Atgofion am Dalysarn/Y Seiat Fawr yn Lerpwl
← Ymweliad F'ewyrth William Jones | Atgofion am Dalysarn gan Fanny Jones, Machynlleth golygwyd gan George Maitland Lloyd Davies |
Rhobat Gruffydd y Troellwr → |
Y SEIAT FAWR YN LERPWL
'RWY'N cofio fy chwaer a minnau'n cael mynd i Lerpwl un tro gyda'n tad. Cynhelid cyfarfod neu gynhadledd fawr (sef Seiat Fawr y Methodistiaid) yno y diwrnod hwnnw gan y Methodistiaid, ac yr oedd felly yn amgylchiad pwysig yng ngolwg fy nhad.
Ar y stemar a'n cludai i Lynlleifiad yr oedd hen gydymaith â'm tad-hen ŵr plaen a diymhongar. Wedi inni ddeall pwy ydoedd, nid oedd neb llai na'r hynod William Ellis, Maentwrog; ac yn ei gwmni difyr cyraeddasom ben ein taith heb yn wybod inni.
Disgwyliai dau foneddwr ar y "Pier Head" am i'r stemar ddyfod i mewn, sef Mr. David Roberts, Hope Street, a'n cefnder, William Roberts. Bu cryn ddadl ar y cwestiwn pa le 'r oedd fy nhad i letya y noson honno cydrhwng Mr. David Roberts a'n cefnder, wedi inni adael y llestr. Daliai Mr. David Roberts y dylai fy nhad letya gydag ef, gan mai gydag ef y byddai'n arferol â gwneud bob tro y byddai yn y dref, tra daliai ein cefnder mai yn ei dŷ yr oedd ei le, fel ei ewythr. Ni chymerai fy nhad yr un rhan yn y ddadl, ac wedi iddynt ddweud eu rhan ar bob ochr dywedodd fy nhad, "Wel, pa le bynnag y byddaf fi'n aros, mae'n rhaid imi gael yr hen frawd yma gyda mi," gan gyfeirio at yr hen William Ellis. Fodd bynnag, terfynwyd y ddadl drwy i 'nhad a William Ellis fyned gyda Mr. D. Roberts, a'm chwaer a minnau gyda'n cefnder. Daeth bore'r Seiat Fawr, ac yr oedd adeilad o dan ei sang. Os wyf yn cofio'n iawn, cynhelid y Seiat yn yr "Hengler's Circus." Eisteddai'r hen enwogion annwyl ar yr esgynlawr—enwogion sydd wedi myned i'w Cartref gogoneddus ers blynyddoedd bellach.
Eisteddai William Ellis ar y gadair y tu ôl i'r gadair yr eisteddai fy nhad arni; ac wedi agor y cyfarfod drwy i ddau neu dri ddweud gair, gofynnwyd am air gan William Ellis gan un o'r gweinidogion. Ond gwrthododd; ac er gofyn eilwaith gwrthod a wnaeth. Fodd bynnag, daeth Roger Edwards, 'rwy'n meddwl, at fy nhad, a dywedodd, John Jones, gofynnwch chwi iddo." Ac fe droes fy nhad ei ben yn ôl ac edrychodd yn y fath fodd fel yr ufuddhaodd ar unwaith. "William Ellis, codwch i ddweud gair ar gais y brodyr yma."
Wele'r hen ŵr i fyny, â'i ffon yn ei law, gyda golwg hen-ffasiwn arno. "Dowch ymlaen yma," ebe fy nhad. Daeth, a safodd yn ymyl ei gadair, a dywedodd, "Wn i ddim beth i'w ddweud mewn lle fel hyn." Yna daeth llef oddi ar yr oriel, "Uwch, uwch." Yna dechreuodd yn gliriach. "Wn i ddim. beth i'w ddweud mewn lle fel hyn. Y mae golwg urddasol a boneddigaidd iawn arnoch i gyd yma. Peth gwahanol iawn i'r hyn a welir yn y wlad acw. Y mae yn ymyl fy nghartref i foneddiges urddasol iawn yn trigiannu, ac yr ydym ein dau yn bur gyfeillgar; a phan fyddwn yn cyfarfod ar y ffordd, ymgomiwn yn gyfeillgar iawn. Ond weithiau bydd boneddigesau eraill ar ymweliad â hi, a phan welaf hi y pryd hynny ni fyddaf yn cymryd un sylw ohoni mwy na thynnu fy het iddi a'i phasio. Felly, foneddigion, teimlaf yn anghymwys i'ch annerch chwi yma heddiw. Yr ydych yn edrych yn foneddigaidd iawn, gyda golwg urddasol arnoch."
Teyrnasai distawrwydd, ac ymhen ychydig cododd ei olygon i fyny drachefn gan ddywedyd, "Ie, ie; ond wyddoch chwi, frodyr a chwiorydd annwyl, nid yw hynyna ond gwahaniaeth yn ein hallanolion.' A dyma ddechrau mynd i hwyl wedyn:
Rhaid cael yr un Drefn i gadw pob un ohonom. Nid oes un ffordd mwy respectable i'ch cadw chwi, foneddigion, nag i gadw'r hen William Ellis. Ie, yr un Gwaed raid ei gael i'n golchi, yr un Aberth, yr un Iawn. 'Does yr un arall i'w gael, nac angen amdano ychwaith.
Wedi hyn nid oedd yn bosibl clywed yr un gair a ddywedai mwyach, gan y boddid ei lais gan yr Amenau o bob man; a'r gynulleidfa yn ysgwyd fel cae gwenith o flaen y gwynt. Wylai Mr. Rees fel baban, tra mwynhâi ac anwylai fy nhad ei hen gyfaill. Yr oedd yr olygfa yn wir ogoneddus, ac yr oedd y gynulleidfa wedi ei llanw ar yr olwg a gawsai ar ogoniant trefn achub pechadur.