Brethyn Cartref (testun cyfansawdd)

Brethyn Cartref (testun cyfansawdd)

gan Thomas Gwynn Jones

I'w darllen pennod wrth bennod gweler Brethyn Cartref

Gellir darllen y testun gwreiddiol fel rhith lyfr ar Bookreader

Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Thomas Gwynn Jones
ar Wicipedia
page=1
page=1

LLANEFRON FEL YR OEDD

"Daeth rhyw wr dieithr yno un diwrnod ac aeth o gwmpas y lle. A chan pen ychydig amser yr oedd wedi prynnu'r tai a'r gerddi am ychydig bunnau"

BRETHYN CARTREF:

YSTRAEON CYMREIG.

GAN

THOMAS GWYNN JONES.

CAERNARFON:

CWMNI Y CYHOEDDWYR CYMREIG (CYF)

SWYDDFA "CYMRU."

MCMXIII.

RHAGAIR

FEALLAI nad oes nemor gamp ar y torri a'r gwnïo, ond am y brethyn, y mae hwnnw cystal â dim sydd ar y farchnad. Gallaf roddi fy ngair trosto, canys nid myfi a'i gwnaeth, ond Natur. Am hynny, po bae'r grefft cystal â'r deunydd, fe dalai'r Brethyn at hirddydd haf a hirnos gaeaf. Fel y mae, hwyrach y gwasanaetha ambell awr na bo'i amgenach wrth law, ryw ran o'r pedwar amser.

T. G. J.
ABERYSTWYTH,
Mehefin 21, 1913.

CYNHWYSIAD

BRETHYN CARTREF

YSTRAEON CYMREIG.

>>֍֎<<

I. TWRC

NAGE, nid dyn oedd o

Yn wir, ni waeth i ni ddywedyd y gwir yn y'ch wyneb chwi, syr. Ni welais i neb erioed o'r blaen yn barod i gydnabod fod Twrc yn ddyn. Clywais rai yn eu galw yn gŵn. Ond nid teg fyddai hynny a'r Twrc yr wyf fi yn son am dano, canys ci oedd hwnnw. Yr wyf yn cofio fod yn gweithio gyda fy nhad, pan oeddwn i yn hogyn, hen ŵr a'i enw Ned— Nid wyf yn cofio Ned beth. Waeth prun. Galwn o yn Ned. Wel, 'roedd gan fy nhad gi a'i enw Pero. Ryw ddiwrnod, gwnaeth Pero rywbeth i blesio Ned, ac ebr Ned wrthyf finnau,—

"Wyddoch chi beth, y mae ambell ddyn yn gi drwg ofnadwy, ac ambell gi yn ddyn da dros ben!"

Un o'r cŵn sy'n ddynion da dros ben oedd Twrc. Ci fy mrawd oedd. O leiaf, felly y buaswn i fy hun yn dywedyd, ond fel arall y dywedodd fy mrawd.

"Ai dy gi di ydi o?" meddwn, pan welais Twrc gyntaf.

"Nage,"ebr fy mrawd, "ei ddyn o ydw i."

Chwerddais.

"Wyt ti yn ame?" ebr fy mrawd.

"Nag ydw i, os wyt ti 'n dweyd felly."

"Well iti baid, hefyd. Tase fo'n gwybod dy fod ti 'n f'ame i, mi fase 'n ddrwg arnat. Mae o fel Cristion—hynny ydi, yn llawer iawn gwell. 'Does yma dim un ohonyn nhw yn y plwy yma cyn onested â fo. Fore ddoe, roedd o newydd ddwad allan o'i gut, ac heb fwyd er bore echdoe, mi wyddwn fy hun. 'Roeddwn i wedi gosod magal yng ngwaelod y cae yma. Aeth gwnhingen iddo tua 'r funud y gollyngais inne Dwrc ya rhydd fore ddoe. Wyddwn i mo hynny ar y pryd, wrth gwrs, ond clywais ryw ysgrech. Heibio i mi â Thwrc fel ergyd. Y munud nesaf, dyna fo yn i ol, a gwnhingen yn i geg. Wedi torri r fagal? Ie. Ond welswn i na'r fagal na'r wnhingen yn dragywydd tase un o'r Cristnogion wedi mynd heibio.

"Ci gwirion ddywedais ti? Bum yn meddwl hynny fy hun. Ond dim perigl! Cefais o yn gi bach, a byddwn yn ei gadw mewn cut mochyn. Tyfodd yn glamp o gi yno, ond neidiodd o erioed dros y wal na'r drws oddi yno. Ryw ddiwrnod, symudais o i gut arall â gwal uwch o'r hanner. Dyma fo drosti rhag i flaen. Fuo fo byth yn gi bach wedyn.

"Dal pethau? Braidd. Daliodd ddeg o dyrchod daear yr wythnos ddwaetha. Choeli di ddim? Aros, ynte. Twrc? Twrc?—Twrch?"

Gyda bod fy mrawd wedi galw, dyma Dwrc yn moeli ei glustiau, yu rhoi ysgydwad i'w ben, a chwythad drwy ei ffroen— fel y gwelsoch ambell hen gnowr tybaco—— yn codi ei gynffon, ac ymaith ag o tua 'r cae tatws yr ochr draw i'r buarth.

"Rhŵ-ŵ-ŵ-ŵ-necc!"

Daeth rhyw swn tebyg i hynyna o'r cae, a'r munnd nesaf, dyna Dwrc i'r golwg a thwrch daear ganddo gerfydd ei gynfon!

Dyna iti lythyren y gyfraith!" ebr fy mrawd.

"Beth?" meddwn innau. "Welais ti gi o'r blaen yn rhywle a wyddai wahaniaeth rhwng y naill lythyren â'r llall?"

"Beth ydi dy feddwl di?"

"Wyt ti ddim yn gweld? Be ddeydais i wrth y ci?—Twrc?—Twrc?—Twrch! onid ê?"

"O, mi welaf!" meddwn.

"Pe tase fo cyhyd â thi yn gweled, lle base'i dwrch o?"

"Byd a'i gwyr!"

Troisom i edrych arno. Nid oedd Twrc yn y golwg. Yr oedd y twrch daear ar lawr a'i dorr i fyny, ac yn rhoi'r ddau gic olaf am byth â'i draed ol. "Lle mae——." Cyn i fy mrawd gael gorffen, yr oedd Twrc yn ein hymyl eilwaith, a thwrch daear arall gerfydd ei gynffon ganddo!

"Dyna ti!" ebr fy mrawd. "Clywodd fi 'n gofyn iti—'Be ddeydais i wrth y ci?—Twrc?—Twrc?—Twrch! onide?' "

Gyda'r gair, rhoes y ci ysgeg i'r ail dwrch, ac ymaith âg ef eto, ond galwodd fy mrawd arno.

"Dyna ddigon!" meddai, a gorweddodd Twrc ar lawr.

Buom yn ddistaw am ennyd, ac yna dechreuodd fy mrawd drachefn.

"Ddeydais i hanes o a'r mochyn wrthyt ti? Naddo? Wel, yr oedd gynnon ni ryw hen fochyn y llynedd, callach na'r cyffredin o foch. Un go dila oedd o ar ddechre 'i yrfa, y salaf o'r torllwyth, felly. Pan oedd y lleill yn barod i'w gwerthu, 'doedd fawr o lewyrch arno fo, 'Chwerwyn,' fel y byddem yn i alw. Felly, cadwyd o i'w besgi, os oedd pesgi arno. Bwytaodd beth cynddeiriog, ac o'r diwedd, pesgodd. 'Roedd rhyw elyniaeth naturiol rhyngddo â Thwrc ar hyd yr amser, am ryw reswm neu gilydd. Byddent yn ymladd weithie, ac wrth gwrs, 'doedd gan Chwerwyn fawr o siawns yn erbyn Twrc. Gwaedwyd i glustie lawer gwaith yn yr ysgarmes. Un tro, sut bynnag, digwyddodd lwc i'r hen fochyn. 'Roedd hi 'n ddiwrnod poeth arswydus yn yr haf. 'Roedd hi mor boeth ganol dydd fel y bu raid i mi fynd a throi 'r peiriant nithio er mwyn cael gwynt. 'Roedd hi lawn cyn waethed ar yr hen fochyn, a chan na chae o wynt, mae'n debyg, meddyliodd am gael dwr—ne laid, yn hytrach. Aeth i'r llyn i ymdreiglo, a bu yno 'n hir. Rhuthrodd Twrc arno, ond yn ei flinder, syrthiodd Chwerwyn ar ei gefn. Medrodd Twrc ymryddhau, ond cafodd Chwerwyn lonydd. Nid osiodd Twrc ymosod arno wedyn hyd nes sychodd y llaid. Cyn gynted ag y gwnaeth hynny, dyma Dwrc am Chwerwyn, a Chwerwyn am y llyn. Felly y buont drwy'r haf. Wel, daeth amser lladd Chwerwyn. 'Roedd y cigydd wedi dwad, a 'roedd Chwerwyn allan ar y buarth, bron yn ymyl i gut. 'Hel o i mewn, Twrc!' medde finne. Rhuthrodd Twrc ato, ond ni symudai Chwerwyn gam iddo. Pan ai Twrc at i ben o, ceisiai Chwerwyn i ysgythru. Pan ai Twrc at i gynffon, safai yntau 'n llonydd. Twlciodd Twrc o, i geisio i yrru yn i flaen. Ond yn ofer. Aeth o'i flaen gan ddangos i ddannedd a chilio, ond nid ai'r ben fochyn ar i ol o. O'r diwedd, daeth Twrc i ganol y buarth; safodd am funud a'i ben yn gam, a phenderfynodd sut i wneud. Rhedodd, cydiodd â'i ddannedd yng nghynffon Chwerwyn, a dechreuodd dynnu yn ol.

'Wch!' ebr Chwerwyn, a chythrodd i mewn i'r cut!

"Ie, dyna fo iti, 'does yma ddim gwell dyn na fo yn yr holl wlad yma!" ebr fy mrawd.

"Glywais ti 'r stori honno am yr hen Ffinn, arwr y Gwyddelod, a'i gi?" gofynnais.

"Naddo. Sut y mae hi?"

"Wel, dyma hi. 'Roedd Padrig Sant yn pregethu i Ffinn a'i wroniaid am y nefoedd, ac yn deyd y fath le gogoneddus a hyfryd oedd yno. Pagan oedd Ffinn, wyddost, ac yr oedd yn gwrando 'n astud. O'r diwedd, eb efô, —

'Ga i fynd â fy nghi gyda fi i'r nefoedd yma?'

'Na,' ebr Padrig, 'fydd yno ddim cŵn yn y nefoedd.'

'H'm!' ebr Ffinn, ' 'does arna i ddim eisio mynd yno ynte!' "

"Go lew fo, go lew fo! Ie, 'd elwy fyth o'r fan yma!" ebr fy mrawd, gan blygu i lawr ac anwesu Twrc, rhag i mi weld y deigryn oedd yn ei lygad.

II. YR HEN GARTREF.

"DIOLCH am gael dwad o'r diwedd!" ebr dyn canol oed wrth ddisgyn o'r tren yn stesion Llanefron, tua deg o'r gloch un noson ym mis Awst.

Yr oedd Llanefron wedi altro yn arw yn ystod ugain mlynedd. Prin yr oedd yno ddim yr un fath yn union. Pentref bychan ydoedd gynt, a rhyw ddeucant o dai ynddo ar y goreu, y rhan fwyaf ohonynt yn fychain iawn, ac yn sal dros ben. Yr oedd yno ryw ddwy siop yn gwerthu bwyd a dillad, dwy dafarn, un capel ac un eglwys. Rhyw drichant o bobl oedd yn byw yno, y rhan fwyaf o'r dynion yn labro ar y ffermydd o gwmpas, a rhyw ddeg ar hugain neu ddeugain yn gweithio yn chwarel y Coed Bach, tua phum milltir oddi yno. Byddai rhyw ddwsin o'r bobl yn mynd i'r eglwys, rhyw ddeucant yn mynd i'r capel, a'r gweddill yn bwrw'r Sul heb fynd i unman.

Ond daeth tro ar fyd. Yr oedd y ffordd haearn yn rhedeg heibio'r lle, a gwelodd rhywrai fod yno gyfle i wneud arian. Yr oedd y môr yn agos, ac yr oedd yr ardal yn un iach. Daeth rhyw ŵr dieithr yno un diwrnod, ac aeth o gwmpas i weled y lle. Nid oedd fawr o gamp ar y pentref ei hun. Bychain a budron oedd oedd y rhan fwyaf o'r tai, ac arogl lludw a dŵr golchi lloriau yn llenwi'r awyr o'u cwmpas bob amser. Ni thalodd yr estron ond ychydig sylw i'r pentref, ond yr oedd yr ardal o'i gwmpas yn ei blesio yn fawr. Yr oedd y pentref yng ngwaelod y pant, ac afon fechan yn rhedeg drwy ei ganol. Ar du'r dwyrain, yr oedd y tir yn codi yn raddol nes cyrraedd cryn uchter, ac ar y llethr ddymunol honno yr oedd cryn nifer o dai bychain a gardd go helaeth yn perthyn i bob un ohonynt. Yr oedd pobl yn byw yn weddol daclus yn y tai hynny, ond nid yn ddi-drafferth ychwaith. Yr unig rai sydd yn medru byw yn ddi-drafferth yn y wlad hon yw'r rhai sy'n gwneud dim. Gweithwyr oedd yn byw yn y tai y soniwyd am danynt, ond trwy eu bod yn byw yn gynnil ac yn syml ac yn gwneud y goreu o'r ardd a'r cut mochyn, yr oeddynt yn medru talu eu ffordd yn lled dda. Yn eu plith yr oedd amryw yn berchenogion eu tai eu hunain. At y rhai hynny yr aeth y gŵr dieithr, a chyn pen ychydig amser yr oedd wedi prynu'r tai a'r gerddi am ychydig bunnau, a'r hen drigolion yn gorfod troi i chwilio am gartrefi ereill.

Yna dechreuodd Llanefron newid. Cyn pen blwyddyn yr oedd tai newyddion lle'r oedd y bythynod a'r gerddi gynt, a phobl ddieithr yn byw ynddynt. Saeson o rywle o ganol Lloegr. Yn fuan wedyn, yr oedd tai ereill yn y farchnad, a thai newyddion yn codi yn eu lle nes britho'r llethr a'i llenwi â thrigolion. Yr oedd diweddyno fasnach fywiog, yn enwedig yn yr haf, pan fyddai cannoedd o bobl yn dyfod yno i dreulio eu gwyliau ar lan y môr. Ychydig iawn o'r hen drigolion oedd yno mwyach. Yr oedd hyd yn oed yr hen bentref yn y gwaelod wedi diflannu, a chasgliad o dai newyddion wedi cymryd ei le. Nid oeddynt yn edrych mor fudron â'r hen dai, ac nid oedd yno gymaint o arogl lludw a dwfr budr ag a fyddai gynt. Ond nid oedd llawer o ddiolch am hynny, gan fod y lludw bellach yn cael ei gario ymaith bob dydd, a bod pibellau wedi eu gosod yn y ddaear i gario dwfr budr ymaith i'r môr, lle'r oedd y bobl fawr a fyddai yn dyfod yno yn yr haf yn ymdrochi, a'r hylif cymysg o heli a charthion yn ol pob tebyg yn gwneud lles mawr iddynt.

Felly yr oedd pethau bellach, y noswaith y daeth y dyn canol oed o'r tren yn y stesion ac y diolchodd am gael dwad o'r diwedd.

Dyn tua phump a deugain oed ydoedd, yn dal a golygus, ond a'i wallt yn wyn fel y llin. Yr oedd golwg iach ar ei dalcen. Yr oedd gydag ef ddynes tua'r un oed ag yntau, ac wrthi hi y llefarodd y geiriau a ddyfynnwyd ar y dechreu. Yr oedd hithau yn dal a shapus, ond yr oedd rhychau ar ei thalcen, a'i gwallt, a fu unwaith yn felyngoch, bellach wedi troi yn felynwyn.

"Ie," ebr hithau wrtho, "diolch am gael dwad o'r diwedd!"


Cerddodd y ddau allan o'r stesion mewn distawrwydd, ac aethant ymlaen tua'r hen bentref. Yr oedd y pellter tua milltir, a chynt nid oedd ond ffordd wledig, gul, yn arwain drwy ganol tir amaethyddol o'r stesion i'r pentref. Bellach, yr oedd yno ffordd lydan, a thai mawrion o bobtu iddi.

Safodd y dyn a'r ddynes toc, yng ngoleuni un o'r lampau trydan yno, ac edrychasant ar ei gilydd.

"Yden ni wedi colli'r ffordd, dywed, Elin?" meddai'r dyn.

"Wel, yden, ne ynte mae'r lle wedi altro yn ofnadwy," ebr hithau.

"O, ie, wrth gwrs," ebr yntau, "mae'n debyg mai dyna'r rheswm. Wedi bildio y maen' nhw. Tyrd yn dy flaen ynte, 'nghariad i."

Aeth y ddau ymlaen mewn distawrwydd am dipyn. Yr oedd y ffordd yn llydan o hyd a thai o bobtu yr un fath.

"Elin," meddai'r dyn, " 'ryden ni wedi i methu hi yn siwr i ti."

"Methu be, Dafydd?"

"Methu yr hen ffordd. 'Roeddwn i yn disgwyl gweld yr hen wrychoedd a'r hen lidiarde a'r hen gamfa, lle bydden ni yn sefyll cymaint ers talwm."

"Ie," ebr y ddynes, ac yna tawodd.

"A dyma be sydd yma!" meddai'r dyn, gan daflu ei law yn ddirmygus at y tai ar y naill ochr a'r llall i'r ffordd.

"Ie," ebr hithau, gan nesu ato a chydio yn ei fraich.


Cydiodd yntau am ei chanol, plygodd ei ben a chusanodd hi. Yna cerddodd y ddau ymlaen yn ddistaw eilwaith.

"Ble'r awn ni ynte, Dafydd?" meddai hi yn y man.

"Wn i ddim," ebr yntau, "waeth mo'r llawer ble. Ond i'r hen dafarn yr oedden ni wedi meddwl myud, onte? Waeth i ni fynd yno."

"Na waeth!" ebr hithau, gan bwyso yn drymach ar ei fraich o hyd.

Cerddasant ymlaen, a daethant i ddarn o'r ffordd oedd heb dai o bobtu. Ond yr oedd y ffordd yn y fan honno yn llydan, a gwal uchel o bobtu iddi, ac nid gwrychoedd.

"O," meddai'r dyn, "melldith arnyn nhw a'u hen walie hagr!"

"Ie," ebr y ddynes yn ddistaw.

Daethant o'r diwedd i'r hen bentref, ond nid oedd yntau yr un fath a chynt, mwy na'r hen ffordd."

Mae nhw wedi bod yma hefyd," meddai'r dyn. "Ple mae'r hen dafarn?"

"Wn i ddim ym mhle yr yden ni yn iawn," ebr y ddynes. "Mi ddylase'r hen dafarn fod draw yn y fan acw, os nad ydw i yn methu."

"Dylase," ebr yntau, "gad i ni fynd i chwilio ynte."

"Aeth y ddau hyd ystryd weddol lydan, a chroesasant yr afon, hyd bont fawr a'r trydan yn goleuo nes dangos y dwfr yn yr afon islaw yn llwyd-ddu a thipyn o ewyn budr hyd ei wyneb yma ac acw.

"Dim golwg am yr hen dafarn," meddai'r dyn.

"Nag oes," ebr y ddynes; "yn y fan acw y dylase hi fod, goelia i."

"Ie, 'nghariad i, yn union yn y fan acw. 'Ryden ni yn ymyl y lle y buon ni—wyt ti yn cofio, Elin?"

"Ydw, machgen i."

Daeth llencyn heibio gan chwibanu un o'r pethau y bydd y Saeson yn eu galw yn gerddi digrif. Pasiodd o fewn dwylath i'r dyn a'r ddynes.

"Hanner munud," meddai'r dyn wrtho, "fedrwch chi ddeyd ym mhle mae'r hen dafarn—Y Dafarn Goch?"

"Pardon, syr," ebr y llanc.

Ail ofynnodd y dyn ei gwestiwn.

"I speaks no Welsh," meddai'r llencyn, braidd yn ysgornllyd.

"Nor English," ebr y dyn, a chan afael ym mraich y ddynes, aeth yn ei flaen.

Cyfarfuasant ereill, a holodd y dyn, ond nid oedd yno neb a allai ei ateb yn Gymraeg, nag yn Saesneg ychwaith o ran hynny, na neb yn gwybod dim am y Dafarn Goch. Nid oedd neb yn cofio ei gweled yno. Fel yr oedd ar y pryd yr oeddynt hwy yn cofio'r lle.

"Be wnawn ni?" meddai'r dyn.

"Wn i ddim," ebr y ddynes. "Waeth i ni heb fynd i chwilio am yr hen fwthyn, mae'n siwr."


"Na waeth, mi waranta. Ond gad i ni fynd. Hwyrach fod y cnafon wedi gadel y wlad fel yr oedd hi."

"Hwyrach!"

Aeth y ddau yn eu holau dros y bont, ac yna ymlaen tua'r llethr, ond ystrydoedd a thai oedd o'u cwmpas ym mhob man, a bron bawb a'u pasiai yn siarad rhyw fath o Saesneg—geiriau Saesneg a chystrawen ac acen Gymreig, peth i ferwino clustiau Cymro a Sais.

"Mi ddylen fod o gwmpas y lle," meddai'r dyn; " 'ryden ni yn cerdded ers ugien munud. Ond weli di, 'does yma ddim ond tai o gwmpas."

"Nag oes. Rhaid eu bod nhw wedi tynnu'r lle i lawr, Dafydd!"

"Y lladron!" meddai'r dyn.

"Nos dawch!" ebr hen wr cloff, gwargam, wrth basio.

"Nos dawch!" ebr y dyn. "Os gwelwch chi yn dda, fedrwch chi ddeyd wrtha i lle me Tyddyn Huwcyn?"

"Wel," meddai'r hen wr, " 'rydech chi yn sefyll tua'r fan lle'r oedd o gynt—mae'r stryd yma yn mynd drwyddo fo, fel tase."

" 'Roeddwn i yn meddwl! Diolch i chi."

"Ydech chi yn cofio'r lle, syr, fel yr oedd o?"

"O, ydw ugien mlynedd yn ol. Mae'r lladron wedi andwyo'r lle!"

"Wel, hwyrach yn wir. 'Roedd hi'n well arna i yn yr hen amser, sut bynnag. Ie, yr hen Dyddyn Huwcyn druan! Dyn byw, 'roeddwn i yn ffryndie hefo'r hen bobol, coffa da am danyn nhw. Oeddech chi yn eu nabod nhw, syr?"

"Oeddwn. Fy nhaid a nain."

"Yr holl allu! Nid Dafydd ydech chi?"

"Ie, siwr, a dyma Elin, fy ngwraig i, merch y Dafarn Goch ers talwm ——."

"Trugaredd fawr, wel, mae'n dda gen i'ch gweld chi! Ydech chi ddim yn cofio'r hen dowr, Huw Dafis y Towr?"

Ysgydwasant ddwylaw, a buont yn siarad yn hir am yr hen amser, a dywedodd yr hen wr mai fô oedd bron yr unig un oedd yn fyw o'r hen drigolion.

"Ac yr ydech chi wedi dwad yr holl ffordd o'r America i weld yr hen gartre?" meddai'r hen wr. "Wel! ac i ble'r ydech chi am fynd?"

"Yn ein hole rhag blaen," ebr Dafydd, "does yma ddim lle i ni! Tyrd, Elin!"

Ac ymaith a hwy.


III. SAM.

Ci oedd Sam. Dwywaith erioed y gwelais ef, ond bu'n gyfaill pur i mi. A chofiodd fi yn hwy na llawer "cyfaill" arall a fu i mi. Y mae ugain mlynedd, oes, a rhagor, er hynny. Rhaid fod Sam wedi marw. Nid wn i ym mha le y claddwyd ef. Ond dyma air er cof am dano.

Hogyn deg oed oeddwn, ac yn ddieithr yn yr ardal. Yr oedd fy nhad wedi symud yno o ardal arall, ddeugain milltir i ffwrdd. Ffermwr ydoedd fy nhad. Yr oedd dydd Calanmai wedi dyfod, ac yr oeddwn i a'm brawd yn y ffarm newydd ers rhai dyddiau, a fy nhad wedi mynd ymaith i'r hen gartref i nol fy mam a'r brawd ieuengaf, y pryd hwnnw yn fachgen bychan penfelyn teirblwydd oed, ac erbyn heddyw yn ei fedd yn huno'n dawel yn ymyl ein mam.

Yr oeddwn i wedi cael gorchymyn i fynd i'r dref ar ryw neges neu gilydd, ac wedi mynd. Yr oedd y tywydd yn braf, yn wir, yr oedd yr haul yn boeth iawn a'r ffyrdd yn llychlyd, er nad oedd hi ond y cyntaf o Fai. Yr adeg honno, yr oedd y gwanwyn a'r haf yn dyfod yn gynharach ac yn llawer brafiach nag ydynt erbyn hyn. O leiaf, dyna fel y mae'n ymddangos i mi. Euthum i'r dref ar y neges. Nid oeddwn erioed wedi gweled tref gymaint o'r blaen, nag erioed dref a hen gastell ynddi, ac yr oedd mynd i'r dref yn beth pwysig. Bum yno hwyrach yn hwy nag oedd raid, yn cerdded o gwmpas ac yn fflatio fy nhrwyn ar ffenestri siopau. Bum hefyd yn edrych yn hir ar yr hen gastell, ac yn dychmygu faint o bethau rhyfedd a ddigwyddodd yn yr hen le mawreddog hwnnw erioed.

Ond o'r diwedd, cychwynnais adref, a'r neges gennyf. Torth a thipyn o de a siwgr ydoedd, os da'r wyf yn cofio, at wneud tamed i fy nhad a'm mam a'r brawd bach pan ddeuent. Pan oeddwn ar gwrr y dref ar fy ffordd adref, deuthum i brofedigaeth.

Yr oedd yno haid o hogiau yn chware yn ymyl capel. Gwelsant fi, a deallasant fy mod yn hogyn dieithr. Wrth gwrs, yr oedd am hynny yn ddyled arnynt luchio cerrig ataf. Gwnaethant hynny yn egniol. Os gwnaethant bob dyledswydd o hynny hyd hyn cystal, rhaid eu bod yn ddynion go lew.

Prun bynnag am hynny, pan ddechreuodd y cerrig ddisgyn yn gawod o'm cwmpas, teimlais fod gennyf finnau ddyledswydd. Dechreuais daflu'r cerrig yn ol atynt hwythau.

Gan fod yno o leiaf hanner dwsin ohonynt hwy a dim ond un ohonof finnau, bu raid i mi encilio yn raddol o flaen yr ymosod. Gwneuthum hynny gan ymladd oreu gallwn. Bu'r chwech wrthi am chwarter awr o leiaf yn fy ngyrru led cae, ond er fy mod yn dal fy nhir yn gyndyn, cilio yr oeddwn. Hyd hynny, nid oeddwn wedi cael fy nharo, er fod hynny wedi digwydd i un neu ddau o'r ymosodwyr. Haws taro un o chwech nag un ar ei ben ei hun, hwyrach. Prun bynnag, cyn bo hir, cefais ergyd yn fy mraich a'm gwnaeth yn llai abl i'm hamddiffyn fy hun. Ond fe'm creulonodd, ac yr oeddwn dipyn yn gyndynnach nag o'r blaen, ac yn lluchio yn ddygnach. Yr oedd y frwydr yn ffyrnicach, ond yr oeddwn yn encilio'n arafach, er mai encilio o hyd yr oeddwn.

Yr oedd pethau yn edrych yn hagr arnaf, a'm braich yn brifo yn arw. Yr oeddwn yn dechreu meddwl mai rhedeg a fyddai ddoethaf. Pa beth allai un yn erbyn chwech? Ac yr oeddwn eisoes wedi gwneud mwy o ddifrod arnynt hwy nag a wnaethent hwy arnaf fi. Credwn rywfodd na byddwn yn rhyw lwfr iawn pe buaswn yn rhedeg.

Yr oeddwn ar droi a ffoi.

Yn sydyn, dyma gi heibio i mi. Rhoes ddau neu dri thro o'm cwmpas, cyfarthodd, ac yna, fel mellten, ymaith ag ef am yr hogiau ereill, gan gyfarth yn ffyrnig.

Gwell un ci da na chwe hogyn drwg.

Cyn pen eiliad, yr oedd yr hanner dwsin wedi troi a ffoi. Rhedasant yn gynt na chyffredin, a'r ci ar eu holau yn cyfarth ei hochr hi.

Yr oeddynt yn diflannu o'r golwg mewn tro yn y ffordd ym mhen dim amser. Yr wyf yn gweled eu sodlau y munud yma. Ie, dyna hwy wedi mynd, a'r ci ar eu holau.

Prin y cawswn amser i feddwl. Digwyddodd y cwbl mor sydyn. Wedi myned yr hogiau a'r ci o'r golwg, cerddais innau tuag adref, gan feddwl ynof fy hun ei fod yn beth rhyfedd iawn i gi dieithr felly gadw chware teg mor brydlon i mi. Byddwn bob amser yn ffrynd i gwn (yr wyf felly eto), a thybiais mai rhyw gi ydoedd hwn wedi cymryd ataf yn sydyn heb unrhyw reswm arbennig dros hynny, ond mai fi oedd y gwannaf.

Yr oeddwn yn cerdded tuag adref gan feddwl am y peth.

Yn sydyn, dyma gi heibio i mi drachefn. Troes o'm cwmpas nid wn i ba sawl gwaith, gan gyfarth ac ysgwyd ei gynffon, neidio a'i draed blaen ar fy mynwes a llyfu fy nwylaw.

O wir ddiolch iddo am ei gymwynas â mi yn fy nghyfyngder, rhoddes innau anwes iddo, ac yna, daeth yn ei flaen i'm canlyn fel pe buasem yn hen gydnabod.

Y mae'n resyn na fedrai cwn siarad. Yr wyf yn berffaith sicr eu bod yn ceisio eu goreu, ac yn gwbl sicr hefyd y byddai ganddynt lawer amgenach ysgwrs nag aml i ddyn. Ond ni roddwyd iddynt allu siarad, hyd yma; ac felly nid oeddwn innau fymryn nes i wybod pam y gwnaeth y ci hwnnw gymwynas â mi.

Cerddasom ill dau yn ein blaenau, ac yntau bob yn ail a pheidio yn llyfu fy llaw ac yn sefyll o'm blaen gan ysgwyd ei gynffon, a golwg mor gall a deallus arno.

Deuthom at fuarth y ffarm. Troais i mewn. Daeth y ci i'm canlyn. Euthom ymlaen at y ty. Aeth yntau o'm blaen, a phan oeddwn i yn cyrraedd y drws, yr oedd yntau yn mynd i mewn.

"Hylo, Sam, 'y ngwas i, o ble doist ti?"

Clywais y geiriau hyn. Gwraig yr hen denant oedd yno. Yr oeddynt yn mudo y diwrnod hwnnw, ac yr oedd hi wrthi yn gwneud llymed o de ar fwrdd bychan yn y gegin i'w yfed cyn cychwyn, a'r drol ar y buarth yn disgwyl i'w chymryd hi a'r bwrdd a'r ychydig fân bethau oedd eto ar ol, ymaith i'r lle newydd.

A'r funud honno, cofiais innau fy mod wedi gweled Sam o'r blaen.

Hanner blwyddyn cyn hynny, yr oeddwn yn y ffarm gyda fy nhad, sef Galan Gaeaf, pan oedd rhan o'r tir yn dyfod gyntaf i feddiant y tenant newydd. Yr oedd fy nhad a minnau wedi dyfod yno ar dro, ac yr oeddwn i yn digwydd bod yn sefyll ar y buarth ym mrig yr hwyr, pan ddaeth gwas yr hen denant adref gyda'r wedd o'r ffarm yr oedd hwnnw yn symud iddi. Yr oedd y gwas a'r wedd wedi bod yn y lle hwnnw am fis, o leiaf. Yr oedd Sam gydag ef yno ar hyd yr amser, a phan gafodd ei hun unwaith yn rhagor yn ei hen gartref, teimlodd yn ddiau yn falch ac yn llawen.

Danghosodd ei falchter drwy roi rhyw gyfarthiad a dechreu rhedeg o gwmpas. Tybiodd yr ieir a'r hwyaid oedd ar y buarth mai rhedeg ar eu holau hwy ydoedd ei amcan, a dechreuasant esgyllio o gwmpas gan wichian yn arw. Yr oedd y gwas wrthi yn dadfachu'r wedd oddi wrth y drol ar y buarth. Tybiodd yntau, fel y cydnabu wrthyf wedyn, mai rhedeg ar ol yr ieir yr oedd Sam, a chymerodd y chwip a fflangellodd ef.

Rhaid fod y gwas hwnnw mewn tymer go ddrwg ar y pryd neu ynte ei fod yn un creulon wrth natur, canys chwipiodd y ci yn llawer gwaeth nag y dylasai, hyd yn oed a chaniatau ei fod wedi rhedeg yn fwriadol ar ol yr ieir a'r hwyaid.

Gwaeddodd Sam yn druenus, a chiliodd tuag ataf fi a'i gynffon yn ei afl ac un droed i fyny, a'r llanc ar ei ol a'r chwip yn ei law.

"Peidiwch, peidiwch," meddwn innau, gan sefyll rhyngddynt, "wnaeth o ddim i'r ieir—rhyw chware yr oedd o, dyna'r cwbwl."

"Chware yn wir, mi dysga i o!" ebr y gwas, gan fynd yn ei ol yn anfoddog.

Anwesais innau y ci, a daeth yntau gyda mi i'r ty. Bu yn gorwedd ar lawr wrth fy nhraed drwy'r dechreunos, ac yn cael tamed o'm swper. Weithiau, gwthiai ei drwyn i'm llaw, tynnwn innau fy llaw hyd ei ben, a llyfai yntau hi yn hir ac yn dyner. Buom felly yn ffryndiau mawr hyd nes euthum i gysgu y noswaith honno.

Erbyn i mi godi drannoeth, yr oedd Sam wedi myned ymaith drachefn i'r lle arall i ganlyn y meistr a'r gwas, ac ni welais innau mohono mwy hyd nes daeth o hyd i mi yn fy nghyfyngder ac yr achubodd fi rhag llid yr hogiau drwg y diwrnod hwnnw, dros chwe mis ar ol yr amser y cedwais i chware teg iddo yntau.

Dyna hanes fy nghydnabyddiaeth i a Sam. Ni welais byth mohono ar ol y diwrnod hwnnw, ond nid anghofiaf byth am dano. Ci defaid ydoedd, ci cryf, braf, a blewyn melyn, sidanaidd, llaes arno, ci bonheddig, call, a chywir. Dywedais yr hanes wrth aml i un ar ol hynny. Gwelais rai yn gwenu, ac yna byddent yn awgrymu nad oeddynt yn rhyw barod iawn i'w gredu. Nid gwaeth gennyf fi, ond mi wn un peth. Ni wyddai y personau hynny ddim am gwn. Nag am ddynion ychwaith

IV. YNGHWSG AI YN EFFRO?

YR oedd Morris Jones wedi priodi, wedi bod i ffwrdd am y mis mel, ac wedi dyfod adref i ddechreu byw.

Yr oedd ganddo dŷ bychan glanwaith a chyfleus yn Llanfodlon, ac yr oedd wedi ei ddodrefnu yn barod, fel nad oedd drafferth yn y byd yn aros ei wraig pan ddygodd o hi i'w ganlyn i'w chartref newydd.

Ond nid oedd Hannah yn fodlon. Yr oedd hi yn gweled y tŷ yn anhwylus, ac nid oedd y dodrefn yn hollol wrth ei bodd ychwaith. Nid hynny, sut bynnag, oedd yn ei phoeni fwyaf.

Yr oedd hi wedi cael y syniad i'w phen rywsut fod Morris yn edifarhau ei fod wedi priodi.

Yr unig reswm oedd ganddi dros dybio felly oedd ei fod ef ar ol eu priodas yn llawer iawn distawach a mwy digalon ei olwg nag ydoedd cynt.

Nid oedd hi wedi dywedyd dim wrtho am y peth. Yn wir, yr oedd arni ofn son am dano, rhag digwydd fod ei thybiau yn gywir. Yr oedd arni ofn ei bod hi ei hun wedi gwneud neu ddywedyd rhywbeth i'w ddigio, ond er meddwl llawer am ei gweithredoedd a'i geiriau, nid allai hi yn ei byw alw i gof ei bod wedi gwneud na dywedyd dim y dylasai efô fod yn ddig wrthi o'i blegid.

Ceisiodd ei pherswadio ei hun mai dychymig oedd y cwbl, ac nad oedd dim byd o'i le ar Morris ychwaith.

Hwn oedd y diwrnod cyntaf iddynt ill dau yn eu cartref newydd. Daethant adref ar hyd y nos o Lundain, ac felly cyrhaeddasant i Lanfodlon tua deg o'r gloch y bore. Aeth Morris at ei waith i'r offis lle'r oedd yn glerc, a daeth adref i'w ginio, y cinio cyntaf iddo yn ei dŷ newydd, a'r cyntaf i Hannah ei ddarparu iddo.

Hwyrach mai y cinio oedd heb fod wrth ei fodd. Daeth hynny i feddwl Hannah, ond erbyn ystyried, nid dyna oedd achos distawrwydd a digalondid Morris. Yr oedd o yn ddistaw a digalon cyn amser cinio.

Penderfynodd Hannah wneud ei goreu, pa beth bynnag oedd yr achos. Meddyliodd am wneud y lle mor siriol ag y gallai ar ei gyfer erbyn y deuai adref i gael te. Bu wrthi drwy'r prynhawn yn taclu pethau, ac erbyn amser te, yr oedd y tŷ yn edrych yn siriolach lawer, er nad oedd y dodrefn yn hollol wrth fodd Hannah.

Daeth Morris i nol ei de, ond yr oedd cyn ddistawed a chyn brudded ei olwg ag o'r blaen. Ceisiodd Hannah fod yn siriol a siaradus, a gwnaeth hynny i Morris edrych dipyn yn llonnach ei hun. Siaradodd dipyn â hi hefyd, ond nid cymaint âg arfer. Yr oedd rhywbeth yn ddiau yn pwyso ar ei feddwl o hyd. Aeth yn ei ol at ei waith, gan adael Hannah yn bur ddigalon.

Ond wedi meddwl a meddwl, penderfynodd Hannah wneud un ymdrech arall. Aeth ati i wneud y lle yn siriolach fyth, ac i ddisgwyl Morris adref i'w swper.

Yr oedd Morris yntau wrthi gyda'i waith yn yr offis, ond yn dra chythryblus ei feddwl o hyd am ryw reswm neu gilydd. Gofynnodd un o'i gyd-glercod iddo yn chwareus,—

"Morris, be sydd arnat ti? 'Rwyt ti yn edrych yn ddigalon iawn. Wyt ti yn edifaru priodi, dywed?"

Ceisiodd Morris chwerthin, ond nid atebodd air. Daeth amser cadw noswyl, ac aeth Morris allan o'r offis. Cerddodd yn ei flaen ar hyd yr ystryd, nid tua'i gartref, ond i'r cyfeiriad arall yn hollol.

Gwelodd y clerc y soniwyd am dano eisoes ef yn mynd, a meddyliodd am alw ar ei ol a gofyn o ran direidi a ydoedd wedi anghofio ei fod wedi priodi, ond meddyliodd nad oedd hynny ond peth ofer. Diau fod gan Morris ryw neges yn rhywle, ac yr oeddynt wedi herian digon arno eisoes yn ddiameu. Felly cafodd Morris lonydd y tro hwn, ac aeth yn ei flaen yn araf drwy'r dref, ac allan i'r wlad. Pe buasai y clerc arall yn ei weled yn mynd y ffordd honno, buasai yn synnu, hyd yn oed os na buasai yn gofyn iddo i ba le yr oedd am fyned.

Yr oedd hi yn noswaith hyfryd ym mis Medi. Yr oedd y meusydd ŷd yn wynion, a'r meusydd porfa yn wyrddion iawn. Yr oedd dail y coed eisoes yn dechreu troi eu lliwiau, a rhyw dristwch distaw yn gorffwys ar bopeth. Felly, o leiaf, y teimlai Morris. Cerddai yn ei flaen yn araf o hyd, gan edrych o gwmpas yn awr ac eilwaith ac yna edrych ar lawr am yn hir.

Daeth o'r diwedd at groesffordd, ac yno, heb betruso o gwbl, troes o'r ffordd fawr, a cherddodd yn ei flaen yn araf fel o'r blaen hyd ryw hen lôn las, a gwrych uchel o bobtu iddi.

Cerddodd yn ei flaen nes daeth at fwthyn bychan tô gwellt a gardd o'i flaen.

Yr oedd penwar bychan yn agor o'r ffordd i'r ardd, a llwybr yn arwain at ddrws y tŷ. Yr oedd yno ddigonedd o flodau tlysion o bob math yn yr ardd, a hocys tal a blodau o bob lliw arnynt yn eu plith.

Heb sylwi ar y blodau na dim arall, agorodd Morris y penwar, aeth drwodd, caeodd ar ei ol a cherddodd yn araf hyd y llwybr at y tŷ. Yr oedd y drws yn agored. Aeth Morris i mewn heb guro, ac aeth ac eisteddodd ar gadair wrth y tân, bron dan yr hen fantell fawr gysgodol.

Yr oedd y lle yn berffaith ddistaw. Nid oedd yno neb ond efô ei hun, na neb yn agos—o leiaf, nid oedd swn neb i'w glywed nag yn y tŷ nag yn yr ardd o gwmpas.

Dododd Morris bwys ei fraich ar y bwrdd a'i ben ar ei fraich, ac yn fuan iawn, yr oedd yn cysgu yn drwm.

Ac eto, nid oedd neb wedi dyfod i'r tŷ, na swn neb i'w glywed o gwmpas.

Gallesid meddwl nad oedd neb yn byw yno, er fod yn y lle ddodrefn derw da a glân, ac olion ddigon fod rhywun yn preswylio yn y bwthyn. Yr oedd hyd yn oed y tegell yn canu ar y tân a'r gath yn canu ar yr aelwyd, y naill a'r llall yn ddu ac yn canu yn y gwres.

Pa beth a ddaethai o'r trigolion? Yr oedd Morris yno ers awr bellach, ac yn cysgu yn braf o hyd, gan anadlu'n drwm ac yn rheolaidd. Yr oedd y lle wedi mynd yn dywyll erbyn hynny. Disgynnai tipyn o oleuni gwan o'r tân ar lawr, lle'r oedd y gath yn cysgu ac yn canu, ond yr oedd Morris yn y cysgod, fel nad allasai neb ei weled heb oleuo cannwyll neu rywbeth arall. Ac yr oedd yn cysgu yn drwm o hyd.

Yn sydyn, daeth rhywun drwy'r penwar ac i fyny'r llwybr at y drws. A daeth i mewn i'r tŷ heb guro ar y drws na dim arall, ỳn union fel y gwnaeth Morris.

Dynes ieuanc ydoedd, a barnu wrth ei ffurf a'i cherdded.

Daeth i mewn i ganol y tŷ, edrychodd o'i chwmpas, yn enwedig ar y tân, ac yna, tynnodd ei het oddi am ei phen, gan ryw fwmian canu yn isel. Dododd yr het o'r neilldu ar y dresel dderw oedd gyferbyn â'r drws. Yr oedd goleuni gwan y dydd wrth ddarfod yn disgyn ar y fan honno drwy'r drws agored nes ei wneud yn ddigon goleu iddi weled pa beth yr oedd yn ei wneud.

Yna, aeth y ddynes drwodd i'r ystafell gefn, ac yn fuan, daeth yn ei hol a channwyll oleuedig yn ei llaw.

Yn sydyn, yng ngoleuni'r gannwyll, gwelodd y dyn oedd yn eistedd ar y gadair a'i ben ar y bwrdd ac yn cysgu'n braf.

"Hylo," ebr hi, "ydech chi wedi dwad yn ol yn barod, ac wedi cysgu hefyd?"

Wrth ddywedyd, aeth yn ei blaen tua'r drws heb sylwi rhagor ar y dyn, ac aeth drwy ddrws arall i'r siambr. Nid atebodd y dyn hi, a bu hithau am dipyn yn y siambr. Toc, sut bynnag, daeth yn ei hol i'r gegin, a'r gannwyll yn ei llaw.

"Cysgu'r ydech chi o hyd?" meddai hi, dipyn yn uwch nag o'r blaen.

Ar hynny, deffroes Morris, a chyfododd ei ben.

Yr oedd y ddau erbyn hyn wyneb yn wyneb a'i gilydd.

Edrychasant yn fud mewn syndod am rai eiliadau.

Y ferch a lefarodd gyntaf.

"Morris!" ebr hi, "be ydech chi yn 'i wneud yn y fan yma?"

"Elin!" ebr yntau, a'i lais yn gryg gan ryw deimlad, "be ydech chi yn 'i wneud yma?"

"Ond yma yr ydw i yn byw, debyg iawn—."

"Yma yr oeddech chi yn byw ers talwm, cyn i ni—cyn i chi fynd i ffwrdd, a chyn i ni—."

"Ie," ebr hithau, "yma yr oeddwn i yn byw, ac yma yr ydw i yn byw eto er pan gladded fy mam—"

"Er pan gladded ych mam? Pryd y bu hynny?"

"Yr wythnos ar ol i chi briodi a mynd i ffwrdd. Chlywsoch chi ddim? Mae tair wythnos er hynny."

"Ac ers pryd yr ydech chi yma?"

"Er hynny, wrth gwrs."

"Ydech chi yn byw yma eich hun ynte?"

"Fy hun? Na, mae fy ngwr hefo fi, debyg iawn."

"Eich gwr!"

"Ie siwr, ac mi fydd yma yn union deg, bellach!"

"Rhaid i mi fynd," ebr Morris, gan godi ar ei draed yn frysiog. "Maddeuwch i mi. Wn i ddim sut y dois i yma. Rhaid mod i yn breuddwydio yn effro. Meddwl am yr hen amser, hwyrach. Ond rhaid i mi frysio adre. Mi fydd fy ngwraig yn methu dallt lle'r ydw i! Nos dawch,—Elin!"

"Nos dawch, Morris!"

Ac aeth Morris ymaith, fel drychiolaeth. Ni ddywedodd wrth ei wraig ym mha le y bu, ond ar ol y noswaith honno, nid oedd Morris mor ddistaw a digalon ychwaith.

V. MAB Y MÔR. UN o blant y môr oedd Sion Morys, a'r môr oedd ei hoffter pennaf. Nid rhyfedd hynny ychwaith. Morwyr oedd y teulu er cyn cof. Yr oedd y môr fel pe buasai'n galw arnynt yn blant, ac nid allent hwythau beidio âg ufuddhau iddo. Yr oeddynt fel hwyaid am y dwfr. Yr oedd yn wybyddus fod pum cenhedlaeth o feibion y teulu yn forwyr. Hwyrach fod rhagor. Yn wir, mae'n dra sicr fod. Taid Sion Morys a holwyd gan y dyn hwnnw oedd yn ofni'r môr.

"Ym mhle bu farw'ch tad?"

"Ar y môr."

"A'ch taid?"

"Ar y môr."

"A'ch hen daid?"

"Ar y môr hefyd, a'i hen daid ynte yr un fath."

"Gwarchod ni!" meddai'r ofnus, "os gynnoch chithe ddim ofn marw ar y môr?"

"Wel," eb yr hen wr, "lle bu dy dad di farw ynte?"

"Wel, adref yn i wely, siwr."

"A'th daid?"

"Yr un fath."

"A'i daid ynte?"

"Ie, yr un fath."

"Wel, ar f'engoch i, mi ddylet wneud rhywbeth! Oes arnat tithe ddim ofn marw yn dy wely, dywed?"

Ar y môr mewn gwirionedd y bu farw y rhan fwyaf o hynafiaid Sion Morys, ac yn y môr y claddwyd hwy. Yn wir, cyn belled ag yr oedd cof yn mynd, un ohonynt yn unig a fu farw ar y lan ac a gladdwyd yn y ddaear, a thrwy ddamwain y bu hynny hefyd.

Yr oedd mam Sion Morys yn ofni'r môr yn arw, ac am hynny, mynnodd fynd i fyw yn ddigon pell oddi wrth y môr cyn geni Sion. Yr oedd hi am ddwyn Sion i fyny i fyw ar y tir, ac yr oedd wedi gwneud cytundeb a'i gŵr cyn ei briodi ei bod hi i gael byw ynghanol y wlad yn mhell oddi wrth y môr, a bod y plant i gael eu dwyn i fyny i fyw ar y tir. Yr oedd yntau wedi cytuno. Hwyrach ei fod yn teimlo yn sicr nad allai dim dorri ar yr olyniaeth forwrol. Prun bynnag, ni bu iddo ef a'i wraig ond un mab, sef Sion, ac yr oedd Sion yn ddeg oed cyn gweled y môr o gwbl. Gwir ei fod er yn blentyn yn hoff iawn o'r dwfr, ac mai ei ddifyrrwch pennaf, pan gai gefn ei fam, fyddai mynd i chware i'r llyn mynyddig oedd heb fod ymhell oddi wrth ei gartref. Pan oedd o tua deg oed, sut bynnag, tybiodd ei fam y gallai fentro ei gymryd gyda hi i Laneigion i gyfarfod ei dad. Yr oedd ei dad heb fod adref ers tair blynedd, ac yr oedd y fam wedi addo y cae Sion fynd i'w gyfarfod pan ddeuai. Daeth y llong o'r diwedd i Laneigion, ac aeth Beti Morys a'i mab yno i'w chyfarfod.

Yr oedd Capten Morys yn awyddus iawn am weld ei fab, ond yr oedd yn cofio yn dda fod Beti Morys yn ofni'r môr, a'i bod yn debyg o fod wedi dwyn ei mab i fyny i'w ofni yr un fath â hi ei hun. Eto, pan welodd y bachgen, deallodd rywfodd ar ei osgo mai mab ei dad ydoedd ac nid mab ei fam. Nid ai Beti Morys i aros ar fwrdd y llong, ac felly yr oedd yn rhaid cymryd lle iddi hi a'r bachgen mewn tafarn yn y dref.

Y bore ar ol glaniad y llong, yr oedd Capten Morys wedi mynd i'r dafarn at ei wraig a'i fab. Bore Sul hyfryd ym mis Gorffennaf ydoedd, ac yr oedd hyd yn oed Beti Morys yn teimlo y buasai tro ar lan y môr yn braf. Aeth y tri ar y traeth, ac wedi cerdded o gwmpas nes blino braidd, eisteddasant ar y tywod. Yn fuan iawn yr oedd y capten wedi cysgu yn yr haul, a Beti Morys hithau yn teimlo yn bur swrth hefyd. Am Sion, yr oedd o wedi synnu at y môr a'i ryfeddodau, ac yn gwylio'r bobl oedd yn ymdrochi gyda dyddordeb anghyffredin.

Cysgodd y capten yn drwm, a hunodd Beti Morys hefyd, er gwaethaf ei phryder am y bachgen. Toc, sut bynnag, deffroes Beti, a'r peth cyntaf a wnaeth oedd edrych o'i chwmpas am Sion.

Nid oedd olwg arno yn unman.

Dychrynodd Beti Morys a deffroes ei gŵr.

"Huw!" ebr hi, "lle mae'r bachgen?"

Deffroes y capten yn araf.

"Be sydd?" meddai.

"Lle mae'r bachgen?" ebr Beti.

"Wn i ddim," meddai'r capten, "ble'r aeth o ynte?"

"O! mae o wedi mynd i rywle. Rhaid i fod o wedi boddi! O, machgen annwyl i, a ninne yn cysgu yn y fan yma!"

"Boddi? Choelia i fawr!" meddai'r capten. "Foddodd yr un o'r Morysiaid erioed ond drwy i'r llong dorri arnyn nhw ynghanol y môr agored!"

"Ond 'does dim golwg am dano fo," ebr Beti Morys, "i ble 'rae o? Rhaid i fod o wedi boddi, Huw! Faddeua i byth i mi fy hun!"

"Gadewch i ni weld ynte," meddai'r capten, gan godi yn araf ar ei draed ac edrych o'i gwmpas.

Yr oedd Beti ar ei thraed eisoes, ac yn edrych yn graff yma ac acw. Toc, dyma hi yn gweled rhywbeth ac yn rhoi ysgrech.

"Be sydd?" meddai'r capten.

"Dyma'i ddillad o!" ebr Beti.

A dyna lle yr oedd dillad Sion yn swp ar y traeth.

"O, wel, rhaid i fod o yn y dwr ynte," ebr y capten, gan fynd ymlaen at y dwr, a dal ei law uwchben ei lygaid ac edrych o'i gwmpas.

Yr oedd Beti wedi rhedeg ar ei ol, ac yn sefyll yn ei ymyl mewn ofn mawr.

"Dacw fo," meddai'r capten.

"Ym mhle?" ebr Beti.

"Ond yn y dwr."

"Ond fuo fo 'rioed yn y dwr o'r blaen, mi foddiff yn siwr! Ewch i'w nol o!" ebr Beti.

"Mae o'n nofio yn braf!" meddai'r capten.

"Nofio, a fynte erioed wedi gweld y môr o'r blaen?"

"Ie, siwr," meddai'r capten, "ond oedd y Morysiaid i gyd yn medru nofio o'u mebyd."

Ac yr oedd Sion yn y dwfr yn nofio yn braf ers hanner awr. Pan gafodd ddigon ar y dwfr, daeth i'r lan, a chafodd wers lem gan ei fam, a hanner coron gan ei dad.

Ar ol y diwrnod hwnnw, ofer oedd ceisio cadw Sion o'r môr. Yr oedd yntau wedi clywed galwad yr eigion, ac er holl ofal ei fam, yr oedd wedi rhedeg i'r môr cyn ei fod yn ddeuddeg oed.

Ac yn y môr y bu ar hyd ei oes nes oedd yn hen ŵr trigain a phump oed. Yr adeg honno, aeth drwy ryw anap yn rhy fusgrell i allu dilyn ei alwedigaeth yn hwy.

Wedi'r anghaffael hwnnw, bu raid i Sion Morys roddi'r goreu i'r môr, a chyda gofid mawr y gwnaeth hynny. Yr oedd ganddo ddigon o arian i fyw yn gysurus o ran hynny, ond nid oedd gysur i Sion mewn byw ar y tir. Yr oedd o erbyn hyn hefyd yn dra amddifad. Yr oedd ei wraig wedi marw ers blynyddoedd, a'i unig fab wedi mynd i'r môr ac wedi colli yn rhywle ers llawer o amser. Bu Sion heb wybod yr hanes am flwyddyn a hanner neu ddwy flynedd ei hun, a phan ddaeth i dir o'r diwedd a chlywed fod llong ei fab ar goll ers deunaw mis, edrychodd ar y môr yn hir ac yn graff, sychodd ddeigryn o'i lygad ac yna ymostyngodd i'r dynged fel dyn, neu yn hytrach fel morwr. Bu ar led ei hun am flynyddoedd wedi hynny, ond o'r diwedd yr oedd yr hen forwr cadarn ar y lan, fel hen long wedi ei dryllio a'i thaflu ar y traeth gan y tonnau i fynd yn ddarnau yn araf deg dan bwys y tonnau a dannedd y graig.

Ac yn Llaneigion y glaniodd Sion Morys am y tro olaf. Cymerodd lety yno, mewn tŷ ar lan y môr, lle'r oedd hen gydnabod iddo gynt yn byw. Yno yr wyf fi yn ei gofio gyntaf, yn hen ŵr deg a thrigain oed, a'i wallt a'i farf yn wyn fel y llin, neu yn hytrach

"Fel ewyn y donn pan fo'n creuloni,
A mawr rhuolwynt ar y môr heli."

Yr oedd ei wyneb yn rhychau dyfnion, a'i ddwylaw yn gelyd fel haearn. Cerddai yn araf, gan grymu tipyn ar ei gefn, a gellid ei weled bob dydd, haf a gaeaf yr un fath, yn mynd am dro i lan y môr. Byddai yno yn cerdded ar y traeth am oriau bob dydd, ni waeth pa fath dywydd a fyddai. Yn wir, pan fyddai yn ystorm, byddai Sion Morys yno yn hwy na phan fyddai yn braf, a pho ffyrnicaf yr ystorm, goreu yn y byd ganddo. Ar hyd y blynyddoedd, ymdrochai bob bore, a nofiai o gwmpas am yn hir er gwaethaf anystwythder ei goes a'i fraich chwith. Yn y prynhawn gwelid ef ar y cei gyda hen forwyr ereill oedd wedi mynd yn rhy hen i ddilyn eu galwedigaeth mwy, ond nad oeddynt mor hoff o'r môr ag ydoedd Sion Morys. O leiaf, ni byddent hwy yn mynd i lawr i'r traeth bob dydd nag yn ymdrochi fel y byddai ef. Llawer ysgwrs a fyddai rhyngddynt ar y cei yn y prynhawn, a llawer son am hen gydnabod ac am bethau wedi digwydd ym mhellter byd flynyddoedd lawer yn ol, pan oeddynt hwy yn eu pwmp.

Ond yr oedd Sion Morys yn mynd yn hŷn ac yn fusgrellach, ac o'r diwedd, aeth i fethu ymdrochi mwy. Yr oedd hynny yn pwyso ar ei feddwl yn fawr, ond yr oedd yn dal ati o hyd i ymlusgo i lan y môr bob dydd, ac yn aros yno am oriau i wylio'r tonnau yn curo'n dragywydd ar y traeth. Un gaeaf, clafychodd, a bu drwy'r gwanwyn heb fedru mynd i lan y môr. Yr oedd hynny yn torri ei galon. Teneuodd yn arw, a chrymodd ei gefn, ac aeth yntau yn ddistaw a hurt ei olwg. Ond fel yr oedd yr haf yn dynesu a'r tywydd yn tyneru, dechreuodd Sion Morys godi allan drachefn, a cheisiodd gerdded tua'r môr fel o'r blaen. Yr oedd y daith yn ormod iddo ar y dechreu, ond o dipyn i beth medrodd un diwrnod yn nechreu haf gyrraedd y traeth. Yr oedd y môr fel llyn a'r dwfr yn chware yn gynnes ar y traeth. Tynnodd Sion Morys am dano, a cherddodd yn araf a musgrell i'r dwfr. Daeth hen deimlad ei ieuenctyd yn ol iddo, ymollyngodd i'r tonnau gan geisio nofio fel o'r blaen, ond yr oedd dyddiau nofio Sion Morys drosodd.

Y noswaith honno cafwyd hyd iddo ar y traeth. Ac fel ei hynafiaid, bu yntau, yr olaf o'r teulu, farw yn y môr.

VI. UN BREGETH GRUFFYDD JONES.

"TOMOS DAFIS, gawn ni air gynnoch chi i ddechre ar achos Huw?" ebr William Huws, y pen blaenor, ar ol i Dafydd Cae Crwn ddechre'r seiat yn y Capel Bach.

Yr oedd yno gynhulliad mwy nag arfer, a theimlid dyddordeb anghyffredin yn y materion oedd i ddyfod gerbron y noswaith honno.

Yr oedd Gruffydd Jones i gael dechre pregethu neu beidio, yn ol fel y penderfynai yr eglwys, ac yr oedd Idwal Wmffre i gael ei dorri allan. Teimlai y bobl oreu ddyddordeb mawr yn yr achos cyntaf, a'r bobl symol a'r cnafon fwy o ddyddordeb yn yr ail.

Yr oedd Gruffydd Jones wedi cael cennad i roi pregeth o flaen y gynulleidfa y nos Sul cynt, ac ar bwys barn y bobl am honno y dibynnai a gai ei achos fynd ymhellach ai peidio.

Yr oedd Idwal Wmffre wedi meddwi a mynd i drwbl waeth na hynny a thynnu un arall i'w ganlyn, ac am hynny yr oedd yn rhaid ei ddiarddel.

"Dowch, Tomos Dafis," ebr William Huws.

Yr oedd Tomos Dafis yn hir yn dechreu.

Ond o'r diwedd, cododd ar ei draed yng nghornel y set fawr. Crydd ydoedd. Dyn bychan ag wyneb gwastad, hir ganddo; barf wedi ei thorri yn weddol ferr; ei wefus uchaf wedi ei heillio yn lân; llygaid gleision, bychain; talcen mawr a choryn moel.

"Wel," eb efô, ac yr oedd ei lais rhwng cras a pheidio, "wel, rhaid i mi ddechre, mae'n debyg. 'Roeddwn i yn disgwyl fy somi yn Gruffydd, waeth i mi ddeyd y gwir na pheidio. Welis i erioed ddim byd neilltuol iawn ynddo fo, er fy mod yn gwybod i fod o yn fachgen da. Un o'r bechgyn hynny sy'n edrych weithie yn rhy dda i ryw greadur fel fi."

Tawodd Tomos Dafis am ennyd. Yn ei ieuenctid, bu Tomos yn dipyn o fraddug, ond bellach nid oedd amheuaeth am ei dduwioldeb.

"Mi fydda i," meddai yn araf, "yn meddwl y dyle pregethwr fod yn gwybod tipyn am demtasiyne'r bobol y bydd o yn mynd i bregethu iddyn nhw. Ni chlywis i erioed gystal pregethu â phregethu ambell i hen bechadur go ffyrnig wedi cael gras. Ond waeth heb fynd y ffordd yna heno. 'Roeddwn i yn disgwyl fy siomi yn Gruffydd. Ac mi ges fy somi hefyd."

Tawodd Tomos Dafis drachefn, ac yr oedd pawb bron yn dal eu hanadl. Yr oedd Gruffydd wedi plesio pawb. Sut yr oedd Tomos Dafis wedi ei somi? Dyna oedd ym meddwl pob dyn a dynes yno.

" 'Roeddwn i," ebr Tomos Dafis, yn araf, "yn disgwyl rhyw bregeth dila, fel fyddwn ni yn arfer gael gan y bechgyn yma, gan Gruffydd, ond yn lle hynny mi gawsom bregeth addawol dros ben gynno fo."

Anadlodd pawb yn rhydd, ac aeth Tomos Dafis yn ei flaen.

"Yr oedd yn dda dros ben gen i gael fy somi, ar yr ochor ore," ebr efô. " 'Rydw i yn meddwl y gwneiff yr hogyn bregethwr da. Mae gynno fo feddwl yn perthyn iddo fo'i hun, a dawn i'w ddeyd o. Waeth i mi heb ddeyd chwaneg. 'Roedd llawer o feie yn i bregeth o, mae'n siwr. Cofia di hynny, Gruffydd, machgen i, a phaid a mynd i feddwl gormod ohonot dy hun. Ond 'rydw i yn deyd yn dy wyneb di mod i wedi mhlesio yn fawr yn dy sylwade di nos Sul. O'm rhan i, mi gei fynd yn dy flaen."

Galwodd William Huws ar un arall o'r blaenoriaid, ac ar amryw o'r aelodau, a chafwyd gan bob un ohonynt air da iawn i bregeth Gruffydd Jones. Yr oedd pawb wedi synnu ato, ac yn harod iawn i roi pob cefnogaeth iddo. Yr oeddynt yn sicr y byddai yn bregethwr mawr, ac yr oedd y meddwl am godi pregethwr mawr yn y Capel Bach wrth fodd yr eglwys i gyd. Rhoed y peth ger bron, a chafwyd pawb yn unfryd dros roi cennad i Gruffydd Jones fyned rhagddo yn ol rheolau y cyfundeb. Rhoes William Huws, Tomos Dafis, John Jones, ac Edward Williams, y blaenoriaid; a John Parry a William Ffowcs, y ddau a gredai y dylasent hwythau fod yn flaenoriaid ers blynyddoedd, res o gynghorion buddiol iawn iddo ar ddechreu ei yrfa. Ac yr oedd cyngor William Huws yn un nodedig, fel arfer.

"Gruffydd, machgen i," eb efô, " 'roeddwn i yn teimlo wrth wrando arnat ti nos Sul fod gen ti rywbeth i'w ddeyd, a'th fod ti yn i ddeyd o fel ti dy hun, ac nid fel rhwfun arall. Wel, dal di at hynny. Dyna'r unig ffordd onest. 'Dalla i ddim aros y bobl yma sy heb ddim i'w ddeyd eu hunain, y rhai sy'n byw ar ryw hanner deyd meddylie pobol ereill. Cadw atat dy hun, beth bynnag wnei di, mi fyddi yn rhywbeth felly, goelia i."

Yr oedd Gruffydd yn wylo yn dost wrth wrando ar y cynghorion hyn. Tybiai llawer mai ei grefyddolder oedd yn peri iddo wylo, a thybiai ereill ei fod yn teimlo dros Idwal, oedd i gael ei dorri allan, canys yr oedd y ddau yn hen gyfeillion, wedi chware gyda'i gilydd, ac yn cydweithio yn y gwaith mwyn.

Bu distawrwydd, ac yna cododd William Huws ar ei draed yn sydyn.

"Mae gynnon ni ddyledswydd arall," meddai, "ac un gas ydi hi. Ond rhaid gwneud dyledswyddau cas. Dylem eu gwneud hwyrach yn fanylach a mwy gofalus na rhai fel arall. Waeth heb fynd i son llawer am y peth. Yr ydech chi i gyd yn gwybod yr hanes. Mae Idwal Wmffre, bachgen wedi ei fagu yn y seiat yma, wedi troi yn fachgen drwg. Mae o wedi troi yn feddwyn cyhoeddus, ac y mae o wedi tynnu un arall i'w ganlyn i drwbwl, ond 'does a wnelo ni yma ddim â'r un honno. Yr oedden ni yn disgwyl llawer oddiwrth Idwal. Gwyddem fod ei dad a'i fam yn dalentog, a chawsom brofion ei fod ynte yn meddu doniau nodedig iawn. Clywais un o'n gweinidogion sy'n fardd yn dywedyd y gwnai Idwal ei farc os ceisiai. Ond y mae o ar y llwybr drwg. Mae'n boen i mi feddwl am i dorri fo allan, yn boen fawr. Ond 'does dim arall i'w wneud. Rhaid i ddiarddel o."

Cododd Tomos Dafis yn araf. Yr oedd golwg ryfedd ar ei wyneb.

"Wel," meddai, "mewn un ffordd, mi faswn yn hoffi medru amddiffyn Idwal. Mae o ar lawr, ac yr ydym ninnau yn mynd i'w gicio allan. 'Does mo'r help. Rhaid gwneud hynny, Eto, cofiwn nad ydi'n dyledswydd ni ddim yn darfod wedi i ni i droi o dros y drws. Gadewch i ni geisio i ddwyn o yn i ol, ac os medrwn ni, mi wneiff well dyn, 'dydw i yn ame dim, na phe base fo erioed heb lithro."

Bu distawrwydd drachefn. Yr oedd Gruffydd yn wylo o hyd. Yr oedd Idwal yn edrych yn graff ar Tomos Dafis, ond nid oedd ddeigryn yn ei lygad o. Edrychai pawb arno yn eu tro, ond nid oedd Idwal yn newid ei wedd nac yn gwingo o gwbl. Yr oedd rhai eisoes yn dechreu teimlo ei fod yn wyneb galed, ac yn haerllug iawn, ac ereill yn rhyw gydymdeimlo âg o, ar eu gwaethaf.

"Oes gen ti rywbeth i'w ddeyd dy hun, Idwal?" ebr William Huws.

"Oes, lawer," ebr Idwal, "ond waeth i mi heb i ddeyd o chwaith."

"Pam? Os oes rhywbeth ar dy feddwl di, dywed o."

"Ie siwr," ebr Tomos Dafis.

"Wel," ebr Idwal, "waeth i mi heb geisio f'amddiffyn fy hun. 'Roeddwn i ar fai. Ond nid ar gymaint o fai ag yr ydech chi yn meddwl ychwaith. Mae'n ddrwg gen i am y meddwi, ond am yr helynt arall, wel waeth i mi dewi."

"Na waeth," ebr William Huws, yn gwta. "Waeth i ni orffen. Gwnewch yr arwydd arferol, bawb sydd o'r farn mai diarddel Idwal a ddylem."

Cododd pawb ei law ond Gruffydd Jones.

"Gruffydd," ebr William Huws, "mi welaf nad wyt ti ddim yn codi dy law. Beth ydi dy reswm di?"

"Fedra i ddim!" meddai Gruffydd, a thorrodd i wylo yn chwerw iawn.

"Wel, mae'r ddau yn hen gyfeillion o'u mebyd," ebr Tomos Dafis.

"Ydyn, 'does mo'r help," ebr William Huws; "ond cymer di ofal, Gruffydd!"

Mewn distawrwydd, torrwyd Idwal allan, a gorffennwyd y cyfarfod yn fyrr gan William Huws ei hun.

Yr oedd hi wedi tywyllu erbyn i'r bobl fynd allan o'r capel. Ar ol siarad â'r blaenoriaid a'i gael ei hun yn rhydd o'r diwedd, rhedodd Gruffydd ar ol Idwal, a daliodd ef ar gwrr y dref yn mynd tua chartref yn araf.

"Idwal," eb efô, "fedri di fadde i mi, dywed?"

"Am be, Guto? Ti oedd yr unig un safodd drosta i."

"Ie, ac mi ddylswn inne gael fy nhorri allan hefo thdi."

"Pam, Guto?"

"Wel, mi wyddost!"

"Na wn i yn siwr. 'Dwyt ti ddim wedi meddwi na dim arall."

"Nag ydw. Ond y bregeth!"

"O, paid a phoeni! Oni bae dy fod di mor gynhyrfus, mi wnaethet un lawer iawn gwell dy hun."

"Na wnaethwn byth."

"O gwnaethet."

"Choelia i ddim, Idwal. Ac 'rydw i wedi eu twyllo nhw i gyd! Mi gyfaddefaf y cwbwl eto."

"Paid a bod yn ffwl. Wnes i ddim ond taclu tipyn ar dy syniade di dy hun, ac yr oedd yn hawdd i mi wneud hynny am fy mod i yn medru cadw fy mhen yn oer. Taset tithe heb fod mor gynhyrfus mi faset yn medru gwneud gwell gwaith na fi ar fy ngore."

"Wyt ti yn siwr, Idwal?"

"O ydw, yn siwr iawn! Dal di ati hi. Wnes i ddim. Paid a bod yn ffwl 'rwan. 'Rwyt ti ar ben y llwybr."

"Ond i ble yr ei di?"

"Wn i ddim. Hwyrach y do i yn fy ol eto. Pwy a ŵyr?"

"Ie, tyrd yn dy ol, Idwal!"

"Idwal," eb efô, "fedri di fadde i mi, dywed?"

"Am be, Guto? Ti oedd yr unig un safodd drosta i."

"Ie, ac mi ddylswn inne gael fy nhorri allan hefo thdi."

"Pam, Guto?"

"Wel, mi wyddost!"

"Na wn i yn siwr. 'Dwyt ti ddim wedi meddwi na dim arall."

"Nag ydw. Ond y bregeth!"

"O, paid a phoeni! Oni bae dy fod di mor gynhyrfus, mi wnaethet un lawer iawn gwell dy hun."

"Na wnaethwn byth."

"O gwnaethet."

"Choelia i ddim, Idwal. Ac 'rydw i wedi eu twyllo nhw i gyd! Mi gyfaddefaf y cwbwl eto."

"Paid a bod yn ffwl. Wnes i ddim ond taclu tipyn ar dy syniade di dy hun, ac yr oedd yn hawdd i mi wneud hynny am fy mod i yn medru cadw fy mhen yn oer. Taset tithe heb fod mor gynhyrfus mi faset yn medru gwneud gwell gwaith na fi ar fy ngore."

"Wyt ti yn siwr, Idwal?"

"O ydw, yn siwr iawn! Dal di ati hi. Wnes i ddim. Paid a bod yn ffwl 'rwan. 'Rwyt ti ar ben y llwybr."

"Ond i ble yr ei di?"

"Wn i ddim. Hwyrach y do i yn fy ol eto. Pwy a ŵyr?"

"Ie, tyrd yn dy ol, Idwal!"

"Mi gawn weld. Hwyrach. Nos dawch, Guto."

"Nos dawch, Idwal."

Aeth blynyddoedd heibio, ac aeth Gruffydd yn ei flaen. Ond nid ymhell. Siomodd bawb yn fuan. Ei bregeth gyntaf oedd ei un bregeth addawol. Cwbl ddilewyrch oedd y lleill i gyd. Ni wnaeth argraff ar neb, a methodd a gwneud dim ohoni yn ei arholiadau. Eto, rywfodd, cripiodd yn ei flaen hyd ei lwybr, a daeth yn bregethwr o ryw fath er gwaethaf pob anhawster. Ond ni byddai byth yn cael galwad, na llawer o gyhoeddiadau ychwaith. Methiant truenus ydoedd, ac ni fedrodd neb byth egluro ei un bregeth lwyddiannus.

Ac Idwal? Aeth o ddrwg i waeth.

Ar lan ei fedd, gweddiodd Gruffydd Jones nes oedd pawb yn wylo, ac aeth a'i ddau blentyn bach amddifad gydag ef oddi yno i'w gartref ei hun.

"Chware teg iddo!" meddai'r bobl.

Vox populi, vox Dei!

VII. YSMALDOD Y SAIS MAWR.

Y MAE llawer blwyddyn er pan ddaeth y Sais mawr i'r ardal i fyw. Pan ddaeth, nid oedd ganddo syniad yn y byd am Gymru na dim Cymreig. Yn wir, nid oedd ganddo y syniad lleiaf fod dim ar wyneb y ddaear yn bosibl ond Sais a Saesneg. Os oedd ganddo ddamcaniaeth ar y pwnc o gwbl, gallem feddwl mai Sais oedd yr hollalluog yn ol ei syniad ef, ac mai Saeson oedd holl bobloedd y byd ar y dechreu, ond eu bod wedi dirywio a mynd yn bechaduriaid mawr a mwy yn ol y radd yr ymbellhasant oddiwrth fod yn Saeson. Felly, pan ddaeth i Gymru a chlywed iaith ddieithr iddo a gweled arferion estron, deallodd ar unwaith fod y Cymry yn bechaduriaid aruthr. Rhaid eu bod. Nid oedd dim arall yn bosibl. A hwy yn byw yn ymyl y Saeson, eto dewisent fod yn Gymry. Yr oeddynt, y rhan fwyaf ohonynt, yn medru rhywfaint o Saesneg, ac eto yn dewis siarad rhyw gawdel o gydseiniaid, fel y tybiai ef, heb ystyr yn y byd iddynt, ac heb fod yn bosibl eu swnio heb i ddyn dorri ei gorn gwddw neu roi ei dafod o'i le.

Wrth gwrs, penderfynodd y Sais ar unwaith nad oedd ystyr yn y byd i'r geiriau a lefarai y Cymry wrth ei gilydd, ac nad oedd bosibl i neb arall, yn enwedig Sais, fyth ddysgu arfer y geiriau diystyr hynny. Nid oedd yno neb yn yr ardal, meddai, a allai siarad yn ddeallus ag o, am nad oeddynt yn medru ond rhyw ychydig Saesneg, digon i son am y tywydd a rhywbeth felly.

Daeth ar ddamwain i gyfarfod âg un neu ddau o Gymry yn medru Saesneg yn weddol rigl, megis y doctor a'r offeiriad, ond yr oedd yn well hyd yn oed gan y ddau hynny siarad Cymraeg, ac yr oedd hynny ynddo'i hun yn profi fod y pechod gwreiddiol yn gryf ynddynt hwythau hefyd, er gwaethaf y Saesneg a'r cwbl.

Ni buasai yntau yn gwneud rhyw lawer â'r ddau hynny mwy nag â'r bobl gyffredin oni bae fod yn rhaid iddo fynd at y doctor weithiau, a bod yn rhyw fath o raid arno yn ol ei syniadau crefyddol ymddwyn o leiaf ychydig yn fwy cwrtais tuagat wr eglwysig. Felly ryw dro, pan oedd wedi mynd at y doctor, aeth yn ymddiddan rhyngddynt ynghylch Cymru a Chymraeg.

"Beth ydyw'ch enw chwi hefyd?" meddai wrth y doctor.

"Cadwaladr Gruffydd," ebr y doctor.

"Gwared pawb!" ebr y Sais, "sut yr ydych yn medru byw gyda'r fath enw?"

"O, wel, yn eitha," meddai'r doctor. "Pa beth yw'ch enw chwithau, syr?"

"Cuthbert Cathcart Strongbridge," ebr y Sais.

"Felly, yn wir," meddai'r doctor, "enw hynod beraidd a hawdd i'w ddywedyd, yn siwr."

"Ie," ebr y Sais, "nid rhyw dwrr o gydseiniaid na fedr neb eu swnio."

"Nage, 'ddyliwn," ebr y doctor.

"Ond rhyw bobl heb ddim digrifwch nag ysmaldod yn eu natur ydych chwi, y Cymry," meddai'r Sais.

"Ie, mae'n debyg," ebr y doctor.

"Ie yn siwr," ebr y Sais, "yn siarad rhyw iaith mor ddychrynllyd fel hyn o hyd. Fum i 'rioed mewn gwlad a'r bobl yn siarad cymaint o'u hiaith eu hun ynddi."

"Aie?" meddai'r doctor. "Fuoch chi 'rioed yn Lloegr?"

" 'Rioed yn Lloegr? Wel do, debyg iawn. Lle'r 'rydech chi yn meddwl mod i wedi bod, syr?"

"O, be wyddwn i," ebr y doctor, " 'roeddwn i yn meddwl—wel, wn i ddim be, wrth gwrs. Mae arna i ofn mod inne, fel fy nghydwladwyr, yn amddifad iawn o bob syniad am ddigrifwch ac ysmaldod."

"Mae'n siwr," meddai'r Sais, "os oeddech chi yn meddwl na fum i erioed yn Lloegr."

"Ie, wel, 'does mo'r help," ebr y doctor.

"Beth ydyw enw y pentref nesaf yma hefyd?" ebr y Sais.

"Pa un, y nesaf ar y dde?"

"Ie siwr."

"O, Llanfairpwllgwyngyllgogerychwyrndrobwllllantysiliogogogoch," meddai'r doctor, gan edrych cyn sobred â sant.

"Y nefoedd fawr!" ebr y Sais. "Y fath dryblith! Wn i ddim sut y mae neb yn medru dywedyd y fath beth, a byw! Dywedwch yr enw eto."

Dywedodd y doctor ef yn bwyllog a difrif fel o'r blaen.

"Ac y mae hwnyna yn enw ar ryw bentref bychan fel yna?" meddai'r Sais mewn syndod.

"Ydyw," ebr y doctor, yntau mewn syndod hefyd.

Ni wyddai y meddyg pa beth a ddygodd y fath beth i'w ben, ond ni chlywodd mo'r enw erioed ei hun o'r blaen. Daeth dros ei wefusau bron ohono ei hun. Synnai fod y fath gasgliad o eiriau wedi taro i'w feddwl o ei hun rywsut, ond yr oedd yn synnu mwy fod neb ar y ddaear wedi cymryd yr ysmaldod o ddifrif.

Yr oedd y Sais Mawr sut bynnag, cyn sobred â sant, ac yn murmur wrtho'i hun, "tremenjus! tremenjus!"

Toc, troes at y doctor.

"Buaswn yn hoffi medru dyweyd y gair yna!" meddai. "Buaswn felly yn torri pob record!"

"Yn ddiameu, i Sais!" ebr y doctor yn ddifrifol.

"A wnewch chwi fy nysgu i, ynte?"

"Wel, gwnaf, os medraf," meddai'r doctor yn ddifrif o hyd.

"O'r goreu!"

Ac am ddyddiau lawer, bu'r Sais yn cerdded i dŷ'r doctor i ddysgu dywedyd yr enw newydd ar Lanfair Pwll Gwyngyll. Wedi hir ymdrech, llwyddodd i ddywedyd rhywbeth heb fod yn hollol anhebyg iddo, ac yna aeth am dro adref i Loegr rhag ei flaen i "dorri'r record." Pan ddaeth yn ei ol, aeth i dŷ'r doctor i ddyweyd yr hanes, a'i hysbysu fod pobl yn Lloegr wedi synnu ato a'i fawr fedrusrwydd. Yr oedd yntau mewn gwirionedd wedi dotio ato ei hun, ac yn dywedyd yr enw yn ei ffordd ei hun bob cyfle a gai. Aeth y son am dano ar led, ac o'r diwedd, gwelodd rhyw Gymro o argraffydd tipyn craffach na'i gilydd fod yn bosibl gwneud arian o'r peth. Argraffodd yr enw ar lain hir o bapur gan ei alw yn gamp i Sais a'i werthu am geiniog, a chyn pen ychydig flynyddoedd gwnaeth ffortun ohono.

Yr oedd y Sais Mawr o hyd yn hawlio yn gryf mai efô oedd y cyntaf i dorri'r record, ac yn dal ati i lefaru'r gair lawer gwaith bob dydd rhag ofn ei anghofio neu golli ei fedr i'w lefaru. Prin yr oedd ganddo unrhyw amcan mewn bywyd ond hynny, a'i un ysmaldod ym mhob cwmpeini lle bynnag y byddai oedd yr enw aruthr hwnnw. Byddai Saeson yn chwerthin am ei ben. A'r Cymry hefyd. Ond nid am yr un rheswm.

Un diwrnod, galwyd yn sydyn ar y meddyg i dŷ y Sais Mawr. Yr oedd yr hen greadur wedi cael ergyd o'r parlys, ac yr oedd y diwedd yn bur agos ato. Buasai fyw yn dda ar hyd ei oes. Yr oedd yr ystumog genedlaethol ganddo. A gwnaeth fwy na chware teg â hi am ran helaeth o'i oes. Buasai farw yn llawer cynt oni bae iddo feddwl am dorri'r record fel y gwnaeth. Tynnodd hynny dipyn o'i sylw oddiar ei ystumog a'r modd i'w bodloni. Ond y mae lle i ofni na ddarfu ond symud y pwys hefyd. Yn lle bod ei ymborth yn bwys ar ei ystumog, aeth y record yn bwys ar ei ben. Ac i'r lle gwannaf y mae popeth yn mynd, wrth gwrs. Pa beth bynnag oedd yr achos, yr oedd y parlys wedi gafael yn y Sais Mawr, o'r diwedd.

Ond nid ar ei leferydd, ond ar ei freichiau a'i goesau. Nid ŵyr y meddyg yn iawn hyd heddyw pa un ai bwyd a diod, ai Llanfair Pwll Gwyngyll, &c., a'i lladdodd.

Yr oedd y meddyg un noswaith yn sefyll wrth erchwyn ei wely. Yr oedd yn amlwg fod y diwedd yn agos iawn. Yr oedd y Sais Mawr yn dawel ae yn ddistaw ers tro, ac yn anadlu'n wannach wannach o hyd. Daethai 'r offeiriad yno rhag ofn y buasai arno eisiau rhyw air o gysur ganddo fo cyn i'r diwedd ddyfod. Ac yr oedd yr offeiriad a'r meddyg yn sefyll un o bobtu i'r gwely, yn edrych weithiau ar y claf ac weithiau ar ei gilydd.

Yn sydyn, rhoes y claf ryw dro anesmwyth, a deallodd y meddyg fod arno eisiau rhywbeth. Plygodd ato, a gofynnodd iddo pa beth a fynnai, ond ni fedrai y Sais Mawr ddywedyd ei feddwl erbyn hyn. Yr oedd ei leferydd wedi mynd yn aneglur, ond tybiodd y meddyg ei fod yn dywedyd rhywbeth tebig i "go—go—god," a meddyliodd y byddai yn well i'r offeiriad geisio deall y claf. Dywedodd wrth hwnnw am geisio.

Plygodd yr offeiriad i lawr a gofynnodd yn garedig i'r Sais Mawr pa beth a fynnai. Ac yna daeth llewyrch rhyfedd i lygad y Sais, a chlywodd y ddau ef yn sibrwd —

"Thlanvairpoolgwynhillgogherikhwirndroboolthlantissiliogogogock!"

A dyna air olaf y gwr mawr hwnnw.

VIII. DARN O FYWYD.

YR oedd y simnai fawr wedi ei gorffen, un o'r rhai mwyaf yn yr holl wlad. Yr oedd mor uchel fel yr oedd edrych arni o'r gwaelod yn ddigon i godi'r bendro ar ddyn.

Yr oedd yr holl ysgaffaldiau wedi eu tynnu i lawr, ac yr oedd un dyn ar ben y simnai, un o'r dynion hynny sy'n medru sefyll mewn lle uchel mor ddi daro âg ar lawr. Yr oedd yn gorffen gosod y wifren oedd yn rhedeg gyda'r simnai o'r brig i'r bôn i dynnu'r mellt ati a'u harwain i'r ddaear rhag difrod i'r simnai. Yr oedd ganddo raff oddi mewn i'r simnai i fynd i lawr pan fyddai yntau wedi gorffen ei waith.

Yr oedd y gweithwyr eraill wrthi yn clirio'r ysgaffaldiau ar y gwaelod, ac ambell un obonynt yn awr ac yn y man yn edrych i fyny tua brig y simnai gan gysgodi ei lygaid â'i law, i weled pa fodd yr oedd y dyn ar y brig yn dyfod ymlaen gyda'i waith.

O'r diwedd, gorffennodd hwnnw ei orchwyl. Cododd ar ei draed, safodd ar ymyl y simnai, tynnodd ei gap a gwaeddodd "Hwre!" Gwaeddodd y dynion ar lawr "Hwre!" yr un modd, gan chwifio eu capiau hwythau.

Yr oedd y dyn ar y brig yn un mentrus. Grwaeth na hynny, yr oedd yn un gorchestol. Safodd ar yr ymyl, ar ei untroed, a'i droed arall allan dros y dibyn a'i law ar led yn chwifio ei gap, a'r llaw arall yn pwyso ar ei ystlys, yn ddi-daro.

Troes amryw o'r dynion oedd ar lawr eu golygon draw rhag edrych arno. Yr oedd fel pe buasai yn herio ffawd yn y fath le, ac wrth wneud y fath branc. Gwelodd yntau ei fod yn rhoi braw iddynt. Chwarddodd, a dechreuodd ddawnsio ar yr ymyl, a throi o gwmpas rhimyn cul y simnai, mor chwim a di-daro ag aderyn.

"Cymer ofal, Wil!" llefodd un o'r dynion oedd ar lawr, "cymer ofal rhag ofn iti syrthio!"

Ond yr oedd Wil yn ei elfen, chwarddodd drachefn, a daliodd ati i brancio ar ben y simnai nes oedd ei gydweithwyr yn dechreu mynd yn sal eu calon wrth ei weled.

Yna, yn sydyn, daeth cyfnewidiad dros Wil. Yr oedd wedi plygu i lawr i edrych i mewn i'r simnai, ac yna wedi codi a sefyll, ac yr oedd bellach yn edrych yn syn ar y dyfnder tano.

Pa beth oedd wedi digwydd?

Clywyd llais Wil yn dyfod i lawr o'r uchter, —

"Be wna i 'rwan, hogia? Mae'r rhaff wedi rhedeg i lawr!"

Dychrynwyd hwy i gyd ar y cyntaf. Pa fodd y doi Wil i lawr? Nid oedd ond un ffordd am dani. Rhaid codi'r ysgaffaldiau i gyd yn eu holau! Gwaeddasant arno fod yn llonydd yno, a dechreuasant ddyfod a'r coed a'r rhaffau ar eu holau at fôn y simnai.

Y funud honno, dechreuodd pobl dyrru i'r lle o'r pentref ger llaw. Yr oedd yr hanes wedi ymledu yn gyflym, ac yr oedd y bobl mewn dychryn wrth edrych i fyny a gweled lle'r oedd y dyn, heb foddion yn y byd i ddyfod i lawr oddi yno. Gwyddent am orchestion y dyn, ond yr oeddynt yn awr yn dechreu meddwl ei fod wedi "ei gwneud hi," ac wedi mynd i le rhy beryglus hyd yn oed iddo yntau fedru dyfod ohono yn ddiogel. Yr oeddynt yn sefyll yn dyrrau o gwmpas ac yn siarad â'i gilydd yn ei gylch, yn rhyw hanner distaw, fel y bydd pobl yn siarad mewn claddedigaeth neu o gwmpas gwely dyn ar farw.

Drwy eu canol, rhedodd dynes a hogyn bychan i'r lle. Yr oedd yn amlwg fod y ddynes mewn cryn gyffro, ond pan welodd hi Wil yn eistedd yn dawel ar ymyl y simnai a'i droed drosodd, tawelodd hithau hefyd.

"Wedi bod yn chware castie gwirion fel arfer y mae o?" meddai hi.

"Ie, y rhaff wedi rhedeg," ebr un o'r dynion ger llaw.

"Be wnewch chwi 'rwan, ynte?" ebr hi.

"Codi'r ysgaiffaldie yn ol," meddai'r dyn. "Beth arall wnawn i?"

Safodd y ddynes o'r neilltu, yn syn.

Gwraig Wil oedd hi. Yr oedd yr hogyn bach wedi bod yn chware o gwmpas drwy'r dydd. Teulu crwydr oeddynt, ac nid oedd y plentyn yn mynd i'r ysgol. Pan welodd y bychan pa beth oedd wedi dyfod i ran ei dad, rhedodd adref ar ei gyfer a dywedodd wrth ei fam pa beth oedd wedi digwydd. A daeth hithau yno rhag blaen, er mai prin y disgwyliai fedru gwneud dim ond edrych ar Wil yn ei berigl ymhen y simnai.

Yr oedd y dynion wrthi yn brysur yn paratoi at ail godi'r ysgaffaldiau. Pa beth arall oedd i'w wneud? Llafur mawr, a hynny o achos gwrhydri gwyllt y dyn ar y brig!

"Yr hen benbwl gynno fo!" ebr un o'r dynion.

"Ie," meddai un arall, "mi fase'n hawdd ddigon iddo fo golli gafel i draed a dwad i lawr ar i ben."

"Base, ag eitha gwaith a fo, mewn rhyw ffordd hefyd!"

"Ie. Edrych mor ddi-daro y mae'r cena yn y fan acw!"

Tra'r oedd yr ymddiddan yn mynd ymlaen, yr oedd y ddynes wedi eistedd ar ddarn o bren ger llaw.

Bu hi unwaith yn ddynes hardd, yr oedd yn amlwg. Yr oedd ganddi wallt melyngoch hir a chyrliog, ond ei fod wedi colli ei ddisgleirdeb oherwydd bod yn hir heb ei olchi a'i gribo. Yr oedd ganddi lygaid gleision prydferth, ond yn awr, yr oedd cleisiau duon oddi tanynt. A'r dyn oedd ar frig y simnai a roes y cleisiau iddi hefyd, yn ei ddiod y nos Sadwrn cynt. Nid oedd hi eto ond dydd Mercher, ac nid oedd y cleisiau wedi colli eu lliw dugoch. Yr oedd Wil yn eithaf dyn yn sobr. Ond gwae bawb rhagddo yn ei ddiod.

Yn sydyn, cyfododd y wraig ar ei thraed ac edrychodd i fyny ar ei gwr yn yr uchter mawr.

Dododd ei dwylaw un o bobtu i'w genau a gwaeddodd, —

"Wil! Wil!"

"Be sydd?" ebr yntau, gan blygu uwch ben y dyfnder.

"Pa sane sydd gen ti?"

"Y sane gwlan newydd rheiny."

"O'r gore. 'Roeddwn i yn meddwl. Oes gen ti gyllell?"

"Oes?"

"Wel, tyn dy esgid."

Tynnodd Wil ei esgid a thaflodd hi i lawr, nes oedd yn ymgladdu mewn swp o dywod wrth odre'r simnai.

"Yrwan, tyn dy hosan," meddai'r wraig.

Tynnodd Wil ei hosan, ond yr oedd yn amlwg na wyddai pa beth oedd ym meddwl ei wraig.

" 'Rwan," ebr hithau, "cymer dy gyllell a datod flaen yr hosan a thyn yr ede allan dipyn."

Gwnaeth Wil felly.

"Dyna ti," ebr y wraig. " 'Rwan, cymer dy gyllell a rhwyma hi wrth flaen yr ede, a gollwng hi i lawr yn ara deg. Cymer ofal, 'rwan, y penbwl!"

Gwnaeth Wil fel y gorchmynnwyd iddo, a dechreuodd y gyllell ddyfod i lawr yn araf.

Tra yr oedd hyn yn digwydd, galwodd y wraig ar yr hogyn, a dywedodd rywbeth wrtho. Gwelwyd yr hogyn yntau yn carlamu ymaith yn ddioed.

Cyn pen ychydig eiliadan, yr oedd y gyllell wedi cyrraedd y llawr, a'r gweddill o'r hosan oedd heb ddatod yn llaw Wil ar ben y simnai.

"Feder o byth dynnu'r rhaff i fyny gerfydd yr ede wlan yna!" meddai un o'r gweithwyr ar lawr.

"Na feder, siwr," ebr y ddynes, "ond rhoswch chi funud —"

Ar hynny carlamodd yr hogyn i'r lle yn ei ol, a phellen o linyn go gryf yn ei law.

"Dyna fo i'r dim!" ebr y wraig, gan gipio'r bellen o law yr hogyn.

Datododd y gyllell oddi wrth flaen yr edef, a rhwymodd flaen y llinyn wrthi.

Yna, cododd ei phen a gwaeddodd ar ei gŵr —

" 'Rwan, Wil, benbwl, tyn y llinyn yma i fyny atat!"

Tynnodd Wil y llinyn i fyny yn chwyrn, ac wedi iddo gael ei ben i'w law, stopiodd.

" 'Rwan ynte," ebr y wraig, "ble mae y rhaff honno!"

Dygwyd y rhaff iddi rhag blaen, a chylymodd hithau hi wrth flaen y llinyn.

"Tyn hi i fyny 'rwan, ynte, y catffwl gen ti!" ebr hi.

A thynnodd Wil y rhaff i fyny eto i ben y simnai.

Pan gafodd afael ar y rhaff, neidiodd ar ei draed ar ben y simnai drachefn, dawnsiodd o gwmpas yr ymyl, safodd ar ei untroed fel o'r blaen, a'i gap yn un llaw a'r rhaff yn y llall, a gwaeddodd a'i holl egni —

"Hwre i'r hen wraig, myn cebyst hefyd!"

A gwaeddodd y dynion ar lawr dair hwre egniol i'r "hen wraig."

Yr oedd hithau yn sefyll ar y darn pren a'i breichiau ymhleth, heb wên ar ei hwyneb. Cododd ei llais yn sydyn.

"Wil," ebe hir, "tyrd i lawr, y cena gwirion gen ti. 'Rydw i wedi achub dy fywyd di chwe gwaith yrwan. Wna i ddim eto, fel mai byw fi!"

Cyn pen dau funud, diflannodd Wil y tu mewn i'r simnai, ac ymhen eiliad neu ddau wedyn, yr oedd ar lawr yn ymyl ei wraig.

"Myn cebyst!" ebe fo, "wyddost ti be, Catrin, mae'n aflwydd o gwilydd i mi fod wedi duo dy lygada di fel yna, ydi, tawn i'n marw y munud yma! Tyrd, wna i byth eto!"

A chan ruthro ati, taflodd ei freichiau am dani, a chusanodd ei hwyneb hanner glân yn ffyrnig ac yn hir.

Ac edrychodd y bobl ar y ddau mewn syndod.

IX. Y BARDD.

‟Y BARDD" y byddem i gyd yn ei alw yn y siop. Yr oedd rhywbeth yn debyg i fardd yn ei olwg, a dyna sut y cafodd yr enw. Yr oedd yn hurt ac yn syn, a phan ddywedech rywbeth wrtho, caech ateb hollol chwithig yn aml. Felly, galwasom ef yn "Fardd."

'Doedd o i hun ddim wedi meddwl i fod yn fardd cyn hynny ychwaith. Ar y dechre, 'doedd o ddim yn leicio'r enw, ond prin y bu ddeuddydd nad oedd o wedi'n credu ni. Hynny ydi, yr oedd wedi llwyr benderfynu mai bardd oedd o.

Gyda'i fod o wedi credu i fod yn fardd, cafodd allan fod i daid yn arfer gwneud rhigymau yn amal iawn, a bod i dad unwaith wedi bod yn astudio'r cynghaneddion, ond i fod o wedi rhoi'r gore iddi yn rhy fuan o lawer, a hynny yn bennaf am nad oedd ganddo amser.

Mwy na hynny. O'r dydd y credodd i fod o yn Fardd, ni thorrodd "Y Bardd" byth mo'i wallt. Yr oedd o braidd yn hir o'r blaen, ond cyn pen y mis, yr oedd ganddo wallt a fuasai'n gredyd i Archdderwydd unrhyw ddydd. A 'doedd dim byd i'w gael ganddo wedyn ond son am wneud englynion, a dywedyd rhyw eiriau gwirion wrthych, a'r rheiny yn ateb i'w gilydd, rywsut. Meddai fo. Ni byddai neb arall yn clywed eu bod yn ateb i ddim.

Wel, o'r diwedd, cafodd Y Bardd ryw lyfr yr oedd o yn i alw yn "Ysgol Farddol," a dyna lle'r oedd o a'i drwyn yn hwnnw o hyd. Bu agos iddo golli i le lawer gwaith o achos y llyfr hwnnw, canys byddai y meistr yn ei ddal o a'i drwyn ynddo yn lle bod wrth ei waith.

Bu wrthi gyda'r llyfr hwnnw am fisoedd, sut bynnag. Pan aem ni i gysgu, byddai y Bardd wrthi gyda'r llyfr, a phan ddeffroem yn y bore, dyna lle byddai yn darllen y llyfr o hyd. Nid wn i ddim yn iawn a fyddai yn cysgu ai peidio. 'Doedd dim i'w gael ganddo ond son am ryw reolau a phethau felly, nes oedd pawb ohonom wedi diflasu arno, ac yn gofidio yn arw ein bod wedi ei berswadio i gredu ei fod yn fardd. Ond 'doedd mo'r help bellach. Yr oedd o wedi credu. Ac ni buasai dim yn y byd yn ei argyhoeddi i'r gwrthwyneb. Dyna'r drwg i ddyn gredu ei fod yn fardd. Ni fynn byth newid ei feddwl wedyan. A fo yn gyffredin fydd yr unig un heb ei newid ar y pen hwnnw. Felly yr oedd Y Bardd.

O'r diwedd, meddyliodd un ohonom am ddull i geisio symud tipyn arno. A dyna oedd y dull hwnnw, gofyn iddo wneud englyn, yn lle son am danynt fyth a hefyd. Cafodd y peth argraff fawr arno a dywedodd yn y fan y gwnae o un y noswaith honno, os cai hwyl, neu os doi yr awen ato, fel y dywedodd i hun.

Bu ar i draed drwy'r nos, ond erbyn y bore, 'doedd yr englyn ddim yn barod. Ni ddoi yr awen ddim, eb efô. Felly, bu raid rhoi ail gynnyg arni. Do, a thrydydd a phedwerydd hefyd, a chwaneg na hynny. Bu ar i draed bob nos am wythnos gyfa, ac o'r diwedd, fore'r seithfed dydd, dyma fo atom, a'i lygaid yn goleuo gan lawenydd ac athrylith.

"Yr ydw i wedi gorffen yr englyn o'r diwedd!" eb efô.

"Aie?" eb un ohonom, "gad i ni i glywed o, ynte."

"Na chewch," ebr y Bardd yn fawreddog, "chewch chi mo'i glywed o, na'i weld o ychwaith nes bydd o mewn print."

"Mewn print?" eb un arall, "pwy printiff o, dywed? Wyt ti am i wneud o yn llyfr?"

Chwarddodd y Philistiaid gennym, ond edrychodd Y Bardd yn ddifrifol iawn, a dywedodd yn urddasol fod ei englyn ef yn sicr o gael ei brintio.

"Ym mhle, dywed?" ebr un o'r criw.

"Yn Y Lleuad, dyna lle bydd o," ebr y Bardd, "yng ngholofn farddonol Y Lleuad, sydd dan olygiaeth y Bardd Cadeiriol Pastynfardd."

Edrychasom oll arno gyda chryn syndod erbyn hyn. Tybed mewn difrif y byddai englyn Y Bardd yn Y Lleuad, o dan olygiaeth Pastynfardd? Yr oeddym braidd yn ameu a oedd y fath beth yn bosibl, ac yn dechreu rhyw led dybio y gallai ein bod wedi dyfod o hyd i fardd wedi'r cwbl, er mai o fregedd yr oeddym ni wedi rhoi'r enw arno.

Gwelodd Y Bardd ein bod yn synnu, a dywedodd yn ddifrifol i fod wedi ysgrifennu'r englyn ar ddarn o bapur te a'i ddanfon i Pastynfardd, golygydd barddonol Y Lleuad.

"Mi fydd i mewn yr wythnos nesaf, yn siwr i chi," meddai, "englyn i'r Ysgol Sul ydi o."

Wel, bu disgwyl mawr ar hyd yr wythnos honno. Yr oedd Y Lleuad yn codi—hynny ydi, yn dyfod allan ar ddydd Mercher. Ac fel yr oedd y diwrnod yn nesu, yr oedd Y Bardd yn mynd yn fwy urddasol o hyd. Prin y gwrandawai arnom ni, yr hogiau ereill, yn siarad, ac ni ddeuai cymaint a gwên dros ei wyneb pan ddywedem rywbeth mwy neu lai digrif. Yn ystod yr wythnos honno, rhoes sebon i bobl yn lle siwgr, ac oel paraffin yn lle ymenyn. Aeth i'w wely heb dynnu am dano un noswaith, a dododd ei wasgod o tan ei grys un bore. Ni bu erioed y fath ddisgwyl.

O'r diwedd, daeth dydd Mercher.

Brecwest? Na, ni chyffyrddodd Y Bardd damed o fwyd y bore hwnnw, nac o ginio ychwaith.

'Roedd Y Lleuad yn dyfod allan yn y prynhawn, tua thri o'r gloch, ac fel yr oedd yn digwydd bod, yr oedd Y Bardd wrthi yn gwneud neges rhywun i fyny ar y pryd. Cododd ei olwg arnaf fi pan glywodd y cloc mawr yn taro tri, a deallais innau ei feddwl. Gan fy mod yn rhydd, allan a mi i nol copi o'r Lleuad, er ei fwyn ef a phawh arall ohonom. Nid allasai neb byth anufuddhau i'r apel fud oedd ar ei wyneb pan edrychodd arnaf fi wrth glywed y cloc yn taro tri. Yr oedd yr un fath a'r apel a welsoch yn llygad ambell gi ar dro.

Rhedais i siop Huw Chwe Cheiniog i nol y Lleuad, ac yn fy ol â mi a'r trysor yn fy llaw, heb feiddio ei agor ar y ffordd. Erbyn i mi gyrraedd, yr oedd y siop yn llawn, a'r Bardd wrthi yn tendio ar Marged Jones y Geg Fawr, un o'r merched mwyaf anodd i'w phlesio yn y greadigaeth yma.

Gwelodd Y Bardd fi yn llithro i mewn, a bwriodd olwg arnaf, golwg cymysg o awydd a phoen, o deimlad da ataf fi ac o gasineb marwol at Marged Jones y Geg Fawr. Yr oeddwn yn cydymdeimlo ag ef hefyd. Nid oedd raid i ddyn fod ar frys am weled ei waith mewn print er mwyn dymuno gweled y Geg Fawr yn mynd ymaith—, i'r lle fynnoch chi.

Y tro hwnnw, bu'r Geg Fawr wrthi yn waeth nag arfer. Yr oedd arni eisiau pob math o bethau, a'r Bardd druan yn rhedeg yn ol a blaen ac yn cymysgu pethau yn ddiobaith o hyd, ac yna yn rhoi ei ddwy law ar y cownter, yn plygu tipyn ar ei ben at un ochr, ac yn gofyn, "Rhywbeth arall, os gwelwch chi yn dda," a'r wên fwyaf drychiolaethus ar ei wyneb llwyd.

Ond o'r diwedd, fel popeth arall yn y byd hwn, fe ddarfu chwedl y Geg Fawr, ac o dipyn i beth, cliriodd y siop. Bellach, daeth y cyfle. Yr oedd Y Bardd i weled ei waith mewn print, ac yr oeddym ninnau i gyd i gael clywed yr englyn i'r Ysgol Sul.

Tyrasom i ben draw'r siop at Y Bardd. Yr oeddym oll yn dal ein gwynt bron. Yr oedd wyneb Y Bardd yn welw a'i wefusau a'i ddwylaw yn crynu. Estynnais y papur iddo, ond yr oedd ei deimladau yn rhy gynhyrfus iddo fedru ei agor ei hun. O leiaf, yr oedd ei ddwylaw yn rhy grynedig.

"Darllen di o, Wil," meddai wrthyf fi, gan estyn y papur i mi yn ol.

Cymerais innau'r papur ac agorais ef, a throais at y tu dalen lle'r oedd y farddoniaeth.

Yr oedd pawb yn dal eu gwynt.

Rhedais fy llygaid i lawr hyd y golofn. Nid oedd yno ddim barddoniaeth i'r Ysgol Sul.

" 'Does yma ddim englyn i'r. Ysgol Sul," meddwn, gan edrych ar Y Bardd.

Gwelwodd ei wyneb dipyn mwy nag o'r blaen.

"O, hwyrach eu bod nhw wedi ei gadw fo tan yr wythnos nesa," ebr Y Bardd. "Edrych yn nhop y golofn, ydi'r golygydd ddim yn deyd rhywbeth am yr englyn?"

Edrychais innau, ac yn wir, gwelwn baragraff am yr englyn.

"Ydi, mae o'n deyd rhywbeth," meddwn.

"Darllen o," ebr Y Bardd, a'i wyneb yn troi'n goch fel y tân.

Darllenais innau'r paragraff, fel y canlyn, —

"Yr Yagol Sul. Mae'r bardd hwn wedi ysgrifennu ei rigwm ar lun englyn, ond nid oes ynddo na synnwyr na chynghanedd. Cynghorem yr awdwr i beidio â cholli rhagor o amser gydâ'r gelfyddyd, gan fod yn amlwg nad ellir bardd ohono."

Cyn i mi orffen, disgynnodd Y Bardd ar ei hyd ar lawr fel darn o bren. Yr oedd ei wyneb yn ddu las, a bu raid i ni daflu llond bwced o ddwfr am ei ben cyn iddo ddyfod ato ei hun. Medrwyd ei berswadio i dorri ei wallt drannoeth, a rhoi'r "Ysgol Farddol" ar dân. Ac erbyn hyn, y mae o yn berchen busnes mawr a llawer o arian, ac y mae yn ustus heddwch ac yn un o ddynion blaenaf y sir.

X. CI DAFYDD TOMOS.

FFERMWR bychan oedd Dafydd Tomos, yn byw ar ystad y Gaer ac yn talu crogrent am ei dipyn tir. Y pryd hwnnw, yr oedd ar denantiaid ystad y Gaer ofn y meistr tir a'i ystiward fel gwyr â chleddyfau, ac o'r holl denantiaid i gyd, Dafydd Tomos oedd y mwyaf ei ofn a'i waseiddiwch hefyd, os rhaid dywedyd y gwir yn blaen. Dyn bychan, arafaidd a gochelgar dros ben oedd Dafydd Tomos, mab i dad a wnaed yn gynffonllyd drwy ormes, ac yntau drachefn yn fab i dad yr un fath. Yr oedd oesau o ddioddef gormes wedi gwneud y teulu yn salach a mwy dianibyniaeth hyd yn oed na'r cyffredin,—yr oedd ofn a gwaseiddiwch yn eu gwaed, megis. Hen lanc oedd Dafydd, a'i chwaer Catrin yn cadw ei dŷ. Pe buasai yn wr priod a chanddo blant, hwyrach y buasai ynddo dipyn mwy o asgwrn cefn, ond fel yr oedd, nid oedd gan Dafydd odid amcan mewn bywyd amgen na cheisio cadw y ddysgl yn wastad i'w feistr tir a'i ystiward.

Byddai ar holl ffermwyr yr ardal fwy neu lai o ofn y meistr tir a'r ystiward, fel y dywedwyd, ond nid cymaint fel na feiddient eu rhegi rhyngddynt a'i gilydd, a dywedyd pethau beiddgar am danynt, yn enwedig ar ddiwrnod ffair neu farchnad, ar ol cael llymed neu ddau o gwrw cartref yn nhafarn y Cwch Gwenyn. Ond am Dafydd Tomos, ni chlywyd erioed mono ef yn rhegi ei ormeswyr, nac yn dywedyd gair am danynt hyd yn oed pan fyddai ar ddamwain wedi yfed yn o helaeth. Gweithiai Dafydd yn galed o naill ben y flwyddyn i'r llall; byddai wrthi yn hwyr ac yn fore; bywiai yn gynnil iawn, a chrafangai bob ceiniog ynghyd o bob man y gallai; prin y cai ei chwaer ddigon o fwyd a dillad ganddo. Ac eto, nid cybydd oedd Dafydd ychwaith. Hel y rhent ynghyd yr ydoedd. Os byddai ganddo swllt neu ddau yn weddill ar ol talu'r rhent, ni byddai ganddo wrthwynebiad i'w wario ei hun ar dipyn o gwrw neu i'w roi i'w chwaer at gael deunydd ffedogau neu rywbeth felly. Ac anaml iawn y byddai gan Dafydd geiniog dros ben y rhent.

Tŷ a beudai to gwellt oedd ar fferm Dafydd, a'r rhai hynny heb eu taclu na'u trwsio ers blynyddoedd lawer. Yr oedd y gwellt ar do'r tŷ wedi braenu nes oedd yn wir yn debycach i domen dail nag i do gwellt. Ni ofynnodd Dafydd erioed am do newydd ar ei dŷ, a buasai'n lled sicr o gael ei droi o'i ffarm pe buasai yn gofyn. Dyma a ddigwyddodd i fwy nag un o'i gymdogion pan feiddiasant gwyno fod eu tai yn anghymwys i neb fyw ynddynt—trowyd hwy ymaith a chwanegwyd y tir at ffermydd ereill, pa un bynnag a oedd ar y ffermwyr hynny eu heisiau ai peidio. Felly, gwell gan Dafydd Tomos fyw yn yr hen gwt budr a thomen dail yn lle to iddo, na gorfod gadael yr hen gartref a mynd i fyw i rywle arall.

Yr oedd Dafydd yn ddyn eithaf caredig yn ei ffordd, cyhyd ag na byddai raid i'w garedigrwydd fynd yn groes i'w ofn rhag ei feistr tir. Os digwyddai hynny, ni byddai wiw disgwyl am unrhyw garedigrwydd oddiar ei law. Cred ei gymdogion am dano oedd y buasai yn gwerthu ei chwaer ei hun cyn y buasai yn rhedeg i'r perigl o dynnu gwg ei feistr tir am ei ben. Hwyrach fod pobl yn dywedyd felly am nad oedd rhyw lawer o dda rhwng Dafydd â'i chwaer yn gyffredin. Byddent yn ffraeo yn barhaus, ac un rheswm am hynny oedd fod Beti Tomos gryn lawer yn fwy anibynnol na'i brawd. Yn wir, byddai Dafydd mewn ofnau parhaus rhag i rai o ddywediadau cras Beti ei chwaer gyrraedd i glustiau y meistr tir neu yr ystiward. Nid oedd ddeilen ar dafod Beti, ac nid oedd ganddi ddaint rhag ei thafod ychwaith. Dywedai pa beth bynnag a ddeuai i'w meddwl yn hollol wyneb agored a byddai Dafydd yn aml yn ddigllon iawn wrthi am hynny.

Rhwng popeth, gŵr go ddi-gyfaill ydoedd Dafydd Tomos. Prin yr oedd ei gymdogion yn ei gymryd o ddifrif, ac yr oedd ei chwaer ei hun yn ei ddirmygu oherwydd ei lyfrdra.

"Yr hen gadi," ebr hi wrtho yn fynych iawn, "yr hen gadi gen ti! Rhaid i ni wneud pais iti, ond y munud y rhoi di hi am danat, mi fydd yn bryd i ninne y merched wisgo clos!"

"'Rwyt ti'n gwisgo clos eisoes, Beti, wedyn taw a dy swn!" meddai Dafydd.

"Yn wir," meddai Beti, "mae'n dda iawn i ti fod gen ti rywun i'w wisgo fo!"

Ni byddai waeth i Dafydd heb daeru â'i chwaer, ac mewn gwirionedd yr oedd arno ofn gwneud hynny. Pan ddechreuai Beti ei ffraeo, y peth goreu y gallai efô ei wneud fyddai ei gwadnu ymaith rhag blaen, a mynd i chwilio am Pero, ei gi.

A Phero, y ci, oedd unig gyfaill Dafydd Tomos. Cymerodd y ci ef dan ei nawdd mewn dull lled anghyffredin. 'Roedd Dafydd wedi mynd i'r ffair un tro, ac wedi yfed yn o helaeth, ar gost cymydog yn fwy nag ar ei gost ei hun. Rywsut neu gilydd, aeth Dafydd allan o'r dafarn a chrwydrodd tua'r stablau. Yno, cysgodd, am oriau lawer, ac erbyn iddo ddeffro, dyna lle yr oedd y ci yn gorwedd yn ei ymyl, ac yn barod i draflyncu pwy bynnag a ddeuai yn agos ato. Aeth y ci gydag ef adref. Ar y cyntaf, yr oedd Dafydd braidd yn awyddus i'w droi ymaith, gan na wyddai sut i gael digon o fwyd iddo, ond ni fynnai Pero fynd ymaith, a'r diwedd fu i Dafydd Tomos ac yntau fynd yn gyfeillion mawr. Ni byddai wiw i neb osio gwneud dim i Dafydd os byddai Pero yn agos, ac yr oedd son fod Dafydd fwy nag unwaith wedi mentro amddiffyn ei gi rhag cam driniaeth.

Bu'r ddau felly yn gyfeillion am flynyddoedd lawer. Byddent gyda'i gilydd bob amser. Os gwelid Dafydd yn unman, gellid bod yn sicr fod Pero yn agos, a lle bynnag y byddai Pero, ni byddai Dafydd byth ymhell. Ni fwytâi Dafydd byth bryd o fwyd heb ei rannu â Phero, ac nid yfai hyd yn oed lasied o gwrw heb gynnyg llymed i'r ci. Nid oedd dda gan Bero mo'r cwrw, ond ni wrthodai byth gymryd arno ei brofi er mwyn plesio Dafydd. Pan fyddai Dafydd yn mygu ei bibell, eisteddai Pero ar lawr o'i flaen i edrych arno, cystal a dyweyd fod arno yntau eisiau pibell, ac o'r diwedd dysgodd Dafydd ef i gario pibell rhwng ei ddannedd. Byddai pobl yr ardal yn ei ystyried yn beth digrif iawn weled Dafydd Tomos a Phero yn mynd bob un a'i bibell yn ei geg. Ni byddai dybaco ym mhibell Pero, mae'n wir, ond byddai'n rhaid iddo ei chael bob amser pan fyddai Dafydd yn mygu.

Un diwrnod, cafodd Pero flas ar ddal cwnhingod. Yr oedd yn bechod ar ffarmwr ddal cwnhingen y pryd hwnnw, a chafodd Dafydd Tomos fraw mawr pan welodd Pero yn dyfod tuag ato a chwnhingen rhwng ei ddannedd. Meddyliodd am saethu'r ci, druan, yn y fan, ond troes ei galon yn sal gyda bod y peth wedi mynd drwy ei feddwl. Tybiodd mai gwell fyddai iddo ei werthu neu ei roi i rywun yn hytrach na'i ladd. Ond ni fedrai ddygymod ychwaith â'r meddwl am werthu Pero na'i roi i neb arall. Ceisiodd obeithio na ddaliai Pero ddim rhagor o gwningod, ac nad oedd neb hyd hynny wedi ei weled yn dal rhai. Ond wedi cael blas arni, nid oedd Pero am roi'r goreu iddi. Prin yr oedd diwrnod yn mynd heibio heb i Pero ddyfod â chwnhingen neu ddwy i Dafydd Tomos. Ac ni wyddai Dafydd ar y ddaear pa beth i'w wneud. Meddyliodd drachefn y byddai raid iddo saethu Pero neu ynte ei werthu neu ei roi. Un noswaith, wedi i'r ci ddal dwy gwnhingen a'u dwyn at y ty, aeth Dafydd i'w wely yn dra chythryblus ac ofnus. Yr oedd rhywbeth fel pe'n dywedyd wrtho fod Pero wedi tynnu ar ei ben yr hyn y bu efô yn ei ofni ar hyd ei oes—dialedd y meistr tir. Yr oedd y ceidwad helwriaeth yn sicr o fod wedi gweled Pero yn cario un o'r cwnhingod at y ty, ac felly yr oedd hi ar ben ar Dafydd Tomos druan.

Bu Dafydd yn effro tan y bore, yn ceisio penderfynu pa beth i'w wneud â Phero. Wedi meddwl a meddwl, daeth o'r diwedd i'r penderfyniad mai yr unig beth i'w wneud oedd ei werthu os cai rywbeth am dano, ac os na chai, fod yn rhaid ei roi i rywun. Cododd o'i wely yn y bore wedi penderfynu, ond cyn pen yr awr yr oedd wedi torri ei benderfyniad drachefn.

"Be' gebyst oedd arna i?" meddai wrtho ei hun, "sut na baswn i wedi meddwl o'r blaen am roi cadwyn am ei wddw fo, a'i gadw fo rhag mynd i grwydro?"

Wedi i'r syniad hwn ddyfod i'w feddwl, bu Dafydd yn llawer tawelach, a rhoed coler am wddw Pero, a rhwymwyd ef wrth gadwyn yn ddi-oed. Bu felly am rai wythnosau, heb gael bod yn rhydd ond pan fyddai yn mynd gyda Dafydd i hel defaid neu rywbeth felly. O dipyn i beth, aeth ofnau Dafydd yn llai,: a chai Pero fwy o ryddid drachefn, ond ni wnaeth well defnydd o'i ryddid nag o'r blaen. Y cyfle cyntaf a gafodd, aeth ati i ddal cwningod drachefn, a'r tro hwn daeth pethau i ben.

Yr oedd y ceidwad helwriaeth wedi gweled Pero yn dal cwnhingod, ond er pan gadwasai Dafydd ef wrth gadwyn, nid oedd wedi cael cyfle i'w saethu. Un diwrnod, yr oedd Dafydd wedi mynd i edrych am y defaid, a Phero gydag ef. Gofalai gadw y ci yn ei olwg o hyd, ond rywfodd, wrth ddychwelyd tuag adref, anghofiodd am funud, a rhedodd Pero ar ol cwnhingen. Clywodd Dafydd ef toc yn cyfarth yn y pellter, troes ei ben, a gwelodd ef yn rhedeg gyda chlawdd cae beth pellter oddiwrtho. Yr oedd Dafydd ar fedr chwibanu arno pryd y gwelodd bwff o fwg, clywodd glec, a gwelodd Pero yn rhoi naid i'r awyr, gwegian yn ei flaen am gam neu ddau, ac yna yn syrthio ar lawr.

Heb betruso munud, rhedodd Dafydd tuag ato, ac wrth fynd, gwelodd geidwad yr helwriaeth yn cerdded ymaith a'i wn ar ei ysgwydd.

Cyrhaeddodd Dafydd at Pero o'r diwedd, yn ddigon buan i weld ei lygad yn cau a'r chwythad olaf bron a'i adael.

"Pero!" ebr Dafydd, a chrec yn ei lais.

Agorodd Pero ei lygad ac edrychodd ar ei gyfaill, gyda golwg drist, erfyniol, cystal a dywedyd wrtho pa beth oedd wedi digwydd a gofyn iddo ddial ei gam.

Tyngodd Dafydd ac yna, penlinodd yn ymyl ei gi a'i gyfaill. Yr oedd gwaed yn llifo o'i ystlys, ac ym mhen eiliad neu ddau, yr oedd Pero wedi marw. Wylodd Dafydd uwch ei ben, yna cododd a chariodd o yn dyner yn ei freichiau adref. Torrodd fedd iddo yn yr ardd a chladdodd ef yn barchus. Wedi ei gladdu, bu'n sefyll yn hir uwch ben ei fodd, ae yna, caeodd ei ddwrn, a dywedodd,—

"Yfory!"

Drannoeth yn gynnar, yr oedd Dafydd wrth ddrws tŷ Sion Huws, heliwr pennaf y pentref. Daeth Sion i'r drws, ac wedi ymddiddan byrr, aeth Dafydd ymaith â gwnn Sion Huws ar ei ysgwydd. Aeth ar draws y caeau, ac wedi cyrraedd man neilltuol, safodd. Toc, daeth y ceidwad helwriaeth i'r golwg, a chi mawr, ci tan gamp a gwerth arian mawr, ym marn ei feistr, gydag o. Cododd Dafydd ei wnn, anelodd, a saethodd. Syrthiodd y ci gwerthfawr wrth draed y cipar, a bwled drwy ei galon. Cerddodd Dafydd ymaith heb ddywedyd gair.

Do, collodd Dafydd ei ffarm, ond bu fyw yn llawn gwell ar ol hynny. Ac y mae son am ei orchest yn yr ardal hyd heddyw.

XI. CATRIN LEI BACH FAWR.

HEN wraig blaen iawn ei ffordd oedd Mari Huws, a rhyfeddol o blaen ei hymadrodd hefyd. Perthyn i'r oes o'r blaen yr oedd hi, rywsut ym mhob peth, ac eto yr oedd ei merch, Catrin, fel petasai wedi ei dwyn i fyny yn y dull diweddaraf a gwychaf ym mhob ystyr. Y gwir oedd mai bywyd caled iawn a gawsai—byw ar fara llaeth a chrystiau sychion, rhedeg yn droednoeth yn yr haf a gwisgo clocsiau yn y gaeaf. Ond yr oedd rhywbeth yn falch yn yr eneth erioed. Hyd yn oed yn droednoeth neu yn ei chlocsiau, yr oedd bob amser yn lân a thrwsiadus, ac yn cerdded o gwmpas fel pe buasai yn ferch sgwier y plas ac nid yn ferch ei weithiwr distadlaf. Fel yr oedd yr eneth yn dyfod yn hŷn, yr oedd yn rhaid iddi fynd i weini, ac felly yr aeth yn ddigon ieuanc hefyd. I'r Plas yr aeth i ddechreu, wrth gwrs, gan fod ei thad yn gweithio ar yr ystad, ac felly yn ei ystyried ei hun radd yn uwch na gweithwyr ffermwyr a labrwyr cyffredin yr ardal. Y mae'n debyg mai oddiwrth ei thad y cafodd y ferch ei balchter, canys yr oedd rhyw fath o falchter yn yr hen ddyn, druan. Fel yr awgrymwyd, ymfalchiai ei fod yn gweithio ar ystad yr Ysgwier, a chyfrifai fod hynny yn ei godi uwchlaw ei debyg. Pan aeth ei ferch i weini i'r Plas, ystyriai fod hynny yn anrhydedd mawr arno, a sarhaodd fwy nag un o'i gydnabod drwy awgrymu gymaint gwell oedd ei ferch ef na'u merched hwy oedd yn gweini gyda ffermwyr a phobl gyffredin felly. "Lei Bach Fawr" y byddai'r cymdogion yn galw yr hen greadur, ond Mari Huws y byddai pawb yn galw yr hen wraig. Yr oedd hi yn hollol groes i'w gŵr ym mhob ystyr.

"Dyma ti, Lias," meddai hi wrtho un noson, fel y byddai'n dywedyd yn aml, "mae gen ti ormod o gynffon i bethe'r Plas 'na o lawer. I be'r wyt ti'n tynnu dy gap iddyn nhw bob amser, ac yn digio dy gymdogion drwy ryw hen stumie gwirion yn eu cylch nhw? Wyt ti 'run mymryn mwy dy barch wedi'r cwbwl ganthyn nhw."

"Ond cofia dithe, Mari," meddai Lei yn ei dro, "mae arnyn nhw yr yden ni yn dibynnu am y'n tamed—."

"Tamed, wir!" ebe Mari Huws, "mi fase yn o ddrwg arnon ni am damed yn elo dy ddeuddeg swllt yn yr wythnos di, mi rof ngair iti! Lle base'n tamed ni oni bae mod i yn golchi tipyn ac yn manglo a smwddio dillad? Yn wir, mae'n edifar iawn gen i na faswn i wedi gneud iti fynd i weithio at y ffarmwrs ers talwm, a golchi tipyn yn chwaneg fy hun, gael i ni fod fel rhyw bobol erill, yn lle dawnsio tendans i hen dacle'r Plas yna o hyd o hyd!"

"Wel," meddai Lei, "waeth iti gyfadde na pheidio 'mod i o leia yn cael gwaith cyson ar hyd y blynydde ynte, yn lle bod weithie fel hyn ac weithie fel arall."

"Wyt, yr wyt yn cael gwaith cyson, mae'n wir," meddai Mari, "ond yr wyt ti wedi mynd yn un garfaglach wrth ostwng dy arre i ddiolch am dano fo, ac y mae dy law di yn amlach wrth dy gap nag yn unman arall, yr hen gynffon gen ti!"

"Paid a rhygnu a rhygnu fel yna o hyd, da thi," meddai Lei yn druenus, "oni bae fod yr eneth wedi cael mynd i'r Plas, fase hi ddim cystal arni hi ag ydi hi heddyw, a fase hi ddim yn cael mis o rodio fel mae hi yn cael, fel 'roedd hi yn deyd yn ei llythyr ddoe."

"O, ie, mae hi yn dwad adre i bwyso arnom ni am fis eto," ebr Mari, "yn lle bod hefo'i gwaith fel y byddwn i yn 'i hoed hi—."

"Ond mae'n siwr fod yn, dda gen ti wel'd dy ferch dy hun yn dwad adre fel ledi?" meddai Lei.

"Mi fase yn llawer gwell gen i ei gweld hi yn dwad heibio ar 'i ffordd i odro ne nol dwr," ebr Mari, "a ffedog fras o'i blaen, ac ol gwaith ar 'i dwylo hi, dyna'r cwbwl iti!"

"Rhag cwilydd iti son fel yna am dy ferch dy hun!" ebr Lei, yn gas.

"Dy ferch di ydi hi," ebr Mari, " 'does dim tebyg i'w mam ynddi. Ar fy ngair i, pan oedd hi adref y llynedd, mi allaset feddwl na fuo hi 'rioed yng Nghymru, efo'i Saesneg a'i llediaith, ac os bydd hi'r un fath eleni cheiff hi ddim croeso yma, mi gymraf fy llw iti!"

"Wel, wel," ebr Lei, ac aeth allan gan weled nad oedd ond ofer iddo ddadlu â Mari yn hwy.

Fore drannoeth, daeth Catrin adref, a'i chariad o Loegr hefo hi. Pan gyrhaeddasant y stesion, galwodd Catrin ar Dic Morus, oedd yn disgwyl am rywun gyda'i gerbyd, i gario ei phethau a'i chariad a hithau o'r stesion at y ty.

"Chi gwbod lle mae tad fi yn byw?" ebr Catrin wrth Dic.

Gwyddai Dic yn dda, ond dododd ei law wrth ei gap, edrychodd yn ddifrifol, ac atebodd,—

"Rhoswch chi, ma'm, ai nid merch y Sgwier o'r Plas ydech chi?"

"Nage, nage!" ebr Catrin, "fi dim merch i'r Sgwier chwaith."

"Wel, merch y person, ynte," ebr Dic, gan gyffwrdd ei gap drachefn.

"Nage!" ebr Catrin, braidd yn flin.

"Wel," meddai Dic yn ostyngedig, " 'does yma neb arall yn yr ardal yma yn gwisgo mor grand, ac yn siarad mor garpiog â chi."

"Ceuwch y'ch hen geg, y cena hy gynnoch chi!" ebr Catrin gan anghofio ei llediaith a'i chariad yn ei gwylltineb.

"Ho dyna well!" meddai Dic Morrus, "rhoswch chi, ai nid merch Lei Bach Fawr ydech chi, deydwch—."

Cyn iddo gael gorffen, yr oedd Catrin wedi rhoi iddo ergyd ar draws ei warr â'i hymbarelo, ac yn dechreu ei flagardio nerth ei phen, mewn cystal Cymraeg ag a glywyd nemor dro yn y lle. Neidiodd Dic i'w gerbyd, cydiodd yn ei chwip ac yn yr afwynau.

"Ga'i 'ch dreifio chi, Miss?" meddai. "Deuswllt ydi'r pris, ac os na neidiwch chi i fewn a thewi, mi fydd holl bobol y pentre yma yn gwrando arnoch chi yn union!"

Gwelodd Catrin fod Dic yn dweyd y gwir, a chan beidio â ffraeo yn sydyn, heliodd ei chariad a'i phaciau i'r cerbyd, ac aeth i mewn ar eu holau. Cleciodd Dic ei chwip gan wenu, ac ymaith a hwy drwy ganol y twrr pobl oedd yn dechreu hel o gwmpas i wel'd yr helynt.

Ac wrth basio, clywodd Catrin y geiriau "Merch Lei Bach Fawr, yn siwr i chi, hefyd!"

Ond cododd Catrin ei thrwyn i'r awyr, a chymerodd arni beidio â'u clywed. Yr oedd y cariad—dyn bach o Sais lled ofnog a diniwed,—wedi synnu at Catrin yn taro Dic Morus â'i hymbarelo, ac at ei chlywed hithau yn siarad iaith nas deallai ef, a hynny mor llithrig. Ar y ffordd mentrodd ofyn iddi am eglurhad.

"O," meddai Catrin, "un felly ydi'r hen gabmon yma, os na fyddwch chi yn gas wrtho, wneiff o ddim byd yn iawn."

"Ac 'roeddech chi yn siarad rhyw iaith ddiarth âg o—'roeddwn i yn meddwl y'ch bod chi yn deyd na fedrech chi ddim o'r iaith honno y maent yn ei siarad mewn rhai lleoedd yng Nghymru."

"Wel," ebr Catrin, "fedra i moni hi yn iawn, felly, er fod fy nhad a fy mam yn ei medru."

Pan ddaethant at y drws, daeth Mari Huws allan.

"Hylo," meddai, "ac yr wyt ti wedi dwad, 'ddyliwn. Pwy ydi'r creadur hyll yna sydd hefo ti?"

" 'Rwan, mam," meddai Catrin, gan siarad yn isel rhag i'r cariad ei chlywed, " 'rwan, mam, rhag i chi ddifetha bywyd y'ch merch, ceisiwch fod yn o neis 'rwan. Dyma 'nghariad i —."

"O, a dyma dy gariad ti, aie?" meddai Mari Huws.

Yn ei hofn, torrodd Catrin ar draws ei mam, ac ebr hi, —

"Mother, this gentleman is Mr. Smith, to whom I am engaged, as you know —."

"Be' rwyt ti yn i baldar, dywed?" ebr Mari Huws. "Be' 'wyt ti yn clebran yn Saesneg wrtha i? 'Rydw i yn dallt yn burion be' ddeydist ti, ran hynny, ond waeth i ti heb ddisgwyl i mi dwyllo'r dyn, na waeth, 'run mymryn, yr hen ffolog gen ti! Dywed wrtho sut bobol ydan ni, ne mi ddeyda i fy hun wrtho, gwnaf, myn f' einioes i —."

"Mam, mam!" ebr Catrin, heb wybod pa beth i'w ddywedyd na'i wneud.

"Be' sydd arnat ti 'rwan?" ebr Mari Huws, wrth weled Catrin yn dechreu wylo.

"Mae'n gwilydd gen i trosoch chi, mam" meddai Catrin.

"Cwilydd, aie?" ebr Mari Huws, "cwilydd gen ti drosta i, aie? Mae'n gwilydd gen i drosot ti, yn siwr, yn hudo thyw greadur fel hyn i'r fan yma i beri trafferth ac i dynnu pobol i siarad am danom ni!"

Torrodd Catrin i wylo, yn fwy o ddigofaint na dim arall.

"What is it all about, my dear?" meddai'r Sais bach, braidd yn ofnus.

Ni wyddai Catrin pa beth i'w ddywedyd, ond teimlodd ei bod ar ben arni, ac mai y tro ffolaf a wnaeth yn ei hoes oedd gadael i'w chariad fynd gyda hi adref. Eto, yr oedd digon o ddyfais ym mhen Catrin, ac ni bu yn ol o wneud y goreu o'r gwaethaf. Dywedodd wrth y Sais fod ar ei mam eisieu iddi briodi rhyw ddyn cyffredin o'r ardal, a'i bod wedi gwylltio wrth ei gweled hi yn dyfod ag ef gyda hi, megis ar waethaf ei mam.

"Ond waeth gen i beth ddywed fy mam," ebr hi, "y chi fynna i tra mynnwch chi fi!"

"Dowch gyda fi oddi yma, fy nghariad i," ebr Smith druan, ac aeth yn ol i'r cerbyd. Aeth Catrin ar ei ol yntau.

"Da b'och chi, mam, welwch chi byth mona i eto," medda hi.

"Be' wyt ti'n i ddeyd?" ebr Mari Huws. "Wela i byth monat ti eto, aie? Pwy ddeydodd wrthat ti fod arna i eisio dy weld di, tybed? Cymer ofal na ddoi di byth yma eto hyd nes byddi di wedi colli dy lediaith, ac hyd nes byddi di yn cofio pwy wyt ti. Mae'n chwith gen 'y nghalon i feddwl mod i wedi magu dy sort di erioed, mi rof fy ngair iti!"

Ac aeth Mari Huws i'r tŷ i wylo yn ddistaw, er na fynasai am y byd i neb ei gweled. Parodd Smith i Dic Morus ddreifio yn ol rhag blaen i'r stesion, a gwnaeth yntau hynny, gan chwerthin yn ei lewis, a sibrwd wrtho ei hun,—"Myn cebyst, dynes o'r sort ore ydi'r hen Fari Huws wedi'r cwbwl!"

Pan ddaeth Lei Bach adref y noswaith honno, yr oedd wedi clywed yr hanes i gyd—nid oedd neb yn yr ardal nad oedd yn gwybod fod Catrin Lei Bach Fawr wedi dyfod adref a chariad o Sais gyda hi, a bod Mari Huws wedi gwrthod gadael iddynt fynd i'r tŷ, a'u bod hwythau wedi mynd gyda'r tren rhag blaen.

" 'Rwyt ti wedi gyrru'r eneth i ffwrdd am byth," meddai Lei yn sobr, "welwn ni byth moni hi eto."

"Paid a meddwl mai dy galon di yn unig sy'n drom," meddai Mari Huws.

"Ddaw hi byth yn ol!" ebr Lei, gan dorri i wylo.

"Peidied hithe, ynte, os na ddaw hi adre yn ei synhwyre fel rhyw eneth arall ebr Mari, gan gnoi ei gwefus rhag wylo ei hun.

A phan ddaeth Catrin adref wedyn, nid oedd arni na llediaith na balchter. Daeth adref yn weddw dlawd a thri phlentyn ganddi, ac wedi colli ei hiechyd ei hun. Ac y mae Mari Huws, hithau yn weddw bellach, yn dal i olchi a smwddio i gadw Catrin a'i phlant.

"Mae hi'n debyg i rywbeth 'rwan!" ydyw geiriau Mari.

XII. CARIAD DICO BACH.

NI byddem yn cyfrif Dico Bach yn union fel rhywun arall. Nid oedd unrhyw goll arbennig arno, ond yr oedd yn rhyw ddiniwed. Crydd ydoedd wrth ei alwedigaeth, a gweithiai mewn siop lle cedwid amryw gryddion.

Yr adeg honno yr oedd pobl Cymru yn gwisgo esgidiau lledr wedi eu gwneud gartref yn lle rhai papur wedi eu gwneud yn Lloegr. Felly, yr oedd gan Dafydd Roberts y crydd waith i gryn bedwar neu bump o gryddion drwy'r flwyddyn. Yno y gweithiai Dico Bach er pan oedd yn hogyn; ac yr oedd yn hoff iawn gan ei gydweithwyr, gan ei feistr, a chan bawb a'i hadwaenai.

Creadur bychan a rhyw draed drwg ganddo ydoedd Dico. Wrth ei weled yn cerdded o bell, gallasech feddwl ei fod wedi meddwi, gan drysgled y rhodiai, ond ni feddwodd Dico erioed. Yr oedd yn ddirwestwr mawr. Yr oedd ganddo wyneb crwn, a gwên arno bob amser, a theimlai yn hynod falch o'r ychydig fiew melynion a dyfai ar ei wefus uchaf. Pa beth bynnag yr ymaflai Dico ynddo, byddai yn selog dros ben gydag o. Yr oedd yn perthyn i'r capel, ac ni byddai gyfarfod na byddai Dico yno yn gyson. Yr oedd yn aelod o'r côr, yn un o'r dynion oedd yn canu bas, ac ni bu gyfarfod canu erioed er pan gychwynnwyd y côr na bu Dico yno.

Gyferbyn â'r siop lle'r oedd Dico yn gweithio yr oedd siop ddillad. Siop fechan ddigon diolwg ydoedd, yn dwyn yr enw mawreddog "London House." Un gaeaf, daeth geneth ieuanc o rywle o'r De i weini i'r siop hon. Gwneud hetiau a boneti oedd ei gwaith, a byddai yn eistedd wrth ffenestr oedd gyferbyn â ffenestr siop weithio'r cryddion. Geneth hardd anghyffredin oedd hi, dal a syth, a chanddi gyflawnder o wallt melyn tonnog, a chroen glân clir. Gwelodd Dico hi y diwrnod cyntaf y cymerodd ei lle wrth y ffenestr, a syrthiodd mewn cariad â hi rhag blaen. Y noswaith honno, cafodd allan ym mha le yr oedd hi yn lletya, a'i bod yn mynd i'r un capel âg yntau. Wrth fynd adref i'w ginio, byddai Dico yn cychwyn ar hyd yr un stryd â hi, ac os na byddai hi yn y golwg, arhosai Dico o gwmpas nes deuai, yna gadawai iddi hi fynd yn gyntaf, a chanlynai hi nes ai i'w llety. Yna troai Dico yn ei ol tua'r cwrt bychan tlodaidd lle'r oedd ei gartref yntau. Dechreuodd wneud hyn yn ddioed ar ol dyfodiad yr eneth ieuanc—Miss Jenkins oedd ei henw—i'r dref. Ar y Sul, byddai Dico er yn fore yn gwylio llety Miss Jenkins. Pan welai hi yn dyfod allan, ciliai yntau o'r golwg nes iddi basio, yna cerddai ar ei hol tua'r capel, gan ei chadw mewn golwg o hyd. Wrth fynd o'r capel gwnai yr un modd, a phrynhawn a hwyr yr un fath. Newidiodd ei sedd yn y capel er mwyn cael lle mwy manteisiol i'w gweled hi yno, Weithiau, byddai Miss Jenkins yn esgeuluso mynd i'r capel ar fore Sul, a'r prydiau hynny, deuai Dico i'r gwasanaeth yn hwyr bob amser, wedi bod yn disgwyl nes ei mynd mor hwyr fel y byddai'n sicr nad oedd Miss Jenkins yn dyfod.

Cyn hir aeth Miss Jenkins i berthyn i'r côr, ac felly cafodd Dico un cyfle yn rhagor i'w gweled. Gwyliai hi a chanlynai ar ei hol yr un fath wrth fynd a dyfod ar yr achlysuron hynny hefyd. Aeth hyn ymlaen am rai wythnosau os nad misoedd heb i neb sylwi arno, er fod yr eneth ei hun wedi sylwi fod Dico bob amser yn cerdded ar ei hol pan fyddai hi yn mynd i'w chinio a phan fyddai'n mynd i'r capel neu i'r cyfarfod canu. Yr oedd arni radd o'i ofn ar y dechreu, ond gan ei fod yn edrych yn beth mor ddiniwed ac na ddywedodd air wrthi erioed, ni chymerodd ragor o sylw o hono, a thybiodd hwyrach mai damwain oedd ei fod yn cerdded ar ei hol. Wrth weled hynny yn digwydd mor hir ac mor gyson, meddyliodd am holi pwy oedd Dico, ond gadael iddo a wnaeth.

Gan fod Miss Jenkins yn eneth mor hardd, yr oedd ganddi ddigon o edmygwyr yn y dref yn fuan, ac yr oedd agos bob dyn ieuanc oedd yn perthyn i'r capel a'r côr yn barod i fynd i'w danfon adref pan fynnai. Ond yr oedd Miss Jenkins dipyn yn falch, a chan mai chwarelwyr a llafurwyr oedd y rhan fwyaf o fechgyn y capel a'r côr, ni fynnai hi wneud dim â hwy ond yn unig ddywedyd nos dawch neu rywbeth felly wrth eu pasio, pan ddywedent hwy rywbeth wrthi hi. Felly, ni byddai neb byth yn ei danfon adref, ond Dico, a byddai yntau bob amser yn cerdded ar ei hol o fewn ychydig lathenni iddi.

Un bore Sul, yr oedd Dico wedi disgwyl yn hir am ei gweled hi yn dyfod allan o'r tŷ, ac yr oedd bron a rhoi'r goreu i ddisgwyl yn hwy, gan feddwl na ddeuai hi ddim; ond pan oedd ar gychwyn ymaith, gwelodd hi yn dyfod trwy'r drws. Ciliodd Dico, fel arfer, ac ar ol iddi hi basio, aeth yntau yn ei flaen. Yr oedd hi yn digwydd bod yn fore gwlyb, a'r ffordd yn fudr iawn, ac wrth fynd yn ei brys, gollyngodd Miss Jenkins ei llyfr emynnau o'i llaw, nes rholiodd i'r gwter.

Cyn iddi allu troi bron i'w godi, yr oedd Dico yno, er ei drysgled ar ei draed. Cododd y llyfr, tynnodd ei gadach sidan coch goreu o'i logell, sychodd y llyfr yn ofalus, ac yna tan wenu yn siriol, estynnodd ef i Miss Jenkins. Gwenodd hithau arno yntau, ac wrth dderbyn y llyfr, dywedodd "Diolch yn fawr i chi," ac aeth yn ei blaen.

Yr oedd yn ychydig ddigon i'w ddywedyd am y fath weithred a spwylio'r cadach sidan yn y fargen, ond yr oedd Dico wrth ei fodd. Yr oedd ei galon yn neidio yn ei fynwes gan hapusrwydd, a'i lygaid yn disgleirio drwy'r dydd.

Ond daeth cwmwl i'w ffurfafen yntau. Daeth dyn ieuanc i'r dref yn brentis o dwrne. Yr oedd hwn yn wr ieuanc o foddion, ac yn gryn lanc ym mhob ystyr. Ai yntau i'r un capel a Miss Jenkins, a chyn hir disgynnodd ei lygaid arni fel yr eneth harddaf yn y dref. Penderfynodd Harri Puw—canys dyna enw y gŵr ifanc—gael ysgwrs â hi, ac ni bu yn hir cyn cael y cyfle. Hoffodd yr eneth, ac, yn wir, hoffodd hithau yntau, neu yn hytrach, hoffodd o ei phryd a'i gwedd hi, a hoffodd hithau ei foddion a'i safle yntau. Ac felly, cyn hir, yr oedd Harri Puw a Miss Jenkins yn dra chydnabyddus a'i gilydd. Nid oeddynt wedi bod yn rhodio o gwmpas gyda'i gilydd, dim ond siarad wrth y capel neu pan ddigwyddent gyfarfod ar yr ystryd.

Eto, yr oedd Dico wedi eu gweled yn siarad y tro cyntaf, ac wedi deall fod gwrthwynebydd peryglus iddo ar y maes. Parodd hynny boen ac anesmwythder mawr iddo, ond ni pheidiodd a gwylio a chanlyn ar ol ei eilun o hyd fel o'r blaen.

Cyn hir, sut bynnag, cafodd Dico ergyd fwy poenus fyth. Un nos Sul yr oedd yn gwylio am ddyfodiad Miss Jenkins. Daeth yr amser arferol, ond ni ddaeth hi allan o'r tŷ. Disgwyliodd Dico yn hir, a phan oedd ar roi'r goreu iddi, clywodd y drws yn agor, a gwelodd hithau yn dyfod. Ciliodd o'r neilltu, ac yna canlynodd hi. Er ei syndod, pan gyrhaeddodd Miss Jenkins y tro at ystryd y capel, aeth hyd y ffordd arall. Teimlai Dico mai ei ddyledswydd oedd mynd i'r capel; ond ar ol Miss Jenkins yr aeth. Canlynodd hi o'r dref i gwrr y wlad, ac yn y fan honno, gwelodd rywun—dyn ieuanc—yn dyfod i'w chyfarfod, ac yn stopio i siarad ac ysgwyd llaw â hi. Yr oedd calon Dico yn curo yn gyflym iawn. Disgwyliai o hyd weled y dyn yn dyfod yn ei flaen a Miss Jenkins yn mynd y ffordd arall. Ond yn lle hynny, aeth y ddau yr un ffordd, ac ym mreichiau ei gilydd hefyd; a phan oeddynt yn pasio heibio lamp gerllaw, gwelodd Dico mai Harri Puw oedd y dyn ieuanc.

Ac aeth adref ac i'w wely. Bu yno yn druenus iawn nes oedd yn amser dyfod o'r capel. Yna cododd ac aeth i gornel yr ystryd i ddisgwyl. Bu yno am ddwyawr yn rhynnu yn yr oerfel a'r glaw, ond nid aeth Miss Jenkins heibio. Aeth Dico tuag adref drachefn, ond wrth y drws, troes yn ol ac aeth ar hyd yr ystryd lle'r oedd hi yn lletya.

Gwelodd oleu mewn un ffenestr yno, ac yna aeth adref.

Aeth amser heibio, a daeth y son fod Harri Puw a Miss Jenkins yn mynd i briodi. Clywodd Dico yr hanes; ond rywfodd nid allai gredu ei fod yn wir. Daliodd ati o hyd i wylio a chanlyn ar ol Miss Jenkins o hirbell, heblaw pan welai Harri Puw gyda hi. Ac yr oedd Miss Jenkins erbyn hyn wedi dyfod i wybod am edmygedd mud Dico, ac wedi dywedyd wrth Harri Puw hefyd. Mynnai y gŵr bonheddig hwnnw ei "gicio i'r ffos" ryw noson; ond ni fynnai Miss Jenkins mo hynny.

"Mae o yn ffwl digon diniwed," meddai, a chwarddodd y ddau yn galonnog am ben Dico druan.

Cyn hir, priodwyd Harri Puw a Miss Jenkins, a bu raid i Dico gredu'r hanes pan welodd y briodas yn dyfod o'r capel, a'r ddeuddyn ieuanc yn edrych yn hapus a llawen iawn gyda'i gilydd. Aeth Dico adref y noson honno, a thrannoeth teimlai yn rhy sal i godi o'i wely. Bu yno am wythnos neu naw niwrnod yn rhyw ddihoeni, ond nid oedd dim afiechyd yn y byd arno, ebr y meddyg, hyd y gallai o ddeall.

Un noswaith, ym mhen rhyw naw niwrnod, cododd Dico gyda'r hwyr, ac er gwaethaf ei fam, aeth allan am dro. Aeth yn wysg ei drwyn i'r wlad, ac ar draws y caeau. Yr oedd hi yn wanwyn, a'r tywydd yn deg a'r dydd yn hwyhau.

A'r diwrnod hwnnw y daethai Harri Puw a'i wraig adref o'u mis mel, ac yr aethant i'w cartref newydd ar gwrr y dref. Ni wyddai Dico mo hynny.

Cerddai Dico yn ei flaen yn araf hyd y llwybr, a thoc, clywodd weiddi mawr yn un o'r caeau ar y dde iddo. Aeth i ben y gwrych i edrych a gwrando, a gwelodd ddyn a dynes yn rhedeg nerth eu traed tua'r gwrych, a tharw cynddeiriog ar eu holau. Yr oedd y dyn ar y blaen i'r ddynes ymhell, ac yn rhedeg â'i holl egni. Cyn pen yr eiliad, yr oedd dros y gwrych ychydig lathenni oddiwrth Dico.

A gwelodd Dico mai Harri Puw ydoedd.

Y funud nesaf, yr oedd Dico yn y cae ac yn rhedeg â'i holl egni i gyfarfod y tarw gwyllt. Pasiodd y ddynes ef toc ar ffo tua'r gwrych.

"Rhedwch!" ebr Dico, ac yn ei flaen âg ef i gyfarf od y tarw.

A rhedodd Mrs Puw am ei hoedl, ac aeth dros y gwrych, a chafodd hyd i'w gŵr yn y ffordd, led dau gae ym mhellach, yn ei disgwyl.

Fore drannoeth, yn gynnar, yr oedd yr hanes ar led yn y dref fod tarw Plas Draw wedi lladd Dico Bach, a'u bod wedi cael ei gorff ar y cae.

XIII. ARAITH DAFYDD MORGAN.

DAETH Dafydd Morgan yn sydyn i sylw mawr yn Llanygeiniog. Dyn cyffredin, fel y dywedir, ydoedd Dafydd, ond ei fod yn ddyn cyffredin go anghyffredin hefyd. Gweithiai yn y chwarel fechan oedd yn agos i Lanygeiniog, ac yr oedd yn adnabyddus yno fel dyn go ddigrif erg blynyddoedd, ond nid oedd neb ond y chwarelwyr yn gwybod rhyw lawer am dano. Un diwrnod, sut bynnag, daeth digwyddiad mawr i ran Dafydd Morgan. Ciafodd arian mawr o'r Siawnsri, a daeth rhag blaen yn ddyn o bwys yn y dref. Er fod yno amryw ddynion gweddol gefnog yn byw yn y dref, yr oedd Dafydd Morgan ar ol ei lwc yn ablach na neb o honynt.

Wrth gwrs, rhoes Dafydd y goreu i weithio yn y chwarel rhag blaen, ac i roi arbenigrwydd ar yr achlysur ac er mwyn dangos ei deimladau da at ei hen gydnabod, rhoes ginio ardderchog i'r chwarelwyr oll yn y Llew Coch, prif dafarn y dref. Yr oedd yn naturiol i rai o'r prif ddynion fod yn awyddus am fynd i'r cinio hwnnw, canys yr oedd Dafydd bellach yn ddyn nad ellid yn hawdd esgeuluso bod ar delerau da âg ef. Felly, llwyddodd amryw o fasnachwyr a phobl gefnog y dref i gael gwahoddiad i'r cinio, ac yn ystod y gweithrediadau, buont yn siarad yn ol eu harfer wrth gynnyg iechyd da'r Brenin a'i deulu, y fyddin a'r llynges, yr offeiriaid a'r gweinidogion, a Dafydd Morgan a'i deulu, a llwyddiant tref a masnach Llanygeiniog. Pan feddyliodd am y swper gyntaf, nid oedd gan Dafydd syniad yn y byd y byddai pethau fel hyn yn angenrheidiol. Ni bu erioed mewn cinio cyhoeddus o'r blaen, ac ni wyddai yr arferion. O'i ran ei hun, ni buasai yng nghinio'r chwarelwyr ddim ond bwyta ac yfed mewn distawrwydd, ond yr oedd y bobl fawr a wahoddwyd yno wedi meddwl am wneud y peth yn deilwng, ac wedi cynnyg i Dafydd yr aent hwy yn gyfrifol am wneud yr holl drefniadau. Mewn ffordd, yr oedd yn dda gan Dafydd gael rhywun i edrych ar ol, ac ymddiriedodd y mater yn llwyr i'r bobl fawr oedd yn arfer â phethau o'r fath, sef tri neu bedwar o'r prif fasnachwyr, yr offeiriaid, a dau neu dri o bobl yn byw ar eu harian, rhai o honynt hefyd yn aelodau o gyngor y dref. Gwnaethant hwythau bopeth yn drefnus, a dewisasent rai o'u plith eu hunain i gynnyg iechyd pawb oedd i gael ei anrhydeddu.

Ni wyddai Dafydd ddim am y trefniadau, er ei fod yno fel llywydd, wrth gwrs. Ar ol dechreu y dywedodd rhai o'r gwŷr cyhoeddus wrtho amcan pa beth oedd i ddigwydd, ac yr oedd Dafydd wedi synnu braidd, ond ni ddywedodd ddim yn erbyn y pethau a drefnwyd gan ei gyfeillion newyddion.

Yn y lle priodol, cynhygiwyd iechyd da'r Brenin a'i deulu, y fyddin a'r llynges, yr offeiriaid o bob math, ac yfwyd yn galonnog, a rhywun yn ateb dros y naill a'r llall, ond y Brenin, wrth gwrs. O'r diwedd, daethpwyd at y prif beth, sef cynnyg iechyd da Dafydd Morgan ei hun.

Cododd un o'r masnachwyr ar ei draed, a dywedodd fod ganddo orchwyl hynod bleserus i'w wneud, sef cynnyg iechyd da Mr. Morgan. Teimlai yn sicr y byddai pawb yn cydweled âg ef wrth iddo ddywedyd fod Mr. Morgan yn un o gymwynaswyr goreu y dref. Ar ol dyfod i feddiant o'r cyfoeth oedd yn gyfiawn eiddo iddo, yr oedd wedi cofio ei hen gyfeillion a dangos ei barch tuag atynt. Yr oedd hefyd yn wahanol i lawer wedi prynn tŷ yn y dref a phenderfynu byw yno a chefnogi masnach gartref yn hytrach na mynd ymaith i dreulio ei gyfoeth. Mewn amser, yr oedd o yn sicr y byddai Mr. Morgan yn cymryd dyddordeb blaenllaw yn amgylchiadau cyhoeddus y dref, ac y ceid y budd o'i brofiad a'i allu ar gyngor Llanygeiniog. Un fantais fawr o feddu eiddo ydoedd y gallai ei berchennog roddi ei wasanaeth yn rhad ac yn rhwydd i'w wlad ac i'w dref, ac yr oeddynt oll yn ddiameu yn sicr y byddai i Mr. Morgan wneud hynny hefyd. Ar ol dywedyd llawer o bethau tebyg, cynhygiodd y siaradwr "Iechyd da Mr. Morgan," ac yfwyd ato gyda hwyl a chymeradwyaeth fawr.

Yr oedd Dafydd Morgan wedi ei blesio yn fawr, ond ni wyddai fod yn ddyled arno ateb hyd nes dywedodd un o'i gyfeillion gwybodus wrtho. Ar ol iddo ddeall fod yn ofynnol iddo wneud araith, cododd Dafydd ar ei draed yn araf ynghanol cymeradwyaeth fyddarol, ac edrychodd o'i gwmpas yn fodlon. Ni wyddai ar y ddaear pa beth i'w ddywedyd, ond pan dawodd y gymeradwyaeth, gwelodd fod yn rhaid iddo ddywedyd rhywbeth, a dechreuodd arni rhag blaen.

"Wel," eb efô, "yr hen ffrindie sydd yn fy nabod i er pan oeddwn i yn hogyn ac yn ffrindiol hefo fi pan oeddwn i yn y chwarel yn faw ac yn rhwbel, a chithe y ffrindie newyddion fuo mor garedig a dwad i fy nabod i mor dda ar ol i mi gael yr arian, mae'n dda iawn gen i 'ch gweld chi yma fel hyn wrth y byrdde yma yn cael llond y'ch bolie am unweth, o leia, a barnu wrth fel rydech chi'n claddu'r trugaredde yma o'r golwg. Yn enwedig y saim paen yna, fel maen nhw yn i alw fo,—wn i ar y ddaear pam chwaith. Wel, 'doeddwn i ddim yn disgwyl am yr arian yma, ond gan eu bod nhw wedi digwydd i mi, rydw i am drio gneud y gore ohonyn nhw, wrth reswm. Roedd Mr. Jones y Siop Ucha yn deyd mod i yn un o gymwynaswyr gore'r dref yma. Wel, er na fum i ddim yn delio yn i siop o hyd yma, rydw i yn ddiolchgar iddo fo am i air da, ac mi alla ddeyd wrtho fo rwan nad anghofia i ddim fod gynno fo siop, rwan ar ol i mi gael arian. O'r blaen, fyddwn i ddim yn mynd yno am fod i bethe fo dipyn yn ddrud, er eu bod nhw yn dda iawn, mae'n siwr. Deyd yr oedd o hefyd fy mod i wedi cofio fy hen gyfeillion a dangos fy mharch tuag atyn nhw. Wel, do, ac mi faswn yn fy nghyfri fy hun yn rhyw gadi ffan garw petaswn i yn eu hangofio nhw, welwch chi. Mi fuon yn eitha ffrindie i mi, a pheidio â son am ambell i ffrae o dro i dro, ar hyd y blynydde, cyn i mi drwy lwc ddwad yn ddigon o ddyn i gael ffrindie erill. Ond er mod i wedi cael rhai newyddion, peidiwch a meddwl mod i am dawlu'r hen rai heibio, chwaith. Na, rydw i am gofio mai hen chwarelwr oeddwn i cyn fy ngeni, fel tase, ac mai dyna fydda i ar ol fy nghladdu hefyd. Deyd yr oedd Mr. Jones hefyd fy mod i wedi prynu tŷ yn y dref a chefnogi masnach gartref hefyd. Wel, mae hynny yn wir, os oes rhyw ddaioni ynddo. Well gen i fyw yma nag yn unman arall, am y rheswm nad wn i fawr am unlle ond yma; ac am fasnach gartre, wel, fel y deydis i o'r blaen, mae gen i rwan ddigon o fodd i dalu chwaneg i Mr. Jones am bethe, os ydyn nhw yn wir yn well na phethe rhatach. Fydda i yn meddwl ond ychydig o'r bobol yma sy'n mynd a'u harian i ffwrdd i'w gwario, ac 'rydw i yn gobeithio y bydd siopwrs y dref yma o hyn allan yn cadw stwff cartre—yn enwedig brethyn—yn lle rhyw stwff sal o rywle o Loegr ne ryw wlad arall. Os oeddwn i yn i ddallt o yn iawn, 'roedd Mr. Jones yn rhyw led awgrymu y gwnawn y tro i fod yn un o'r Gorfforaeth yma. Wel, 'does gen i fawr o feddwl o honof fy hun, a deyd y gwir yn blaen i chi. Nag o'r gorfforaeth chwaith, ran hynny. 'Dydw i ddim yn meddwl na wnawn i lawn cystal cownsler a'r cyffredin o honoch chi, a gwell hwyrach nag amal i un. 'Roedd Mr. Jones yn deyd mai un fantes fawr o fod yn gyfoethog ydi medru rhoi gwasanaeth yn rhad i'r wlad neu i'r dref. Mae hynny yn ddigon gwir, tae o'n wir hefyd. Cyn belled ag y sylwes i, eu bod nhw yn gyfoethog ydi'r unig beth fedrwch chi ddeyd o blaid y rhan fwyaf o'r bobol sy'n gwasanaethu eu gwlad heblaw y gellwch chi ddeyd eu bod nhw yn gyffredin yn gneud i'w gwlad eu gwasanaethu nhwythe hefyd. Ar yr un pryd, 'dydw i ddim yn deyd na ddylen nhw gael rhyw gydnabyddiaeth am roid cymaint o'u hamser i edrych ar ol eu manteision eu hunen a rhyw dipyn o fanteision pobol erill pan ddigwyddan nhw gofio am hynny. Os byddwch chi yn meddwl ryw dro y medra i wneud rhyw ddaioni ar y Corporasiwn, mi fydda'n barod i drio, cyn belled âg y gwela i yrwan. Ond mae yma lawer o bethe wedi eu deyd yma heno y baswn inne yn leicio deyd gair arnyn nhw. Roedd y gŵr bonheddig gynhygiodd iechyd da'r Brenin cystal a deyd fod eisio crogi'r bobol yma sydd yn erbyn brenhinieth. 'Dydw i ddim o'r un farn â fo. Cyn belled ag y gwela i, mae'r Brenin yma yn eitha dyn rwan, ond mae o yn cael gormod o gyflog o heth cethin, ne ynte mae pawb arall a adwen i yn cael rhai cannoedd o filoedd yn rhy chydig am eu gwaith. Mi ddeydwyd hefyd y base hi yn o ddrwg arnon ni oni bae am y fyddin a'r llynges a'r offeiriaid o bob math. Synnwn inne ddim. Fasen ni byth yn medru ffraeo cymaint, mae'n siwr. Ond dyma fi yn mynd i siarad gormod, mi wn. 'Does gen i ond diolch ichi bawb am ddwad yma fel hyn. Stwffiwch y pethe yma i gyd o'r golwg, ac os na fedrwch chi eu rhoi nhw yn eich stumoge, rhowch nhw yn eich pocede i fynd adre!"

Dyna araith gyntaf Dafydd Morgan. A'r olaf.

XIV. ELIN EISIAU FÔT.

'RYDW i mewn helynt dros fy mhen a'm clustiau. Feddyliais i erioed fod y fath beth yn bosibl. Petasai'r lleuad yn disgyn wrth fy nhraed i, fuaswn i ddim yn synnu mwy. Na fuaswn, na chymaint ychwaith. 'Roeddwn i bob amser yn meddwl ei bod hi yn berffaith gall. Yn wir, buaswn yn betio fy mhen na chafodd yr un dyn erioed un fwy synhwyrol na hi. Soniodd hi erioed am y peth o'r blaen yn fy nghlyw i, beth bynnag, ac yr ydw i bron yn siwr na chlywodd neb arall moni hi yn gwneud hynny chwaith. Ond erbyn hyn, y mae hi yn wyllt ulw. Pwy, ddywedsoch chi? Wel, pwy ond y wraig acw? Be sydd arni hi? Ond wedi mynd o'i chof yn lân deg y mae hi. Be sydd o'i le? Nid y fi fedr ateb, ond y mae hi wedi mynd i gredu fod yn angenrheidiol iddi hi gael fôt. A byth er hynny—wel, wn i ddim beth i'w ddeyd na'i wneud, os gwyr rhywun arall. Y mae hi'n ofnadwy acw.

Cyn iddi hi gael yr adwyth yma, yr oedd Elin yn ddynes gall, gyda'r gallaf yn y wlad. Fum i erioed mewn helbul hefo hi. Pan ddigwyddwn i ddwad adre dipyn yn hwyr, ni byddai acw helynt o gwbwl. 'Roedd hi yn gwybod sut i wneud i'r dim. Fyddai hi byth yn dywedyd gair cas, ond mi fyddai yn medru gwneud i mi feddwl yn fuan iawn fy mod i wedi aros yn rhy hwyr o lawer, ac mi fyddwn yn meddwl mwy ddwywaith o honi hi o achos fod ganddi ddull mor fedrus i fy nhrin i. Mi wyddwn o'r goreu mai dull i fy nhrin i oedd o, ond 'roeddwn i yn dotio ato, ac yn cymryd fy nhrin yn rhwydd. Wel, a pha bryd bynnag y down i adref, welais i erioed mo'r ty yn anrhefnus ganddi. Byddai popeth bob amser yn lân ac yn daclus, a thamed o fwyd blasus i'w gael heb fynd i'r drafferth o feddwl pa beth a fynnai ddyn i gael. Fyddai Elin byth yn poeni enaid dyn drwy ofyn iddo beth fynnai i'w ginio neu i'w swper. Nid allaf fi aros meddwl beth fuaswn i yn i leicio. Ac yr oedd Elin yn gwybod hynny. Peth arall oedd hi yn i wybod hefyd oedd beth fuaswn i yn i leicio. A dyma fyddai hi yn i wneud bob amser. Ac fel y gwyddoch, os gwyddoch rywbeth hefyd, 'does dim gwell gan ddyn na chael tamed o fwyd wrth i fodd heb orfod meddwl dim am dano ymlaen llaw. A dyna fyddai un gamp ar Elin. Peth arall, fel y dywedais i, oedd y byddai popeth yn lân ac yn daclus. Er nad da gan ddyn mo'r diwrnod golchi na'r diwrnod glanhau'r ty, y mae o yn leicio lle glân cyfforddus bob amser, ac mi fyddai Elin bob amser yn gofalu am le felly i mi. Yn wir, yr oeddwn i yn hapus dros ben taswn i yn gwybod hynny. Ond wyddwn i ddim ar y pryd. Mi wn erbyn hyn. Y mae hi wedi newid yn erchyll acw. Beth ydi'r drwg, meddech? Wel, mi gewch wybod.

Y mae ar Elin eisio fôt, dyna'r cwbl.

Ydw i yn erbyn? Nag ydw i, yn eno'r tad. Mi gae fy fôt i a chroeso, ond iddi hi fod fel o'r blaen. Ni waeth gennyf fi petae ganddi hi hanner cant o fotiau yr un dim, ond yr wyf yn cwyno yn gethin yn erbyn trefn bresennol pethau. Welsoch chi erioed y fath gyfnewidiad. Wn i ddim yn iawn sut y dechreuodd y drwg, ond yr wyf yn meddwl mai rhyw gyfarfod fu yn y dref acw a'i cychwynnodd o. 'Roeddwn i yn ameu ers tro fod Elin yn darllen mwy ar y papur newydd nag y byddai. 'Does dim yn erbyn hynny, wrth reswm. Y mae'n eitha peth i ferched ddarllen y papurau newyddion, ond 'does dim eisieu iddynt gredu popeth a ddarllenant ychwaith. Wel, sut bynnag, mi sylwais ryw ddiwrnod fod cyfarfod i'w gynnal yn y dref i gefnogi cael fôt i ferched. 'Doeddwn i yn meddwl fawr o'r peth. Yn wir, tueddu yr oeddwn i chwerthin am ei ben. Ond buasai yn well i mi beidio. Dywedodd Elin wrthyf un diwrnod fod arni eisiau i mi aros adref y prynhawn i edrych ar ol y plant.

"I be, nghariad i?" meddwn.

"I mi gael mynd i'r cyfarfod," ebr hi.

"Pa gyfarfod?"

"Y cyfarfod o blaid i ferched gael y fôt."

"I be'r ei di i hwnnw, dywed?"

"I glywed be sy gynnyn nhw i'w ddeyd."

Meddyliais na ddoe dim drwg o hynny, a dywedais yr edrychwn ar ol y plant. Felly fu. Aeth Elin i'r cyfarfod, ac arhosais innau adref i edrych ar ol y plant iddi.

Go drychinebus fu'r cais. 'Roedd y chwe hynaf yn chware yn yr ardd, a'r babi yn chware yn y ty. Ni phoenais ynghylch y rhai oedd yn yr ardd i ddechreu. Achos da pam. 'Roedd gennyf fwy na llond fy nwylo hefo'r gŵr bach oedd yn y ty. Ni ddychmygais erioed fod mor anodd i ddyn fod yn feistr yn i dŷ ei hun o'r blaen.

'Roedd y babi—y mae o yn bymtheng mis oed—yn eistedd yn i gadair fach pan aeth Elin i ffwrdd. Cyn hir, yr oedd o wedi darfod chware â'r papur newydd oedd ganddo, ac mi fynnodd gael cwpan de. Ni bu ddau funud nad oedd o wedi torri honno yn deilchion. Wedyn mi gymerodd ffansi at y tecell copr oedd ar y silff ben tân. Mynnodd gael hwnnw, ac mi taflodd o rhag blaen i ganol y llestri oedd ar y bwrdd nes oedd y rheiny yn chwilfriw. Ar ol hynny mynnodd gael dwad i lawr o'i gadair, a dyna lle bum i fel adyn yn crwydro hyd y tŷ ar i ol o am ddwyawr neu dair. 'Roedd o cyn pen hanner yr amser wedi troi popeth o'r tu chwith allan, ac wedi torri popeth potyn oedd yn i gyrraedd o yn yfflon mân. 'Roeddwn i yn dechreu blino ar i orchestion o, ac yn meddwl y buasai'r wialen fedw yn gwneud lles iddo. Euthum i chwilio am honno, ond tra bum i wrthi, 'roedd o wedi dwad o hyd i badell yn llawn o ddwr, ac wedi sefyll ar i ben yn honno. Digwydd cyrraedd mewn pryd ddarfu mi i'w achub rhag boddi. Ar ol ei gael allan o'r dwr, 'roedd o yn crio yn arw, a bu raid iddo gael benthyg fy oriawr cyn y tawai. Rhoes gost o chweugain ar honno cyn darfod â hi.

Erbyn hynny, 'roeddwn i yn meddwl ei bod hi yn amser rhoi'r plant eraill yn eu gwelyau. Felly, mi rwymais y babi wrth droed y bwrdd, ac euthum i'r ardd i nol y lleill. Cefais gryn drafferth i'w cael i'r tŷ, ond llwyddais o'r diwedd, ac ar ol gwneud iddynt fwyta dipyn o rual oedd mewn bowlen ar y bwrdd yn y gegin, gyrrais hwy i'w gwelyau. Deallais wedi hynny mai startsh oedd y grual, a dyna'r rheswm mae'n debyg fod y plant mor stiff drannoeth. Sut bynnag, mi gefais drafferth fawr i'w cadw yn ddistaw ar ol mynd i'w gwelyau. Yr oedd y cnafon bach yn ymladd ac yn ffraeo ac yn galw ei gilydd wrth enwau na chawsant erioed yn eu bedydd. 'Roedd y babi hefyd wedi gwneud cryn alanas tra bum i yn danfon y lleill i'r llofft. 'Roedd o wedi medru tynnu'r bwrdd i lawr ar ei gefn, ac yr oedd y gath yn digwydd bod o dano yntau. Ni chlywsoch erioed y fath dwrw rhwng y gath ag yntau a'r canibaliaid bychain yn y llofft.

'Roeddwn i yn dechreu mynd i anobaith, ac yn credu fod rhyw ddamwain wedi digwydd i Elin, onite y base adref cyn hynny. Cefais gryn drafferth cael y babi a'r gath a'r bwrdd yn rhydd oddi wrth ei gilydd. Yr oeddynt rywsut fel pe buasent wedi mynd yn gymysg. Ond wedi hir ymdrech, medrais eu gwahanu. Euthum â gweddillion y gath allan. Yr oedd y babi hefyd yn crio yn arw am fod y gath cyn i'r pwysau roi diben arni wedi plannu ei hewinedd ynddo. Y bwrdd oedd y distawaf o'r tri a'r hawsaf i'w drin o lawer. Ar ol rhoi'r babi yn ei gadair, euthum i geisio clirio tipyn ar y llawr, oedd wedi ei orchuddio â darnau o lestri te, a phethau ereill yr oedd y babi wedi eu malu, ond yr oedd y babi yn cadw cymaint o swn fel y daeth gwraig y tŷ nesaf i mewn i ofyn a oedd rhywbeth yn ceisio'i ladd o. Dywedais nad oedd, ond mai fo oedd yn ceisio fy lladd i, a'i fod agos iawn wedi medru hefyd. Chwarddodd y ddynes, ond 'doedd o ddim yn fater chwerthin ychwaith.

'Roeddwn i yn disgwyl yn eiddgar am weled Elin, ond 'doedd dim golwg am dani er i bod bellach yn hanner awr wedi saith. Bum yn yr helynt am awr wedyn, a thua hanner awr wedi wyth, dyma hi adref.

"Mi fum mewn pwyllgor ar ol y cyfarfod," meddai, "ac mi aeth yn o hwyr."

"Do, ddyliwn," meddwn innau.

Pan ddaeth hi i mewn a gweled yr olwg oedd ar y babi a phopeth arall, mi gafodd dipyn o fraw.

"Beth ar y ddaear ydech chi wedi wneud, deydwch?" ebr hi.

"Gofynnwch iddo fo," meddwn innau, "y fo ydi'r mistar."

"Welis i rioed y fath beth," ebr hi.

"Na finne."

"Dydi dynion ddim ffit," ebr hi, ac yna ychwanegodd, "ac i feddwl eu bod nhw yn gwrthod fôt i ferched!"

"Ie, wir," meddwn innau.

"Ple mae'r plant erill?" ebr hi.

"Mae nhw yn eu gwelyau."

Yr oedd y cnafon bach wedi tawelu erbyn hyn.

Ymosododd Elin arni i wneud trefn ar y babi o'r diwedd, ac yna gwnaeth i mi ei ddal ac aeth hithau i'r llofft i weled sut olwg oedd ar y lleill. Gyda'i bod hi yno, mi glywn rhyw ebychiad o syndod.

"John," ebr hi, "ble mae'n plant ni?"

"Be wn i, ydyn nhw ddim yna?" meddwn.

"Nag ydyn—o leiaf, dim ond dau o honyn nhw. Rhyw blant diarth ydi'r lleill! Be gebyst oedd arnoch chi, deydwch?"

Erbyn edrych, yr oeddwn wedi rhoi pedwar o blant rhywun arall yn y gwelyau gyda dau o'n plant ni.

Bu raid i mi ei gwadnu hi i chwilio am y lleill, a bum tan hanner awr wedi naw heb gael hyd iddynt. Dygais hwy adref, ond erbyn hynny, yr oedd acw barti o ferched o gwmpas y bwrdd yn yfed te ac yn son am ormes dynion a'r cam yr oeddynt yn ei wneud â merched. Gyrrais y plant i'r gegin i'w canol ac euthum fy hun ar fy union i'r dafam agosaf. Bum yno tan amser cau. Erbyn i mi fynd adref, 'doedd yno na swper na dim yn fy aros, a bu raid i mi ei wneud fy hun.

Y mae mis er hynny bellach, ac y mae pethau yn mynd yn waeth bob cynnyg. Y mae'r ty yn anrhefnus a'r plant yn fudron, waeth dywedyd y gwir na pheidio, ac y mae acw bwyllgor bob yn eildydd, ac ni fedraf ddywedyd mai myfi biau fy nhy fy hun. Ydi, ŵyr dyn, y mae hi yn ddrwg gynddeiriog acw.

XV. FFRAE LECSIWN LLANGRYMBO.

BU helynt arswydus yn Llangrymbo gryn lawer o flynyddoedd yn ol. Aeth y trigolion yn benben, er na wyddai neb yn iawn pam. Y lecsiwn fu'r achlysur, sut bynnag, yr oedd hynny yn sicr; ond y mae cryn dywyllwch ynghylch cychwyniad yr helynt. Yn hytrach, yr oedd cryn dywyllwch yn ei gylch. Bellach, yr wyf fi yn abl i daflu goleuni ar y mater. Nid trwy fy nghlyfrwch fy hun ychwaith, ond trwy allu a dyfalwch fy hen ewythr, a fu farw ryw ychydig amser yn ol, ac a adawodd ei bapurau—yr unig gynysgaeth, gwaetha 'r modd!—i mi. Y mae yn y papurau hynny lawer o bethau dyddorol, ac yn eu plith, oleuni ar Ffrae Fawr Llangrymbo.

Ond cyn rhoi hanes yr helynt, rhaid i mi ddywedyd gair neu ddau am fy ewythr, fel y caffoch bob chware teg i farnu ei waith. Teiliwr oedd fy ewythr wrth ei alwedigaeth, a theiliwr go sal, y mae arnaf ofn, canys gadawodd yr alwedigaeth yn gynnar, a throes yn ohebydd papur newydd. Y peth a'i harweiniodd i'r alwad ardderchog honno oedd, ddarfod iddo pan oedd yn hogyn ifanc ennill gwobr o hanner coron mewn cyfarfod llenyddol am y traethawd goreu ar Hanes Llangrymbo. Cafodd y traethawd hwnnw gymaint o ganmoliaeth gan y beirniad fel y credodd fy ewythr yn y fan mai nid teiliwr oedd o wrth natur, ond llenor. Felly, anfonodd hanes y cyfarfod llenyddol i'r Corn Gwlad, a chafodd ei benodi yn union deg yn ohebydd lleol i'r papur enwog hwnnw. O dipyn i beth, gwnaed ef yn ohebydd arbennig i'r papur clodwiw, ac yr oedd ganddo ddarn mawr o wlad tan ei ofal. A gofalodd am dano cystal am flynyddoedd fel na byddai ddim yn digwydd yno heb fod gan f'ewythr baragraff am dano yn y papur—y "Newyddiadur," fel y byddai o yn ei alw. Yr oedd gan yr hen greadur fath o law ferr at ei wasanaeth, un na fedrai neb ei deall ond efô ei hun. Yn wir, byddai yn methu a'i deall ei hun ar brydiau, a chafwyd ambell is-olygydd digon drwg i ddywedyd nad oedd wahaniaeth yn y byd rhwng ei law ferr â'i law hir; ond yr wyf yn sicr mai ar yr is-olygydd a'r cysodydd yr oedd y bai fod rhai o'i baragraffau yn awr ac yn y man yn dyfod allan yn y papur yn hollol groes i'r hyn oedd ym meddwl fy ewythr. Er engraifft, yr oedd o unwaith wedi ysgrifennu hanes marwolaeth a chladdedigaeth hen gyfaill iddo, ac wedi ei orffen fel y canlyn, —

"Yr oedd yn noddwr cyson i'r Corn ar hyd ei oes faith, ac yn codi'r canu yng nghapel Seion. Heddwch i'w lwch, yr hen bererin anwyl!"

Synnwyd pawb, pan gawsant y Corn Gwlad, weled y paragraff yn gorffen fel hyn, —

"Yr oedd yn naddwr creulon i'r corn ar ei goes chwith, ac yn cadw'r cnau yng nghawell Sion. Hed uwch ei lwch, yr hen Feri Elin anwyl!"

Achosodd peth fel hyn gryn helynt lawer tro, wrth gwrs, ond er i f'ewythr anfon i'r offis i gwyno lawer gwaith, ni welodd y cnafon yn dda gymryd mwy o ofal gyda'i gopi nag a gymerasant o'r blaen.

Ond dyna, hwyrach, ar hyn o bryd, ddigon am fy ewythr. Awn at ei waith yn ysgrifennu hanes helynt Langrymbo. Yr oedd hi yn lecsiwn yno, fel y dywedwyd, ac aeth yn helynt mor erwin fel yr aeth y bobl yn benben. Yn naturiol iawn, aeth fy ewythr ati i chwilio am achos y ffrae, cafodd hyd iddo, ysgrifennodd ef yn ofalus a chywir ar gefn hen boster â phast arno, ac anfonodd ef i'r swyddfa. Gallwn feddwl fod yr is-olygydd ar y pryd yn rhy ddiog i'w ddarllen, canys y mae dalen o bapur gwyn wedi ei phinio wrth y copi, ac yn ysgrifenedig arni mewn llaw led blaen y geiriau hyn—"Dylai'r dyn a ysgrifennodd hwn gael ei grogi! 'Does yma neb fedr ei ddeall."

Collodd yr is-olygydd hwnnw ei gyfle. Yr wyf fi wedi darllen y copi. Ac nid wyf fi yn is-olygydd. Felly, dylasai o fedru gwneud. Sut bynnag, y mae'n debyg fod fy ewythr wedi digio a chadw ei gopi yn hytrach na'i ail ysgrifennu a'i ddanfon i'r is-olygydd diog. Bellach, gellir yn ddiogel gyhoeddi'r hanes, gan mai f'ewythr oedd y diweddaf o'r bobl y mae son am danynt ynddo. Dyma fo, wedi ei godi air am air o gopi yr hen ddyn druan, fel y gweler ei arddull lenyddol odidog, —

"Bu helynt ofnadwy yn nhref Langrymbo yr wythnos ddiweddaf parthed yr etholiad, fel y cyhoeddwyd yn ein rhifyn diweddaf yn fyrr. Y pryd hwnnw, nid oedd ein gohebydd mewn meddiant llawn o ffeithiau yr achos, ac o ganlyniad i hynny nis gallai roddi hanes manwl a chywir am yr hyn a gymerodd le yn y dreflan dawel hon. Erbyn hyn, y mae ein gohebydd wedi gwneud ymchwiliad llwyr i'r achos, ac yn alluog i roddi ger bron ein darllenwyr hanes cyflawn am yr hyn a ddigwyddodd.

"Fel y gwyddis, yr oedd yr etholiad ar ei ganol ar y pryd, ac yr oedd teimladau yn rhedeg yn uchel iawn yn y dref. Yr oedd rhai yn pleidio'r Rhyddfrydwr ac ereill yn pleidio'r Ceidwadwr yn selog. Ymddengygs fod dau ddyn wedi cyfarfod ar yr heol noswaith yr helynt, ac wedi mynd i son am bwnc llosgawl y dydd (a'r nos hefyd). Y ddau hynny oeddynt John Dafis, Rhyddfrydwr pybyr, a Huw Jones, Tori rhonc, fel y dwedir. [Dylid cofio mai Rhyddfrydwr oedd fy ewythr.] Dechreuasant ymddiddan fel y canlyn, —

'Sut mae hi heno, John Dafis? Be ydech chi yn feddwl o'r lecsiwn yma, fel tae, rwan?'

'Wel, rydw i'n meddwl i bod hi yn o bethma, yn siwr, arnoch chi y Toris yma.'

'Be sy arnom ni, fel tae, rwan, John Dafis?'

'Wel, mi ddeyda iti, i hyn y daw hi, ac i hyn y mae hi 'n dwad hefyd. Rydech chi yn rhy bethma o lawer.'

'Y chi yr hen Wigs yma sy'n rhy bethma, fel tae, rwan. Fedrwch chi ddim deyd yn bod ni felly.'

'O, medrwn yn wir, Huw Jones!'

'Wel, sut, ynte, fel tae, rwan?'

'Wel, fel hyn. I hyn y daw hi ac i hyn y mae hi 'n dwad hefyd, weldi. Rydech chi yn rhy bethma o lawer.'

'Hefo beth, ynte, fel tae, rwan?'

'Wel, hefo 'r naill beth a'r llall, ac fel hyn a fel arall. 'Does neb ond y chi, ddylie dyn. Rydach chi yn deyd fel hyn a fel arall ac yn son am y naill beth a'r llall, a phan fydd dyn yn gofyn cwestiwn go bethma i chi, rydech chi yn ffeilio ateb, ac yn mynd ar hyd ac ar draws, ac yn deyd hyn a'r llall, ac yn palu clwydde fel ceffyl dall ar dalar!'

'Dyma chi, John Dafis, ryden ni yn hen gydnabod, ond yden ni, fel tae, rwan?'

'Yden, siwr, mewn ffordd o siarad, fel tase.'

'Yden, waeth i chi ddeyd, rwan. Wel, peidiwch chi a mynd i siarad mor bethma hefo fi am danon ni, rwan, fel tae, os gwelwch chi yn dda.'

'Pwy oedd yn siarad yn bethma am danoch chi?'

'Wel, y chi.'

'Nag oeddwn!'

'Wel, oeddech, medde finne!'

'Wel, be ddeydis i, ynte?'

'Deyd ddaru chi yn bod ni fel hyn ag fel arall, ac yn siarad ar hyd ag ar draws, ac yn palu clwydde fel ceffyl dall ar dalar. Pa glwydde ryden ni yn'u palu, rwan, fel tae?'

'Wel, mewn ffordd o siarad, rwan, rydech chi yn deyd pob math o bethe mwya bethma fel hyn ac fel arall am hyn a'r llall ar draws ac ar hyd ac ar draws i gilydd heb na phen na chynffon, ac yn mynd yn wysg ych trwyne nad ŵyr neb ymhle i'ch cael chi, a wyddoch chi ddim gwahanieth rhwng y naill beth a'r llall mwy na thwrch daear am yr haul!'

'Caewch ych ceg, John Dafis!'

'Chaea i moni hi i'ch plesio chi, Huw Jones!'

'Rydw i'n deyd mai ffwl ydech chi, John Dafis!'

'Choelia inne monoch chi, Huw Jones!'

'Gwnewch chi fel y fynnoch chi am hynny, ynte, rwan.'

'Mi wnaf, siwr, a gwnewch chithe, a pheidiwch a bod mor gegog!'

'Rydech chi yn rhy bethma o beth cebyst, yn siwr i chi!'

'Pwy sy'n bethma?'

'Y chi, dyna pwy!'

'Cymrwch hwnna!'

"Gyda'r gair, dyma Huw Jones yn rhoi dyrnod i John Dafis ynghanol ei wyneb. Cyn pen dau funud, yr oedd John Dafis wedi ei dalu yn ol gyda llog. Aeth yn ymladdfa wyllt, a chyn pen ychydig eiliadau, daeth tri neu bedwar o ddynion ereill yno, sef Dafydd Gruffydd, Wil Ifan, Sion Puw, a Ned Dafis. Gofynnodd Wil Ifan beth oedd yr helynt rhwng y ddau.

'Deyd yn bod ni y Toris yn bethma ddaru o!' ebe Huw Jones.

'Ond ydech chi hefyd!' ebe Wil Ifan yn ffyrnig.

'Nag yden ni ddim, y chi, yr hen Wigs budron yma sy'n bethma!' ebe Ned Dafis (Ned un Llygad).

"Aeth yn ffrwgwd rhwng y chwech ar hynny, tri o honynt yn perthyn i bob plaid. Yr oedd John Dafis a Wil Ifan yn gweiddi nerth eu pennau—'Rydech chi yn bethma, bob copa ohonoch chi!' Ac ar yr ochr arall, yr oedd Huw Jones a Ned un Llygad yn gweiddi â'u holl egni hwythau—'Na, y chi sy'n bethma, y cnafon gynnoch chi!'

"Daeth ereill yno ar ffrwst wrth glywed y swn, a deallasant mai ffrae ydoedd rhwng y naill blaid a'r llall ynghylch pwy oedd yn bethma. Cyn pen ychydig eiliadau, yr oedd y frwydr yn gyffredinol. Daeth yr heddgeidwad i'r lle, ond ni fedrai wneud dim. Parhaodd yr ymladd am awr, nes i'r blaid Geidwadol orfod cilio o'r ffordd, ac o dipyn i beth, tawelodd y cyffro.

"Drannoeth, aeth ein gohebydd i'r dref i wneud ymchwiliadau, a chafodd yr hanes fel yr adroddir ef uchod. Nid yw'r pleidiau eto wedi oeri, ac y mae llawer yn ofni i'r helynt ail dorri allan. Mewn gwirionedd, mae yma le go 'bethma' yn Llangrymbo y dyddiau hyn."

Felly y cafwyd allan achos Ffrae Fawr Langrymbo. Ac eto, nid oes hyd heddyw gof golofn ar fedd fy ewythr.









CAERNARFON:

CWMNI Y CYHOEDDWYR CYMREIG (CYF.),

SWYDDFA "CYMRU."

YMADAWIAD ARTHUR A CHANIADAU EREILL.

Gan T. GWYNN JONES.

"Yn y gyfrol hon, rhoddodd i ni farddoniaeth a gyfoethoga lenyddiaeth y genedl hyd fyth."—Y Genedl Gymreig.

"Y mae nwyf ac ysblander yn treiddio drwy bob gweledigaeth o'i eiddo."—Y Faner.

"Y mae ôl meddwl a llaw meistr gwirioneddol ar ei waith."—Y Brython.

"Dyma gyfrol sydd yn sicr o gymeryd ei lle ymhlith clasuron telediwaf llên Cymru."—Y Glorian.

"Bydd ei enw a'i waith byw cyhyd ag y cedwir y Brython mewn cof."—Y Goleuad.

"Mor glir a manwl â darluniau Birket Foster, lle ceir pob deilen a phob glaswelltyn wedi eu tynnu ar eu pen eu hun."—Cymru.

"The more personally moved he is, the more he moves his hearers."—The Manchester Guardian.

"He has the light touch, the quaint fancy, the deep thought, the appealing description and the noble imagination . . . of the true Celt."—Cork Free Press.

"Do sholáthróghadh an iarracht soin gairm is clu dho a mhairfeadh an fhaid a bheidh rae sa spéir."—Freeman's Journal.

"Ez int taolennou hag a zo gwiriek evid ar bed Kuz-heoliek, rag piou ahanomp n'en deuz gwelet eur wech bennag var e hent en den henvel ouz ‘Yr Hen Ffermwr,' ‘Y Gweinidog,' ‘Y Nafi?' "—Ar Bobl.

——————

Mewn llian hardd, gyda llun yr awdwr,

Pris 3s. 6c.

——————

Archebion i'w danfon i Swyddfa "Cymru," Caernarfon.

Y MOR CANOLDIR A'R AIFFT.

Gan T. GWYNN JONES.

——————

ADOLYGIADAU.

"Er i eraill gymeryd mewn llaw adrodd eu helyntion a'u profiadau . . . ar hyd llwybrau hen Wlad y Caethiwed, ni welsom waith mor swynol a hwn. Diddorir ac adeiledir ar unwaith. Profir blas rhamant ar bob tudalen. Gwisgir ffeithiau mewn lliwiau hudolus. . . . Trwy fod yr arddull yn gain, . . . edmygedd yr awdur o'r mawreddog, y cywrain, a'r caredig, mor gryf, a'i ddarluniau mor fyw, hud-ddenir ni ymlaen mewn llesmair beraidd."—Y Brython.

"Mae'n gamp ar ei lyfr fod llawer ynddo am yr Aifft a'i phobl na cheir mohono mewn llyfrau Seisnig ar y testyn. . . . Eithr nid yn hynny y mae ei werth mwyaf. Tyn yr awdur hefyd ddarluniau beunydd o'r hyn a welodd, mewn modd amhosibl ond i grefftwr llwyr gynefin a'i waith, a thrwy'r un gelfyddyd mae'r bobl, yn wynion a duon, y daeth ef i gyffyrddiad â hwynt, yn rhodio'n fyw o flaen y llygaid. Eto nid mwy dyddorol hyn oll na meddwl a theimlad yr awdur ei hun yn y gwahanol amgylchiadau y sonia am danynt. A dyna gamp fawr llenyddiaeth."—Y Genedl Gymreig.

"Dyma lyfr têg ei olwg, a da'i wneuthuriad, ymhob ystyr, o waith gwr yn medru gweled a barnu a disgrifio mewn modd na fedrir arno ond gan ddyn mawr a hyddysg, ac mewn iaith na fedrir arni ond gan y gwir feistr. . . . Ceir yn y llyfr engreifftiau nodedig o ddoniolwch deheuig, o dynerwch heb fychander na gwendid ynddo, ac o pathos dwfn. . . . Yn wir, ni wyddom am odid ddim o waith yr awdur yn ei ddangos, megis heb yn wybod iddo, yn llawnach na'r llyfr gwir ddyddorol hwn."—Y Drysorfa.


Mewn llian hardd, gyda darluniau.

Pris 1/6. Cludiad, 2g.

——————

SWYDDFA "CYMRU," CAERNARFON.

DIRGELWCH YR ANIALWCH

ac Ystraeon eraill.

Gan E. MORGAN HUMPHREYS.

——————

BARN Y WASG.

"Mae digon o ramant yn y llyfr i roi blas ar ddarllen i unrhyw fachgen."—Y Goleuad.

"Y maent yn gwneyd eu rhan at lenwi bwlch yn llenyddiaeth Cymru, sef o ystraeon addas i ieuengtyd o'r deuddeg i'r ugain oed, ac yn rhoi iddynt yn iaith eu mam beth na chaent o'r blaen ond yn iaith yr estron."—Y Brython.

"O hyn allan nis gellir dweyd ein bod heb lyfr diweddar da o ystraeon ac anturiaethau. . . . Y mae yn chwaethus, yn llednais, a'i Chymraeg yn gain."—Y Drysorfa.

"Gwnai hwn lyfr anrheg rhagorol i fechgyn, gwell o lawer na'r llyfrau glasdwraidd a roddir iddynt yn gyffredin."—Yr Herald Cymraeg.

"Medd yr awdwr ddawn i greu ystori, a dawn i'w hadrodd yn rymus a gafaelgar. Y mae'r ystraeon hyn mor naturiol a hanes, ac yr ydym yn cael ein hunain wrth eu darllen yn credu pob dim."—Anthropos yn y Faner.


MEWN LLIAN HARDD, GYDA DARLUNIAU.

Pris 1/6. Cludiad, 2g.

——————

SWYDDFA "CYMRU," CAERNARFON.


"Os hoffech gael grâen ar eich arddull, darllenwch gyfrolau rhyddiaeth Anthropos. Darllenwch hwy i'w mwynhau, a gloewa eich Cymraeg heb ymgais ar eich rhan."—O. M. Edwards yn y Cymru.


neu GYDYMAITH GWYLIAU HAF.

Gan ANTHROPOS.

CYNHWYSIAD:

Y Gwahoddiad—Yr hen Gymydogaeth—Pont Cwmanog—Hafdaith yn Lleyn—Yn Mro Goronwy—Haf-ddydd yn Eryri—Melin y Glyn—Llythyr at Arlunydd—Tair Golygfa—Gwlad Eben Fardd—Y Rhodfa drwy yr Yd—Rhwng y Mynydd a'r Mor—Bedd y Bardd—Eglwys Dwynwen—Ffynon y Tylwyth Teg—Gweled Anian—Yn Mrig yr Hwyr—Bardd y Gwanwyn—"Mis Mai." Gyda Darluniau.

Awel a Heulwen.

Cydymaith i "Oriau yn y Wlad."

GAN YR UN AWDWR.

CYNHWYSIAD:

Yr Awel—Llyn Crafnant—Y Rhaiadr—Molawd Mai—Yn Nyffryn Clwyd—Y Dydd Hwyaf—Amaethdy yn Mon—Ffrwd y Mynydd—Bwthyn y Bryn—Adgofion Golygydd—Yn y Wlad—Pa bryd daw yr Ha?—Gwlad y Llynnau—Rhosyn Gwyllt y Berth—Y Cysegr ar y Bryn—Un o'r Piwritaniaid—Hiraethgan yr Alltud—Y Fedwen ar y Mynydd—Llythyr Bardd—Cartrefi Gwynion Cymru—Treigliadau Llyfr—Gwaedd uwch Adwaedd—Mewn Album—Yn Mettws y Coed—Y Felin—Pen y Gogarth—Cadw'r Hen Fanerau—Blodau Cynar—Oriau yn y Wlad.

Wedi eu rhwymo mewn llian hardd. Pris 1s. 6c.

Drwy y post, 1s. 9c.


I'w cael o Swyddfa "Cymru," Caernarfon.

Llyfrau ab Owen.

Cyhoeddedig yn Swyddfa'r "Cymru," Caernarfon.


Nid yw y llyfrau hyn yn gyfres, er eu bod oll o'r un plyg a maint.

Pris SWLLT YR UN.


Penodau yn hanes fy addysg.

GAN OWEN EDWARDS.

Yagol y Llan. Hen Fethodist. Llyfr y Seiat. Fy Nhad. Y Bala. Aberyswyth. Rhydychen. Dyrnaid o Beiswyn.

GWREICHION Y DIWYGIADAU.

WEDI EU CASGLU GAN GARNEDDOG.

Penhillion y Diwygiadau, tân oddiar yr allor, yn llawn ysbryd ac athrylith.

TRO TRWY'R WIG.

GAN RICHARD MORGAN.

Y Gyfrol Gyntaf.

Coch y Berllan. Priodas y Blodau. Nyth Aderyn Du. Bore Teg. Carwriaeth y Coed. Crafanc yr Arth. Telor yr Helyg.

CERRIG Y RHYD.

Llyfr o hanes rhai'n camu cerrig rhyd bywyd

GAN WINNIE PARRY.

Cerrig y Rhyd. Y Cawr Hwnw. Y Plas Gwydr. Cwyn y Rhosyn. Anwylaf. Uchelgais y Plant. Y Goedwig Ddu-Blodau Arian. Fy Ffrog Newydd. Y Marchog Glas. Hen Ferch. Breuddwyd Nadolig. Huw. Esgidiau Nadolig. Y Castell ger y Lli. Dros Foel y Don.

GAN ELFYN.

Bore Oes; Crwydro'r Byd; Troi Adre; Troi Dalen, Sêl Tomos; Dysgu Darllen; "Dydd Iau": Balchder a Phwdin; Gwerthu Almanaciau a Cherddi; Traethu ar Briodas; Anerchiadau a Chynghorion; Araeth Danllyd; Pregeth i Berson; Cwestiynau'r Cyfrwys; Dafydd Evans y Pandy; Cyfarfod Gwytherin: Yn y Cyfarfod Gweddi; Tagu Prydydd: Dywediadau ac Ymgomiau; Tomos ac I. D. Ffraid; Y Gweinidog o'r De; O Flaen yr "Ustus"; Rhyfel a Satan; Yn y Seiat; Galwad Adref.

GAN OWEN EDWARDS.

Blaenau Ffestiniog. Y Perthi Llwydion. O gylch Carn Fadryn. Harlech. Ty'n y Groes. Llan ym Mawddwy. Pen y Bryn, Y Bryn Melyn.

ROBERT OWEN, APOSTOL LLAFUR.

GAN Y PARCH, RICHARD ROBERTS, B.A.

Cyfrol I.

Y cartref yn y Drefnewydd. Y Siop yn Llundain. Manceinion. Lanark Newydd. Amaeroedd Rhyfedd. Trueni'r gweithiwr. Adam Smith a Malthus. Ym Mharis a'r Ynys Werdd. Ymroddi i wella cymdeithas. Ei syniadau.

Cyfrol II.

Harmony Newydd. Lanark Newydd. Mexico a'r Unol Dalaethau. Y Symudiad Cydweithredol. Y Gyfnewidfa Llafur. Yr Undebau Llafur. Y dyn. Ei neges. Ei le. Ei gymunrodd.

DAFYDD JONES O DREFRIW.

GAN Y PARCH. O. GAIANYDD WILLIAMS.

Y Llenor a'i oes. Amcan a lle Dafydd Jones. Pwy ydoedd. Bywyd a Buchedd. Ei Farddoniaeth. Ei Grefydd. Ei Llyfrau. Bwriadau Llenyddol. Fel casglwr hen ysgriflyfrau.

GAN OWEN EDWARDS.

Caer Lleon Fawr. Llanidloes. Llanfair Muallt. Abertawe. Yr Hen Dy Gwyn. Llangeitho.

GWAITH HUGH JONES, MAESGLASAU.

DAU O'I LYFRAU,—SY'N BRINION IAWN ERBYN HYN.

I.—"Cydymaith i'r Hwsmon." 1774.

II.—"Hymnau Newyddion." 1797.

GAN Y PARCH. D. CUNLLO DAVIES.

Nodiadau o hanes taith trwy yr ynysoedd yng ngauaf 1903-04.

GAN O. WILLIAMSON.

Rhamant hanesyddol yn egluro cyfnod yr ymdrech rhwng Goidel a Brython a ffurfiad y genedl Gymreig.

Ceir yma mewn cyfrol dlos ganeuon llednais, tawel, hyfryd y cartref dedwydd, a'r bywyd dwys.

CLASURON CYMRU.

Dan olygiaeth Owen M. Edwards, M.A.

GWELEDIGAETHAU Y BARDD CWSG.

GAN ELLIS WYNNE.

1. Gweledigaeth Cwrs y Byd. 2. Cerdd ar "Gwel yr Adeilad." 3. Gweledigaeth Angau. 4. Cerdd ar "Gadel Tir." 5. Gweledigaeth Uffern. 6. Cerdd ar "Trom Galon."

Wedi ei drefnu ar gyfer yr ysgolion.

DRYCH Y PRIF OESOEDD.

GAN THEOPHILUS EVANS.

1. Y Cymry. 2. Y Rhufeiniaid. 3. Y Brithwyr. 4. Y Saeson.

"Am ddyddordeb Drych y Prif Oesoedd, nid oes ond un farn. Y mae'r arddull naturiol a'r cydmariaethau hapus ar unwaith yn ein denu i ddarllen ymlaen."

BYWYD IEUAN GWYNEDD

GANDDO EF EI HUN.

1. Ardal Mebyd. 2. Fy Mam. 3. Bore Oes. 4. Athrawon. 5. Cathlau Blinder. 6. Gwaith Bywyd.

"Nid oes odid i fywyd yn holl hanes bechgyn ieuainc Cymru mor llawn o wersi i wyr ieuainc yr oes hon a Bywyd Ieuan Gwynedd, yn ei gyni dros Dduw a Chymru, trwy dlodi ac afiechyd, a hiraeth a dioddef. Y mae yn fywyd na ddylai'r Cymry byth anghofio am dano."

Wedi eu rhwymo mewn llian hardd, gyda darlun.

PRIS SWLLT YR UN.

Drwy y post, 1/1½. Mewn amlen bapur, 6c.

Drwy y post, 7c.

Cwmni y Cyhoeddwyr Cymreig (Cyf.), Swyddfa

"Cymru," Caernarfon.

Nodiadau

golygu


 

Bu'r awdur farw cyn 1 Ionawr, 1954, ac mae y llyfr felly yn y parth cyhoeddus mewn gwledydd sydd â thymor hawlfraint bywyd yr awdur ynghyd â 70 o flynyddoedd neu lai.