Branwen Ferch Llŷr (Tegla)/Dial cam Branwen

Branwen a'r aderyn drudwen Branwen Ferch Llŷr (Tegla)

gan Edward Tegla Davies

Y Dinistr Mawr

Dial cam Branwen.

AWN yn awr at hynt Bendigaid Fran i Iwerddon i ddial cam Branwen ei chwaer. Hwyliodd ef a'i wŷr i Iwerddon. A dyna i chwi ddarn o'r stori sy'n awgrymu ei bod yn hen iawn, oherwydd sonnir am yr adeg pan nad ydoedd y môr mawr wedi gwahanu cymaint ar Brydain ac Iwerddon ag y mae erbyn hyn. A chan nad ydoedd y dwfr yn fawr a dwfn daeth Bran a'i wŷr yn fuan i ddwfr bas. Nid oedd ond dwy afon, meddir yno,—Lli ac Archan. Wedi hynny y daeth y môr rhwng y ddwy ynys fel y mae heddyw. Cerddodd Bendigaid Fran â'i gerddorion ar ei gefn nes cyrraedd Iwerddon. Beth a feddylir wrth ei gerddorion? Dyna'r sail dros ddywedyd bod Bran yn ôl syniad yr hen

"Coed a welsom ar y môr yn y lle na welsom erioed un pren."





Gymry amdano yn dduw'r cerddorion,— mai iddo ef yr aberthent pan fyddent eisiau help i ganu, ac mai ef a'u hysbrydolai i'r gwaith. Cerdded drosodd i Iwerddon a wnaeth ef, a'i wŷr mewn llongau ar ei ôl. A deuwn yn y man at wrhydri arall ddengys fod olion yr hen syniad amdano fel duw yn glynu wrth y traddodiad amdano o hyd.

Yr oedd gweision moch Matholwch ar y lan, ac yn ei wylio. Rhedasant at Fatholwch,—

"Arglwydd," ebe hwy, "henffych well."

"Duw a roddo dda i chwi," eb ef, "pa chwedlau sydd gennych? "

"Arglwydd," ebe hwy, "y mae gennym ni chwedlau rhyfedd,—coed a welsom ar y môr yn y lle na welsom erioed un pren."

"Dyna beth rhyfeddol," eb ef, "oni welsoch chwi ddim ond hynny?"

"Gwelem, arglwydd," ebe hwy, "fynydd mawr gerllaw y coed, a hwnnw ar gerdded. A rhan uchel iawn i'r mynydd, a llyn o bob ochr iddi, a'r coed a'r mynydd a phopeth o hynny oll ar gerdded."

"Ie," ebe Matholwch, "nid oes neb yma a wypo ddim amdanynt onis gŵyr Branwen, gofynnwch iddi hi."

Anfonwyd cenhadau ar eu hunion at Franwen,—

"Arglwyddes," ebe hwy, "beth debygi di yw hynny?"

"Gwŷr Ynys y Cedyrn," ebe Branwen, "yn dyfod drwodd wedi clywed am fy mhoen i a'm hamarch."

"Beth yw'r coed a welid ar y môr?" ebe hwy.

"Gwernenau llongau a hwylbrenni," ebe hi.

"Och," ebe hwy, "beth oedd y mynydd a welid wrth ystlys y llongau?"

"Bendigaid Fran fy mrawd oedd hwnnw," ebe hi. "Nid oedd long y medrai ef fynd iddi."

"Beth oedd y rhan aruchel a'r llyn ar bob ochr?" ebe hwy.

"Ef yn edrych ar yr ynys hon," ebe hi, "canys llidiog yw. Ei ddau lygad ef o bob ochr i'w drwyn yw'r ddau lyn ar ochrau'r mynydd."

Gwelwch mor fawr oedd Bendigaid Fran, dyna un o'r awgrymiadau amlycaf mai stori am hen dduw ydyw'r stori amdano. A duw perygl iawn i'w ddigio.

Dyna a ddisgwyliech oddiwrth dduw gwlad y tywyllwch.

Wedi clywed am ei ddyfod aed ati ar unwaith i gasglu holl filwyr Iwerddon ynghyd, a'r holl benaethiaid môr, a chymryd cyngor.

"Arglwydd," ebe gwŷr Matholwch. wrtho, "nid oes gyngor ond cilio drwy Linon—afon yn Iwerddon oedd Llinon—a gadael Llinon rhyngot ag ef, a thorri'r bont sydd ar yr afon. A meini sugn sydd yng ngwaelod yr afon, ac ni all na llong na llestr ddal arni."

Cymerodd Matholwch y cyngor, ciliodd pawb tros yr afon, a thorrwyd y bont. Daeth Bendigaid Fran i'r tir, a'i lynges gydag ef at lan yr afon. "Arglwydd," eb ei wŷr wrtho, "gwyddost gymeriad yr

"Myfi a fyddaf bont."





afon, ni all neb fynd drwyddi. Nid oes bont arni chwaith. Beth yw dy gyngor ynghylch pont?"

"Nid oes gennyf gyngor," eb yntau, "ond a fo ben bid bont. Myfi a fyddaf bont."

A dyma'r adeg gyntaf, meddir, y dywedwyd yr hen ddihareb, "a fo ben bid bont." Tebyg yw ei hystyr i eiriau hysbys Iesu Grist, "Pwy bynnag ohonoch a fynno fod yn bennaf, bydded was i bawb."

Yna gorweddodd Bendigaid Fran fel pont ar draws yr afon, ac wedi bwrw clwydau drosto, cerddodd ei filwyr drosto i'r ochr arall.

Cyn gynted ag iddo ef godi dyma genhadau Matholwch yn dyfod ato ac yn cyfarch gwell iddo. Credent, y mae'n debygol, mai dyna oedd oreu iddynt. Mynegwyd iddo na ddymunai Matholwch ddim ond da i fod rhyngddynt," Ac y mae Matholwch," ebe hwy, "yn rhoddi brenhiniaeth Iwerddon i Wern fab Matholwch,—dy nai dithau fab dy chwaer. A hynny yn dy wydd di, yn lle'r diraddio a fu ar Franwen. Ac yn y lle mynni di, yma neu yn Ynys y Cedyrn, y gorymdeithia Matholwch."

Dyna i chwi ildio gwasaidd, onide? Dengys popeth mai gŵr gwan, llwfr, oedd Matholwch.

Ond ni dderbyniai Bendigaid Fran ei gynnyg,—

"Ie," eb ef, "oni allaf i fy hun gael y frenhiniaeth ni wrandawaf arnoch. Hyd oni ddel amgen cenadwri ni chewch ateb gennyf i."

Addawsant fynd at Fatholwch am well cynnyg. Aethant a gosodasant y peth ger ei fron.

"Ha, wŷr," ebe Matholwch, "beth yw eich cyngor chwi?"

"Arglwydd," ebe hwy, "nid oes ond un cyngor. Ni thrigodd ef erioed mewn tŷ. Gwna dŷ, iddo ef a gwŷr Ynys y Cedyrn drigo yn y naill ran ohono, a thithau a'th lu yn y rhan arall, a dyro dy frenhiniaeth yn ôl ei ewyllys, ac ymostwng iddo. Ac am yr anrhydedd o wneuthur y tŷ iddo, peth nas cafodd erioed i drigo ynddo, ef a dangnefedda à thi."

Aeth y cenhadau â'r genadwri honno at Fendigaid Fran, a chymerodd yntau gyngor. Penderfynwyd derbyn cynnyg Matholwch. Cyngor Branwen iddo a'i cymhellodd i'w dderbyn, rhag i ryfel ddinistrio'r wlad.

Adeiladwyd y tŷ yn fawr ac yn braff, ar unwaith. Ond yr oedd dichell yng nghalonnau'r Gwyddyl. Beth a wnaethant ond dodi bach bob ochr i bob colofn o'r can colofn a ddaliai'r tŷ i fyny, a dodi cwd croen ar bob bach, a gŵr arfog wedi ei guddio ymhob un ohonynt.

Yn awr deuwn ar draws Efnisien unwaith yn rhagor. Pwy a ddaeth i mewn i'r tŷ newydd ond ef, o flaen gwŷr Ynys y Cedyrn, ac edrych ar hyd y tŷ, â golygon gorwyllt annhrugarog. A gwelodd y cydau crwyn a hongiai ar hyd y pyst.

"Beth sydd yn y cwd hwn?" eb ef wrth un o'r Gwyddyl.

"Blawd, enaid," eb ef.

Teimlodd Efnisien y cwd nes clywed pen y gŵr, a—dyma i chwi beth ofnadwy— gwasgodd y pen nes bod ei fysedd yn cyfarfod â'i gilydd drwy'r asgwrn. Fel y dywedasom ar y dechreu, nid dyn oedd Efnisien ond duw,—duw casineb a llid. Ni fuasai unrhyw ddyn yn ddigon cryf i'r gwaith hwn.

Yna aeth at gwd arall a gofynnodd beth oedd ynddo,—

"Blawd," ebe'r Gwyddyl.

Gwnaeth yntau yr un peth â hwnnw, â'r holl ddau gant ond un. Daeth at yr olaf,―

'Beth yw hwn?" eb ef.

"Blawd, enaid," ebe'r Gwyddyl.

Teimlodd arfau am ei ben, ond gwasgodd drwyddynt nes lladd hwn fel y gweddill.

A diweddodd Efnisien y gwaith drwy ganu englyn iddynt.

Nodiadau

golygu