Ysgrifau Puleston/Y Beibl yn Llyfr Cenedlaethau lawer
← Arafwch Buddugoliaeth yr Efengyl | Ysgrifau Puleston gan John Puleston Jones |
Natur Eglwys → |
II
Y Beibl yn Llyfr Cenedlaethau lawer.
"Felly yr holl genedlaethau o Abraham hyd Dafydd sydd bedair cenhedlaeth ar ddeg; ac o Ddafydd hyd y symudiad i Babilon, pedair cenhedlaeth ar ddeg; ac o'r symudiad i Babilon hyd Grist, pedair cenhedlaeth ar ddeg."
—Mathew i. 17.
SYLW ydyw hwn a wneir gan yr Efengylwr wrth gyflwyno i'w ddarllenwyr daflen llinach Gwaredwr y byd. Teitl y daflen hon, ac nid teitl yr efengyl i gyd, ydyw'r adnod gyntaf o'r bennod, Llyfr cenhedliad Iesu Grist, fab Dafydd, fab Abraham." Ystyr y gair "llyfr " yn y fan yma yw taflen neu ysgrif.
Y ffordd i gael y cenedlaethau yn bedair ar ddeg deirgwaith drosodd, yn ol yr esboniad goreu a welais i, yw cyfrif Jechonïas (Jehoiachin felly) ddwywaith—ei gyfrif yn blentyn yng ngwlad ei dadau, a'i gyfrif drachefn yn ben—teulu yng ngwlad y caethiwed. Y mae hynny yn eithaf teg, gan mai yn ei ddyddiau ef y daeth y bwlch a wneir gan yr efengylwr wrth gyfrif y cenedlaethau. "Ac wedi'r symudiad i Babilon, Jechonïas a genhedlodd Salathiel."
Beth a barodd i'r efengylwr wneud y sylw sydd yn y testun, nis gwn. Digon posibl ei fod fel Iddew defosiynol yn lled hoff o'r rhif saith; a dyma ddau saith deirgwaith drosodd. Neu, hwyrach, fod y ddefod a ddaeth yn dra chyffredin wedi hyn eisoes wedi dechreu—y ddefod o gyfrif pethau wrth eu copio —cyfrif Salm, dyweder, a nodi'r llythyren ganol ynddi, er mwyn i'r copïwr nesaf weled a ydoedd wedi ei chopïo yn gywir. Os byddai wall yn ei waith, prin y byddai'r llythyren ganol yn debyg iawn o ddigwydd yn yr un fan. Ond pa beth bynnag oedd gan Mathew mewn golwg wrth wneud y sylw hwn am y cenedlaethau, ni a wnawn ni ddefnydd o'r geiriau nad oedd yr efengylwr yn ei fwriadu—defnydd teg, hefyd, gobeithio.
Yr ydych yn sylwi fod adnod y testun yn digwydd brâs fesur cyfnod amseryddol yr Ysgrythyr Lân. Gydag Abraham y mae hanesiaeth ysgrythyrol yn dechreu canlyn yr un grisiau a hanesiaeth gyffredin. Cyn Abraham yr oedd yr hanes yn brasgamu. Ac heb fyned yn fanwl iawn, hyd Grist y mae yr hanes yn cyrraedd. Ym mhen cenhedlaeth wedi ei fyned ef i'r nefoedd yr oedd y rhan fwyaf o lawer o ddefnyddiau'r Testament Newydd eisoes mewn ysgrifen; ac ym mhen dwy, yr oedd yr holl lyfrau braidd wedi dyfod i'r ffurf sydd arnynt yn awr, fel y gellir dywedyd, heb ofni cael, ond ychydig iawn o eithriadau i'r dywediad, fod y Beibl, o ran yr hanes sydd ynddo, yn tewi mewn rhyw oes neu ddwy ar ol ymadawiad yr Iesu. Os ydyw hyn yn wir, y mae "o Abraham hyd Grist" yn fath o linyn mesur ar amseryddiaeth y Beibl. A dyna'r defnydd a wnawn ni o'r adnod—ei chymryd hi yn sylfaen ychydig o wersi plaen ar ddarllen y Beibl. Os cewch chi, y rhai addfetaf yn y gynulleidfa, fod rhai o'r gwersi yn ddiflas o blaen, cyfrifwch fod fy llygad ar y bobl ieuainc sydd yn gwybod llai na chi. A chwithau, yr ieuainc, os ystyriwch rai o honynt yn lled sychion, golygwch fy mod y pryd hynny yn anelu at athrawon ac athrawesau goreu'r Ysgol Sul. Mi ddeuaf o hyd i chwi oll, ond odid, yn rhywle. Y mae mwy nag a dybiai llawer o addysg yn yr ystyriaeth noeth fod yr Ysgrythyrau yn dringo at y pethau yng nghylch Iesu o Nasareth ar hyd ysgol faith o genedlaethau—y Beibl yn llyfr cenedlaethau lawer. Cenedlaethau ydyw'r grisiau y mae'r datguddiad yma, sydd yn cyrraedd ei berffeithrwydd yng Nghrist, yn eu cerdded.
DATGUDDIAD MEWN HANES.
I. Y datguddiad sydd o Dduw yn y Beibl yn ddatguddiad mewn hanes. Y mae ei fod ef yn llyfr cenedlaethau ar unwaith yn cynnwys hynny. Am a wyddom ni, gallasai'r Duw Mawr roddi Beibl i ni mewn un oes. Fe fyn rhai ei ddarllen megys pe felly y rhoddasid ef. Felly y cafodd y Mahometan ei feibl ef—mewn un oes, a thrwy law un dyn. Ni ddywedem ni ddim na allasai fod felly arnom ninnau, Gristionogion; ond ni a wyddom o'r goreu mai nid felly y bu. Llyfr cenedlaethau ydyw ein Beibl ni. Y mae hynny yn golygu, pa faint bynnag o wahanol gyfansoddiadau sydd ynddo, mai hanes ydyw'r ffrâm y gweithiwyd y cwbl iddi. Datguddiad mewn hanes ydyw'r datguddiad yn flaenaf dim. Llyfr yw hwn a gymerodd oesau i'w adeiladu.
Y mae fod y Beibl, o flaen pob peth, yn hanes, yn peri ei fod mewn rhyw ystyron yn llyfr anodd. Pe deddf—lyfr a fuasai, digon fuasai deall ei eiriau er mwyn ei ddeongli; a phe credo a fuasai, gallesid ei feistroli yn weddol, ond deall yr iaith; ond gan mai hanes ydyw, rhaid cyfieithu nid yn unig yr iaith, ond y meddyliau a'r amgylchiadau. Rhaid i chwi ddysgu gosod eich hunain wrth benelin yr ysgrifennydd, yng nghynnulleidfa'r proffwyd a'r apostol. Rhaid i chwi wrth dipyn o ddychymyg hanesyddol; ac os na feddwch nemawr o hwnnw, rhaid i chwi gael ei fenthyg. Dyma wasanaeth esboniadau. Dylai fod gennych yn eich cyrraedd, hefyd, ryw eiriadur ysgrythyrol, ac yn enwedig, os bydd modd, ryw lyfr neu ddau go dda ar arferion y gwledydd lle'r ysgrifennwyd y llyfrau, a'r oesau y cofnodir eu profiad ynddynt—rhywbeth tebyg i lyfr Thomson, "The Land and the Book." Nid ellwch chwi ddim cael y goreu sydd i'w gael o'r Beibl heb ei ddyfal astudio. Y mae saernïaeth y llyfr yn golygu hynny; nid llyfr ydyw y cewch chwi hyd i'r cyfan sydd ganddo i'w ddeud wrth ei ddarllen ar eich cyfer.
Ond beth bynnag yw'r anawsterau a gyfyd o fod y Beibl yn llyfr hanes, y mae'r manteision sydd ynglŷn A'r wedd yma i'r datguddiad yn gorbwyso'r anawsterau. A dyma un o'r manteision—gan mai hanes ydyw'r Beibl, y mae rhywbeth ynddo i bawb. Os yw bod y Beibl yn hanes yn ei wneuthur ar ryw gyfrifon, yn llyfr anawdd, y mae'r un peth yn ei wneuthur, ar gyfrifon eraill, yn hawdd. Gochelwch wneud y Beibl yn llyfr dianghenraid o anawdd; yn faes ymryson i ryw ddau neu dri o bobl ddarllengar ddangos eu doniau. Nid llyfr i grefftwyr hyffordd yn unig ydyw hwn, wedi'r cyfan, ond llyfr i'r werin gymysg. Gwyliwch chwithau, sydd yn eich gosod eich hunain yn dipyn o ddiwinyddion, ddwyn ymaith agoriadau gwybodaeth oddi ar y bobl; y mae'r llyfr yma yn un a ddylai fod yn eu cyrraedd hwy. Defnyddiwch eich doniau i'w agoryd ef iddynt hwy, ac nid i'w gadw oddi wrthynt. Yn yr ysgol, gochelwch yr anawsterau hynny ag yr oedd eisieu esboniadau i'w dangos i chwi; peidiwch a phoeni pobl sydd heb ddarllen esboniad â'r anawsterau hynny. Fe ddylai'r mwyaf ehud yn y dosbarth gael rhywbeth o hwn, oblegid nid traethawd dysgedig mo hono, ond ystori—ffurf ar lenyddiaeth y medr y cyffredin ei mwynhau.
Dyna un fantais o fod y datguddiad yn ddatguddiad mewn hanes. Dyma un arall, a'r unig un arall a grybwyllwn ni o dan y pen yma—am mai hanes ydyw'r llyfr, nid aiff byth yn hen. Y mae credöau yn heneiddio, a chyfreithiau yn heneiddio, ond hanes yn parhau yn newydd o hyd. Y mae mor newydd a bywyd. Caiff pob oes newydd fyned ato, a chael ynddo rywbeth tebyg i'w phrofiad ei hun; caiff to ar ol to o bregethwyr eu gwala a'u gweddill yn hwn—y datguddiad sydd yn y Beibl yn ddatguddiad mewn hanes.
DATGUDDIAD AG AMRYWIAETH YNDDO.
2. Y datguddiad sydd o Dduw yn y Beibl yn ddatguddiad â llawer iawn o amrywiaeth ynddo. Yn hwn y mae Ysbryd Duw yn siarad â gwahanol genedlaethau, ac yn siarad iddynt i gyd ei ddeall; felly nid oedd i'w ddisgwyl y llefarai efe'r un fath wrthynt i gyd. mae yma bob amrywiaeth yn ffurf y datguddiad—bob math ar gyfansoddiad; y bryddest a'r ganig, y llythyr a'r traethawd, y oregeth a'r oracl, y cronicl moel, a'r hanes celfyddwaith. Cawn wirionedd wedi ei grynhoi i gwmpas dihareb; neu cawn ef wedi ei ddistyllio trwy brofiad—dyn yn siarad â'i law ar ei fynwes, "Y tlawd hwn a lefodd, a'r Arglwydd a'i clybu."
Cawn bob amrywiaeth, hefyd, yng nghynnwys y datguddiad. Nid oes yr un faint o ddatguddiad ym mhob rhan o'r gyfrol; hanes ydyw, ac y mae holl amrywiaeth hanes yn perthyn i'r datguddiad. Yr oedd rhyw anffyddiwr ar y Cyfandir yn datgan ei siomedigaeth pan aethai i astudio'r Beibl, gan ddisgwyl ei gael yn llyfr ar grefydd. Yn lle hynny fe'i cafodd ef yn llyfr â llawer o sôn ynddo am eni plant a magu anifeiliaid. Ond beth oedd i'w ddisgwyl oddi wrth ddynion. fel y patriarchiaid! Gwyr gwaith oeddynt, ac nid gwŷr llyfrau; a naturiol oedd cael y datguddiad a gaed trwyddynt hwy yn gymysg â'r ffarmio. Rhaid i ni fodloni ar gael y profiad fel y cawsant hwythau ef. Ni ddylem ddisgwyl cael yr un faint o aur ym mhob man wrth falu'r un swm o graig; ac nid yw trysorau datguddiad wedi eu dosbarthu yn gyfartal trwy bob rhan o'r gyfrol sanctaidd. Weithiau y mae y goleuni yn danbaid—"llewych y lleuad fel llewych yr haul, a llewych yr haul yn saith mwy, megys llewych saith niwrnod." Bryd arall y mae cyfnodau meithion o dywyllwch " Gair Duw yn werthfawr yn y dyddiau hynny, heb ddim gweledigaeth eglur."
Ond na chwyned neb am yr amrywiaeth yma; dyma gyfrinach cyfoeth y llyfr. Llyfr oesau lawer ydyw; rhaid eich bod yn anawdd odiaeth eich boddhau os nad oes yn hwn rywbeth a wna'r tro i chwi. Nid profiadau Apostolion yr Oen ar eu huchel fannau sydd yma yn unig, ond profiadau Llyfr y Pregethwr a Llyfr Job. Yn wir, nid oes yr un o brofiadau cyfreithlawn natur dyn—o'r amheuaeth dywyllaf sydd yn amheuaeth onest, hyd y sicrwydd cyflawnaf a'r gorfoledd mwyaf dyrchafedig—nad oes yn hwn iaith ar ei gyfer. Y mac hwn fel cadwyn a brofwyd, bob dolen o honi, cyn ei dyfod o'r gweithdy erioed. Yn wir, nid llyfr yw'r Beibl a wnaed gan bobl yn eu gosod eu hunain i ysgrifennu llyfrau, ond gan bobl yn gwasanaethu anghenion presennol dynion byw fel chwi a minnau. Fe lefarwyd pob rhan o hwn am fod ar rywun ei heisieu hi. Y mae pob gair o hono wedi bod yn air yn ei bryd i rywun; ac er nad yw i gyd o'r un werth a'i gilydd i ni, y mae yma, ond odid, rywbeth sydd yn taraw amgylchiad pawb yn hwn. Pob gwedd newydd ar ein profiad, pob gosodiad newydd ar ein hamgylchiadau—y mae yma rywbeth mor bwrpasol iddo a phe buasai wedi ei lefaru yn un swydd ar ei gyfer. Fe ddywed Dr. Adam Smith mai Oliver Cromwell oedd yr esboniwr goreu a fu erioed ar y Proffwyd Esaiah. A wyddai Cromwell rywbeth am gwestiynau beirniadol y llyfr? Dim; os gwyddai rhywun y pryd hwnnw am danynt fel y trinir hwy yn awr. A wyddai efe rywbeth o gyfrinach yr iaith Hebraeg? Dim o gwbl, hyd y gwyddom; ac eto efe yw'r esboniwr goreu a gafodd Esaiah erioed. Paham? Wel, am ei fod wedi cael ei hun mewn amgylchiadau tebyg i amgylchiadau Esaiah. Yr oedd ef, fel Esaiah, yn gorfod dwyn ei fyd yng nghanol pobl ddiegwyddor, oedd yn credu yn ddiderfyn yn eu hystrywiau eu hunain, ond heb gredu dim yn y deddfau tragwyddol y mae Duw yn llywodraethu'r byd wrthynt. Fe ddeallodd Cromwell beth oedd gwely byr a chwrlid cul y Proffwyd Esaiah cynlluniau a chynllwynion pobl annuwiol yn troi yn ofer a siomedig. Yn dy fywyd bychan dithau fe ddaw profiad a thi wyneb-yn-wyneb â rhyw ddatguddiad newydd o ddaioni Duw yn y llyfr. "Mor fawr yw dy ddaioni, Arglwydd, a roddaist i gadw i'r rhai a'th ofnant. Beth ydyw hwnnw? Y daioni oedd ganddo wrth gefn, na ddangoswyd mo hono hyd awr y cyfyngder du—ni wyddet ti ddim hyd yr awr honno ei fod yno. Ti fedrit yr adnod; ond ti welaist rywbeth ynddi'r pryd hwnnw na welaist mo hono erioed o'r blaen: "Mor fawr yw Dy ddaioni a roddaist i gadw i'r rhai a'th ofnant." Pa sawl gwaith y clywsoch chi blant y diwygiad yn tystio yn eu gweddïau, "Y mae rhywbeth yn yr hen adnodau yma erbyn hyn."? Daliwch at yr adnodau; chi gewch fod mwy ynddynt eto nag a feddyliodd eich calon. Y mae'r Beibl fel mynydd uchel mewn gwlad boeth; y mae mynydd uchel yn hinsawdd y Trofegau yn dangos ar ei lethr ryw gymaint o bob hin ar wyneb y ddaear, a siamplau cyfatebol o lawer math o lysiau, o lysiau y cyhydedd hyd blanhigion y Gogledd oer. Felly y mae pob math o brofiad yn cyfarfod yn y llyfr yma—datguddiad âg amrywiaeth diderfyn ynddo.
DATGUDDIAD A CHYNNYDD YN PERTHYN IDDO.
3. Y datguddiad sydd yn y Beibl yn ddatguddiad a chynnydd yn perthyn iddo. "O Abraham hyd Ddafydd, pedair cenhedlaeth ar ddeg; ac o Ddafydd hyd y symudiad i Babilon, pedair cenhedlaeth ar ddeg; ac o'r symudiad i Babilon hyd Grist, pedair cenhedlaeth ar ddeg." Golyga hyn fod Duw wedi datguddio ei Hun ar lwybr sydd yn cyfranogi o natur gyffredin hanes cenedlaethau; a dyma ydyw'r nodwedd gyffredin honno—cynnydd, nid cynnydd di-dor ddim, ond cynnydd ar y cyfan. Y mae'r naill oes yn gwella ar y llall wrth fyned ym mlaen; a chan mai fel yna y mae Duw yn gweithio yn hanes oesau at bob bwrpas cyffredin, felly y mae yn gweithio hefyd at bwrpas datguddiad. Y mae'r datguddiad hefyd yn gwella arno ei hun wrth fyned rhagddo.
Fe fyn rhai i ni feddwl fod pob rhan o'r Beibl gystal a'i gilydd pob adnod o'r un gwerth, ac o'r un werth at bob diben. Yr oedd Morris Jones, Bethesda, yn holi ysgol ryw dro, ac fe ofynnodd i'r plant pa bren oedd pren gwaharddedig Eden. Atebodd geneth fach rhag blaen mai pren afalau. "Profa dy bwnc," ebe Morris Jones; ac ebe hithau drachefn, "Dan yr afallen y'th gyfodais." Derbyniodd yr arholwr yr atebiad, er nad oedd a fynnai'r afallen honno ddim byd â Gardd Eden. Yr oedd Dr. Lewis Edwards o'r Bala, yn holi pobl yn eu maint rywbryd, a chafodd adnod yn ateb gan ŵr a fyddai yn ateb yn gyntaf un os gallai gael y blaen. Dywedodd y Doctor, "Yr wyf yn methu gweled, Robert Jones, beth sydd fynno'ch adnod chi a'r pwnc. "'Does gen i mo'r help am hynny, syr," ebai Robert Jones. Llawer sydd eto yn meddwl am y Beibl fel rhyw gamlas unffurf. Afon ydyw ef mewn gwirionedd sydd yn chwyddo ar ei thaith; y mae un darn mawr o hono yn well na dim arall sydd ynddo. Os ydych yn ameu, darllenwch. "Pe buasai y cyntaf hwnnw yn ddifeius, ni cheisiasid lle i'r ail." Fe ddywedodd yr Arglwydd Iesu am un gorchymyn, ei fod wedi ei roddi o herwydd calon—galedwch y genedl. Fel pe dywedasai, Nid dyna orchymyn goreu Duw, ond dyna y goreu a allasech chi ddal; buasai un gwell y pryd hwnnw yn rhy dda." Y mae egwyddor syml yn y ddysgeidiaeth yna o eiddo ein Harglwydd ag y mae pawb sydd wedi edrych i mewn i'r pwnc yn ein hoes ni yn ei chydnabod weithian; a phe cymhwysid hi yn ddi—ofn gan efrydwyr Gair Duw, darfyddai hanner yr anawsterau. Cewch bobl sy'n ymhyfrydu yn eich taflu i bembleth uwch ben y Gair, trwy ofyn i chwi gwestiynau—" ynfyd ac annysgedig gwestiynau"—nad oes dim ynddynt i rywun a gredo fod cynnydd yn un o ddeddfau y datguddiad. Pan fydd pobl yn gofyn i mi esbonio yr adnod yn y Salm, Mi a fum ieuanc, ac yr ydwyf yn hen; eto ni welais y cyfiawn wedi ei adu, na'i hâd yn cardota bara," ("Ni a welsom ni," meddant), fy ateb i iddynt fydd, mai nid dyna yr unig adnod ar y pwnc, na'r unig Salm ar y pwnc chwaith. Y mae Salm arall â'i thôn yn dra gwahanol; byddai cyferbynnu'r ddwy yn addysg i aml un ar hyn o fater. Y ffordd y byddaf fi yn cofio'r ddwy Salm yw cofio fod un yn dri deg a saith, a'r llall yn saith deg a thair. Yn Salm xxxvii. y mae dyn duwiol yn sicr o gael digon o fwyd, "Gobeithia yn yr Arglwydd, a gwna dda; felly y trigi yn y tir, a thi a borthir yn ddiau." Y mae gwir yn hynny, ond nid y gwir i gyd; y mae rhan arall o'r gwir yn Salm lxxiii. Yn ol honno, yr annuwiolion sydd yn llwyddo amlaf, "Nid ydynt mewn blinder fel dynion eraill; ac ni ddialeddir arnynt hwy gyda dynion eraill. Am hynny y cadwynodd balchter hwynt, ac y gwisg trawster am danynt fel dilledyn. Eu llygaid a saif allan gan fraster; aethant dros feddwl calon o gyfoeth . . .Wele, dyma'r rhai annuwiol, a'r rhai sydd lwyddiannus yn y byd, ac a amlhasant olud. Diau mai yn ofer y glanhëais fy nghalon, ac y golchais fy nwylaw mewn diniweidrwydd. Canys ar hyd y dydd y'm maeddwyd; fy ngherydd a ddeuai bob bore." gwir yw, fod yn y fan yma ddyfnach gwelediad i anawsterau Rhagluniaeth nag sydd yn y Salm arall, er nad gwelediad mor gymfforddus; eto, heb y gwelediad dyfnach hwn ni chaem ni y profiad uwch sydd yn y Salm chwaith. Salm lxxiii., wedi'r cwbl, nid Salm xxxvii., sydd yn cael cipolwg dros y terfyn—gylch i fyd arall. "A'th gyngor y'm harweini; ac wedi hynny y'm cymeri i ogoniant."
Yr un ffunud am yr iechydwriaeth, graddol yw'r datguddiad o honi hithau. Cymerwn y Salmau eto yn fesur ar gynnydd y goleuni. Yn y Salmau cynnar, y ddeunawfed er esiampl—Salm ag y mae bron bawb yn cydnabod mai Dafydd oedd ei hawdur—chi dybiech nad oes ar y Salmydd eisieu fawr ddim ond chware teg. "Yr Arglwydd a'm gwobrwyodd yn ol fy nghyfiawnder; yn ol glendid fy nwylaw y talodd efe i mi." A'r hunan-gyfiawnder diniwed yma (chwedl Adam Smith) ydyw ei hyder hefyd am y dyfodol. "Edrych y mae," ebe Calfin, "arno ei hun fel cystadleuydd mewn camp, a theimlo yn sicr, gan ei fod yn cadw rheolau y chware, fod y Goruchaf yn siwr o roi'r wobr iddo." Neu, os mynnwch chi, fe deimlai fel y bydd ambell i Gymro yn siarad o flaen eisteddfod, "Ni chefais i erioed gam gan y beirniad yna." Cystal a deud, "Os na chaf fi gam, myfi fydd y goreu." Ond trowch i Salm arall, yr unfed ar ddeg a deugain. Os gwaith Dafydd yw honno—tebyg nad e ddim—y mae yn waith Dafydd wedi iddo gloddio i ddyfn newydd o edifeirwch, a dyfod o hyd i ddrychfeddwl newydd am gyfoeth gras. Yr ydych mewn byd newydd erbyn hyn. Nid cyfiawnder yn unig bellach a wna'r tro. Na, trugaredd; ac nid ychydig o drugaredd chwaith. "Trugarhâ wrthyf, O Dduw, yn ol dy drugarowgrwydd; yn ol lliaws dy dosturiaethau, dilëa fy anwireddau." Fe fydd eisieu hynny o drugaredd a feddi di i'm hymgeleddu; yr wyf yn bechadur mor fawr. "Canys yr wyf yn cydnabod fy nghamweddau; a'm pechod sydd yn wastad ger fy mron. Yn dy erbyn di, dydi dy hunan, y pechais, ac y gwneuthum y drwg hwn yn dy olwg; fel y'th gyfiawnhäer pan leferych, ac y byddit bur pan farnech." Fel y mae Huw Myfyr wedi aralleirio yn brydferth iawn:—
"Fy mhechod sydd ysgeler iawn,
'Rwyf heddyw'n llawn gydnabod:
Yn d'erbyn di yr oedd y drwg,
Nid yw dy ŵg yn ormod.
O'r groth llygredig ydwyf fi,
Ond ceri di wirionedd;
Dof fel yr eira'n wyn drachefn,
O'm golchi yn nhrefn trugaredd."
Dyma ddyfnder newydd o ras,—
"Yn ateb dyfnder eithaf
Trueni dyno! ryw;
Can's dyfnder eilw ddyfnder,
Yn arfaeth hen fy Nuw."
Ac, o ran hynny, dyfnder sydd yn datguddio dyfnder ym mhrofiad y dyn duwiol, yn gystal ag yn arfaeth y Brenin Mawr. Felly y gellid dangos am holl athrawiaethau mawrion crefydd, cyn belled ag y ceir hwynt o gwbl yn yr Hen Destament, fod amgyffred y saint, o'u cynnwys hwy, yn cynhyddu o oes i oes.
DATGUDDIAD YN TERFYNU YNG NGHRIST.
4. Y datguddiad sydd o Dduw yn y Beibl yn ddatguddiad sydd yn terfynu yng Nghrist. "O Abraham hyd Dafydd; o Dafydd hyd y symudiad i Babilon; ac o'r symudiad i Babilon hyd Grist." Dyma derfyn oesau datguddiad, yn yr ystyr gyfyngaf i'r gair. A fuoch chi yn meddwl pam y mae datguddiad yn terfynu ynddo Ef? Am nad oedd dim eisieu, wedi rhoi datguddiad mewn person, chwanegu datguddiad mewn llyfr. "Pan oeddym fechgyn, yr oeddym yn gaethion dan wyddorion y byd; ond pan ddaeth cyflawnder yr amser y danfonodd Duw ei Fab: wedi ei wneuthur o wraig, wedi ei wneuthur dan y ddeddf, fel y prynai y rhai oedd dan y ddeddf, fel y derbyniem y mabwysiad." "Ac o herwydd eich bod yn feibion yr anfonodd Duw Ysbryd ei Fab i'ch calonnau chwi, yn llefain, Abba Dad." Yn yr Epistol at y Galatiaid y mae'r prynedigaeth sydd yng Nghrist, nid yn unig yn brynedigaeth oddi wrth bechod, ond gyda hynny yn brynedigaeth i'r eglwys o gaethiwed ei phlentyndod. Yn ardaloedd y chwareli, pan ddelo'r bechgyn yn rhyw bedair ar ddeg oed, gwelir y mamau yn cynhiwair trwy'r gymdogaeth, yn gofyn i'r Person, yn gofyn i'r Pregethwr, yn gofyn i'r Ysgol-feistr
Pwy rydd ei enw wrth bapur y bachgen acw i fyned i'r gwaith? Y mae wedi pasio y standards." Pwy a seiniodd hawl plant Duw i fyned o'r ysgol fach i'r ysgol fawr; o'r gegin i'r parlwr? Pwy a'u gwnaeth hwy yn gyflawn aelodau o deulu Duw? Pwy, ond eu Brawd hynaf? Efe a'u prynodd o gaethiwed y llythyren i ryddid yr Ysbryd—i gymundeb personol, uniongyrchol, a'u Tad. Nid llen y deml yn unig a rwygwyd pan fu Efe farw; Efe a rwygodd y llen oddi ar sancteiddiolaf Gair Duw. Efe a roes hawl i ni fyned ar ein hunion i wydd y Gogoniant mawr. Ni raid bellach gael adnod ar bob pwnc. Y mae Ysbryd y Mab yn rhoddi goleu newydd ar ymwneud Duw â holl genedlaethau y datguddiad; y mae Iesu Grist yn addaw nefoedd newydd, a daear newydd, a Beibl newydd, yr un ffunud.
A'i Ysbryd Ef yw'r arweiniad i ddeall y Beibl i gyd. Efe sydd yn coroni'r datguddiad, ac Efe sydd yn ei esbonio. Maddeuwch gymhariaeth eto o fyd y chwarelwr—byd lle y treuliais i rai o flynyddau dedwyddaf fy hanes. Fe ddywedir mai camgymeriad, wrth weithio chwarel, ydyw canlyn y wythïen oreucanlyn y llygad; dyna cu gair hwy am y camgymeriad yno; ond y peth sydd yn wall mewn chwarel sydd yn rhagoriaeth wrth ddarllen y Beibl. Canlyn y llygad sydd i fod yn y fan yma—cael hyd i'r Gŵr sydd yn goron ac yn ddiben y datguddiad, a'i gymryd ef yn arweinydd i ddarllen yr Ysgrythyrau oll. O ddiffyg gweled hyn y cyfeiliornodd yr Iddewon: "Yr ydych yn chwilio'r Ysgrythyrau; canys ynddynt hwy yr ydych chwi yn meddwl cael bywyd tragwyddol; a hwynthwy yw'r rhai sydd yn tystiolaethu am danaf fi." Canlynwch wythïen fawr y datguddiad. Mynnwch fyned yn ffrind â'ch Ceidwad; dechreuwch yn y fan yma. Chi gewch ddigon o anawsterau i'ch blino yn y Llyfr; ond wedi myned o honoch yn ffrind â'r Person sydd yn goron y Llyfr, ail beth fydd yr anawsterau. Dechreuwch gyda'r Person, ac fe ddaw'r Llyfr yn llyfr newydd i chwi o'i gwr. Chi gewch hyd i ffordd at ei gryd Ef o bob man—llwybr at y Groes o'r lleoedd annhebycaf. Mynnwch afael ar Grist. "Hyd Grist" ydyw terfyn y datguddiad—o Abraham hyd Grist. Ni ddeallwch chwi mo hanes Abraham yn iawn heb adnabod Iesu Grist.
Abergele, yn Llanelwy, Hydref 31, 1907.]