Ysgrifau Puleston/Yr Iawn (iii)—Y Cymod a'r Greadigaeth

Yr Iawn (ii)—Yr Iawn yn Elfen Dragwyddol yn Nuw Ysgrifau Puleston

gan John Puleston Jones

Yr Iawn (iv)—Awdurdod i Faddeu

PENNOD III.

Y CYMOD A'R GREADIGAETH.

GAN fod y drefn i faddeu i bechaduriaid yn datguddio bywyd tragwyddol Duw, ni a ddisgwyliem iddi fod ar lwybr cynefin Duw yn ei holl waith. Os yw sylfeini natur a gras yn y bywyd hwnnw, rhyfedd fuasai bod y ddau heb ryw gyfathrach ddofn â'i gilydd. Disgwyliem gael, wrth chwilio, ryw wirionedd pwysig yn cyfateb i deitl Llyfr Wiliam James, Aberdar, Cristnogaeth yn Coron Creadigaeth, "Christianity the Goal of Nature.'"'

Ac ar doriad cyntaf gwawr athroniaeth grefyddol dan yr Efengyl dyna a gawn ni, yr Apostolion yn dechreu gweled perthynas gudd rhwng yr Efengyl oedd yn achub pechaduriaid a gwaith Duw mewn natur. Os dywedir mai go brin yw'r llinell yma yn y Testament Newydd, yr ateb yw mai prin yw athroniaeth o gwbl yn yr oesoedd cyntaf oll, ac nad yw'r llinell yma ddim prinnach. Y mae'r cyfeiriadau byrion a geir, pa fodd bynnag, yn awgrymu bod eisoes gorff o addysg ar y llinell yma mewn rhyw gylchoedd ym mysg y disgyblion. Buasai'r awgrym a deflir yn rhagymadrodd y Llythyr at yr Hebreaid. yn rhy fyr i fod yn ddealladwy, oni buasai bod y drychfeddwl yn un gweddol gynefin i'r darllenwyr. "Yr hwn, ac efe yn ddisgleiriad ei ogoniant ef, ac yn gyf-argraff ei hanfod ef, ac yn cynnal pob peth trwy air ei nerth, wedi puro'n pechodau ni trwyddo ef ei hun, a eisteddodd ar ddeheulaw'r mawredd yn y goruwchleoedd." Buasai'n gofyn dywedyd mwy neu beidio dywedyd cymaint. Yr un ffunud am ragymadrodd Efengyl Ioan, y tebyg yw fod y deunaw adnod yna'n grynhodeb o athrawiaeth nad oedd na newydd na dieithr yn y cylch y bwriedid y llyfr ar ei gyfer. "Hwn oedd yn y dechreuad gyda Duw. Trwyddo ef y gwnaethpwyd pob peth; ac hebddo ef ni wnaethpwyd dim ar a wnaethpwyd. Ynddo ef yr oedd bywyd; a'r bywyd oedd oleuni dynion. . . . Yr oedd y gwir oleuni, sydd yn goleuo pob dyn, yn dyfod i'r byd." Y mae'n amlwg bod rhai o athrawon yr oes Apostolaidd yn arfer dysgu bod i Fab Duw ei le mewn creadigaeth yn gystal ag mewn prynedigaeth; ac anawdd peidio â meddwl bod Efengyl Ioan yn tynnu darlun cywir wrth briodoli hadau'r ddysgeidiaeth yna i'w Hathro hwy. "Y mae fy Nhad yn gweithio hyd yn hyn; ac yr ydwyf finnau yn gweithio."[1]

Ond yr ysgrythur lle y ceir yr athrawiaeth wedi ei datblygu fwyaf ydyw'r bennod gyntaf o'r Epistol at y Colossiaid. I ba raddau yr oedd a fynnai cyfeiliornadau â naws Gnosticiaeth arnynt â ffurf yr athrawiaeth sydd bwnc heb orffen ei benderfynu. Dylid cofio wrth ddarllen yr esbonwyr fod yr hyn a ddisgrifiant hwy fel Gnosticiaeth yn ddiweddarach dipyn nag amser Paul, ond fod y casgliad a dynnant yn un eithaf teg, nad tŵf undydd unnos oedd y Gnosticiaeth honno pan gawn ni ei hanes hi mewn llyfrau.

Y mae'r Epistol yma hefyd yn mynd ym mhellach o gryn lawer ar y llinell a awgrymir yn "Ioan" a'r "Hebreaid," a'r "Ephesiaid." Y tu allan i'r "Colossiaid," y peth a gawn ni amlycaf yw perthynas creadigaeth â pherson y Mab: yma ni gawn ei pherthynas hi â'i waith ef hefyd. Dyma ddau bwnc mawr y bennod gyntaf ar ôl y rhagymadrodd, Iesu Grist yn sylfaen pob creadigaeth o ran ei berson, ac yn goron pob creadigaeth yng ngwaith y cymod. Er mai'r olaf o'r ddau ydyw'n testun ni, fe dâl i ni fwrw golwg frysiog ar y llall yn ogystal, pe na bâi ond i osod athrawiaeth yr Iawn yn ei pherthynas briodol ag athrawiaeth y Drindod. Fe ofynnir yn aml paham y mae'r Mab yn Waredwr, ac nid y Tad neu yr Ysbryd, heb gofio mai oddiwrth drefn yr iechydwriaeth y cawsom ni'n gwybodaeth am y Drindod fendigaid. Ac yn lle gofyn paham y mae'r Mab yn Brynwr, gofyn a ddylem pa briodolder sy mewn galw Prynwr dynion. yn Fab Duw.

Iesu Grist yn Sylfaen pob Creadigaeth o ran ei Berson.

Nid yr un oedd cwestiynau'r oes Apostolaidd â'r cwestiynau sy'n ein blino ni. Ag arfer cyffelybiaeth Martineau ar fater arall, nid yw'r cwch ganddynt hwy ddim yr un ochr i'r afon â ni; ond y mae yn gwch mor hwylus fel y byddai'n werth mynd trosodd i'w nôl, hynny yw, y mae'n werth i ni geisio deall y cwestiwn oedd yn blino'r oes honno, nid er mwyn y cwestiwn ei hun, ond er mwyn yr atebiad sy gan Paul iddo. Y cwestiwn a flinai bobl feddylgar y pryd hwnnw oedd, Pa fodd y medrodd Duw greu? Yr un un ydoedd a'r cwestiwn a boenai ryw eneth bach a adwaenwn, sydd erbyn hyn yn ferch ifanc. Ei brawd chwech oed oedd yn dangos darluniau Beiblaidd i'w chwaer fach ddwy flwydd yn iau nag ef. "Dyma," meddai fo, "lun Duw yn creu'r byd; ac fe greodd y byd," meddai'r bychan, "o ddim." Nag-e," meddai'i chwaer bedair oed, "o hono'i hun, nid o ddim."

Dyna'r ymholiad oedd yn blino dysgedigion yn amser Paul. Sut y medrodd Duw greu? Digon gennym ni ei fod wedi creu; ond yr oeddynt hwy yn ymguro yn erbyn y dyrysbwnc anorffen yna; a hwy a ddyfeisiasent atebion goreu y medrent iddo. Sut y medrodd Duw greu, a chreu byd fel a adwaenom ni? Sut y medrodd y tragwyddol berffaith roddi bod i fyd cymysglyd amherffaith fel hwn? Yr ateb oedd, na chreodd ef mo hwn. Y cwbl a greodd ef oedd y creadur cyntaf—creadur mor wych nad oedd yn anair i Dduw ei hunan fod wedi ei greu. Ac yna fe greodd hwnnw un tipyn is nag ef ei hun, a hwnnw un is wedyn, nes dyfod rhyw greadur i fod o'r diwedd, digon islaw Duw i roi bod i'r greadigaeth amherffaith y gwyddom ni amdani. Y gadwyn yna oedd y thronau, yr arglwyddiaethau, y tywysogaethau, a'r awdurdodau, y sonia'r Apostol amdanynt—y cyfryngau oedd gan y Brenin Mawr rhyngddo a natur a mater a dyn rhag llychwino'i fysedd trwy roi bod i'r pethau cyffredin hyn yn ddigyfrwng. Fe ddaeth i lawr o'i fawrhydi unig ar hyd grisiau maith. Dyna gwestiwn y byd oedd y pryd hwnnw: Sut y medrodd Duw greu? Er mwyn ei ateb rhaid oedd cael hyd i rywbeth yr oedd y philosoffyddion yma'n ei gredu. Yr oeddynt yn credu'r Efengyl. "O'r goreu," meddai Paul, "os ydych yn credu'r Efengyl, os ydych yn credu bod Duw wedi ei ddatguddio'i hunan yn natur dyn—mewn natur greedig ac amherffaith, ni ddylai bod dim anhawster i chi gredu ei fod ef wedi creu." Ni pherthyn dim anhawster i'r athrawiaeth ddarfod i Dduw greu pob peth, ond sy'n perthyn i'r athrawiaeth ei fod ef yn achub dynion trwy ddyfod yn un ohonynt. Cymerwch eich safle ar yr iechydwriaeth sydd yng Nghrist, a chi ddeallwch y dirgelwch sy'n perthyn i greadigaeth hefyd. "Gan ddiolch i'r Tad," meddai'r Apostol, yr hwn a'n gwnaeth ni yn gymwys i gael rhan o etifeddiaeth y saint yn y goleuni; yr hwn a'n gwaredodd ni o feddiant y tywyllwch, ac a'n symudodd ni i deyrnas Mab ei gariad; yn yr hwn y mae i ni brynedigaeth trwy ei waed ef, sef maddeuant pechodau; yr hwn yw delw'r Duw anweledig, cyntafanedig pob creadigaeth." Nid y creadur cyntaf a feddylir ddim, ond cyntaf—anedig creadigaeth, dechreu teulu yn y Duwdod mawr. Sut y medrodd y Brenin Mawr greu? Wel, yr oedd posibilrwydd creadigaeth ynddo fo er tragwyddoldeb, ac ynddo yn yr un fan a phosibilrwydd achubiaeth ym Mherson y Mab. Yr oedd rhyw wedd ar fywyd y Duwdod a wnâi greu yn beth posibl iddo; ac yr oedd honno'r un wedd yn union ag a wnâi ddatguddiad a phrynedigaeth yn bosibl. Unrhyw syniad am Dduw a'i gwnelo fo, dan enw o'i barchu a'i fawrhau, yn rhy fawr i ddyfod allan o hono'i hun mewn creadigaeth, y mae yn drwyadl anghristnogol, gan y buasai yr un syniad yn ei anghymwyso ef i ddyfod i lawr at ddynion er mwyn eu hachub.

Ond cwestiwn arall sy'n blino'n hoes ni, nid Pa fodd y medrodd Duw greu, ond Pa fodd y medrodd y Duw a greodd bob peth ei ddatguddio'i hunan fel un ohonom ni, a dyfod yn Waredwr inni? Dyna'r cwestiwn yn awr.

Ond os ydyw'r cwestiwn yn un gwahanol, y mae'r un atebiad ag a gyfarfyddai ag anawsterau oes yr Apostol yr un mor gyfaddas i gwestiwn ein hoes. ninnau—gwreiddyn iechydwriaeth a chreadigaeth yn yr un fan—person y tragwyddol Fab yn sylfaen y naill a'r llall. A ydych chwi'n methu gweld sut y gallai Duw ddyfod yn ddyn? Y mae yma anhawster yn ddiau, eithr nid dim ond yr un anhawster ag sydd ynglŷn a gwaith Duw yn creu. Yr un anhawster hanfodol ydyw'r ddau sut y medrodd Duw ddyfod yn ddyn, a sut y medrodd Duw greu o gwbl; oblegid dyfod allan o hono'i hunan mewn datguddiad—ei ddatguddio'i hun mewn peth llai nag ef ei hun oedd pob un o'r ddau. Os medrodd ef wneud y naill heb ei fychanu ei hunan, paham na allasai wneud y llall? Gwedwch chi'r ymgnawdoliad, yr ydych yn cau ar y Duw Mawr yn ei ddistawrwydd. Duw anweledig ydyw, a delw ohono'i hun yn ei fynwes er tragwyddoldeb. Y mae posibilrwydd creadigaeth a phosibilrwydd datguddiad yn gorwedd yn y Duwdod erioed, am fod Duw yn Fab yn gystal a Thad. Y posibilrwydd yna, y medr yna i ddyfod allan ohono'i hun ydoedd cyntaf—anedig pob creadigaeth. Dyna ydyw'r hyn a eilw diwinyddion yn ail berson yn y Drindod, sylfaen gweithrediad yn Nuw—y wedd yna ar fywyd y Brenin Mawr, sy'n rhoi modd iddo ei ddatguddio'i hun mewn natur a gras. Dyna'r Ail Berson yn yr hanfod. Yn yr un fan y mae gwreiddyn creadigaeth a gwreiddyn yr ymgnawdoliad.

Hwyrach y bydd rhai o geidwaid yr athrawiaeth, wrth ddarllen y llinellau hyn, yn barod i ofyn yr hen gwestiwn: A fuasai'r Mab yn ymgnawdoli oni buasai i ddyn fynd yn bechadur? Ni pherthyn i mi geisio ateb y cwestiwn yn y fan hyn; ond y mae hyn o wir, beth bynnag, yn y ddysgeidiaeth a ddaeth i Gymru yma trwy Thomas Charles Edwards, yr oedd medru dyfod yn ddyn yn perthyn i Fab Duw erioed. A ddaethai'r medru yna'n ffact pe na ddaethai pechod i mewn, sydd gwestiwn arall; ond yr oedd y posibilrwydd yno erioed. Os nad oedd, y mae creadigaeth ei hunan yn mynd yn beth anesboniadwy. Nid ydym yn deall yr ymgnawdoliad; ond yr ydym yn ei gredu, fel y credwn aml i beth mawr arall, am na allwn ddeall dim arall yn iawn hebddo. " Ynddo ef," yn y Mab, "y mae pob peth yn cyd—sefyll." Efo o ran ei berson ydyw sylfaen pob creadigaeth.

Iesu Grist yn goron pob Creadigaeth yng Ngwaith y Cymod.

Hyd yma y mae'r Apostol ar yr un tir â'r rhagymadrodd i Efengyl Ioan, ac â rhai awgrymiadau eraill a welir yma ac acw yn y Testament Newydd. Trwyddo ef," meddai Ioan, "y gwnaethpwyd pob peth." "Trwyddo ef," meddai Paul, "y crewyd pob dim ar sydd yn y nefoedd, ac sydd ar y ddaear, yn weledig ac yn anweledig, pa un bynnag ai thronau, ai arglwyddiaethau, ai tywysogaethau, ai meddiannau, pob dim a grewyd trwyddo ef ac erddo ef." Weithian y mae yn mynd rhagddo i ddywedyd rhagor na hyn. Nid yn unig y mae creadigaeth a'i sail ar berson Mab Duw, ond hefyd yn ei waith ef fel Gwaredwr dynion y mae'r greadigaeth yn cyrraedd ei choron. "Oblegid rhyngodd bodd i'r Tad drigo o'r holl gyflawnder ynddo ef; ac wedi iddo wneuthur heddwch trwy waed ei groes ef, trwyddo ef gymodi pob peth ag ef ei hun." Cymodi pob peth" a ddywedir, nid cymodi dynion. yn unig, ond cymodi pethau; a rhag bod dim petruster fe chwanega'r Apostol: "trwyddo ef, meddaf, pa un bynnag ai pethau yn y nefoedd ai pethau ar y ddaear." Pa eisiau cymod oedd ar greadigaeth? Pa ystyr oedd i gymodi pob peth â Duw, a chymodi ar sail heddwch trwy waed y groes? Nid yw'r pethau hyn ddim yn ddeiliaid maddeuant. Yr ydym yn gweld rhyw briodolder mewn cysylltu cymodi dynion â'r groes; ond atolwg, beth sydd a fynno'r groes a chymodi natur? Y mae'n wir nad oedd ar natur ddim eisiau maddeuant; oblegid ni fedrai hi ddim pechu; ond y mae rhywbeth ynddi hithau sy'n gofyn yr un amynedd Dwyfol i ymwneud â hi ag oedd yn ofynnol i faddeu i bechadur. Y mae amherffeithrwydd mewn natur. "Ni chreodd Duw," ebe'r Dr. Brown o Fedford, "ddim yn berffaith, ond pob peth i'w berffeithio." A dyna hanes y greadigaeth, dyna'r ymddatblygu graddol sydd drwyddi oll: neshau y mae hi at fwriad y Creawdwr. Yn ol Mr. Frederick Shiller o Rydychen, athronydd heb ddim llawer o gydymdeimlad rhyngddo a Chrefydd Efengylaidd fel yr ŷm ni yn ei deall, dyna ydyw ymddatblygiad natur, Duw yn tynnu'r greadigaeth i gymod ag ef ei hun. Cymodi sy'n mynd ymlaen ym mhob man.

Ym mhellach, y mae'r cymodi yma'n beth sy'n cynnwys rhyw fath o aberth hefyd. Cof gennyf glywed John Ogwen Jones yn pregethu ar y "Gronyn Gwenith," ac yn gweld deddf y gronyn gwenith ym mhob man; ac fe wnaeth un sylw na choeliodd braidd neb mo hono ar y pryd. Da yr wyf yn cofio, er nad oeddwn ond bachgen, y collfarnu oedd ar y sylw mewn rhyw weithdy bach drannoeth. Tybied yr wyf weithian y gwyddai'r pregethwr lawn cymaint am ei bwnc a'r glaslanciau oedd yn ei feirniadu. Dyna oedd y sylw: "Beth ydyw creu wedi'r cwbl ond math o aberth?" Ond od oedd hwn yna'n ddywediad rhy gryf, os nad oedd creu ynddo'i hun yn aberth, y mae dygymod a chreadigaeth amherffaith yn dyfod i drefn ac yn ymagor i gyfeiriad ei chynllun yn aberth bid a fynno; fel nad yw'n ormod deud fod a fynno heddwch trwy waed y groes rywbeth a chymodi pethau yn gystal ag â chymodi dynion. Ni fuasai dim eisiau i Grist farw, y mae'n wir, i gymodi natur â Duw; ond yr oedd eisiau'r un dymer amyneddgar, rasol, ag a roes fodd iddo farw, i ddygymod â'r amherffaith ym mhob man. Pa wyddon a fesur byth y dioddefgarwch a ddangosodd Duw pan oedd ei ysbryd ef yn ymsymud ar wyneb y dyfroedd, i ddeor bywyd a threfn o'r tryblith? Wedi i'r ddaear ymffurfio'n blaned, gymaint o dymheru a chyweirio a fu arni—ei thempro yn y tân a'r rhew, ei llunio a'i bugeilio hi nes ei chael yn well fferm i bob tenant newydd a fu ar ei hwyneb hi hyd yma. Oedd, yr oedd eisiau amynedd tebyg i'r amynedd a wnaeth gymod ar Galfaria, i ddygymod a syrthni a marweidddra elfennau natur yn cymryd eu llunio at bwrpas eu Crewr.

Ond ar Galfaria y datguddiwyd yr amynedd yma'n llawn. Nid adnabuesid mo hono fel y mae oni buasai am Galfaria. Yr oedd y peth yn Nuw o hyd; ac felly yr oedd ei ddelw ar holl waith dwylaw Duw. Ond wrth brynu dynion y dangoswyd ef yn ei gyflawnder. Ac at hwn y mae'r Apostol yn brysio: "A chwithau, y rhai oeddych ddieithriaid a gelynion mewn meddwl trwy weithredoedd drwg, " nid oedd natur ddim felly. Nid oedd ynddi hi ddim gelyniaeth, dim tynnu'n groes i ewyllys Duw, dim ond annibendod. Fe gymerai natur fud bob triniaeth a roddid iddi, er bod y driniaeth weithiau yn lled hir cyn dwyn ffrwyth; ond am bechadur, y mae hwn yn elyn trwy weithredoedd. "A chwithau yr awrhon hefyd a gymododd efe yng nghorff ei gnawd ef trwy farwolaeth, i'ch cyflwyno chwi yn sanctaidd, ac yn ddifeius, ac yn ddiargyhoedd, ger ei fron ef." Do, fe fedrodd y cariad digyffelyb, oedd mor dirion wrth yr amherffaith yn holl waith ei ddwylaw gael ffordd i faddeu i bechadur; ac yn y drefn i faddeu y daeth i'r golwg yr hyn oedd yn bod o'r blaen, a'r hyn yr oedd rhyw eiliw o'i ddylanwad drwy'r greadigaeth oll.

"Pinacl ei fwriad oedd Pen Calfaria."

Yno y cyrhaeddodd creadigaeth ei choron. Y mae'r Oen a laddwyd yn sefyll ar Fynydd Seion, rywle tua chopa creadigaeth ei Dad, ac yn gweiddi ar y pererinion sy'n dringo'r bryn

"Draed luddedig, dowch i fyny, Ymestynnwch, ddwylaw, 'mlaen."

Ni ellir gorffen y cymodi cyffredinol nes i'r ddawn honno yn Nuw sydd yn cymodi pob peth gael ei chyfle goreu i ymddisgleirio. Y mae'r gwaith o gymodi anian yn aros heb ei gwblhau nes cymodi'r hwn oedd i fod yn arglwydd iddi, a'i gyflwyno yn ddiargyhoedd. Gellir dywedyd am alluoedd anian, fel y dywedir am saint yr hen oesoedd, eu bod hwythau heb dderbyn eu haddewidion eto, heb gyrhaeddyd eu man uchaf, heb gyflawni'r peth a osodwyd iddynt, "fel na pherffeithid hwynt hebom ninnau."

Yr ydym bellach wedi dyfod ris ymlaen o'r lle'r oeddym yn niwedd yr ail bennod. Yno gwelsom fod yr Iawn yn elfen dragwyddol yn y Duwdod. Yma gwelwn fod yr elfen hon wedi gadael ei hôl ar waith Duw mewn creadigaeth. Gwir fod rhaid cael datguddiad mawr i weld y datguddiadau is yn eu gogoniant; eithr nid yw hynny ond y peth a gawn ym mhob man wrth sylwi ar berthynas Trefn yr Efengyl â rhannau eraill o ffyrdd Duw. Dyn wedi adnabod Duw yng Nghrist yn unig a fedr ei adnabod ef yn iawn. mewn natur a Rhagluniaeth. Ond wedi cael y datguddiad mawr y mae yn goleuo pob datguddiad is. Y gwahaniaeth rhwng yr is a'r uwch a'n tery ni gyntaf, nes ymddangos o'r Efengyl yn eithriad yn llywodraeth Duw. Y syndod cyntaf yw, gymaint uwch na'i waith cyffredin yr aeth yn Nhrefn y Cadw; ond pan adnabydder y Drefn yn well, y syndod nesaf yw, mor debyg iddo'i hun, ac mor deilwng ohono'i hun ydyw Duw ym mhob man. Nid rhyw ail-feddwl yn y Duwdod ydyw gras a maddeuant trwy aberth, namyn y peth y disgwyliasech i Dduw ei wneuthur yn amgylchiad pechadur, ped adnabuasech ei gariad mawr yn fwy trwyadl. Po fwyaf a astudiom ni ar ddeddfau ei deyrnas ef, egluraf y gwelwn, mai "gweddus iddo ef, o herwydd yr hwn y mae pob peth, a thrwy'r hwn y mae pob peth, wrth ddwyn meibion lawer i ogoniant, berffeithio Tywysog eu hiechydwriaeth hwy trwy ddioddefiadau."

Nodiadau

golygu
  1. Ioan v. 17.