Ysgrifau Puleston/Yr Efengyl yn ol Marc (Cyfieithiad Newydd)

Y Parchedig John Williams, D.D., Brynsiencyn Ysgrifau Puleston

gan John Puleston Jones

"Ffydd Ymofyn"—Syr Henry Jones

IV

YR EFENGYL YN OL MARC
CYFIEITHIAD NEWYDD
[1]

Yr Efengyl yn ol Marc. Cyfieithiad Newydd. Rhydychen yng Ngwasg y Brifysgol. 1921. O dan nawdd Adran Ddiwinyddol Urdd Graddedigion Prifysgol Cymru y paratowyd y Cyfieithiad hwn gan Bwyllgor o wyth ym Mangor.

I

AML y gofynnir, "Paham yr oedd yr amseroedd o'r blaen yn well na'r rhai hyn?" Ond mewn rhyw bethau diau fod heddyw yn well na'r dyddiau gynt. Yr ŷm yn byw mewn dyddiau pryd y mae sêl newydd wedi deffro dros ail-gyfieithu'r Beibl Cymraeg. Y mae eisoes ddau gyfeisteddfod ar waith. Yn lle bod pregethwyr ar eu teithiau'n cyfnewid chwedlau eglwysig—pwy sy'n cael galwad? pwy sy'n rhoi'i le i fyny? pa le y mae hi'n helynt rhwng y Gweinidog a'r Blaenoriaid? canolbwnc y diddordeb yn awr yw, sut i gyfieithu'r adnod a'r adnod. Efengyl Marc ydyw ysgub blaenffrwyth y symudiad hwn; a gellir dywedyd yn ddibetrus ei fod ef y cyfieithiad goreu a wnaed i'r Gymraeg eto o unrhyw ran o'r Ysgrythyr Lân. Nid yw dywedyd hynny yn anair i neb, canys yn yr ugain mlynedd diweddaf y daeth llawer o wybodaeth am Roeg cyfnod y Testament Newydd yn hysbys i'r byd Prydeinig, ac ni bu beirniadaeth destynol yr is-feirniadaeth fel y gelwid hi ychydig flynyddoedd yn ol—erioed mewn ystâd cyn addfeted ag y mae yn awr. A chyda hynny, y mae gennym weithian ysgolheigion Cymraeg nad oes berygl i'w sêl dros gywirdeb eu hudo i roi i'w darllenwyr ryw ledfegyn o beth dan enw Cymraeg.

Ond golygu y mae hyn fwy ac nid llai o ofal wrth feirniadu'r Cyfieithiad. Ni fyddai'r Cyfieithwyr ddim balchach o ganmoliaeth ddall, pa mor onest bynnag y bo. Trwy lawer o drafod ar y Cyfieithiad Newydd y sefydlir safon i'r llyfrau nesaf a gyfieither. Yn wir fe wahodd y Cyfieithwyr feirniadaeth; a chysur a chalondid pob beirniad a fydd yr hyn a ddywedai Paul ger bron Agrippa: "Nid wyf yn tybied fod dim o'r pethau hyn yn guddiedig rhagddynt."

Weithiau y mae gogwydd y Cyfieithwyr at y clasurol a'r hen, ond llawn cyn amled at y briodwedd ymddiddanol. Astudio Groeg llafar gwlad ar y llafrwyn (y papyri), a ddarganfuwyd yn yr Aifft, a barodd fod y gogwydd am ryw hyd at feddwl mai Groeg llafar gan mwyaf ydyw Groeg y Testament Newydd. Wele rai esiamplau. "Y mae'n ddrwg gan fy nghalon dros y dyrfa," viii. 2. "Un peth sydd ar ol ynot," x. 21. Yn vi. 9, cawn air llafar Môn ac Arfon, a gair da iawn, "crysbais." Gwelais feirniadu "pres" fel gair rhy sathredig. Ond beth a wnaethai cyfieithydd yn well, gan fod eisiau'r gair 'arian' am arian brasach? Cymh. vi. 8 a x. 23. Yr oedd yn gofyn cadw rhyw air i olygu manbres ac arian treigl. Goreu hyd y bo modd fyddai cael gwybod bob gafael wrth y cyfieithiad pa air Groeg sydd gennych wrth ddarllen y gair Cymraeg. Ac wedi cyfieithu dau neu dri o lyfrau gan y Pwyllgor hwn a phwyllgorau eraill, fe sefydlir bob yn dipyn, arferiad ar y pen hwn. Yr un dylanwad sy ar Moffat hefyd, y syniad mai Groeg ymddiddan sy gennym yn yr Efengylau ac mai Saesneg ymddiddan a ddylai ei gynrychioli ef. Dichon fod y syniad yma wedi ei weithio'n rhy bell gan Moffat a chan ein cyfieithwyr newydd ninnau. Diau gennyf fod Cymraeg papur newydd, neu Gymraeg Daniel Owen dyweder, i ddyn heb fedru ond Cymraeg y Mabinogion, yn edrych yn ddi-urddas a sathredig. Felly i bobl gynefin a Groeg clasurol Athen fe edrych Groeg yr Efengylau yn fwy gwerinaidd a diaddurn lawer nag ydoedd i bobl yr oes honno. Eto i'r cyfeiriad yna yr oedd eisiau mynd, ond fod yn gofyn ymgadw rhag mynd yn rhy bell. Cawn, ni gawn ddeud "mynd yrwan yn gystai a myned, waith y mae wedi ei dderbyn yma yn gyflawn aelod o'r Beibl Cymraeg.

Eithr nid oes yma ôl gogwydd na pholisi sefydlog o blaid na Chymraeg llafar na Chymraeg clasurol chwaith. Tra yr ydys weithiau yn tueddu at y rhydd a'r ymddiddanol, gwelir y duedd arall llawn cyn amled, y duedd at yr urddasol a'r hen. "Felly daeth bod Ioan y Bedyddiwr . . " i. 4. "A'i ymlid a wnaeth Simon," i. 36. Prin y mae "ymlid" yn ddealladwy i Gymro di-addysg, yn yr ystyr o fynd ar ol yr Iesu er mwyn cael ei gwmni. Y mae gair yn hel ac yn bwrw arlliwiau o ystyron ar ei daith i lawr yr oesoedd. "A chyffelyb bethau o'r fath, lawer, a wnewch," vii. 13. Cadw trefn y Groeg oedd yr amcan, debyg; ond onid gwell fuasai dilyn trefn gynefin y Gymraeg?" —Llawer o gyffelyb bethau o'r fath . . ." Yn xi. 24 y mae "Credwch i chwi ei gael" yn Gymraeg tlws, ac yn berffaith gywir; ond ar gyfer darllenwr plaen, onid gwell fuasai gwneuthur ergyd yr adnod yn fwy pwysleisgar?" Credwch eich bod wedi derbyn." Yn xv. 45, y mae gair sy'n hollol gywir eto, ond yn lled anghynefin mewn Cymraeg diweddar: "Fe roddes y gelain i Ioseph." Paham na wnaethai "corff" y tro?

Un broblem wrth gyfieithu Marc oedd yr amserau, er siampl, y presennol hanesig. Da y gwneir roddi mwy o hwn nag a geir yn yr hen gyfieithiadau; ond dichon y teimla llawer fod yma ormod ohono. "A daw i'r tŷ," iii. 19. "A deuant i Gaersalem," xi. 15. "A dygant ef i'r lle Golgotha," XV. 22. "A chydag ef croeshoeliant ddau leidr," xv. 27. Y mae Cyfieithiad Diwygiedig y Saeson yr un fath yn fynych yn hyn o beth, ond fe bair dau beth fod dilyn y ddefod yma yn Gymraeg weithiau yn anhwylus. Un ydyw bod posibl camsynied y mynegol 1liosog weithiau am y gorchmynnol. Ond peth arall mwy ei bwys ydyw bod un ffurf i'r amser presennol yn Gymraeg yn amser dyfodol hefyd. Oherwydd hyn buasai "Y maent yn dyfod," ambell dro, yn well, neu ynte roi'r ystyr heb gadw'r ffurf—"Daethant " yn lle "deuant." Ambell i ferf Gymraeg y sydd, a dau dreigliad iddi, presennol a dyfodol, megis gwn," gwybyddaf "; ac wrth ein bod ni o dan orfod i ddefnyddio'r un ffurf am y presennol a'r dyfodol, y mae blas y naill arfer, er eich gwaethaf chwi, yn mynd ar y llall.

Diau fod gan y cyfieithwyr newydd reswm da dros y ffordd a ddewisasant, a dichon mai hwy sydd yn eu lle. Un rheswm a awgrymant yn y Rhagair ydyw, bod newid amser o'r naill ferf i'r llall mewn brawddeg yn un o deithi arddull Marc. Y mae Efengyl Mathew, dyweder, yn llyfnach—mwy o ol treigl arni. Y tebycaf yw fod honno wedi bod yn rhan o ddysgeidiaeth lafar yr Eglwys cyn ei dodi mewn ysgrifen. Ol treigl yn y ddysgeidiaeth lafar, ond odid, yw'r rheswm fod adnodau o Efengyl Mathew neu Efengyl Ioan, y rhan amlaf, yn haws eu dysgu na rhai o Luc a Marc. Y mae'r corneli wedi gwisgo i ffwrdd. Yn wir, fe ddichon mai wedi y delo rhannau eraill o'r Beibl allan yn y Cyfieithiad newydd, y gwelir gwerth rhai o'r cyfnewidiadau a wnaed yn Efengyl Marc; oblegid nid hwyrach mai er mwyn dangos y gwahaniaeth dull rhwng yr efengylau y dewiswyd rhai pethau a dery'n lled ddieithr ar glust Cymro o'r oes hon.

Amser arall, a mwy o le i ddadleu yn ei gylch, ydyw'r amser anorffennol. Tuedd y Cyfieithwyr Newydd yw dodi'r anorffennol Cymraeg yma, lle bynnag y bo'r anorffennol yn Roeg. Mi enwaf rai mannau lle y buaswn i'n petruso dilyn y Cyf. Newydd. "A boddent yn y môr," v. 13. Ac fe'u cymerai hwynt, ac a'u bendithiai, dan ddodi ei ddwylo arnynt, X. 16. "Tawai yntau," xiv. 16. "Tewi'r oedd yntau," fuasai oreu gennyf fi. Nid ydys wedi gwneuthur y gwahaniaeth rhwng yr anorffennol mynychu a'r anorffennol pur, sef yr anorffennol a olyga fod peth yn digwydd yr un pryd a rhywbeth arall. Y mae'r ystyr o fynychu sy mor aml i'r anorffennol Cymraeg" "he would go", "he used to go"—yn ei gwneud hi'n amhosibl cadw'r ffurf ddiymdro ym mhob man. Rhaid disgyn weithiau ar y ffurf gwmpasog, "yr oeddwn yn mynd," yn lle "mi awn." Gall fod yr hen amser anorffennol yn Gymraeg bron yn ogyfled ei ystyr a'r anorffennol Groeg; ond yn sicr nid ydyw felly yn awr. Y mae ffurf gwmpasog a'r ffurf ddiymdro wedi mynd yn ddau amser gwahanol erbyn hyn. Ac wedyn, mewn amryw byd o fannau, dyry'r Cyfieithiad hwn y ferf yn yr amser anorffennol, lle y mae hi yn yr amser amhendant—yr aorist felly—mewn rhai o'r cyfieithiadau diweddar goreu, megis eiddo Moffatt a Chyfieithiad Diwygiedig Lloegr a'r America. Ystyr anodd ei gosod yn deg mewn Saesneg na Chymraeg yw'r ystyr o ddechreu gwaith sy'n perthyn i'r amser anorffennol yn Roeg; a diameu braidd mai'r cynrychiolydd goreu iddo ydyw'r past tense yn Saesneg, a'r blaenorol amhendant yn Gymraeg—sef y ffurf honno a ddengys fod y weithred rywbryd yn yr amser a aethi heibio, ond heb nodi o gwbl ai gorffennol ai anorffennol oedd hi o'i chyferbynnu a rhyw weithred arall, neu a'r pryd y byddom yn adrodd yr hanes. Dylasai, mi dybiwn, fod yr amser amhendant hwnnw—"aeth," "dywedodd," "gofynnodd," yn y cyfieithiad yma am i waith yn lle'r ffurf arall, 'ai,' 'gofynnai,' 'dywedai,' ac yn y blaen.

Ond pethau anodd iawn cerdded y ffiniau rhyngddynt ydyw amserau'r ferf; a phrin y cawn ni fod y ffiniau'n cyfateb yn union mewn unrhyw ddwy o'r ieithoedd meirw a ieithoedd byw. Fy nhemtasiwn i fuasai torri'r cwlwm ar gwestiwn yr amserau, gwneuthur mwy lawer o ddefnydd o'r berfenw, gwneuthur mwy lawer o frawddegau ar batrwm felly: Pan ddaeth efe a nesau at y tŷ." Er enghraifft, oni ddoi'r patrwm yna o frawddeg i fewn yn burion yn v. 13? "A rhuthrodd y genfaint dros y dibyn i'r môr, tua dwy fil, a boddi yn y môr." Y mae'r cyfieithwyr yn ddigon chwannog i'r briodwedd ystwyth a Chymroaidd hon. Canys Herod a anfonodd ac a ddaliodd Ioan, a'i rwymo yng ngharchar," vi. 17. Gŵyr y Pwyllgor yn well na mi nad oes dim a welir yn amlach mewn hen Gymraeg na rhes o ferfau, a'r cyntaf yn ei fodd a'i amser priodol, a'r lleill i gyd yn y modd annherfynol. Gwir y collid un o hynodion iaith Efengyl Marc pe defnyddid liawer ar y briodwedd hon, ond tybed fod modd cael cyfieithiad darllenadwy byth, a gyfleo bob rhyw droadau o arddull fel y gwreiddiol?

Y rhagenwau llanw, eto, sydd bwnc a llawer o le i wahaniaeth barn arno. Yr argraff a adewir ar feddwl dyn wrth ddarllen y Cyfieithiad, yw bod rhy ychydig o'r rhain ynddo. Nid oes reol gaeth, y mae'n debyg ar hyn o bwne, dim ond honno a gynygiodd Eben Fardd i ryw ddisgybl, oedd yn methu a gwahaniaethu rhwng pa b, a rhwng c ag g, wrth spelio.

"Oes rhyw reol, Mr. Thomas?" meddai'r disgybl. "Y inae hi rhwng cliced gên dyn a'i goryn o," meddai Eben. Pwnc felly ydyw hwn. Y ffordd oreu i'w benderfynu ef fyddai darllen rhes go hir o'r cyfieithiad yn y Pwyllgor i weld sut y bydd yr effaith ar y glust wrth glywed llawer ohono efo'i gilydd. "Lle'r oedd —", ii. 4. Gwell "Lle'r oedd ef." "Yn dy geisio," iii. 33. Gwell "yn dy geisio di." Rhoi ei ddwylo ar ychydig gleifion, a'u hiachau," vi. 5. Gwell "a'u hiachau hwynt," fel y cyfieithiad cyffredin. "Am iddo'i phriodi," vi. 17. Gwell "am iddo'i phriodi hi." "I'w gosod o'u blacnau," viii. 6. hwy." Y mae'r rhagenw gogwyddog hwy ar ol yma yn yr hen gyfieithiad a'r newydd. "Yn fy enw," ix. 39. Gwell "yn fy enw i." "Eto felly chwaith nid oedd eu tystiolaeth yn gyson," xiv. 59. Gwell "Ac eto felly nid oedd eu tystiolaeth hwy yn gyson." Mewn un man yn wir fe wellhawyd ar yr hen gyfieithiad ar bwnc y rhagenw llanw, iv. 2. "A dywedai wrthynt yn ei ddysgeidiaeth." Y mae "yn ei ddysgeidiaeth ef," yn wall dybryd yn yr hen; oblegid, fel y gwyddys, nid oes eisiau rhagenw llanw, o bydd y rhagenw meddiannol yn sefyll am yr un un ag enwedigydd y frawddeg. Ond at ei gilydd, fe fyddai brychiad o ragenwau yn gymwynas a'r llyfr. Byddai deud fod yma ryw foelni di—gwmpas yn ddeud rhy gryf; ond yn y cyfeiriad hwnnw y byddai'r gwir mewn ambell i fan. Ni welwn i yn fy myw nad yw "Hwy a barchant fy mab i" o'r hen gyfieithiad yn well na hwn: "Parchant fy mab." Er bod yr efe yn yr hen gyfieithiad yn wrthodedig fel newyddbeth a ddaeth i fod yn yr unfed ganrif ar bymtheg, y mae eisiau rhagenw pwysleisgar yn lle hwnnw. Byddai fo neu efo yn bur hwylus ac yn eithaf hen.

Yn groes i arfer yr ysgolheigion sy ar y Pwyllgor, ceir weithiau gadw'r drefn Saesneg a Groegaidd ar y frawddeg drwy arfer y rhagenw atgyfeiriol a. Dengys hynny nad oes yma ddim rhagfarn at unrhyw ddull cyfreithlon o gyfleu geiriau. "Dy ferch a fu farw," v. 35. Cadw trefn y Groeg oedd yr amcan yma, debyg; ond gan nad oes dim arlliw o bwyslais yn galw, onid gwell fuasai dilyn y cyfieithiad cyffredin: "Bu farw dy ferch"?

Y mae rhai ymadawiadau oddiwrth y Cyfieithiad Awdurdodedig, na fuasai waeth eu gadael fel yr oeddynt. "Parlysedig" sy yn lle "claf o'r parlys " yn ii. 4. Od oedd eisiau newid, onid gwell fuasai "parlysig," neu "barlysog"?

Gallai y ceid ambell i wall bychan damweiniol. Yn x. 19 y mae "Na ladrata," heb yr acen grom. Ni wn i ddim pa un sy'n iawn; ond pan oeddwn i'n fachgen fe fyddai'r hen athrawon yn swnio'r gorchmynnol hwn ag acen ar y sillaf olaf yn y gair, "Na ladratâ." Ond ychydig o ddim fel yma a geir.

Y tro nesaf gobeithiaf gael cyfle i nodi nifer o gampau'r Cyfieithiad Newydd. Gwelir wrth y darllen mwyaf brysiog arno, ei fod yn waith glân, rhagorol, yn ffrwyth y ddysgeidiaeth oreu a'r wybodaeth ddiweddaraf, a'i fod mewn aml i fan yn esboniad gwych yn gystal a chyfieithiad.

II.

Y tro o'r blaen fe anturiwyd nodi rhai pethau a 'mddangosent yn frychau ar waith sy ar y cyfan yn un gwych ragorol. Heddyw yr amcan fydd galw sylw at rai o ragoriaethau'r llyfr.

Un peth pur amlwg yn nawn yr Efengylwr Marc ydyw'r elfen ddarlunio. Teitl un o lyfrau y Dr. R. F. Horton ydyw "Cartoons from St. Mark." Y mae'r Cyfieithwyr wedi gwneuthur cryn degwch â'r elfen hon. Prin yn wir y mae'r cyffyrddiad lleiaf o'r lliw a'r llewych wedi dianc yn ddisylw ganddynt. Bydd ychydig esiamplau'n ddigon; a hwy ddangosant gymaint o le sydd i wella ar y cyfieithiad cyffredin, hyd yn oed lle nad yw hwnnw yn wallus, ond yn unig yn annigonol i gario'r arlliw o ystyr sydd yn y Groeg.

"A chan syllu o amgylch ar y rhai a eisteddai'n gylch o'i gwmpas," iii. 34. Dyna bictiwr ar unwaith.

"Yr Iesu, yn canfod ynddo'i hun i'r rhinwedd oedd. ynddo fyned allan, a droes yn y dyrfa, ac meddai, Pwy gyffyrddodd a'm dillad?" v. 30. Y mae'r crychiad lleiaf o wahaniaeth wedi ei gadw'n ofalus.

"A'i daflu i'r corgwn," vii. 27. Dywedir weithiau mai tyneru'r ymadrodd y mae'r gair "cwn bach" yn y fan yma—awgrym mai cwn fel cyfeillion y teulu a feddylid; ond y mae corgwn yn awgrymu'n wahanol, mai ychwanegu'r ydys at y diystyrwch fwy na dim arall.

Mi feddyliais ganwaith fod y cyfieithiad cyffredin yn ix. 3 yn un anodd rhagori arno. "A'i ddillad ef a aethant yn ddisglair, yn gannaid iawn fel eira, y fath ni fedr un pannwr ar y ddaear eu cannu." Ond dyma well braidd na hwnnw, yn gannaid odiaeth, yn gyfryw ag na allai bannwr ar y ddaear eu cannu felly."

Canys rhai fel hwy biau deyrnas Dduw." Yr oedd y cyfryw rai" yn burion cyfieithiad; ond y mae rhai fel hwy " yn fwy byw (x. 14). Y mae holl ergyd yr adnod yn yr ystyriaeth mai plant a rhai tebyg i blant biau'r deyrnas, nid plant yn unig, ond rhai yr un fath a phlant. Yr oedd ystyr gyntaf y gair cyfryw yn dechreu tywyllu, fel y bydd ystyr gair yn aml wrth hir dreiglo.

Yn x. 19 yr oedd "Ti a wyddost y gorchmynion," o'r goreu; ond y mae "Y gorchmynion a wyddost yn well. Y mae rhyw ias o ymddihaeriad ynddo am gynnyg dysgu gŵr mor hyffordd yn y gyfraith.

"Mor anodd yr â y rhai ag arian ganddynt i mewn i deyrnas Dduw!" x. 23. Y mae "Mor anawdd yr â y rhai y mae golud ganddynt," yn rhy urddasol, yn rhy sych-wastad. Yr oedd ar yr Iesu eisiau rhoi sengol i'r disgyblion, rhoi shock iddynt trwy ddywedyd peth eithafol; a dyna sy'n cyfrif am y braw y mae'r adnod nesaf yn son amdano. Arswyd ydyw'r gair yn y Cyfieithiad hwn; ac nid yw yn air rhy gryf.

Yn x. 30 y mae rhoi'r gair bychan "yn" i mewn wedi goleuo'r adnod yn ddirfawr i'm tyb i. Yn lle "a'r ni dderbyn y can cymaint yr awrhon y pryd hwn, dai, a brodyr, . . ." darllenwn, "a'r ni dderbyn gann cymaint yn awr yn yr amser hwn, yn gartrefi, a brodyr, a chwiorydd, a mamau, a phlant, a thiroedd, gydag erlidiau, ac yn yr oes a ddaw fywyd tragwyddol."

Byth bythoedd mwyach na fwytaed neb ffrwyth ohonot ti," xi. 14. Y mae'r gair yn ddiniweitiach lawer yn yr hen gyfieithiad.

Yn xii. 14 anawdd fyddai cael dim cystal a'r ymadrodd sathredig "ac na waeth gennyt am neb."

Byw odiaeth ydyw'r ymadrodd "chwyrnent arni " yn xiv. 5. Felly yn yr adnod nesaf, xiv. 6, "Gweithred hardd a wnaeth hi arnaf fi."

"Hwn yw fy ngwaed cyfamod," xiv. 24. Yr idea o gyfamod yw'r hyn y mae pwyslais arno yn adroddiad Marc; ac y mae yn werth ei astudio fel y ffurf noeth ar y dywediad. Ac yma gwelwn fod yr Iesu, yn ol yr adroddiad cynaraf a chynilaf o hanes sefydlu'r Swper, yn dysgu fod ei aberth ef, naill ai yn sail, neu ynte'n sêl, y cymod a'r cyfamod rhwng dyn a Duw.

'A'r gwasanaethyddion a'i derbyniodd ef â dyrnodiau," xiv. 65.

Grymus iawn ydyw "ymollyngodd i wylo" yn xiv. 72.

"A daeth y dorf i fyny, a dechreu gofyn iddo wneuthur fel yr arferai iddynt," xv. 8.

A dyma un o'r rhai goreu i gyd, xv. 30: "Hai, ddymchwelwr y deml, a'i hadeiladwr mewn tridiau, achub dy hun a disgyn oddiar y groes."

"Ond erbyn codi eu golwg, sylwant fod y maen wedi ei dreiglo'n ol—yr oedd yn un mawr anferth," xvi. 4.

Gellid ychwanegu llawer enghraifft, ond bydd a roddwyd yma'n ddigon i ddangos na wnaed erioed well cyfiawnder a'r darlunio ym Marc.

Llawer a wnaed yma, drachefn, trwy ffyddlondeb i'r gwreiddiol, i roi'r darllenydd ar dir i wybod i'r mymryn beth oedd mewn golwg gan yr awdur, lle y bodlonodd yr hen gyfieithwyr ar gyfieithiad amwys.

Dirdynnu " yn lle " rhwygo" sy yn i. 26. Diau ei fod y peth tebycaf erioed i'r hyn a alwn ni yn gonvulsions.

"A'r ysgrifenyddion o blith y Phariseaid," ii. 16. Gwna beth yn eglur ddigon oedd yn dywyllwch yn ein Beibl ni. Nid dau ddosbarth sydd yma, ond un, a hwnnw'n ddosbarth mewn dosbarth. Ond y mae'r Cyfieithiad yn cynrychioli'r darlleniad gwahanol i'r hen yn y fan hyn.

Yn ii. 19 gallai'r hen gyfieithiad, "plant yr ystafell briodas" olygu naill ai'r teulu neu'r bobl ddieithr, neu'r ddau. Y mae'r Cyfieithiad Newydd yn torri'r ddadl "gwesteion y briodas."

Gallai "ei gyflawniad newydd ef," yn ii. 21, feddwl un o ddau beth, y weithred o wnio'r newydd ar yr hen, neu y darn a wnïer arno. Y diweddaf sydd i fod, y mae'n amlwg, "Y darn llanw."

Yn iii. 19, nid teitl yn disgrifio cenedl y gŵr yw Cananead, namyn disgrifiad o'r sect neu'r gyfeillach grefyddol y perthynai ef iddi: "Simon y Selot." Cyfieithiad go dda oedd un Thomas Charles Edwards, "Simon y Methodist," yn hen ystyr y gair "Methodist," pan olygai aelod o gymdeithas neilltuol a'i bryd ar feithrin duwioldeb. Fe arfer Carlyle yr ymadrodd our Methodisms am bob math o ymdrech i feithrin crefydd, ei diwyllio hi felly, yn lle gadael iddi dyfu o'i gwaith ei hun.

Gallai "tŷ wedi ymrannu yn ei erbyn ei hun" fod yn amwys, er mai ystyr ddiafael iawn fuasai adeilad wedi ymrannu yn ei erbyn ei hun; ond fe dorrwyd y ddadl yma trwy roi "Teulu" i mewn, iii. 25.

"Yn ebrwydd y rhydd y cryman ar waith," iv. 29. Y mae hwn yn well na "rhoi'r cryman ynddo." Gallasai hynny olygu torri ysgub neu ddwy; ond golyga rhoi'r cryman ar waith gynhaeaf prysur.

Enghraifft dda yw "ar ei ben-blwydd" o'r fel y gallai cyfieithiad llai llythrennol fod yn decach nag un a gadwo'n dynnach at y gwreiddiol vi, 21. Yr oedd "dydd genedigaeth " yn nes i lythrennol, ond yn llai dealladwy yn Gymraeg.

Amgenach lawer yw bydded farw'n gelain," yn vii. 10, na "bydded farw'r farwolaeth," gair na rydd unrhyw feddwl eglur i ni.

"Ystrywiau drwg" sydd am ddrwg feddyliau yn vii. 21. Y mae'r gair yn o fentrus, gan nad yw'r geirlyfrau safonol yn rhoi yr ystyr hon i'r gair a gyfieithir "meddyliau"; ond y mae yn gyfieithiad eglur beth bynnag; ac am a wn i, gall fod yn iawn. Dichon fod rhyw hen ystyr i'r gair Cymraeg "ystryw," nas gwn i am dani.

Yr hyn a gawn yn vii. 32, yn lle "Atal-dywedyd," yw "diffyg ar ei barabl," yr hyn yn ddiau sy gywirach.

"Difenwi" sydd yn y Beibl Cymraeg yn xv. 32. Ond yma cawn a ganlyn: "A'r rhai a groeshoeliasid gydag ef oedd yn edliw iddo." Cyfieithiad campus.

"Yr oedd y dyn hwn yn fab i dduw," heb briflythyren i'r gair "duw," xv. 39. Nid Mab Duw yn ein hystyr ni i'r gair a feddylir, namyn mab i ryw dduw. Meddwl y canwriad oedd fod y croeshoeliedig hwnnw yn rhywun goruwch-naturiol.

Cawn hefyd aml i gyfieithiad, ac aml i nodiad ar ymyl y ddalen, neu ar ei gwaelod hi yn hytrach, a wna waith yr esbonwyr yn llawer llai. Tollwyr ydyw'r "publicanod," ii. 15.

"A llongau eraill oedd gyda hi" (sef gyda'r llong yr oedd yr Iesu ynddi), sydd well lawer na "chydag ef."

Yn viii. 38 dyma destun y Cyfieithiad: "Yn y genhedlaeth anffyddlon a phechadurus hon." Ar waelod y ddalen ar gyfer "anffyddlon," cawn y nodiad gwerthfawr a chynhwysfawr hwn: "Gr. godinebus, ond yn yr ystyr Hebraeg oanffyddlon i Dduw "."

"Llanwodd yspwng â surwin," xv. 36. Ychwanegir nodiad ar "surwin," sef diod arferol milwyr cyffredin a llafurwyr. Y mae'r nodiad ynddo'i hun bron yn ddigon i benderfynu'r pwnc y mae cryn ysgrifennu wedi bod arno, am y ddau dro y cynygiwyd diod i'r Arglwydd Iesu ar y groes. Fe wrthododd y ddiod a gynygiwyd iddo i farweiddio'r boen, ond fe dderbyniodd y ddiod a rodded i'w ddisychedu.

Afraid dywedyd ddarfod dangos y gofal llwyraf ar gael y testun gwreiddiol cyn gywired ag yr oedd posibl wrth y goleuni diweddaraf. Ac fel y cafodd yr isfeirniadaeth beirniadaeth destynol y Llyfr bob chwarae teg, felly hefyd ceir yma gryn help i ffurfio barn ar brif gwestiwn beirniadaeth hanesyddol, neu uwch-feirniadaeth Efengyl Marc. Gŵyr llawer o ddisgyblion yr Ysgol Sul fod amheuaeth am y deuddeg adnod olaf o'r Efengyl hon. Nid na allant hwy fod yn eithaf dilys fel cynnyrch yr oes Apostolaidd; ond lled sicr ydyw nad ŷnt yn rhan o'r Efengyl fel yr ysgrifennwyd hi ar y cyntaf. Yn y cyfieithiad hwn cawn gyfle i ffurfio barn drosom ein hunain. Y prif brawf ydyw bod y llawysgrifau yn amrywio yn yr adnodau hyn; a rhoddir yma ddau atodiad gwahanol a geir yn y copïau, yr un cyffredin ac un arall. Fe â hyn ym mhell i brofi fod y ffurf gyntaf ar Efengyl Marc yn dibennu ar ddiwedd xvi. 8.

Ysgrifennais hyd yma heb ymgyngori ag adolygiad gwych a manwl Mr. Tecwyn Evans. O fwriad yr oedd hynny, rhag i'm barn gael ei hystumio gan ddylanwad gŵr y mae gennyf gymaint meddwl o hono. Gwelir fy mod innau wedi disgyn ar amryw o'r un pynciau â Thecwyn; a phe printiaswn yma bopeth oedd yn fy mrasnodion cyntaf, buasai'r tebygrwydd rhyngom yn nes fyth. Ar bwnc y modd dibynnol petruso gormod yr oeddwn i ddywedyd dim yn rhyw hyderus felly. Am amserau'r ferf, gwelir nad yw Tecwyn a minnau yn gwbl unair; ond ar bopeth arall, hyd y sylwais, yr ŷm wedi dyfod i'r un fan. Yr unig newid a wneuthum ar ol darllen Tecwyn oedd tynnu'r r o'r gair llewyrch. Gobeithio na ddyd yr argraffydd hi i mewn.

Ymhen blynyddoedd, wedi llawer o chwilio a darllen y gwelwn ni gymaint o ychwanegiad oedd y Cyfieithiad yma at ein llenyddiaeth Ysgol Sul ni. Nid bychan o beth yw bod gennym weithian flaenffrwyth ymchwil annibynnol. Popeth oedd gennym yn Gymraeg o'r blaen, oddigerth a geid mewn esboniadau, efelychiad addefedig o'r Cyfieithiad Saesneg Diwygiedig ydoedd. Dyna oedd Cyfieithiad Owen Williams, a chyfieithiad y Dr. Edwards o Gaerdydd y ddau yn dilyn y Saesneg yn rhy gaeth o lawer; ond dyna hefyd oedd gwaith rhagorol Mr. Phillips, ond bod hwnnw yn efelychiad rhyddach a gwell o gymaint a hynny. Eithr o'r diwedd dyma waith yn Gymraeg gan rai a hawl ganddynt i farnu, a medr eithriadol iawn i ddodi ffrwyth eu hastudiaeth i ni "yn ein hiaith ein hun yn yr hon y'n ganwyd." Y maent wedi mentro newid mwy na'r Saesneg Diwygiedig, heb fynd mor ddibris o chwildroadol a'r Dr. Moffat. Nid ŷnt fel efe, yn cymryd y cyfrifoldeb o symud paragraff neu adnod o'u lle cynefin, a'u dodi lle y gwnaethent, yn eu barn hwy, amgenach synnwyr. Nid oes dim pen-draw i waith felly, unwaith y dechreuer cael hwyl arno.

Y cyfieithiadau tebycaf i hwn yn Saesneg yw rhai y Dr. Agar Beet o Epistolau Paul. Y mae ef, fel ein cyfieithwyr newydd ninnau, yn credu mewn dilyn trefn y Groeg. Yr oedd yn burion cael gwybod y drefn honno; ond anodd iawn ydyw ei chadw hi yn Gymraeg heb golli peth ar y pwyslais. Tuedd yr iaith Roeg yw gyrru'r gair pwysleisiog yn ol agosaf y medrer i ddechreu'r frawddeg, lle y mae aml i bwyslais yn Gymraeg i'w ddangos drwy yrru'r gair cyn nesed ag y byddo modd i'w diwedd hi. Dyna a bair fod eisiau newid curiad y llais wrth ddarllen. Ond er bod hyn yn ymyrraeth peth a hwyl a rhuglder y darlleniad, wrth ddarllen yn hyglyw, y mae yn help i alw sylw at ergyd y gwreiddiol; ac y mae newid gafael y modur wrth fynd i fyny'r rhiw yn help i ddysgu daearyddiaeth, yn gymorth i gofio pa le y mae'r bryniau a'r pantiau. Dylai llyfr fel hwn fod gan bob athro Ysgol Sul. Yn wir, o'i feddu, hwy allant fforddio bod yn lled annibynnol ar esboniadau, bob peth ond y rhaglith. Ac nid y leiaf o gymwynasau'r gwaith yw bod y pwyllgor dysgedig wedi penderfynu rhannu'r llyfrau bob yn baragraff, yn lle bob yn adnod.

[Y Cymro, Gorffennaf 23, 30, 1921

Nodiadau

golygu