Ysgrifau Puleston/Natur Eglwys

Y Beibl yn Llyfr Cenedlaethau lawer Ysgrifau Puleston

gan John Puleston Jones

Beth yw'r Groes heblaw Datguddiad

III

Natur Eglwys.

"Canys fel hyn y dywedodd yr Arglwydd wrthyf a llaw gref; ac efe a'm dysgodd na rodiwn yn ffordd y bobl hyn."
—Esaiah viii. 11.

GAIR ydyw hwn a ddywedwyd wrth y bobl mewn adeg o gynnwrf ac anesmwythyd mawr. Yr oedd Syria ac Israel wedi ffurfio Cynghrair yn erbyn Judah; ac unig idea Judah ydoedd ffurfio cynghrair arall i gyfarfod a'r cynghrair hwnnw, galw Assyria i'w cynorthwyo hwy yn erbyn Syria a Samaria. Eu hunig ddyfais hwy er diogelwch oedd y balance of power. Yr wyf yn cymryd y Proffwyd Esaiah yn siampl a chynrychiolydd o'r wir eglwys. Y mae hynny'n deg, oblegid dyna'r lle sydd iddo yn yr adnodau nesaf. Fe ddywed yr Arglwydd wrtho: "Rhwym y dystiolaeth, selia'r gyfraith ym mhlith fy nisgyblion." A'i ateb yntau ydyw "Wele fi a'r plant." Llefaru y mae dros y wir eglwys, chwedl y Dr. Forsyth, wrth yr eglwys ar y pryd. Y mae honno'n crwydro, ac yn gwrando ar ddyfeisiadau ac awgrymiadau'r byd; ond cedwir y Proffwyd a'r disgyblion yn eu lle gan ddylanwad uwch. "Yr Arglwydd a ddywedodd wrthyf a llaw gref." Ystyr dywedyd wrtho a llaw gref ydyw siarad ag ef a chydio ynddo yr un pryd—gafael yn ei ysgwydd yn dynn i'w gadw ar yr iawn lwybr." Nid wyt ti ddim i fynd i bob man, fel y rhai sydd o'th gwmpas. "Efe a'm dysgodd na rodiwn yn ffordd y bobl hyn."

A dyna'r wedd ar gymeriad yr Eglwys y dymunwn i alw sylw ati heddyw,—rhwymedigaeth yr Eglwys i ymneilltuo, y ddyletswydd o anghydffurfio. Nid wyf yn anghofio fod agweddau eraill. Dwy agwedd fawr y sydd ar fywyd eglwysig, meddai'r Dr. Orchard, y Gatholig a'r Anghydffurfiog. Y mae i'r elfen gatholig ei lle a'i swydd, yr elfen honno sy'n gwneuthur yr Eglwys yn gartref i bob ffurf gyfreithlon ar fywyd dyn ac ar fywyd cymdeithas. "Fy holl ffynhonnau sydd ynnot ti." Ond heddyw y llall a fydd gennym, yr elfen o anghydffurfio. Prin y mae eisiau deud wrth neb o honoch mai nid anghydffurfio ag unrhyw eglwys neilltuol a feddylir, ond anghydffurfio, fel y dywed y Dr. Orchard, ag ysbryd y byd. Dyma mewn gwirionedd yr unig beth gwerth ymneilltuo oddiwrtho. Rhaid wrth yr ymneilltuo arall bid siwr, ymneilltuo oddiwrth eglwys arbennig. Fe fu hynny lawer gwaith, ac nid oes wybod na fydd hynny eto. Ymneilltuwyr oedd y Brodyr Gwynion, a'r Brodyr Duon, a'r Brodyr Llwydion, yn y Canol Oesoedd, ac y mae'r un peth wedi bod yn y byd Protestanaidd.

Y gwahaniaeth yw, fod Eglwys Rufain yn gallach lawer nag Eglwys Loegr. Os cyfyd Ymneilltuwyr yn Eglwys Rufain, hi rydd wisg neilltuol am danynt. Os digwydd y peth yn Eglwys Loegr, nid oes ganddi hi ddim gwell i'w gynnyg iddynt na deddf Unffurfiaeth. Ffrwyth Deddf Unffurf Eglwys Loegr oedd eu troi hwy allan: ffrwyth gwisg unffurf Eglwys Rufain oedd eu cadw i mewn, a'u cadw felly yn ffyddlonach na neb i'r Eglwys a roes drwydded iddynt ymwahanu, neu yn hytrach ymneilltuo. Nid oes dim achos i Ymneilltuwr fynd yn ymwahanwr. Ymwahanyddion y byddai Ieuan Brydydd Hir yn ein galw ni hefyd; ond nid oes eisiau, o angenrheidrwydd, i Ymneilltuwyr fynd yn ymwahanyddion; ac ar Eglwys Loegr yr ydwyf fi'n rhoi y bai o'u bod hwy wedi mynd. Ond yr achos o ymneilltuaeth yn yr ystyr yna, ymneilltuaeth oddiwrth eglwys arbennig, ydyw, bod eglwysi cyfain weithiau yn dyfod dan ddylanwad y byd; a phan fo hi felly, nid oes dim dichon ymwrthod a hwnnw heb ymneilltuo a'r eglwys a roes ormod o groeso iddo. Dyna enaid pob ymneilltuo teilwng. Gwn fod llawer yn meddwl mai rhyw groesni barnol yw Ymneilltuaeth, fel y dywedai Bardd Nantglyn am yr Annibynwyr,

"Cristianiaid yn croes—dynnu"; ond dyma'r gwir anghydffurfiwr, anghydffurfiwr oddiwrth ysbryd y byd.

Ymneilltuo mewn athrawiaeth.

I. Y mae hi'n ddyletswydd ar yr Eglwys ymneilltuo oddiwrth y byd yn ei hathrawiaeth. Temtasiwn gref sydd iddi ystumio'i chenadwri i gyfarfod a defodau athronyddol yr oes. Cyfyd hynny o beth sydd ynddo'i hun yn angenrheidiol ac yn dda. Rhaid i'r Eglwys esbonio'i hefengyl i wahanol oesau; ac er mwyn gwneud hynny rhaid iddi ddefnyddio geiriau ac enwau yr oes, a'u newid hwy o bryd i bryd i gyfarfod ag oes newydd. Od yw'r Eglwys i fod yn Eglwys fyw, rhaid iddi ddeud ei meddwl mewn iaith a ddealler ar y pryd. Ond gwylied hi wrth wneud hynny rhag newid ei hathrawiaeth, a dywedyd rhywbeth y drws nesaf i'r peth oedd ganddi, ac nid y gwir beth ei hun. Y mae yn yr Efengyl bethau anawdd iawn eu credu; a phan ddywed hi fod Duw yn maddeu, yn rhoi cychwyn newydd i bechadur heb ddim, hawdd iawn gan yr Eglwys chwilio am bethau tebyg i faddeuant, wrth geisio pontio'r gwahaniaeth rhwng y cyffredin a'r goruwch—naturiol, a gwneuthur maddeuant yn llai o wyrth. "Yr afradlon yn dechreu dyfod ato'i hun ydyw," ac yn y blaen. A lle bynnag y delo gras i mewn, y mae hi'n dipyn o demtasiwn ei esbonio i ffwrdd, hyd na bo dim o hono, dim ond rhywbeth tebyg yn ei le. Nid temtasiwn mo hon. Y mae hi'n hen iawn. Meddyliwch am Glement o Alexandria, y gŵr duwiol a chyrhaeddgar hwnnw. Y mae ganddo ef gymhariaeth awgrymog iawn i ddangos sut y mae Duw yn ateb gweddi. Dacw ddyn yn y llong, a rhaff ganddo yn ei law o yn rhwym wrth y cei, ac yntau'n tynnu. Gall ef feddwl mai'r llong sy'n tynnu'r cei ati; ond mewn gwirionedd y cei sy'n tynnu'r llong. Cymhariaeth wych iawn, ond y mae hi'n cuddio un rhan bwysig o'r gwirionedd, yr ystyriaeth fod Duw yn symud wrth ateb gweddi. Nid rhyw hyn a hyn o nerth sydd yno, yn ei unfan, a ninnau trwy weddi yn ein gweithio'n hunain i gydweithrediad â hwnnw. Y mae hynny'n bod; ond y mae mwy yn bod na hynny. Duw byw ydyw'n Duw ni; ac y mae yntau'n gweithredu ei hunan i gyfarfod ein gwaith ni. Croeso i'r Eglwys chwilio am bob dameg i ddangos ei phwnc. Y mae'r byd yn llawn o honynt. Ond cofied hi yr un pryd fod ganddi hi rywbeth i'w ddeud dros ei Duw na fedd y byd ddim yr un fath ag ef. "Yr Arglwydd a ddywedodd wrthyf a llaw gref."

Yn Annibynnol ar bob Plaid a Dosbarth.

2. Rhaid i'r Eglwys ymneilltuo trwy fod yn annibynnol ar bob plaid a dosbarth mewn cymdeithas. Nid yw hi ddim i roi siaced fraith i unrhyw blaid boliticaidd. Y mae hi'n rhwym o deimlo fod cyfathrach arbennig rhyngddi a rhywbeth ym mhrogram y pleidiau, ond nid gwiw iddi ei chlymu ei hun yn rhy dynn wrth unrhyw blaid. A'r un ffunud am ddosbarthiadau cymdeithas. Fe gwynir fod Eglwys Loegr wedi bod yn ormod o Eglwys y bobl fawr; ac erbyn hyn fe gwynir mewn rhyw gylchoedd, yn Neheudir Cymru yn enwedig, fod y capel yn ormod o gapel y Manager a'r Under-Manager. Dyna sy'n cyfrif am ddarfod estronni llawer oddiwrth grefydd swyddogol fel y gelwir hi, yr un peth ag a bair i un capel mewn tref fynd yn gapel y pennau teuluoedd a'r bobl gymfforddus, ac i un arall fynd yn hoff gapel y bobl ifainc, gweinidogion y siopau a'r tai. Dylai'r Eglwys fod yn ormod o bendefiges i'w chlymu ei hunan wrth unrhyw ddefod nac unrhyw gylch nac unrhyw sefydliad. "Efe a'm dysgodd na rodiwn yn ffordd y bobl hyn." Y mae'r byd yn dyfod yn well, meddech chi. Ydyw, diolch i Dduw am hynny; ond ni ddaw o byth yn ddigon da i Eglwys Iesu Grist gymryd ei chyweirnod oddiwrtho.

Yn Annibynnol ar Genedl.

3. Y mae'r Eglwys i ymneilltuo trwy fod yn annibynnol ar genedl. A ydych chwi'n tybied y buasai'r llun sy ar y byd heddyw pe cofiasai'r Eglwys yn y gwahanol wledydd beth fel hyn? Yn lle hynny y mae'r Eglwys ym mhob gwlad wedi datgan ei chymeradwyaeth o safle'r wlad y perthynai iddi yn y Rhyfel hwn. Rhyfel cyfiawn, meddech chwi. Caniatewch hynny; eto ni all hynny fod yn wir am bob gwlad sy yn y Rhyfel. Ac eto rhywbeth tebyg iawn i hynny y mae'r eglwysi yn ei ddeud. Yr unig eithriadau yw'r Pabyddion yn un pen i'r llinyn, a'r Crynwyr yn y llall; ac nid ydynt hwythau yn eithriadau hollol. A pheth arall, bwriwch fod ein hochr ni dyweder i'r Rhyfel yr unig ochr y mae uniondeb a rheswm o'i phlaid, ni wyddem ni fel eglwysi mo hynny cyn pen pythefnos ar ol torri'r Rhyfel allan; ac eto dyna a wnaeth yr Eglwys, cyhoeddi yn ddifloesgni a di-warafun, heb ymdroi dim i ymorol, fod y Rhyfel o'n hochr ni yn ei le. Nid yr eglwysi caethion, fel y galwodd rhywun hwy, sydd ddyfnaf yn y camwedd. Buasech yn maddeu iddynt hwy, yr eglwysi gwladol, am gefnogi'r awdurdod a roddai fenthyg ei nodded iddynt; ond y mae'r eglwysi rhyddion am y cyntaf a hwynt mewn sêl ac eiddigedd dros y llywodraeth wladol.

Fel y dywedodd rhywun, nid arwain a wnaethant, ond dywedyd amen wrth bob peth a ddywedai'r Llywodraeth. Y peth lleiaf a ddisgwylid fuasai iddynt ymbwyllo ac ystyried. Ond yr oedd arnom ofn meddwl drosom ein hunain, ac ofn ymwrando ag unrhyw lais ond llais y wladwriaeth, rhag cael arweiniad gwahanol i'r hyn a ddisgwyliem. Felly yr oedd hi ar Ahas Frenin Judah a'i dywysogion. Felly yr oedd hi ar breswylwyr Jerusalem. Y mae gair Esaiah wrth Ahas cyn wiried heddyw ag ydoedd pan lefarwyd ef gyntaf: "Oni chredwch ni sicrheir chwi." "Gofyn i ti arwydd gan yr Arglwydd dy Dduw," meddai. Cadw gyfarfod gweddi, cyn selio'r cytundeb a Brenin Assyria, i ymofyn ai fel yma yr wyt ti i fynd, ynte ryw ffordd arall. "Gofyn i ti arwydd gan yr Arglwydd dy Dduw, gofyn o'r dyfnder, neu o'r uchelder oddi arnodd." "Ond Ahas a ddywedodd," yn dduwiol iawn chi dybiech wrth ei swn ef, "Ni ofynnaf, ac ni themtiaf yr Arglwydd." Atebiad oedd yn grefydd i gyd o ran ei swn, ond yn rhagrith i gyd o danodd. Meddyliwch mewn difrif, Ahas yn rhy dduwiol i gadw cyfarfod gweddi. "Mater i'r Cyfrin-Gyngor ydyw hwn," meddai, Gresyn sarhau mawrhydi Duw Israel trwy fynd a rhyw neges fach fel hon o'i flaen." Y gwir oedd fod arno ofn cyfarfod gweddi, rhag y byddai'r atebiad yn groes i'r fel y disgwylient hwy. Odid nad oedd y cenhadon i Assyria eisoes wedi cychwyn, ac na fyddai raid gyrru buanach meirch ar ol y negesyddion cyntaf i'w galw adref. Ofn oedd ar Ahas i'r cyfarfod gweddi ddatod y cynghrair ag Assyria dyrysu ei gynllun ef. Felly ninnau, y mae arnom ofn cyfarfod i ofyn barn a chyngor y Brenin Mawr, rhag i hwnnw fod yn groes i'n cyngor ni. Llawer cyfarfod gweddi a gadwyd i ofyn ei amddiffyn a'i help ef yn y Rhyfel, ond dim un hyd y clywais i, i ofyn iddo a oedd Rhyfel i fod. Y mae gan y byd ei ffordd o benderfynu cwestiynau, ond nid honno ddylai fod ffordd yr Eglwys. Ymwrando ag ewyllys Duw ydyw alpha ac omega ei chredo hi. Pa bryd y daw hi'n ol i'r fan yma tybed? Pa bryd y bydd llaw Duw yn drom arni unwaith eto i'w chadw yn ei lle? Cymdeithas o ymneilltuwyr ydyw Eglwys, ac a fydd hi hefyd. Ni ddylai ei chlymu ei hun wrth genedl mwy nag wrth blaid. Os nad oes ganddi hawl i ffafrio na meistr na gwas fel y cyfryw mewn streic, heb fod ganddi resymau annibynnol dros ei ffafr, os nad oes ganddi hawl i roi benthyg ei hawdurdod ond mewn pethau y bo hi yn awdurdod arnynt, os na ddylai hi gymryd ei bachu wrth unrhyw gerbyd ond cerbyd Teyrnas Dduw, yna nid oes ganddi hawl i'w chlymu ei hunan yn rhy dynn wrth genedl chwaith. Sefydliad cyd-genhedlig ydyw'r Eglwys i fod, prynedigion o bob llwyth ac iaith a phobl a chenedl. "Yr Arglwydd a ddywedodd wrthyf a llaw gref; ac efe a'm dysgodd na rodiwn yn ffordd y bobl hyn." "Na ddywedwch, Cydfwriad, wrth y rhai oll y dywedo'r bobl hyn, cydfwriad; nac ofnwch chwaith eu hofn hwynt, ac na arswydwch." Nid yw'r Eglwys ddim i ofni'r un pethau a'r byd; ac nid yr un pethau sy'n gysgod iddi hi yn ei hofnau ag y sydd iddo ef. Unig syniad y byd, o bydd ymosod arno, yw ceisio mantoli grym yr ymosodwr â rhyw rym arall, ceisio chwaneg o'r un peth i droi'r fantol. Y mae gan yr Eglwys rywbeth i droi'r fantol, rhywbeth nad oes gan y byd mo hono. "Arglwydd y Lluoedd ei hun a sancteiddiwch; a bydded efe yn ofn i chwi; ac efe a fydd yn noddfa." "Yr Arglwydd ardderchog fydd yno i ni yn fangre afonydd a ffrydiau llydain; y rhwyf-long nid â trwyddo; a long odidawg nid â drosto."

Yn yr holl esiamplau hyn, a llawer heb law'r rhai hyn, y mae Eglwys Iesu Grist i fod yn annibynnol ar y byd, mewn athrawiaeth, yn ei dull o wynebu a meddyginiaethu clwyfau cymdeithas, ac yn bendifaddeu yn ei hosgo at gwestiynau cyd-genhedlig. Y mae ganddi ei llwybr ei hun, a llaw Duw yn unig a'i ceidw hi ar hwnnw, llaw gref Duw.

Gwir fod rhywbeth mewn rhyfel yn cyd-daro'n rhyfedd a Theyrnas Dduw. Y mae dioddef yn perthyn i'r naill a'r llall. Oes, y mae dioddef yn perthyn i ryfel; ac y mae'r byd mewn rhyfel yn cael agoriad llygad ar ystyr a gwerth dioddef. Ond wedyn y mae lled y nefoedd o wahaniaeth rhwng y lle sydd i ddioddef yn system y byd a'i le fo yn system yr Eglwys. Damwain ydyw dioddef yn system y byd; y dioddefiadau erchyll yma, nas gwelodd y byd eu cyffelyb, damweiniau ydynt mewn rhyfel. Dyna y byddwn ni'n eu galw hwy onid e? casualties? Nid oeddent hwy ddim yn y contract. Ond yn yr Efengyl y mae Calfaria yn rhan o'r cynllun. "Hwn, wedi ei roddi trwy derfynedig gyngor a rhagwybodaeth Duw, a gymerasoch chwi, a thrwy ddwylaw anwir a groeshoeliasoch, ac a laddasoch." Yma nid mater o ddamwain, ond mater o drefn ydyw'r groes. Dioddef wrth ymladd y bydd y byd ymladd trwy ddioddef y mae'r Eglwys.

Beth a ddaw o honom?

Wel, meddech chi, os gwnawn ni yr un fath a'r Proffwyd Esaiah, gwrthod rhodio yn ffordd y bobl hyn, fe dderfydd am ein llwyddiant. Awn yn amhoblogaidd yn ddi-os. Nag-awn, fy nghyfeillion i, nag-awn ni ddim yn amhoblogaidd ar y llwybr yma. A wyddoch paham yr ydym ni mor amhoblogaidd, paham nad yw'r Eglwys yn tynnu ati? Y byd sydd yn lled ameu nad oes gennym ni ddim i'w ddeud nad yw ganddo yntau hefyd. Da yr wyf yn cofio i mi bregethu ryw fore Sul flynyddoedd yn ol, a chymryd tamaid go fawr o'r amser i ddangos y gwahaniaeth rhwng rhyw ddau ben oedd gennyf. Gwarchodwn y clawdd terfyn mor eiddigus a phe buasai gennyf lafur mewn un cae a phorfa yn y llall. Ond dywedai cyfaill wrthyf ar ddiwedd yr odfa: "Yr un peth oedd gennyt ti dan y ddau ben yna wedi'r cwbl, onid e?" A gorfu i mi gyfaddef mai felly'r oedd hi. Paham na ddaw'r bobl atom. Nid ydynt yn ddigon siwr fod gennym ni ddim i'w ddywedyd nad oes gan y byd ei debyg. Unwaith y gwypont hwy fod yma rywbeth i'w gael, rhyw gyfrinach na fedd y byd mo honi, hwy ddeuant atom heb eu galw. Nid oedd hi fawr o gamp i'r pedwar gwahanglwyfus hynny ym mhorth Samaria fod yn boblogaidd. Aeth aml un, y diwrnod hwnnw, yn nes atynt nag yr oedd y Gyfraith yn caniatau. Paham? Newydd am damaid o fwyd i bobl ar lewygu o newyn oedd ganddynt. Rhowch chi i'r gair fyned allan fod yma. rywbeth i'w gael, fe ddaw'r byd atom.

"Taught in thee is a salvation,
Unknown to every other nation;
And great and glorious things are heard:
In the midst of thee abiding,
Enlightening, comforting, and guiding,
Thou hast the Spirit and the Word."

Ac od oes arnoch eisiau Ysgrythyr ar y pwnc, dyma hi, "A'r dydd hwnnw y bydd i'r Arglwydd ddyrnu o ffrwd yr Afon hyd Afon yr Aifft; a chwi meibion Israel a gesglir bob yn un ac un (nid fel dyrnu yd, ond fel casglu ffrwythau—gofalu na bo'r naill afal yn cleisio'r llall, a bod pob afal yn iach). Ac yn y dydd hwnnw yr utgenir ag utgorn mawr yna y daw y rhai ar ddarfod am danynt yn nhir Assyria, a'r rhai a wasgarwyd yn nhir yr Aifft ac a addolant yr Arglwydd yn y Mynydd Sanctaidd yn Jerusalem." Jerusalem wedi ei chasglu bob yn un ac un fydd y Gaersalem boblogaidd wedi'r cwbl, nid Dinas Duw yn ymostwng i ddeud yn deg wrth y bobloedd, ond Jerusalem a chanddi genadwri at y cenhedloedd nas gŵyr neb ond hyhi.

[Caergybi, Mehefin, 1917.
[Y Drysorfa, Awst, 1917.

Nodiadau

golygu