Ysgrifau Puleston/Yr Iawn (ii)—Yr Iawn yn Elfen Dragwyddol yn Nuw

Yr Iawn (i)—"Ag un offrwm" Ysgrifau Puleston

gan John Puleston Jones

Yr Iawn (iii)—Y Cymod a'r Greadigaeth

PENNOD II.

YR IAWN YN ELFEN DRAGWYDDOL YN NUW.

GAN y cytunir bod maddeuant trwy waed y groes yn un o bynciau eglur y cyfamod newydd, ymofyn yr ydym ym mha ystyr y mae hyn yn wir. A chan fod rhan o'r atebiad yn bwnc ag y mae'r Eglwys heddyw yn anghytun arno, cyfleus fydd dechreu gyda'r rhan arall, lle y mae'r mwyafrif o athrawon Cred yn lled unair. Wrth ddywedyd eu bod yn unair ni feddylir eu bod felly hyd at fanylion, ond eu bod felly ar linellau cyffredinol yr athrawiaeth. Y mae diwinyddion o bob ysgol—y rhai a gred mewn Iawn fel sail cymod, a'r rhai nad addefant ond Iawn i ddysgu dynionbawb fel ei gilydd yn cydnabod bod yr Iawn yn ddatguddiad. Cytunant yn gyffredinol hefyd. ar y cwestiwn, pa beth y mae'r Iawn yn ei ddatguddio, datguddio cariad Duw, a chariad Duw yn maddeu i bechadur. Cytunant oll, ond odid, fod aberth Iesu Grist yn selio maddeuant, yn rhyw fath o sacrament neu wystl o bardwn y Duw mawr; a diau y credai y rhan fwyaf, a'r rheini y rhai goreu yn eu plith, ragor na hyn, sef bod yn y groes ryw ddatguddiad o'r hyn y mae maddeuant yn ei olygu i'r Barnwr ac i'r troseddwr. Rhyw dair gwedd a gymerwn ni i'r mater yn y bennod hon a'r ddwy nesaf, y cymod yn Nuw, yng ngwaith Duw, ac yng Nghrist; ac yna fe amcenir, wrth derfynu'r rhan hon o'r ymdriniaeth, ymholi beth yw ystyr maddeuant yng ngoleuni'r Groes.

Ein pwnc cyntaf gan hynny fydd, yr Iawn yn elfen dragwyddol yn y Duwdod. Pwy bynnag a ddysgo fod Duw yn rhoi maddeuant i ni trwy Grist Iesu, mewn ystyr nas gall ei roi trwy neb arall, fe ddylai gredu fod yr Iesu'n Fab Duw mewn ystyr nad oes neb felly ond efo. Cymerir hynny yn ganiataol. Fe gymerir yn ganiataol hefyd, mai'r Person ydyw'r Iawn, y Person yn rhinwedd rhyw brofiadau yr aeth drwyddynt yn wir, ond nid y gwaith na'r dioddefaint ar wahân i'r Person.

Dywedir bod y drychfeddwl yma gan rai o'r Tadau Groegaidd. A pha adleisiau sydd ohono ar hyd yr oesau nis gwn; ond y gŵr a'i cynefinodd ef fwyaf yn niwinyddiaeth Cymru, yn ddi-ddadl, oedd y Dr. Lewis Edwards. Fel hyn y dywed efo: "Y mae y person yn y weithred; ac am hynny, y mae haeddiant y weithred yn aros yn y person. . . 'Efe yw yr Iawn': nid yr hyn a wnaeth yn unig; ond Efe ei hun; ac am hynny, nid Efe oedd yr Iawn, a ddywedir, ond 'Efe yw yr lawn.' Yr oedd yn rhaid i dragwyddoldeb ac amser gyd-gyfarfod er mwyn cael trefn i achub dyn; yr oedd yn rhaid cael person tragwyddol o fewn terfyn gweithred amserol i fod yn Iawn."[1] Dadlennu'r gwirionedd hwn oedd un o gymwynasau mawr y Doctor i ddiwinyddiaeth ei genedl. Nid yw'n hollol eglur a oedd efe yn cyfrif fod ystyr yr hyn a wnaed ar Galfaria yn ymestyn yn ol yn gystal ag ymlaen. Gellid meddwl wrth yr ymadrodd "person tragwyddol" ei fod. Bid a fynno, dyna'r fel yr eglurir y pwnc gan amryw ddysgawdwyr eraill, megis Bushnell, Thomas Hill Green, Fairbairn, a'r Dr. Forsyth. Yr unig ddiwinydd mawr sydd, os nad yn gwrthod y syniad, yn gwneud yn o fychan ohono, yn yr oes hon, yw'r Dr. Denney.

Ond atolwg, a ydyw'r drychfeddwl i'w gael yn deg yn y Testament Newydd? Yr wyf yn credu yn bur bendant ei fod. Y mae'r adnod a grybwyllwyd o Epistol Cyntaf Ioan yn bur glir o'i blaid ef; a cheir yn ysgrifeniadau Ioan awgrymiadau eraill i'r un cyfeiriad. Y mae'r pregethau yng Nghapernaum ar "Fara'r Bywyd" yn fwy nag awgrym, gan y dysgir bod yr Iesu trwy ei aberth yn ei roddi ei hun yn fwyd ac yn ddiod i ddynion. Rhaid gan hynny fod ystyr vr aberth yn aros yn rhinwedd ac yn rym yn y person. Fe wrthodir yr adnod o'r Datguddiad, am "yr Oen a laddwyd er seiliad y byd," fel cyfieithiad annheg; ond er na ellir pwyso ar honno, y mae digon yn Efengyl ac Epistol Ioan ar y pwnc. "Wele oen Duw,' aberth darparedig Duw dros bechod y byd, nid aberth wedi ei gynnyg mewn cyfwng poenus i ryddhau'r Dwyfol gariad o'i anhawster, ond hen ddarpariaeth y cariad hwnnw'i hunan. "Er eu mwyn hwy yr wyf yr fy sancteiddio fy hun." Nid oedd yr offrymiad ar y pren ond coron a chyflawniad rhyw ymgysegru oedd yn bod o'r blaen.

Yn adroddiad yr Efengylau hefyd o hanes sefydlu Swper yr Arglwydd y mae'r gair tywelltir," "yr hwn a dywelltir dros lawer," yn yr amser presennol. Y mae'r cyfieithiad Cymraeg yn Luc yn nodedig o ffodus: "Y cwpan hwn yw'r Testament Newydd yn fy ngwaed i, yr hwn yr ydys yn ei dywallt drosoch." Ni synnai dyn ddim nad dyna fydd geiriau gwasanaeth cymun y gwin newydd tu fewn i'r llen: "yr hwn yr ydys yn ei dywallt drosoch." Y mac teilyngdod a rhinwedd yr aberth yn bod cyn ei offrymu mewn gweithred, ac yn para ar ol hynny yn oes oesoedd.

Myn Green mai dyma syniad llywodraethol Paul am yr aberth mawr. "Yr oedd Duw ynddo ef (yng Nghrist), a pha beth bynnag a wnâi efe Duw a'i gwnâi. Rhaid ynte mai rhyw farw i fyw, rhyw fyw trwy farw, ydyw hanfod natur Duw. Gweithred ydyw, er darfod ei dangos unwaith am byth yng nghroes Crist ac yn ei atgyfodiad, oedd er hynny yn dragwyddol—yn weithred Duw ei hun."[2] Dyna ddysgeidiaeth Paul fel y mae Green yn ei deall hi; ond os yw Green yn rhy bendant, ac os ydyw Paul yn rhoi mwy o bwys nag a ddywedir yma ar ffactau mawr y prynedigaeth, eto nid fel ffactau noethion yr edrych efe arnynt, namyn fel pethau yn datguddio Duw, ac fel pethau i ddynion gyfranogi ohonynt; oblegid yn ol Paul yn sicr rhaid i ninnau farw i bechod yng Nghrist a chyfodi i fuchedd newydd gydag ef. Duw sydd, yn ol dysgeidiaeth yr Apostol, yn cymodi'r byd yng Nghrist, a Duw sydd ynddo ef yn condemnio. pechod yn y cnawd. A lle bynnag y dysgir neu y tybir yr eiriolaeth, gan Paul neu gan Ioan, neu yn yr Epistol at yr Hebreaid, yno hefyd fe ddysgir neu fe dybir bod haeddiant yr aberth yn aros yn y person. Ac y mae'n debyg mai dyna ystyr ei offrymu ei hunan trwy ysbryd tragwyddol, ei offrymu ei hun, fel y dywed Thomas Charles Edwards, yng ngrym personoliaeth dragwyddol; a dyna'n sicr a feddylir wrth ddywedyd bod Crist yn offeiriad yn ol nerth bywyd annherfynol.

Ond yr un sydd wedi dysgu'r gwirionedd hwn groewaf o neb yw'r Apostol Pedr. Os cafodd Paul achos i wrthwynebu Pedr yn ei wyneb, fe dalodd Pedr yn ardderchog am y wers a roed iddo; oblegid ni chafodd Paul erioed well dehonglwr na Phedr. Ac ar y wedd yma i athrawiaeth y cymod y mae Pedr yn glir dros ben—perthynas yr Iawn â bywyd tragwyddol Duw. "Y rhai ydych trwyddo ef yn credu yn Nuw."

Esgeuluso'r athrawiaeth yma, sy mor eglur yn y Testament Newydd, ac a dderbynnir mor gyffredinol gan eglwysi Cred, a barodd i lawer fethu dygymod ag unrhyw syniad am Iawn gwrthrychol. Ond fe ddylid cofio nad yw'r anhawster a deimlir gan lawer yn gyfyngedig i'r aberth, llawer llai i'r dioddefaint oedd yn rhan o'r aberth. Anhawster ydyw sy'n perthyn i'r holl athrawiaeth o gyfryngdod Crist. Y mae'r cwestiwn yn ddyfnach na gofyn sut yr oedd dichon i ddioddefaint un arall ein hachub ni. Y mae yn cynnwys gofyn sut yr oedd modd i neb ein hachub ni heb law nyni'n hunain. Ac nid oedd modd chwaith, heb fod ein hachubwr yn fwy nag un ohonom ni. A dyna'r efengyl, fod Duw wedi dyfod i mewn i'n byd ni yn Iesu Grist. Holl actau mawr y prynedigaeth actau Duw oeddynt yr ymgnawdoliad, a'r temtiad, a'r gwyrthiau, a'r pregethu, a'r marw rhyfedd, a'r atgyfodi o'r bedd. Yr oedd Crist Iesu ynddynt oll yn Grist gallu Duw a doethineb Duw. Am ddeubeth y sonia Pedr yn y fan hon, y marw a'r atgyfodi. Nid fel pethau wedi bod a darfod y mae'r pethau hyn yn ein hachub ni, ond fel pethau a'u hystyr yn bod erioed yn y Duwdod.

Yr oedd y marw ar Galfaria'n cynrychioli rhywbeth oedd yn bod erioed yn Nuw. Ac erbyn edrych, sôn am dadolaeth Duw y mae'r Apostol yn yr adnodau o'r blaen. Fe fyn rhai fod athrawiaeth y cymod yn groes i dadolaeth Duw. Na, fel rhan o dadolaeth Duw y mae Pedr yn edrych ar gyfryngdod y Mab. "Os ydych yn galw hwnnw'n Dad, sydd heb dderbyn wyneb yn barnu yn ol gweithred pob un, ymddygwch mewn ofn dros amser eich ymdeithiad; gan wybod nad â phethau llygredig, megis arian neu aur, y'ch prynwyd oddi wrth eich ofer ymarweddiad, yr hwn a gawsoch trwy draddodiad y tadau, eithr â gwerthfawr waed, gwaed oen difeius a difrycheulyd, gwaed Crist; yr hwn yn wir a ragordeiniwyd cyn sylfaenu'r byd, eithr a eglurwyd yn yr amseroedd diweddaf er eich mwyn chwi, y rhai ydych trwyddo ef yn credu yn Nuw." Dywedai yr hen bobl fod yr Iesu wedi gofalu bod ym Methania chwe diwrnod cyn y Pasg, gan mai efe oedd oen y Pasg, a'i bod hi'n gyfraith dal yr oen bedwar diwrnod cyn yr ŵyl. Fe ofalodd yntau, meddent, fod yn y ddalfa mewn pryd. Ond gallasent ddywedyd rhagor: yr oedd yr oen yn y ddalfa er tragwyddoldeb. Fe'i rhagordeiniwyd cyn sylfaenu'r byd. Ei egluro a wnaed yn yr amseroedd diweddaf. Yr oedd yr aberth drud yn bod erioed yn Nuw. Ni roes neb well mynegiad i'r rhan yma o'r Efengyl na Horace Bushnell. Yn ei sêl dros y gwirionedd hwn, o bosibl, yr esgeulusodd ef bwyso digon ar rai agweddau eraill i'r pwnc. Y mae rhyw nwyd sanctaidd o brydyddiaeth yn ei frawddegau. Dyma un neu ddwy ohonynt: mi garaswn ddyfynnu ychwaneg. "Egwyddor ddirprwyol o ran ei natur yw cariad, yn gwneuthur y sawl a'i teimlo yn un ag eraill, nes dioddef eu drygfyd a'u poenau hwy, ac yn cymryd arno'i hun faich eu hanhwylderau." "Y mae croes yn Nuw cyn bod y pren yn weledig ar Galfaria." "Y mae Dwyfol gariad, od oes arno awydd maddeu i'r euog, yn rhwym o ddioddef wrth wneud hynny. Dyma bris maddeuant i'r sawl a'i rhoddo." Fe atebodd y Dr. Dale ryw bregeth a glywsai neu a welsai, mewn pregeth o'i eiddo'i hun. Dadl y pregethwr arall ydoedd, nad oedd dim Iawn yn Nameg y Mab Afradlon. Y pechadur ei hun, meddai, sydd yn dwyn canlyniadau'i fai. Ac ateb Dale oedd, nad-e ddim. Nid oedd y troseddwr ei hun ddim yn dioddef holl ganlyniadau'i fai. Ac erbyn meddwl, ni ddioddefodd y Mab Afradlon mo'r cwbl o ffrwyth ei ddrygioni. Yn y fan yna y gadawodd Dale y mater y tro hwnnw; ond yr oedd dyn yn mynd i ofyn er ei waethaf—ar bwy y disgynnodd canlyniadau buchedd wyllt y troseddwr heb law arno ef? Ac ni all fod ond un ateb: y tad a faddeuodd iddo a ddioddefodd fwyaf. Efo a lawenychodd fwyaf hefyd; ond llawenydd yn costio dioddef ydoedd y llawenydd hwnnw. Yr oedd yno un na fynnai brofi llawenydd y teulu, y mab hynaf. Pan glywsai gynghanedd a dawnsio, efe a ddigiodd ac nid âi i mewn. Ond y rheswm na chyfranogodd efo o'r llawenydd oedd ei fod yn llawenydd rhy ddrud ganddo. Yr oedd yn ormod o glwyf i'w falchter a'i eiddigedd. Ni thalai fo mo bris y llawenydd o groesawu ei frawd. Ac os aeth ef i mewn hefyd, ar ôl i'w dad gyfymliw ag ef, fe aeth i fewn drwy groeshoelio'i falchter. Ond y tad a arweiniai yn y dioddef ac yn y llawenydd. Efe a aeth i gyfarfod â'r bachgen drwg, a'i gusanu yn ei garpiau a'i gywilydd. Efo a wnaeth y bachgen yn werth gan y gweinidogion ymgrymu iddo. Y mae'r Iawn felly yn elfen yn nhadolaeth Duw. Ni allai ddatguddio'i gariad heb ei ddatguddio fel cariad yn dioddef. Yr oedd y Tad yn gystal a'r Mab yn gyfrannog yn y dioddef. Fel y dywed y Dr. Fairbairn yn rhywle, nid cyfeiliornad i gyd oedd cyfeiliornad y Patripasiaid.

Fyth i'r Tad y bo'r gogoniant,
Roi a derbyn y fath rodd."

A'r bobl a gwynant yn erbyn yr elfen o ddyhuddiant sydd yn yr athrawiaeth fel y dysgir hi'n gyffredin, nid yn erbyn dyhuddiant mewn gwirionedd y mae eu cwyn ond yn erbyn dyhuddiant oddi allan. Dywedant mai idea baganaidd yw meddwl am ddyhuddo Duw. Ië, os ei ddyhuddo gan rywun neu rywbeth, oddi allan a feddylir, ond os dyhuddo gan Dduw ei hun, nag-e yn bendifaddeu. Ni allai dim o'r tu allan ei ddyhuddo. "Nid digon Libanus i gynneu tân; nid digon ei fwystfilod chwaith yn boethoffrwm." Chwedl y Dr. Forsyth, nid gwaith rhyw drydydd oddi allan ydyw cymodi Duw â phechadur.

Eto na feddylied neb mai athrawiaeth yr argraff foesol sydd yma—Duw yng Nghrist yn dioddef er mwyn gadael argraff ar ddynion. Braidd y mae neb yn dal honno yn ei noethter erbyn hyn, er bod llawer yn dal pethau go debyg iddi; ond yr idea Ysgrythyrol yw, bod angau'r groes wedi datguddio elfen o ddioddef yng nghariad maddeuol Duw, er nad er mwyn gwneud argraff ar neb, ond am na ellid datguddio cariad ond yn y fel yna. Od oedd cariad Duw i ymddatguddio i ddynion o gwbl, i'w gwaredu o'u trueni, rhaid oedd bod dioddef yn elfen yn y datguddiad. Yr oedd dioddef yn perthyn i'r datguddiad am ei fod yn perthyn i'r peth. "Onid oedd raid i Grist ddioddef y pethau hyn a myned i mewn i'w ogoniant? "[3] Y cariad a 'mostyngodd i'n gwaredu ni, rhaid oedd iddo gymryd y wedd hon. Pan geryddodd Pedr ei Athro am fod yn ei fryd ddioddef a marw, "efe a geryddodd Pedr, gan ddywedyd, dos ymaith yn fy ol i, Satan, am nad wyt yn synied y pethau sydd o Dduw, ond y pethau sydd o ddynion."'[4] Yr oedd y dioddef yma'n un o bethau Duw. Dieithrwch i bethau Duw a barai bod neb mewn tywyllwch yng nghylch hwn.

Fe allai y gofynnir, Oni fuasai awdurdod y Brenin Mawr yn ddigon i ddiddymu'r pellter rhwng y pechadur ag ef, heb i hynny olygu dim dioddef o du Duw? Rhaid i ni ateb mai ei gymeriad ef oedd ar y ffordd. Yn wir meddwl am Dduw fel awdurdod noeth a barodd i bobl feddwl bod peth felly yn bosibl. Cwynir bod diwinyddion uniongred yn rhy chwannog i ymresymu oddi wrth benarglwyddiaeth y Duw mawr; ond y mae'r un clefyd ysywaeth ar yr hereticiaid hwythau. Sôn am benarglwyddiaeth yn systemau'r hen ddiwinyddion! y mae mwy o benarglwyddiaeth yn y fan yma nag oedd yn y rheini oll gyda'i gilydd. Ni fedr cymeriad mewn Duw na dyn ddim torri clymau yn lle'u datod hwy. A phan soniom am awdurdod yr Anfeidrol, nid awdurdod ar wahân i'w garictor ef ydyw hi. "Nis gall efe ei wadu ei hun." Ni allasai, a bod y peth ydyw, faddeu heb ddioddef. Dyna agwedd wastadol ac angenrheidiol cariad yn ymwneud â'r annheilwng. Ac fel na allai awdurdod noeth symud yr anhawster, felly hefyd nid deddf noeth, megis peth yn hanfodi ar wahân i Dduw sydd yn creu'r anhawster, namyn deddf ei natur ef ei hun.

Y mae'r golygiad yma'n ein dwyn ni ris ym mhellach, gan hynny, na'r dywediad syml fod angau'r groes yn datguddio cariad Duw, neu os mynnir, y mae mwy yn y dywediad yna nag y byddys yn meddwl wrth ei adrodd. Gallai datguddio cariad olygu datguddio bod Duw yn ein caru ni, heb ddim mwy na hynny; ond nid hynny'n unig a ddatguddir yn y Groes. Yma fe ddatguddir pa ryw beth ydyw'r cariad, a pha sut y mae ef, yn ei hanfod dragwyddol, yn gweithredu. "Yn hyn yr adnabuom gariad," nid cariad Duw a ddywedir, "yn hyn yr adnabuom gariad oblegid dodi ohono ef ei einioes drosom ni."[5] Yma y datguddiodd cariad ei anian. Yr oedd ynddo elfen, felly, nas gellid ei datguddio'n briodol yn ein byd ni ond trwy farw. Dyma'r gwaith addas, naturiol, i'r cariad tragwyddol wedi ei ddyfod yma, a'i ddyfod yma i waredu pechadur—dioddef a marw. Yr oedd rhyw wedd ar fywyd tragwyddol y Duwdod mawr, nad oedd dim arall, mewn byd fel hwn, yn ddatguddiad boddhaol ohoni. Yma y cafodd y byd gynllun o gariad. Yma yr adnabuwyd cariad, y gwybuwyd sut y dylai cariad weithio. Edrych beth a wnaeth cariad Duw, dyna a ddengys i ni beth a ddylai cariad ei wneuthur mewn dynion; ac am hynny'r ychwanega'r apostol: "A ninnau a ddylem ddodi'n heinioes dros y brodyr." Ond ar y groes yr adnabuwyd cariad, y gwelwyd pa beth oedd yn naturiol iddo ac yn deilwng ohono. Y mae'r groes, beth bynnag arall ydyw hi, yn ddatguddiad o'r agwedd ddioddefus sydd ar gariad Duw yn dragywydd."

Y mae'r un peth yn wir am yr Atgyfodiad. Datguddiad ydyw'r trydydd dydd hefyd o rywbeth sy'n bod erioed yn y Duwdod. "Y rhai ydych trwyddo ef yn credu yn Nuw, yr hwn a'i cyfododd ef oddi wrth y meirw, ac a roddodd iddo ef ogoniant, fel y byddai eich ffydd chwi a'ch gobaith yn Nuw."[6] Eglur yw y dyry Pedr, fel ei gyd-apostolion, bwys mawr ar yr Atgyfodiad fel ffact. Efo oedd un o'r prif dystion iddi. Y mae Ceffas ar restr y tystion gan Paul yn y bennod fawr ar yr atgyfodiad. Yr oedd yr atgyfodiad yn gymaint peth yn niwinyddiaeth yr oes Apostolaidd a'r marw ar Galfaria, o'r ddau, gallech feddwl wrth ambell i adnod, yn fwy peth. "Crist yw yr hwn a fu farw, ïe, yn hytrach, yr hwn a gyfodwyd hefyd"; fel pe buasai cyfodi o'r bedd yn fwy angenrheidiol at ein diogelu ni na marw drosom. Ond y gwir ydyw bod y marw a'r codi yn ddwy ochr i'r un gwaith. Mewn amser dilyn ei gilydd y maent; ond o ran eu hystyr dwy wedd i'r un peth ydynt. Y mae'r ddau ddigwyddiad fel ei gilydd yn hanfodol i'n hiechydwriaeth ni. "Yr hwn a draddodwyd dros ein pechodau ni, ac a gyfodwyd i'n cyfiawnhau ni."[7] Amlwg yw yr ystyrid yr atgyfodi yn llawn mor hanfodol i'r gwaith oedd i'n cyfiawnhau ni ag oedd tywallt gwaed ar y pren. Mi wn y ceisir esbonio'r adnod yn aml trwy ddeud mai arwydd o gymeradwyaeth Duw i waith y prynedigaeth yw'r atgyfodiad. Nid wyf yn cofio am un gair o sail Ysgrythyrol i'r golygiad yna; ond beth bynnag am hynny, nid dyna ystyr yr adnod hon. Yr oedd eisiau iddo godi o'r bedd, nid er mwyn dangos bod ei waith ef yn gymeradwy. Ni fuasai ei waith ddim yn gymeradwy nac yn gyflawn heb yr atgyfodi. "Am hyn y mae y Tad yn fy ngharu i, am fy mod i yn dodi fy einioes fel y cymerwyf hi drachefn." Yn wir nid dodi einioes sydd yn rhyngu bodd Duw—difrod ydyw hynny onid oes rhywbeth arall i'w ganlyn—ond dodi einioes er mwyn ei chymryd hi drachefn. Pan ofynnodd Moses i'r Brenin mawr ei ddileu ef o'i lyfr er mwyn y genedl, ni chafodd ei ddymuniad. Pan aeth Abraham i ben Moriah i aberthu ei fab Isaac, fe waharddwyd iddo, er ei fod ef wedi rhyngu bodd Duw wrth gynnyg. Paham y gwarafunodd Duw i ddynion wneuthur peth y caniataodd, ac y gorchmynnodd i'w Fab uniganedig ei gyflawni? Am y buasai eu haberth hwy yn fethiant —ni chawsid mo'i werth llawn ohono—lle yr oedd aberth yr Iesu yn siwr o lwyddo yn ei amcan. Yr oedd y bywyd a roed i lawr yn siwr o ddyfod i fyny yn ei gyflawnder, wedi helaethu ei derfynau. Nid oedd dim difrod, dim afradu, yn ei aberth ef. Ni fyddai fo byth yn sôn am ei angau, heb sôn hefyd am ei atgyfodiad. A'r trydydd dydd atgyfodi" ydyw byrdwn ei ddysgeidiaeth yn y misoedd olaf hynny gyda'r disgyblion. Ac wrth annog dynion i hunanymwadu, y mae cael yn gystal a cholli bob amser yn rhan o'r gwaith. "Pwy bynnag a gollo'i einioes, hwnnw a'i ceidw hi."[8] Pa foddhad i Dduw fyddai colled fel colled? Y peth a'i boddia ef yw colli er mwyn cadw. Felly y mae'r atgyfodiad yn rhan o'r aberth.

Ond wrth ei ystyried felly yr ydys yn ei wneuthur yn fwy na ffact noeth wedi bod a darfod, ac yn gorfod derbyn golygiad Pedr, mai rhywbeth tu cefn i'r ffact sydd yn achub. "Yr hwn a'i cyfododd ef oddi wrth y meirw, ac a roddodd iddo ef ogoniant (at y pwrpas yma y mae'r atgyfodiad a'r gogoneddu yn y nef yn un) fel y byddai'ch ffydd chwi a'ch gobaith yn Nuw." Y mae rhywbeth yn Nuw erioed sy'n cyfateb i atgyfodiad y Mab. Yr ydych trwy gredu ffact yr atgyfodiad fore'r trydydd dydd yn credu yn Nuw. Bellach yr ydym yn dechreu deall paham y gesyd Paul yntau y fath bwys ar yr atgyfodiad. "Os Crist ni chyfodwyd, ofer yw eich ffydd chwi; yr ydych eto yn eich pechodau",[9] hynny yw, yr ydych yn euog eto, heb eich rhyddhau oddi wrthynt. Yn awr pa ystyr fuasai i ddeud fel yna, pe fel digwyddiad noeth yr edrychasid ar y peth? Na, yr ystyr yn ddiau yw, os ydyw'r bywyd a gollwyd heb ei gael yn ôl, heb ei gymryd drachefn, y mae'r gwaith heb ei orffen—nid heb ei gymeradwyo ddim, ond heb ei orffen. Nid yw aberth y groes ddim yn gyflawn heb yr atgyfodiad.

Ac y mae'r gorffen yma ar waith y prynedigaeth, nid wedi digwydd am unwaith yn braw o ddigonolrwydd yr Iawn a dalwyd, ond yn bod erioed, ac yn bod byth bythoedd yn Nuw. Od yw ei gariad tragwyddol ef yn gariad dan ei glwyfau, nid yw hynny ond un wedd i'r pwnc; y mae ar yr un pryd yn gariad dan ei goron. Y mae'r fuddugoliaeth mor dragwyddol â'r aberth. Os ydyw Duw, am ei fod yn Dduw'r cariad, yn gwybod am ryw brofiad nad oes dim yn ein byd ni mor debyg iddo â marw, nid marw heb ei orchfygu ydyw'r marw hwnnw, ond marw sydd yn ris ym mhrofiad bywyd. Y bywyd uchaf mewn bod byw trwy farw ydyw. Ond nid oes dim ohono'n mynd yn ofer ac yn afrad trwy ymaberthu. Y mae bywyd o aberth yn fywyd o ogoniant. Rhaid i ddynion, a rhaid i Dduw dan amodau'n byd ni, ddioddef i ddechreu, a dyfod i fyny wedyn; ond yn ei fywyd tragwyddol ef y mae'r ddau yn cymryd lle ar unwaith. Y mae ei fywyd yn ymgyfoethogi trwy ddioddef. Wrth gyfyngu arno'i hunan, a dodi ei gariad mawr dan y straen o faddeu i droseddwr, felly y mae efe yn ei gyflawni ei hun. Felly y mae yn dwyn ei ewyllys i ben. Y peth drutaf iddo, wedi'r cwbl, ydyw'r peth hyfrytaf ganddo. Dyma'r fel y mae Atgyfodiad Crist yn troi'n fywyd i ni—yn gyfiawnhad i ni yn ôl Paul, ac yn adenedigaeth yn ôl Pedr. Pe na buasai'r atgyfodiad hwn ond peth wedi bod a darfod, pa rinwedd a fuasai ynddo i'n hatgenhedlu ni i obaith bywiol?

Ar y tir yma hefyd y gallwn ni ddeall y berthynas rhwng atgyfodiad Crist ac atgyfodiad y saint. Yr oedd ef yn flaenffrwyth y rhai a hunasant, yn rhan ac yn ernes o'r cynhaeaf mawr, gan nad peth a fu ac a ddarfu rywdro yng Ngwlad Canaan oedd ei gyfodi ef, ond rhywbeth ag y mae ei ystyr yn bod eto. Peth ydyw sydd, er bod yn ddigwyddiad mewn amser, yn fwy na digwyddiad. Grym ydyw sydd ar waith o hyd. Y grym hwn sydd ar waith yn atgenhedliad y saint; obegid y maent yn credu yn ôl gweithrediad nerth ei gadernid ef. A'r grym yma fydd ar waith yn eu cyfodi hwythau o'r bedd. Yr un un ydyw drwodd draw. Gwnewch chwi drydydd dydd Mab Duw yn ddigwyddiad gwyrthiol am unwaith, a chwi a'i hyspeiliwch o'i werth i ni. Fe gafodd Ellis Wyn hyd i galon yr adnod wrth ei haralleirio hi:

"Myfi yw'r atgyfodiad mawr;
Myfi yw gwawr y bywyd."

Nid yn unig y mae ganddo addewid o fywyd tragwyddol, ond dyma fo'r bywyd tragwyddol ei hun. Nid addewid mo hono, ond dechreuad y peth ei hun. Y sawl a gaffo brofiad o rym ei atgyfodiad ef, y mae eu ffydd hwy a'u gobaith yn Nuw. Y bywyd a roddwyd, ac a gymerwyd drachefn, y mae yn Iesu Grist yn awr, yn drysor dihysbydd o gariad i'r neb a gredo ynddo.

Yr ydym weithian ar dir i roddi ystyr deg i'r hen ffigyrau masnachol, a fu'n achos cymaint o gamddysgu. Y mae prynu trwy waed yr Oen yn beth dealladwy ar yr ystyriaeth hon. Y mae maddeuant yn costio i Dduw; ond y mae hefyd yn talu am dano'i Trwy ddwyn y draul o faddeu i'r afradlon y mae Tadolaeth Duw, yn ei pherthynas â ni ddynion, yn medru cael ei ffordd ei hun. Pan osodo efe ei enaid yn aberth dros bechod, efe a wêl ei hâd; efe a estyn ei ddyddiau; ac ewyllys yr Arglwydd a lwydda yn ei law ef.[10] Wrth ddilyn y llinell yma ni gawn ymadael â lliaws o wyrdroadau sydd wedi blino'r Eglwys. Ni fydd mwyach achos gwneud rhwyg yn y Duwdod, na rhwng y personau Dwyfol, na rhwng y priodoleddau Dwyfol chwaith. Ni bydd cariad mwyach yn cynnyg un peth, a chyfiawnder yn cynnyg peth arall. Ni fydd person Dwyfol yn marw by arrangement, chwedl John Roberts o'r Tai Hen, i foddio person Dwyfol arall; oblegid, fel y dywedai Emrys ap Iwan, "Nid mab mwyn i dad dreng ydyw Iesu Grist." Y mae ystyr yr aberth ym Mherson y Mab erioed; ac y mae'r Tad a'r Ysbryd yn gyfrannog ynddo. Yn nwylaw'r Ysbryd Glân yn wir y mae'r cariad a ymaberthodd drosom ni yng Nghrist yn troi'n gariad i'w dywallt yn ein calonnau ni. "Efe a gymer o'r eiddof, ac a'i mynega i chwi." Bellach y mae cawodydd y fendith, sy'n dyhidlo ar etifeddiaeth yr Arglwydd, i'w gwrteithio hi wedi ei blino, yn gawodydd y Dwyfol Glwyf.

Nodiadau

golygu
  1. Y Traethodau Diwinyddol, 53-55
  2. Works of T. H. Green. Vol. III. P. 233. Rhuf. vi. 1, 15; 2 Cor. v. 19; Rhuf. viii. 3; 1 loan ii. 1—2; Rhuf. viii. 34; Heb. vii. 25; 1 Pedr i. 21.
  3. Luc xxiv. 26,
  4. Marc viii. 33.
  5. Ioan iii. 16
  6. Rhuf. viii. 23.
  7. Rhuf iv.25
  8. Marc viii. 35; Luc xvii. 33; Ioan xii. 25
  9. 1 Cor. xv. 17.
  10. Esai. lii. 10.