Branwen Ferch Llŷr (Tegla)/Yr iawn a dalwyd
← Llid Efnisien | Branwen Ferch Llŷr (Tegla) gan Edward Tegla Davies |
Hanes y Pair → |
Yr iawn a dalwyd.
ACHOSODD hyn gynnwrf mawr yn llys Bendigaid Fran. Daeth y newydd iddo fod Matholwch yn gadael y llys yn hollol ddirybudd, a heb ofyn am ganiatad. Yr oedd Bendigaid Fran wedi ei syfrdanu. Anfonodd ar ei union genhadau i ofyn iddo paham yr oedd yn gwneuthur hynny. Enwau'r cenhadau oedd Iddig fab Anarawc ac Efeydd Hir. Daethant o hyd iddo yn y man, a gofynasant iddo beth oedd ei amcan yn gwneuthur hyn, ac am ba achos yr oedd yn mynd ymaith mor sydyn.
"Yn wir," ebe Matholwch, "pe gwypwn cyn cychwyn oddicartref beth a ddigwyddai ni ddeuwn yma. Cwbl waradwydd a gefais,—ni chafodd neb daith waeth na'r un a gefais i. A rhyfeddod i mi yw un digwyddiad."
"Beth yw hynny?" ebe hwynt.
"Roddi Branwen ferch Llŷr, trydedd prif riain yr ynys hon, ac yn ferch i frenin Ynys y Cedyrn, yn wraig i mi, ac wedi hynny fy ngwaradwyddo. A rhyfedd oedd. gennyf nad cyn rhoddi morwyn cystal â honno i mi y gwneid y gwaradwydd a wnaed â mi."
Dyna oedd syndod Matholwch, os oeddynt am ei waradwyddo, beth oedd eu hamcan yn rhoddi un mor annwyl â Branwen yn wraig iddo yn gyntaf. Paham na buasent yn ei waradwyddo cyn ei rhoddi hi yn wraig iddo, buasai rhyw reswm yn hynny. Canys parai eu gwaith yn ei waradwyddo ef boen iddi hithau.
Dechreuodd Iddig ac Efeydd am- ddiffyn pobl y llys,—
"Yn sicr, arglwydd," ebe hwy, "nid o fodd neb o'r llys na neb o gyngor y brenin y gwnaethpwyd y gwaradwydd hwn iti. Ac er maint y gwaradwydd yn dy olwg di, mwy o lawer yng ngolwg Bendigaid Fran yw'r dirmyg hwnnw a'r gwarth."
"Mi a goeliaf hynny yn hawdd," ebe Matholwch, "er hynny ni all byth dynnu'r gwaradwydd hwn oddiarnaf i."
Nid oedd gan Iddig ac Efeydd ddim i'w ddywedyd yn wyneb hyn. Mynd yn ôl a wnaethant â'r ateb hwnnw i Fendigaid Fran, a mynegi iddo bopeth a ddywedodd Matholwch wrthynt.
Nid oedd yn beth priodol o gwbl ganiatau i Fatholwch adael y llys fel hyn.
Ni wyddai neb sut y terfynai pethau. Hwyrach mai dychwelyd a wnai i ryfela yn erbyn y brenin. Ac nid oedd yn deg chwaith ag ef beidio ag ymdrechu symud y sarhad di-achos hwn oddiarno. Methai'r brenin â gwybod beth i'w wneuthur.
"Arglwydd," eb un o'r ddau gennad wrtho, "anfon eto genhadau ar ei ôl."
"Anfonaf," eb yntau, eb yntau, "Cyfodwch, Fanawyddan fab Llŷr, ac Efeydd Hir, ac Unig Glew Ysgwydd, ac ewch ar ei ôl, a mynegwch iddo ef y caiff farch iach am bob un a lygrwyd. A chyda hynny y caiff yn wynebwarth wynebwarth (iawn) lathau (gwialennau) arian cyn lleted a chyhyd ag ef ei hun, a chlawr aur cyfled â'i wyneb. A mynegwch iddo pa ryw ŵr a wnaeth hynny, ac mai o'm hanfodd innau y gwnaethpwyd hynny, ac mai brawd unfam â mi a wnaeth hynny. Ac nad hawdd gennyf innau na'i ladd na'i ddifetha. Deued Matholwch i ymweled â mi, ac mi a wnaf gytundeb tangnefedd rhyngof i ag ef yn y modd y dymuna ef."
Aeth y tri chennad ar ôl Matholwch. Gadawyd Iddig fab Anarawc ar ôl am ryw reswm neu'i gilydd. Mynegasant i Fatholwch mor garedig ag y medrent yr hyn a ddywedodd Bendigaid Fran, a gwrandawodd yntau arnynt.
Galwodd Matholwch ei wŷr ynghyd ac ymgynghorodd â hwy. Meddyliasant rhyngddynt â'i gilydd pe gwrthodent y telerau, bod yn debycach iddynt gael mwy o gywilydd fyth na chael cymaint iawn ag a gynhygid. Penderfynasant dderbyn y telerau, a daethant yn ôl yn dangnefeddus i lys Bendigaid Fran.
Wedi trefnu popeth yn briodol aethant i fwyta. A dechreuodd Matholwch a Fran ymddiddan. Sylwodd Bendigaid Fran mai mewn modd trist ac araf yr ymddiddanai Matholwch, ac nid yn llawen fel o'r blaen. A meddyliodd mai trist ydoedd am fod swm yr iawn a gynhygid iddo yn rhy fach yn ei olwg.
"Nid wyt cystal ymddiddanwr heno ag arfer," ebe Bran wrtho. "Os rhy fach yw'r iawn, ti a gei ychwaneg ato, fel y mynni dy hun. A thalaf yn ôl yfory iti dy feirch."
"Arglwydd, Duw a dalo iti," ebe Matholwch.
Sylwch yn fanwl beth a ddywed Bendigaid Fran wrtho yn awr,—
"Mi a roddaf fwy o iawn iti hefyd," ebe Bendigaid Fran, "mi a roddaf bair iti. A dyma rinwedd y pair, y gŵr a ladder heddyw, iti ei fwrw i'r pair, ac erbyn yfory bydd yn gystal ag y bu oreu, eithr na bydd lleferydd ganddo."
Beth oedd y pair neu'r llestr hwn? Dyma beth arall sy'n dangos mai hen dduw oedd Bendigaid Fran. Yr oedd traddodiad am bair rhyfedd yn hen grefydd y Cymry. Anodd yw gwybod yn awr beth ydoedd. Meddylid amdano weithiau fel cwpan. Dyna i chwi gwpan Taliesin, os yfai neb ohono âi'n fardd. Dyna bair Ceridwen hefyd, berwi dwfr ysbrydoliaeth oedd hwnnw, ac os yfech ohono medrech weled y dyfodol heblaw bod galluoedd rhyfedd eraill yn dyfod yn eiddo i chwi. A dyma bair yma a fedrai godi'r marw'n fyw. Rhyw lestr ydoedd a berthynai i'r gwaith o addoli'r hen dduwiau. Ar y traddodiadau hyn y sylfaenwyd rhamant swynol y Sancreal. A wyddoch rywbeth am honno?
Diolchodd Matholwch i Fendigaid Fran am ei gynnyg, a llawenhaodd yn fawr iawn o achos y peth. A thrannoeth talwyd ei feirch iddo, meddir, tra y parhaodd meirch dof, yna aethpwyd i gwmwd arall i ddal ebolion i dalu'r rheiny iddo, nes talu'r cwbl o'r ddyled. Am hynny dodwyd ar y cwmwd hwnnw, o hynny allan, yr enw Tal Ebolion. Dyna esboniad yr hen stori ar yr enw hwnnw. Eithr y mae'n bosibl y dargenfydd un ohonoch mai ymdrech yw'r darn hwn i esbonio enw lle na wyddai neb beth ydoedd ei ystyr. A'r pair hwn fu achos dinistr Bendigaid Fran, yn y diwedd.