus y cododd y gwrthwynebiad ohono, a nodi ar y terfyn yr egwyddor i gysoni'r gwrthwynebiad. Yn y rhan olaf ymdriniasom â Duw crefydd, ac â'i berthynas Ef â'r byd meidrol, ac yn enwedig â dyn; a chawsom ei fod yr un un a'r di—amodau mewn athroniaeth. Y ffrwyth debygid oedd cael bod rheswm yn cefnogi crefydd oleuedig. Fe ddengys ymofyn, ond iddo fod yn rhydd ac yn drwyadl, fod grym yn ein ffydd ni." (t. 350). Dyna amcan a chynnwys y llyfr mewn cwmpas pur gryno. Crefydd, fel popeth arall, yn fater i chwilio, cysoni crefydd â moesoldeb, a gwneuthur Duw crefydd a duw athroniaeth yn un.

Rhyfyg fyddai i adolygwyr—tylwyth cymharol anwybodus yw'r adolygwyr—anturio cyferbynnu'r darlithiau hyn a phethau yn yr un maes; ond credaf y caiff y rhan fwyaf o astudwyr y llyfr yn haws ei ddarllen ac yn haws ei gofio na gweithiau Pringle-Pattison a Sorley yn yr un gyfres. Y mae yma fwy o ddawn egluro, mwy o asbri llenyddol, mwy o ferw a sê, mwy o ddyblu. Pa un o honynt yw'r cyfraniad cyfoethocaf at athroniaeth crefydd sydd bwnc anodd ei benderfynu; ac fe'i penderfynir gan bawb i raddau yn ol osgo'r darllenwr ei hun at y pethau a ddaw dan sylw; ond am ddawn i yrru'r peth adref, a gadael argraff groew a diangof ar y meddwl, rhaid rhoi'r gamp i Henry Jones. Y mae'n syn odiaeth na cheid yma ol llesgedd a musgrellni, a chofio fod y darlithiau wedi eu paratoi bob yn ail a phoenau arteithiol, ond nid oes yma ddim. Os bydd yr awdur yn rhoi bonclust, fe'i rhydd mor egnïol a deheuig ag y gwnaethai ugain mlynedd yn ol, ac mor iach a diwenwyn ei ysbryd a phe na wybuasai ond trwy hanes am ofidiau'r daith.

Rhagoriaeth fawr hefyd yn Syr Henry yw ei fod yn bur siwr o'i bwnc, wedi cael tir o dan ei droed sy'n rhyngu ei fodd. Y mae ganddo genadwri bendant heb ddim petruso ynghylch ei gwirionedd hi. Gesyd hyn ei ddelw ar ffurf ei lyfr ef. Y ffasiwn yn y byd Seisnig, ers cryn yspaid, ydyw beirniadu llenyddiaeth y pwnc o bant i bentan i ddechreu, ac wedyn, o bydd gofod, dodi rhyw bennod neu ddwy yn braslunio'n gynnil beth fyddai'ch golygiad chwi'ch hun pe ceid amser i'w ddatblygu. Fel arall yn union y bydd Henry Jones—egluro'i safle'i hun i ddechreu y bydd ef, a beirniadu awduron eraill o'r safle hwnnw; wrth fod cymaint o'r llall, y mae y dull yma yn amheuthun mawr.

Nid nad yw yntau yn eithaf chwannog i ragymadroddi. Yn wir y mae rhagymadroddi braidd yn brofedigaeth iddo. Fe ddaeth i Gefn y Waen, Arfon, i ddarlithio ar Socrates. Dechreuodd trwy alw sylw at werth a phwysigrwydd gwybodaeth, ac yn y fan honno yr arhôdd; ac wedi traethu am agos i ddwyawr, terfynodd gyda dywedyd : "mi ddo'i yma eto i ddeud ar Socrates." Mi goeliaf yr ystori yn hawdd. Ac yn y llyfr hwn fe wnaethai llai y tro o ymhelaethu ar bwysigrwydd chwilio ym myd crefydd, yn enwedig gan fod y byd crefyddol wedi dyfod yn nes o lawer i'w safle ef ar hynny o bwnc nag ydoedd ddeugain mlynedd yn ol, a hynny i fesur yn ffrwyth ei lafur ef ac athronwyr o'r un ysgol ag ef. Yr oedd saith darlith braidd yn ormod yn ol yr herwydd ar y rhan yna o'r maes. Ond rhagymadrodd gan yr awdur hwn rhagymadrodd i egluro'i safle ef ydyw, nid i ddeud pa le y mae eraill yn sefyll ddim.

Ac yr oedd eisieu rhyw bethau sydd yn y saith darlith gyntaf hefyd, yn enwedig y gwrthdystiad yn erbyn y duedd sydd o hyd yn bod i orseddu awdurdod yn lle dibynnu ar chwilio.

Llyfrau cymharol ddiweddar yw un Balfour, Syr Arthur Balfour weithian, ar "Seiliau Cred," un Newton Marshall ar Athroniaeth Crefydd (nid wyf yn cofio teitl y gyfrol), ac un Forsyth ar "Awdurdod"; a phwyso ar awdurdod y mae'r rheini i gyd i raddau mwy neu lai—naill ai awdurdod swyddogol yr Eglwys, neu ynte awdurdod traddodiad a dderbyniodd hi o ddyddiau'r apostolion.

Ond diau y bydd gofyn, gan fod Henry Jones yn ymwrthod â'r awdurdod eglwys, ac ag awdurdod llyfr, ac ag awdurdod traddodiad, i benderfynu beth sydd wir, pa beth sydd yn penderfynu'r pwnc iddo ef. Y mae ef yn ymwrthod â'r awdurdodau yna, ac yn ymwrthod â maen prawf arall hefyd, sef profiad personol. Dengys Darlith VI., mai peth personol yw profiad, cystal neu cyn saled â'i gilydd nes ei chwilio a'i groesholi. (Gwel t. 92). Darlith bwysig iawn yn y gyfres ydyw'r chweched. Mi gynghorwn y sawl a fynno feistroli'r llyfr i ddarllen hon lawer gwaith drosodd. Debyg na dderbyniasai'r awdur mo faen-prawf William James o Harvard: "I know that a thing is true because something gives a click inside me." Ac eto yn y fel yna y mae llawer iawn yn dyfod o hyd i wirionedd; ac odid y gwadasai Syr Henry hynny; eithr fe wadasai yn bendant mai yno yr oedd eu hawl hwy i'w ystyried ef yn wirionedd. Un peth yw ffordd o ddyfod o hyd i wirionedd, peth arall yw'r ffordd i sicrhau ei fod yn wir. Beth ynte sy'n penderfynu'r pwnc i Syr Henry ei hun? Bod y peth a gynygir i ni fel gwirionedd yn cyd—daro ac yn cyd—asio â hynny o wirionedd a feddem ni o'r blaen. Cynnwys y gwirionedd ei hun a'i gyfanrwydd fel system a rydd iddo hynny o sicrwydd a all ei gael." (t. 56). Cysondeb cyfundrefnol ydyw'r maen-prawf o'r gwir. Gall dyn gael profiad cynnes iawn o beth sydd, o'i chwilio, yn gyfeiliornad. Lle'r idea mewn system sy'n profi ai gwir ai cyfeiliornus ydyw hi. Pwy bynnag sydd ddigon o forwr i fentro'r môr heb ddim cwmpas ond hwn yna, fe fydd crefydd a philosoffi a bywyd i gyd yn rhywbeth arwraidd a rhamantus i hwnnw. Ond a ellir mentro? Neu a oes rhywbeth nes atom y gallom ei gael yn faen-prawf? A oes posibl, chwedl Thomas Hill Green, cael rhywbeth a'n bodlono ni ar ddyddiau gwaith yn gystal ag ar y Sul—ar ddyddiau gwaith, negesau a gorchwylion cyffredin bywyd, yn gystal ag ar Suliau myfyrdod a gweledigaeth? I ateb y cwestiwn hwn rhaid bwrw golwg frysiog ar system Syr Henry ei hun; obegid honno yw un o'r rhai perffeithiaf a ddaeth allan eto. Os gall system ein diogelu ni rhag cyfeiliorni, hon a all. Yr awdur ei hun a fuasai yn dygymod lleiaf o bawb à chael ei goelio heb ei feirniadu. Ni fuasai ef o bawb ddim balchach o gael ei ganmol heb ei chwilio. Ac y mae ef yn ymgymryd â chymaint gorchwyl, dim llai na chodi system a wnelo le i bob gwirionedd a phob darganfyddiad. Ni ddywedasai ef ddim fod ganddo system oedd eisoes yn cynnwys pob peth, ond fe ddwedasai yn ddïau fod ganddo un a lle i bob peth ynddi. Y mae'r peth a ddywed ef am y gred ym mherffeithrwydd Duw yn wir hefyd am y system sy ganddo ef at esbonio'r perffeithrwydd hwnnw: "Fe fyddai i'r da fethu unwaith o ddifrif, ym mywyd un dyn, yn golled i ni am yr argyhoeddiad o berffeithrwydd Duw." (t. 337). Yr un peth sy i'w ddywedyd, y mae arnaf ofn, am system yr awdur ei hun: ei pherffeithrwydd yw ei pherygl hi. O thyr hi i lawr yn rhywle hi dyr i lawr i gyd. mae hi fel y dywedodd Tyrrell am Eglwys Rufain: "Cyfundrefnau llacach, rhwyddach eu hadeiladwaith, gellir torri darn i ffwrdd oddiarnynt heb wneud llawer o niwed; ond am Rufain hi a waedai i farwolaeth pe torrid ei bys bach." Felly yma, y mae'r system mor gyflawn ei gwëad, fel y byddai tynnu edefyn i ffwrdd yn ddigon i'w difetha hi. Fe fydd o bwys gan hynny ymorol a ddeil y system ei chwilio. Beth ydyw hi?

Yn fyr ac anghyflawn iawn dyma hi. Y mae rhyw bethau na all dyn ymwrthod yn hir â hwy. Bydd rhai yn eu rhoi hwy yn bedwar—y buddiol, y prydferth, y gwir, a'r da. Rhai a fyn eu gosod yn dri—y prydferth, y gwir a'r da. Yn ol Henry Jones y maent o leiaf yn ddau—y da a'r gwir. Nid oes bosibl mynd tu cefn i'r rhai hyn. Syched am y ddau hyn sydd yn cyfrif am bob cynnydd a gaffo dyn yn bersonol a chymdeithasol. Y naill o'r ddau yw maen spring moesoldeb, a'r llall yw maen spring crefydd. Ond er bod raid i ni gymryd yn ganiataol fod y ddau yn hanfodol i berffeithrwydd, y gwir a'r da, fe ymddengys y ddau, o'u datguddio mewn crefydd a moesoldeb, yn anghydwedd â'i gilydd. Nid gwiw gwadu'r anghysondeb ymddangosiadol, na'i fychanu mewn un modd. Ac yn wir fe gymer Syr Henry gryn drafferth i ledu allan y gwrthgyferbyniad. Fe ddeil, yn briodol a grymus iawn, mai camsyniad dybryd yw aberthu'r naill er mwyn y llall, aberthu'r da er mwyn y gwir neu y gwir er mwyn y da. Y mae gan y ddau eu hawliau, a cholli'r ffordd a wneir wrth anwybyddu un o'r ddau.

Dyna a ellir ei ddisgwyl i athroniaeth foddhaol ei wneud. Hi wna hynny mewn dwy ffordd, yn (1) trwy ddangos nad yw moesoldeb ddim yn fethiant i gyd, ac yn (2) trwy ddangos nad yw'r perffeithrwydd y mae crefydd yn

yn ei addoli mo'r perffeithrwydd llonydd hwnnw y gesyd rhai gymaint o bwys ar gredu ynddo, namyn perffeithrwydd ar waith—perffeithrwydd sydd

sydd o hyd yn ymddatguddio ac yn ymgyflawni. Y gwaith ydyw'r perffeithrwydd. Nid yw'n bod ar wahân i'r gwaith sy'n ei ddatguddio. Ac er nad oes unrhyw ran o'r greadigaeth foesol chwaith, yn cyrraedd y perffeithrwydd hwnnw nas gellir mynd tu hwnt iddo, y mae hi o hyd—y mae dyn o hyd yn cyrraedd hynny o berffeithrwydd a fyddo cymeradwy dan yr amgylchiadau; fel, os rhaid dywedyd o un ochr nad yw moesoldeb byth yn medru, fe ellir dywedyd o'r ochr arall nad yw byth yn methu. Y mae cwrs y byd a Duw, felly, yn anghenraid i'w gilydd. Nid oes dim Duw heb fyd, mwy na byd heb Dduw. "Diddymdra noeth ydyw'r Diamodol heb y greadigaeth, megis y mae creadigaeth heb y Diamodol yn amhosibl." (t. 274).

Yr anhawster a ymgynnyg ar unwaith yw, pa le y mae'r gwahaniaeth rhwng Duw a'i fyd. Yr ateb a roddir ydyw hwn: "Y mae Duw, fel yr un a arfaethodd y gwaith o'r dechreu, neu fel un nad yw'n gweithio heb wybod beth y mae yn ei wneuthur, yn fwy na'r Greadigaeth a thu hwnt iddi. Y mae Ef yn berffaith eisoes, a'r dyfodol ganddo, canys Ei ewyllys Ef sy'n cael ei sylweddoli yn y byd." (t. 271).

Mor bell o fod y gwrthdarawiad rhwng crefydd a mocsoldeb yn wrthdarawiad terfynol, ond i ni edrych yn ddyfnach, gwasanaethu ei gilydd y mae'r gwir a'r da. Cyflawni arfaeth Ei ddaioni Ef ydyw amcan holl gwrs y byd. Dyma sy'n cyfiawnhau creadigaeth a rhagluniaeth: byd ydyw hwn a luniwyd yn unswydd at fagu carictor. Ar hyn o bwnc daw Syr Henry i'r un fan a'r Proffesor Pringle—Pattison. Dyma'r fel y gesyd Syr Henry'r pwnc. "Pe digwyddai ei fod (sef bod cwrs y byd) yn rhoi i ddynol—ryw y cyfle goreu i ddysgu bod yn dda, yna y mae condemniad yr amheuwr arno, a'i waith yn gwadu nad oes Duw, yn gyfeiliornus." (t. 206).

Ond er dywedyd pob peth braidd am Dduw a ddywedai yr Hegeliaid pantheistaidd, megis Bradley ac o bosibl Bosanquet, y mae Henry Jones yn berffaith siwr fod y Duw yma sy'n cynnwys pob peth, ac nad yw pob peth ond datguddiad ohono, yn berson unigol, yn individual. Fe gred â'i holl enaid yr athrawiaeth, "Duw cariad yw "; ond ei fod yn gwneuthur y diamodau nid fel y gwneir ef gan Mactaggart, yn gymdeithas o ysbrydoedd, yn werinfa o eneidiau, namyn yn ysbryd unigol ac ymwybodol. "Dyna fyddai dyn perffaith, Duw mewn cnawd. . . . Duw Cristnogaeth rhaid fod hwnnw yn berson neu hunan ymwybodol nad oes dim yn y pen draw yn ddieithr neu estronol iddo. Nid oes dim ystyr o gwbl i ysbryd heb fod yn unigol." (t. 268).

Yn y fan yna y gwêl yr awdur sail i'r gred mewn anfarwoldeb. Rhaid fod Duw cariad yn dymuno achub pawb; a chan fod llawer, i bob golwg, yn mynd trwy'r byd yma heb eu hachub, rhaid fod byd ar ol hwn.

Pa faint o'r gred ardderchog yma sy'n briodol ffrwyth system Syr Henry Jones sydd gwestiwn y gallai fod gwahaniaeth barn arno. Fe allai fod mwy nag a feddyliai ef o'i gredo yn deillio o'r grefydd a ddysgodd gan ei dad a'i fam. A oes posibl cysoni pantheistiaeth Hegelaidd â Duw personol, â Duw a charictor ganddo, ac yn enwedig â bod y Duw hwnnw'n gariad? Cawn ymorol y tro nesaf. Dyna fydd gennyf y tro nesaf, os byw ac iach, ymholi i ba raddau y mae'r gyfundrefn a frasluniwyd yn ddigon amherffaith yma, yn agored i feirniadaeth. A'r tro wedyn, o bydd amynedd y Golygydd yn dal, fe amcenir casglu rhai o wersi'r llyfr ardderchog hwn i rai na fedront hyd yn hyn ddygymod â'r system sydd ynddo yn ei chyfanrwydd.

II

Gwelsom yn yr ysgrif o'r blaen fod gan Syr Henry Jones beth nas ceir ond gan ychydig iawn o ddysgawdwyr yr oes yma—cyfundrefn o athrawiaeth wrth ei fodd. Dau beth sy ganddo fel gofynion (postulates) ar y trothwy, y da a'r gwir. Nid oes dim posibl mynd y tu cefn i'r un o'r ddau. Rhaid cymryd y ddau yn ganiataol. Y ddau hyn un ydynt yn y pen draw, pa faint bynnag o anghysondeb ar y wyneb a fo rhyngddynt. Ac wrth y ddau hyn, ac wrth yr angenraid o'u cysoni hwy, y rhaid i ni farnu pob peth. Os gofynnwn ni paham y credwn yn rhyddid dyn, yr ateb yw, Am fod yn rhaid wrth ryddid i fagu a pherffeithio'r da. Os gofynnir paham y credwn yn rhagluniaeth y Brenin Mawr ar bob peth—popeth wedi ei arfaethu a'i drefnu—yr ateb yw, Am fod y gred mewn Duw perffaith, sylwedd a gwirionedd eithaf pob peth sy'n bod, yn golygu hynny. Tybied y gronyn lleiaf o'r tu allan i'r systemy digwyddiad distatlaf heb ei arfaethu, y mae hynny yr un peth ag ysbeilio Duw o rywfaint o'i berffeithrwydd. Dadleu sydd yn y "Goleuad" yr wythnosau hyn, a oedd Syr Henry yn Gristion. Yn y cyfamser, tra fydder yn setlo'r pwnc hwnnw, fe allai y bydd yn dipyn o dawelwch meddwl i rai goruniongred wybod ei fod yn Galfin at y carn.

Yn awr nid gwiw gwadu nad oes rhyw swyn i bob meddwl mewn cyfundrefn a honno wneud lle i bob gwir. Cnydied tiroedd breision profiad faint a fynnont, y mae'r ysguboriau, yn ol y program hwn, i fod yn ddigon helaeth i gymryd y cwbl i mewn. A rhaid addef bod yr adeilad, nid yn unig yn un prydferth dros ben, ond hefyd, i'r sawl a deimlo'n argyhoeddedig o'i gadernid ef, yn gastell o noddfa rhag amheuon. A diau y bydd yn rhaid i grefydd yr oes nesaf wrth fwy o hynny na chrefydd yr oes o'r blaen. Yr oedd crefydd, a phethau llai na chrefydd yn wir, megis barddoniaeth, astudio ieithoedd, masnach, politics, wedi cau arnynt bob un yn ei fyd ei hunan, a gado i bob byd arall gymryd ei gwrs. Yn awr, pa fodd bynnag, y mae hi'n bur wahanol. Y mae pob byd bychan weithian wedi mynd yn dalaith o ryw fyd mwy; a rhaid i safonau gwerth o bob man ddyfod i'r byd mwy hwnnw i'w barnu a'u cyfiawnhau. "Ni all crefydd y dyfodol fforddio bod yn anghyson â hi ei hun." (t. 326). Y mae yn athrawiaeth Henry Jones atebiad diwrthdro i fateroliaeth ac anwybyddiaeth yr oes sydd newydd fynd heibio ; ac y mae yn sail i'r optimistiaeth fwyaf di-ollwng. A phethau mawr iawn i'w diogelu yw'r rhai hyn—bod yn siwr o Dduw, yn siwr o rwymedigaethau moesoldeb, ac yn siwr bod daioni i lwyddo.

Ond y mae beth bynnag ddau gwestiwn i'w gofyn: a ydyw'r adeilad ei hun yn gadarn? ac a oes lle ynddo i bob peth y mae'r Awdur yn ei roi ynddo? Fe allai fod trydydd ymholiad at y ddau yna. Yr oedd Syr Henry Jones yn credu cyn gadarned a'r mwyaf orthodox, mai'r grefydd oreu mewn bod yw Crefydd Crist. A'r cwestiwn arall y gorfodir ni i'w ofyn yw hwn: A ydyw system Syr Henry heb wneuthur lle i ryw agweddau pur amlwg i Gristionogaeth yn ddiffyg yn y system? Neu, os mynwch chi, gofynnwch fel hyn: A ydyw'r agweddau hynny i Gristnogaeth na ddygymydd y system yma â hwy yn hanfodol i Gristnogaeth gyflawn? Fel yna o bosibl y dewisasai ef i'r cwestiwn gael ei ofyn.

(1). A ydyw cyfundrefn Henry Jones yn gadarn a safadwy fel cyfundrefn? Rhaid i adeilad ffilosoffi grefyddol fod yn atebol i ddal pob gwynt. Fel y dywedodd ef ei hun (gwel I. 101), tra y mae pob gwyddiant arall yn cael ymosod arno gan wrthwynebiadau a gyfyd o'i faes ef ei hun, fe ymosodir ar grefydd gan wrthddadleuon o bob rhyw, gan fod ei maes hi yn eangach. Y mae'r cwbl sy'n bod yn ei rhandir hi; ac o ganlyniad rhaid i'r gwyddiant a amcano'i deall hi, a rhoi trefn a dosbarth ar ei phrofiadau, fod yn barod i ymosodiad o gyfeiriadau amrywiol iawn. Ac felly, os ar system y mae ei diogelwch hi o ran ei hathrawiaeth yn gorffwys, dylai'r system honno fod yn berffaith tu hwnt. Dyna'r paham yr ŷm yn rhwym o ymorol a ydyw'r system yn ei holl rannau yn un a ddeil.

Y mae yn amheus gennyf. Meddylier, er siampl, am y drychfeddwl a grybwyllwyd yn yr ysgrif gyntaf, fod byd mor angenrheidiol i Dduw ag ydyw Duw i fyd. Ysgaredigaeth, abstraction, fyddai'r naill neu'r llall heb ei gilydd. Er bod y Proffeswr yn dweyd yn bendant fod Duw yn fwy na'r gwaith hwnnw mewn amser y datguddia fo'i hunan ynddo, eto mewn rhyw ystyr yn y gwaith y mae ei berffeithrwydd ef yn gynwysedig. Y mae ei ddatguddio'i hun mewn creadigaeth yn hanfodol iddo. Yr wyf yn cydymdeimlo â'r idea mai nid bywyd llonydd yw bywyd y Duwdod Mawr, fod y Tad yn gweithio hyd yn hyn, ac mai mewn gwaith y mae yn byw. Ond wedyn, y mae deud nad yw'r Anfeidrol yn bod y tu allan i'r datguddiad o hono yn y meidrol, yn y greadigaeth, hynny yw, fel y clywais i Henry Jones yn deud mewn ymddiddan unwaith, mewn rhyw greadigaeth ;—y mae deud fel yna i mi bron yr un peth a'i wneuthur yntau yn feidrol hefyd. Yn awr nid oedd dim pellach oddi wrth fwriad Syr Henry na gwadu anfeidroldeb Duw. Gwadu anfeidroldeb Duw oedd un o brif gyfeiliornadau Plwralistiaid yn ei gyfrif ef. "Duw digonol," ebai William James, "nid Duw Anfeidrol." Nid oedd gan Henry Jones ddim trugaredd at yr athrawiaeth honno. Ac eto y mae yn lled anodd gweld sut y mae ei athrawiaeth yntau yn osgoi'r fagl. Sut y gall Duw nad yw'n bod o gwbl ond yn ei waith fod yn Anfeidrol sydd bwnc anodd iawn ffurfio unrhyw syniad clir na chymhesur arno. Yr wyf yn addef, ac y mae'r addefiad yn taro o blaid Syr Henry, fod anawsterau o'r ochr arall yn ogystal. Y mae yn bur anodd deall sut y gall Duw na meddwl na gweithredu heb fod ganddo fyd i weithredu ynddo ac arno; ond y mae'r anhawster arall yn un mwy dyrys fyth. Wrth gwrs y mae'r ddiwinyddiaeth Eglwysig yn dyfod dros yr anhawster trwy athrawiaeth y Drindod. Yn ol honno y mae Duw eisoes, ynddo'i hun, yn gymdeithas. Ond ni chawn ni ddim galw honno i fewn yn y fan yma. Ffydd ymofyn sy gennym, ac y mae'r ymofyn i fod yn annibynnol ar draddodiadau. Eithr ni all dyn yn ei fyw lai na synnu gweld ffilosoffi mewn rhyw benbleth beunydd a byth, a'r benbleth yn gyfryw ag y buasai derbyn athrawiaeth y Tadau Eglwysig yn ei datrys rhag blaen. Y mae'r anhawster dan sylw yn enghraifft. Dyma'r Proffesor Mactaggart, athronydd a ddechreuodd yn yr un fan a Syr Henry, fel disgybl i Hegel, wedi ildio i'r anhawster a synio am berffeithrwydd heb gymdeithas, a dyfod i'r farn mai cymdeithas o eneidiau yw'r Perffaith, yr Absolute—gwladwriaeth o ysbrydoedd. Ac y mae'n deilwng o sylw mai'r gred mai cariad yw hanfod perffeithrwydd a'i tywysodd ef i'r fan yna. Nid oes dim posibl darllen gwaith Mactaggart heb gofio am idea Awstin, "Amor rogat trinitatem," y mae cariad yn gofyn trindod." Y mae yn gofyn mwy nag un, bid a fynno.

Ond (2) a bwrw, er mwyn ymresymiad, fod system Henry Jones yn safadwy—yn gyson â hi ei hun felly, a ydyw hi'n llwyddo i gael lle i bopeth y myn efo y dylai fod lle ymhob system iddynt? Y mae ef yn mynd ym mhellach lawer na'r cyffredin o Hegeliaid mewn mynnu lle i rai o wirioneddau hanfodol crefydd, pob crefydd, a Chrefydd yn yr ystyr Gymreig i'r gair hefyd Crefydd ag C fawr iddi. Ond y pwnc y munud yma yw, a wnaeth ef hynny heb roi gormod o straen ar ei gyfundrefn? a oes yn ei gyfundrefn ef le teg i'r gwirioneddau hynny, heb gael benthyg ystafell neu ddwy gan gyfundrefnau eraill?

Ymddengys i mi, er y cyfrifir fi'n ddibris o ddigywilydd am ei ddywedyd, na ddo ddim.

Er enghraifft, y mae'n dal, â holl angerdd ei natur gref gyfoethog, yr athrawiaeth o Dduw personol. Y mae ei feirniadaeth ef ar Hegeliaid, sydd, fel Mr. Bradley, yn gwadu Duw personol, yn un bendant a diamwys. "Ymddengys i mi," meddai, "yn amlwg i ddyn ar ei gyfer, na allai'r cyfryw Berffaith ag na bo'n berson, yn fod ymwybodol ac ar wahân, gyfaneddu mewn byd o wrthrychau, a'i ddatguddio'i hunan yng nghwrs y byd hwnnw." (t. 322). Ydyw, y mae'r athrawiaeth o Dduw personol yn eithaf diogel yn nwylo Henry Jones; ond pa'r un ai diogel yng nghysgod ei system ef, ynte diogel er ei gwaethaf hi, sy gwestiwn arall. Ymddengys i lawer ohonom, braidd yn siwr, er mai Henry Jones a garem ni ar bob cyfrif ei ddilyn, fod Bradley yn gysonach â'r gy fundrefn Hegelaidd fel y coleddir hi gan y ddau. Os nad yw Duw yn bod ar wahân i'w greadigaeth, yn sicr nid yw yn gwybod oddi wrtho'i hun chwaith ar wahân iddi; a dyna oedd golygiad Edward Caird, tad ysbrydol Henry Jones; ac er nad yw Syr Henry, hyd y sylwais i, yn dyfod ar draws y pwnc yn y llyfr hwn, credaf y gellid profi oddi wrth ei waith a'i ymddiddanion mai dyna oedd ei farn yntau. Rywsut y mae'n haws cysoni Anfeidrol sydd yr un peth a gweithrediad oesol y greadigaeth, yn broses tragwyddol felly, â "Pherffaith" Mr. Bradley nag â Duw Syr Henry Jones.

Dyna drachefn yr athrawiaeth am bechod. Yr unig nodwedd dra Hegelaidd ar y llyfr yma ynglŷn â hyn o bwnc, yw bod yr Awdur yn son llai lawer yn ol yr herwydd am bechod nag am ffurfiau eraill ar ddrwg. Y mae pethau a elwir yn ddrygau naturiol cystuddiau, siomedigaethau, ac yn y blaen, yn llanw mwy o lawer o le ar y canfas na drwg moesol; a dyna a gyfrifir yn un o ddiffygion mawr y gyfundrefn Hegelaidd drwyddi. Teg cydnabod fod Henry Jones yn lanach oddi wrth y diffyg na'r un Hegeliad arall y gwn i am dano. Josiah Royce yw'r tebycaf iddo mewn mynnu rhoi ystyr wirioneddol i bechod. Y ddefod

gan doreth o Hegeliaid yw cyfrif pechod yn ffurf is ar ddaioni—da ar ganol ei fagu. Mactaggart sy'n tybied, y down ni, o bosibl, i edrych ar noswaith o feddwi yn yr un goleu ag yr ŷm eisoes yn edrych ar ryw hen ysgarmes glustogau a fu rhyngom pan yn fechgyn. Ond i Henry Jones y mae mwy mewn pechod na hynny. "Nid wyf fi," meddai, "mewn modd yn y byd yn cyfiawnhau drwg. Dal nis gallaf ei fod ynddo'i hunan yn ffurf ar y da; ni ellir dan unrhyw amgylchiadau ei droi yn dda. Gadael lle iddo yr wyf." (t. 355). Ond atolwg beth a ddaw o system Hegel ar y tir yna? Fe ddygymydd golygiad Royce yn well lawer â phantheistiaeth Hegel—y golygiad fod pechod yn rhan o Dduw, fel y mae'r natur is yn rhan o ddyn da. Hawdd fuasai beirniadu golygiad Royce, ac o'm rhan i nid wyf yn ei dderbyn. Ond fel mater o gysonder y mae yn siwr o fod yn fwy cymharus â Hegeliaeth bur.

Ni wn i ddim a ydyw Syr Henry yn fwy llwyddiannus i gysoni Calfiniaeth a rhyddid ewyllys. Fe allai ei fod. Hyn a wn: y mae yn dyfod yn nes at eu cysoni na'r un Cymro a fu o'i flaen. Ond cawn ddychwelyd at y pwnc hwnnw yn yr ysgrif nesaf.

Beth wedyn (3) am yr athrawiaethau o gredo'r Eglwys na wnaeth Henry Jones ddim lle iddynt yn ei system? Fe ddyry ef yn ddiau ryw ystyr hanner barddonol i rai ohonynt, ystyr sy'n llygad—dynnu ac yn swyno dyn. Ac yn hyn, fel llawer peth arall, y mae ei deimlad ef yn nes at y gredo gyffredin na'i farn. Y mae ganddo sylwadau gafaelgar odiaeth ar edifeirwch, ond dim ond crybwyllion cynnil cynnil am faddeuant. Dyma un: "Gall ysbryd crefydd fodloni i ddianc rhag y byd er mwyn bod yn un â Duw. . . . Ac unwaith y cyrhaedder sicrwydd fod y pechod wedi ei faddeu, fe gilia'r pechod o'r golwg, a myned fel pe na buasai erioed." (t. 263). Am a welaf fi nid oes. yn yr iaith yna ddim i'w feirniadu o safle Crefydd Efengylaidd, ond yn unig y cwynid fod y cyfeiriadau at faddeuant yn brin. Y lle y buasai Cristnogion Efengylaidd yn anghytuno fyddai perthynas maddeuant â rhyw brofiadau yr aeth Iesu Grist drwyddynt yn y cnawd, yn enwedig y Groes a'r Atgyfodiad. Yr un fath a Green, y mae Henry Jones yn dal mai camsyniad yw cysylltu'r nerthoedd ysbrydol sydd yn achub ag unrhyw gyfres o weithredoedd a ddigwyddodd ym myd amser a hanes, ond bod Green yn cydnabod yn ddiwarafun mai i waith yr Eglwys yn eu cysylltu hwy â digwyddiadau hanes y mae'r Efengyl yn ddyledus am y dylanwad a gafodd hi ar ddynion.

Perthyn lled agos i hwn y mae pwnc arall o wahaniaeth rhwng Syr Henry a Christnogion Efengylaidd : nid yw ef yn dygymod dim â'r hyn a alwai'r hen ddiwinyddiaeth yn rhagluniaeth neilltuol. "Rhagluniaeth yn ymyrryd, tybied y mae hynny ryw ysgariaeth sy'n annioddefol i'r ysbryd a ŵyr oddiwrth hiraeth cariad ymroddedig ac angen cyson yr ysbryd hwnnw am Dduw." (t. 222). "Er ei holl gyfeiliornadau fe ddysgodd Deistiaeth un pwnc sy'n wir o hyd, neu o'r lleiaf ei awgrymu: fod rhaid ymddiried y bywyd moesol yn gyfangwbl i'r gweithredydd moesol ; ac os mai er mwyn dysgu bod yn dda y mae dyn yma, neu os moesol yn y pen draw yw ystyr ei fywyd ac amcan ei fyd ef, fel y cymerwyd yn ganiataol, yna rhaid gadael iddo weithio allan yr experiment foesol yn ei ffordd ei hun." (t. 223).

(t. 223). I Syr Henry y mae ymyrraeth weithiau yn golygu peidio ag ymyrraeth o gwbl brydiau eraill. (t. 222). Nid yw hynny ddim yn cario argyhoeddiad i mi. Gallai'r ymyrraeth olygu yn unig ymyrraeth gwahanol. Fe eddyf yr Athro ei hun fod rhyw rannau o'r greadigaeth yn amgenach datguddiad o Dduw na'i gilydd, y greadigaeth foesol, er enghraifft, o'i chyferbynnu â'r greadigaeth faterol. Er bod mater yn ysbrydol hefyd, nid yw cyn amlyced datguddiad o'r ysbrydol ag ydyw byd carictor. Os felly—os oes mwy o Dduw, neu od yw presenoldeb Duw yn amlycach mewn rhai o'i weithredoedd na'i gilydd, paham na allai fod rhyw ddynion, a rhyw amgylchiadau neu brofiadau yn hanes dynion, yn ddatguddiad o Dduw mewn ffordd ac mewn ystyr nad yw'r amgylchiadau i gyd ddim?

Buasai rhai yn ychwanegu esiampl arall, syniad Henry Jones am berson y Gwaredwr. Ond gan mai proses y greadigaeth ydyw Duw Henry Jones, a'i fod yn dal mai dyn da yw'r datguddiad cyflawnaf o Dduw y gallwn ni byth ei gael, prin y byddai'n deg dywedyd yn foel ei fod ef yn gwadu Duwdod Crist. Hyn sydd sicr, ni addolodd neb Grist Iesu yn fwy di-warafun nag y gwnâi efo.

Yr wyf yn nodi'r esiamplau yna o'r gwahaniaeth rhwng Syr Henry a'r athrawiaeth gyffredin, fel y gwelo'r darllenydd beth sydd raid iddo'i dderbyn, os myn dderbyn athrawiaeth Henry Jones yn ei chyfanrwydd. Er mwyn eglurder, ac oherwydd gorfod bod yn ddigwmpas, bu raid i mi wneuthur hyn yn rhy noeth. Llawer o'r meddyliau a grybwyllais yr wyf, wrth eu hysgar oddi wrth eu cysylltiadau, ac yn enwedig wrth eu hadrodd heb y wawr o farddoniaeth oedd arnynt, wedi eu hyspeilio o'u gogoniant. Fe bair hynny i mi gofio am beth a ddywedai'r Athro'i hun wrthyf rywdro ym Mangor. Ymliw yr oeddwn ag ef rhwng difrif a chware. "Chi synnech chi, Proffesor, y llun rhyfedd sy ar ych syniadau chi gan rai o'r bechgyn yma, sy'n eu pregethu nhw yn newydd grai o'r clas.' Ie," meddai yntau, a llond ei lais o natur dda, ie, ynt—ê, Puleston, a'u deud nhw wedi oeri." Cofied y darllenydd mai cam y mae adolygiad yn ei wneud â llyfr. Bwyd wedi oeri ydyw.

Y tro nesaf bydd gennyf ddifyrrach ac angenrheitiach gwaith dangos rhyw faint, beth bynnag, o'n dyled ni i'r llyfr, pa un bynnag a gytunom ai peidio â chyfundrefn y llyfr yn ei hyd a'i lled.

III.

Rhyw esgus o feirniadaeth oedd gennym fwyaf y tro o'r blaen. Y tro yma fe amcenir cynnull rhywfaint o gynhaeaf y gwaith gafaelgar hwn. Y mae'r dynion blaenaf ym mhob cangen o wybodaeth yn fwy na'u system; a gellir eistedd wrth eu traed i ddysgu ganddynt heb ymrwymo o gwbl i dderbyn pob golygiad. Ac nid yw hyn yn fwy gwir am unrhyw ddosbarth o ddysgawdwyr nag am ideolistiaid y can mlynedd diweddaf. Er maint y curo fydd weithiau ar rai ohonynt, ynddynt hwy, o blith yr holl ffilosoffyddion, y mae gobaith y pethau goreu sy'n perthyn i ddyn—barddoniaeth, moesoldeb, crefydd. Fe fu cyfundrefnau eraill y tybiai eu dysgawdwyr eu bod yn helpu crefydd. Ryw driugain mlynedd yn ol a rhagor fe ddisgwylid cryn dipyn o help oddiwrth Athroniaeth Syr William Hamilton, Athroniaeth Synnwyr Cyffredin, fel y'i gelwir weithiau; ond fe droes honno yn fwy o "fraich i blant Lot" nag o achles i obeithion a dyheadau goreu dyn. Y Kantiaid newydd, o ddyddiau Coleridge hyd yn awr, a wnaeth fwyaf o lawer i roi arfau yn nwylo'r Eglwys yn erbyn Philistiaeth a materoliaeth yr oes. A'r hyn a ddywedwn ni am yr ideolistiaid fel dosbarth sydd arbennig o wir am Henry Jones. Fe osododd y byd dan ddyled drom trwy ei waith yn rhoi ystyr ddaliadwy i ddatganiadau beirdd a diwinyddion.

Ni wn i ba ffordd well i gael hyd i rai o gyfraniadau mawr yr awdur at drysor meddwl ei oes, heb ymrwymo o gwbl i wneud pob defnydd a wna ef o honynt, na chodi esiamplau. Ac wrth chwilio am y rheini ni gymerwn rai o'r llwybrau y mae ef yn fwyaf chwannog iddynt.

(1) Un pwnc ganddo a dery bob darllenydd yw Pwysigrwydd Gwirionedd. Fe ddeil hwn nid yn unig yn erbyn awdurdod traddodiad, ond hefyd yn erbyn y gogoneddu a fu yn ddiweddar ar deimlad, ac yn erbyn y llwfrdra neu'r diffyg amynedd a fyn ddianc oddi wrth broblem gwirionedd i gysgod yr angen am weithredu. Neu os mynnwch chi, fe'i deil ef yn erbyn yr elfen ymarferol ac yn erbyn yr elfen brofiadol, yn yr ystyr gul i'r gair. "Ac nid yw o bwys i grefydd, a oes Duw mewn gwirionedd ai nad oes, ond i ni allu teimlo fel pe byddai un." (t. 21). Fe rydd bwys mawr ar yr elfen dragwyddol sy'n perthyn i wirionedd. "Ni all crefydd, mwy na mathemadeg, ddim bod yn wir weithiau neu yma ac acw yn unig." (t. 90). Y mae Carlyle yn un o'i hoff awduron ef, ond ni fyn ar un cyfrif ei ddilyn ef ar hyn o bwnc. Meddyginaeth Carlyle at amheuon, fel y gwyddis, yw pwyso ar yr ymarferol—gwneuthur y ddyletswydd a fo nesaf atoch. Ni fyn Syr Henry mo'r feddyginiaeth hon. Er mor bwysig yw'r ymarferol, ni wna fo mo'r tro yn lle ymresymu peth allan ar dir meddwl. Hegel? neu pwy a ddywedodd? fod gan y rheswm yr hawl frenhinol i gael ei ateb o'i enau'i hun. Rhaid distewi'r amheuon yn y llys y codwyd hwy. Nid yw gwaith, er ei bwysiced, ddim digon i dawelu cwestiynau meddwl. Rhaid i wirionedd fynd yn beth y bo yn rhaid i ni wrtho. "Profi'r ydys fod gwrthrych yn beth gwirioneddol, neu fod drychfeddwl yn wir, pan fo gwadu'r peth yn dwyn canlyniadau rhy wallgof i'w hystyried." (t. 346).

Nid na ellir dyfod o hyd i wirioneddau heb law drwy ymresymu. Daw'r anian grefyddol o hyd iddo. Darganfod y mae athroniaeth fod crefydd, megis ar un llam, wedi cyrraedd pethau sydd iddi hi yn ffrwyth llafur." (t. 324). Y mae dull y bardd hefyd yn ddull cyfreithlon o gael hyd i wirionedd. "Nid gwiw meddwl mai dychymyg i gyd yw barddoniaeth. Rhan o natur pethau y mae'r bardd yn ei ddad—fachu." (t. 264). Ond unwaith y codir y cwestiwn a ydyw peth yn wir, rhaid ei ateb ar dir rheswm. Ni ellir mo'i benderfynu mwyach trwy welediad y bardd na thrwy reddf noeth y dyn duwiol. Y mae hwn yn gryn amheuthun mewn dyddiau pryd y ceir pragmadegwyr mewn ffilosoffi yn gwneud y gwir yn ddosbarth neu dalaith o deyrnas yr ymarferol, a phobl grefyddol yn dadleu fod crefydd yn brydferth neu yn fuddiol beth bynnag am ei gwir hi.

(2). Pwnc arall y mae gan Syr Henry bethau goleu a gwerthfawr odiaeth i'w traethu arno yw Personoliaeth.

Pwnc ydyw hwn sy'n peri penbleth i ddiwinyddion cyn y cof cyntaf sydd gennyf fi. Ac fe godai llawer o'r benbleth o fod y ddwy wedd i bersonoliaeth heb eu dal efo'i gilydd yn ddigon clir—yr elfen o gau arno a'r elfen o dynnu ato. Y mae rhyw gau arno yn perthyn i'r personol. Ond y mae posibl dal y wedd honno'n unig, nes bod y personol yn troi yn rhywbeth i gau allan bob cyfathrach â'r byd y perthyno'r person iddo. Golygiad arall sy'n ennill ffafr yrŵan. Golygiad Illingworth a Moberley. Golygiad yr Hegeliaid mewn gwirionedd ydyw ac ni chewch chi mohonno'n well yn un man nag yn llyfr Syr Henry Jones. Fe dalai i astudwyr diwinyddiaeth ddarllen y llyfr yn unig er mwyn yr idea hon. Cyn dyfynnu ar hyn mi ddylwn ddwyn ar gof i'r darllenydd fod Syr Henry, yma fel ym mhob man, yn gredwr mewn rhyddid fel amod angenrheidiol ac anhepgorol cymeriad. Bydd y dyfynion yn werth mwy o gymaint a hynny. "Nid ei wahanu oddiwrth y byd y mae rhyddid dyn yn ei olygu; diffrwytho ydyw gwahanu; ac y mae dyn yn rhydd, nid oddiwrth ei fyd, namyn trwyddo. Ei fyd sydd gyfrannog ag ef yn ei anturiaethau ysbrydol." (t. 145). "Fe ymddengys bod crefydd yn ei holl ffurfiau uchaf yn torri i lawr ragfuriau'r hanfodiad personol a'r cyfrifoldeb ar wahân." (t. 154). "Mi geisiaf ddangos bod crefydd, pan olygo hi fel hyn ryw gariad sy'n cryfhau'r elfen bersonol ac yn ei llanw hi ag ysbryd gwasanaeth, yn gyson â moesoldeb." (t. 158). Y mae moesoldeb, wrth gwrs, yn golygu rhyddid ac annibyniaeth; ond cyfoethogi'r annibyniaeth hwnnw y mae crefydd o'r iawn ryw—crefydd cariad—nid ei gwtogi na'i lesteirio ddim.

"Amherffaith ydyw dyn, heb ei ddatblygu, bychan i'r graddau y caeo arno ynddo'i hun, a thrin ei bersonoliaeth megis peth yn cau'r byd allan." (t. 167). Dyna damaid pur anodd ei gyfieithu. Y mae gan Henry Jones ryw ddawn arbennig i arfer geiriau bychain yr iaith Saesneg gyda ryw bwyslais o'i eiddo'i hun. Dyna un o deithi prydferth ei arddull. Clywais ef rywdro, wrth ddarllen ei adroddiad ar waith y myfyrwyr, yn deud brawddeg felly. "The work done by this student was good." Pe buasai un o'r athrawon yn deud y frawddeg, hi swniasai yn ganmoliaeth ddigon llygoer; ond ganddo ef hi swniai fel pe dywedasai dri neu bedwar o ansoddeiriau heglog, ond yn gryfach na'r rheini. Medrai ddywedyd was good, a rhyw hanner safiad rhwng y geiriau, nes gwneuthur good ganddo ef yn well nag excellent gan lawer un. Felly yma, y mae yn deud small rhwng dau goma, nes bod small yn mynd yn llai na'r lleiaf. Y mae yr un fath bron ag y byddai Evan Davies, Trefriw, yn deud bod peth yn sal iawn, ac a fain Sir Drefaldwyn yn y gair sal yn ei wneud yn gan salach. "Po fwyaf yr elo dyn i mewn i fywyd eraill, cyfoethocaf oll fydd ei fywyd yntau." (t. 323). Ac fe ddengys yr Athro, mewn mwy nag un man, mai po uchaf y bo'r pethau y cyfranogo dyn o honynt, gwiriaf yn y byd fydd y ddeddf hon ynglŷn â phersonoliaeth. Dyma enghraifft o'r idea honno: "Gall fod gennyf faes tebyg o ran maint a llun a daear i faes fy nghymydog; eithr nid fy maes i yw ei faes ef, ac nad ei faes yntau yw f'un i. Ond gallwn ein dau gael gwybod yr un gwirioneddau, ufuddhau i'r un egwyddorion o ymddiried, coledd yr un syniadau crefyddol." (t. 285). Nid rhywbeth a chlawdd terfyn o'i gwmpas yw personoliaeth yn unig ddim, ond canol—bwnc i wasgar a derbyn dylanwadau.

Gwelir ar unwaith fod llawer cymhwysiad crefyddol i'r athrawiaeth hon. Buasai yn demtasiwn mynd i lawer cyfeiriad ar ei hol. Bodlonwn ar un, a dewis un o'r rhai y mae'r Athro 'i hun yn traethu cryn lawer arno, sef dibyniad creadur o ddyn yn ei fywyd moesol ar Dduw. Mewn un wedd yn wir gellid meddwl fod Henry Jones yn gwrthod yr idea o gymorth gras, ac mewn ystyr y mae. Nid gwiw," meddai, "bod Rhagluniaeth yn ymyrryd." (t. 226). Ond o'i ran ef, cau allan ragluniaeth neilltuol a gras neilltuol yr ydys, am mai rhagluniaeth i gyd ydyw hi a gras i gyd; a pha un bynnag a fuasai ef yn fodlon i ni wneud y defnydd hwnnw o'i athrawiaeth ai peidio, y mae ei syniad yn rhoi gosodiad gwych iawn i ni at esbonio cymorth gras. Os nad rhywbeth cyfiawn, caead, ynddo'i hun yw personoliaeth mewn dyn a Duw, yna nid oes dim anhawster mewn golygu gweithredoedd dyn yn eiddo iddo ef ei hun, ac ar yr un pryd yn ffrwyth cymorth oddi uchod. "Y mae dyn fel bod hunanymwybodol yn hel y greadigaeth i gyd i graidd . . . Y mae'r greadigaeth yn curo yn ei waith ef yn meddwl ac yn ewyllysio," (t. 177), yr un fath, mi feddyliwn. ag y dywedai rhyw eneth fach, wrth ddisgrifio cur mewn pen, "fod eich calon chi'n curo yn eich llygad." Ein rhoddi'n hunain i Dduw, dyna ydyw hynny, cael Duw gyda ni ac ynnom." (t. 287). Ni ddaw dyn, mewn gwirionedd, ddim i'w dreftadaeth o ryddid ac annibyniaeth ond trwy yfed rhywbeth i mewn o'r cylch y mae'n perthyn iddo. "Mewn ystyr y mae cymdeithas o flaen y dyn unigol. Fe'i genir ef, nid yn unig iddi, ond o honi." (t. 181). "Nid ei eni'n rhydd y mae dyn yn ei gael, ei eni yn atebol i fynd yn rhyddach ryddach trwy ddal cymundeb â'r byd.' (t. 290).

(3). Pwnc arall eto, o'r pynciau cyffredinol yma, yw lle Profiad mewn ffurfio Barn ar gwestiynau crefyddol. Er fod Syr Henry mor gryf dros benderfynu popeth wrth reol rheswm noeth, nid rheswm noeth, mewn un ystyr, mo hwnnw chwaith. Nid rheswm wedi ei ysgar oddiwrth ffactau profiad ydyw, ond rheswm a phrofiad yn ei gyfoethogi. Y mae i fyd crefydd ei bethau, fel i bob byd arall; ac nid gwiw barnu byd crefydd wrth ddeddfau unrhyw fyd is. Y mae Henry Jones cyn gadarned ar hyn o bwnc ag y byddai David Charles Davies, ond fod gan Charles Davies fwy o rag-dybiau nag ef, Ysbrydoliaeth y Beibl yn un. Ond y mae Syr Henry yntau yn dysgu'n hollol nad oes gan neb hawl i dybied fod y profion i gyd ganddo, am fod hanesiaeth naturiol byd a phrofiad crefydd ganddo. "Rhag-dybiau a ddaliai o'r goreu, o'u cymhwyso at wrthrych ym myd natur, ni wnânt ond gwyrdroi'r ffactau, o'u cymhwyso at wrthrychau sy'n naturiol ac yn rhywbeth heblaw hynny." (t.28). Rhaid i'r edrychwr ym myd crefydd, y sceptic bydol ei feddwl, gydnabod ei derfynau. Ac ni fydd waeth i mi ddeud yn blaen yn y fan yma, nad yw llawer o amheuaeth y dyddiau hyn ddim yn haeddu parch. . . . Nid yw'r amheuwyr hyn yng nghyrraedd ymresymiadau hyffordd dros grefydd nac yn ei herbyn hi chwaith." (t. 87).

(4). Fe allai y bydd enwi un enghraifft arall yn ddigon yma, y gred fod y da yn sicr o lwyddo. Fe ŵyr pawb fod optimistiaeth Tennyson a Browning wedi apelio'n rhyfeddol o gryf at Henry Jones. Iddo ef y mae'r gred fod Duw yn berson, ac mai cariad yw'r disgrifiad goreu a feddwn ni o'i gymeriad Ef, yn golygu fod daioni yn siwr o lwyddo yn y pen draw. "Yr erthygl ganolog (mewn credo crefyddol goleuedig) ydyw ffydd yn hollalluowgrwydd Duw a'i gariad diderfynau." (t. 336). Y mae hwn yn un o'r gwirioneddau hunanbrofedig hynny y mae eu gwadu yn rhy wallgof i fod yn deilwng o ystyriaeth.

Gwelir wrth yr esiamplau, ac fe allesid yn hawdd eu hamlhau, fod y llyfr yma'n fwnglawdd o addysg, hyd yn oed i'r rhai hynny na fyddont yn fodlon i'w cymryd en cludo gydag ef yr holl ffordd. Fe fyn Syr Henry fod y sierwydd am y pethau hyn, a gredir yn ddiameu yn ein plith, o'r un rhywogaeth a'r sicrwydd ar unrhyw fater o wyddoniaeth gyffredin. Gwir ei fod yn addef nad yw'r sicrwydd yma ond y cyfryw sicrwydd ag a berthyn i amcandyb; ond fe fyn hefyd mai dyma'r sicrwydd uchaf y gellir ei gael yn y byd gwyddonol yn ogystal. 'Os amcan—dyb y mynnech chwi alw'r idea, nis gallaf wrthod hynny. Ond mi garwn ddwyn ar gof i chwi mai'r un fath yw pob syniad arall a ddyry unoliaeth i'n profiad ni." (t. 229). "Yr amcan-dyb crefyddol, fel pob amcan-dyb arall, nid yw byth wedi ei phrofi'n derfynol; ond bob amser ym mhob man yr ydys yn ei phrofi hi." (t. 103). Nid yw'r prawf byth drosodd, ond y mae yn mynd yn sicrach o hyd. Yr un funud a deddf disgyrchiant, neu ddeddf datblygiad, y mae llwyddiant daioni, gwerth profiad crefyddol, ystyr personoliaeth, a phwysigrwydd gwirionedd, yn bynciau na fyddys byth wedi gorffen deud y cwbl sydd i'w ddywedyd o'u plaid; ond y mae eu sicrwydd yn mynd yn fwy o hyd. Ac nid yw Syr Henry o gwbl yn ddibris o werth yr elfen weithgar, weithredol. Nid milwr heb fod yn Ffrainc sy a hawl ganddo i siarad gyda dim awdurdod ar bethau mawr bywyd a duwioldeb. Rhai a wypo oddiwrth boethter y brwydro a fedr siarad i bwrpas. "Yn ddiau," ebai Syr Henry, "nid rhyw farchog yn ei barlwr a heriodd y galluoedd, a gweiddi, Pwy a'n gwahana ni oddiwrth gariad Crist?'" (t. 92).

Wrth derfynu, llongyfarchwn yn bur galonnog y sawl a ddug y gwaith ardderchog yma drwy'r wasg, gan dybied yn lled sicr na chafodd yr awdur wneuthur mo'r cwbl o hynny beth bynnag. Ond y mae hyn hefyd wedi ei wneuthur gan rywun mewn modd hollol deilwng o ragoriaeth a chyfoeth y llyfr. Hyd y gwelais i ychydig iawn o wallau iaith a ddiangodd heb eu cywiro. Dacw un ar d. 176. "This is the problem which we must now ask." Examine neu solve, neu rywbeth felly oedd ym meddwl yr awdur yn ddiau. Y mae brawddeg ar d. 322 y tybiai dyn wrth y cysylltiadau fod not ar ol ynddi. "Now these two aspects seem to Mr. Bradley to be not only opposites but contradictory, and therefore could be reconciled or even held simultaneously." Could not be reconciled a ddylai hwn fod yn ol pob tebyg. Ond syndod leied o ddim fel yna sydd yn y llyfr; a diau y cywirir hwy bob un yn yr argraffiad nesaf.

Anaml y caiff dyn y fath athronydd a Syr Henry Jones, a'i ddawn ysgrifennu cyn ystwythed ac mor amrywiog a phe na buasai ond llenor neu bregethwr yn gwybod llai o'r hanner. Ac y mae ystwythter a rhuglder ei ddawn, tra yn help dirfawr i ddarllen ac astudio'r llyfr, yn gwbl o dan lywodraeth barn a medr yr awdur, fel nad yw yn y gradd lleiaf wedi cymylu'r ymresymiad na'i ddallu mewn un modd i ystyr ac ergyd ei areithyddiaeth ei hun.

[Y Brython, Ebrill 6, 13, 20, 1922.

Nodiadau

golygu