Branwen Ferch Llŷr (Tegla)/Branwen a'r aderyn drudwen

Hanes y Pair Branwen Ferch Llŷr (Tegla)

gan Edward Tegla Davies

Dial cam Branwen

Branwen a'r aderyn drudwen.

PARHAODD y wledd a'r ymgomio trwy'r nos honno, nes i bob un fynd yn swrth yn ei dro, a syrthio i gysgu. Wedi i'r wledd fynd drosodd, cychwynnodd Matholwch a Branwen am Iwerddon. O Aber Menai y cychwynasant am Iwerddon, mewn tair llong ar ddeg.

Pan gyraeddasant ben eu taith, bu llawenydd mawr dros ben, a Branwen yn anrhegu pawb a ddeuai i edrych amdani. Ni ddeuai neb yno na roddai hi rywbeth neu'i gilydd iddo,-breichled, neu fodrwy, neu deyrndlws uchelbris. A mawr ei pharch oedd hi yn eu mysg y flwyddyn honno,— cynhyddu a wnai ei chlod a'i chyfeillion beunydd. Ganed mab bach iddi, ac enwodd ef yn Gwern fab Matholwch. A rhoddwyd Gwern i'w fagu yn y lle goreu yn Iwerddon.

Yn yr ail flwyddyn o'i bywyd yn Iwerddon, dechreuodd rhywun ail godi helynt ynghylch yr hen waradwydd a gawsai Matholwch yng Nghymru pan wnaeth Efnisien y fath ddirmyg ar ei feirch. A llwyddwyd i ennyn llid ei berthynasau yn ei erbyn, fel na chai Matholwch lonydd ganddynt, nes caniatau iddynt ddial am y sarhad a roddwyd arno, er bod popeth wedi ei dawelu unwaith. Y mae'n rhaid bod Matholwch ei hun braidd yn feddal i ildio fel hyn i bawb. A'r dial a wnaethant oedd gyrru Branwen oddiwrtho, a'i gorfodi i bobi yn y llys, a pheri i'r cigydd, wedi iddo fod yn torri'r cig, ddyfod a rhoddi bonclust iddi beunydd. Ac felly y gwnaethpwyd ei phoen. Aethant ymhellach na hynny,—

"Ie, arglwydd," ebe gwŷr Matholwch wrtho, "pâr weithian wahodd y llongau a'r ysgraffau, a'r corigau, fel nad êl neb i Gymru; a'r sawl a ddêl yma o Gymru, carchara hwynt, fel nad elont drachefn, rhag i bobl Cymru wybod hyn."

Ac felly y bu pethau am dair blynedd. Ond tarawodd Branwen ar gynllun i anfon gwybodaeth am y driniaeth a gawsai, i'w brawd Bendigaid Fran. Hawdd yw credu bod un fel hi yn annwyl iawn hyd yn oed gan adar. Beth mwy cymwys nag aderyn i gario negesau dros dduwies cariad a phrydferthwch? Magodd aderyn drudwen neu aderyn yr eira fel y gelwir ef gan rai ohonoch. Safai'r aderyn ar ymyl y noe—y badell bobi—i'w gwylio'n pobi, a dysgodd Branwen iaith iddo. Mynegodd i'r aderyn pa fath ar ŵr oedd ei brawd, ac ysgrifennodd lythyr am y poeni a'r amherchi oedd arni. Rhwymodd y llythyr am fôn adenydd yr aderyn, ac anfonodd ef tua Chymru. Daeth yr aderyn drosodd i Brydain, a daeth o hyd i Fendigaid Fran yng Nghaer Saint yn Arfon. Disgynnodd ar ei ysgwydd ac ysgydwodd ei blu nes gweld ohono'r llythyr, ac adnabu drwy hynny feithrin o rywun yr aderyn yn ddof.

Cymerodd Bendigaid Fran y llythyr, a'i edrych, a phan ddarllennodd ef ymboenodd yn fawr oherwydd cyflwr Branwen, a dechreuodd ar ei union anfon cenhadau i gynnull yr ynys hon ynghyd. Yna parodd ddyfod ato wŷr pedair gwlad a saith ugain, a hysbysodd hwynt o'r boen a roddai pobl Iwerddon i'w chwaer. Wedi ymgynghori penderfynwyd mynd i Iwerddon, a gadael seithwyr ar ôl i ofalu am yr ynys hon, a Charadog fab Bran yn bennaf arnynt. Yn Edeyrnion y gadawyd y gwŷr hyn. Y dyffryn lle y saif Corwen arno yn awr yw Edeyrnion. Enwau'r gwŷr a adawyd ar ôl oedd Caradog fab Bran, Efeydd Hir, Unig Glew Ysgwydd, Iddig fab Anarawg Walltgrwn, Ffodor fab Erfyll, Wlch Minasgwrn, Llasar fab Llaesar Llaesysgwydd, a Phendaran Dyfed. Dyna i chwi enwau digon praff i godi ofn ar unrhyw un. Gwas ieuanc iddynt oedd Pendaran Dyfed. I'r saith hyn yr ymddiriedwyd y gwaith o ofalu am yr ynys hon yn absenoldeb Bendigaid Fran, a Charadog fab Bran yn ben goruchwyliwr arnynt.

Nodiadau

golygu