Ceris y Pwll/Cyngor yr Esgob

Melldithion Bera Ceris y Pwll

gan Owen Williamson

Addewid Iestyn

VIII. CYNGOR YR ESGOB

GWR astud oedd Moelmud yr Esgob,—gwr araf ond sicr yn ei gasgliadau. Yr oedd arferion a swyddogaeth Ceris yn gofyn iddo fod yn gyflym yn ei feddwl a'i symudiadau. Fel y dynesai yr hwyr arddangosai Ceris beth anesmwythdra oherwydd distawrwydd Moelmud yn ei ddwfn fyfyrdod. Nid oedd pesychiad na thwrf traed Ceris yn effeithio dim i dynnu Moelmud oddiar lwybr ei fyfyrdod a ddechreuasai ei ddilyn wedi iddo unwaith gael gafael ar ben y llinyn oedd debyg i'w arwain at ei nod.

Fel y neshaodd at Lwyn ei gymydog dechreuodd ei wedd newid, a thaenodd gwên o foddhad dros ei wynepryd, ac yn fuan ymryddhaodd oddiwrth faich ei ysbryd, yr hyn a arwyddoceid gan yr uchenaid a ollyngodd, yr adeg y canfu ei gyfaill wrth ei ochr.

"A wyt ti yma, Ceris? Mae'n dda gennyf dy weled yma heb i mi orfod mynd ymhellach, oblegid mae'n bryd i mi fod yn fy nghell."

"Beth fu canlyniad dy ymchwil, Moelmud? Ai heddychol dy ddychweliad?"

"Na," ebai Moelmud, "mae y rhwyd wedi ei thaenu yn fforddiol iawn: ac nid ynfyd Caswallon, er fod ei yriad yn gyflym."

"Beth a weli di? A oes oleuni?"

"Ychydig, ychydig iawn. Os diwedda Caswallon fel y mae'n dechreu, bydd Mon yn cydnabod penarglwyddiaeth y Goidel-Frython yn dra buan. Er fod ychydig wedi ceisio gwrthsefyll Caswallon, ac wedi ymladd yn lew yn amddiffyn eu haelwydydd, yn enwedig rhwng Mynydd Dyryslwyn a'r môr, eto gellir dweyd fod yr ymostyngiad yn gyffredinol."

"Ond, aros di, Moelmud, mae yna ddarn go lew o Fon heb ei thrwytho gan ddieithriaid fu bob amser yn ffynhonnell anghysur i'r hen frodorion; ac heblaw hynny mae Arfon a'r Eryri yn gadarnle oesol i'r rhai ymladdant dros eu hannibyniaeth."

Atebodd Moelmud,—"Yr wyf fi, Ceris, wedi myfyrio llawer ar ein sefyllfa, cyn i Gaswallon fradychu yr ymddiried oedd gennym ynddo, a bob amser deuwn i'r un penderfyniad ag y daethum iddo brydnawn heddyw-sef y bydd raid i ni, yn hwyr neu hwyrach, ymostwng i'r Brython. Mae ymddygiad Caswallon wedi dwyn yr anocheladwy ugeiniau o flynyddoedd yn nes atom. Dyna hanner Mon bron yn Frythonaidd mewn undydd unnos. Yr unig beth o bwys a arafai olwynion cerbyd Caswallon fyddai goresgyniad Mon gan Wyddyl o'r Werddon dan arweiniad Bran: ond nid yw y gyfathrach rhwng Bran a'i fab ynghyfraith yn ymddangos i mi yn dueddol i arwain i ymgyngreiriad safadwy iawn. Tra bydd drws ein cymundeb â'r Werddon yn agored gallwn lawenhau, ond cyn gynted ag y gall Caswallon daflu ei esgid dros Gulfor Glasinwen bydd haul annibyniaeth Mon wedi machlud."

"Gallwn ni yn Mon wneyd rhywbeth," atebodd Ceris, " daw cochion yr Eryri trwy y bylchau fel gwenyn a byddant fraich i feib Mon."

"Taw son am fylchau, nid oes namyn un bwlch trwy'r hwn y mae'n bosibl i gynhorthwy i Fon fod yn effeithiol, a hynny ddim ond dros amser byr. Gorfydd i ti arfer dy ddoethineb, a defnyddio dy nerth i wylio symudiadau y Brython sydd a'u bryd ar ruthro i lannau y Fenai drwy Fwlch y Ddeufaen. Bydd digon o waith i'r Afanc wylio Bwlch y Tryfan. Bydd gorfod i Gidwm y Mynyddfawr aros adref i edrych ar ol ei fylchau rhag i feibion Dunodig ac Ardudwy ddifrodi tir Machno a Dolwyddelan, a goresgyn Lleyn. Felly nid oes yn aros ond Serigi o Ddinas Emrys."

"Ni freuddwydiais i fod y perygl mor fawr," ebai Ceris, " wrth dy wrando di gallwn feddwl fod y diwedd wrth ein drysau. A ydyw yn bosibl i'r Brythoniaid ymuno fel un gwr, a gwneyd un ymosodiad mawr gorlethol arnom?"

"Dyna'r posibilrwydd sydd yn ein bwgwth. Nid yw Caswallon er ei holl lwyddiant i gyd ond un ran fechan o'r perygl. Gwn y gwnaf dy synnu pe bawn, fel un sy'n caru heddwch o flaen galanastra rhyfel, dy gynghori i arfer dy ddylanwad i geisio cadoediad, os try Caswallon ei fryd tuag yma, fel mae'n sicr bellach o wneyd, er mwyn i ni wybod ar ba delerau y cawn ni feddiannu ein hetifeddiaeth a'n breintiau Goidelìg yn y dyfodol."

"Yr ydwyf oedd ateb Ceris, "yn meddwl fy mod yn gweld y perygl o fod yn orhyderus. Os ceisiwn gau un drws, mae perygl i ni anghofio drws arall. Nid doeth bob amser fydd tynnu un mur i lawr i gael cerrig i godi mur arall. Beth yw dy gyngor di dan yr amgylchiadau?"

"Ein nerth yn bresenol yw aros yn llonydd. ' Safwn ac edrychwn ar iachawdwriaeth yr Arglwydd,' oedd cyngor Moses gynt. Disgwyliwn fel rhai yn ofni mewn hyder yn y gallu uchaf. Mae'n ddyledswydd arnom ymbarotoi, ond y drws arall sy'n arwain i ddiogelwch amlaf. Byddwn barod i wneyd ein dyledswydd. Byddwn barod hefyd i wrando beth ddywed yr Arglwydd wrthym. Duw a'th fendithio, Duw a agoro ein deall, ac a'n bendithio â doethineb."