Ysgrifau Puleston/Y Parchedig John Williams, D.D., Brynsiencyn
← Syr Owen Edwards | Ysgrifau Puleston gan John Puleston Jones |
Yr Efengyl yn ol Marc (Cyfieithiad Newydd) → |
III
Y DR. JOHN WILLIAMS, Brynsiencyn.
RYWBRYD tua'r flwyddyn 1876 neu '77 dywedodd fy nhad wrthyf fod Cyfarfod Pregethu yn Llansantffraid yn Edernion. "Y mae John Williams Beaumaris," meddai, "a John Jones, y Rhos, yn pregethu. Y mae arnaf flys ceisio car i fynd yno." Ni ddygwyd mo'r program hwnnw i ben. Daeth rhyw rwystri ni fynd; ond mawr oedd fy syndod at yr addewid, waith nid oedd crwydro i gyfarfodydd pregethu ddim yn beth cyffredin o gwbl yn hanes fy nhad. Yn fy mam yr oedd mwyaf o'r anian honno. Ac mi welwn fod John Williams yn rhywun pur neilltuol cyn y buasai dyn fel efo yn barod i fyned bedair-milltir-ar-ddeg i'w wrando. Peth newydd iawn y pryd hwnnw oedd bod myfyriwr o'r Coleg yn bregethwr cyfarfod. Tebyg fod peth felly wedi bod o'r blaen; ond peth dieithr iawn ydoedd y blynyddoedd hynny. Gwelwyd ar ol hynny lawer i 'student' yn cyrraedd y gradd hwn.
Yn wir, braidd y bu tô cyfan, byth oddiar hynny, heb fod yn eu plith un neu ddau o'r cyfryw, ac weithiau fwy; ond hyd y sylwais i, rhywle tua hanner y rhai a ddaeth yn bregethwyr poblogaidd yn yr Athrofa a barhaodd felly ar hyd eu hoes. O drugaredd daeth ambell un i'r golwg ar ol gadael yr Athrofa nas gwyddid am dano yn ei flynyddoedd cyntaf. Dyma un, pa fodd bynnag, a enillodd dir amlwg yn gynnar, ac a gadwodd ei le nes machludo'i ddydd. Dywedai'r cyfaill annwyl a chraff, William Jones o'r Felin Heli, "fod braidd bob pregethwr yn cael ei ddydd gras, ond fod dydd gras rhai ohonon ni'n hynod o fyr." Yr unig beth anhwylus ynglŷn â John Williams yn nechreu'i weinidogaeth oedd bod enw Bryn Siencyn a'i ddaearyddiaeth yn lled ansicr gan bobl o bell. Fe gyhoeddwyd Mr. Williams gan ryw frawd yn y De unwaith fel "John Jenkins, Bryn Wiliam."
Ganwyd ef yng Nghaergors, Llandyfrydog, yn 1855. Mi fum innau'n meddwl, fel y dywedir yn y "Goleuad," mai tua '53 y ganesid ef; ond fe dorrodd ef ei hun y ddadl mewn rhyw ymddiddan tua Chlamai, wel Hen Glamai, 1915. Dywedai'r Doctor, "Dydw i ddim yn drigain eto, ond mi fyddaf yn o fuan." Felly, triugain a chwech oedd ei oed eleni.
Rhaid fod pregethu wedi dechreu cydio ynddo'n bur fore. Yr oedd ganddo gof plentyn am William Roberts, Amlwch, a synnai lawer at y canmol fyddai ar William Roberts. Yr oedd y Patriarch yn wron ym marn John Williams, yr hynaf, tad y pregethwr. Ond ryw Saboth yn y Parc, daeth tro'r plentyn yntau i gael ei gyffwrdd gan bregethwr a gyfrifai ef yn un sych a rhwystrus. "Yr ydych yn synnu," meddai William Roberts, wrth ddisgrifio dioddefiadau'r Gwaredwr, "iddo fo ddioddef fel y gwnaeth o. Wyddoch chi at ba beth y bydda' i'n synnu? Ei fod o wedi troi'r abuse gafodd o yma o'n plaid ni ar ol mynd adre'." "Mi aeth rhyw thrill drwyddo' i," ebai John Williams, pan adroddai'r ystori wrthyf bedair wythnos i ddoe—y tro diweddaf i mi ei weled.
Y tro cyntaf y pregethodd yn y Bala, dipyn cyn gadael yr Athrofa, pregethai yn y bore ar y "Mab Afradlon," ac yn yr hwyr ar "Deuwch ataf fi." Yr oedd eisoes wedi meistroli arddull Gymraeg loew dros ben. Os yr un, yr oedd hi'n fwy blodeuog ddisgrifiadol nag mewn cyfnodau addfetach. Dagrau'r mab ieuengaf "yn berlau tryloewon ar ei ruddiau," ac yn y blaen. Ond yr un arddull oedd hi ag a swynodd bawb fyddai a chlust ganddo filoedd o weithiau ar ol hynny. Yr oedd rhai o deithi ei bregethu ef y pryd hwnnw yn dra thebyg i'r hyn a welid ar hyd y daith. Yr oedd rhagymadrodd pregeth y "Mab Afradlon yn faith, os yr un, o'i gyferbynu â hyd y bregeth. Codai res o bennau a sylwi yn unig ar ddau. Yr unig wahaniaeth oedd fod ganddo bump o bennau y pryd hynny, lle na chlywais i ganddo byth wedyn fwy na phedwar. Adwaenwn ef yn lled dda yn y Bala, gan ei fod yn lletya y drws nesaf i'm cartref; a byddai clywed ei ymddiddanion ar bregethu a rhai hŷn na mi cystal a choleg.
O ran dawn llais, prin y disgwyliasech iddo ymagor fel y gwnaeth, wrth y dull a'i nodweddai y pryd hynny-siarad braidd yn gyflym, ac yn eithaf hyglyw o'r dechreu, y llais a'r oslef ar hyd y bregeth yn gyfryw ag a wnaethai'r tro i areithio ar ddirwest dyweder. Yn wir, y peth tebycaf i'w ddawn ef y pryd hwnnw fyddai araith o bum' munud ganddo mewn cynhadledd wedi i rywun gyffroi tipyn arno mewn dadl-llefaru'n rymus ac ystwyth, ond heb ddim llawer o drawsgyweirio, nac unrhyw newid yn wir ond a ofynnid gan y pwyslais. Yr oedd yn llais ymddiddan, a hwnnw i fesur yn un iach, heb dorri i oslef teimlad.
Ymsefydlodd ym Mrynsiencyn yn 1878. Ordeiniwyd ef yn '79. Symudodd i Princes Road, Lerpwl, yn 1895, o'r lle y dychwelodd i'r Bryn i gartrefu toc wedi 1905, blwyddyn y Diwygiad. Cyraeddasai gadair y Gymdeithasfa a chadair y Gymanfa cyn hynny. Os nad wyf yn camgofio, yn Sasiwn Porthaethwy y bu'n traethu ar "Natur Eglwys " mewn cyfarfod ordeinio. Ym Mhwllheli, beth bynnag, y traddododd y cyngor, ar rybudd hynod o fyr, yn lle Mr. Elias Jones.
Yn y blynyddoedd diweddaf rhoes Prifysgol Cymru, corff sydd yn lled gynnil o'i anrhydeddau, ddoctoriaeth i John Williams a dangos eu bod yn adnabod diwinydd pan gaent hyd iddo. Fel hyn yr enillodd bob arwydd o barch a fedrai ei genedl a'i enwad ei ddyfeisio, a diau y buasai drysau ereill yn agor iddo pe mynasai ef. Bu'n gapelwr o ran anrhydedd yn y fyddin, a phan bregethai i'r milwyr mawr iawn oedd ei ddylanwad. Cof gennyf iddo ar ddiwedd odfa yn Winchester, ffurfio eglwys i dderbyn rhyw bump a'u cynhygiai eu hunain yn aelodau, un ohonynt yn un y gwyddwn i yn dda amdano. Bachgen ydoedd a llawer o'r elfen grefyddol ynddo pan fyddai ar ei draed, ond ei fod wedi llithro dan hudoliaeth y ddiod. Yr oedd John Williams yn bennaf pregethwr ganddo, ac o dan ei weinidogaeth ef y daeth i'r seiat yn ol, a chael ei drosglwyddo gan y pregethwr trwy lythyr, fel ei gyd-filwyr, i'r eglwys y buasai gynt yn aelod ynddi. Ym mhen ychydig fisoedd ar ol hynny fe syrthiodd yn un o frwydrau Ffrainc, ond allan nid aeth efe mwyach.
Eithr pa anrhydeddau bynnag a enillodd testun y sylwadau hyn, fe'u henillodd yn bennaf dim fel pregethwr. Dyma Alpha ac Omega 'i ddylanwad a'i ddefnyddioldeb. Fe droai'r cwbl o gwmpas hynny.
Y newid mwyaf a ddaeth ar ei ddawn oedd yn y Diwygiad hwnnw tuag 1883, a gysylltir âg enw Richard Owen. Daeth rhyw ddwyster newydd i'w bregethu ef yn y cyfnod hwnnw. Braidd na ddywedai dyn mai cyfuniad eithriadol o ddwyster ac awdurdod oedd ei brif nodweddion. Ond anawdd bod yn siwr beth oedd yn brif mewn gŵr a'r fath gyflawndra of ddoniau ynddo.
Y mae pawb yn cofio'r corff tal, grymus, yr oedd dipyn dros ddwylath o daldra, yr wyneb a ddatganai gymaint o arlliwiau teimlad. Y feirniadaeth a glywech chi gan rai oedd fod yn bur hawdd gweled ar ei ddull yn gwrando sut argraff a wnâi pregeth arno. Gwell gan lawer ohonom bregethwr a wrandawo fel yna na phregethwr a'i wyneb yn broblem. Byddai ef yn ei ddagrau yn aml o byddai pregeth wrth ei fodd. A thebyg fod yr hyn a'i gwnâi yn wrandawr mor fyw, yn un o'r elfennau a gyfrifai am ei lwyddiant fel llefarwr. Wyneb wedi ei eillio'n lân ydoedd ers cryn flynyddoedd weithian; ond mewn hen luniau gwelir tipyn o gernflew o boptu i'r wyneb, ond heb ddim barf flaen. Yn y pulpud fel ym mhobman byddai ei symudiadau yn esmwyth a gweddaidd. Wedi i'w gorff rymuso a thrymhau, parhâi mor ysgafndroed ag ydoedd yn fachgen. Ni theimlech chi byth mewn parlwr tŷ capel, er ei fod ysgatfydd y dyn mwyaf yn yr ystafell, ei fod yn anhylaw o fawr; a phan symudai yr oedd sioncrwydd a hoewder ym mhob osgo. Byddai tipyn o "swing yn ei safiad yn rhannau cyntaf y bregeth, ond llonyddai beth wrth fynd rhagddo a chynyddu mewn dwyster. Y pryd yma wedi i'w ddawn fynd dan y newid y soniwyd am dano, dechreuai yn ddistawach lawer na chynt; a phan gynhyrfai ei ysbryd, fe newidiai'r llais ei gywair yn gystal a'i rym. Gwnaethai disgrifiad George Matheson o John Caird y tro am ei lais yntau,—"A voice built in terraces." Y mae pregethwr mawr arall yn Sir Fôn y gallech chi glywed, ambell dro, amryw o deithi ei lais yn y saith munud cyntaf, nid y cwbl o lawer, ond amryw yr un pryd. Ond am y Dr. Williams, gallech ei wrando ef am chwarter awr heb wybod pa drawsgyweiriadau oedd yn bosibl iddo, ond pan ddôi trawsgyweiriad—naill yn ai 'floedd awdurdodol neu yn oslef ddwys erfyniol—fe wedd-newidiai gynulleidfa weithiau â gair.
Gwelais beth felly'n digwydd ryw foregwaith yn Nyffryn Clwyd, mewn capel o'r enw Henllan. Un o bregethau Efengyl Ioan oedd ganddo. Pregethodd lawer o Efengyl Ioan pan oedd yn fugail ym Mrynsiencyn, a gellid meddwl fod yn o hawdd ganddo byth wedyn droi i rywle i gymdogaeth y pregethau hynny i chwilio am bregeth newydd. Wedi yr astudio pregethwr ryw ran o'r Gair yn weddol drwyadl unwaith, fe fydd hwnnw yn faes hawdd iddo wneuthur pregethau ynddo am ei ocs. Ni olyga hynny o angenrheidrwydd ail-godi'r hen bregethau, ond fe wybydd ei ffordd i fewn ac allan yng nghymdogaeth yr ysgrythyrau hynny.
Y bore hwnnw llefarai John Williams yn bur hamddenol am agos i dri chwarter awr-ambell i ymresymiad yn deffro mwy o amheuon nag a ostegid ganddo. Fel y mae rhywbeth llai na'i gilydd yn perthyn i ddynion mawr, ymresymu cywrain oedd y peth gwannaf ym mhregethu John Williams. Er enghraifft, y tro hwnnw, fe amcanai brofi fod y Brenin Mawr weithiau yn defnyddio ac yn bendithio'r anghymwys; a'r siampl oedd byddin o gacwn yn ymosod ar elynion Israel. Yr oeddych dan demtasiwn i ofyn ai byddin anghymwys oedd honno. Braidd na ddywedech chi y buasai miloedd o gacwn, wedi deffro ati hi o ddifrif, yn ddigon o feistres ar unrhyw fyddin a ddôi i'w herbyn. Cymerai ysbaid o ymresymu a manylu, na fuasai dim ond ymadroddiad gwiwddestl a llais swynol y llefarwr yn ei gadw rhag mynd yn drymaidd a'r bobl yn gwrando gan rym eu hyder fod y pregethwr yn un y byddent yn siwr o rywbeth ganddo cyn yr eisteddai i lawr. Yr oedd aml i sylw gafaelgar bid siwr ar hyd y daith, a'r cwbl wedi ei weu a'i weithio yn berffaith wrth gwrs.
Ond o fewn deng munud, mwy neu lai, i'r diwedd, fe gymerth ei anadl ar ol dirwyn i fyny'r gadwyn ymresymiad; ac ymollyngodd i'r oslef gyfareddol honno sy'n nodweddu rhai o bregethwyr goreu y Methodistiaid, a dywedai, â rhyw swn yn ei lais rhwng gwên ac ochenaid o ryddhad: "Fe fydd yn dda gen i am ryw air yn yr Epistol at yr Hebreaid sy'n deud mai'i ogoneddu' gafodd o i'w wneuthur yn Archoffeiriad." Ac oddiyno ymlaen dyna un o'r tameidiau perffeithiaf o bregethu a glywais i un amser. Medrai John Hughes lunio peroration gwerth ei ddysgu allan bob gair; ond braidd y credaf iddo ef erioed lunio dim byd llawn cyn berffeithied a'r deng munud hwnnw o John Williams.
Diau fod ei ymresymiadau cywreiniaf yn rhoi bodlonrwydd iddo ef; ond ar wahân i'w ddawn ef i wisgo'r ymresymiad-yr oedd honno yn odidog-nid yn y fan yna'r oedd ei ogoniant mwyaf ef. Un o'r rheini ydoedd, y mae eu teimlad lawer pryd yn nes i'w le, nid na'u rheswm, ond na'u hymresymiad. Dyna nodwedd llawer o areithwyr penna'r byd.
Fe fynnai rhai yn wir nad ydoedd cyn berffeithied fel arweinydd eglwysig ag ydoedd fel pregethwr a diwinydd. Hyn sydd sier: ni fyddai'r Dr. Williams byth yn euog o aros heb ddeud ei farn nes bod y pwne bron wedi ei benderfynu, rhag cael ei hun mewn lleiafrif. Byth nid osgoâi ddadl er mwyn cadw'i groen yn iach. Ond yn y pethau y gwahaniaethech chi fwyaf oddiwrtho ar bolitics, neu bolitics eglwysig, chi fyddech yn siwr fod ei anian, ei reddfau ef, bob amser yn eu lle. Methai rhai o'i edmygwyr pennaf a chydolygu ag ef ar y Rhyfel; ond yr oedd ei deimlad ef a'i anian yn cyfeirio'r ffordd iawn ar y cwestiwn anawdd hwnnw. Pan gredai miloedd o ddynion gonest fod y doreth o'r gwrthwynebwyr o ran cydwybod yn rhagrithwyr rhonc, yr oedd John Williams yn credu fel arall. Credai a dywedai yn ddifloesgni fod nifer mawr o Conscientious Objectors yn fechgyn difrif a gonest, a'u bod yn cael cam dirfawr gan y brawdleoedd. Nid yw hyn ond un enghraifft o amgylchiad lle y gall fod teimlad dyn yn nes i'w le na'i farn. Yr un fath mewn diwinyddiaeth, ef wrthodai syniad anfoesol ar yr Iawn, nid am ei fod wedi gallu ymladd ei ffordd i olygiad clir o'r ochr arall, na'i fod chwaith wedi dyfod o hyd i gyfuniad newydd o hen olygiadau, namyn o herwydd bod ei gydwybod iach yn gwrthod dygymod ag ymddygiad yn y Duw Mawr a fuasai i'w gondemnio mewn dyn.
Nid yw'r hyn a ddywedir yma ddim yn gyfystyr a gwadu nad oedd gwerth mawr a pharhaol ym mhregethau diwinyddol John Williams. Dylai fod dati neu dri dwsin o'r rheini mewn unrhyw ddetholiad teilwng o'i bregethau. Cly wais frawd meddylgar o flaenor yn dywedyd, ar ol gwrando'r bregeth ar
"Gosodais yr Arglwydd bob amser ger fy mron,"
"Chlywais i 'rioed ddim byd yr un fath a hon. Yr oedd hi wedi ei gweithio fel problem yr Euclid. Ac yr oedd hi felly. Eto mi glywais David Charles Davies yn rhoi beirniadaeth arno na fuaswn i yr amser honno ddim yn ei disgwyl hi o gwbl ganddo ef: "Pregethwr ardderchog yw John Williams, ond braidd yn rhy abstract—dim digon o esiamplau. Nid illustrations ydw i'n ei feddwl, ond esiamplau." Yr oedd hyn tuag 1890 neu '91, ac fe newidiodd John Williams lawer yn hyn o beth yn ei bregethau diwinyddol. Daeth rhyw don fwy ymarferol i'w weinidogaeth wedi ei fyned i Lerpwl—mwy o flas cyffyrddiad agos a phethau fel y maent. Efe a glywais i'n dyfynnu gyntaf linellau Kipling gyda chymeradwyaeth fawr:
"To paint the thing as it is
For the God of things as they are."
Wrth y bwrdd tê yn o fuan wedi ei ymsefydlu yn Lerpwl yr oedd hyn. Yr oedd wedi cyfieithu'r darn i ryw gylchgrawn oedd gan Eglwys Princes Road. Pe bai'r copi yn fy nghyrraedd, byddai'r gân yn werth ei dyfynnu'n llawn yn Gymraeg. Ei gyfieithiad ef yw'r goreu a wnaed eto o honi. Fe fedrai John Williams brydyddu; ac am feirniadu barddoniaeth nid oedd ond ychydig o'i gystal.
Ond i ddychwelyd, er mor ragorol oedd yr elfen ymresymu ym mhregethau John Williams, neu yn y rhai goreu o honynt, yr oedd yr elfen ymarferol ac apeliadol yn well fyth. Pan fyddai'r ymresymiad yn rhy ddyrys i rai cyffredin eu hamgyffred, fe ddeallai pawb yr ystori ar y diwedd am ryw hen bererin o sir Fôn a'r pennill o Williams Pant y Celyn i'w chlensio hi. "Yr oedd rhyw ŵr crefyddol wedi cymryd yn ei ben i gadw llyfr a rhoi yn hwnnw bob caredigrwydd fyddai fo'n ei wneud a gwaith yr Arglwyddderbyn pregethwr yn ei dŷ, ac yn y blaen. Ryw dro wrth gadw dyletswydd fe gafodd afael ar y gair hwnnw ar ei weddi heb gyfrif iddynt eu pechodau,' a chafodd hwyl fawr ar ganmol gras, yn maddeu heb gyfrif. A phan gododd o'i weddi, Mari,' meddai fo, 'P'le y mae'r hen lyfr hwnnw? Os ydi o'n maddeu heb gyfrif, 'da' innau ddim i gadw cyfri,' a thaflodd yr hen lyfr i'r tân."
Ac fel y byddai y rhannau nesaf at y bobl o'r bregeth yn aml ym mysg ei phethau goreu hi, felly yr oedd ei bregethau ymarferol ef, at ei gilydd, y rhai goreu oedd ganddo. Ac yr oedd ganddo rai o'r rheini ym mhell cyn cyfnod Lerpwl. Yn wir ni fu erioed heb ambell un o honynt, ond eu bod yn mynd yn amlach yn ol yr herwydd fel yr heneiddiai. Mewn dau beth yn wir fe ddaliodd i gynyddu, mewn rhyddid yn ei ddull o ymadroddi, ac yng nghwmpas ei genadwri. Daeth mwy o amrywiaeth gwirioneddau i fewn fel y treiglai blynyddoedd.
Pregeth wych o'r dosbarth yma oedd "Byw'n sobr ac yn gyfiawn ac yn dduwiol." Eglurid beth oedd sobrwydd yn ystyr y Testament Newydd i'r gair. "Welsoch chi ambell i ddirwestwr meddw?" meddai'r pregethwr. "Dyna ydyw diffyg sobrwydd, nwyd yn teyrnasu a rheswm dan draed. Golygfa ydi honno o'r un class a honno welwyd yn y llys—yr Iesu'n garcharor. a Philat ar y fainc."
Byddai ei adnabyddiaeth o ffalster a rhagrith yn ddi-feth. "Glywch chi Balaam," meddai, "yn deud yn gry', ac yn teimlo'n wan, ac yn deud yn gry' am ei fod yn teimlo'n wan? Pe rhoddai Balac i mi lonaid ei dŷ o aur,' meddai Balaam, "a mynd wedyn am ddyrnaid o arian."
Ni chlywais mo Bregeth Esau; ond clywais adrodd ei bod hi'n un oddeithiol o rymus, a bod y pregethwr unwaith wrth ei phregethu hi, nid yn wylo yn unig, ond yn wylofain gan ddwyster ei gydymdeimlad a'i fater ac a'i wrandawyr.
Fel yr awgrymwyd eisoes, enillodd fwy o ryddid yn ei flynyddoedd diweddaf, wel, yn y pymtheg mlynedd olaf o'i oes—traethai yn fwy ymddiddanol; a dangosai lawer gwaith y medrasai ragori yn y dull hwnnw hefyd pe mynasai. Patrwm o'r ddawn ymddiddan oedd araith o'i eiddo mewn Cyfarfod Pobl Ifainc yn Nhydweiliog, Lleyn. "Dyn heb fod yn iach, fedr o ddim mwynhau pryd o fwyd fel rhywun arall. Y mae arno eisiau' scram.' Y mae pobl felly yn y cylch crefyddol. Nid ydyw bwyd iach, plaen ddim digon ganddyn nhw. Rhaid iddyn nhw gael 'scram '." Ac ychwanegai mewn islais hanner cellweirus: scram ydyw Cyfarfod Pregethu hefyd."
Nid llawer a glywais i arno'n arwain rhannau defosiynol yr addoliad, ar ol cyfnod yr Athrofa; ond rhoddai fri mawr ar y rhan honno o'r gwasanaeth. Dywedai mewn Sasiwn rywbryd am bregethwr yn dechreu odfa fore Sul braf ym Mehefin trwy roi'r pennill hwnnw i'w ganu:
"Mae dydd y Farn yn dod ar frys."
"Yn lle," meddai Mr. Williams, "rhyw bennill felly:
"Mi bellach goda'i maes
Ar fore glas y wawr,"
ac adrodd y tri phennill yn ei ddull di-hafal ei hun.
Gwnaeth y pregethwr mawr hwn lawer heb law pregethu, gormod hwyrach iddo fedru cael y gorffwys a allasai o bosibl estyn ei oes. Ond er ein bod yn gwarafun iddo ddifa'i ynni ar bwyllgorau o bob math, gogoniant dyn mawr ydyw parodrwydd i weini mewn diflaswaith a fuasai is—law sylw gan rai. Ac yr oedd yn ddyledus i'r elfen yma am lawer o'i ddylanwad mawr ar ei Gyfundeb, ac ar ei Sir yn enwedig. Dilynid ef yn ewyllysgar, nid am ei fod bob amser yn arweinydd anffaeledig. Efe fuasai'r cyntaf i gydnabod nad oedd felly; ond dilynid ef am ei fod gyda'r brodyr yn eu diflaswaith beunyddiol. Nid esgeulusai byth mo'i Gyfarfod Misol ei hun. Codai dri o'r gloch y bore i ddal trên ar ddiwrnod y Cyfarfod Misol. Mawr ydyw effaith y parodrwydd yma i helpu yn y gwaith cyson. Cwyn ambell un yw ei fod yn fyr o ddylanwad i droi pobl i'w ganlyn mewn dadl yn y Sasiwn neu'r Seiat Fisol; ond y gwir yw nad ydynt hwy byth yno ond pan fo arnynt eisiau tynnu'n groes i farn y lliaws. Pe buasent yno o hyd fel John Williams, yn cydwneuthur y gwaith cyson a'r frawdoliaeth, buasent o'r un farn y rhan amlaf a'r Corff, ac yna cawsent drwydded i fynd yn groes i'r farn honno pan fyddai galw, a medrent dynnu'r lliaws gyda hwynt.
Ond fel y dywedwyd, pregethu di—gymar o dda oedd prif spring ei ddylanwad. Ei brofiad fel pregethwr a'i gwnaeth yn esboniwr mor wych. Y mae yn amheus a fu cyflawnach cyfuniad o ddoniau yn hanes y Methodistiaid. Chwi gaech yn ddiau rai mwy nag ef mewn un neu ddau o bethau; ond am gyfuniad o ddoniau y mae'n anawdd meddwl am neb gogyf. uwch. Yr oedd ynddo gryn lawer o hen bregethu hwyliog Sir Fôn, y pregethu hwnnw yr oedd John Pritchard, Amlwch, yn siampl ragorol o honno. Ond yr oedd yn glir oddiwrth wendidau'r pregethu hwnnw. Byddai John Pritchard weithiau yn gwaeddi gosodiadau sychion mewn llais dolefus. Gwyddai John Williams i'r dim pa bryd i weiddi a pha beth i'w weiddi. Ac ynddo ef yr oedd y pregethu poblogaidd gafaelgar apeliadol wedi ei blethu a meddylgarwch ac athrawiaeth deilwng o bregethu goreu John Hughes. Ond fe feddai ystwythder ymadrodd ac amrywiaeth areithyddol na feddai John Hughes mo hono. Y mae'r pregethwyr cyffredin yn elwa rhywbeth o fod ambell i bregethwr mawr ar y maes; ac o'r tu arall y mae llesmeirio banerwr yn peri i gatrawd gyfan dorri ei chalon.
Ond yn ein hiraeth am un o dywysogion disgleiriaf y pulpud Cymreig, na foed i ni anghofio cydymdeimlo a Mrs. Williams a'r plant. Rhywbeth yn ymylu ar hunangarwch a berthyn i'n galar ni am ŵr mawr tuedd i anghofio fod rhywrai mor agos ato ef a phe na buasai yn ŵr y teimlo cenedl ei golli.
II
Adolygiad ar y gyfrol gyntaf o Bregethau gan y Parch. John Williams, D.D. Wedi eu golygu gan y Parch. John Owen, M.A., Caernarfon.
Dyma waith anodd wedi ei wneuthur yn eithriadol o dda—dodi ar gof a chadw beth o gynhaeaf gweinidogaeth pregethwr mawr. Yr oedd y gwaith yn anos am fod llawer o'r rhagor rhwng pregethwr mawr a phregethwr cyffredin yn y deud yn fwy nag yn y meddyliau; ac yr oedd hyn yn arbennig o wir am y Dr. Williams. Nid nad ydoedd yn feddyliwr wrth gwrs, ac yn fwy o fyfyriwr nag o feddyliwr; ond yr oedd yn fwy o ddeudwr nag o'r un o'r ddau. Galwodd cymydog o bregethwr, a fu yma'r prydnawn heddyw, fy sylw at un prawf arbennig o ogoniant John Williams fel deudwr: "Y mae yma rai pregethau y mae dyn yn synnu ei fod o'n medru cael hwyl ar eu deud nhw."
Dywedai David Charles Davies fod tuedd ym mhregethau John Williams i fod yn rhy abstract. Ni wn i ddim a glywodd efe'r feirniadaeth hon yn rhywle. Fe altrodd lawer, bid a fynno, yn yr ugain mlynedd diweddaf yn hyn o bwnc. Gofalai, chwedl Mr. Davies, nid am eglurebau yn unig—byddai cyflawnder o'r rheini ganddo bob amser—ond am esiamplau hefyd o bob gosodiad o bwys.
Ond camp na chyflawnwyd ei thebyg yn aml oedd rhoi mynd ar bregethau fel rhai o bregeth Ton Williams er gwaethaf yr elfen ysgaredig, lafurog, a berthynai iddo fel meddyliwr. Rhaid fod y dawn ymadrodd a'r dawn llais, a phersonoliaeth gyfareddol y pregethwr, yn neilltuol tu hwnt. Ni wyddech chi ddim braidd, wrth ei wrando, ei fod yn cymryd gormod o gwmpas weithiau i ddeud ei feddyliau, a chymryd gormod o gwmpas waith arall i brofi ei bwnc, rhag perffeithied ei oslef a'i bwyslais, a rhag grasloned symudiadau cynnil ei gorff. Fe wnâi hyn o beth dasg y Golygydd yn un bur anodd.
Cafodd gyfle i ddangos beth a fedrai ar y llinell yma yn yr anerchiad ar bregethu. Feddyliwn fod mwy o waith golygu ar hwn nag ar nemor un o'r pregethau, gan ddarfod cyfuno yn hwn amryw ysgrifau i'w gael i'r ffurf sy arno. Ag ystyried hynny, y mae'r anerchiad yn wyrth o gyfanrwydd di—wnïad. Pe bawn i'n dipyn iau mi gymerwn hwn yn faes llafur, a'i ddysgu allan bob gair.
Wrth ei ddarllen ni allech beidio cofio mai John Owen oedd y perffeithiaf o'r ysgrifenyddion Sasiwn a fu'n rhoi adroddiad o Seiat y Sasiwn yn y Drysorfa. Yr oeddwn i'n digwydd cofio rhai o'r anerchiadau a gofnodid, ac heb greu o ddim, rywsut, byddai'r Ysgrifennydd yn llwyddo i roi'r fath amlygwydd i bob clwt glas yn y drafodaeth, ag arfer gair John Williams, fel y byddai'r Seiat yn well bron yn y Drysorfa nag oedd hi yn y Sasiwn. Yr oedd yr adroddiad fel gwaith Prydderch yn ledio pennill. Os bydd yno ryw ddwy linell well na'i gilydd mewn emyn fe gaiff y rheini chware teg. Felly yn yr anerchiad yma, y mae yn geinwaith celfyddyd fel rhannau o Lyfrau Moses, yn well o'r ddau wedi bod trwy ddwylo'r redactor nag oeddynt gan yr awdur cyntaf. Nid John Owen yn lle John Williams sydd yma, ond John Williams ei hun ym mhob brawddeg, John Williams wedi ei ddethol a'i gydasio yn ddichlyn dros ben.
Am y detholiad o'r pregethau, nid gwiw beirniadu hynny heb ein bod ni'n gwybod beth oedd gan y Golygydd i ddethol ohono. Digon posibl fod yn well gan y Golygydd aml i bregeth na rhai o'r rhai a ddodwyd ganddo yma, ond nad oedd y rheini ddim mewn ystâd mor hwylus i'w hargraffu, ddim mor gyflawn a gorffenedig. Mi garaswn i fod y Bregeth ar Esau yn Sasiwn Pwllheli, pregeth a baratowyd i'r wasg gan y pregethwr ei hun, i mewn. Ni chyfansoddodd ef na neb arall fawr ddim byd gwell yn ei llinell ei hun na honno.
Yr oedd ganddo ddwy bregeth ar "Y Bugail Da," un yn gynnar ar ei weinidogaeth, a'r llall yn y deunaw mlynedd diweddaf dyweder. Tyfu o gyfnod i gyfnod ar ei oes a wnaeth y pregethwr, a chymryd ei weinidogaeth drwyddi; ond fel arall y digwyddodd hi gyda'r ddwy bregeth hyn; yr hynaf o'r ddwy yw'r oreu o gryn lawer yn ol hynny o gof sy gennyf fi. Yr ail a ddodwyd yn y gyfrol,—" Adnabyddiaeth y Tad o'r Mab," Ioan x. 15. Da gan ddyn wrth gwrs gael y bregeth hon, pe dim ond er mwyn cael yn y gyfrol ddatganiad clasurol o un o feddyliau mawr y pregethwr—sylfaen yr iechydwriaeth ym mherthynas y Tad a'r Mab. Ond yr oedd yr idea honno yn yr hen bregeth. A chyda hynny yr esboniadaeth yn well a chyflawnach, yr eglurhad ar gysylltiadau'r adnod—wel, yr oedd ganddo ddwy adnod yn destun y pryd hwnnw yn ddi-gymar o loew, a'r diweddglo yng nghymdogaeth yr Atgyfodiad, yn arddull goreu John Williams.
Yr unig feirniadu a glywais i ar y bregeth honno oedd bod ar y mwyaf o ol Godet ar y rhagymadrodd; ond wedyn, yr oedd Cymreigio disgrifiad Godet o ddefodau bugeiliaid y Dwyrain, fel y medrai ef ei Gymreigio, yn gymwynas bur fawr. Mwy o ymresymu a llai o ddisgrifio sydd yn y bregeth fel y mae hi yma. Ond beth a wyddom nad oedd y bregeth hynaf ar goll? Y mae yn amlwg fod gan y pregethwr ei hun fwy o feddwl o hon. Yr oedd yn cywreinio mwy ynghylch y gwahanol fathau o adnabod, ac yn y blaen; ac nid oedd ef, mwy na rhai dynion mawr eraill, ddim yn feirniad diogel ar deilyngdod cymharol ei gynhyrchion ei hun.
Tybiai ef, a barnu oddiwrth y lle a roddai i'w wahanol bregethau, mai ei bregethau diwinyddol, cywreinbleth, oedd ei rai goreu. Y rheini a bregethai ef amlaf o ddim reswm, dau dro am un os nad rhagor i'r lleill. Ond ym marn pob beirniad braidd ond efo'i hun y lleill oedd y rhai goreu. Byddai pregethwr tra gwahanol yn debyg iddo yn hyn—Evan Jones, Caernarfon. Yr oedd dan yr argraff ei fod yn pregethu'n well ar bwnc—pregethu traethodol; ond yr oedd yn amlycach fyth yn ei amgylchiad ef, mai pregethau o nodwedd arall, pregethau ar hanes, neu ar gymeriad, neu bregethau a gwawr o filosoffi arnynt, oedd yn taro'i ddawn ef oreu.
Yr un peth sydd wir i raddau, nid i'r un graddau o bosibl, am bregethau John Williams. "Balaam,' "Esau,"
Barabas," "Plant y Dydd," "Y Maen," "Ei waith Ef ydym," "Crist yn gwymp ac yn gyfodiad "—dyna bregethau mwyaf John Williams. wyf yn enwi rhai sy yma a rhai sy heb fod. Mewn gwirionedd, ymddengys i mi ei fod yn fwy o esboniwr nag o ddiwinydd cyfundrefnol, yn fwy yn ei welediad nag yn ei ddawn i ymresymu. Yr oedd ei reddfau ysbrydol yn ddi—feth. Cyffyrddiad ei ddychymyg, yr oedd hwnnw'n ddigon medrus i'w wneuthur yn fardd, ond mai i batrwm areithiwr y llifodd ei ddoniau cyn iddynt orffen cymryd ffurf.
Wrth ymresymu, fe wnâi weithiau wrth—gyferbyniad na welech chi ddim yn rhyw hawdd iawn ei fod yn un teg, megis lle y dywedai mewn pregeth nas ceir yma, mai bendithio'r cymwys ydyw trefn Duw, ond ei fod weithiau yn bendithio'r anghymwys. A'r enghraifft o fendithio'r anghymwys oedd byddin o gacwn yn ymosod ar fyddin o filwyr. Yn awr y mae yn anodd gennyf fi feddwl am ddim byd cymhwysach na byddin o gacwn—miloedd ar filoedd a phob un a'i golyn, dwy neu dair weithiau ym mhen un bachgen, ac heb fod gwaeth ganddynt drengu eu hunain yn y frwydr na suo yn y perthi. Na, wir, byddin go anodd cael ei chystal fuasai'r cacwn.
Ond os byddai'r ymresymwr a'r dadelfennwr weithiau yn peri i ni betruso, yn codi ambell dro fwy o amheuon nag a ostegai, byddai'r gweledydd yn cario argyhoeddiad â phob ergyd; ac y mae'r gyfrol yma'n frith o esiamplau o ddawn oreu'r pregethwr.
Wele rai; o bregeth "Crist yn Gwymp ac yn Gyfodiad." Am Iddewiaeth y dywedir: "Mor brydferth fuasai ei marw hi pe trengasai fel Simeon ar ol derbyn yr Iesu yn ei breichiau." (t. 23.)
Am bobl rhyw bentref tawel diwyd yng nglan y môr y dywedir fod y llong—ddrylliad a ddigwyddodd yno wedi troi'n brawf, yn godiad ac yn gwymp. "Cyn pen y pedair awr ar hugain y mae'r wreck wedi rhannu'r holl drigolion yn ddau ddosbarth, ysbeilwyr a dynion gonest." (t. 233).
"Ni fydd yn dawel heb grefydd; ond y drwg yw, y mae yn rhy dawel gyda chrefydd." (t. 237). "Dyma'r gwahaniaeth. Aeth pob disgybl arall yng nghwmni'r Iesu i ffraeo a'i bechod, a thyfodd pob un ohonynt yn sant. Ond cadwodd Judas yn ffrindiau i'w bechod, a thyfodd yn gythraul." (t. 239).
"Bobl annwyl, a ydych yn ystyried eich bod wrth ymwneud â chrefydd Mab Duw, yn ymhel a nerthoedd Dwyfol?" (t. 241). Meddwl ydyw hwn yr oedd y pregethwr yn rhyfeddol o fyw iddo, y grym, y dynamic, ofnadwy a ddaeth i'r byd yma yng Nghrist Iesu. Ceir ef yn y bregeth hon ac ym mhregeth "Y Maen," ac yma ac acw drwy ei weinidogaeth. Dyna oedd yr Ymgnawdoliad, dyna oedd yr Iawn, dyna oedd yr Atgyfodiad, iddo ef, datguddiad o ryw rym Dwyfol ac anorchfygol. Gan yr ystyriaeth honno fe siglid ei natur gref gyfoethog hyd ei gwraidd.
Yn yr hyn a ddywedwyd uchod, fod pregethau ymarferol John Williams yn well, at ei gilydd, na'i bregethau athrawiaethol, y mae un eithriad amlwg o blith pregethau y gyfrol hon—y Bregeth ar yr Iawn.
Y mae hon, rhyfedd son, yn well braidd wrth ei darllen nag wrth ei gwrando, dim ond bod y darn efengylaidd hwnnw ar ddiwedd yr odfa, y cymhwysiad, yn gwirioni pawb ar wahân i deilyngdod y bregeth drwyddi. Y mae'n amlwg ddarfod i'r awdur adael hon mewn ffurf eithriadol o addfed. Ymddengys mai yn syniad Dale y gorffwysai ei feddwl, y golygiad fod yr aberth yn angenrheidiol er diogelu llywodraeth foesol Duw. "Fel y byddai efe yn gyfiawn, ac yn cyfiawnhau y neb sydd o ffydd Iesu." Pwy a ŵyr na chawsem ni gyfraniad neilltuol ganddo ar yr athrawiaeth fawr hon, pe cawsai fyw? Gweithio'i ffordd yr ydoedd yn y blynyddoedd diweddaf, at feddyliau y gallai ddygymod â hwynt ar yr Iawn, heb eto orffen boddhau ei hun.
Nid oedd yn perthyn i waith Mr. Owen newid rhyw fân wallau yn yr ysgrif, megis "ga" yn lle "gaiff" ar d. 28, "a phan ga" ar d. 132. Cawn hefyd ar d. 30 "Pan y mae gwaith yn ddim," yn lle " pan nad yw neu "pan na bo."
Gallasai'r Golygydd yn gyfreithlon orffen ambell i ddyfyniad, lle y mae ei orffen y buasai'r pregethwr wrth ei ddywedyd, megis hwnnw—
"Melltithied Ebat uwch bob bai,"
ar ddiwedd Pregeth yr Iawn; yn enwedig gan fod clensio paragraff â phennill yn nodwedd mor amlwg ac mor odidog ym mhregethu John Williams.
Ond manion yw y rhai hyn. Gŵyr pawb fod Cymraeg y pregethwr hwn yn batrwm o ddillynder. Mewn hoewder gwisgi y mae tu hwnt i Gymraeg y Dr. John Hughes. Ac yr oedd y pregethau yn dra ffodus o syrthio i ddwylo llenor mor fedrus a Chymreigiwr mor ofalus â Mr. John Owen. Y mae dwy o bob tair, neu dair o bob pedair o'r pregethau hyn yn rhai y ceir ynddynt un o bregethwyr mwyaf Cymru, a'i gael ar ei oreu.