Ysgrifau Puleston/Beth yw'r Groes heblaw Datguddiad

Natur Eglwys Ysgrifau Puleston

gan John Puleston Jones

Yr Iawn (i)—"Ag un offrwm"

IV

Beth yw'r Groes heblaw Datguddiad?

PAWB sydd yn credu yn yr Arglwydd Iesu Grist o gwbl, fe gred ei fod ef yn ddatguddiad neilltuol ac eithriadol o Dduw, ac fe gred hefyd nad oes unrhyw ran o'i hanes ef yn fwy o ddatguddiad nag ydyw ei angau. Y mae hyn yn wir wrth reswm am y diwinyddion Efengylaidd hynny a gred mewn Iawn Gwrthrychol. Nid gwadu'r elfen o ddatguddiad yn angau'r Groes y maent hwy, ond dal bod y Groes yn fwy na datguddiad. Ac am ddiwinyddion a wrthyd y golygiad traddodiadol, datguddiad yw eu prif bwnc hwy, fel nad oes berigl iddynt ei esgeuluso; ac nid hwynt-hwy beth bynnag a gyfeiliornai trwy ysgaru angau Crist oddiwrth ei brofiadau eraill. Os yr un, cyfeiliornad y blaid geidwadol ar hyn o bwnc ydyw hwnnw. Felly gallwn gymryd yn ganiataol fod pob ysgol o ddysgawdwyr y mae eu barn o ddim pwys at ein pwrpas ni yn awr, yn unair o'r farn fod angau'r Groes yn ddatguddiad. Ond fe dâl inni am dro ymorol beth arall ydyw'r Groes. Dyma lle y daw gwahaniaeth barn i mewn. Ac addef ynteu fod angau'r groes yn ddatguddiad o Dduw—ac ni allasai fod yn llai na hynny, pe na bai ond oherwydd ei fod yr esiampl uchaf o oruchafiaeth carictor—beth sydd yma heblaw hynny? Beth sydd yn achub, ai'r Groes, ynteu'r peth y mae'r Groes yn ei ddatguddio? Ai datguddio'r gras sy'n ein hachub ni a wnaed ar Galfaria, neu a chwanegwyd rhywbeth at werth yr efengyl sy'n achub trwy ddatguddio gras Duw mewn cyfres o weithredoedd, ac yn enwedig yn y weithred fawr o farw ar y pren?

Teg cydnabod, ar drothwy'r ymchwiliad, na byddai'r Groes ddim o gwbl yn ddibwys nag yn wag o ystyr pe datguddiad yn unig a fyddai hi. Y mae datguddiad calon Duw yn beth mawr iawn yn ddiau, ac ni fynnai neb ei fychanu—dangos o dan amodau amser a chnawd beth y mae maddeu i bechadur yn ei olygu i Dduw, pa ryw agwedd ar gariad tragwyddol yw honno sy'n medru maddeu. Ond wedi arfer credu y mae'r Eglwys, o ddyddiau'r apostolion i lawr fod mwy na datguddiad yn y Groes? Beth yn fwy ydyw?

Duw yn cael prawf arno'i hun.

I. Un ateb a ymgynnyg ar unwaith yw, bod Duw yn y Groes wedi cael prawf arno'i hun. Nid i ni yn unig y mae'r fantais o waith Duw yn ei ddatguddio'i hun. Y mae'r datguddiad yn adweithio arno yntau.

Byddai'n well gan ddyn fethu trwy ddywedyd rhy fychan na thrwy ddywedyd gormod ar fater fel hwn; ond fe ymddengys rywsut fod gwahaniaeth i Dduw rhwng peth wedi ei gyflawni a pheth wedi ei fwriadu'n unig. Nid yw'n hawdd gweled pa fodd. Y mae rhagwybodaeth Duw, yn ol y syniad cyffredin amdani, yn gyfryw nes bod yr hyn a fydd yn bod eisoes megis pe buasai wedi ei gyflawni. Ac eto pe gwasgem yr ystyriaeth yna'n rhyw bell iawn, deuem i'r casgliad nad oedd dim gwerth i Dduw ar weithredoedd ragor na bwriad. Ni byddai na chreadigaeth na datguddiad o fath yn y byd yn amgen iddo ef na bod hebddynt. Ni thorrent unrhyw syched yn ei galon. Ond nid Duw fel yna yw Duw'r Beibl, na Duw crefydd o gwbl yn wir. Gallai'r athronydd fodloni ar Dduw fel yna yn sail i adeiladu rhes o ymresymiad arno; ond nid oes dim yn y syniad at ddiwallu'r anian grefyddol. Duw crefydd o angenrheidrwydd, heb sôn am Dduw Cristionogaeth, Duw ydyw yn hoffi dyfod allan ohono'i hun mewn gweithredoedd. Hyd yn oed pe derbyniem ddysgeidiaeth llinellau prydferth Emrys fel gwir llythrennol:—

"Cyn creu cylchoedd bydoedd ban
Ion a eisteddai'i hunan,
Heb eisiau doniau dynawl
I fwyn gyhoeddi ei fawl.
Na chyngan un archangel,
Na diliau mwyn odlau mêl,
Na threiddgraff serafi na sant I gynnal
Ei ogoniant—"

pe derbyniem y rhain heb altro dim arnynt—a go ychydig o athronwyr yr oes hon a fuasai'n barod i'w derbyn hwy—hyd yn oed felly, am a wyddom ni, fe fyddai gwahaniaeth i Dduw rhwng meddwl a meddwl wedi ei droi yn weithred. Ni a wyddom fod peth wedi ei gyflawni yn wahanol gan ddyn i beth nad yw eto ond bwriad. Y mae'r syched am gael prawf arno'i hun mewn gwaith yn perthyn i anian y crefftwr, y dyfeisiwr, y meddyg, y cerflunydd. Nid yw'r fedr oreu ddim yr un peth nes ei phrofi. Ond atolwg, onid amberffeithrwydd y dyn a bair hynny? Nage ddim, oblegid dau beth. Yn un peth, po uchaf y gelfyddyd mwyaf yn y byd fydd awydd y dyn ei hun am gael prawf ymarferol arni. Ni bydd y dyfeisydd, dyweder dyfeisydd llongau awyr, neu ddyfeisydd y teligraff diwifrau, ddim yn ddiddig, er bod pob cyfrif wedi ei weithio allan yn berffaith ar bapur, heb fod pob helaethiad newydd ar y gelfyddyd wedi ei droi yn ffact. A dyna beth arall, po oreu y bo'r dyn parotaf oll a fydd ef i ymostwng i'r prawf ymarferol ar fuddioldeb ei ddyfeisiau. Math go salw ar ddyn sy'n fodlon ar gerdded yr ardaloedd i hwylio cwmni a gwerthu cyfrannau cyn gwybod a oes obaith gweithio'r ddyfais allan mewn ymarferiad. Gallem ddisgwyl i'r hwn sydd berffeithgwbl o wybodaeth fod yn barod i ymostwng i'r unrhyw brawf. Gallai y dywedir mai adwaith cymdeithas ar feddwl y dyn sy'n peri peth fel hyn ym mysg dynion. Y mae pob medr dynol yn apelio at ryw fyd lle bo'r gwaith yn debig o gael ei werthfawrogi. A ellir cymhwyso hynny at Dduw? Gellir, os Duw ein Harglwydd Iesu Grist a fydd ef; oblegid fe gynnwys y Duw hwn gymdeithas i apelio ati ynddo'i hunan. Ar y cyfan ynteu, hyd y gallwn ni ddefnyddio cyffelybiaethau dynol yn risiau i ddringo i gyfrinach yr anweledig—a pha beth arall a allwn ni ei gael?—y tebig ydyw fod act a bwriad yn ddau beth gwahanol hyd yn oed i Dduw.

Ac i mi dyma'r elfen o wir sy mewn rhyw syniadau pur gynefin am Dduw. Dacw i chwi un—yr idea o ogoniant Duw. Hawdd iawn gwneuthur gwawd o ryw agweddau i'r idea honno—dywedyd ei bod hi'n portreadu Duw fel tyrant dwyreiniol ar ei frenhinfainc, a phawb am ei fywyd yn ceisio'i ddyhuddo ef. Ond gwawdier a fynnom, y mae gwir yn y syniad o ogoniant Duw. Y mae yn wir fod rhyw fyd moesol i apelio ato, rhyw safon y mae Duw yn ei gosod iddo'i hun, a bod ei gyfiawnhau ei hun wrth y safon honno yn beth teilwng o Dduw, yn union fel y mae cadw'i lygad ar ryw safon, a gofalu na syrthio er dim is-law iddi, yn deilwng o ddyn da. Nis gall efe ei wadu ei hun." Neu cymerwch y syniad o fodlonrwydd: "Hwn yw fy annwyl Fab i, yn yr hwn y'm bodlonwyd." Y mae bodlonrwydd yn idea hawdd iawn ei gwyrdroi i ffurfiau gwrthun—bodloni'r Arglwydd â miloedd o fyheryn, neu â myrddiwn o ffrydiau olew. Ond y mae'r idea ei hun yn un wir er hynny. Y mae'r fath beth yn bod a bod y Duw Mawr, yr hwn ni dderbyn wyneb ac ni chymer wobr, yn cael ei fodloni. arno eisiau cyrraedd peth nad yw wedi ei sylweddoli eto fel ffact. Y mae Duw yn ddigon tebig i ddyn, i osod ei fryd ar amcan sydd eto heb ei gyrhaeddyd; ac y mae cyrhaeddyd hwnnw yn torri rhyw syched ynddo.

Cymhwyser hyn at hanes Iesu Grist. Ynddo Ef fe wnaeth Duw rywbeth, fe gyflawnodd rywbeth sy'n ogoniant iddo ac yn fodlonrwydd ganddo. Yn ol Efengyl Ioan, fe lefair y Gwaredwr amdano megis un yn ennill trwy waith a dioddefaint y rhagorfreintiau Dwyfol oedd yn dreftadaeth iddo erioed. "Am hyn y mae y Tad yn fy ngharu i, am fy mod i yn dodi fy einioes fel y cymerwyf hi drachefn."[1] Ie, cofiwn mail dodi ei einioes er mwyn ei chymryd hi drachefn sy'n rhyngu bodd Duw. Heb yr atgyfodiad y mae'r aberth yn ddifrod. Fe haeddodd yr Iesu gariad ei Dad, do, fe'i henillodd ar yr un tir a phe na buasai ganddo o'r blaen. "Os cedwch fy ngorchmynion, chwi a arhoswch yn fy nghariad, fel y cedwais i orchmynion fy Nhad, ac yr wyf yn aros yn ei gariad ef."[2] i Mewn pennod arall y mae'n gwneuthur y peth oedd eiddo iddo erioed yn fater gweddi, fel pe buasai wedi rhoi popeth i fyny fel mater o hawl, er mwyn bod ar dir i'w hennill hwy'n ol ar lwybr gwasanaeth. "Ac yrawrhon, O Dad, gogonedda di fyfi â'r gogoniant oedd i mi gyda thi cyn bod y byd."[3] Gwyddom wrth gwrs fod mwy nag un "bodlonwyd, Bodlonwyd " y bedydd a " Bodlonwyd " y gweddnewidiad—awgrym fod yr Iesu wedi rhyngu bodd ei Dad dan amodau cnawd, nid yn unig trwy ymgymryd â'i waith fel Iachawdwr, ond hefyd trwy dderbyn a dioddef popeth yr oedd hynny yn ei olygu. Y mae Fairbairn yn ceisio troi min y gair yn yr Epistol at y Galatiaid, "gan ei wneuthur yn felltith drosom," trwy ddywedyd mai melltith y Gyfraith Iddewig oedd y felltith hon. Ond wedyn, nid oedd melltith y gyfraith honno ar y sawl a fyddo yng nghrog ar bren ond gwedd eithafol ar y felltith oedd ynglŷn â phob marw i greadur o ddyn, ac o'r ysgymundod hwnnw y mae cymdeithas yn ei gyhoeddi ar bawb a wnelo achos yr euog yn achos iddo'i hun. Yr Iesu ei hun a welai yn ei ddioddefiadau gyflawniad o'r broffwydoliaeth, "a chyda'r anwir y cyfrifwyd ef."[4] Os gofyn

Os gofyn rhywun pa beth yn Nuw oedd ar ei brawf, pan ymostyngodd Duw yng Nghrist i fynd dan y ddeddf, yr ateb fydd, ei gariad at bechadur a'i gasineb at bechod. Dyma a feddyliai Paul wrth gondemnio pechod yn y cnawd.[5]

Weithian yr ŷm ar dir i roi ystyr i rai hen feddyliau cynefin, er nad yn union yr un ystyr ag a roddid iddynt gan ddiwinyddion yr oes o'r blaen. Dyna'r gair "haeddiant," y mae hwnnw yn golygu rhywbeth, a rhywbeth mawr iawn. Dywedai David Jones, Caerdydd, wrth Thomas Charles Edwards, mai damcaniaeth Anselm oedd damcaniaeth ei dad, y Dr. Lewis Edwards, ond ei bod hi wedi ei diwygio; ac addefai'r Prifathro degwch ei feirniadaeth. Yn awr y mae ymdriniaeth Lewis Edwards â'r idea o haeddiant yn enghraifft dda o'r fath gyfnewidiad a wnaeth ef ar system Anselm. Dywedai Lewis Edwards nad oedd y gair "haeddiant ddim yn y Testament Newydd, ond fod yno air o'r un ystyr, y gair "teilwng." "Teilwng yw'r Oen, yr hwn a laddwyd." Ond y mae rhoi teilyngdod yn lle "haeddiant " yn burion ffordd o farcio'r gwahaniaeth rhwng Anselm a Dr. Edwards. Yr ydys wedi llithro i arfer y gair "haeddiant," ac yr oedd peth sail i hynny yng ngwaith Anselm ei hun hefyd, am rywbeth y gellir ei drysori ar wahân i'r sawl a'i henillo, a rhywbeth yn wir sydd i'w gysylltu yn fwy â gweithred nag â pherson. Y mae teilyngdod, o'r tu arall, yn ein gyrru ni i feddwl am berson yn fwy nag am weithred; a dyna yn ddiau un o gyfraniadau mawr y Doctor ar yr athrawiaeth—" Haeddiant yn aros yn y Person."

Dyna ddrychfeddwl arall, pur gynefin i'r Cymro, drychfeddwl a gysylltir ag enw Grotius yn yr hen amser, ac ag enw Dale o Birmingham yn ein hoes ni, "Y ddeddf o dan ei choron." Ac nid yw'r hen idea o sarhad ar anrhydedd y Brenin Mawr os byddai'n gadael pechod yn ddi-sylw, ddim yn amddifad o ystyr, ond inni ei diosg hi o'i diwyg hen-ffasiwn. Rhaid inni gofio bod safle ac urddas gymdeithasol yn beth yr arferai pobl y Canol Oesoedd ei raddoli a'i brisio mewn arian. Yr oedd mwy o ddirwy am ladd brenin nag am ladd iarll, am ladd barwn nag am ladd gŵr bonheddig. Tynnwn ni'r ddiwyg Ffewdaidd oedd am y syniad, y mae'r peth oedd gan Anselm mewn golwg yn ei le. Gall ei ddull o'i ddywedyd ef fod yn bur chwithig; ond yr oedd yr hyn yr amcenid ei ddatgan yn wirionedd—bod Duw, wrth ddyfod yn Waredwr i bechadur, wedi ei osod ei hunan dan brawf, wedi dyfod dan y ddeddf. Yr oedd gan Dduw ei gymeriad—ei ogoniant, os mynnwch chwi; ac yng Nghrist Iesu fe fedrodd drugarhau wrth bechaduriaid, mynd i mewn i'w hamgylchiadau hwy, dioddef y felltith oedd arnynt, heb syrthio is-law iddo'i hun.

A'r dirgelwch o fedru gwneuthur hynny oedd ei fod yn costio dioddef iddo. Synnai'r Ysgrifenyddion a'r Phariseaid fod hwn yn derbyn pechaduriaid ac yn bwyta gyda hwynt, yn ei wneuthur ei hun yn un ohonynt. "Pe bai hwn broffwyd," meddai Seimon y Pharisead, "efe a wybuasai pwy a pha fath wraig yw'r hon sydd yn cyffwrdd ag ef; canys pechadures yw hi." Ni wyddai'r Phariseaid ddim faint oedd hi'n ei gostio iddo ef fynd mor agos at bechaduriaid; a'r gofid a deimlai oherwydd eu pechod hwy oedd yn ei gyfiawnhau. Yr oedd eisiau'r Groes i gyfiawnhau bywyd fel hwn yn y fath agosrwydd at bechadur. Pe buasai ef yn gallu dygymod â'r berthynas y daethai iddi er mwyn bod yn Waredwr i ni, heb ddioddef o'r herwydd, ildio i bechod a fuasai hynny. Ond mor bell ydoedd o ildio i bechod fel y talodd y dreth eithaf a fedrai cnawd ei thalu i glirio'i hun.

"Gwell ganddo na halogi
Cyfiawnder pur y Tad
Oedd lliwio'r croesbren garw
Fel sgarlad yn Ei waed."


Gwir fod llawenydd ym mherthynas yr Iesu â phechadur, y llawenydd uchaf mewn bod; ond llawenydd yn costio dioddef ydoedd. Y Groes a ddangosai faint a ddioddefai'r Brenin Mawr cyn ildio i bechod. Y mae'r profiadau yr aeth Mab Duw drwyddynt yn y cnawd yn rhywbeth newydd i Dduw—yn rhywbeth gwahanol i arfaethu mynd trwyddynt. Yr oedd yn gyfiawn ac yn cyfiawnhau o'r blaen; ond yn awr fe brofodd iddo'i hunan ei fod. Y mae gwin y deyrnas yn win newydd i'r Iesu ei hun.

Duw yn cyfranogi o brofiadau dyn.

II. Peth arall y mae'r Groes yn ei olygu ydyw bod Duw wedi dyfod yn gyfrannog o brofiadau dyn. Cyfyd yr anhawster i drin y gainc hon o'r athrawiaeth o le gwahanol i'r fel y bu hi gyda'r gyfran o'r blaen. Yno yr anhawster oedd cael geiriau pwrpasol i ddisgrifio'r tragwyddol wedi dyfod i berthynas ag amser ac wedi ei osod ei hun dan y ddeddf. Yma y mae'r peth sydd i'w ddywedyd yn gymharol hawdd ei egluro, ond yn anodd iawn ei goelio, gan ei fod mor dra gwahanol i'n dull cyffredin ni o feddwl. Y mae'r pwnc yn rhy newydd, neu, os mynnir, yn rhy hen, i fod yn dderbyniol gan feddwl yr oes hon.

I un o lyfrau'r Testament Newydd yr ym yn ddyledus am yr idea—yr Epistol at yr Hebreaid, er ei bod hi'n esboniad, a'r esboniad goreu, ar bethau yr ydys yn eu cymryd yn ganiataol drwy'r Testament Newydd i gyd. Nid oes well prawf mor anodd yw gennym ddygymod â golygiad yr Epistol ar hyn o bwnc, na'r nydd-dro fyddwn ni'n ei roi i'r syniad bob tro y delom ar ei draws. Nid oes dim mwy cyffredin gennym na phregethu o'r Epistol hwn ar gydymdeimlad yr Arglwydd Iesu, a chysylltu hynny â'r profiadau yr aeth ef drwyddynt ar y ddaear. Ond y mae'n pwyslais ni, braidd yn ddieithriad, mewn lle gwahanol i'r lle y dodir ef gan awdur yr Epistol. Prawf i ni o gariad Duw, a chefnogaeth foesol i ddilyn Crist, dyna ydyw ei hanes ef, y rhan amlaf lawer, yn dioddef gan gael ei demtio. Yn awr y mae hynny yn yr Epistol yn ddiau; ond nid ar hynny y gesyd yr awdur fwyaf o bwys. Er ei fod yn traethu am Iesu Grist fel apostol ein cyffes ni, ac fel Tywysog ein Hiechydwriaeth, amdano fel Archoffeiriad y mae'n sôn mwyaf; ac yn y gyfran ar yr offeiriadaeth y daw'r ddysgeidiaeth am demtiad a dioddefiadau'r Iesu i mewn. Ym mhellach fyth, nid temtiad yr anialwch sy ganddo fwyaf mewn golwg, ond temtasiynau'r Ardd a'r Groes. Ofn marw ydyw un o'r rhai pennaf ohonynt. Yn ii. 17—18 nid oes le i osgoi'r casgliad hwn. "Am ba achos y dylai efe ym mhob peth fod yn gyffelyb i'w frodyr, fel y byddai drugarog ac Archoffeiriad ffyddlawn, mewn pethau yn perthyn i Dduw, i wneuthur cymod dros bechodau'r bobl. Canys yn gymaint a dioddef ohono ef, gan gael ei demtio, efe a ddichon gynorthwyo'r rhai a demtir." Y cymorth neilltuol yr enillodd ef fodd i'w roi drwy ddioddef a chael ei demtio oedd gwneuthur cymod dros bechodau'r bobl—nid eu calonogi yn yr ymdrech ddim, ond cael iddynt faddeuant a rhyddhad. Profiad oedd y temtio a fu arno, a'r dioddef a aeth drwyddo, a'i cymhwysodd i fynd i'r cysegr drosom, a'i gwneuthur hi'n dda rhyngom â Duw. Ei gymhwyso a wnaed trwy ddioddef gan gael ei demtio i weini dros ddynion mewn pethau yn perthyn i Dduw. Fe ddaeth yn ddiau o'r nefoedd i'r ddaear i ddywedyd wrth ddynion pa fath un yw Duw; ond aeth yn ol hefyd o'r ddaear i'r nef i ddywedyd wrth Dduw beth ydyw bod yn ddyn. Dehonglodd brofiad yr amherffaith a'r temtiedig yng nghyfrinach y Duwdod Mawr.

Beth felly a enillodd Duw wrth ymgynefino â phrofiadau dyn, ac yn neilltuol wrth wybod beth yw ystyr dioddef a marw, a dioddef y gyfryw farwolaeth ag yr oedd blas y felltith arni? Nid parodrwydd newydd i drugarhau, nage, ac eto rhywbeth pur sylweddol a phendant, medr newydd. Oes, y mae rhywbeth y gellid ei alw'n fedr newydd yn Nuw i wrando gweddi. Nid Duw ydyw'r Duw'r Beibl wedi cau arno'i hun yn ei berffeithrwydd, ond Duw yn medru dyfod allan o hono'i hun, a mynd i mewn i brofiad yr amherffaith. Llinell â'i llond o ystyr yw honno

"Mae'n medru maddeu a chuddio bai."

"Gan fod wrth hynny i ni Archoffeiriad mawr yr hwn a aeth i'r nefoedd, Iesu Mab Duw, glynwn yn ein proffes. Canys nid oes i ni Archoffeiriad heb fedru cyd-ddioddef gyd â'n gwendid ni, ond wedi ei demtio ym mhob peth yr un ffunud a ninnau, eto heb bechod. Am hynny awn yn hyderus at orseddfaine y gras, fel y derbyniom drugaredd, ac y caffom ras yn gymorth cyfamserol."[6] Dyna'r ffordd sy gan yr Epistol yma o ddehongli offeiriadaeth Crist, Duw yn ennill rhywbeth trwy ddyfod yn ddyn, a dioddef gan gael ei demtio.

Gair pur awgrymog ydyw "cymorth cyfamserol." Fel y gwelsom eisoes, wrth drin gwedd arall i'r pwnc, y mae anhawster ynglŷn â'r idea o Dduw tragwyddol yn deall sut y mae pethau yn digwydd mewn amser; ond y mae offeiriadaeth Crist yn esbonio. Fe fedr y Brenin Mawr ddyfod i mewn i'n hamgylchiadau ni, a gwybod sut y mae hi arnom. Ychydig mewn cymhariaeth a ddywedodd yr eglwys yn ei chredoau ar y pen hwn, ond llawer iawn yn ei hemynau.

"Er dy fod Ti heddyw'n eistedd
Yng ngogoniant nef y nef,
Mewn goleuni mor ddisgleiried
Na elllir nesu ato ef,
'Rwyt yn edrych
Ar d'anwylaf yn y byd."


Yn wir, braidd na ddywedai dyn fod athrawiaeth. yr Iawn yn un mor ddyrchafedig tu hwnt i'n dulliau cyffredin ni o feddwl, na fedr dim ond barddoniaeth a chanu ei thraethu fel y dylai hi gael ei thraethu. Y mae Iesu Grist wedi mynd i'r nefoedd, ac wedi mynd a'i brofiadau dynol yno gydag ef. Fel y byddai'r diweddar William Jones o Gonwy'n arfer dywedyd, wrth ddisgrifio'r disgyblion ar y môr, a'r Iesu'n eu gwylio hwy oddi ar y mynydd, "Efe a'i gwelai hwynt yn flin arnynt yn rhwyfo"; ac wrth iddo weddïo drostynt, "y mae delw'r storm ar yr eiriolaeth." Y mae'r cymorth y medr Duw ei roddi yn awr yn gymorth cyfamserol. Ystyr newydd sydd i gariad Duw bob tro yr eiriolo Mab Duw drosom. "O phecha neb, y mae i ni eiriolwr gyda'r Tad." Dyna ydyw'r eiriolaeth yn y golygiad hwn, cymhwysiad neilltuol o gariad Duw at amgylchiad pechadur bob tro y bo angen am dano. "O phecha neb, y mae i ni eiriolwr." Doniau'r Ysbryd Glân, doniau ydynt a blas yr ymgnawdoliad arnynt. Fe rydd Moberley bwyslais ar yr ystyriaeth fod yr Ysbryd, nid yn Ysbryd Duw yn unig, ond yn Ysbryd Crist. Ysbryd y Duw dynol ydyw. Cawodydd y fendith, cawodydd dwyfol glwy' ydynt. Dyma a feddylir wrth ddywedyd bod yr Ysbryd yn cael ei roi yn enw Iesu Grist. I ddyfod yn ol at yr "Hebreaid," y mae bywyd y Gwaredwr y tu mewn i'r llen llawn cyn bwysiced at ein hiechydwriaeth ni a'i farwolaeth drosom yn y cnawd—

"Yr Archoffeiriad yn taenellu'r gwaed."

Dyma yr ail gainc yn yr athrawiaeth am angau'r Groes yn ei berthynas â Duw—y Brenin Mawr yn dyfod yn gyfrannog o brofiadau dyn.

Duw'n feichiau dros ddynion.

III. Ond y mae ystyriaeth arall y dylid ei hychwanegu am yr hyn a olyga'r Groes heblaw datguddiad, Duw yn meichnïo dros ddyn. Y mae'r idea o Grist drosom ni fel ein cynrychiolydd yn un a geir gan amryw o awduron y Testament Newydd. Efo ydyw'r Adda newydd, gwreiddyn dynoliaeth santaidd; ac fel Adda newydd y rhoes ufudd—dod i'w Dad dros ddynion. Fe gondemniodd Duw bechod yn y cnawd, fel y cyflawnid cyfiawnder y ddeddf" (dedfryd y ddeddf) " ynom ni, y rhai ydym yn rhodio, nid yn ol y cnawd eithr yn ol yr ysbryd." Er bod cyfiawnhad trwy ffydd yn golygu cyfiawnhau'r annuwiol, eto y mae adnewyddu'r annuwiol yn y golwg o'r cychwyn. At y pwrpas hwn y mae bywyd newydd yr Iesu mor bwysig at ein hachub ni a'i angau, ond bod Paul yn cyplysu'r bywyd newydd â'r atgyfodiad y rhan amlaf. fel y mae'r Hebreaid yn ei gysylltu y rhan amlaf â'r esgyniad. Nid yw'r peth ddim amlycach yn unman nag ym mhrif epistol y Cyfiawnhad, yr Epistol at y Rhufeiniaid. Beirniadaeth Moberley ar Dale, a beirniadaeth deg hefyd, ydyw ei fod, wrth esbonio athrawiaeth yr Iawn yn yr Epistol hwnnw, yn terfynu heb egluro'r wythfed bennod. A dyna ydyw'r wythfed bennod o'r Rhufeiniaid, pennod i ddangos sut y mae maddeuant yr Efengyl yn cynhyrchu bywyd newydd. Bodloni a wnaeth diwinyddiaeth gan mwyaf ar ddywedyd bod buchedd newydd, fel holl fendithion y Drefn, yn dyfod o Grist Iesu trwy ffydd. Y mae Paul yn mynd ym mhellach. Dengys ef fod y maddeuant y mae'r Efengyl yn ei gynnyg—maddeuant wrth Groes y Ceidwad, ein claddu gydag ef a'n cyd—gyfodi ag ef i fuchedd newydd—y moddion mwyaf pwrpasol a fedrai Duw ei ddyfeisio at adnewyddu'n cymeriadau ni—maddeuant yr Efengyl yn foddion gras. Y mae'n hundeb ni â Mab Duw yn wystl ac yn feichnïaeth y cawn ninnau fod yn bur. Heb y feichnïaeth yma buasai'n annheilwng o Dduw ein cyfiawnhau ni. mae Duw yn cyfiawnhau am fod ganddo fodd i adnewyddu,

Dyma'r fel y byddaf fi'n deall y drychfeddwl o feichiau yn yr Epistol at yr Hebreaid. "Ar destament gwell o hynny y gwnaethpwyd Iesu yn fachnïydd."[7]

Mechnïydd dros y ddyled oedd syniad yr hen bobl; ac yr oedd T. C. Edwards yn ei le yn gwrthod hwnnw fel dehongliad ar fechniaeth yr Epistol hwn. Mechniaeth dros Dduw i ddynion oedd hi yn ol ei syniad ef. Na, mechnïaeth dros ddynion sy'n gorwedd esmwythaf ar gysylltiadau'r gair, ond nid mechnïaeth dros y ddyled chwaith. Yr oedd y ddyled wedi ei thalu; pa eisiau mechnïaeth yn yr ystyr honno? Ond y mae mechnïaeth arall yn bod. Dacw ddau wedi syrthio allan â'i gilydd, ac un mewn llesmair a natur ddrwg wedi taro'r llall. Daeth y pwnc ger bron yr ustusiaid. Ac wedi edrych i mewn iddo barnasant mai gwell fyddai cymryd golwg drugarog ar achos y troseddwr, gan nad oedd dim cŵyn yn ei erbyn o'r blaen. A'r cwbl a wnaed oedd ei rwymo i gadw'r heddwch; ond at hynny yr oedd eisiau meichiafon. Meichiau yn yr ystyr yna ydyw Iesu Grist, meichiau dros y pechadur, y daw rywbryd yn deilwng o'r drugaredd a roed iddo heb ei hennill na'i haeddu ddim. Dyna ystyr Heb. ix. 27—28. "Ac megis y gosodwyd i ddynion farw unwaith, ac wedi hynny bod barn, felly Crist hefyd, wedi ei offrymu unwaith i ddwyn ymaith bechodau llawer, a ymddengys yr ail waith heb bechod, i'r rhai sydd yn ei ddisgwyl, er iachawdwriaeth." I ddynion y mae marw'n golygu mynd i'r farn. Barn ydyw'r peth mawr nesaf yn ein hanes ni ar ol marw; ac fe ddaeth yr Iesu mawr dan y ddeddf honno—fe aeth yntau i'r farn. Nid oedd ganddo achos o'i eiddo'i hun i'w drin yno; ond yr oedd ein hachos ni ganddo. Fe aeth i'r farn drosom ni. Trwy farw fe'i trosglwyddodd ei hunan i'r frawdle, fe'i cyflwynodd ei hun ger bron ei Dad i'w farnu, fel ein meichiau a'n cynrychiolydd ni.

Fel ein Gwaredwr, wedi dioddef gan gael ei demtio, aeth i'r cysegr i wneuthur cymod drosom; fel ein Meichiau aeth i'r llys i'w farnu. Heblaw byw a marw a byw drachefn, er mwyn ein hachub ni, fe ymgymerodd â chyfrifoldeb drosom, fe warantodd y doem ni ryw ddiwrnod yn werth ein hachub. Ar ddeheulaw'r Tad y mae ef yn flaenffrwyth y gwaredigion, yn dywysog a pherffeithydd ffydd, nid ffydd ei bobl ddim, yn y fan yna, ond ei ffydd ei hun. Y mae'n gredwr, a gariodd gredu i'w berffeithrwydd llwyr. Efo, chwedl David Charles Davies, yw'r credadun pennaf.

Ceir cadarnhad i'r meddwl hwn o le braidd heb ei ddisgwyl, Efengyl Ioan. Ymgnawdoliad yn fwy na'r Iawn yw canolbwnc yr Efengyl honno. Dyfynnai John Parry y Bala esiampl o holi da mewn dosbarth Ysgol Sul—gŵr ar ei dro, yn cael cennad i holi yn y maes a fynnai; ac un o'i gwestiynau cyntaf ef oedd: a oes gennych adnod ar gyfiawnhad trwy ffydd o Efengyl Ioan? Ar yr olwg gyntaf gellid tybied eu bod hwy yn lled brin; ond dyma un, beth bynnag, ar yr elfen fechnïol yn yr Iechydwriaeth. Y mae yn o hawdd gan Ioan weld rhyw awgrym cudd o wirionedd mawr mewn lle na buasai llygad cyffredin yn gweled dim ond damwain. Ac fe wêl hynny yn nywediad yr Iesu wrth gyfarfod â'r milwyr a ddaethai i'r ardd i'w ddal ef. "Os myfi yr ydych yn ei geisio, gadewch i'r rhai hyn fyned ymaith. Fel y cyflawnid y gair a ddywedasai efe, O'r rhai a roddaist i mi, ni chollais i yr un."[8] Fe wêl Ioan yng ngwaith yr Iesu yn ei gynnyg ei hunan yn lle'i ddisgyblion gydnabyddiaeth ganddo o'i swydd fel Gwaredwr—cyflawniad o'r broffwydoliaeth oedd yn y weddi fawr. Yn ol Ioan, fe wyddai yr Iesu fod ei roddi ei hunan yn lle'r disgyblion yn rhan hanfodol o'i waith fel Gwaredwr. Cynnyg y mae fynd i'r treial yn eu lle hwy, mechnïo drostynt yn yr ystyr a eglurwyd yma.

Crynhodeb.

Dyma ynteu rai o'r pethau a welir yng Nghroes ein Harglwydd Iesu Grist. Duw yng Nghrist wedi cael prawf newydd arno'i hun, wedi dyfod yn gyfrannog hyd yr eithaf o brofiadau dynion, ac wedi mechnïo dros ddynion a mynd yn gyfrifol drostynt. O dywed rhywun nad yw peth felly ddim yn foesol, yr un peth fyddai hynny a gwadu nad oes dim moesoldeb yn yr unig ffordd y gwyddis am dani i godi mocsoldeb o lefel is i lefel uwch—y cyfiawn yn ei roddi ei hunan dros yr anghyfiawn. Mi adewais o angenrheidrwydd aml i agwedd ar y pwnc heb ei chyffwrdd, weithiau am fy mod yn gorfod cyfyngu arnaf fy hun, ond weithiau hefyd am fy mod yn myned bob dydd yn fwy argyhoeddedig, nad yw am i gwestiwn yr ysgrifennir penodau hirion arno fawr amgen na geirddadl. Ai dyn ai Duw a gymodir yn aberth Crist? Ai cosb pechod a ddioddefodd yr Iesu, ynteu dim ond ei ganlyniadau? Ai fel ffact, ynteu fel athrawiaeth y dylid pregethu'r Iawn? Er na arferwn ni mo bob un o'r hen dermau Efengylaidd yn yr un ystyr ag yr arferid hwy gan y tadau, eto y mae ystyr iddynt, a'r ystyr honno'n aml, nid yn llai dwfn a chyrhaeddfawr nag ystyr y tadau, ond yn fwy.

[Yr Efrydydd, Mawrth a Mehefin, 1922.

Nodiadau

golygu
  1. Ioan x. 17.
  2. Ioan xv. 10.
  3. Ioan xvii. 5.
  4. Luc xxii. 37.
  5. Rhufeiniaid viii, 3
  6. Hebreaid iv. 14-16.
  7. Hebreaid vii. 22.
  8. Ioan xviii. 8-9.