Branwen Ferch Llŷr (Tegla)/Hanes y Pair
← Yr iawn a dalwyd | Branwen Ferch Llŷr (Tegla) gan Edward Tegla Davies |
Branwen a'r aderyn drudwen → |
Hanes y Pair.
YR oedd y pair rhyfedd yn achos dyryswch mawr i Fatholwch. A'r ail nos wedi ei ddychwelyd holodd Fendigaid Fran yn ei gylch.
"Arglwydd," eb ef, "o ble y daeth iti y pair a roddaist i mi?"
Dengys atebiad Bendigaid Fran fod cysylltiad rhwng hen grefydd y Cymry a hen grefydd Iwerddon, mai'r un duwiau a addolent gynt, ac mai'r un rhai oedd eu harferion crefyddol. Ac ni ellir esbonio'r gŵr a'r wraig rhyfedd y sonnir amdanynt yma gan Fendigaid Fran ond drwy ddywedyd mai darn o hen stori am helynt y duwiau wedi dyfod i mewn i'r stori hon yn y fan yma mewn rhyw ffordd neu'i gilydd ydyw. Ni buasai plentyn bach yn tyfu'n gawr mewn pythefnos a mis fel yr un y sonnir amdano yma, yn unman ond ym myd y duwiau.
Dyma ateb Bendigaid Fran,—
"Daeth y pair i mi," eb ef, "oddiwrth ŵr a fu yn dy wlad di, ond ni wn ai yno y cafodd ef."
"Pwy oedd hwnnw?" ebe Matholwch.
"Llasar Llaesgyfnewid," ebe Bendigaid Fran. "Daeth hwnnw yma o Iwerddon, a Chymidau Cymeinfoll ei wraig gydag ef. Diangasant o'r tŷ haearn yn Iwerddon pan wnaethpwyd ef yn wynias o'u cylch, ac y mae'n syndod i mi oni wyddost ti ddim am hynny."
"A mi a welwn ŵr melyngoch mawr yn dyfod o'r llyn."
"Gwn, arglwydd," ebe Matholwch,
"a mynegaf iti gymaint ag a wn. Yn
hela yr oeddwn ryw ddiwrnod yn Iwerddon
ar ben gorsedd a oedd uwch ben llyn
yn Iwerddon. A Llyn y Pair y gelwid ef.
A mi a welwn ŵr melyngoch mawr yn
dyfod o'r llyn, a phair ar ei gefn, gŵr
mawr aruthrol å drygwaith erchyll arno
oedd; a gwraig ar ei ôl. Ac os oedd ef
fawr, mwy ddwywaith oedd y wraig nag
ef. A chyrchu ataf a wnaethant a chyfarch
gwell i mi."
"Ie, ebe fi,' ebe Matholwch, "pa gerdded sydd arnoch chwi?'"
"Dyma'r fath gerdded sydd arnom ni, arglwydd," eb ef. "Ymhen pythefnos a mis caiff y wraig hon fab bach, ac ymhen pythefnos a mis wedyn y bydd yn ŵr ymladd llawn arfau."
"Cymerais arnaf y cyfrifoldeb o'u cadw," ebe Matholwch, "a buont flwyddyn gyda mi, ac o fewn y flwyddyn cefais hwynt yn ddiwarafun. O hynny allan y gwarafunwyd hwynt i mi. A chyn pen y pedwerydd mis hwynt eu hunain a barodd eu cashau yn y wlad am eu drygau, —blino'n enbyd y gwyrda a'r gwragedd da O hynny allan cynhullodd fy mhobl i erchi i mi ymadael â hwy, a rhoddi dewis i mi rhwng fy nheyrnas a hwy. Dodais innau ar gyngor fy ngwlad beth a wnelid yn eu cylch. Nid aent o'u bodd ac ni ellid eu eu gyrru o'u hanfodd trwy ryfel. Ac yn y cyfyng gyngor hwnnw y dechreuasant wneuthur ystafell haearn oll. Ac wedi i'r ystafell fod yn barod cyrchu pob gof yn Iwerddon yno a oedd yn berchen gefail a morthwyl, a pheri gosod glo cyfuwch â chrib yr ystafell, a pheri rhoddi'n ddiwall fwyd a llyn i'r wraig a'i gŵr a'i phlant. A phan wybuwyd eu meddwl hwynt y dechreuwyd cymysgu'r tân a'r glo am ben yr ystafell a chwythu'r meginau, nes bod y tŷ yn wyn am eu pen. Ac yna y bu cyngor ganddynt ar ganol llawr yr ystafell, ac arhosodd ef nes bod haearn y muriau'n wyn. Ac o herwydd y gwres dirfawr y disgynnodd yr ochr ar ei ysgwydd a'i daro allan, ac ar ei ôl yntau ei wraig, a neb ni ddihangodd oddiyno ond ef ei hun a'i wraig. Ac yno mi debygaf, arglwydd," ebe Matholwch wrth Fendigaid Fran, " y daeth ef drosodd atat ti."
"Yna'n ddiau," eb yntau, "y daeth yma ac a roddes y pair i minnau."
"Pa fodd, arglwydd, y derbyniaist ti hwynt hwy?" ebe Matholwch.
"Eu rhannu hwy a'u teulu ymhob lle yn fy nheyrnas, ac y maent yn lluosog, ac yn dyrchafu ymhob lle, ac yn cadarnhau yn y man y bônt yn wŷr ac arfau goreu a welodd neb."
Beth a wnawn ni o ryw stori fel hyn am y gŵr a'r wraig fawr a ddaeth o Iwerddon i'r wlad yma? Yn yr hen fyd ymdrech pob llwyth o bobl oedd olrhain o ble y tarddodd. Ac y mae eu hatebion yn rhyfedd iawn. Dywedai rhai mai o'r arth y tarddasant, eraill mai o'r mochyn, ac eraill o greaduriaid eraill, a hwyrach mai ymdrech yw'r stori hon i esbonio dyfodiad rhyw bobl fawr a chryfion a ddaeth i Gymry o gyfeiriad y môr. A chredid na allai pobl mor rymus lai na bod wedi gorchfygu hyd yn oed tân ei hun ymysg eu buddugoliaethau eraill. A hwyrach mai hanes gwrhydri rhyw hen dduw yw'r cwbl, ac y credai rhyw bobl mai o'r duw hwnnw y tarddasant, ond bod y gwir esboniad wedi ei golli.