Branwen Ferch Llŷr (Tegla)/Matholwch yn dyfod i Gymru
← Brodyr Branwen | Branwen Ferch Llŷr (Tegla) gan Edward Tegla Davies |
Llid Efnisien → |
Matholwch yn dyfod i Gymru.
RHWNG Cymru ac Iwerddon y mae gwrhydri'r bodau hyn. Yr oedd rhyw ddirgelwch mawr bob amser ynglŷn ag ynysoedd y môr. Credid mai iddynt hwy yr âi pobl ar ôl marw, ac mai ynddynt hwy y trigai llawer o'r duwiau, fel nad oes ryfedd yn y byd fod â wnelo'r stori gymaint ag Ynys Iwerddon ac Ynys Fôn.
Bran neu Bendigaid Fran yw'r hwn a ellir ei alw yn arwr yr hanes, a'i chwaer Branwen yn arwres. Dywedir bod Bran yn adeg yr helynt mawr a fu yn hanes Branwen yn frenin coronog ar Ynys Brydain, a elwid yr adeg honno yn Ynys y Cedyrn, tystiolaeth go dda i'w syniad hwy am eu cadernid eu hunain. A gwisgai Bran goron ardderchog Llundain. Yr oedd un o'i lysoedd yn Harlech, yn Ardudwy. Ac un prynhawngwaith o haf yr oedd yn y llys hwn. Yr oedd craig yno a elwid Carreg Harlech ymhell uwchlaw'r môr, ac yno yr eisteddai ef a'i gwmni yn edrych tua'r môr. Gydag ef yr oedd Manawyddan ei frawd, y gŵr y dywedais amdano mai ef oedd duw gwlad y goleuni yn ôl syniad yr hen Gymry. Felly yr oedd y ddau frawd, duw gwlad y tywyllwch a duw gwlad y goleuni, yn digwydd bod ynghyd y prynhawn hwn. A chyda hwy ill dau yr oedd y ddau hanner brawd,—Nisien ac Efnisien, a nifer eraill, fel y gwelir bob amser O amgylch brenin. Ymddengys fod dwy wraig wedi bod i Lŷr,—Iwerydd a Phenardim, ac i Benardim fod yn wraig i Euroswydd cyn bod yn wraig i Lŷr. Dyma i chwi dipyn o gymysgedd mewn teulu, onide?—Bran a Branwen yn blant i Lŷr ac Iwerydd; Manawyddan yn fab i Lŷr a Phenardim; a Nisien ac Efnisien yn feibion i Benardim ac Euroswydd. Ymdrech fel y cofiwch yw hyn i wneuthur un teulu o'r hen dduwiau hyn i gyd. Duw casineb oedd Efnisien, a Nisien yn dduw cariad a chymod. Yn y stori fel y daeth i lawr i ni, dywedir am Nisien ei fod yn dda, yn peri tangnefedd rhwng ei deulu pan fyddent lidiocaf. Nid oedd llid yn bod cyn gryfed a'i allu ef i dangnefeddu. Hollol groes oedd cymeriad Efnisien, medrai ef ennyn llid a chynhyrchu ymladd rhwng y ddau frawd mwyaf caruaidd. Gwelwch felly nad ydym ymhell o'n lle pan ddywedwn mai hen dduw casineb oedd Efnisien, ac mai hen dduw cariad oedd Nisien cyn eu gwneuthur gan yr hen Gymry yn dywysogion Cymreig.
Eisteddai'r gwŷr hyn oll ar y pryn- hawngwaith braf hwn ar Garreg Harlech yn edrych tua'r môr, a beth a welent yn y pellter ond tair llong ar ddeg yn dyfod o gyfeiriad Iwerddon, o ddehau'r wlad honno. Deuai'r llongau'n union tuagatynt, yn olygfa brydferth tros ben. Yr oedd y gwynt o'u hôl a hwythau'n nofio'n dawel a chyflym, a gwelai'r edrychwyr y byddent wrth y lan ar eu hunion.
Beth oedd y llongau tybed,—pa un ai da ynteu drwg oedd eu bwriad? Amheuodd Bran eu neges. Archodd i'w wŷr o'i amgylch orchymyn i wŷr y llys wisgo amdanynt ar unwaith, a mynd i chwilio beth tybed oedd bwriad gwŷr y llongau, canys yr oedd raid gwylio'n fanwl yn yr oes honno rhag ofn i elyn ddyfod arnynt yn annisgwyliadwy.
Gwisgodd gwŷr y llys amdanynt, ac aethant i lawr i gyfarfod â'r llongau. Pan ddaeth y llongau'n ddigon agos iddynt eu gweled yn iawn synnodd pawb at eu harddwch. Ni welsant cyn hardded llongau erioed, a chwyfiai baneri teg o bali yn hyfryd yn y gwynt. Math ar sidan yw pali, a rhaid eu bod yn hardd a chyfoethog i fedru fforddio baneri o sidan. Dyna un o'r llongau, fel y nesent i dir, yn rhagflaenu'r lleill, a gwelai'r gwŷr ar y lan godi tarian o'r llong yn uwch na'i bwrdd,—a swch neu flaen y darian i fyny. Dal blaen tarian i fyny oedd yr arwydd arferol o dangnefedd a chyfeillgarwch. Yna neshaodd y gwŷr ar y lan atynt nes clywed ohonynt hwy yn ymddiddan. Bwriwyd cychod o'r llong, ac yn y cychod neshau tua'r tir, a chyfarch gwell i Fendigaid Fran y brenin. A chlywai'r brenin hwy o'r lle yr oedd ar Garreg Harlech uwch ben y môr.
A dyma'r ymgom a fu rhyngddynt,—
"Duw a roddo dda i chwi, a chroeso i chwi," ebe'r brenin. "Pwy biau y nifer llongau hyn, a phwy sydd bennaf arnynt. hwy?"
"Arglwydd," ebe hwy, "y mae yma Fatholwch brenin Iwerddon, ac ef biau'r llongau."
"Beth," ebe'r brenin, "a fynnai ef? A fynn ef ddyfod i'r tir?"
"Na fynn, arglwydd," ebe hwynt, "negesydd yw atat ti hyd oni chaiff y neges."
"Pa ryw neges yw yr eiddo ef?" ebe'r brenin.
"Mynnu ymgyfathrachu â thydi, arglwydd," ebe hwynt. "I erchi Branwen ferch Llŷr y daeth ef. Ac os da gennyt ti, ef a fynn ymrwymo Ynys y Cedyrn ac Iwerddon i gyd fel y byddont gadarnach."
"Ie," ebe'r brenin Bendigaid Fran, "doed i'r tir, a chyngor a gymerwn ninnau am hynny."
A dyna'r ateb a gludwyd gan wŷr y llong yn ôl i frenin Iwerddon. Synnwch glywed Bendigaid Fran yn ei frawddeg gyntaf yn sôn am Dduw,— "Duw a roddo dda i chwi." Rhaid yw i chwi gofio'r hyn a ddywedais eisoes, mai ar ôl i'r hen Gymry anghofio mai duwiau oedd y bodau hyn y daeth y stori fel y mae hi gennym ni. Erbyn hyn yr oedd y Cristionogion wedi dechreu ei hadrodd, ac wrth wneuthur brenhinoedd a thywysogion dynol o'r hen dduwiau, yn eu gwneuthur ar yr un pryd yn wŷr a addolai ein Duw ni. Fel dynion yr ymddŵg y duwiau a'r duwiesau hyn yn y stori hon, ond bod darnau ohoni yn eich atgoffa am y cyfnod pan nad oeddynt yn ddim ond duwiau a duwiesau yn syniad y wlad.
Pan glywodd Matholwch brenin Iwerddon fod croeso iddo ar y tir,—
"Minnau a af yn llawen," eb ef.
Daeth Matholwch i dir i gyfarfod â Bendigaid Fran, a buwyd yn llawen iawn wrtho. Caffai groeso gan bawb. Daeth ei wŷr i'r lan gydag ef, a bu cyd-gyfarfod mawr yn y llys y nos honno rhwng ei wŷr ef a gwŷr y llys. Drannoeth bu'r brenhinoedd a'r gwŷr mawr yn ymgynghori ynghyd, a phenderfynwyd rhoddi Branwen yn wraig i Fatholwch. Dywedir amdani mai hi oedd trydedd prif riain yr ynys hon, ac nid rhyfedd hynny os hyhi oedd duwies cariad a phrydferthwch yr hen amser gynt. Hi, ebe hwy, oedd y decaf forwyn yn yr holl fyd.
Penderfynwyd mai yn y llys arall llys Aberffraw yn Ynys Fôn—yr oedd y ddau i briodi, ac i niferoedd gwŷr Bran a niferoedd gwŷr Matholwch gyrchu yno ar unwaith i'r wledd briodas, Matholwch a'i niferoedd yn eu llongau, a Bendigaid Fran a'i niferoedd yntau ar hyd y tir.