Branwen Ferch Llŷr (Tegla)/Llid Efnisien
← Matholwch yn dyfod i Gymru | Branwen Ferch Llŷr (Tegla) gan Edward Tegla Davies |
Yr iawn a dalwyd → |
Llid Efnisien.
O'R diwedd dyna ddechreu ar y wledd briodas yn Aberffraw. Ac yma cewch awgrym nad dyn a brenin oedd Bendigaid Fran i ddechreu, ond duw. Ni chynhaliwyd y wledd mewn tŷ o gwbl, ond mewn pebyll. Ni allai Bendigaid Fran fynd i'r un tŷ,—yr oedd yn rhy fawr i'r un tŷ ei gynnwys. Dyna ddangos i chwi fod rhai o'i nodweddion pan edrychid arno fel duw yn glynu wrtho o hyd. Cewch weled rhai eraill tebyg cyn bo hir. Fel hyn yr eisteddent, meddir, wrth fwrdd y wledd, Bendigaid Fran brenin Ynys y Cedyrn, a Manawyddan fab Llŷr, ar un tu, a Matholwch brenin Iwerddon ar y tu arall, a Branwen yn ei ochr. Dal i fwyta ac yfed ac ymddiddan, yn ddi-reol, a wnaethant yn hir, nes i'r ymddiddan arafu, a hwythau deimlo'n drymllyd. Yna aethant i gysgu.
Ond ni allech ddisgwyl hyfrydwch fel hyn yn hir ag Efnisien—duw casineb a llid—yn y wlad. Ennyn casineb a llid a dinistrio cariad oedd ei waith ef. Brwydr rhwng Efnisien a Branwen yw'r frwydr fawr ymhob oes,—Efnisien yn ceisio dinistrio cysur Branwen, a Branwen yn ceisio lladd dylanwad Efnisien. Brwydr rhwng cas a chariad yw hanes ein byd ni. Pa un ai Efnisien ynteu Branwen a orchfyga yn y diwedd, tybed?
Cyfododd pawb o bobl y llys, drannoeth y wledd, a dechreuodd y swyddwyr ar y gwaith mawr o rannu'r meirch a'r gweision, a'u rhannu a wnaethant o'r diwedd— ac yr oedd llawer ohonynt—ymhob cyfeiriad hyd y môr. Pwy a ddaeth heibio un o'r dyddiau hyn ond Efnisien, ac aeth i lety meirch Matholwch. Ei neges fawr oedd taro ar gynllun i ddinistrio cariad Matholwch a Branwen.
"Pwy biau'r meirch hyn?" eb ef.
"Matholwch, brenin Iwerddon," ebe'r gwŷr wrtho.
"Beth a wnant hwy yma?" eb ef.
"Yma y mae brenin Iwerddon," ebe hwy, "a briododd Franwen dy chwaer, a'i feirch ef yw'r rhai hyn."
"Ac felly y gwnaethant hwy a morwyn cystal â honno," eb Efnisien, ac yn chwaer i minnau? Ei rhoddi heb fy nghaniatad i? Ni allent hwy ddirmygu mwy arnaf i na hynny."
"Pwy biau'r meirch hyn?"
Ac ar hynny gwanu dan y meirch,
a thorri eu gweflau wrth eu dannedd, a'u
clustiau wrth eu pennau, a'u rhawn wrth
eu cefnau, a'r lle ni chaffai graff ar yr
amrannau y torrai hwy wrth yr asgwrn,
a gwneuthur anffurf ar y meirch felly,
hyd nad oeddynt o ddim gwerth.
Dyna ffordd Efnisien o fwrw ei lid, am na ofynnwyd ei ganiatad ef i roddi Branwen i Fatholwch. A gallasech feddwl mai ef fuasai'r olaf i unrhyw un fynd ato i ofyn am ei ganiatad ym myd cariad.
Llwyddodd yn ei gais i ddinistrio'r dedwyddwch. Daeth y newydd at Fatholwch ynghylch anffurfio'r meirch, a'u difetha, fel nad oeddynt yn dda i ddim mwy.
Ymysg gwŷr Matholwch yr oedd un a ddylai fod yn perthyn i Efnisien, canys rhoddodd yr esboniad gwaethaf yn bosibl ar y digwyddiad, ac awgrymodd fod Bendigaid Fran a Branwen a phawb yn y cynllun o ddinistrio'r ceffylau.
"Arglwydd," ebe hwn wrth Fatholwch, "dy waradwyddo di a wnaethpwyd, a hynny yw eu hamcan."
"Yn sicr ddigon," ebe Matholwch, "rhyfedd yw gennyf, os fy ngwaradwyddo a fynnent, iddynt roddi i mi'n wraig forwyn o deulu mor uchel a chyn anwyled gan ei chenedl ag a roddasant i mi."
"Arglwydd," eb un arall o'i wŷr, "y mae'n hollol glir mai hyn yw eu hamcan, ac nid oes dim iti i'w wneuthur ond cyrchu dy longau."
Credodd Matholwch stori ei wŷr heb ymholi dim ymhellach. Fel arall y gallasech ddisgwyl i ddyn teg wneuthur. A gorchymyn ei longau a wnaeth, i fynd adref.